Drama un-act

Toriad Dydd (1932)

David Thomas Davies

Ⓗ 1932 David Thomas Davies
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.



Cegin gweithiwr yn y Deheudir. Lle tân ar y dde, o du'r gynulleidfa, ffenestr yn y pared cefn a drws i'r dde iddi. Drws i'r llofft ar y chwith. Pan gwyd y llên, y mae'r tad yn gwisgo'i goler o flaen drych bychan ar y mur. Daw'r ferch i mewn ar y chwith. Y mae'r fam yn eistedd wrth y tân.

Tad

Where's that crotyn tonight agen?

Mam

I dunno, I'm sure. Playing football I expect. Cato'n pawb, wech o'r gloch, and 'e avent been 'ome to 'ave 'is tea yet!

Tad

I'll give 'im football when 'e comes in!

Merch

(yn gosod eì llyfrau ar y bwrdd) Oh dear, I've got a lot of homework tonight.

Mam

Well you better go upstairs to do it. There won't be much peace for you when your brother comes in.

Merch

And I've got Welsh homework.

Tad

'Ow are you getting on with the Welsh?

Merch

Not very well. The homework is difficult.

Tad

You can't expect to be in a County School, my gel, and not 'ave any 'omework to do.

Mam

I don't see much sense in you learning Welsh anyway. Mrs. Jones' daughter is doing French and that will be much more useful for 'er.

Merch

Will it?

Mam

Of course it will. "Will it," indeed. Don't be so twp, gel.

Merch

How will it be more useful, mam?

Mam

Better eddication, my gel, better eddication.

Merch

How?

Mam

You clear off upstairs and don't 'ave so much , to say.

Tad

Nawr Marged, ddylset ti ddim troi ar y groten felna. Y mae hi'n gofyn cwestiwn eitha teg.

Mam

Y mae'n bryd troi arni. Y mae wedi mynd yn hir iawn i thafod oddiar mae hi yn y County School yna.

Merch

I suppose you're talking about me now, are you? You might let me know what you are saying.

Mam

You go upstairs and do your work and never mind wot we are saying.

Merch

(yn cydio yn ei llyfrau) There was a man in our school today and he came to our class. I think he was the director.

Tad

Examination, was it?

Merch

No; he'd called to see about the Welsh.

Mam

And wot did 'e 'ave to say?

Merch

He wanted to know how many girls spoke Welsh at home.

Mam

Busybody, and wot did that 'ave to do with 'im?

Tad

Did you put your 'and up?

Merch

No, I didn't.

Mam

Quite right too. It's no business of 'is.

Merch

Then he wanted to know how many girls there were who did not speak Welsh but who had Welsh-speaking parents.

Tad

Oh 'e did, did 'e? They are making a bit of a fuss about the Welsh now then, are they? Wot else did 'e ask?

Merch

He asked me if I ever heard my father and mother speak Welsh.

Mam

Did 'e, indeed? Wot did you say?

Merch

I said that you spoke Welsh whenever there was anything you didn't wish me to understand.

Mam

(yn nwydwyllt) You told 'im that! (yn cydio yn ysgwyddau'r ferch ac yn dechrau ei hysgwyd) You little─

Tad

(yn llym) Marged! gad y groten yn llonydd! (y wraig yn alal ei llaw). Wnaeth hi ddim ond dweyd y gwir. (Yn cysuro'r ferch). Dyna, dyna, don't cry, don't cry. Did 'e ask you anything else?

Merch

Yes. He asked if I'd like to be able to speak French.

Mam

There's some sense now wotever.

Merch

I said yes.

Mam

Course you did, name of goodness.

Merch

Then he said, "If you wished to be able to speak French and your parents were able to speak French, wouldn't you try to get them to speak French to you?"

Mam

(yn ddifeddwl) Of course you─ (yn sefyll yn ddisymwth i ystyried).

Tad

Ha, ha. Dyna ti wedi dodi dy droed yndi'n bert iawn o'r diwedd. Ar fengoch i, deryn yw'r director yna. (Wrth y ferch) That's all right, you go and do your work now.

Merch

But I want you to help me.

Tad

Me 'elp you! 'Ow can I 'elp you?

Merch

With my Welsh homework. I can't get my mutations right.

Tad

Mut— what did you say?

Merch

Mutations.

Tad

Wot on earth are they?

Merch

Our Welsh mistress said that you could help me.

Tad

'Ow could she say that?

Merch

She has spoken to you several times, hasn't she?

Tad

Yes, once or twice.

Merch

Well, she says that your mutations are very good.

Tad

My mutations! Wot ever are you talking about?

Merch

Dear, dear; don't you understand—it's just the way you speak Welsh.

Tad

Oh yes, I can talk Welsh all right.

Merch

(yn agor llyfr sgrifennu) Now look at that sentence. Have I got it right?

Tad

(yn syllu'n galed) Is this the kind of Welsh they learn you at school?

Merch

No, no. That is a sentence l've had to make myself. Is it right?

Tad

Right indeed. You read it out loud yourself and then you'll see how right it is.

Merch

(yn darllen) Y mae dau dyn ar y pont.

Tad

Don't it sound funny to you?

Merch

No.

Mam

You must be very twp if you can't see where that is wrong.

Tad

Cymer bwyll, Marged, rho gyfle iddi.

Merch

Can you put it right, mam?

Mam

Of course I can. Y mae dau ddyn ar y bont.

Merch

(yn adrodd y frawddeg yn araf) Y mae dau ddyn ac y bont. But why is it ddyn and why is it bont?

Mam

Because that's the right thing to say, of course.

Merch

Yes, yes. But why is it right?

Mam

Don't ask such silly guestions, gel. You might as well ask why twice two is four.

Merch

You don't understand what I mean. How do you know when to say ddyn or bont?

Tad

Quite right, [Olwen], I'll try to think that out for you. You go on with something else now. I've got to go and find that young rascal, Tommy. I'll help you with your Welsh later on.

Merch

Very well. (Yn cydio yn ei llyfrau ac yn mynd allan.)



Saif y tad ar ganol y llawr gan synfyfyrio ac ymhen tipyn edrych ar ei wraig.

Tad

Marged, we must try to answer that guestion.

Mam

Rubbish, what is there to answer about it?

Tad

Pont, pont... y bont... why do we change pont to bont? (yn eistedd wrth y tân).

Mam

Because we do, of course.

Tad

(yn gafaelyd yn y pocer) Pocer, pocer... y bocer, nage, nage!

Mam

Y bocer! Don't be so soft, y pocer to be sure.

Tad

Quite right, but why don't we change that?

Mam

Because we don't, of course. I can't see what there is to bother about. Go and see if you can find that boy somewhere.

Tad

(yn codi) E'll know something about it when I meet 'im. Ullo, 'ere 'e 'is.



Teflir y drws yn agored yn ddisymwth a rhuthra Tom i mewn.

Mab

(ag un anadl) Daddy, daddy, Billy Morris' bitch 'ave got fìve pups and 'e's willing to sell one for half a crown.

Tad

Pups is it? (yn fygythiol) Pups! I'll give you pups. Where have you been? Look at that clock—'alf past six.

Mam

There's no tea for you tonight, my lad.

Mab

I've 'ad tea.

Mam

In the name of goodness, where?

Mab

In school. Didn't I tell you? We've got a Cymdeithas Gymraeg in our school now. Councillor Morgan started it off today by giving us a tea,

Mam

Shôn Morgan—that old skinflint!

Tad

Hanner munud, Marged, hanner munud. Os yw Shôn Morgan wedi rhoi te i blant yr ysgol, fe elli di fentro fod yna rywbeth mwy na'r cyffredin yn bod. Now Tomi, tell us all about it.

Mab

You know that we are all learning Welsh in school now.

Tad

Oh. 'Ow long 'ave you been doing that?

Mab

Since the holidays.

Tad

Let's 'ear you saying something. What can you say?

Mab

Heaps and heaps (yn ysgwyd ei fys ar ei dad a fam). You wait, both of you. Before very long, you won't be able to say things in Welsh when you don't want me to understand.

Tad

Glywest ti, Marged. Dyna'r ail dro heno ini gael hyna yn ein dannedd. Dim rhagor o'r gwaith yna cofia.

Mam

A dyna tithe'n gwneud hynny nawr.

Tad

Can you count in Welsh?

Mab

Un, dau, tri, pedwar, pump, chwech, saith, wyth, naw, deg.



(Y mae'r fam yn gwenu).

Tad

Good boy. Wot else can you do?

Mab

I'll show you. You stand there as if you was in front of the class. You're my teacher, see, and I'm sitting 'ere in my desk. Now you tell me, "Thomas Henry Jones, agorwch y drws."

Tad

(yn ffug awdurdodol a difrifol) Thomas Henry Jones, agorwch y drws.

Mab

(yn hollol ddifrifol, ac yn gwneuthur yn unol â'r hyn a ddywed, eithr yn araf a gofalus). Yr wyf yn codi. Yr wyf yn troi at y drws. Yr wyf yn cerdded at y drws. Yr wyf wrth y drws. Yr wyf yn mynd i agor y drws. Yr wyf yn cydio yn y... yn y... Oh I've forgotten that word now.

Mam

Latch, fachgen, latch.

Mab

No, no; latch is an English word.

Tad

There isn't a Welsh word for it.

Mab

Yes there is. Don't you know the Welsh word for latch?

Tad

No not I.

Mab

Well you're a fine Welshman after all. Oh, I've got it. Yr wyf yn cydio yn y glicied. Yr wyf yn agor y drws. Yr wyf wedi agor y drws.



Saif Tomi yn syth wrth y drws.

Tad

Well done boy.

Mab

No, no; you ought to say "Rhagorol, rhagorol".

Tad

Rhagorol, Tomi.



Â'r Tad i eistedd wrth y tân gan ddisgwyl i Tomi ddychwelyd i'w le.

Mab

(ymhen tipyn) Well, are you going to keep me standing here all night?

Tad

Why? What 'ave l got to do now?

Mab

You don't seem to know much about it. Didn't you two ever have Welsh lessons in school?

Tad

No, not I. I never 'ad a Welsh lesson in school.

Mam

Nor me neither.

Mab

(yn syn) Never had a Welsh lesson in school! (yn edrych yn anghrediniol ar y ddau). Well, how did you learn it?



Syll y gwr a'r wraig ar ei gilydd yn anesmwyth.

Tad

Glywest ti, Marged?

Mam

Do, William. Mae hi'n dechre mynd yn dyn arnom ni'n dau.

Tad

(dipyn yn sobr) Never you mind about that now, Tomi bach. What 'ave I got to do next?

Mab

You must say: "Thomas Henry Jones, cauwch y drws" and when I've done that, "Ewch yn ôl i'ch lle".

Tad

Thomas Henry Jones, "cauwch y drws".

Mab

Yr wyf yn troi at y drws. Yr wyf yn mynd i gau y drws. Yr wyf yn cau y drws. Yr wyf wedi cau y drws.

Tad

Cer nôl i dy le.

Mab

Why don't you say it properly? You say it, Mam.

Mam

Ewch yn ôl i'ch lle.

Mab

Yr wyf yn troi at fy lle. Yr wyf yn mynd i fy lle. Yr wyf wrth fy lle. Yr wyf yn mynd i eistedd yn fy lle. Yr wyf yn eistedd yn fy lle. Yr wyf wedi eistedd yn fy lle.

Tad

Da iawn.

Mam

Rhagorol.

Mab

Oh Daddy, Mr. Pritchard, the schoolmaster, is coming here tonight to see you.

Tad

What for?

Mab

I'm not sure. He's been going round the 'ouses lately. I think it's something about the Welsh.

Tad

Oh; who do learn Welsh to you?

Mab

Mr. Griffiths.

Mam

But I thought that Mr. Williams was your teacher.

Mab

Yes, in everything else. You see, it was like this. When they began to teach Welsh they took all the boys from Standard III and Standard IV who could speak Welsh or understand Welsh and put them together for the Welsh lesson. That's the Welsh section. Then the others, those who can't speak or understand Welsh—that's the English section and Mr. Griffiths is our teacher.

Tad

(yn gwylltu) And do you mean to tell me that they put you in the English section!

Mab

Of course they did. I can't speak or understand Welsh. I'm not a Welsh boy.

Tad

(yn codi'n wyllt) Not a Welsh boy! What are you then, Zulu or Esquimau? (Yn llidiog iawn) Don't you ever let me 'ear you saying that again!

Mab

(yn crio): It isn't my fault, is it?

Mam

(yn mynd ato) Dyna, dyna. (yn troi at ei gwr) Cymer dithe bwyll nawr, William.

Tad

All right, all right, Tomi. (Yn rhoi ei neisied iddo) Hwre, sych dy lyged. (Yr hogyn yn gwneud) Sych dy drwyn, hefyd.

Mab

(heb orffen crio) Yr wyf... yn sych... fy drwyn.

Mam

Yr wyf yn sychu fy nhrwyn.

Mab

Yr wyf... yn sychu... fy nhrwyn.

Tad

Wel, Marged, glywest ti'r fath beth erioed? Rhoi Tomi ni ymhlith y Saeson i ddysgu Cymrag... ar f'ened i!



Ergyd ar y drws. Â 'r wraig i'w agor.

Ysgolfeistr

Nos dda Mrs. Jones.

Mam

Nosweth dda, Mr. Pritchard. Dewch mewn.

Ysgolfeistr

Nos dda, Mr. Jones.

Tad

(dipyn yn sychlyd) Nosweth dda.

Mam

(yn sychu cadair â'i ffedog) Dewch ymlan, Mr. Pritchard, eisteddwch.

Ysgolfeistr

Na, eistedda i ddim, diolch ichi. Mae genni neges arbennig yma heno a rwy mewn tipyn o frys, gan fod genni sawl man arall i fynd iddo.

Tad

O'r gora, Mr. Pritchard, ond cyn mynd at y neges yna, 'rwy am gal gair gyda chi ar fater arall.

Ysgolfeistr

le?

Tad

Pam ych chi wedi dodi Tomi ni ymhlith y Saeson i ddysgu Cymrag?

Ysgolfeistr

(yn hamddenol, a chysgod o wên ar ei wyneb) Oh, dych chi ddim yn fodlon mod i wedi gwneud hynny!

Tad

Och chi'n disgwyl y byddwn i'n fodlon! Beth ych chi'n feddwl wy? Dyma fi yn Gymro i'r carn, yn fab i Gymro a Chymraes, ac yn gallu siarad Cymrag cystal â'r cyffredin, a dweud y lleia, a dyna'r wraig wedyn, yn Gymraes o'i chrud, a chithe... beth yw'ch meddwl chi'r dyn! D'oes dim synnwyr yn y peth.

Ysgolfeistr

Yn ara bach, Mr. Jones, yn ara bach. Nid y chi na'r wraig rwy wedi ddodi yn yr adran Saesneg i ddysgu Cymraeg, ond Tomi.

Tad

Wel, mae Tomi'n fab i ni, yn enw'r bendith.

Ysgolfeistr

Fe all hynny fod, ond 'd yw e'n deall dim nag yn medru siarad dim Cymraeg ond yr hyn y mae e wedi ei ddysgu yn yr ysgol.

Mam

(yn ddwys) Ond Mr. Pritchard, Cymro yw Tomi bach ni.

Ysgolfeistr

Ie, ie: Cymro yw Tomi. Pan gychwynwyd dysgu Cymraeg yn yr ysgol roedd genni broblem ddyrus iawn i'w hwynebu. Roedd genni rai plant yn medru siarad Cymraeg yn rhydd ac yn rhwydd. Yr oedd yna ereill yn deall yr iaith ond heb fedru ei siarad hi. Roedd yna nifer wedyn yn Gymry o ran gwaed, a Tomi yn eu plith, heb fedru siarad na deall Cymraeg, a Saeson bach uniaith oedd y gweddill o aelwydydd hollol Saesneg. Doedd genni ddim i'w wneud ond casglu'r plant oedd yn medru siarad neu ddeall yr iaith at ei gilydd a gwneud dosbarth ohonynhw, a gosod y gweddill, yn Gymry ac yn Saeson mewn adran arall.

Tad

Felny, ynte, ymhlith y Saeson y bydd Tomi, tra bydd e'n yr ysgol.

Ysgolfeistr

Y mae hynny yn dibynnu i raddau mawr arnoch chi a Mrs. Jones. Rwy am wneud bargen â chi'ch dau heno. Y mae genni rai degau o blant yn dod o aelwydydd tebig i hon, a phob un ohonynhw mewn adran Saesneg. Rwy wedi bod eisoes yn gweld rhai o'r rhieni a gwneud cytundeb â nhw. Siaradwch chi Gymraeg â Thomi ar yr aelwyd, ac ymhen y flwyddyn, neu lai na hynny falle, mwy na thebig y galla'i ddodi Tomi mewn adran Gymraeg.

Tad

Wel, mae yna reswm yn yr hyn ych chi'n ddweud, Mr. Pritchard, ond wedi'r cwbl, pwy wnaeth Sais o [Olwen]? Roedd y groten yna'n gallu siarad Cymraeg yn iawn nes bo hi'n bum mlwydd oed. Wedyn fe aeth i'r ysgol, a chyn pen tri mis yr oedd hi'n Saesnes rhonc na chaen ni air o Gymraeg ganddi. Pan ddaeth Tomi, doedd dim gobeth gyda ni ei gadw e'n Gymro a'r groten yn siarad Saesneg. Ie, yr ysgol wnaeth Saeson o'n plant ni.

Ysgolfeistr

Ni gydnabyddwn i'r ysgol fod ar fai, ar fai mawr hefyd, ond ar yr un pryd, 'd allwch chi'ch dau ddim dweud eich bod chi'n hollol rydd, oherwydd y mae yna rieni, heb fod yn ddim gwell Cymry na chi, sydd wedi llwyddo i gadw'r iaith ar yr aelwyd.



Daw Tomi i mewn â choed tân.

Tad

Oes y mae yna rai. (Yn troi at yr hogyn.) Tomi, put them sticks over by there.



Saif y meistr yn syn.

Ysgolfeistr

(wedi ei gynhyrfu) Oes, a fe fyddai'n llawer gwell ar les Tomi petaech chithe wedi gwneud yr un peth. Ydych chi'n sylweddoli beth ddywedsoch chi nawr wrth Tomi? "Put them sticks by there."

Tad

(heb ddeall) Pam, beth sydd o'i le yn hynny?

Ysgolfeistr

Tommy, get me your home-work book. I want to see that exercise I marked for you this morning.



Estyn Tomi y llyfr iddo.

Ysgolfeistr

Gwrandewch: Dyma frawddeg o stori fach a ysgrifennodd Tomi neithiwr, "And the fairy told the little girl, 'Don't leave them flowers by there'."



Dengys y frawddeg i'r gwr a daw'r wraig hithau edrych arni.

Tad

Beth sy' o'i le, Mr. Pritchard.

Mam

(yn syllu) Pam ych 'chi'n marco'r gair yna'n wrong? T-h-e-m—them, y mae hyna'n iawn, ond yw e?

Tad

A b-y—by, dyna'r ffordd i spelian by.

Ysgolfeistr

Oh, y mae'r ddau air wedi'u spelio'n iawn.

Tad

Wel, beth sy o'i le, ynte?

Ysgolfeistr

Wyddoch chi ddim?

Tad

Na wn i.

Mam

Na finne chwaith.

Ysgolfeistr

Fe'ch creda i chi'n rhwydd. Petawn i'n sgrifennu brawddeg Gymraeg anghywir fan hyn nawr, mwy na thebig y gallech chi ei chywiro hi, heb fedru rhoi llawer o reswm dros hynny, ond fe fyddech yn teimlo ei bod hi'n anghywir a gwybod beth fydde'n iawn. Welwch chi, y mae yna un peth nad ych chi'ch dau erioed wedi ei sylweddoli, sef yw hynny, bod eich Cymraeg chi'n ddigon gwell na'ch Saesneg chi.

Tad

(yn betrus) Cymrag Marged a fi'n well na'n Sisnag ni!

Ysgolfeistr

Ydi, yn anrhaethol well. Gwrandewch nawr o ddifri. Y mae yna ddigon o Saesneg gwael yn yr ardal yma gan bobl heb fedru yr un gair o Gymraeg, 'd oes mo'r help am hynny—ond pan fo Cymry glân fel chi yn llabyddio'r Saesneg yng nghlyw'r plant ar yr aelwyd, y mae hynny'n fwy na alla i ei ddal. Nid felly y mae hi bob amser, mi wn, ond dyna'r gwir yn aml iawn.

Tad

'R ych chi'n llym, Mr. Pritchard.

Ysgolfeistr

Falle mod i, ond dwy i ddim yn anheg. Siaradwch chi Gymraeg â Thomi ar yr aelwyd a fe wnewch ddwy gymwynas bwysig â mi. Yn gyntaf, fe fyddwch yn help i'r athro sy'n ceisio dysgu Cymraeg iddo, ac yn help mawr hefyd. Yn ail, fe fydd gyda ni lai o waith yn yr ysgol i gywiro a diddymu gwallau mewn Saesneg y mae Tomi yn eu codi yma ar yr aelwyd gyda chi. 'R wyn mynd nawr, ond beth am y fargen yna?

Tad

(wedi eiliad o feddwl) O'r gore, y mae'n fargen.

Ysgolfeistr

A chithe Mrs. Jones?

Mam

Ydi, y mae hi yn fargen.

Ysgolfeistr

Diolch yn fawr i chi.

Mam

Mr. Pritchard, glywsoch chi am yr hen wraig yna sy'n cerdded yr hewl gyda'r hwyr ac yn mynd o dŷ i dŷ?

Ysgolfeistr

O do, fu hi yma?

Mam

Naddo, a dwy i ddim am i gweld hi chwaith. Chwilio am blant y mae hi bob amser, medde nhw.

Ysgolfeistr

Does dim rhaid i chi ofni'r hen wraig, Mrs. Jones, os daw hi yma. Mwy na thebig y daw hi, oherwydd y mae hi wedi fy nilyn i i lawer man yn ddiweddar. Peidiwch â'i gwrthod hi. Y mae hi'n hofl iawn o blant. Nos dda nawr.

Tad a Mam

Nos dda, Mr. Pritchard.



YSGOLFEISTR yn mynd. Y mae Tomi yn edrych yn eì lyfr.

Tad

(yn edrych dros ysgwydd ei fab) Show me that...

Mam

Dyna ti eto, gyda bod y dyn yn troi ei gefen.

Tad

Dangos yr essay yna i mi.



Yr HOGYN yn edrych ar ei DAD a cheisio eì ddeall.

Mab

Say it again, Daddy.

Tad

(yn araf) Dangos... yr... essay...

Mab

(yn torri ar eì draws) You want to see that essay again. (yn troi'r dail) Dyma'r essay.

Tad

(yn chwerthin) Rhagorol Tomi, y mae dod i ti, fachgen! (Yn darllen) And the fairy told the little girl, "Dont leave them flowers by there." Wyddost ti beth sy o'i le fanna?



Yr HOGYN heb ddeall.

Mam

(hithau, erbyn hyn, yn edrych dros ei ysgwydd gyda'r tad) What's wrong about that Tomi?

Mab

You mustn't say "them flowers", but "those flowers" and you mustn't say "by there" but "there". "Dont leave those flowers there." See?

Mam

Wel ie, hefyd, erbyn meddwl.

Tad

Ha, ha, erbyn meddwl yn wir!

Mam

Bydd di ddistaw, da thi, dy Sisnag di sy gan Tomi yn 'i waith.

Tad

Ho yn wir, fy Sisnag i! Does dim lle gen ti i glochdan, fe fentra i fod yna ddigon o dy Sisnag ditha yma hefyd. What else can you do, Tomi?

Mam

Dyma ti eto.

Tad

Ond beth wnawn ni? Dyw'r crotyn ddim yn diall Cymraeg. (Yn siarad yn araf) Elli... di... ganu yn... Gymraeg?

Mab

Canu... sing? Yes.

Tad

Wel, gad ifi dy glywed di'n canu.

Mab

You want me to sing in Welsh.

Tad

Odw.



Saif Towr ar ganol y llawr i ganu "Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf", ond cyn iddo allu gorffen y pennill cyntaf dyry'r MAM ysgrech a neidia i ymaflyd ynddo.

Mam

(yn wyllt) William, wel di hi? Dyna hi, yn y ffenest?

Tad

(yn syn) Pwy? Wela i neb.

Mam

Yr hen wraig. Y mae hi wedi mynd nawr.



Saif y tri am ennyd heb symud. Yna daw dau ergyd pendant ar y drws.

Mam

Dyw hi ddim i ddod mewn yma, cofia. (Yn dal yn dyn yn yr HOGYN.)

Tad

(yn symud tua'r drws) Paid â gwylltu, ferch, paid â gwylltu. Gad ini weld pwy sydd yna. (Egyr y drws).

Hen Wraig

Wnewch chi faddau i mi; dwy i ddim am aflonyddu arnoch, ond ai eich hogyn bach chi oedd yn canu nawr?

Tad

Ie.

Hen Wraig

Gaf fi ddod mewn i'w glywed e os gwelwch chi'n dda?

Mam

Na William, dyw hi ddim i ddod mewn yma.

Hen Wraig

O peidiwch â ngwrthod i. Rwy wedi cael derbyniad mewn pedwar man o'r newydd heno, a chroeso mawr.



Symud y FAM yn nes i'r drws gan gadw'r Hogyn tucefn iddi.

Mam

Beth ych chi'n mofyn? Does yma ddim i'w roi ichi. Dynion tlawd ŷn ni.

Hen Wraig

Fy merch annwyl i, nid cardota rwyf fi. Fe fyddaf fi'n arfer rhoi llawer mwy nag y byddaf yn ei dderbyn.

Tad

Beth yw'ch neges chi ynte?

Hen Wraig

Dim ond cael dod mewn ac aros gyda chi am dipyn ar yr aelwyd.

Tad

O'r gore, dewch mewn.



Daw'r HEN WRAIG i mewn. Gwisg fantell fawr a llaes sy'n ei gorchuddio bron yn gyfangwbl o'i choryn i'w thraed. Nid oes fawr o'i hwyneb i'w weled, oherwydd y mae'r fantell fel bargod dros eì thalcen. Y mae hynny o wallt sydd i'w weled ganddi yn wyn. Ymddengys yn hen iawn ac eto y mae yna urddas nodedig yn ei hosgo a'i cherddediad. Ar y dechrau y mae ei llais yn wan, er yn glir ac yn felus i'r glust—rhywbeth dymunol iawn, ychydig yn uwch na sibrwd.

Dylid gwneuthur ffigiwr mor urddasol ag sy bosibl o'r wraig hon. Ni thâl taflu unrhyw fath o glogyn rywsut amdani. Dylid trefnu'r fantell yn ofalus yn ol y dull clasurol, yn addurnol a syml. Y mae hyn yn bwysig iawn.

Mam

(wedi ymwroli tipyn) Dewch ymlaen i'r aelwyd. Eisteddwch.

Hen Wraig

Diolch yn fawr. (Yn eistedd).

Mam

Dynnwch chi'ch clogyn?

Hen Wraig

Ddim ar unwaith, diolch i chi. Rwyf wedi bod allan yn yr oerfel yn ddiweddar a rwyn gorfod bod yn ofalus iawn. Wedi imi gynhesu tipyn efallai y gallaf ddiosg y fantell.

Tad

Fuoch chi'n galw mewn llawer o dai heno?

Hen Wraig

Do, ddwsin neu fwy. Dyma'r noson orau yr wyf wedi ei chael ers amser maith. Chauodd neb y drws yn fy wyneb, a fe ges i fynd â'r plant i'r gwely mewn sawl man heno.

Mam

Nid un o'r lle yma ych chi?

Hen Wraig

Mi fum i yn yr ardal yma flynyddoedd mawr yn ôl a thipyn o lewych arnai, ond fe gollais lawer o fy meddiannau.

Tad

Colli ffortiwn, aie? Pwy aeth a hi oddiarnoch chi?

Hen Wraig

Fy mhlant i fy hun yn fwy na neb.

Mam

Dyna blant diddiolch a di-gwilydd.

Tad

Rwyn gyfarwydd iawn â'ch llais chi ond 'd alla i ddim meddwl pwy ych chi, chwaith.

Hen Wraig

Fe fu amser pan y byddech chi'n clywed fy llais i o fore tan nos. Rwyn mynd nôl bymtheg mlynedd ar hugain a gweld aelwyd yn Sir Aberteifi. Y mae dau o'r plant, bachgen a merch yn chwarae wrth draed y fam sy'n gweu gerllaw'r tân tra mae'r hogyn ienga ar lin ei dad yn ceisio dysgu darllen Cymraeg. Elin oedd enw'r ferch, John oedd enw'r mab hynaf, a wyddoch chi beth oedd enw'r llall?

Tad

(yn syn) Gwn. William oedd enw'r llall, (yn sobr) a fi yw hwnnw.

Hen Wraig

Yn gyfarwydd â fy llais i! Glywsoch chi unrhyw lais ar yr aelwyd honno erioed ond fy llais i? Ac nid yn unig ar yr aelwyd ond mewn capel, ffair a marchnad, beth arall glywech chi drwy gydol y dydd? A phan fyddai'r bugail, gyda'r nos yn galw ar ei gwn ar ben y mynydd draw, llais pwy glywech chi? Fy llais i. Gwelaf aelwyd arall, yng nghwm Tawe. Y mae yno bedwar o blant a dim ond mam. Nid yw'r ddau blentyn iengaf yn cofio dim am eu tad ond y mae yna gadair dderw hardd iawn yn y parlwr ac y mae'r fam wedi adrodd droion lawer, sut yr enillodd y tad y gadair mewn eisteddfod a dod â hi adre. Wn i yn y byd beth yw hanes y gadair erbyn hyn.

Mam

(yn ddwys) Y mae'r gadair... yma... gen i.

Hen Wraig

Y maer gadair yma gennych chi. Ellwch chi sefyll o flaen y gadair yna, fy merch i, ac yna feddwl am eich plant, heb wrido? Ond beth dâl siarad? Rwyn anghofio'r plant. Nhw sy'n bwysig nawr. Gaf fi glywed yr hogyn yn canu pennill? (Wrth yr HOGYN) Beth yw eich henw chi?

Mab

(fel y dysgwyd ef yn yr ysgol) Thomas Henry Jones yw fy enw i.

Hen Wraig

Wnewch chi ganu, Tomi?

Mab

Canu... sing? (yn edrych ar ei rieni).



Amneidia ei FAM arno i ganu. Gwna yntau.

Mab
Mi glywais fod yr hedydd
Wedi marw ar y mynydd.
Pe gwyddwn i mai gwir y geirie,
Awn â gyrr o wŷr ac arfe
I gyrchu corff yr hedydd adre.



Daw'r FERCH i mewn.

Hen Wraig

Swynol iawn, Tomi. A dyma'r ferch. Beth yw eich enw chi?

Merch

(yn ffurfiol) Olwen yw fy enw i.

Hen Wraig

Olwen. Pedair meillionen wen a dyfai yn ôl ei throed pa le bynnag yr elai. Ac am hynny y gelwid hi Olwen. Ellwch chi ganu, Olwen?

Tad

Na, 'd yw Olwen fawr iawn am ganu, ond y mae hi'n gallu adrodd.

Hen Wraig

Da iawn, 'rych chi wedi dysgu iddi adrodd?

Tad

Wel na, yn yr ysgol y dysgodd hi.

Hen Wraig

Wnewch chi adrodd, Olwen.

Merch

(yn edrych ar eî thad) Recite?



Yntau'n amneidio. Edrydd Olwen: "Toriad y Dydd".

Merch
'Rwy'n hoffi cofio'r amser,
Ers llawer blwyddyn faith,
Pan oedd pob Cymro'n Gymro gwir
Yn caru'i wlad a'i iaith;
Llefarai dewr arglwyddi
Ein cadarn heniaith ni,
Parablai arglwyddesau heirdd
Ei pheraidd eiriau hi;
Pan glywid yn y neuadd
Y mwynion dannau mân,
Mor fwyn yr eiliai gyda hwy
Ragorol iaith y gân.
Ond wedi hyn trychineb
I'r hen Gymraeg a fu,
Ymachlud wnaeth ei disglaer haul,
Daeth arni hirnos ddu.

Hen Wraig

Do, fu hi bron â darfod amdanai y pryd hwnnw.

Tad

Wel, y mae'n rhaid eich bod chi'n hen iawn.

Hen Wraig

Yn hen! Ydwyf, 'rwyn hen iawn. Ond...



Cwyd yr hen wraig a chyda hynny, treigla'r fantell a'r gwallt gwyn i'r llawr a datguddio benyw ifanc brydferth iawn yn sefyll ar yr aelwyd, yn llawn nwyf a hoen.

Hen Wraig

... rwy'n ifanc hefyd. Ewch ymlaen, Olwen.

Merch
O'r plasau a'r neuaddau
Fe'i gyrrwyd dan ei chlais;
Arglwyddi, arglwyddesau beilch
Sisialodd iaith y Sais;
A phrydferth iaith y delyn
Fu'n crwydro'n wael ei ffawd,
Ond clywid eto seiniau hoff
Ym mwth y Cymro tlawd;
Meithrinodd Gwerin Cymru
Eu heniaith yn ei chlwy,
Cadd drigo ar eu tafod fyth,
Ac yn eu calon hwy—.

Hen Wraig

Eto, Olwen, eto... "Meithrinodd gwerin Cymru... "

Merch
Meithrinodd gwerin Cymru
Eu heniaith yn ei chlwy,

Hen Wraig

Glywsoch chi? Dyna ichi amod mwya pendant fy nghadw i yn fyw, fy meithrin gan werin. Heb hynny, 'd allaf fi byth adnewyddu fy ieuenctid, fel hyn, o oes i oes, heb fy meithrin gan werin. Ydych chi'n deall?

Tad

Ydw.

Hen Wraig

Gaf fi orffen y darn, Olwen.



Edrydd gydag arddeliad mawr.

Hen Wraig
Gogoniant mwy gaf eto
A pharch yng Nghymru fydd;
Mi welaf ddisglair oleu 'mlaen,
A dyma doriad dydd!



LLEN.

Drama un-act