Drama un-act
Ⓗ 1941 Anna Percy Davis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.



DILYS yn dod i mewn.

Mrs Lloyd

'Rwyt ti wedi dod o'r diwedd, 'te, Dilys fach. Ti fuost yn hir iawn.

Dilys

Do, 'mam. Cwrddais â'r hen Athro, a 'doedd dim posib cael ei wared. Bum am dro hir yn y car gydag 'e.

Mrs Lloyd

'Roedd e'n falch dy weld ar ôl tri mis, debyg iawn.

Dilys

Oedd. (Yn chwerthin.) 'Roedd e'n anfodlon 'mod i allan pan alwodd e' neithiwr. 'Rwy'n mynd i'r Ginio gydag e' heno. Mae e'n un sŵn am i mi gwrdd â'i gyfaill, y nofelydd.

Mrs Lloyd

Mae e' wedi siarad llawer yma am John Gray, hefyd.

Dilys

A phrynais i ddim ffrwythau i chi wedi'r cyfan. Dwedodd yr Athro y daw e â rhai i chi heno.

Mrs Lloyd

Mae e'n garedig iawn.



DILYS yn tanio sigaret.

Mrs Lloyd

Paid a smocio, wir, Dilys. Gwyddost y bydd Jane yn anfodlon iawn dy fod yn gwario ar sigarets.

Dilys

Yr Athro roddodd 'nhw i fi. Llanwodd y câs yma, chwarae teg iddo.

Mrs Lloyd

Ddylet ti ddim gadael iddo roi popeth i ti, fel yna.

Dilys

Mae e'n gwybod am Jane. 'Does ryfedd ei fod yn cymryd trugaredd arnaf i. (Yn agor parsel.) Edrychwch beth a brynais i, Mam. On'd yw'r ffrog fach yma'n bert? Digwyddais ei gweld yn siop Morgan. Mae yn fy nharo i'r dim.

Mrs Lloyd

Ydi, mae pinc yn dy weddu di bob amser.

Dilys

A mae eisiau ffrogiau arnaf yn druenus. 'Does gen i ddim byd i'w wisgo.

Mrs Lloyd

Dilys, Dilys! Beth oedd yr holl baciau a ddaeth adre ddoe, 'te?

Dilys

Dim ond crugiau o bethau hen-ffasiwn wedi crynhoi er pan wyf yn y Coleg. (Yn edrych ar ei ffrog newydd.) Rwy'n leicio hon, ond fod eisiau ei chwtogi dipyn. (Yn mynd at y fasged-wnio.)

Mrs Lloyd

Ydi Jane wedi ei gweld?

Dilys

Nag yw, eto. Pa wahaniaeth am Jane os y'ch chi'n fodlon i mi ei chael? Gellid meddwl mai hi yw'r fam a chwithau'n neb... a 'dyw Jane yn cymryd dim diddordeb mewn dillad newydd. Efallai y byddaf innau'r un fath â hi yn ddeugain oed, ond 'rwy'n meddwl wir y dylwn gael pethau pert yn un-ar-hugain.

Mrs Lloyd

O'r gorau, o'r gorau. Galw Letitia i ddod â glo ar y tân wir.



LETITIA yn dod â glo.

Mrs Lloyd

Dyma chi ar y gair Letitia.. Mae hi wedi oeri a...



LETITIA yn sarnu glo â'r rhaw gyda swn mawr.

Dilys

O dyna fwstwr. Edrychwch beth y'ch chi'n wneud, wnewch chi'; sarnu'r glo ar y carped. A ble mae'ch capan chi, eto? Beth ddwedais i'r bore 'ma?

Letitia

Dwedodd Miss Lloyd nad oedd dim raid i mi ei wisgo, am ei fod yn mynd ar dro o hyd.

Dilys

'Chlywais i erioed y fath ddwli! Ewch i'w 'nôl ar unwaith.

Mrs Lloyd

Gad iddi, Dilys.

Dilys

Na wna, wir. Cerwch Letitia.

Letitia

Dyma fe yn fy mhoced (yn ei dynnu allan) os yw'n rhaid i mi ei wisgo.

Dilys

Yr arswyd! Dyma drefen ar gapan. Gaf i ei osod i chi? Does gennych chi ddim clem. (Yn gwneud.) Dyna chi 'nawr. Wyddys yn y byd pwy ddaw yma. Glanhaewch y carped cyn mynd at y tân.

Mrs Lloyd

Onibai fod dy Fodryb Tabitha i ffwrdd, byddai hi'n siŵr o ddod yma ar gyfer dy benblwydd, yfory. Mae hi'n dy leicio di.

Dilys

Ydi, 'rhen feuden, am fy mod mor debyg iddi hi—yn helpo! Mae hi'n leicio gwledd penblwydd yn iawn, ond leiciodd hi ddim rhoi dim i mi erioed. (Yn ei dynwared.) "Dilys fach, 'rown i wedi meddwl prynu" {Yn ei llais ei hun.) o, pob math o ffrogiau i mi, ond, druan â fi! Byddwn wedi fy ngwisgo fel Efa o ran ei meddyliau hi.

Mrs Lloyd

'Nawr, 'nawr, Dilys!

Dilys

Mae'n eitha gwir. Feddyliodd hi erioed am agor ei phwrs, er cymaint sydd ynddo.



LETITIA yn chwerthin yn iachus.

Dilys

Byddwch ddistaw, Letitia. 'Rown i ddim yn siarad â chi.

Mrs Lloyd

Ddylet ti ddim siarad fel 'na o gwbl, Dilys.



Cloch y drws yn canu.

Dilys

Dyna rywun wedi dod. Cer'wch Letitia, ond dewch chi â gwybod pwy sydd yna cyn dweud 'mod i i mewn, cofiwch.

Letitia

Gwnaf, Miss Dilys. (Yn mynd.)

Dilys

(o flaen y drych) Pwy sydd yna, wn i! Mi âf i i'r llofft os mai rhywun i'ch gweld chi, 'mam, sydd yna.

Mrs Lloyd

Tebyg mai gwaith teipio i Jane sydd yna oddi wrth yr Athro. Mae e'n dod â rhyw waith iddi bob dydd, fynychaf.



Mae siarad mawr tu allan. Yna clywir LETITIA.

Letitia

(Y tu allan.) Arhoswch fanna wnewch chi, nes yr âf i ofyn iddi a yw hi i mewn. Hi fydd yn ynfyd os dewch chi ar ei thraws a hithau ddim i mewn. (Yn ymddangos â'i chapan ar dro.} Rhyw hen fenyw, hyll, rhyfedda, sydd yna. Mae hi'n pallu dweud ei henw, ac yn pallu aros allan.



Modryb TABITHA yn dod i mewn.

Tabitha

O, dyma hi!

Dilys

Modryb Tabitha! Dewch ymlaen.

Mrs Lloyd

Dyma syndod! Dewch ymlaen, Tabitha.

Tabitha

Meddyliais i na chawn i ddim dod o gwbl gyda'r creadur bach gwirion 'na.

Letitia

(Yn chwerthin.) 'Ta' chi'n dweud mai Modryb Tabitha oe'ch chi! (Yn chwerthin.) Rwyf wedi clywed digon amdanoch chi. (Yn chwerthin.)

Dilys

Rhag c'wilydd i chi—yn siarad â phobol dierth—a—ac ymddwyn fel yna; ond 'does dim dysgu arnoch chi. Rhaid iddi gael mynd oddiyma, mam.

Mrs Lloyd

Na, sonia Jane ddim am ei gollwng.

Dilys

Glywsoch chi, Modryb Tabitha? Jane yw'r feistres yma, nid mam. Peidiwch anghofio hynny... Gaf i fynd â'ch hat a'ch cot?

Tabitha

Cewch, wir. (DILYS yn gwneud) Wel, sut y'ch chi Mary ers llawer dydd?

Mrs Lloyd

'Rwy'n dal yn o debyg, diolch, ond i mi gael bod yn llonydd yn y gadair. Rych chithau'n iawn?

Tabitha

'Dwy byth yn caru achwyn, fel y gwyddoch.



DILYS yn dychwelyd.

Tabitha

Dewch ymlaen, Dilys fach. Rych chi'n bertach nag erioed, beth bynnag. Dod i'ch gweld chi wnes i'n bennaf.

Dilys

Da iawn, Modryb Tabitha. Pryd ddaethoch chi 'nôl?

Tabitha

Dydd Mercher, a chlywais eich bod chi wedi gorffen yn y Coleg, ac 'rwy'n cofio bod eich penblwydd yfory, (yn chwareus) ac 'rwyf am (LETITIA'n codi oddi wrth ei gwaith, i wrando'n ben-agored} 'rwyf am roi cyngor neu ddau i chi ar ddechrau'ch gyrfa.

Letitia

Ho! Dyna i gyd. 'Rown i'n meddwl...

Dilys

Cer'wch i'r gegin ar unwaith, groten.

Letitia

O'r gorau, Miss Dilys, ond chi ddwedodd mai... DILYS: Cer'wch.



LETITIA yn mynd gyda chryn fwstwr.

Tabitha

Gwyddoch mai chi, Dilys, yw fy ffafret i erioed. Yr ydych mor debyg i fi.

Mrs Lloyd

Nag ydi, wir, Tabitha, ddim tebyg i chi. Fe fyn Dilys wario'r geiniog olaf.

Tabitha

O ran golwg, 'rwy'n feddwl.

Mrs Lloyd

O, efallai!

Tabitha

Ac os yw Dilys yn un am wario, pwysica'n y byd iddi ofalu cychwyn ar y ffordd iawn i gael digon o fodd, ynte?

Dilys

Mi wn i nad oes dim yn well nag arian, beth bynnag, ond oes dim posib â'i gael yn y tŷ 'ma. Jane sy'n cadw'r pwrs.

Mrs Lloyd

'Nawr Dilys, fe gest ti arian i brynu ffrog bert heddiw.

Dilys

Ond oedd dim diolch i Jane. Cael arian i brynu ffrwythau a phethau i chi, 'mam, wnes i, ond gan fod yr Athro wedi dweud y byddai ef yn dod â rheini, heno, prynais y ffrog fach yma. Saith a chwech gostiodd hi.

Tabitha

O, yr Athro, ai e? Mae e'n dal yn ffyddlon o hyd, ydi e'? Mae'n dda 'na phrynais i ffrwythau i chi, Mary fach. Bum bron â phrynu sypyn mawr o grapes hyfryd i chi, ond, dyna fe, aent yn ofer, os yw'r Athro'n dod â rhai, hefyd.



Yn mynd at y bwrdd ac yn helpu ei hunan o'r ffrwythau.

Mrs Lloyd

Ydi, mae'r Athro'n garedig iawn.

Dilys

'Rych chi, Modryb Tabitha, yn lwcus i gael digon o arian.

Tabitha

Fe gewch chithau ddigon ond i chi roi'ch meddwl ar hynny. Doedd eich tad—ond 'roech chi'n rhy ifanc i'w gofio—'doedd e'n meddwl dim am arian. Gweithio'n galed ac ennill dim fynnai ef.

Mrs Lloyd

'Roedd Mostyn yn ddyn da, Tabitha. Peidiwch...

Tabitha

Byddai yn ddyn gwell pe bae wedi darparu ar gyfer ei deulu, goelia i, yn lle eu gadael heb ddim.

Mrs Lloyd

'Dallsai Mostyn ddim help, druan!

Tabitha

Gallsai help yn iawn—mynnu gadael ei swydd a mynd i bregethu! Heblaw hynny, faint weithiodd e am ddim, gyda'r hen bapur hynny o dan ei olygiaeth?

Mrs Lloyd

Mostyn wyddai orau, â...

Tabitha

Twt!

Mrs Lloyd

Mae Rhagluniaeth wedi gofalu amdanom. 'Roedd hi'n dynn ar y dechrau, ond fu dim rhaid derbyn help gan neb...

Tabitha

Wel, oedd dim disgwyl i mi...

Mrs Lloyd

Na, na, ond oedd Rhagluniaeth yn gofalu... gweld eisiau dim.

Dilys

Siaredwch drosoch eich hunan, 'mam. Rwyf i wedi gweld eisiau digon o bethau.

Tabitha

Rhaid i chi beidio sylwi ar eich mam â'i "gofal Rhagluniaeth." Gofalwch chi amdanoch eich hunan. Dyna fydd saffa i chi.

Dilys

'Rwy'n ofni nad wyf i wedi fy stofi i weithio, Modryb Tabitha, er fod Jane yn un sŵn am i mi wneud. Ddof i byth yn gyfoethog, os na briodaf arian, 'rwy'n siŵr.

Tabitha

Gofalwch wneud hynny, 'te.

Dilys

Gallaf addo na phriodaf ddyn tlawd, beth bynnag. Dyma Jane yn dod.



JANE yn dod i mewn.

Tabitha

Helo, Jane, sut y'ch chi?

Jane

Da iawn, diolch, Modryb Tabitha.

Tabitha

Siarad 'rown i nawr gyda Dilys, ynghylch priodi'n gyfoethog. Rhaid iddi beidio â bod yn hen ferch fel chi a minnau.

Dilys

Dim peryg, diolch.

Jane

Na, mae gan Dilys ddigon o feddwl am briodi, a phriodi arian, heb i chi ei chymell, Modryb. Byddai'n foethyn iddi feddwl am rywbeth arall, 'rwy'n tybio—meddwl am ennill, er enghraifft.

Dilys

Dyna hi, Modryb Tabitha. Ddoe y deuthum adre, a does dim taw ar Jane am i mi fynd i ennill.

Jane

Mae'n rhyfedd bod eisiau sôn am hynny, wedi i ti gael yr holl ysgol a choleg. Dymuno 'rwyf i dy fod wedi llwyddo yn dy arholiad, fel y gelli sefyll ar dy draed dy hunan, o'r diwedd.

Mrs Lloyd

Tewch 'nawr ferched! Rhaid i Dilys gael tipyn o wyliau'n gyntaf Jane, ac yna, daw i ennill yn dda i ni.

Dilys

Mae Jane wedi ennill digon hyd yn hyn. Pam mae eisiau i bethau newid?

Tabitha

'Does dim o'r ddawn at weithio gan bawb, Jane. Mae'n hawdd gweld wrth eich golwg chi, mai i waith y'ch galwyd chi.

Mrs Lloyd

Mae Jane yn gwneud yn dda yn ôl ei gallu, ond cofia di, Dilys, na chafodd Jane dy fanteision di— gadael ysgol yn bymtheg oed i helpu dy dad gyda'i sgrifennu, druan!

Tabitha

Ie, a mawr les a wnaeth ei holl sgrifennu i chi! 'Chafodd e' ddim dimai goch erioed.

Mrs Lloyd

Do, do, Tabitha. 'Rwy'n cofio mor falch oeddem pan enillodd e ddwy gini am stori yn steddfod fawr y Bont, a...

Tabitha

Twt!

Jane

Fe ddysgodd 'nhad y ffordd i mi i weithio, beth bynnag, a 'chydig o goleg fyddet ti, Dilys, wedi weld onibai hynny.

Dilys

'Does dim eisiau i chi ddannod mai chi sy'n ein cynnal. Mae'n gywilydd i chi.

Jane

'Ddanodais i erioed. 'Doedd dim byd yn falchach gen i na dy fod di wedi gallu cael coleg.

Mrs Lloyd

Nag oedd, wir, Dilys. Dim rhagor o siarad, ferched. Beth am de, Jane? Ydi hi ddim yn bryd te?

Jane

Ydi, bron â bod, mam, ond mae Letitia'n gorffen tipyn bach o waith i mi gyntaf.

Tabitha

Letitia yw enw'r forwyn ofnadwy yna, ai e? Pam 'rych chi'n cadw rhyw greadur fel yna, Jane? Rwy'n deall nad yw Dilys na'ch mam am ei chadw.

Jane

Wel, ydi, druan, mae Letitia dipyn yn lletchwith. 'Rwy'n gwybod na fyddai yn taro nemor un. Dyna pam y cymerais drugaredd arni; ond erbyn hyn y mae wedi dod at fy llaw yn gwmws.

Tabitha

O'n wir!

Jane

Ydi. Mae'n syndod fel y mae wedi dod i deipio. Teipio llythyr y mae hi 'nawr, ond fe gaiff fynd at y te yn union.

Dilys

Dyna reswm dros gadw'r fath forwyn, ynte, Modryb? Beth bynnag a all hi wneud, all hi ddim gneud tê. Fe gewch ei gweld yn tendio wrth y ford.

Jane

Fe gei di weithio tê, os yw'n well gennyt, Dilys. Chaiff Letitia ddim bod yn destun gwawd i ti.

Dilys

Na, wnaf i ddim te, wir, i borthi diogi Letitia.

Mrs Lloyd

Tewch, wir, ferched.

Jane

Mi âf i at y bwyd 'nawr, mam.

Mrs Lloyd

O'r gorau Jane. Bydda' i'n falch i gael cwpanaid.

Tabitha

A finnau hefyd. 'Rych chi, Jane, yn gwneud te blasus bob amser. Bum yn meddwl prynu rhai o'r teisennod hyfryd o siop y Castell, ond 'rown i'n ofni'ch insyltio chi. Mae gennych chi rywbeth gwell, 'rwy'n siwr.

Jane

(dan chwerthin) Mi wnaf fy ngorau, Modryb... a fydd dim blâs copor arno i chi!



JANE yn mynd.

Dilys

'Rych chi, Modryb, wedi gweld sut y mae arnaf i,—y caf fy ngyrru o gartre'n fuan iawn.

Mrs Lloyd

Na, na, Dilys fach. Paid â siarad fel yna.

Dilys

Bydd raid i mi chwilio am ŵr cynted â medra i 'te, neu fe wna Jane i mi fynd i ennill fy nhoc.

Tabitha

Fydd dim rhaid chwilio'n galed goelia 'i, gyda'ch wyncb chi, Dilys.

Mrs Lloyd

Na fydd. Mae Oswald yma byth a beunydd yn holi ei hynt.

Tabitha

O yn wir! A phwy yw Oswald?

Dilys

Peidiwch gwrando ar 'mam. 'Dyw Oswald yn ddim ond ffrind, a chaiff e ddim dod yn ddim mwy, chwaith. Mae e'n dlotach na fi, os yw hynny'n bosibl.

Mrs Lloyd

'Dyw e' naws tlotach nag oedd dy dad ym Moriah.

Tabitha

Tewch, Mary! Gobeithio na fydd Dilys byth fyw fel hynny. Beth am yr Athro, Dilys? Mae e'n graig o arian. Ydi e'n gwneud cymaint ohonoch ag oedd e'?

Mrs Lloyd

Ydi, mae'n gwneud popeth iddi, o hyd. Edrychwch ar yr holl flodau a ddaeth e' yma neithiwr.

Tabitha

Dyna'r dyn i chi, 'te, Dilys.

Dilys

'Rwyf yn ddigon hoffo'r Athro... ond... 'rwy'n ei weld yn rhy hen.

Tabitha

Hen, wir, mae e' ddeng mlynedd yn iau na mi, a ddwedai neb 'mod i'n hen.

Dilys

Wel, yr Athro gaiff e fod ynteu. 'Rwy'n gwybod y gallwn ei dwyllo ef i briodi pryd y mynnwyf.

Tabitha

(Yn eiddigeddus.) Ha! 'nawr yw eich amser chi, Dilys. Does dim fel bod yn ifanc.

Dilys

Fe gawn i bopeth gan yr Athro, onibai fod Jane yn anfodlon.

Tabitha

Jane, wir! Beth yw ei busnes hi?

Dilys

Yr oedd e' am roi watsh aur i mi, y llynedd, pan ddeuthum i'm hoed, ond gwrthododd Jane ganiatau iddo. Mynnodd hi roi un i mi, edrychwch, un arian—wrth gwrs.

Tabitha

Mae Jane yn afresymol.

Dilys

Ydi. Mae am fod yn feistres ar bawb. 'Chaf i byth ŵr os y caiff hi ei ffordd.

Mrs Lloyd

Mae Jane a minnau am i ti Dilys wylio rhag tramgwyddo'r Athro. Wyt ti'n edrych dim am dorri calon dyn, 'rwy'n ofni.

Tabitha

(Yn chwerthin.) 'Run fath â minnau! (Chwerthin a mynd at y ffrwythau eto).

Dilys

Mae e'n mynd â fi yn y car i'r ginio fawr yn y Oueen's heno.

Tabitha

Dyna i chi, wir! Chwaraewch eich cardiau'n iawn, heno, ac yna fydd dim eisiau i chi ddioddef tafod Jane yn hir.

Dilys

Dyna bechod nad oes gennyf ffrog newydd,

Mrs Lloyd

Ble mae'r un bert hynny gefaist adeg Nadolig?

Dilys

Mae e' wedi gweld honno o'r blaen, a... dyw hi ddim yn bert iawn.

Mrs Lloyd

Ydi wir. Dangos hi i dy fodryb.

Tabitha

Fe welais i ffrog berta fyddai'n eich taro chi i'r dim, pan own i ffwrdd—un sidan binc a rhubanau felfed. Dim ond tair gini oedd ei phris. Bum yn meddwl ei phrynu i chi.

Dilys

Do fe, wir?

Tabitha

Do, 'merch i; ond meddyliais wedyn bod digon i'w cael gennych chi, efallai, a mae dillad yn mynd mor hen-ffasiwn.

Mrs Lloyd

Ydyn, wir. Cer' di lan i 'nôl yr un sydd gen 'ti, Dilys fach.

Dilys

O'r gorau,—ond nid wyf yn ei leicio o gwbl.



DILYS yn mynd.

Tabitha

'Trueni na fyddai ganddi ffrog newydd, hefyd.



Ymhen eiliad daw JANE i mewn.

Jane

Mae te'n barod. Dewch 'nawr.

Tabitha

Aroswch funud, nes daw Dilys lawr â'r ffrog sydd ganddi ar gyfer y Ginio, heno. Mae i fod yn amgylchiad neilltuol heno, 'rwy'n meddwl.

Jane

Ydi, heno, am fod yr elw tuag at yr Ysbyty. Rwyf innau wedi addo mynd heno. Nid wyf byth yn arfer mynd, a byddai'n well gen i beidio mynd heno, hefyd—ond rhaid mynd, er mwyn yr Achos.

Tabitha

'Dyw Dilys ddim yr un fath â chi, Jane. Mae hi'n ifanc, ac yn bert, ac yn mwynbau ciniawau, a dawnsiau a phethau o'r fath. Dyw hi ddim yn golygu bod yn hen ferch.

Jane

Nag ydi, 'rwy'n deall.

Tabitha

'Nawr yw ei hamser hi, a rhaid i chi ei chefnogi i fanteisio ar ei chyfle.

Jane

'Sylwais i ddim fod eisiau cefnogaeth arni, Modryb.

Dilys

(Yn dod i mewn.) Dyma'r ffrog, Modryb 'Tabitha, ond nid wyf yn ei leicio o gwbl.

Jane

Gwisg un arall 'te, Dilys. Mae sawl un i'w cael gennyt. Dewch 'nawr, wir, neu bydd y te yn...

Dilys

Te, te! Pa wahaniaeth am y te? Beth alla i wisgo heno?

Jane

Ti ŵyr orau Dilys.

Dilys

Ond 'does gen i ddim—dim byd newydd. O Jane, rhowch fenthyg eich ffrog newydd i mi, heno, wir—os gwelwch yn dda, Jane.

Jane

Na wna, wir. Sut y gelli di ofyn y fath beth? Nid wyf i wedi cael un ffrog ginio ers blynyddau, a thithau wedi cael un bob blwyddyn oddiar 'rwyt yn y Coleg.

Dilys

Mae gen i reswm neilltuol dros bod ar fy ngorau, heno.

Tabitha

A 'does dim chwant arnoch chi i fynd o gwbl, Jane. Nawr y dywedsoch hynny'ch hunan.

Mrs Lloyd

'Nawr yw ei hamser hi, Jane.

Jane

Beth sydd arnoch chi i gyd, â'ch "'Nawr yw ei hamser hi?" A beth yw dy reswm neilltuol di heno, Dilys?



Distawrwydd am ennyd.

Tabitha

Mi ddweda i wrthych chi, Jane. Mae gennym ni le i feddwl fod rhywun bach yn mynd i ofyn am law Dilys, heno.

Jane

O, sut ych chi'n meddwl hynny?

Tabitha

(Yn chwerthin.) Jane fach, mae Dilys a minnau yn deall yr arwyddion. Os wyf yn ddi-briod, rhaid i chi beidio â meddwl na ches i ddigon o gynhigion i ddeall yr arwyddion. Ha ha!

Jane

Ond mae'n rhaid iddi gael ffrog newydd!

Dilys

A pheth arall, ddywedais i ddim wrthych chi, Modryb, ond dywedodd yr Athro y byddai John Gray yn dod i'r Ginio heno. 'Rwyf am edrych...

Tabitha

Beth, John Gray y nofelydd?

Dilys

Ie, mae yr Athro yn gyfaill mawr iddo, ac y mae am i mi ei gyfarfod.

Jane

"John Gray" wir! Bydd John Gray yn sylwi dim ar dy ffrog, gelli fentro.

Dilys

Dyna sut y mae Jane yn fy ngwawdio bob amser.

Tabitha

Peidiwch bod fel yna, Jane. Bydd yn dipyn o glod i Dilys i ddod i gyffyrddiad â dyn mawr fel John Gray.

Jane

Clod, wir! Chi â'ch John Gray!

Dilys

Mae Jane yn bychanu pawb.

Tabitha

Rhag cywilydd i chi, Jane, dyn sydd â'i enw ar wefusau pawb. Mae e'n ddibriod hefyd, 'rwy'n deall.

Jane

Dyna ddigon o reswm dros ei gyfarfod, ynteu!

Tabitha

(Gyda gwawd.) Ydych chi'n jealous, Jane? Efallai eich bod am fynd i'w weld eich hunan!

Jane

(Yn codi ei llais.) Nag ydw i, nag am glywed gair pellach amdano.

Tabitha

'Does dim eisiau tymer ddrwg, Jane.

Jane

Wel dewch at eich te.

Dilys

Ond a gaf i fenthyg eich ffrog, Jane?

Jane

(Gyda gwawd.) Wel... gan ei bod hi mor bwysig i ti... cei.

Dilys

O diolch yn fawr, Jane annwyl. Mi'ch cofia i chi am hyn eto.

Tabitha

Dyna rywbeth 'nawr, Jane. Dewch Mary. Pwyswch arnaf i.

Jane

Tendia di Dilys y te. Mae popeth yn barod, ond mae'n rhaid i mi wneud tipyn bach o fusnes cyn te.

Dilys

O'r gorau, Jane. Cymrwch bwyll, Modryb Tabitha. Dall mam ddim mynd mor gyflym.



Hwy yn mynd, a JANE yn canu'r gloch. LETITIA'n dod i mewn.

Letitia

Chi ganodd y gloch, Miss Lloyd?

Jane

Ie, Letitia. Mae'n rhaid i chi fynd â neges y'r Athro ar unwaith. Mae rhywbeth pwysig wedi digwydd.

Letitia

Be sy'n bod?

Jane

Alla i ddim mynd i'r Ginio, wedi'r cyfan.

Letitia

Dim mynd? Mae'n rhaid i chi fynd.

Jane

'Rwyf wedi addo, 'rwy'n gwybod, ond allaf i ddim mynd.

Letitia

"Rych chi'n un â'ch gair bob amser, a mae'r Athro'n gwybod hynny.

Jane

Dyna pam na wna ffonio'r tro nawr. Rhaid i chwi fynd lawr ar eich beisicl i esbonio'n iawn sut y mae'n bod. Dwedwch nas gallaf fynd am... am (yn chwerthin) am fod Dilys wedi mynnu fy unig ffrog (yn chwerthin eto) i gwrdd â John Gray. LETITIA (Yn chwerthin, yna'n difrifoli.) 'Dych chi ddim wedi rhoi eich ffrog bert i Miss Dilys, os bosib! Ydw wir. Does neb yma'n meddwl fod eisiau ffrog bert ar hen ferch ddeugain oed.

Letitia

O Miss Lloyd, 'rych chi'n bert ofnadwy yn eich ffrog newydd,... a 'rych chi'n bert ofnadwy bob amser, hefyd.

Jane

'Nawr 'nawr, Letitia! Wel, dwedwch wrth yr Athro fod yn ddrwg gen i...

Letitia

A mi fydd pawb yno hefyd! 'Roedd Siwsi'r Oueens yn dweud y bydd y lle'n llawn i gwrdd â John Gray, a fod llawer wedi methu cael lle.

Jane

Gorau gyd. Dyna oedd yr Athro'n obeithio—er mwyn yr Ysbyty.

Letitia

Ie, ond i gwrdd â John Gray, a John Gray yn methu mynd... am fod Miss Dilys wedi gwisgo ei ffrog! (Yn chwerthin.) Roedd Siwsi'r Oueen's wedi addo y cawn i fynd i helpu heno, er mwyn i mi gael cip ar wynebau'r bobol pan ddywedai'r Athro mai chi, Miss Lloyd annwyl, yw John Gray. (Chwerthin.) Cerwch wir, Miss Lloyd.

Jane

Byddai'n hwyl iawn i chwi, Letitia, ond 'rwyf i wedi bod yn crynu digon wrth feddwl am y peth. Rwy'n methu deall sut y perswadiwyd fi i roi fy ngair.

Letitia

Er mwyn yr Achos, Miss Lloyd fach.

Jane

Ie, ond y mae'n amhosib 'nawr, beth bynnag.

Letitia

Rhaid i chi ddweud wrtho eich hunan, 'te, wir.

Jane

Alla i ddim gadael y tŷ cyn y daw'r post. Addawodd y Cyhoeddwyr roi gwybod i mi heddiw'n ddi-ffael, a... a gwyddoch mor bwysig yw eu dedfryd y tro hwn.

Letitia

Gwn yn iawn, ond gellwch fynd yn gysurus, ac mi gadwaf i'r llythyr yn sâff i chi. 'Rwy'n gwybod yn iawn beth fydd ynddo. Byddant yn falch iawn i gael eich llyfr.

Jane

O Letitia! Gwyn fyd na fyddech yn dweud y gwir!

Letitia

Ond yw'r Athro wedi dweud hynny? A mae e'n iawn bob tro, a rwyf innau'n gwybod, hefyd, na fuodd dim cystal llyfr erioed.

Jane

Peidiwch rhagrithio, Letitia.

Letitia

'Rwy'n dweud y gwir; a fi deipiodd e bob gair, yntefe?

Jane

Ie, ie. 'Wnawn i ddim byd heboch chi, Letitia.

Letitia

Dyna ddwl mae merched i feddwl am ddillad, a bechgyn, a hen ddwli fel yna, pan y gallent fod yn teipio llyfrau mawr! Ond cer'wch chi 'nawr, Miss Lloyd.

Jane

O'r gorau. Cystal i mi fynd ynteu.

Letitia

Ydi. Mi orffennaf i'r llythyron ar ôl cymhennu tipyn man hyn.

Jane

Fydda i ddim yn hir. (Yn mynd.)

Letitia

Yr hen scrwben â Dilys—yn meddwl dim am neb ond amdani ei hunan... Twt! fe gaiff hi gymhennu yma ei hunan, os yw hi eisiau. Mi âf i at fy ngwaith.



Yn mynd. Ymhen eiliad clywir y ffôn yn galw. Rhuthra DILYS i mewn a daw LETITIA yn wyllt wrth ei sawdl.

Dilys

(Yn siarad drwy'r ffôn.) Yes, this is Miss Lloyd speaking.

Letitia

(Yn tynnu'r receiver oddi-wrthi.) Fi sydd i ateb hwnna. (Yn siarad yn Gymreigaidd.) No, no, I am speaking for Miss Lloyd. She has just gone out, and I will give a message when she comes back... yes, yes. Oh yes, yes.

Dilys

(Yn gweiddi.) Dewch â hwnna i fi.

Letitia

(Wrth DILYS.) Caewch eich ceg, wnewch chi. (Drwy'r ffôn.) O thank you very much. I will tell her... yes.

Dilys

Dewch ag e i fi, y groten haerllug!

Letitia

Caewch 'ceg. (Yn chwerthin drwy'r ffôn.) Yes, yes, thank you... goodbye. (LETITIA'n dawnsio gan lawenydd.) O! O! O!

Dilys

(Yn gweiddi.) Yr hen un wirion â chi! Mi gewch chi fynd oddi yma ar unwaith. Chewch chi ddim aros yma ar unrhyw gyfrif.



TABITHA a MRS LLOYD yn dod i mewn—TABITHA ar hanner bwyta teisen.

Tabitha

Be sy'n bod? Be sy'n bod, Dilys fach? Dyna fe, eisteddwch, Mary. Be sy'n bod Dilys? 'Dallwn i ddim aros i orffen ein bwyd. Be mae Letitia'n wneud i chi?

Dilys

Beth y'ch chi'n feddwl? Fe dynnodd y ffôn oddi wrthyf, a mynnodd siarad ei hunan, ar fy ngwaetha'—y groten ddiwardd; ond 'chaiff hi ddim aros yma—'chaiff hi ddim, tae beth ddywed Jane. Fe gaiff fynd....

Letitia

'Rwy'n golygu mynd. Fydda i ddim yn forwyn yma, nac yn unman arall, chwaith... Hwdiwch eich hen gapan. (Yn ei daflu ati.)

Dilys

O, shwd beth erioed!

Tabitha

Yr hen sgampen fach!

Letitia

(Yn chwerthin a dawnsio.) Fydda i ddim yn forwyn byth ragor! Ha, ha, ha.

Dilys

(Mewn gwawd.) Beth y'ch chi'n feddwl bod, yn enw dyn, os nad morwyn? Oes priodas i fod?

Letitia

Oes, oes. Sut oech chi'n gwybod?



DILYS a TABITHA'n chwerthin gyda dirmyg.

Dilys

A phwy yw'r gwr lwcus?

Letitia

Yr Athro wrth gwrs.

Dilys

Beth!

Tabitha

Celwydd golau! Fe ddywed ei bod yn mynd gyda John Gray nesaf!

Letitia

Ydw, ydw. 'Rwy'n mynd gyda John Gray hefyd.

Tabitha

Bobol fach! Nid celwydd ond colled! Mae colled wyllt arni.

Jane

(Yn dod i mewn heb ddiosg ei het, etc.) Hawyr bach! Beth yw'r twrw 'ma? Troais 'nol i 'mofyn llythyr i'w bostio, a 'chefais i erioed y fath fraw. Be sy'n bod, dwedwch?



DILYS a TABITHA'n siarad ar draws ei gilydd.

Dilys

Letitia sydd wedi bod yn fy nhrin a 'nhrafod i.

Tabitha

Mae colled wyllt ar Letitia.

Dilys

Mae'n rhaid iddi gael mynd ar unwaith.

Tabitha

Ond mae hi yn mynd, Dilys fach, i briodi'r Athro.

Dilys

A John Gray, cofiwch, Modryb Tabitha.

Jane

Beth sy'n bod, Letitia?

Letitia

Miss Lloyd fach, mae popeth yn iawn. Daeth y neges drwy'r ffôn, a roedd Miss Dilys yn gwneud ei gorau i'w ateb (yn chwerthin) ond mi gariais i arni. Mae nhw'n falch iawn i gael y llyfr, ac fe gewch chi lythyr yfory.

Jane

O dyna dda! Diolch byth!

Letitia

A dwedwch wrthyn' nhw 'mod i'n iawn na fydd dim eisiau i mi fod yn forwyn a gwisgo hen gapan, ragor.

Jane

Eisteddwch, Modryb Tabitha. Mae'n rhaid i mi roi esboniad i chi i gyd, ond wn i ddim yn iawn sut y mae dechrau.

Letitia

'Ddwedais i ddim mai y fi sy'n mynd i briodi'r Athro.

Jane

Ond y fi.

Tabitha

Beth, chi... yn priodi... yr Athro?

Jane

Ie... ac yr wyf wedi addo mynd â Letitia gen i fel ysgrifennydd.

Tabitha

Ysgrifennydd i'r Athro?

Letitia

(Dan chwerthin.) Nage, nage. Ysgrifennydd John Gray fydda i.

Dilys

Be' ddwedsoch chi?

Tabitha

Hawyr bach! Ydi'r ddwy wedi drysu?

Jane

Efallai y dylwn fod wedi dweud wrthych chi, 'mam, o'r blaen, mae y fi yw John Gray.



Pawb yn dangos syndod.

Jane

Ond yr o'wn yn gallu 'sgrifennu'n fwy rhydd, a chael mwy o lonydd pan nad oedd neb yn gwybod... 'Nawr y cafodd Letitia glywed fod y Cyhoeddwyr wedi derbyn fy llyfr newydd.

Mrs Lloyd

(Bron a thorri i lawr.) Jane fach... annwyl! Dyna drueni... na fyddai... dy dad yma 'nawr!... Mac Mostyn yn cael ei dalu... o'r diwedd, Tabitha... "yn dwyn ffrwyth... ar ei ganfed."

Tabitha

Pwy feddyliai! Jane, o bawb!

Jane

Peth rhyfedd na fyddech yn deall na allwn i byth gadw cartre fel hyn wrth deipio yn unig.

Mrs Lloyd

Beth oedd yr Athro yn wneud yma bob dydd ynteu?

Tabitha

Oes dim eisiau gofyn wir!

Jane

Fe oedd yn darllen fy ngwaith, ac yn fy nghymell ymlaen.

Dilys

Beth am 'mam a finnau, wedi i chi briodi?

Jane

Bydd arian y llyfr newydd i chi 'mam. Neges y ffôn heno sydd wedi penderfynu tynged yr Athro a minnau. Yr wyf wedi gwrthod priodi nes eich bod chi 'mam yn annibynnol. Fydd dim eisiau i'r Athro eich cynnal chi, o gwbl.

Mrs Lloyd

Da 'merch i! Da 'merch i 'to! Dy dad sy'n fy nghynnal i o hyd. Fe sy'n cydio'n dy law... Mae'r Gair yn eitha' gwir, Tabitha—"Ti â'i cei ar ôl llawer o ddyddiau."



Cloch y drws yn canu mewn modd arbennig. LETITIA yn mynd i'w ateb.

Dilys

Mi âf i i'r drws, Letitia... Oswald sydd yna. Bydd cystal i mi fynd gydag ef i'r Ginio... (wrth y drws) a'r hen ffrog yna mae e'n leicio. Gellwch chi, Jane, wisgo'ch ffrog newydd wedi'r cyfan.

Mrs Lloyd

(A'i meddwl braidd yn gymysglyd.) Gall, gall. Nawr yw ei hamser hi.

Drama un-act