Drama un-act
Ⓗ 1952 Gwilym T Hughes
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.



Pan gyfyd y llen, gwelir ROLANT HUW yn eistedd ar y seil wrth y tân, yn darllen "Seren tan Gwmwl", o waith Jac Glan-y-Gors. Y mae'n amlwg fod sylwadau miniog a bachog yr awdur wrth fodd ei galon. Tyrr allan i chwerthin yn uchel. Daw ei wraig #Sara i mewn, a chyn gynted ag y daw drwy'r drws, dywed:

Sara

Yr argod fawr, Rolant, be sy'n bod? Wyt ti wedi colli dy ben, dywed?



Y mae ganddi swp o ddillad yn ei breichiau, ac y mae yn eu rhoi ar y bwrdd o'i blaen. Yn ystod yr ymddiddan a ganlyn, y mae'n eu trin a'u dosbarthu, etc.

Rolant

(Yn dal i chwerthin.) Y llyfr 'ma, Sara, mae o'n ddigon â gwneud i'r marw chwerthin.

Sara

Pa lyfr, 'neno'r dyn?

Rolant

"Seren tan Gwmwl".

Sara

O, yr hen Jac Glan-y-Gors 'na! 'R wyt ti wedi meddwi'n lân ar y cr'adur.

Rolant

Dim syndod. 'D oes yr un llyfr mwy doniol yn bod.

Sara

Doniol? Sych iawn 'r oeddwn i'n ei weld o. Lladd ar y byddigions a deud y drefn am yr offeiriaid a'r Eglwys.

Rolant

Wel ie, diolch bod rhywun yn...

Sara

A brolio pobol Ffrainc am dorri pen y brenin a'i roi mewn basged.

Rolant

Ie, Sara, ond wrth gwrs...

Sara

Bobol bach! A 'r wyt ti'n galw peth felly yn ddoniol?

Rolant

Ydw. Er mai gwir neges y llyfr ydi dangos bod Seren Rhyddid a Chyfiawnder dan gwmwl yn yr hen wlad 'ma.

Sara

A rhoi'r bai am hynny ar y byddigions.

Rolant

(Yn cynhesu i'r hoff destun.) Y nhw sy'n cyfrifol... y brenhinoedd, yr esgobion a'r arglwyddi. Cymer di'r ardal yma...

Sara

(Yn gwaredu.) Ond Rolant, mae o'n bechod anfaddeuol cwyno yn erbyn trefn yr Hollalluog...

Rolant

(Yn wawdlyd.) Trefn yr Hollalluog, yn wir!

Sara

Ein dyletswydd ni ydi plygu.

Rolant

I drefn yr esgobion a'r bobol fawr? Gwared ni! Darllen di waith Jac yn ymosod ar y tacle.

Sara

Paid â rhyfygu, Rolant!

Rolant

(Yn dal ati.) Ma'r cnafon yn ddigon dig'wilydd i gymryd arian y bobol, ond heb ddeall un gair o'u hiaith nhw!

Sara

Mae Mr. Foster, ein person ni, yn gallu siarad Cymraeg.

Rolant

(Yn sbeitlyd braidd.) Ydi, rhaid cyfaddef fod mei lord Hugh Foster yn ymostwng cymaint â hynny i'n plesio ni.

Sara

Nid peth gweddus o gwbl ydi gwneud sbort o weision y Brenin Mawr.

Rolant

(Yn wawdlyd eto.) Hy! Gweision i frenin yn nes atom o beth wmbredd ydi'r tacle!

Sara

Rhag cywilydd iti, Rolant!

Rolant

Mae Jac yn ei le, Sara. 'R ydw i reit hoff o'r bachgen... 'r oedd 'i dad a minne yn ffrindie mawr erstalwm yng Ngherrig y Drudion. Chwarae teg iddo am brotestio yn erbyn gorthrwm y Llywodraeth, y trethi di-ddiwedd, a'r degwm.

Sara

'D ydw i ddim yn cydweld â'r cr'adur, beth bynnag. Mae o'n fachgen digon teidi, am wn i, er na weles i mohono ers plwc byd.

Rolant

Sut y mae hi arno fo tua Llundain 'na tybed?

Sara

Mae'n rhaid iddo fo fihafio'i hun mewn lle felly, a'r brenin mor agos.

Rolant

(Yn chwerthin.) Go dda yr hen Sara! (Yn fwy difrifol.) Ond 'synnwn i flewyn na chaiff o'i erlid am sgrifennu'r Seren.

Sara

Rhyngddo fo â'i botes! Ond paid ti â brygawtha' gormod... rhag ofn...

Rolant

Rhaid imi ddatgan fy marn.

Sara

Wel, rhaid... ond... (yn torri'r ddadl.) Bobol bach! Be' ydi rhyw gyboli fel hyn a minne â llond y byd o waith trwsio... (yn cydio yn rhai o'r dillad.) 'R ydw i wedi addo dilledyn neu ddau i'r hen Feti Ifans, druan. Mae'n bur gyfyng arni, y gre'dures.

Rolant

Ac nid yr unig un o lawer. 'R wyt ti'n helpu cryn dipyn arni, Sara, chwarae teg iti.

Sara

Mae'n rhaid i rywun swcro'r hen chwaer. 'S gwn i os oes ar Ifor eisie'r crys 'ma yn o fuan? Lle mae o, Rolant?

Rolant

Yn y llofft, am wn i, yn pincio fel arfer. 'D ydi o'n meddwl am ddim arall.

Sara

Caru ma'r bachgen, 'neno'r dyn.

Rolant

'D oedd dim rhyw hen ffal-diral fel hyn pan oeddwn i wrthi erstalwm...

Sara

Rhaid i Ifor symud efo'r oes, weldi. A chofia bod Janet yn lady.

Rolant

Ydi, ond twt lol, wn i ddim be' ddaw o blant yr oes yma...

Sara

(Yn mynd at ddrws y gegin fach, ac yn bloeddio.) Ifor! Ifor!

Ifor

(O bell.) Be' sy'n bod?

Sara

'Ddoi di 'lawr am funud, 'nghariad i? (Yn mynd yn ôl at y bwrdd.) Be' aflwydd ydech chi'r dynion yn 'i wneud â'ch dillad, deudwch? Ma' nhw'n garpie gwyllt. Edrych ar y pâr 'sane 'ma... yn dylle mân ulw botes. 'Dase ti'n gorfod trwsio dy 'sane dy hun...



Daw IFOR i mewn drwy ddrws y gegin fach, yn ddrwg ei dymer. Y mae ar ganol gwisgo, a heb ei gôt.

Ifor

(Yn ddreng.) Be sy'n bod yrŵan? 'Oes dim llonydd i'w gael yn y tŷ 'ma?

Rolant

(Yn llym.) Nid fel yna y mae iti siarad â'th fam!

Ifor

'Fedra 'i ddod o hyd i affeth o ddim yn y llofft 'na. Rhywbeth ar goll beunydd.

Sara

O Ifor, 'oes gen ti eisie'r crys 'ma yn fuan? Mae rhyw 'chydig o waith trwsio arno.

Ifor

Fy nghrys gorau? 'Allwn i feddwl, yn wir! Erbyn yfory yn bendant.

Rolant

(Braidd yn sbeitlyd.) I fynd i dŷ'r Person am afternoon tea, wrth gwrs!

Ifor

'D oes dim rhaid ichi fod mor sbeitlyd!

Rolant

'D ydw i ddim, 'ngwas i. 'R wy'n falch dy fod ti'n ffrind i Janet y ferch. Mae hi'n eneth hoffus iawn.

Ifor

Wel?

Rolant

Yn bur wahanol i'w thad.

Sara

Da thi, Rolant, rho'r gore iddi...

Ifor

Mae Mr. Foster yn ddyn o gymeriad...

Rolant

Ydi! Cymeriad caled... fel haearn Sbaen. Dim owns o gydymdeimlad â'r werin bobl y mae o'n gyfrifol amdanyn' nhw.

Ifor

Mae Janet yn ymweld â'r tlodion...

Rolant

Ydi, chware teg iddi. Hi ddyle fod yn offeiriad plwy', ac nid Hugh Foster.

Sara

Rolant, 'r wyt ti'n rhyfygu! Cofia 'i fod o'n un o weision yr Hollalluog.

Rolant

Dyna hi eto! Be' ydi gwaith gwas yr Arglwydd, tybed? Hel bechgyn i'r Milishia?

Ifor

Mae'n rhaid inni amddiffyn y wlad 'ma. Be' dase'r Ffrancod yn landio?

Sara

Gwarchod ni, ie! A thorri'n penne ni, bodyg-un!

Ifor

'R yden ni'n ymladd dros egwyddorion Cristnogaeth, a'n ffordd ni o fyw.

Rolant

(Yn wawdlyd.) Ffordd yr hen Feti Ifans o fyw, er enghraifft? Yn hanner llwgu yn yr hofel bwthyn 'na! A miloedd o rai tebyg iddi yng Nghymru!

Ifor

(Yn dal ati fel parot.) Ymladd yn erbyn yr Anghrist a syniadau paganaidd y Cyfandir...

Rolant

(Yn wawdlyd braidd.) Wel, wel! Hawdd gweld dy fod ti wedi cael y fraint o eistedd wrth draed Hugh Foster. "Yn erbyn yr Anghrist", yn wir!

Sara

Ond Rolant, os ydi Ifor bach yn meddwl fel yna, mae ganddo fo berffaith hawl i...

Rolant

Meddwl? 'Ddaru o 'rioed feddwl yr un eiliad! Dim ond ail-adrodd pregeth yr hen Foster fel parot. Yn enw'r Mawredd, dysga feddwl drosot dy hun, ngwas i!

Ifor

Yr un fath â chi, wrth gwrs.

Rolant

Wel... ie... pam?

Ifor

(Yn sarcastig.) Byth yn benthyca syniadau yr un cr'adur byw, John Jones o Lan-y-Gors na neb arall.

Rolant

Mi fydde'n iechyd iti ddarllen Seren tan Gwmwl.

Ifor

'R ydw i wedi ei ddarllen. (Yn ddirmygus.) Llyfr wedi ei sgrifennu gan fradwr!

Rolant

(Ar ei draed, yn wyllt.) Beth? Bradwr?

Ifor

Ie!

Rolant

(Yn poethi.) 'Chaiff neb alw Jac Glan-y-Gors yn fradwr yn y tŷ yma!

Ifor

(Yn dal ati.) Bradwr! Anffyddiwr! O blaid y Chwyldro yn Ffrainc!

Rolant

(Yn ei wynebu a dechrau croes-holi.) Pwy glywest ti'n galw Jac yn fradwr?



Cyflyma'r tempo yma.

Ifor

(Yn haerllug.) Pawb bron.

Rolant

Pwy?

Ifor

'R wyf wedi dweud unwaith... pawb.

Rolant

(Ei lais yn codi.) Ateb... PWY?

Ifor

(Yn dechrau cloffi.) Wel... y... hwn a'r llall

Rolant

Brysia... pwy oedd o?

Ifor

O wel... y... Mr. Foster yn un...

Rolant

Pwy arall?

Ifor

(Yn ddof erbyn hyn.) N... n... neb arall.

Rolant

Na, 'feiddiai neb yn y pentre' heblaw Hugh Foster alw Jac yn fradwr.

Sara

(Yn ceisio tawelu'r storm.) Rolant, dyna ddigon.

Rolant

(Yn dal ati.) 'Daswn i'n gwybod dy fod ti'n galw Jac yn fradwr o argyhoeddiad, mi fedrwn faddau iti, ond cymryd gair y person...

Sara

Gad lonydd i'r bachgen, da thi.

Rolant

Lle aflwydd ma' dy asgwrn cefn di, dywed? (Yn cael ei gario ymlaen eto gan ei destun.) 'D oes dim hanner digon o hwnnw yng Nghymru heddiw. Diodde' pob anghyfiawnder a thrais heb brotest yn y byd!



Erbyn hyn y mae Ifor wedi cilio'n araf ac ofnus at ddrws y gegin fach. Mae ei fam yn mynd ati i'w gysuro dan fflangell lem ei dad.

Sara

Ifor bach, mi gei di'r crys erbyn yfory...

Ifor

(Yn swta, heb gymaint â diolch.) O'r gore. (Wrth ei dad, gan rhyw daflw'r geiriau alo ar draws yr ystafell.) Ac os ydech chi mor hoff â hynny o Jac Glan-y-Gors, mi gewch gyfle i sôn amdano wrth Mr. Foster heno. Bydd yma toc i'ch gweld ar fater neilltuol. (Yn sarcastig.) Hei lwc y cewch chi sgwrs reit ddiddan. Mae o wrth ei fodd yn sôn am rebels! (Yn mynd allan gan roì clec ar 'y drws, a chwerthin yn sbeitlyd.)

Sara

O, 'machgen bach annwyl i! 'R wyt ti wedi dweud pethe reit cas wrtho fo, Rolant.

Rolant

Dim ond y gwir.

Sara

Mae Ifor yn iawn yn y bôn.

Rolant

(Yn bendant.) Nac ydi, Sara.

Sara

(Wedi dychryn braidd.) Paid â dweud 'i fod o yn...

Rolant

Mae gen i ofn mai fel hyn y bydd o weddill i oes, yn greadur dof, di-asgwrn-cefn, sbeitlyd, anniolchgar....

Sara

Ond mi fydd yn well ar ôl priodi Janet.

Rolant

(Yn chwerthin.) Mi ddaw hynny i ben pan fydd y Wyddfa i gyd yn gaws!

Sara

(Ym poethi mymryn.) Ma'n teulu ni gystal â theulu Mr. Foster, be' siŵr iawn ydi o!

Rolant

'Sgwn i pam y ma'r cradur hwnnw eisiau fy ngweld heno?

Sara

I sôn am Ifor a Janet, mae'n amlwg.

Rolant

Na, rhywbeth llawer mwy pwysig na hynny!

Sara

'Fydde hi ddim yn well iti dacluso mymryn arnat dy hun cyn iddo ddod?

Rolant

(Yn wawdlyd.) Tacluso? Ar gyfer rhyw ddyn fel... (Yn ail-feddwl.) Wel hwyrach dy fod ti'n iawn, Sara. (Y mae ar fynd i gyfeiriad drws y gegin fach, pan glywir cnoc ar ddrws y ffrynt.) Rhy hwyr! Dyna'r hen Foster, os nad wy'n methu.

Sara

(Mewn helynt.) Bobol bach! Yr holl lanast 'ma! (Yn ceisio tacluso tipyn ar y pentwr dillad ar bwrdd.) Y Person, o bawb! Wn i ddim be' fydd o'n ei feddwl ohono'i!



Rolant yn mynd allan i'r cyntedd. Clywir lleisiau'r ddau yno.

Foster

Fe garwn gael gair â chwi, Mr. Huw, os gwelwch yn dda.

Rolant

Wrth gwrs, Mr. Foster, Dowch i mewn.



Daw y ddau i mewn.

Rolant

(Yn lled anghyfforddus.) Eisteddwch yma, Mr. Foster.

Foster

Diolch.

Sara

(Yn gysetlyd braidd, ac yn ceisio gwneud sgwrs.) Mae hi'n hwyro'n braf.

Foster

Ydyw.

Sara

M... mae hi'n gynhesach nag arfer yr adeg yma o'r flwyddyn.

Foster

(Heb fawr o ddiddordeb.) Efallai ei bod, yn wir, Mrs. Huw.

Sara

(Yn gwneud eì gorau, druan.) Flwyddyn yn ôl, 'r oedd hi'n oerach o gryn dipyn.

Foster

(Ym sych.) Esgusodwch fi, Mrs. Huw, ond nid i olrhain y tywydd y deuthum i yma heno.

Rolant

Gwyddom hynny'n dda Mr. Foster. Beth yw eich neges, os gwelwch yn dda?

Foster

Y mae a wnelo â chwi yn bersonol, ac hefyd â'ch mab Ifor.

Sara

(Gyda diddordeb mawr.) O, Mr. Foster!

Rolant

Ewch ymlaen.

Foster

Barn pob dyn cyfrifol yn y wlad hon yw fod Prydain mewn argyfwng pur enbyd heddiw.

Rolant

Wel?

Foster

Dyletswydd pawb sy'n deyrngarol i'r Brenin a'r Llywodraeth ydyw ceisio helpu'r wlad yn ei dyddiau blin. Fel gŵr o sylwedd a dylanwad ymhlith gwerin y pentref, byddwch yn barod i ategu hyn...

Rolant

Ac felly?

Foster

Disgwylir brwdfrydedd gan bawb at yr ymgyrch y mae Prydain wedi ei galw gan Dduw iddi...

Rolant

(Wedi ei ddiflasu gan y bregeth.) Mr. Foster, siaradwch yn blaen, da chi. Awgrymu yr ydych y dylwn ddangos mwy o frwdfrydedd at y rhyfel yn erbyn Ffrainc?

Foster

Ie, os mynnwch.

Rolant

Fy nghydwybod i fy hunan, ac nid offeiriad y plwy sy'n arfer â dangos i mi fy nyletswydd.

Foster

(Yn sarcastig braidd.) Cydwybod, ai e? Wel, wel!

Rolant

(Yn bendant.) Ie, ac y mae un peth pendant iawn y dywed fy nghydwybod wrthyf na ddylwn ei wneud.

Foster

O? A beth ydyw?

Rolant

Hel ieuenctid yr ardal i'r Milishia, fel y gwnewch chi, Mr. Foster.

Sara

(Yn dechrau ofni.) Rolant, paid â d' anghofio dy hun!

Foster

Fe'ch clywais yn datgan un tro eich bod yn ddyn crefyddol.

Rolant

'R wy'n amcanu felly, yn ôl fy syniad i am grefydd.

Foster

Ac eto, ni ddangoswch unrhyw frwdfrydedd at y rhyfel yn erbyn anffyddwyr Ffrainc, gelynion eich crefydd chwi a minnau.

Rolant

Mr. Foster, 'r ydym wedi clywed y bregeth yma o'r blaen, gan Ifor.

Foster

Chwarae teg iddo, yn wir. Dywedais fod a wnelo fy neges ag yntau hefyd.

Rolant

Wel?

Foster

Ymddengys ei fod ef, o leiaf, yn sylweddoli ei ddyletswydd. Daeth ataf y dydd o'r blaen i ddweud y carai ymuno â'r Milishia.

Rolant

(Fel ergyd.) Beth?

Foster

Fe ddylech fod yn falch o'i sêl wlatgarol a'i ysbryd gwrol...

Rolant

(Yn methu â dal bron.) F...f...fy mab i yn y Milishia?

Foster

Ie, yn ymladd dan faner rhyddid a chyfiawnder...

Sara

(Yn cael gweledigaeth newydd am ei hanwylyd.) O, 'machgen bach dewr i!



Oddi yma ymlaen, cyflyma'r tempo, hyd at exit Mr. Foster, a chyfyd tymer Rolant. Erys Mr. Foster yn ddi-gyffro bron.

Rolant

(Yn bendant iawn.) Na, 'chaiff yr un mab i mi ymuno â'r Milishia!

Foster

Dynion dewr, gwlatgarol.

Rolant

Gwehilion cymdeithas!

Foster

Syr!

Rolant

Lladron, dihirod, treiswyr merched!

Foster

Mr. Huw, ystyriwch eich...

Rolant

A'u drygioni yn drewi drwy'r sir!

Foster

(Yn llymach na'i arfer.) Mr. Huw, nid wyf am wrando ar y fath sen...

Rolant

Pam nag arferwch eich sêl ryfelgar i ymladd anghyfiawnder a thrais yr uchelwyr yn y wlad hon?

Foster

(Yn bontifficaidd.) Y maer Diafol a'r Anghrist ar gerdded yn Ffrainc...

Rolant

Y mae'r ddau yn fyw yma yng Nghymru, a chwithau'r Eglwysi yn ymladd o'u plaid!

Sara

(Wedi dychryn.) Rolant bach, cymer ofal...!

Rolant

(Yn dal ati.) Pa le mae llais yr Efengyl heddiw?

Foster

(Yn offeiriadol.) Y mae'n ein galw i Grwsâd Sanctaidd yn erbyn gelynion ein crefydd a'n treftadaeth.

Rolant

(Yn ddirmygus.) Treftadaeth! Pa faint sydd gan drueiniaid tlawd y pentref hwn, er enghraifft? 'R ydych chwi a'ch degymau a'ch trethi wedi ei ddwyn oddi arnynt!

Foster

(Yn awgrymiadol.) Syniadau peryglus yw y rhai hyn, Mr. Huw.

Rolant

Peryglus i bwy, tybed?

Foster

Mae'n amlwg eich bod wedi llyncu athrawiaeth The Rights of Man, Tom Paine, a'i ddynwaredwr yng Nghymru, Jac Glan-y-Gors.

Rolant

Dau ddyn yn ddigon dewr i sefyll dros gyliawnder! Fe wnai les i chwi ddarllen y llyfryn hwn, Mr. Foster. (Yn dangos y "Seren" iddo.)

Foster

(Yn cydio yn y llyfr.) Seren tan Gwmwl. Yr wyf wedi ei ddarllen... (Gyda gwên wawdlyd.) ... Yr Efengyl yn ôl Jac Glan-y-Gors.

Rolant

Yn nes at yr Efengyl na'r eiddo chwi!

Sara

Rolant bach, paid â rhyfygu!

Foster

(Fel o'r blaen.) A rhaid mynd ati cyn bo hir i ail ysgrifennu Llyfrau'r Proffwydi. Er enghraifft... "A Duw a lefarodd wrth ei was Tom Paine"... (Yn newid ei dôn yn sydyn.) Nid dau broffwyd mohonynt, ond dau fradwr!

Rolant

(Wedi ei gynhyrfu'n fawr.) Bradwr?

Foster

Ac wrth goleddu eu syniadau llygredig, Mr. Huw, yr ydych chwithau yn elyn i'ch gwlad.

Rolant

Ond nid gelyn i gyfiawnder!

Sara

(Wedi dychryn eto.) Rolant, cymer ofal...

Foster

(Yn codi.) Dyna ddigon, Mr. Huw. Gwn yn union lle y sefwch yn yr argyfwng presennol. Yr wyf i yn ŵr o ddylanwad...

Rolant

Gwnewch a fynnoch, 'r wyf yn berffaith dawel fy mod yn iawn.

Foster

O'r gorau. (Yn foesgar, wrth Sara.) Noson dda i chwi, Mrs. Huw. (Y mae'n mynd at y drws canol, a chyn mynd allan, y mae'n troi i roi'r ergyd olaf i Rolant, druan.) A chofiwch, Mr. Huw, fod gan Dduw ei ddamnedigaeth... ie, yn y byd hwn... i'r neb a feiddia wrthsefyll awdurdod Ei Eglwys Ef! (Yn mynd.)

Sara

(Bron yn ei dagrau.) O, rhag dy g'wilydd, Rolant, yn colli dy dymer! Dyna ti wedi andwyo popeth.

Rolant

Pam, 'neno'r dyn?

Sara

Ifor a Janet.

Rolant

A dyna'r cwbl sy'n dy boeni di? (Yn lled ddifrifol.) Mae llawer mwy yn y fantol na helynt Ifor a Janet, coelia di fi.

Sara

Ond amdanyn' nhw yr ydw i'n meddwl.

Rolant

Digon posibl. Ma' Janet yn llawer rhy dda i fod yn ferch i'r hen Foster.

Sara

Mae o'n ddyn caled, wrth gwrs. Ond ma nhw'n deud y gall Janet ei droi a'i drosi fel y mynno. Cannwyll 'i lygad o.

Rolant

Diolch bod rhywun yn gallu meddalu mymryn arno. Ond cofia, 'd ydi Hugh Foster ddim yn ddyn drwg, Sara. Mae o'n eitha' cydwybodol, yn ymddwyn yn ôl ei argyhoeddiad...

Sara

Ond yn elyn iti byth ar ôl heno!

Rolant

Dichon 'i fod o. Eto, 'synnwn i ddim nad ydi o yn ddistaw bach yn fy mharchu am ddal fy nhir.

Sara

Gobeithio'r annwyl! 'R wyt ti wedi mynd â dy ben i dy botes heno, Rolant. Gofala fod 'chydig yn gallach o hyn ymlaen, ne' yn y carchar yn Rhuthun y byddwn ni, gei di weld!

Rolant

Ond mae'n rhaid imi sefyll...

Sara

Mi gei sefyll faint 'fynni di, ond iti gofio'r hen air... "Os na bydd gryf..."

Rolant

Mi gawn weld... (Yn flinedig braidd.) O'r annwyl, 'r oeddwn i wedi edrych ymlaen heno am noson go dawel yng nghwmni'r Seren. Gresyn 'mod i wedi colli fy nhymer, hefyd.



Yn ystod y sgwrs sy'n dilyn, y mae ROLANT yn bur anesmwyth, heb allu setlo'i lawr i wneud dim. Mae SARA erbyn hyn wedi cael pecyn yr hen Feti at ei gilydd. Y mae'n paratoi i fynd allan.

Sara

'R ydw i'n mynd â'r ychydig bethe 'ma i'r hen Feti, druan. Mae'n ddrwg gen' i drosti.

Rolant

Y gre'dures! Yr hen ryfel felltith 'ma! Pobol yn hanner llwgu. (Yn gwylltio.) Pam aflwydd y ma'r Person yna mor ddall!

Sara

Da thi, eistedd i lawr, a cheisia anghofio popeth amdano fo a dy hen Jac Glan-y-Gors! Darllen rywbeth arall, 'neno'r dyn...

Rolant

O wel... (Yn mynd at y silff lyfrau.)

Sara

(Wrth ddrws y gegin fach.) Mi bicia'i allan yrŵan, Rolant. 'Fydda' i fawr o dro, os na fydd yr hen Feti'n waeth.



Y mae SARA yn mynd. Chwilia ROLANT am lyfr, cymer un a gwna ei hun yn gyfforddus i ddarllen ar y setl wrth y tân, fel ar ddechrau'r chwarae.

Ymhen ysbaid gwelir drwy'r ffenestr wyneb JAC GLAN-Y-GORS. Edrycha hwnnw o'i gwmpas yn wyliadwrus, yna y mae'n tapio'n ddistaw ar y ffenestr. Cwyd Rolant ei olwg, ond y mae ei gefn at y ffenestr, ac ni wêl Jac.

Dechreua'r tapio drachefn, yn uwch. Trŷ Rolant at y ffenestr, a gwêl wyneb Jac. Neidia ar ei draed, gan sibrwd gyda chryn syndod, "Jac"!

Amneidia Rolant arno i ddod i mewn drwy'r cefn, a rhuthra i dynnu llenni'r ffenestr at ei gilydd. Diffodda'r ddwy gannwyll sydd ar y silf-ben-tân, nes bod y llwyfan rhwng tywyll a golau.

Yna egyr ddrws y bac, a daw JAC i mewn. Y mae hwnnw'n cario pecyn bychan.

Yn ystod rhan gyntaf yr ymgom sy'n dilyn, ymddengys Rolant yn lled anesmwyth, yn edrych o gwmpas yr ystafell yrŵan ac yn y man, a chlustfeinio am unrhyw sŵn dieithr.

Rolant

(Yn sibrwd.) Jac! Be ar y ddaear...

Jac

(Ar dop ei lais.) Duwcs mawr, Rolant Huw, 'rois i fraw ichi, deudwch?

Rolant

Sh! Paid â bloeddio!

Jac

Pam? 'D oes yma neb i mewn heblaw chi. Mi fum i'n gwylio'r tŷ 'ma ers meityn am gyfle i lithro i mewn. A phan weles i Mrs. Huw...

Rolant

Be' ydi ystyr hyn, helgwn y gyfraith?

Jac

Ie, gorfod gadael Llundain ar short notice, fel pe tae. Ond mi ges i'r blaen ar y tacle, Rolant Huw! (Yn chwerthin yn galonnog.) Bras-gamu allan o'r tŷ drwy ddrws y bac fel cr'adur o'i go' ulw las, heb ddim ond côt ucha' a'r pecyn 'ma.

Rolant

A dod yr holl ffordd o Lundain?

Jac

Ie. Cymryd f'amser, wrth gwrs, a thrafeilio strictly incognito, fel y brenin a'r byddigions 'ma... (Yn edrych o'i gwmpas ar yr hanner golau.) 'Neno'r dyn, Rolant Huw, be' ydi rhyw d'wllwch fel hyn?

Rolant

O, ofn i rywun dy weld, Jac.



Y mae'n cymryd yr unig gannwyll, ac yn croesi i oleuo'r ddwy arall ar y silff-ben-tân.

Jac

Dyna welliant! (Yn edrych ar Rolant.) 'R argod fawr, ydech chi wedi dychryn, deudwch?

Rolant

Wel... na, ond mae'n ddrwg gen' i drosot ti, Jac.

Jac

(Yn eithaf hapus.) Pam, yn duwcs? 'D oes dim angen gofidio, Rolant Huw. 'R ydw i'n dechre mwynhau crwydro fel rhyw dramp o le i le. 'Styrio tipyn ar yr hen gorffyn 'ma ar ôl byw yn ddyn respectable yn Llundain!

Rolant

(Yn lled ddifrifol.) Mae'n g'wilydd dy fod ti'n gorfod ffoi oddi cartre' am sefyll dros yr hyn sy'n iawn.

Jac

O wel, rhyw greadur aflonydd 'fum i erioed wyddoch. Dyna pam 'r ydw i'n dal yn hen lanc, efallai.

Rolant

'R wyt ti mewn tipyn o helynt heno. Be' oedd yr achos? Seren tan Gwmwl?

Jac

Ie. Y Llywodraeth a minne'n methu cyd-weld ynghylch cynnwys y llyfr. A 'd oes dim syndod! Mi ddeudis i bethe reit gas amdanyn' nhw.

Rolant

'R oeddwn i'n amau o'r dechre mai i hyn y bydde' hi'n dod.

Jac

Ond gwrandewch! Meddwl na feder yr un wan jac o'r cnafon ddarllen na deall gair o'r Seren. Dim un! Mae'n rhaid fod rhyw Ddic-Siôn-Dafydd wedi prepian arna' i.

Rolant

Rhag c'wilydd iddo, pwy bynnag oedd. Dyna un sgerbwd na fedra' i ei ddiodde' byth... bradwr!

Jac

Wel, 'ddarfu imi ddim aros yn Llundain i ddadlau f'achos. A dyma fi bellach yn ddigon dig'wilydd i ofyn am loches. Noswaith o leia'.

Rolant

 chroeso, Jac. 'R wyt ti'n haeddu gorffwys... mi ge'st amser digon caled, mi'wn.

Jac

(Yn eithaf hapus.) Na, fel arall yn hollol! 'Wyddwn i ddim o'r blaen 'mod i mor boblogaidd yng Nghymru 'ma.

Rolant

(Gydag edmygedd.) Mae'r werin yn dy hanner addoli.

Jac

Ydi. Gwneud ffys dychrynllyd ohono'i lle bynnag 'r o'wn i'n dangos fy wyneb. Digon o fwyd hefyd... (Yn fwy difrifol.) ... a llawer ohonyn' nhw'n hanner lwgu, y cre'duried.

Rolant

Mi fyddi'n berffaith sâff yma, Jac. Hwyrach bod Ifor y bachgen 'ma yn deud y drefn amdanat ti ambell dro, ond mi ofala'i y bydd o yn iawn. Mae pawb yn yr ardal yn cyd-weld â thi, ond un...

Jac

O? A phwy ydi hwnnw, felly?

Rolant

Person y plwy.

Jac

(Yn chwerthin yn galonnog.) Naturiol iawn, wir! Sut greadur ydi hwnnw? Yr hen deip, mi'wn.

Rolant

Ie, efallai. Dim symud arno ar gwestiwn y wladwriaeth a'r Eglwys. Cyfiawnhau'r rhyfel... (Yn dynwared Foster.) "Crwsâd sanctaidd yn erbyn yr i Anghrist"...

Jac

(Yn chwerthin.) Dyna'r teip... i'r blewyn!

Rolant

Ond mae hwn yn llawer mwy galluog na'r cyffredin. Mae o'n ddyn i'w ofni.

Jac

Ofni? 'D oes yr un person plwy dan haul nad ydw i'n deall sut i'w drin. Ydech chi'n cofio hwnnw yng Ngherrig-y-Drudion ers talwm? 'Des i ddim i'w afael o beth bynnag. Druan ohono! (Mae'n chwerthin yn galonnog.) Person dd'udsoch chi, Rolant Huw? Mi ro' i berson iddyn' nhw!



Mae'n dal i chwerthin, ac ni all Rolant yntau beidio ag ymuno yn yr hwyl.

A phan fo'r chwerthin ar ei fan uchaf, daw JANET FOSTER, merch y Person, i mewn heb gnocio, yn ôl ei harfer.

Saif yn sydyn pan wêl pwy sydd yno. Derfydd y chwerthin hefyd yn sydyn iawn.

Janet

(Wrth y drws.) O... esgusodwch fi, Mr. Huw, 'wyddwn i ddim fod yma neb dieithr, a mi ddois i mewn heb gnocio fel arfer.



Cyfyd y ddau. Rolant yn araf araf, ond Jac ar unwaith, heb anghofio'i foesau da. Mae'n amlwg na ŵyr Rolant druan beth i'w wneud â'r sefyllfa newydd hon. Wedi edrych o un i'r llall yn ddigon ffwndrus, dywed yn drwsgl braidd:

Rolant

(Yn cyflwyno Janet.) Y... y... dyma Miss Foster. (Yn cyflwyno Jac.) D... Dyma Mr.... Mr.... Williams!

Jac

(Yn mwynhau'r sefyllfa ddiddorol.) Sut yr ydech chi, Miss Foster? (Yn ymgrymu'n foesgar.)

Janet

Yn dda iawn diolch, Mr.... Mr. Williams, yntê?

Jac

Ie siŵr. Mr. Williams. Yntê, Rolant Huw?

Rolant

(Yn lled ffwndrus o hyd.) Y... ie... Mr. Williams.

Janet

Wel, gwell fyddai i mi fynd, 'r wy'n meddwl. Galw i weld Mrs. Huw wnes i, ond gan nad yw yma...

Rolant

(Yn gweld mymryn o obaith.) Wel ie, am wn i... yn wir.

Jac

(Ar ei orau yng ngŵydd y rhyw deg.) Mynd, ddywed'soch chi, Miss Foster, a chwithau newydd gyrraedd? Dim o'r fath beth! 'R ydw i'n synnu atoch, Rolant Huw. Nid fel hyn y mae ymddwyn at young ladies yr ardal, yn siŵr i chi. Swil? A chwithe'n ŵr priod?

Janet

(Yn gwenu.) Hen lanc ydych chwi, mae'n amlwg, Mr. Williams.

Jac

Hen lanc? Wel... ie. Ond 'd ydw i ddim mor hen â hynny, 'chwaith, nag ydw, Rolant Huw?... (Y mae'n ei bwnio i ofyn i Janet eistedd.)

Rolant

(Heb fymryn o frwdfrydedd.) Wel... y... eisteddwch am funud, Janet.

Jac

Janet? Enw swynol dros ben. Mi fedrwn i nyddu pwt o englyn am "Janet"...

Janet

'R ydych chwi'n fardd felly, Mr. Williams?

Jac

Rhyw dalcen slip hwyrach. Ond cofiwch, pe cawn i destun teilwng i'm symbylu...

Rolant

(Yn newid y stori ar unwaith.) Mae Mr.... y... Williams a minnau yn hen gyfeillion, Janet. 'R oeddwn i'n adnabod ei dad yn dda erstalwm. Mae Mr. Williams ar ymweliad â mi, fel hyn...



Drwy'r adeg, hyd at ei exit y mae Rolant yn lled aneswyth ac anghyfforddus yn ystod y sgwrs rhwng Janet a Jac. Ond y mae'r ddau yna yn mwynhau pob moment ohoni. Dylai'r ddau ddangos hyn yn glir, er mwyn datblygu'r gomedi.

Janet

O, wyddwn i ddim eich bod yn disgwyl ymwelydd, Mr. Huw.

Rolant

Wel na, rhyw... y... wneud ei feddwl i fyny'n sydyn wnaeth Mr. Williams, yntê? (Yn troi at Jac.)

Jac

Ie, mi synnech pa mor sydyn, Miss Foster. A dod yma ar garlam gwyllt.

Janet

Rhyw flying visit, fel pe tae...

Jac

(Yn chwerthin yn galonnog.) Go dda! Dyna daro'r hoel ar ei phen! Flying visit!

Janet

Mae'n amlwg nad ydych yn gadael i'r hen ryfel 'ma effeithio rhyw lawer arnoch, Mr. Williams. Gwneud y gorau o'r gwaethaf?

Jac

Wel ie, fe allai fod yn waeth arnaf, coeliwch fi.

Janet

Gallai yn siŵr. Mae hi'n amser cyfyng arnom. Byddaf yn gofyn i mi fy hun weithiau a oes rhaid i ddynion ryfela?

Jac

Eithaf cwestiwn. Mi fum innau'n ei ofyn hefyd lawer tro, onido Rolant Huw?

Rolant

Wel do... am wn i... wir.

Janet

Mae un Cymro o leiaf yn datgan yn gryf mai peth ffôl a phechadurus yw rhyfela.

Jac

O? A phwy ydi'r creadur hwnnw, tybed?

Janet

Jac Glan-y-Gors.



Y mae Rolant a Jac bron â chael eu taro'n fud gan syndod. Ond dywed y ddau o'r diwedd, bron gyda'i gilydd:

Y Ddau

P... p... PWY?

Janet

(Yn eithaf siriol.) Jac Glan-y-Gors. Mi glywsoch sôn amdano yn siŵr, Mr. Williams?

Jac

O do, coeliwch fi! Gryn dipyn!

Janet

Ac yr ydych fel finnau wedi darllen ei Seren ian Gwmwl?

Jac

O do... lawer gwaith.

Janet

Llyfr eithaf diddorol, wrth gwrs, er nad oes rhyw lawer o polish yn perthyn iddo.

Jac

(Braidd yn siomedig.) Polish?

Janet

Ie, ond beth a ellir ei ddisgwyl oddi wrth ddyn cymharol anwybodus?

Jac

Y... y... anwybodus?

Janet

Heb gael manteision bore oes wyddoch, ond yn gwneud yn rhyfedd er hynny.

Jac

Ie'n wir, chwarae teg i'r creadur!

Janet

Ond cofiwch, ar y cyfan 'r wy'n cyd-weld â syniadau'r awdur.

Jac

(Yn llawen unwaith eto.) Da iawn. Mi allaf finnau ddweud cymaint â hynny.

Janet

Ond fel dyn diwylliedig, Mr. Williams, byddwch yn cyd-weld â mi fod ei wybodaeth o fywyd yn bur arwynebol.

Jac

O, yn wir?

Janet

Yn hynod felly. Dweud llawer peth digon chwerw ac annheg, yn enwedig am yr offeiriaid.

Jac

Wel ydi, efallai. Ond ma'r cnafon yn haeddu pob gair, Miss Foster. Mae'n hen bryd i rywun ymosod ar y tacle!

Janet

Ond y mae hi ar ben arno, druan.

Jac

Pam?

Janet

Clywais yn y pentref heno iddo orfod dianc yn ddi-seremoni o Lundain, a chyrraedd Cymru. Mae cryn gyffro yma ynghylch y peth.

Jac

O wel, fe ŵyr Jac sut i edrych ar ei ôl ei hun, wyddoch.

Janet

Gobeithio'n wir. Hei lwc na chaiff yr un offeiriad afael ynddo.

Jac

(Yn chwerthin yn galonnog.) Wel ie, yntê? Yn enwedig os ydi o yn y cyffinie yma. Wyddoch chi be', Miss Foster, ma' Rolant Huw yn dweud fod person y plwy' yma yn ddyn caled gynddeiriog, heb ronyn o ras.

Janet

(Yn swynol iawn.) Felly'n wir!

Jac

Ydi. Efallai eich bod yn ei 'nabod yn well na mi.

Janet

Wel, synnwn i ddim, wyddoch.

Jac

'Sgerbwd o ddyn ydi o, yn ôl Rolant Huw...

Janet

Trueni fyddai i Jac Glan-y-Gors fynd i afael dyn felly, onid e? (Yn codi.) Mae'n rhaid imi fynd adre'n ôl, wyddoch. Esgusodwch fi, Mr. Huw, ydi'r pecyn yr addawodd Mrs. Huw ei adael imi wrth law? Dillad, 'r wy'n credu.

Rolant

Mae Sara wedi mynd ag un pecyn i'r hen Feti...

Janet

Na, nid hwnnw, ar gyfer rhywun arall.

Rolant

Wel, 'rhoswch chi, 'rŵan.



Mae'n mynd o gwmpas yr ystafell, ac edrych yng nghwpwrdd y dresel, etc., tra y sieryd y ddau arall.

Janet

(Yn swynol.) Wel, Mr. Williams, 'r wy'n falch imi gael sgwrs â chwi, er nad ydym yn cyd-weld yn hollol ynglŷn â'r gwalch Jac Glan-y-Gors yna.

Jac

O peidiwch â gadael i'r cradur hwnnw boeni gormod arnoch, Miss Foster.

Janet

Efallai na welaf mohonoch eto. Byddwch yn ein gadael yn lled fuan, mae'n siŵr.

Jac

(Yn edrych braidd yn hurt arni.) Gadael?

Janet

Flying visit i ryw bentref arall efallai, pwy a ŵyr? (Edrycha Jac yn synn arni.)

Rolant

(Wedi gorffen chwilio.) Na Janet, 'fedra'i weld yr un pecyn yn unman...

Janet

O? Dyna beth od. Efallai iddi ei adael yn y llofft, Mr. Huw. A fyddai'n ormod gennych fynd i chwilio yno? Os gwelwch yn dda.

Rolant

Ar bob cyfrif, Janet. 'Fyddai'r un dau funud.



Wedi i Rolant fynd allan ceir distawrwydd am ennyd neu ddau. Yma dywed Janet yn eithaf swynol:

Janet

Wel... JAC GLAN-Y-GORS!

Jac

(Yn ffugio syndod.) Jac Glan-y-...? (Yn gweld wyneb Janet, a sylweddoli mai ofer pob protest.) 'R oeddech chi'n gwybod, drwy'r amser?

Janet

(Yn dawel.) O'r dechrau cyntaf. 'R wy'n cofio eich gweld un tro yn rhywle. Nid ydych yn ddyn hawdd ei anghofio...



Cyflyma'r tempo yn sydyn. Sieryd Janet yn gyflym mewn 'stage whisper', gan dorri'r brawddegaw'n gwta, ond pob gair a ddywed yn dangos ei bod o ddifrif calon.

Janet

Gwrandewch! 'D oes dim moment i'w golli... 'r ydych mewn perygl dybryd. Ewch ar unwaith! Er mwyn Rolant Huw a'i wraig... ac er eich mwyn chwithau. Peidiwch oedi... 'r wy'n crefu arnoch...

Jac

Ond Miss Foster, pam yr ydych...

Janet

Mae gennyf ormod o feddwl ohonoch... fel dyngarwr... i'ch gweld yn mynd i'r ddalfa... yma o bob man... Daw Mr. Huw yn ôl toc heb ei becyn. Rhaid oedd cael gwared ohono er mwyn eich rhybuddio. Ond ewch ar unwaith! Mae gennyf ofn amdanoch... ofn.



Daw Rolant yn ôl.

Rolant

Mae o'n beth od, Janet, ond 'fedra'i yn fy myw da...

Janet

(Yn hollol fel pe bai dim wedi digwydd.) Peidiwch â thrafferthu, Mr. Huw. Gallaf alw eto, efallai. Diolch yn fawr. (Wrth y drws.) Wel, noson dda, eich dau. Efallai na chewch amser i alw acw, Mr. Williams. Gresyn! Byddai fy nhad yn falch o'ch cael dan ei do. Ond os ydych am alw, cofiwch yr address... Y Vicarage! (Y mae'n mynd allan gan wenu'n siriol.)

Jac

(Fel pe wedi ei syfrdanu, bron.) Merch y person!

Rolant

Ie. Biti dy fod ti wedi dweud...

Jac

(Yn dal i edrych tua'r drws.) Biti? Mae'n llawer mwy na hynny; pe bai chi ond yn gwybod.

Rolant

(Ei dro ef yw bod yn llawen.) Diolch i'r nefoedd nad oedd hi'n sylweddoli pwy oeddet ti, Jac! "Mistar Williams"! Mi fum i'n glyfar yn meddwl am hwnna!

Jac

(Yn hanner breuddwydiol.) Yn goblyn o glyfar, Rolant Huw.

Rolant

(Yn chwerthin.) Do, yn wir.

Jac

(Â'i feddwl ymhell, a dal i edrych tua'r drws.) "Janet" ddywed'soch chi oedd ei henw hi, yntê?

Rolant

Wel ie... ond...

Jac
(Yn freuddwydiol eto.) Janet!

"Nid adwaen, iawn yw dwedyd,
Weithian ei bath yn y byd."

Rolant

(Wedi ei synnu.) 'Neno'r dyn, be' sy'n bod? Wyt ti'n sâl?

Jac

(Yn hynod o dawel.) Efallai fy mod i, Rolant Huw... yn sâl.



Daw Jac ato'i hun yn sydyn. Cyflyma'r tempo ar unwaith. Sieryd Jac yn gyflym, ac y mae o ddifrif am unwaith. Darfu'r cellwair.

Jac

Rolant Huw, 'rhaid imi ffoi ar unwaith!

Rolant

Ffoi?

Jac

'D oes dim aros i fod!

Rolant

Ofn yr hen Foster?

Jac

Na. Mae pethau'n waeth nag a feddyliwch...

Rolant

'Neno'r dyn, Jac...

Jac

(Yn dechrau byrlymu.) Histeria gwallgof drwy'r wlad yn erbyn pawb sy'n sôn am heddwch... neu gondemnio rhyfel. Tom Paine... mi glywsoch am hwnnw?

Rolant

Wel do... ond...

Jac

(Yn dal ati.) Bwgan mawr y Llywodraeth! Mae arnyn' nhw ei ofn. Llosgi ei lun... hyrddio pawb i garchar sy'n darllen neu werthu ei lyfrau! Sbiwyr ar bob cornel stryd yn gwrando ar bobl yn siarad... Reign of Terror! Nid yn Ffrainc, ond yn y wlad hon! Ie, yng Nghymru!

Rolant

Ond beth sydd a wnelo Tom Paine...

Jac

Y fi ydi Tom Paine Cymru! A ma' nhw ar fy ôl! 'D oes dim dinas barhaus bellach i awdur Seren tan Gwmwl.

Rolant

Twt lol Jac, 'r wyt ti'n eitha' sâff yma...

Jac

Nac ydw'! A chofiwch hyn... cyn bo hir bydd carchar ac erlid yn aros pawb sy'n darllen neu werthu'r Seren, heb sôn am roi lloches i'r awdur! Na,mae hi ar ben...



Y mae'n cydio yn ei bac, ac ar gychwyn allan pan y daw Sara ac Ifor i mewn. Arafa'r tempo.

Sara

(Heb weld Jac eto.) Yr hen Feti, druan! Mae hi ar ben arni... (Yn gweld Jac.) Helo, pwy ydi'r dyn diarth 'ma?

Rolant

(Yn bur ffwndrus.) Y... y... 'd wyt ti ddim yn 'i 'nabod o, Sara?

Ifor

(Ar unwaith, ac yn eithaf siriol.) 'R ydw i yn ei adnabod. Mr. John Jones o Lan-y-Gors, yntê?

Jac

Wel, ie siŵr.



Ifor yn croesi at Jac, ac yn estyn ei law iddo. Mae rhyw golyn yng nghynffon pob ymadrodd o eiddo Ifor yma, ond ymddengys yn eithaf siriol a chyfeillgar:

Ifor

Y mae'n dda gennyf gwrdd â chwi, Mr. Jones! Dyn y mae llawer o sôn amdano y dyddiau hyn.

Sara

Wel, 'da i byth o'r fan'ma! Jac Glan-y-Gors! Ond be'ar y ddaear...

Rolant

Mae Jac ar ymweliad â'r pentref, ac wedi galw...

Jac

(Yn cellwair unwaith eto.) Deudwch y gwir, da chi. Wedi gorfod dianc o Lunden ydw i, Mrs. Huw.

Ifor

Ie, clywsom stori yn y pentref eich bod wedi cyrraedd Cymru.

Sara

Dyn a helpo di, Jac! Ond mi gadwn ni chwarae teg iti yma.

Rolant

Na, mae'n rhaid i Jac fynd ar unwaith.

Sara

'Rheswm annwyl, mor fuan â hynny?

Ifor

(Yn wên i gyd.) 'D oes dim brys! Mi garwn i eich gweld yn aros am ychydig, yntê 'nhad?

Rolant

(Wedi ei synnu braidd.) Wel, chware teg iti Ifor, ond...

Ifor

Mae hwn yn achlysur pwysig iawn. Bydd sôn am ymweliad y gwron o Lan-y-Gors...

Rolant

Yn anesmwyth.} Na... mae Jac ar gychwyn...

Ifor

(Yn dal ati.) 'R wy'n siŵr y gallwch aros am sbel, Mr. Jones, i gael y croeso y mae dyn fel chwi yn ei haeddu.

Jac

Na, rhaid symud. Lle mae fy nghôt i, deudwch? A'r pac? 'Chydig iawn o luggage sydd gan rhyw dramp fel fi, wyddoch! (Yn symud at y drws canol.) 'D oes gen' i ddim ond diolch...



Clywir cnocio awdurdodol ar y drws canol. Cyflyma'r tempo ar unwaith.

Rolant

(Mewn cyffro.) Pwy sy' 'na, tybed?

Jac

Rolant Huw, 'r ydw i'n adnabod y sŵn curo yna yn rhy dda!



Cnocio eto, a llais: "Agorwch, yn enw'r Brenin!".

Sara

Y Brenin! Bobol bach, be' wnawn ni, deudwch?

Jac

(Yn hollol ddi-gyffro.) A ma' nhw wedi cyrraedd i unwaith eto? 'D ydw i ddim yn aros am y tacle! Drws bac amdani, fel arfer! (Yn chwerthin.)



Mae Jac yn camu at y drws hwnnw, ond saif Ifor ar ei ffordd, â'i gefn at y drws.

Ifor

(Wedi gorffen 'actio' bellach.) Ara' deg, John Jones o Lan-y-Gors,... bradwr!



Cyffro, a'r cnocio yn dal.

Rolant

(Bron wedi ei syfrdanu.) Ifor, beth yw hyn?

Ifor

Mae hi'n rhy hwyr, Jac Glan-y-Gors. Mae'r Milishia o gwmpas y tŷ. 'D oes dim dianc y tro yma!

Jac

(Yn cellwair.) Milishia? Wel, wel. Hen ffrindie!



Cnocio eto, a llais Mr. Foster i'w glywed.

Rolant

Dyna Hugh Foster,

Jac

Wel, Rolant Huw, agorwch y drws... led y pen!

Rolant

Mae'n ddrwg gen' i am hyn, Jac...



Egyr y drws, a daw Mr. Foster i mewn. Dilynir ef gan Capten Rogers, swyddog ym Milishia Sir Ddinbych.

Rolant

Beth yw ystyr hyn, Mr. Foster?

Foster

Gwaith y Brenin. (Yn cyfeirio at Jac.) Hwn yw eich dyn, Capten Rogers.

Rogers

Ai chwi yw John Jones, yn enedipol o Lan-yGors, plwyf Cerrig-y-drudion, a ddihangodd o Lundain rhyw dair wythnos yn ôl?

Jac

(Yn ddigon hapus.) Ie, yn duwcs... pam?

Rogers

Mae gennyf awdurdod i'ch dwyn i'r ddalfa. Rhoddwyd gwarant i bob swyddog Milishia yn y sir hon wedi i chwi ddianc o Lundain. Rhoddwyd hefyd bris am eich dal... pris uchel, Mr. Jones.

Foster

A llawenydd yw canfod mai un o'r plwyf hwn a fu'n gyfrwng i ddal y bradwr.

Rolant

(Yn edrych ar Ifor gyda dirmyg.) A gwyddom erbyn hyn pwy ydyw.

Foster

Y mae'n haeddu pob clod, Mr. Huw. Rhoes ar ddeall inni ei fod yma. Gwelodd ef yn ceisio cyfle i lithro'i mewn. Yn unol â'm dyletswydd, deuthum â Capten Rogers a'i wŷr yma ar unwaith.

Rolant

(Wrth Ifor.) Ti, felly, bia'r clod am hyn!

Ifor

(Yn wawdlyd.) O ie! Y fi, mab Rolant Huw, y gŵr parchus!

Rolant

(Ar fin torri i lawr.) Fy mab i fy hun yn bradychu ei deulu... bradychu fy nghyfaill! Ac yn cymryd arno ei fod yn falch o'i weld...

Ifor

Wrth gwrs! Er mwyn ei gadw yma nes deuai'r Milisbia. (Yn llawn ymffrost histeraidd.) Wel, fe lwyddais! Dyna fi o'r diwedd wedi gwneud rhywbeth gwerth sôn amdano! Y fi... Ifor... nad oedd neb yn meddwl y gallwn i...

Rolant

'D oes dim enw yn bod ar y weithred ffiaidd yma...

Foster

'R wyf fi yn dal ei bod yn ganmoladwy. Ac o'r herwydd, caiff Ifor glod a mawredd...

Rolant

(Yn ymollwng i'w gadair.) Na, melltith a gwawd!

Sara

(Yn ceisio'i gysuro.) Rolant bach, paid â theimlo fel yna...

Foster

(Mor galed ag erioed.) Dyletswydd pob un ohonom heddiw ydyw rhoi ei wlad o flaen popeth arall... hyd yn oed ei deulu...

Jac

Ac o flaen yr efengyl!

Foster

Dyna ddigon. Eich tynged chwi fydd mynd i Ruthun yng nghwmni'r Milishia.

Rolant

(Yn drist, o'i gadair.) Mae'n ddrwg gen' i am hyn, Jac...

Foster

Tewi a fyddai orau i chwithau, Mr. Huw. Y mae rhoi lloches i elyn y wladwriaeth ar adeg rhyfel yn drosedd. Gall fod yn gyfyng arnoch...

Jac

(Yn tanio.) Mae'n hollol ddi-euog, Mr. Foster! Byddai ei gosbi yn gam dybryd...

Foster

A oes raid imi dderbyn cyngor gan fradwr ac anffyddiwr? Y mae'n amser symud, Capten Rogers...

Rogers

Dewch, Mr. Jones...



Ac fel yr â Capt. Rogers i gymryd gafael yn Jac, clywir lleisiau'r Milishia oddi allan, ac hefyd lais arall. Egyr drws, a daw JANET i mewn yn frysiog. Hawdd gweld bod rhywbeth anghyffredin wedi peri iddi frysio yno.

Ifor

Janet! (Y mae cyffro'r lleill hefyd yn amlwg.)

Foster

Beth yw hyn, Janet? Nid oes a wnelo...

Janet

(Yn dawel, ond pendant.) Y fi sydd i benderfynu hynny. Deuthum i wybod fod rhywbeth ar droed yma. Beth ydyw?

Foster

Gwaith y Brenin.

Janet

Pa waith?

Jac

A pha frenin?

Foster

Ewch yn ôl, Janet, os gwelwch yn dda.

Janet

Ni symudaf gam nes cael gwybod beth sy'n digwydd yma.

Ifor

(Yn ymffrostgar eto.) 'R yden ni wedi dal Jac Glan-y-Gors! Gelyn penna'r wladwriaeth. Bradwr! Anffyddiwr!

Janet

Ac yr ydych am ei daflu i garchar?

Foster

Dyna'm dyletswydd.

Janet

Y mae rhywun wedi ei fradychu. Pwy?

Foster

Nid bradychu, Janet, ond gwneud ei ran dros ei wlad a'i Dduw. Am hynny, fe genir clod Ifor...

Janet

(Gyda syndod.) Ifor?

Rolant

Ie... fy mab i fy hun...

Jac

(Yn ceisio cyfiawnhau Ifor.) Gadewch lonydd iddo. Gwneud ei ddyletswydd oedd y bachgen...

Janet

(Yn fwy tosturiol na dim arall.) O Ifor, Ifor, yn bradychu ffrind eich tad... a'ch teulu...

Ifor

Dyna fy nyletswydd, yn ôl Mr. Foster! Ond pam 'r ydech chi yn ymddwyn fel hyn, Janet? (Yn histeraidd.) Er eich mwyn chi y gwnes i hyn...

Janet

Er fy mwyn i, Ifor? Bradychu...

Ifor

I'ch plesio chi, Janet... a Mr. Foster. Meddwl y byddai hynny yn help i mi eich...

Foster

Gweithred nobl ydoedd, Ifor.

Rolant

(Yn codi.) Nage, gwaith bradwr! 'D oes arna'i byth eisiau ei weld eto!

Sara

Rolant, paid da thi...

Ifor

(Wrth y drws canol.) Mae pawb yn f erbyn i! 'D ydw i byth yn iawn! 'R ydw i wedi cael hen ddigon arnoch chi i gyd... hen ddigon...



Yn mynd allan gan floeddio'r geiriau yn histeraidd.

Sara

(Yn mynd ar ei ôl.) Ifor... 'y 'machgen annwyl i...



Saib am ennyd neu ddwy.

Foster

Capten Roger s...

Janet

(Yn bendant iawn.) Arhoswch!

Foster

(Yn ddi-amynedd.) Wel... beth sy'n bod?

Janet

Rhywbeth y mae'n rhaid imi ei ddweud wrthych.

Foster

Ewch ymlaen.

Janet

Ond nid o flaen Capten Rogers.

Foster

Pam hynny?

Janet

Yr wyf o ddifrif. Capten Rogers, a fyddwch chwi cystal â mynd allan am funud neu ddau?

Foster

O'r gorau, Janet. Capten Rogers?



Â'r Capten allan.

Foster

Wel, fy merch i, beth ydyw?

Janet

(Yn ddigon tawel.) Dim ond hyn. Os ewch â'r dyn hwn i garchar, rhaid i chwi f'anfon innau hefyd.

Foster

Nid ydych o ddifrif...

Janet

Ni fum erioed mor sicr.

Foster

(Gyda braw.) Yn enw rheswm, pam?

Janet

Am fy mod o'i blaid, yn coleddu yr un syniadau am ryddid a chyfiawnder...

Foster

(Wedi ei syfrdanu.) Janet! Mae hyn yn beth difrifol. Bradychu eich teulu!

Janet

Efallai yn wir. Ond nid fy nghrefydd a'm cydwybod.

Foster

Cydwybod! Ffolineb merch ddi-brofiad wedi ei swyno gan syniadau rhigymwr cefn gwlad! (Yn wawdlyd.) Disgybl i hwn, yn wir!

Janet

Ie. Ac os anfonwch ef i garchar, rhoddaf finnau fy hun i fyny i'r awdurdodau yn Rhuthun fel dilynydd Jac Glan-y-Gors.

Jac

'D oes dim rhaid i chwi wneud hynny, Miss Foster. (Wrth Foster.) Dowch, syr, galwch ar Capten Rogers.

Foster

Ie... wel... y... (Y mae'n cychwyn at y drws.)

Janet

'R wy'n benderfynol! Gollyngwch ef, a 'r wy'n addo na fydd yn aros o fewn y plwy hwn. Ond os anfonwch ef i Ruthun...

Foster

Fy merch i fy hun yn fy herio! Yn troi'n fradwr!

Janet

Ydwyf, ond gyda chydwybod dawel...

Jac

Ni allaf ganiatâu hyn, Miss Foster.

Janet

Nid y chwi sydd i benderfynu bellach.

Foster

Ffolineb yw hyn!

Janet

(Gan edrych ar Jac gydag edmygedd.) Efallai. Ond hefyd peth bendigedig a hyfryd. (Yn mynd at ei thad, ac yn newid ei thôn.) Ond a ellwch chwi oddef gweld eich unig ferch... cannwyll eich llygad... yn mynd i garchar? Yn syrthio i ddwylo Milishia Sir Ddinbych?

Foster

(Wedi ei frifo.) Janet, yn enw Duw peidiwch â rhoi'r dewis hwn i mi.

Janet

(Yn gadarn.) Dyna'r dewis.

Foster

Fy merch i... er mwyn popeth...

Janet

Ac nid oes symud arno!

Foster

(Yn teimlo i'r byw, ond o dan orfod i ildio.) Dewis ofnadwy yw hwn. Yr ydych yn gofyn llawer gennyf, mwy nag a ofynnwyd imi erioed. Ni wyddwn eich bod yn coleddu'r syniadau newydd hyn. Mae hi'n anodd... yn anodd gweithredu'n groes i'm hargyhoeddiad. Ond... (Gydag ochenaid.) Ni allaf byth eich gweld yn mynd i afael...

Janet

Fe geidw Mr. Jones ei ran yntau o'r telerau.

Jac

Nid oes dewis i mi, druan!

Foster

Bydded felly. Ond beth a ddywedaf wrth Capten Rogers?

Janet

Dywedwch a fynnwch wrtho. Yr ydych yn ŵr o ddylanwad ac awdurdod. Ond anfonwch y Milishia i ffwrdd yn ddioed.

Foster

O'r gorau, Janet. Mr. Huw, carwn i chwi ddod allan gyda mi i siarad â'r swyddog...



Y mae'n troi at Jac, a cheisio'i orau i ymddangos mor ddi-gyffro ag y sydd modd.

Foster

Mr. Jones, y mae... y... wel... yr amgylchiadau yn caniatâu i chwi fod yn rhydd... i adael y plwyf hwn heb oedi. Ond cofiwch, nid oes gennyf unrhyw awdurdod o'r tu allan i'm plwyf fy hun. Dyna'r... telerau.

Jac

Diolch, syr. Byddaf yn siŵr o lynu wrthynt.

Foster

O'r gorau. (Yn foesgar, ond "pell".) Noson dda i chwi, Mr. Jones. A gawn ni fynd, Mr. Huw?



Mr. Foster a Rolant yn mynd allan. Saib fer.

Jac

Janet... a gaf fi eich galw felly?

Janet

Cewch... Jac.

Jac

A oedd raid i chwi wneuthur hyn?

Janet

Oedd. Y mae gennyf gymaint o feddwl o...

Jac

Jac Glan-y-Gors?

Janet

Efallai'n wir!

Jac

(Yn frysiog a byrbwyll, yn ei anghofio'i hun am foment.) Janet, dowch gyda mi, i wynebu'r dyfodol law yn llaw! 'R ydych chwi'n perthyn i rengoedd Rhyddid... yno mae'ch lle... (Yn cofio'r "telerau".) Na, nid oes gennyf hawl bellach i ofyn am hyn... y telerau!

Janet

Na, Jac. 'R wyf wedi addo mai fel arall y mae hi i fod. Yma y mae fy lle i. Gallaf wneud llawer... dylanwadu ar fy nhad, a cheisio dod â rhyw gymaint o heulwen i drueiniaid tlawd y pentref hwn.

Jac

Gallwch, Janet.

Janet

Ac Ifor, druan. Rhaid ceisio'i helpu yntau. Yma y mae'n rhaid imi aros.

Jac

Ie.

Janet

Ond daliwch i ymladd, Jac. Byddaf gyda chwi yn y frwydr. Cadwch eich golwg ar y Seren... Wel, dyma fi'n mynd...



Y mae Jac yn ymgrymu i gusanu ei llaw. Yn sydyn, tynn hi ato'i hun, a chusana'r ddau ei gilydd. Y maent yn ymwahanu, ac â Janet at y drws.

Janet

(Wrth y drws.) Nos da, Jac. Cofiwch am y Seren.



A chyn iddi fynd allan, dywed yntau'n dawel wrthi.

Jac

Ond heno, Janet, y mae fy Seren i... dan gwmwl...



LLEN

Drama un-act