| (Tad) Where's that crotyn tonight agen? | |
| (1, 0) 2 | Cegin gweithiwr yn y Deheudir. |
| (1, 0) 3 | Lle tân ar y dde, o du'r gynulleidfa, ffenestr yn y pared cefn a drws i'r dde iddi. |
| (1, 0) 4 | Drws i'r llofft ar y chwith. |
| (1, 0) 5 | Pan gwyd y llên, y mae'r tad yn gwisgo'i goler o flaen drych bychan ar y mur. |
| (1, 0) 6 | Daw'r ferch i mewn ar y chwith. |
| (1, 0) 7 | Y mae'r fam yn eistedd wrth y tân. |
| (Tad) Where's that crotyn tonight agen? | |
| (Merch) Very well. {Yn cydio yn ei llyfrau ac yn mynd allan.} | |
| (1, 0) 122 | Saif y tad ar ganol y llawr gan synfyfyrio ac ymhen tipyn edrych ar ei wraig. |
| (Tad) Marged, we must try to answer that guestion. | |
| (Tad) Ullo, 'ere 'e 'is. | |
| (1, 0) 136 | Teflir y drws yn agored yn ddisymwth a rhuthra Tom i mewn. |
| (Mab) {ag un anadl} Daddy, daddy, Billy Morris' bitch 'ave got fìve pups and 'e's willing to sell one for half a crown. | |
| (Mab) Yr wyf wedi agor y drws. | |
| (1, 0) 194 | Saif Tomi yn syth wrth y drws. |
| (Tad) Well done boy. | |
| (Tad) Rhagorol, Tomi. | |
| (1, 0) 198 | Â'r Tad i eistedd wrth y tân gan ddisgwyl i Tomi ddychwelyd i'w le. |
| (Mab) {ymhen tipyn} Well, are you going to keep me standing here all night? | |
| (Mab) {yn edrych yn anghrediniol ar y ddau}. Well, how did you learn it? | |
| (1, 0) 208 | Syll y gwr a'r wraig ar ei gilydd yn anesmwyth. |
| (Tad) Glywest ti, Marged? | |
| (Tad) Rhoi Tomi ni ymhlith y Saeson i ddysgu Cymrag... ar f'ened i! | |
| (1, 0) 264 | Ergyd ar y drws. |
| (1, 0) 265 | Â 'r wraig i'w agor. |
| (Ysgolfeistr) Nos dda Mrs. Jones. | |
| (Ysgolfeistr) Ni gydnabyddwn i'r ysgol fod ar fai, ar fai mawr hefyd, ond ar yr un pryd, 'd allwch chi'ch dau ddim dweud eich bod chi'n hollol rydd, oherwydd y mae yna rieni, heb fod yn ddim gwell Cymry na chi, sydd wedi llwyddo i gadw'r iaith ar yr aelwyd. | |
| (1, 0) 305 | Daw Tomi i mewn â choed tân. |
| (Tad) Oes y mae yna rai. | |
| (Tad) {Yn troi at yr hogyn.} Tomi, put them sticks over by there. | |
| (1, 0) 308 | Saif y meistr yn syn. |
| (Ysgolfeistr) {wedi ei gynhyrfu} Oes, a fe fyddai'n llawer gwell ar les Tomi petaech chithe wedi gwneud yr un peth. | |
| (Ysgolfeistr) I want to see that exercise I marked for you this morning. | |
| (1, 0) 314 | Estyn Tomi y llyfr iddo. |
| (Ysgolfeistr) Gwrandewch: Dyma frawddeg o stori fach a ysgrifennodd Tomi neithiwr, "And the fairy told the little girl, 'Don't leave them flowers by there'." | |
| (Ysgolfeistr) Gwrandewch: Dyma frawddeg o stori fach a ysgrifennodd Tomi neithiwr, "And the fairy told the little girl, 'Don't leave them flowers by there'." | |
| (1, 0) 316 | Dengys y frawddeg i'r gwr a daw'r wraig hithau edrych arni. |
| (Tad) Beth sy' o'i le, Mr. Pritchard. | |
| (Tad a Mam) Pritchard. | |
| (1, 0) 355 | YSGOLFEISTR yn mynd. |
| (1, 0) 356 | Y mae Tomi yn edrych yn eì lyfr. |
| (Tad) {yn edrych dros ysgwydd ei fab} Show me that... | |
| (Tad) Dangos yr essay yna i mi. | |
| (1, 0) 360 | Yr HOGYN yn edrych ar ei DAD a cheisio eì ddeall. |
| (Mab) Say it again, Daddy. | |
| (Tad) Wyddost ti beth sy o'i le fanna? | |
| (1, 0) 368 | Yr HOGYN heb ddeall. |
| (Mam) {hithau, erbyn hyn, yn edrych dros ei ysgwydd gyda'r tad} What's wrong about that Tomi? | |
| (Tad) Odw. | |
| (1, 0) 387 | Saif Towr ar ganol y llawr i ganu "Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf", ond cyn iddo allu gorffen y pennill cyntaf dyry'r MAM ysgrech a neidia i ymaflyd ynddo. |
| (Mam) {yn wyllt} William, wel di hi? | |
| (Mam) Y mae hi wedi mynd nawr. | |
| (1, 0) 394 | Saif y tri am ennyd heb symud. |
| (1, 0) 395 | Yna daw dau ergyd pendant ar y drws. |
| (Mam) Dyw hi ddim i ddod mewn yma, cofia. {Yn dal yn dyn yn yr HOGYN.} | |
| (Hen Wraig) Rwy wedi cael derbyniad mewn pedwar man o'r newydd heno, a chroeso mawr. | |
| (1, 0) 405 | Symud y FAM yn nes i'r drws gan gadw'r Hogyn tucefn iddi. |
| (Mam) Beth ych chi'n mofyn? | |
| (Tad) O'r gore, dewch mewn. | |
| (1, 0) 414 | Daw'r HEN WRAIG i mewn. |
| (1, 0) 415 | Gwisg fantell fawr a llaes sy'n ei gorchuddio bron yn gyfangwbl o'i choryn i'w thraed. |
| (1, 0) 416 | Nid oes fawr o'i hwyneb i'w weled, oherwydd y mae'r fantell fel bargod dros eì thalcen. |
| (1, 0) 417 | Y mae hynny o wallt sydd i'w weled ganddi yn wyn. |
| (1, 0) 418 | Ymddengys yn hen iawn ac eto y mae yna urddas nodedig yn ei hosgo a'i cherddediad. |
| (1, 0) 419 | Ar y dechrau y mae ei llais yn wan, er yn glir ac yn felus i'r glust—rhywbeth dymunol iawn, ychydig yn uwch na sibrwd. |
| (1, 0) 420 | ~ |
| (1, 0) 421 | Dylid gwneuthur ffigiwr mor urddasol ag sy bosibl o'r wraig hon. |
| (1, 0) 422 | Ni thâl taflu unrhyw fath o glogyn rywsut amdani. |
| (1, 0) 423 | Dylid trefnu'r fantell yn ofalus yn ol y dull clasurol, yn addurnol a syml. |
| (1, 0) 424 | Y mae hyn yn bwysig iawn. |
| (Mam) {wedi ymwroli tipyn} Dewch ymlaen i'r aelwyd. | |
| (Mab) Canu... sing? {yn edrych ar ei rieni}. | |
| (1, 0) 468 | Amneidia ei FAM arno i ganu. |
| (1, 0) 469 | Gwna yntau. |
| (Mab) Mi glywais fod yr hedydd | |
| (Mab) I gyrchu corff yr hedydd adre. | |
| (1, 0) 475 | Daw'r FERCH i mewn. |
| (Hen Wraig) Swynol iawn, Tomi. | |
| (Merch) {yn edrych ar eî thad} Recite? | |
| (1, 0) 489 | Yntau'n amneidio. |
| (1, 0) 490 | Edrydd Olwen: "Toriad y Dydd". |
| (Merch) 'Rwy'n hoffi cofio'r amser, | |
| (Hen Wraig) Ond... | |
| (1, 0) 512 | Cwyd yr hen wraig a chyda hynny, treigla'r fantell a'r gwallt gwyn i'r llawr a datguddio benyw ifanc brydferth iawn yn sefyll ar yr aelwyd, yn llawn nwyf a hoen. |
| (Hen Wraig) ... rwy'n ifanc hefyd. | |
| (Hen Wraig) Gaf fi orffen y darn, Olwen. | |
| (1, 0) 536 | Edrydd gydag arddeliad mawr. |
| (Hen Wraig) Gogoniant mwy gaf eto | |
| (Hen Wraig) A dyma doriad dydd! | |
| (1, 0) 541 | LLEN. |