Y Sosban

Cue-sheet for Desc

(1, 0) 1 GOLYGFA
(1, 0) 2 ~
(1, 0) 3 Mae'r llwyfan wedi ei rannu'n dri ─ mae golygfa llys ynadon yn y cefn, yna cynulleidfa y llys ac ar y dechrau mae blaen y llwyfan yn wag.
(1, 0) 4 Cyn codi'r golau mae pawb yn ei le yn barod ar wahân i'r ynadon.
(1, 0) 5 Pan ddaw'r golau, clywir cymeradwyaeth swnllyd gan aelodau'r oriel gyhoeddus.
(1, 0) 6 Mae un ohonynt ar ei draed yn eu hannerch.
(Robin) Ac yn fwy na hynny mae'r achos hwn yn garreg filltir yn hanes brwydr yr unigolyn.
 
(Robin) ...y ddawns flodau.
(1, 0) 36 Daw'r ynadon i mewn yn gwisgo hetiau blodeuog.
(Clerc) Gawn ni DREFN yn y lle 'ma...
 
(Clerc) Dewch a'r diffynydd i'r llys.
(1, 0) 62 Daw'r Offisar a Samuel Jones i mewn.
(1, 0) 63 Mae Sami'n edrych ar goll braidd.
(Robin) 'Gaf i apelio arnoch i aros yn eich llefydd am fymryn eto.
 
(Doctor) Wedyn mi rydan ni wedi cael llawer o dystiolaeth gan gyn-athrawon, gan gyfoedion oedd yn yr ysgol hefo fo ─ a gwahanol aelodau o'i gymdeithas leol o...
(1, 0) 82 Mae'n rhannu adroddiadau i'r ynadon a'r clerc tra mae'r gynulleidfa yn siarad ymysg ei gilydd.
(Un o'r Gynulleidfa) {A'i fys ar ei dalcen.}
 
(P.C. Davies) Wel... {cychwyn yn bendant, wedyn edrych yn blanc}... ym... wel, sgiwsiwch fi.
(1, 0) 122 Mae'n tynnu ei lyfr nodiadau allan o'i boced a throi i'r dudalen gywir.
(1, 0) 123 Mae'n darllen yn fawreddog.
(P.C. Davies) Ar y degfed o Awst y flwyddyn hon am bedwar munud wedi tri yn y prynhawn, fe gefais neges ffôn oddi wrth Mr David Howells yn dweud fod ei gôt wedi ei dwyn o'i fodur tra roedd o'n nofio.
 
(Doctor) Os oedd meddwl abnormal Samuel yn deud ei fod o'n oer...
(1, 0) 156 Y golau'n tywyllu a llais Sami i'w glywed yn fain dros yr uchelseinydd yn dweud 'Dwi'n oer...
(1, 0) 157 dwi'n oer..." gan gryfhau fel mae'r doctor yn mynd rhagddo.
(Doctor) ...yna mi fyddai'i gorff o'n wirioneddol oer.
 
(Doctor) Roedd hyn yn mynd yn ôl i'w blentyndod o mae'n debyg ─ diddorol wyddoch chi ─ ac mae o i'w weld drwy'i lencyndod o adeg y rhyfel hefyd diddorol iawn...
(1, 0) 160 Clywir Sami'n dweud 'Dwi'n oer...dwi'n oer!" nes ei fod yn gweiddi'n niwrotig.
(1, 0) 161 Mae tywyllwch llwyr ar ôl geiriau'r Doctor ─ digon o amser i rai o'r gynulleidfa yn y llys i adael y llwyfan.
(1, 0) 162 Cwyd sbot o olau ar ochr flaen chwith y llwyfan lle mae Sami yn ei gwman.
(1, 0) 163 Ar ôl i'r llais dros yr uchelseinydd orffen, daw rhai o gynulleidfa'r llys i flaen y llwyfan mewn dillad plant.
(1, 0) 164 Mae'r golau'n codi arnynt ac maent yn dawnsio mewn cylch gan weiddi-canu 'Sami bach yn oer, Sami bach yn oer!'
(1, 0) 165 Yna daw clerc y llys ─ mae wedi tynnu ei siwt a'i dei ac mae'n gwisgo trowsus bach; P.C. Davies ─ mae'n gwisgo cap ysgol yn lle helmed ac wedi rowlio ei drowsus i fyny at ei bengliniau, a'r Doctor sydd hefyd mewn dillad plentyn, ymlaen at weddill y plant.
(1, 0) 166 Mae'r golau'n ehangu i gynnwys canol y llwyfan ond gan gadw golygfa'r llys yn y tywyllwch os yn bosibl.
(Clerc) {Yn rhedeg i ganol cylch y plant.}
 
(Clerc) Brysiwch rwan ─ i ffwrdd oddi wrthi ─ mae Annie Pi-Pi'n trwsus yn dod.
(1, 0) 175 Daw Cadeiryddes y Fainc i mewn fel Annie gyda sgarff rownd ei llygaid a'i breichiau allan yn ymbalfalu ei ffordd.
(1, 0) 176 Mae'r plant yn rhedeg o'i chwmpas.
(Plant) Annie Pi-Pi'n trwsus!
 
(Sami) Ond dwi'n oer yn y gomal, Miss...
(1, 0) 333 Mae'r plant yn gadael rhesi'r 'dosbarth' ac yn rhedeg o amgylch Sami.
(1, 0) 334 Exit y Doctor.
(Plant) Sami bach yn oer!
 
(Clerc) Fan hyn mae hi yli.
(1, 0) 355 Sami yn cychwyn ato eto ─ tua chornel chwith y llwyfan a'r un peth yn digwydd eto.
(1, 0) 356 Ar ôl iddo ddisgyn yr ail waith, nid yw'n codi tan i'r plant fynd allan i'r chwith efo'r gadair yn gweiddi 'Sami bach yn oer, Sami bach yn oer' ac i un ohonynt gymryd y sgarff oddi ar ei lygaid cyn mynd.
(1, 0) 357 ~
(1, 0) 358 Fel mae sŵn y plant yn distewi, daw Siopwraig i mewn o'r chwith i flaen chwith y llwyfan, yr Helth Inspector i mewno'r dde i ganol y llwyfan a'r Doctor i mewn o'r dde i flaen dde y llwyfan.
(1, 0) 359 Maent yn cario bwrdd neu ddesg fechan bob un gyda rhowlyn o bapur linen wedi ei binio i flaen pob desg.
(1, 0) 360 Yn union cyn dechrau siarad maent yn gollwng y rhowlyn o'u blaenau.
(1, 0) 361 Byddai'n medru bod yn effeithiol pe gellir cael sbot yn dilyn Sami o'r naill i'r llall.
(Siopwraig) {Mae'n dad-rowlio ei phoster, ac arno mewn llythrennau bras mae 'Yn eisiau: llanc cryf, gweithgar.}
 
(Sami) Dwi'n deud y gwir.
(1, 0) 399 Saib.
(Sami) Fuodd gen i erioed feic.
 
(Siopwraig) Wel, darllen hwnna beth bynnag i mi gael gweld os wyt ti'n gw'bod lle mae o.
(1, 0) 404 Saib.
(1, 0) 405 Nid yw Sami'n edrych ar y cerdyn.
(Siopwraig) Wel, darllen o.
 
(Siopwraig) Ddim... ddim darllen.
(1, 0) 411 Saib.
(Siopwraig) Ond be' fuost ti'n ei wneud yn yr ysgol 'ta?
 
(Siopwraig) Yn eisiau, llanc cryf, gweithgar sy'n medru reidio beic a darllen.
(1, 0) 421 Mae'r Helth Inspector yn gollwng ei rhowlyn o flaen ei desg ac arno mae'r geiriau 'Yn eisiau, gofalwr tai bach'.
(Inspector) Yn eisiau, gofalwr tai bach yng nghyfleusterau cyhoeddus y dre'.
 
(Inspector) Mi fydd pawb yn gorfod g'neud hynny toc, felly waeth dy fod ti ym mlaen y ciw ddim.
(1, 0) 457 Mae'r Doctor yn dadrowlio'r hysbyseb ar flaen ei ddesg ac arno mae'r geiriau: 'Yn eisiau: Dynion i'r Armi.'
(Doctor) Isho ymuno a'r armi ia?
 
(Sami) 'Gen i ofn bod yn y gornel hefyd achos dwi'n unig yn y gornel a mae rhywun yn oer os ydi o ar ei ben ei hun.
(1, 0) 491 Saib.
(Doctor) Hym.
 
(Doctor) 'Does 'na ddim lle i rai fel ti yn yr armi wrth gwrs, ond mi rwyt ti'n ddiddorol iawn.
(1, 0) 496 Mae'r Siopwraig, Yr Helth Inspector a'r Doctor yn gafael yn eu byrddau a mynd allan.
(1, 0) 497 ~
(1, 0) 498 Clywir lleisiau'r plant dros yr uchelseinydd yn gweiddi-canu: Sami bach yn oer. Oeri! Oeri! OERI!
(1, 0) 499 ~
(1, 0) 500 Daw dwy ferch i mewn o ochr chwith y llwyfan, maent yn gwisgo dillad y 40au, llawer o golur, sgidia sodlau uchel a handbags.
(Catherine) 'Esu, 'dwi 'di ca'l llond bol o'r hen le 'ma.
 
(Anwen) Hew, wyt ti mor ffrystrated â hynny?
(1, 0) 509 Daw Megan i'r golwg.
(Catherine) Ond, chwara' teg Ann ─ mae hi'n galad arnon ni...
 
(Catherine) Rwan cwyd i mi gael dangos i ti.
(1, 0) 554 Mae'n ei godi a chan afael rownd iddo fo mae'n mynd at Anwen ac yn defnyddio ei freichiau ef fel petai'n bwped i gyffwrdd Anwen.
(Catherine) Sbia ar hyn.
 
(Megan) Dowch, genod ─ mi awn ni i chwilio am ddyn go iawn ─ nid rhyw frych o foi fel hwn.
(1, 0) 605 Mae'r tair yn mynd allan i'r dde.
(1, 0) 606 Clywir sŵn Sarjant yr Hôm Gards yn gweiddi 'lefft, rait, lefft, rait' etc. o ochr chwith y llwyfan am dipyn cyn iddo ef a thri milwr yn cario sosban, cot a brwsh llawr ymddangos.
(Sarjant) Lefft, rait, lefft-rait ─ dowch o'na hogia bach ─ lefft, rait, lefft, rait.
 
(Sarjant) Reit, mi rydan ni'n mynd i dy citio di rwan.
(1, 0) 622 Troi at y milwyr.
(Sarjant) Private Evans!
 
(Sarjant) Côt i Private Jones.
(1, 0) 625 Mae'r milwr yn cerdded mewn sgwar ffurfiol ymlaen, yna at Sami, rhoi'r gôt iddo ac yn ôl rownd y cefn i'w safle.
(Sarjant) Gwisga hi ─ dyna fachgen da.
 
(Sarjant) Gwn i Private Jones.
(1, 0) 629 Mae'n martsio fel yr un o'i flaen a rhoi brwsh llawr iddo.
(Sarjant) Private Huws!
 
(Sarjant) Helmet iddo.
(1, 0) 632 Mae yntau'n rhoi sosban am ben Sami.
(1, 0) 633 Yna a'r Sarjant at Sami.
(Sarjant) Duw annwyl wir, mi rwyt ti'n edrych yn smart iawn rwan Sami Sosban.
 
(Sarjant) Reit, stand to atenshyn!
(1, 0) 636 Sami'n ceisio ymsythu.
(Sarjant) Stand to atenshyn boi!
 
(Sarjant) Reit, get ffel in, boi.
(1, 0) 640 Sami yn mynd o flaen rhes y milwyr.
(Sarjant) Mi rydan ni'n mynd lawr i'r pentre am dipyn o drill.
 
(Sarjant) Lefft whîl!
(1, 0) 644 Sami'n cychwyn troi i'r dde ond yn cywiro'i hun.
(Sarjant) Cwic march!
 
(Sarjant) Lefft, right, lefft, right, lefft, right...
(1, 0) 647 Maent yn mynd rownd i gefn y llwyfan gyda Sami yn arwain, yna fel y maent yn dod yn ôl tua blaen y llwyfan mae'r tri milwr arall yn aros yn y cefn gan adael i Sami droi mewn cylchoedd dan orchmynion y Sarjant sy'n sefyll ar ochr dde'r llwyfan.
(Sarjant) Bac stret, lefft rait, turn to the rait, cwic march, turn to the lefft and swing those bloody arms, lifft those legs, look straight ahead and turn to the right...{Ac ati.}.
 
(Sarjant) Bac stret, lefft rait, turn to the rait, cwic march, turn to the lefft and swing those bloody arms, lifft those legs, look straight ahead and turn to the right...{Ac ati.}.
(1, 0) 649 Daw'r plant a chynulleidfa'r llys i mewn gan weiddi 'Sami Sosban! Sami Sosban!' yn wawdlyd.
(1, 0) 650 Ar uchafbwynt y gweiddi daw P.C. Davies a'r Offisar i mewn.
(P.C. Davies) Hei!
 
(P.C. Davies) Beth sy'n digwydd yma?
(1, 0) 654 Mae'r lle'n tawelu'n raddol.
(P.C. Davies) Breach of the peace?
 
(P.C. Davies) Mae hyn yn beth difrifol iawn.
(1, 0) 658 Mae'n troi a gweld Sami.
(P.C. Davies) A!
 
(P.C. Davies) Wyt ti'n meddwl mai helmet yw'r sosban hon..?
(1, 0) 666 Mae'n ei thynnu a'i rhoi i'r Offisar.
(P.C. Davies) ...ac mai gwn yw'r brwsh llawr yma...?
 
(P.C. Davies) ...ac mai gwn yw'r brwsh llawr yma...?
(1, 0) 668 Mae'n ei roi i'r Offisar.
(P.C. Davies) ...ac mai côt armi ydi'r rhacsyn yma?
 
(P.C. Davies) ...ac mai côt armi ydi'r rhacsyn yma?
(1, 0) 670 Ei rhoi i'r Offisar sy'n mynd allan.
(P.C. Davies) Sami...
 
(P.C. Davies) Mi rydan ni am dy adael di yng ngofal doctor ─ a chofia Sami, mai er dy les di rydan ni'n gneud hyn.
(1, 0) 676 Daw'r Doctor i mewn; mae P.C. Davies yn mynd allan, mae'r plant a chynulleidfa'r llys wedi rhannu'n ddau grwp ─ un yn mynd yn ôl i un ochr y llwyfan yn lein syth a'r llall yn mynd yn ôl i ochr arall y llwyfan.
(1, 0) 677 Mae dwy stand dal cotiau ar bob ochr i'r llwyfan ers y dechrau a chynfasau gwynion arnynt.
(1, 0) 678 Maer criw yn cymryd cynfas wen bob un oddi ar y standiau ac yn eu gwisgo amdanynt.
(1, 0) 679 Rhaid mesur y cynfasau a rhoi pinnau ynddynt ymlaen llaw fel bod pawb yn gwybod pa un yw ei un ef a bod modd ei rhoi amdano'n gyflym a heb dynnu gormod o sylw.
(1, 0) 680 Ar hyn o bryd mae'r ddwy res a'u cefnau at ganol y llwyfan.
(Doctor) {Mae'n cario coban wen i Sami.}
 
(Doctor) Rwan gwisga hi...
(1, 0) 686 Sami'n gwneud.
(Doctor) Mi gei di berffaith hedd a chwarae teg i wella yn fan'ma ti'n gweld.
 
(Doctor) Mi gei di lonydd...
(1, 0) 689 Ar y gair hwn mae'r ddwy res yn troi i wynebu canol y llwyfan GYDA'I GILYDD gan droi'r ysgwydd sy'n wynebu'r gynulleidfa gyntaf.
(Doctor) Mi fydd y nyrsus yn edrych ar dy ol di ─ yn rhoi bwyd i ti, yn dy folchi di, yn newid dy ddillad di ac mi fydda inna'n trio dy wella di.
 
(Doctor) Rwan gorwedd i lawr yn dy wely...
(1, 0) 693 Mae Sami'n mynd ar ei benliniau.
(Doctor) ... gad lonydd i ni wneud y cyfan.
 
(Doctor) Cofia paid â phoeni, a phaid â meddwl.
(1, 0) 696 Mae'r Doctor yn mynd allan drwy gefn y llwyfan a phan yw Sami'n cychwyn siarad mae'r gynulleidfa a'r plant yn cerdded i mewn i ganol y llwyfan yn raddol gan gau'n hanner cylch o gwmpas Sami ─ fel muriau tafell.
(Sami) Ond... ond mae pob man yn wyn.
 
(Sami) Mae pob man yn wyn... doctor mewn gwyn...
(1, 0) 700 Edrych yn wyllt o'i gwmpas ar y 'waliau' sydd wedi cau amdano bellach.
(1, 0) 701 Yng nghefn y llwyfan mae swyddogion y llys yn mynd i'w safleoedd yn ddistaw yn barod ar gyfer yr olygfa nesa')
(Sami) ...y fi mewn gwyn... gwlau gwyn... waliau gwyn...
 
(Sami) ...y fi mewn gwyn... gwlau gwyn... waliau gwyn...
(1, 0) 703 Mae'n gweiddi yn awr gan dynnu ei goban i ffwrdd.
(Sami) Mae pob man yn wyn!
 
(Sami) Mae pob man yn wyn!
(1, 0) 705 Yna'n ddistawach, fel un wedi ei ddychryn.
(Sami) Gwyn fel eira... gwyn fel rhew... fel ffrij... a dwi'n oer...
 
(Clerc) Gawn ni drefn yn y llys.
(1, 0) 714 Mae'r ddwy 'wal' yn symud yn ôl gyda'i gilydd ond yn dal i wisgo'r cynfasau gwynion gan edrych yn syth o'u blaenau fel doliau yn awr.
(1, 0) 715 Mae'r golau'n codi'n gyflym ar olygfa'r llys.
(1, 0) 716 Mae Sami yng nghanol y llwyfan.
(Clerc) Cyfiawnder sydd yn y lle yma nid carnifal.
 
(Sami) ...i'r ffrij!
(1, 0) 725 Ben Little yn ceisio'i dawelu.
(Clerc) Wnewch chi gadw'ch cleiant dan reolaeth Ben Little ─ dydw i ddim eisiau dweud hynny eto.
 
(Doctor) Mae gen i ofn ei fod o'n un o'r rheiny sydd wedi cael eu geni i'r byd er mwyn i weddill cymdeithas ofalu amdanyn nhw.
(1, 0) 732 Yr ynadon yn sibrwd ymysg ei gilydd.
(Clerc) Barchus ynadon?
 
(Cadeiryddes) Diolch i dystiolaeth y doctor, mi rydan ni'n sylweddoli cyflwr meddyliol y diffynnydd.
(1, 0) 736 Saib.
(Cadeiryddes) Ond ar y llaw arall, fedrwn ni ddim anwybyddu'r ffaith ei fod o'n lleidr.
 
(Y Ddwy Res) 'Sbyty.
(1, 0) 752 Ar yr un pryd mae'r Clerc yn rhoi nod i'r Doctor sy'n symud ymlaen at Sami, yn rhoi'r goban dros ei ysgwydd a'i symud i gornel flaen chwith y llwyfan ─ lle mae'r sbot yn codi arno ar y diwedd.
(1, 0) 753 Yna ar ôl geiriau olaf y Gadeiryddes a'r Doctor allan.
(Clerc) {Wrth yr Offisar.}
 
(Clerc) Pa achos sy nesa'?
(1, 0) 756 Ar y geiriau hyn mae'r ddwy res yn tynnu eu cynfasau gwyn a symud ymlaen i ganol y llwyfan ac eistedd i lawr ─ ar y cynfasau fel yr oeddent ar ddechrau'r ddrama.
(1, 0) 757 Mae popeth yn bywiogi eto.
(Offisar) Achos Iago ap Rhydderch.
 
(Robin) Rhaid i ni fynnu ein hawliau...
(1, 0) 766 Y gynulleidfa'n canu 'Fe orchfygwn ni'.
(1, 0) 767 Mae'r golau'n graddol dywyllu arnynt ac maent yn canu'n ysgafnach.
(1, 0) 768 Mae'r sbot yn codi ar Sami yng nghornel chwith y llwyfan a chlywir ei lais dros yr uchelseinydd yn dweud yn ysgafn i ddechrau 'Dwi'n oer... dwi'n oer'.
(1, 0) 769 Diffoddir y golau ar olygfa'r llys gan adael dim ond y sbot a chlywir llais Sami'n dweud yr un geiriau yn uwch ac yn uwch nes ei fod yn fyddarol.
(1, 0) 770 Tywyllwch.