|
|
|
(Mrs Lloyd) 'Rwyt ti wedi dod o'r diwedd, 'te, Dilys fach. |
|
|
|
(Mrs Lloyd) Ti fuost yn hir iawn. |
(1, 0) 4 |
Do, 'mam. |
(1, 0) 5 |
Cwrddais â'r hen Athro, a 'doedd dim posib cael ei wared. |
(1, 0) 6 |
Bum am dro hir yn y car gydag 'e. |
|
(Mrs Lloyd) 'Roedd e'n falch dy weld ar ôl tri mis, debyg iawn. |
|
|
|
(Mrs Lloyd) 'Roedd e'n falch dy weld ar ôl tri mis, debyg iawn. |
(1, 0) 8 |
Oedd. |
|
|
(1, 0) 10 |
'|Roedd| e'n anfodlon 'mod i allan pan alwodd e' neithiwr. |
(1, 0) 11 |
'Rwy'n mynd i'r Ginio gydag e' heno. |
(1, 0) 12 |
Mae e'n un sŵn am i mi gwrdd â'i gyfaill, y nofelydd. |
|
(Mrs Lloyd) Mae e' wedi siarad llawer yma am John Gray, hefyd. |
|
|
|
(Mrs Lloyd) Mae e' wedi siarad llawer yma am John Gray, hefyd. |
(1, 0) 14 |
A phrynais i ddim ffrwythau i chi wedi'r cyfan. |
(1, 0) 15 |
Dwedodd yr Athro y daw e â rhai i chi heno. |
|
(Mrs Lloyd) Mae e'n garedig iawn. |
|
|
|
(Mrs Lloyd) Gwyddost y bydd Jane yn anfodlon iawn dy fod yn gwario ar sigarets. |
(1, 0) 20 |
Yr Athro roddodd 'nhw i fi. |
(1, 0) 21 |
Llanwodd y câs yma, chwarae teg iddo. |
|
(Mrs Lloyd) Ddylet ti ddim gadael iddo roi popeth i ti, fel yna. |
|
|
|
(Mrs Lloyd) Ddylet ti ddim gadael iddo roi popeth i ti, fel yna. |
(1, 0) 23 |
Mae e'n gwybod am Jane. |
(1, 0) 24 |
'Does ryfedd ei fod yn cymryd trugaredd arnaf i. |
|
|
(1, 0) 26 |
Edrychwch beth a brynais i, Mam. |
(1, 0) 27 |
On'd yw'r ffrog fach yma'n bert? |
(1, 0) 28 |
Digwyddais ei gweld yn siop Morgan. |
(1, 0) 29 |
Mae yn fy nharo i'r dim. |
|
(Mrs Lloyd) Ydi, mae pinc yn dy weddu di bob amser. |
|
|
|
(Mrs Lloyd) Ydi, mae pinc yn dy weddu di bob amser. |
(1, 0) 31 |
A mae eisiau ffrogiau arnaf yn druenus. |
(1, 0) 32 |
'Does gen i ddim byd i'w wisgo. |
|
(Mrs Lloyd) Dilys, Dilys! |
|
|
|
(Mrs Lloyd) Beth oedd yr holl baciau a ddaeth adre ddoe, 'te? |
(1, 0) 35 |
Dim ond crugiau o bethau hen-ffasiwn wedi crynhoi er pan wyf yn y Coleg. |
|
|
(1, 0) 37 |
Rwy'n leicio hon, ond fod eisiau ei chwtogi dipyn. |
|
|
|
(Mrs Lloyd) Ydi Jane wedi ei gweld? |
(1, 0) 40 |
Nag yw, eto. |
(1, 0) 41 |
Pa wahaniaeth am Jane os y'ch chi'n fodlon i mi ei chael? |
(1, 0) 42 |
Gellid meddwl mai hi yw'r fam a chwithau'n neb... a 'dyw Jane yn cymryd dim diddordeb mewn dillad newydd. |
(1, 0) 43 |
Efallai y byddaf innau'r un fath â hi yn ddeugain oed, ond 'rwy'n meddwl wir y dylwn gael pethau pert yn un-ar-hugain. |
|
(Mrs Lloyd) O'r gorau, o'r gorau. |
|
|
|
(Mrs Lloyd) Mae hi wedi oeri a... |
(1, 0) 50 |
O dyna fwstwr. |
(1, 0) 51 |
Edrychwch beth y'ch chi'n wneud, wnewch chi'; sarnu'r glo ar y carped. |
(1, 0) 52 |
A ble mae'ch capan chi, eto? |
(1, 0) 53 |
Beth ddwedais i'r bore 'ma? |
|
(Letitia) Dwedodd Miss Lloyd nad oedd dim raid i mi ei wisgo, am ei fod yn mynd ar dro o hyd. |
|
|
|
(Letitia) Dwedodd Miss Lloyd nad oedd dim raid i mi ei wisgo, am ei fod yn mynd ar dro o hyd. |
(1, 0) 55 |
'Chlywais i erioed y fath ddwli! |
(1, 0) 56 |
Ewch i'w 'nôl ar unwaith. |
|
(Mrs Lloyd) Gad iddi, Dilys. |
|
|
|
(Mrs Lloyd) Gad iddi, Dilys. |
(1, 0) 58 |
Na wna, wir. |
(1, 0) 59 |
Cerwch Letitia. |
|
(Letitia) Dyma fe yn fy mhoced {yn ei dynnu allan} os yw'n rhaid i mi ei wisgo. |
|
|
|
(Letitia) Dyma fe yn fy mhoced {yn ei dynnu allan} os yw'n rhaid i mi ei wisgo. |
(1, 0) 61 |
Yr arswyd! |
(1, 0) 62 |
Dyma drefen ar gapan. |
(1, 0) 63 |
Gaf i ei osod i chi? |
(1, 0) 64 |
Does gennych chi ddim clem. |
|
|
(1, 0) 66 |
Dyna chi 'nawr. |
(1, 0) 67 |
Wyddys yn y byd pwy ddaw yma. |
(1, 0) 68 |
Glanhaewch y carped cyn mynd at y tân. |
|
(Mrs Lloyd) Onibai fod dy Fodryb Tabitha i ffwrdd, byddai hi'n siŵr o ddod yma ar gyfer dy benblwydd, yfory. |
|
|
|
(Mrs Lloyd) Mae hi'n dy leicio di. |
(1, 0) 71 |
Ydi, 'rhen feuden, am fy mod mor debyg iddi hi—yn helpo! |
(1, 0) 72 |
Mae hi'n leicio gwledd penblwydd yn iawn, ond leiciodd hi ddim rhoi dim i mi erioed. |
|
|
(1, 0) 74 |
"Dilys fach, 'rown i wedi |meddwl| prynu" |
|
|
(1, 0) 76 |
o, pob math o ffrogiau i mi, ond, druan â fi! |
(1, 0) 77 |
Byddwn wedi fy ngwisgo fel Efa o ran ei meddyliau hi. |
|
(Mrs Lloyd) 'Nawr, 'nawr, Dilys! |
|
|
|
(Mrs Lloyd) 'Nawr, 'nawr, Dilys! |
(1, 0) 79 |
Mae'n eitha gwir. |
(1, 0) 80 |
Feddyliodd hi erioed am agor ei phwrs, er cymaint sydd ynddo. |
|
|
(1, 0) 82 |
Byddwch ddistaw, Letitia. |
(1, 0) 83 |
'Rown i ddim yn siarad â chi. |
|
(Mrs Lloyd) Ddylet ti ddim siarad fel 'na o gwbl, Dilys. |
|
|
|
(Mrs Lloyd) Ddylet ti ddim siarad fel 'na o gwbl, Dilys. |
(1, 0) 86 |
Dyna rywun wedi dod. |
(1, 0) 87 |
Cer'wch Letitia, ond dewch chi â gwybod pwy sydd yna cyn dweud 'mod i i mewn, cofiwch. |
|
(Letitia) Gwnaf, Miss Dilys. |
|
|
(1, 0) 92 |
Pwy sydd yna, wn i! |
(1, 0) 93 |
Mi âf i i'r llofft os mai rhywun i'ch gweld chi, 'mam, sydd yna. |
|
(Mrs Lloyd) Tebyg mai gwaith teipio i Jane sydd yna oddi wrth yr Athro. |
|
|
|
(Tabitha) O, dyma hi! |
(1, 0) 106 |
Modryb Tabitha! |
(1, 0) 107 |
Dewch ymlaen. |
|
(Mrs Lloyd) Dyma syndod! |
|
|
|
(Letitia) {Yn chwerthin.} |
(1, 0) 116 |
Rhag c'wilydd i chi—yn siarad â phobol dierth—a—ac ymddwyn fel yna; ond 'does dim dysgu arnoch chi. |
(1, 0) 117 |
Rhaid iddi gael mynd oddiyma, mam. |
|
(Mrs Lloyd) Na, sonia Jane ddim am ei gollwng. |
|
|
|
(Mrs Lloyd) Na, sonia Jane ddim am ei gollwng. |
(1, 0) 119 |
Glywsoch chi, Modryb Tabitha? |
(1, 0) 120 |
Jane yw'r feistres yma, nid mam. |
(1, 0) 121 |
Peidiwch anghofio hynny... |
(1, 0) 122 |
Gaf i fynd â'ch hat a'ch cot? |
|
(Tabitha) Cewch, wir. |
|
|
|
(Tabitha) Dod i'ch gweld chi wnes i'n bennaf. |
(1, 0) 133 |
Da iawn, Modryb Tabitha. |
(1, 0) 134 |
Pryd ddaethoch chi 'nôl? |
|
(Tabitha) Dydd Mercher, a chlywais eich bod chi wedi gorffen yn y Coleg, ac 'rwy'n cofio bod eich penblwydd yfory, {yn chwareus} ac 'rwyf am (LETITIA'n codi oddi wrth ei gwaith, i wrando'n ben-agored} 'rwyf am roi cyngor neu ddau i chi ar ddechrau'ch gyrfa. |
|
|
|
(Letitia) 'Rown i'n meddwl... |
(1, 0) 138 |
Cer'wch i'r gegin ar unwaith, groten. |
|
(Letitia) O'r gorau, Miss Dilys, ond chi ddwedodd mai... |
|
|
|
(Tabitha) Ac os yw Dilys yn un am wario, pwysica'n y byd iddi ofalu cychwyn ar y ffordd iawn i gael digon o fodd, ynte? |
(1, 0) 149 |
Mi wn i nad oes dim yn well nag arian, beth bynnag, ond oes dim posib â'i gael yn y tŷ 'ma. |
(1, 0) 150 |
Jane sy'n cadw'r pwrs. |
|
(Mrs Lloyd) 'Nawr Dilys, fe gest ti arian i brynu ffrog bert heddiw. |
|
|
|
(Mrs Lloyd) 'Nawr Dilys, fe gest ti arian i brynu ffrog bert heddiw. |
(1, 0) 152 |
Ond oedd dim diolch i Jane. |
(1, 0) 153 |
Cael arian i brynu ffrwythau a phethau i chi, 'mam, wnes i, ond gan fod yr Athro wedi dweud y byddai ef yn dod â rheini, heno, prynais y ffrog fach yma. |
(1, 0) 154 |
Saith a chwech gostiodd hi. |
|
(Tabitha) O, yr Athro, ai e? |
|
|
|
(Mrs Lloyd) Ydi, mae'r Athro'n garedig iawn. |
(1, 0) 161 |
'Rych chi, Modryb Tabitha, yn lwcus i gael digon o arian. |
|
(Tabitha) Fe gewch chithau ddigon ond i chi roi'ch meddwl ar hynny. |
|
|
|
(Mrs Lloyd) Na, na, ond oedd Rhagluniaeth yn gofalu... gweld eisiau dim. |
(1, 0) 177 |
Siaredwch drosoch eich hunan, 'mam. |
(1, 0) 178 |
Rwyf i wedi gweld eisiau digon o bethau. |
|
(Tabitha) Rhaid i chi beidio sylwi ar eich mam â'i "gofal Rhagluniaeth." |
|
|
|
(Tabitha) Dyna fydd saffa i chi. |
(1, 0) 182 |
'Rwy'n ofni nad wyf i wedi fy stofi i weithio, Modryb Tabitha, er fod Jane yn un sŵn am i mi wneud. |
(1, 0) 183 |
Ddof i byth yn gyfoethog, os na briodaf arian, 'rwy'n siŵr. |
|
(Tabitha) Gofalwch wneud hynny, 'te. |
|
|
|
(Tabitha) Gofalwch wneud hynny, 'te. |
(1, 0) 185 |
Gallaf addo na phriodaf ddyn tlawd, beth bynnag. |
(1, 0) 186 |
Dyma Jane yn dod. |
|
(Tabitha) Helo, Jane, sut y'ch chi? |
|
|
|
(Tabitha) Rhaid iddi beidio â bod yn hen ferch fel chi a minnau. |
(1, 0) 192 |
Dim peryg, diolch. |
|
(Jane) Na, mae gan Dilys ddigon o feddwl am briodi, a phriodi arian, heb i chi ei chymell, Modryb. |
|
|
|
(Jane) Byddai'n foethyn iddi feddwl am rywbeth arall, 'rwy'n tybio—meddwl am ennill, er enghraifft. |
(1, 0) 195 |
Dyna hi, Modryb Tabitha. |
(1, 0) 196 |
Ddoe y deuthum adre, a does dim taw ar Jane am i mi fynd i ennill. |
|
(Jane) Mae'n rhyfedd bod eisiau sôn am hynny, wedi i ti gael yr holl ysgol a choleg. |
|
|
|
(Mrs Lloyd) Rhaid i Dilys gael tipyn o wyliau'n gyntaf Jane, ac yna, daw i ennill yn dda i ni. |
(1, 0) 201 |
Mae Jane wedi ennill digon hyd yn hyn. |
(1, 0) 202 |
Pam mae eisiau i bethau newid? |
|
(Tabitha) 'Does dim o'r ddawn at weithio gan bawb, Jane. |
|
|
|
(Jane) Fe ddysgodd 'nhad y ffordd i mi i weithio, beth bynnag, a 'chydig o goleg fyddet ti, Dilys, wedi weld onibai hynny. |
(1, 0) 212 |
'Does dim eisiau i chi ddannod mai chi sy'n ein cynnal. |
(1, 0) 213 |
Mae'n gywilydd i chi. |
|
(Jane) 'Ddanodais i erioed. |
|
|
|
(Jane) Teipio llythyr y mae hi 'nawr, ond fe gaiff fynd at y te yn union. |
(1, 0) 231 |
Dyna reswm dros gadw'r fath forwyn, ynte, Modryb? |
(1, 0) 232 |
Beth bynnag a all hi wneud, all hi ddim gneud tê. |
(1, 0) 233 |
Fe gewch ei gweld yn tendio wrth y ford. |
|
(Jane) Fe gei di weithio tê, os yw'n well gennyt, Dilys. |
|
|
|
(Jane) Chaiff Letitia ddim bod yn destun gwawd i ti. |
(1, 0) 236 |
Na, wnaf i ddim te, wir, i borthi diogi Letitia. |
|
(Mrs Lloyd) Tewch, wir, ferched. |
|
|
|
(Jane) Mi wnaf fy ngorau, Modryb... a fydd dim blâs copor arno i chi! |
(1, 0) 248 |
'Rych chi, Modryb, wedi gweld sut y mae arnaf i,—y caf fy ngyrru o gartre'n fuan iawn. |
|
(Mrs Lloyd) Na, na, Dilys fach. |
|
|
|
(Mrs Lloyd) Paid â siarad fel yna. |
(1, 0) 251 |
Bydd raid i mi chwilio am ŵr cynted â medra i 'te, neu fe wna Jane i mi fynd i ennill fy nhoc. |
|
(Tabitha) Fydd dim rhaid chwilio'n galed goelia 'i, gyda'ch wyncb chi, Dilys. |
|
|
|
(Tabitha) A phwy yw Oswald? |
(1, 0) 257 |
Peidiwch gwrando ar 'mam. |
(1, 0) 258 |
'Dyw Oswald yn ddim ond ffrind, a chaiff e ddim dod yn ddim mwy, chwaith. |
(1, 0) 259 |
Mae e'n dlotach na fi, os yw hynny'n bosibl. |
|
(Mrs Lloyd) 'Dyw e' naws tlotach nag oedd dy dad ym Moriah. |
|
|
|
(Tabitha) Dyna'r dyn i chi, 'te, Dilys. |
(1, 0) 269 |
'Rwyf yn ddigon hoffo'r Athro... ond... 'rwy'n ei weld yn rhy hen. |
|
(Tabitha) Hen, wir, mae e' ddeng mlynedd yn iau na mi, a ddwedai neb 'mod i'n hen. |
|
|
|
(Tabitha) Hen, wir, mae e' ddeng mlynedd yn iau na mi, a ddwedai neb 'mod i'n hen. |
(1, 0) 271 |
Wel, yr Athro gaiff e fod ynteu. |
(1, 0) 272 |
'Rwy'n gwybod y gallwn ei dwyllo ef i briodi pryd y mynnwyf. |
|
(Tabitha) {Yn eiddigeddus.} |
|
|
|
(Tabitha) Does dim fel bod yn ifanc. |
(1, 0) 276 |
Fe gawn i bopeth gan yr Athro, onibai fod Jane yn anfodlon. |
|
(Tabitha) Jane, wir! |
|
|
|
(Tabitha) Beth yw ei busnes hi? |
(1, 0) 279 |
Yr oedd e' am roi watsh aur i mi, y llynedd, pan ddeuthum i'm hoed, ond gwrthododd Jane ganiatau iddo. |
(1, 0) 280 |
Mynnodd hi roi un i mi, edrychwch, un arian—wrth gwrs. |
|
(Tabitha) Mae Jane yn afresymol. |
|
|
|
(Tabitha) Mae Jane yn afresymol. |
(1, 0) 282 |
Ydi. |
(1, 0) 283 |
Mae am fod yn feistres ar bawb. |
(1, 0) 284 |
'Chaf i byth ŵr os y caiff hi ei ffordd. |
|
(Mrs Lloyd) Mae Jane a minnau am i ti Dilys wylio rhag tramgwyddo'r Athro. |
|
|
|
(Tabitha) {Chwerthin a mynd at y ffrwythau eto}. |
(1, 0) 290 |
Mae e'n mynd â fi yn y car i'r ginio fawr yn y Oueen's heno. |
|
(Tabitha) Dyna i chi, wir! |
|
|
|
(Tabitha) Chwaraewch eich cardiau'n iawn, heno, ac yna fydd dim eisiau i chi ddioddef tafod Jane yn hir. |
(1, 0) 293 |
Dyna bechod nad oes gennyf ffrog newydd, |
|
(Mrs Lloyd) Ble mae'r un bert hynny gefaist adeg Nadolig? |
|
|
|
(Mrs Lloyd) Ble mae'r un bert hynny gefaist adeg Nadolig? |
(1, 0) 295 |
Mae e' wedi gweld honno o'r blaen, a... dyw hi ddim yn bert iawn. |
|
(Mrs Lloyd) Ydi wir. |
|
|
|
(Tabitha) Bum yn meddwl ei phrynu i chi. |
(1, 0) 301 |
Do fe, wir? |
|
(Tabitha) Do, 'merch i; ond meddyliais wedyn bod digon i'w cael gennych chi, efallai, a mae dillad yn mynd mor hen-ffasiwn. |
|
|
|
(Mrs Lloyd) Cer' di lan i 'nôl yr un sydd gen 'ti, Dilys fach. |
(1, 0) 305 |
O'r gorau,—ond nid wyf yn ei leicio o gwbl. |
|
(Tabitha) 'Trueni na fyddai ganddi ffrog newydd, hefyd. |
|
|
(1, 0) 323 |
Dyma'r ffrog, Modryb 'Tabitha, ond nid wyf yn ei leicio o gwbl. |
|
(Jane) Gwisg un arall 'te, Dilys. |
|
|
|
(Jane) Dewch 'nawr, wir, neu bydd y te yn... |
(1, 0) 327 |
Te, te! |
(1, 0) 328 |
Pa wahaniaeth am y te? |
(1, 0) 329 |
Beth alla i wisgo heno? |
|
(Jane) Ti ŵyr orau Dilys. |
|
|
|
(Jane) Ti ŵyr orau Dilys. |
(1, 0) 331 |
Ond 'does gen i ddim—dim byd newydd. |
(1, 0) 332 |
O Jane, rhowch fenthyg eich ffrog newydd i mi, heno, wir—os gwelwch yn dda, Jane. |
|
(Jane) Na wna, wir. |
|
|
|
(Jane) Nid wyf i wedi cael un ffrog ginio ers blynyddau, a thithau wedi cael un bob blwyddyn oddiar 'rwyt yn y Coleg. |
(1, 0) 336 |
Mae gen i reswm neilltuol dros bod ar fy ngorau, heno. |
|
(Tabitha) A 'does dim chwant arnoch chi i fynd o gwbl, Jane. |
|
|
|
(Jane) Ond mae'n rhaid iddi gael ffrog newydd! |
(1, 0) 351 |
A pheth arall, ddywedais i ddim wrthych chi, Modryb, ond dywedodd yr Athro y byddai John Gray yn dod i'r Ginio heno. |
(1, 0) 352 |
'Rwyf am edrych... |
|
(Tabitha) Beth, John Gray y nofelydd? |
|
|
|
(Tabitha) Beth, John Gray y nofelydd? |
(1, 0) 354 |
Ie, mae yr Athro yn gyfaill mawr iddo, ac y mae am i mi ei gyfarfod. |
|
(Jane) "John Gray" wir! |
|
|
|
(Jane) Bydd John Gray yn sylwi dim ar dy ffrog, gelli fentro. |
(1, 0) 357 |
Dyna sut y mae Jane yn fy ngwawdio bob amser. |
|
(Tabitha) Peidiwch bod fel yna, Jane. |
|
|
|
(Jane) Chi â'ch John Gray! |
(1, 0) 362 |
Mae Jane yn bychanu pawb. |
|
(Tabitha) Rhag cywilydd i chi, Jane, dyn sydd â'i enw ar wefusau pawb. |
|
|
|
(Jane) Wel dewch at eich te. |
(1, 0) 373 |
Ond a gaf i fenthyg eich ffrog, Jane? |
|
(Jane) {Gyda gwawd.} |
|
|
|
(Jane) Wel... gan ei bod hi mor bwysig i ti... cei. |
(1, 0) 376 |
O diolch yn fawr, Jane annwyl. |
(1, 0) 377 |
Mi'ch cofia i chi am hyn eto. |
|
(Tabitha) Dyna rywbeth 'nawr, Jane. |
|
|
|
(Jane) Mae popeth yn barod, ond mae'n rhaid i mi wneud tipyn bach o fusnes cyn te. |
(1, 0) 383 |
O'r gorau, Jane. |
(1, 0) 384 |
Cymrwch bwyll, Modryb Tabitha. |
(1, 0) 385 |
Dall mam ddim mynd mor gyflym. |
|
(Letitia) Chi ganodd y gloch, Miss Lloyd? |
|
|
(1, 0) 450 |
Yes, this is Miss Lloyd speaking. |
|
(Letitia) {Yn tynnu'r receiver oddi-wrthi.} |
|
|
(1, 0) 458 |
Dewch â hwnna i fi. |
|
(Letitia) {Wrth DILYS.} |
|
|
|
(Letitia) I will tell her... yes. |
(1, 0) 464 |
Dewch ag e i fi, y groten haerllug! |
|
(Letitia) Caewch 'ceg. |
|
|
(1, 0) 471 |
Yr hen un wirion â chi! |
(1, 0) 472 |
Mi gewch chi fynd oddi yma ar unwaith. |
(1, 0) 473 |
Chewch chi ddim aros yma ar unrhyw gyfrif. |
|
(Tabitha) Be sy'n bod? |
|
|
|
(Tabitha) Be mae Letitia'n wneud i chi? |
(1, 0) 481 |
Beth y'ch chi'n feddwl? |
(1, 0) 482 |
Fe dynnodd y ffôn oddi wrthyf, a mynnodd siarad ei hunan, ar fy ngwaetha'—y groten ddiwardd; ond 'chaiff hi ddim aros yma—'chaiff hi ddim, tae beth ddywed Jane. |
(1, 0) 483 |
Fe gaiff fynd.... |
|
(Letitia) 'Rwy'n golygu mynd. |
|
|
|
(Letitia) {Yn ei daflu ati.} |
(1, 0) 488 |
O, shwd beth erioed! |
|
(Tabitha) Yr hen sgampen fach! |
|
|
(1, 0) 494 |
Beth y'ch chi'n feddwl bod, yn enw dyn, os nad morwyn? |
(1, 0) 495 |
Oes priodas i fod? |
|
(Letitia) Oes, oes. |
|
|
|
(Letitia) Sut oech chi'n gwybod? |
(1, 0) 499 |
A phwy yw'r gwr lwcus? |
|
(Letitia) Yr Athro wrth gwrs. |
|
|
|
(Letitia) Yr Athro wrth gwrs. |
(1, 0) 501 |
Beth! |
|
(Tabitha) Celwydd golau! |
|
|
|
(Jane) Be sy'n bod, dwedwch? |
(1, 0) 515 |
Letitia sydd wedi bod yn fy nhrin a 'nhrafod i. |
|
(Tabitha) Mae colled wyllt ar Letitia. |
|
|
|
(Tabitha) Mae colled wyllt ar Letitia. |
(1, 0) 517 |
Mae'n rhaid iddi gael mynd ar unwaith. |
|
(Tabitha) Ond mae hi |yn| mynd, Dilys fach, i briodi'r Athro. |
|
|
|
(Tabitha) Ond mae hi |yn| mynd, Dilys fach, i briodi'r Athro. |
(1, 0) 519 |
A John Gray, cofiwch, Modryb Tabitha. |
|
(Jane) Beth sy'n bod, Letitia? |
|
|
|
(Letitia) Ysgrifennydd John Gray fydda i. |
(1, 0) 537 |
Be' ddwedsoch chi? |
|
(Tabitha) Hawyr bach! |
|
|
|
(Jane) Fe oedd yn darllen fy ngwaith, ac yn fy nghymell ymlaen. |
(1, 0) 555 |
Beth am 'mam a finnau, wedi i chi briodi? |
|
(Jane) Bydd arian y llyfr newydd i chi 'mam. |
|
|
|
(Mrs Lloyd) Mae'r Gair yn eitha' gwir, Tabitha—"Ti â'i cei ar ôl llawer o ddyddiau." |
(1, 0) 567 |
Mi âf i i'r drws, Letitia... |
(1, 0) 568 |
Oswald sydd yna. |
(1, 0) 569 |
Bydd cystal i mi fynd gydag ef i'r Ginio... {wrth y drws} a'r hen ffrog yna mae e'n leicio. |
(1, 0) 570 |
Gellwch chi, Jane, wisgo'ch ffrog newydd wedi'r cyfan. |