|
|
|
(Tom) Hen bethau di-ddim. |
|
|
|
(Ann) Os wnewch chi fy esgusodi i am eiliad. |
(1, 0) 267 |
Wrth gwrs, Mrs James, popeth yn iawn. |
|
|
(1, 0) 269 |
Nawr Mr Edwards, beth yn hollol sy'n bod? |
|
|
|
(Tom) Rwy'n sâl. |
(1, 0) 272 |
Ie, rwy'n deall hynny ond allwch chi fod ychydig bach mwy manwl? |
|
(Tom) Wel, ma'n nhrwyn i yn rhedeg fel tap ac ma' mhen i bron â hollti'n ddau. |
|
|
|
(Tom) Hefyd, ma' ngwddwg i'n crafu... |
(1, 0) 275 |
Dywedwch 'A'. |
|
(Tom) Aaaaa! |
|
|
|
(Tom) Aaaaa! |
(1, 0) 277 |
Rhywbeth arall? |
|
(Tom) Mae gen i boen fan hyn... |
|
|
|
(Tom) Fyddai byth yn cael poen mor bell lawr â hynna. |
(1, 0) 290 |
Rhywbeth arall? |
|
(Tom) Dech chi ddim yn meddwl fod hynna'n ddigon? |
|
|
|
(Tom) Dech chi ddim yn meddwl fod hynna'n ddigon? |
(1, 0) 292 |
Wel, Mr Edwards, dw i ddim yn credu fod eisiau i chi boeni'n ormodol. |
(1, 0) 293 |
O'r hyn dech chi'n ei ddweud, mae'n edrych yn o debyg eich bod chi wedi cael dôs go iawn o annwyd ─ dyna'r cyfan. |
|
(Tom) Rwy'n gwybod mai annwyd yw e' ─ does dim angen bod yn ddoctor i wybod hynny. |
|
|
|
(Tom) Y cwestiwn yw, beth dech chi'n mynd i wneud ynglŷn â'r peth? |
(1, 0) 296 |
Wel, mi faswn i yn eich cynghori i aros yn y gwely... |
|
(Tom) Aros yn fy ngwely! |
|
|
|
(Tom) Ond mae'n rhaid i mi fynd i Gaerdydd ddydd Sadwrn. |
(1, 0) 299 |
Dydd Sadwrn? |
|
(Tom) I weld y gêm rygbi ryngwladol. |
|
|
|
(Tom) I weld y gêm rygbi ryngwladol. |
(1, 0) 301 |
O! |
(1, 0) 302 |
Wel, fydden i ddim yn eich cynghori... |
|
(Tom) Mae mab Gerallt Lloyd, Pencwm, yn chwarae. |
|
|
|
(Tom) Ei gap cyntaf dros ei wlad. |
(1, 0) 305 |
Neis iawn rwy'n siŵr, ond... |
|
(Tom) Ac mae Gerallt wedi mynd i drafferth mawr er mwyn sicrhau fy mod i yn cael tocyn. |
|
|
|
(Tom) Ac mae Gerallt wedi mynd i drafferth mawr er mwyn sicrhau fy mod i yn cael tocyn. |
(1, 0) 307 |
Do, rwy'n siŵr, ond... |
|
(Tom) Un o'r seddi gorau ar y maes. |
|
|
|
(Tom) Dim byd ond y gorau i'w ffrind Tom. |
(1, 0) 310 |
Wel Mr Edwards, os ydych chi'n dewis anwybyddu fy nghyngor... |
|
(Tom) Ond mae'n rhaid i mi fynd yno. |
|
|
|
(Tom) Ond mae'n rhaid i mi fynd yno. |
(1, 0) 312 |
Eich penderfyniad chi yw e' wrth gwrs. |
(1, 0) 313 |
Fedra i byth eich rhwystro chi rhag mynd. |
|
(Tom) Fyddech chi'n fodlon cael gair ag Ann 'te? |
|
|
|
(Tom) Fyddech chi'n fodlon cael gair ag Ann 'te? |
(1, 0) 315 |
I pa bwrpas? |
|
(Tom) Dyw hi ddim yn fodlon i mi fynd chwaith. |
|
|
|
(Tom) Ieuan Pencwm yn ennill ei gap cyntaf ─ ac mae pawb eisiau i mi aros yn y gwely drwy'r dydd! |
(1, 0) 318 |
Dyna fyddai orau. |
|
(Tom) Ond tasech chi'n dweud wrthi fod e'n olreit i mi daro draw, ac yna'n syth yn ôl i'r gwely... |
|
|
|
(Tom) Ond tasech chi'n dweud wrthi fod e'n olreit i mi daro draw, ac yna'n syth yn ôl i'r gwely... |
(1, 0) 320 |
Fel y dywedais i eisoes Mr Edwards, dim fy lle i yw eich rhywstro rhag mynd... |
|
(Tom) Diolch yn fawr, Doctor. |
|
|
|
(Tom) Diolch yn fawr, Doctor. |
(1, 0) 322 |
Ond ar y llaw arall, rhaid i mi gynghori eich merch fod e'n beth peryglus iawn i'w wneud o ystyried eich cyflwr a'ch oedran. |
|
(Tom) Beth? |
|
|
|
(Tom) Ond Doctor...? |
(1, 0) 325 |
Rhaid i chi aros yn eich gwely yn amyneddgar a rhoi'r cyfle i natur wneud ei waith. |
|
(Tom) Ai dyna'r gorau y gallwch chi ei gynnig? |
|
|
|
(Tom) Ai dyna'r gorau y gallwch chi ei gynnig? |
(1, 0) 327 |
Does dim byd y galla i ei wneud. |
|
(Tom) Dyw hyn ddim digon da. |
|
|
|
(Tom) Rwy wedi talu fy National Insurance ar hyd y blynyddoedd. |
(1, 0) 330 |
Ond does... |
|
(Tom) Rwy' wedi darllen hanes chi a'ch siort yn y papurau dydd Sul ─ cadw'r stwff gorau i'r cleifion preifat a gwrthod rhoi dim i'r dyn bach cyffredin. |
|
|
|
(Tom) Rwy' wedi darllen hanes chi a'ch siort yn y papurau dydd Sul ─ cadw'r stwff gorau i'r cleifion preifat a gwrthod rhoi dim i'r dyn bach cyffredin. |
(1, 0) 332 |
Dim o gwbwl. |
(1, 0) 333 |
Y gwir amdani yw nad oes yna ddim byd ar gael i wella annwyd ar hyn o bryd. |
|
(Tom) Mae rhaid fod yna rhywbeth? |
|
|
|
(Tom) {Mae Tom yn pesychu'n drwm.} |
(1, 0) 336 |
Diar mi, Mr Edwards, mae'r peswch yna yn un cas. |
(1, 0) 337 |
Gwell i chi gymryd un o rhain. |
|
|
|
(Tom) Ydyn nhw'n gwella annwyd? |
(1, 0) 340 |
Na, ond mi fyddan nhw'n help i wella'r peswch 'na. |
(1, 0) 341 |
Cymerwch un. |
|
(Tom) {Yn gwneud hynny.} |
|
|
|
(Tom) {Dangos tin o bils i'r Doctor.} |
(1, 0) 347 |
Dech chi erioed yn defnyddio rhain? |
|
(Tom) Wel... |
|
|
|
(Tom) Ydw. |
(1, 0) 350 |
Wyddwn i ddim eu bod nhw'n dal i wneud nhw. |
|
(Tom) Maen nhw wedi bod yn y tŷ yma ers tipyn. |
|
|
|
(Tom) Maen nhw wedi bod yn y tŷ yma ers tipyn. |
(1, 0) 352 |
Hen bethau sur sy'n gwneud mwy o ddrwg nag o les. |
|
(Tom) Dech chi'n meddwl? |
|
|
|
(Tom) Dech chi'n meddwl? |
(1, 0) 354 |
Yn bendant i chi. |
(1, 0) 355 |
Y bin sbwriel ─ dyna'r peth gorau i wneud â rheina. |
|
|
|
(Tom) Ond... |
(1, 0) 359 |
Nawr, gadewch i ni weld beth arall sydd yma. |
|
|
(1, 0) 361 |
Mae hwnna'n stwff reit dda... |
(1, 0) 362 |
A hwnna... |
(1, 0) 363 |
Ddylech chi ddim defnyddio hwnna... |
(1, 0) 364 |
A dyw hwn fawr o werth... |
(1, 0) 365 |
Na hwnna chwaith... |
|
|
(1, 0) 367 |
A wn i ddim beth yw hon. |
|
|
|
(Tom) {Ceisio atal y Doctor rhag ei thaflu i'r bin, ond yn methu.} |
(1, 0) 371 |
Dyna ni, Mr Edwards. |
(1, 0) 372 |
Dyna gael gwared â'r rheina. |
|
(Tom) Ond Doctor... |
|
|
|
(Tom) Ond Doctor... |
(1, 0) 374 |
Gormod o ddim nid yw'n dda, yntê? |
|
|
(1, 0) 376 |
Nawr, peidiwch â chymryd mwy o foddion nag sydd rhaid. |
(1, 0) 377 |
Mae hynny'n bwysig. |
(1, 0) 378 |
Hefyd, mae'n bwysig iawn cadw'n gynnes. |
|
(Tom) Dim ond cadw'n gynnes? |
|
|
|
(Tom) Dim ond cadw'n gynnes? |
(1, 0) 380 |
Cadw'n gynnes yn y gwely, Mr Edwards. |
(1, 0) 381 |
Mi ddo' i'ch gweld ddechrau'r wythnos nesaf. |
(1, 0) 382 |
Rwy'n siŵr y byddwch yn well erbyn hynny. |
|
(Tom) Ond beth am Ann? |
|
|
|
(Tom) Ond beth am Ann? |
(1, 0) 384 |
Rydech chi'n ffodus iawn fod eich merch yma i ofalu ar eich hôl. |
(1, 0) 385 |
Cofiwch hynny Mr Edwards. |
(1, 0) 386 |
Os bydd unrhyw newid, dim ond galwad ffôn sydd angen. |
|
(Tom) Ond Doctor, wyddoch chi faint yw gwerth tocyn i gêm rygbi rhyngwladol? |
|
|
|
(Tom) Byddai rhai bobol yn fodlon rhoi ffortiwn fach am gael un. |
(1, 0) 389 |
Efallai wir, ond mae iechyd yn beth amhrisiadwy. |
(1, 0) 390 |
Cofiwch hynny hefyd, Mr Edwards. |
(1, 0) 391 |
Dydd da. |