|
|
|
(Jared) {Gan edrych ar y plaen ar ol plaenio ' ychydig.} |
|
|
(3, 0) 681 |
Rwyn dod i mewn yn ddiseremoni iawn, Mr. Harris, ond Dic Betsi— |
|
(Mr Harris) {Gan gyfeirio'i sylw at NEL.} |
|
|
|
(Mr Harris) Dyma Nel Davis, Doctor; y funud ma roedd hi'n dod i mewn i ddeyd am y digwyddiad. |
(3, 0) 684 |
Rwyn gofyn cymwynas go fawr gennych, Mr. Harris—gawn ni ddod a Richard Davis i mewn i'r gegin neu rywle; mae pob munud yn werthfawr. |
|
(Nel) {Ar ei gliniau o flaen y DOCTOR.} |
|
|
|
(Nel) Oes rhyw lygedyn o obaith? |
(3, 0) 687 |
Dowch chi, ngeneth i, mi wnawn ein gore rhyngom; peidiwch mollwng rwan. |
(3, 0) 688 |
Gawn ni ddod a fo yma, Mr. Harris? |
|
(Mr Harris) Cewch, wrth gwrs; fe awn allan ein dau i gyfarfod â nhw. |
|
|
|
(Nel) {Daw DOCTOR a Mr. BLACKWELL i mewn o'r dde.} |
(3, 0) 934 |
Dyma Mr. Blackwell y Plas. |
(3, 0) 935 |
Mae wedi dod yma i weld sut mae Richard Davis. |
|
(Mr Blackwell) Ryw'n gofyn i chi scusio fi'n dod i tŷ chi, Mr. Harris, ond oedd yn ddrwg mawr gen i clywed fod Dic—bod Richard wedi brifo mor dost, ac wrth y cownt ma Doctor yn rhoi, ma fo'n |case serious| iawn. |
|
|
|
(Nel) {Cyfyd yn benisel ac arweinir hi allan ar y chwith, a syrth y llen ar y ddau yn cyrchu'n araf at y drws.} |
(4, 0) 979 |
Gweithio'n galed, Harri? |
|
(Harri) Go lew, Syr. |
|
|
|
(Harri) Mae Mr. Harris y gweinidog a finnau am weithio'n hwyr heno er mwyn gorffen rhyw ddrysau a ffenestri sydd i fod yn barod erbyn diwedd yr wsnos. |
(4, 0) 982 |
Wedi mynd i'w dê mae o rwan? |
|
(Harri) Ie, Syr. |
|
|
|
(Harri) Ie, Syr. |
(4, 0) 984 |
Beth ydi dy farn di am dano fel jeinar? |
(4, 0) 985 |
Dyma ti wedi cael tri diwrnod o brawf arno erbyn hyn. |
|
(Harri) Mae o wedi colli i law ar y grefft, ond mae'n hwbio mlaen dipyn gwell heddiw. |
|
|
|
(Harri) Mae o wedi colli i law ar y grefft, ond mae'n hwbio mlaen dipyn gwell heddiw. |
(4, 0) 987 |
Mae'n rhaid fod cwrs byd ers pan bu'n gneud gwaith jeinar? |
|
(Harri) Oes, mae chwech ne saith mlynedd, medde fo. |
|
|
|
(Harri) Mae'n weinidog yma ers dros ddwy, a rhyw dair neu bedair blynedd yn y coleg at hynny. |
(4, 0) 990 |
Patrwm o ddyn ydi o, wel di, ne fasa fo ddim yn gweithio'n rhad ac am ddim fel hyn yn lle Jared yr wsnos yma. |
(4, 0) 991 |
Dyna beth ydi practical Christianity wyddost. |
|
(Harri) Sut mae Jared Jones y pnawn ma, yr. |
|
|
|
(Harri) Sut mae Jared Jones y pnawn ma, yr. |
(4, 0) 993 |
Gwael iawn, druan; mae'n methu symud er dydd Llun. |
|
|
|
(Hopcyn) Sut mae Jared rwan, Doctor? |
(4, 0) 996 |
Digon gwael ydi o. |
|
(Ifan) Dydi o ddim yn anobeithiol ydi o? |
|
|
|
(Ifan) Dydi o ddim yn anobeithiol ydi o? |
(4, 0) 998 |
Mae'n anodd deyd hyd yn hyn. |
(4, 0) 999 |
Y perig ydi i'r dolur yma gyrraedd ei galon, ac wedyn mi fydd ar ben ar yr hen greadur. |
|
(Ifan) {Gan eistedd yn bendrist ar focs.} |
|
|
|
(Hopcyn) Mi fydd hanner y pentre ma wedi mynd os aiff Jared. |
(4, 0) 1005 |
Peidiwch a chymryd golwg rhy ddifrifol ar y cês: fe all ddod drwyddi os medra i gadw'r drwg o'i galon o. |
|
(Hopcyn) Mae golwg go lew ar i wyneb o hefyd, Doctor; wrth gwrs doedd fawr o scwrs i gael â fo. |
|
|
|
(Hopcyn) Mae golwg go lew ar i wyneb o hefyd, Doctor; wrth gwrs doedd fawr o scwrs i gael â fo. |
(4, 0) 1007 |
Un twyllodrus iawn ydi'r gwyneb. |
(4, 0) 1008 |
Wel, i newid y stori, go lew y gweinidog yn cymryd i le fo fel jeinar yntê? |
|
(Hopcyn) Mwy na go lew—ardderchog! |
|
|
|
(Ifan) Ie, iechyd i'w galon o. |
(4, 0) 1011 |
Ydi o'n wir i fod o wedi cael galwad o eglwys fawr yn Lerpwl na? |
|
(Ifan) Ydi nen tad! |
|
|
|
(Ifan) Mae dwy ne dair o eglwysi mawr am i ddwyn o oddiarnom yn Seilo, rhen gnafon sâl. |
(4, 0) 1014 |
Aiff o? |
|
(Hopcyn) Nac aiff, gobeithio'r annwyl. |
|
|
|
(Hopcyn) Nac aiff, gobeithio'r annwyl. |
(4, 0) 1016 |
Wel, taswn i yn i le o, mi symudwn, a mi gadawswn chi fynd i'ch crogi yn Seilo ar ol y tro gwael naethoch chi â fo flwyddyn yn ol. |
|
(Hopcyn) Cyfeirio rydach chi at y ngwaith i a blaenoriaid eraill yn sefyll yn erbyn iddo briodi Nel Davis? |
|
|
|
(Hopcyn) Cyfeirio rydach chi at y ngwaith i a blaenoriaid eraill yn sefyll yn erbyn iddo briodi Nel Davis? |
(4, 0) 1018 |
Ie, wrth gwrs. |
|
(Hopcyn) Chware teg i ninnau, Doctor; doedd bron neb yn Seilo, ond Jared druan, yn fodlon iddo briodi Nel Davis yr adeg honno. |
|
|
|
(Ifan) Heblaw hynny, mi fasa Mr. Harris wedi ei phriodi yn ein dannedd oni bae iddi wrthod yn bendant. |
(4, 0) 1021 |
Lol i gyd! |
(4, 0) 1022 |
I wrthod o ddaru hi am y gwyddai hi mor groes oeddach chi i'r briodas, yr hen set wael. |
(4, 0) 1023 |
Ond wedi chi ddeall fod peth o waed Scweiar y Plas yng ngwythiennau Dic Betsi, a bod y Scweiar wedi anfon Nel Davis i Lunden ar i gost i hun i gael dipyn o addysg, dyma chithau'n dechreu newid eich barn am dani'n araf. |
(4, 0) 1024 |
Ar y ngair i, rwyf bron a choelio y basach chi'n fodlon iddi fod yn wraig y gweinidog erbyn heddiw, |
|
(Hopcyn) Hawdd i chi siarad, ond mi wranta fod Nel Davis wedi codi yn eich barn chitha wedi i'r secrat ddod allan i bod hi'n rhyw berthyn pell i Mr. Blackwell. |
|
|
|
(Hopcyn) Ryda ni bawb wedi gofyn i chi droion. |
(4, 0) 1030 |
Run ateb sy gen i: wn i ddim. |
|
(Ifan) Gwyddoch o'r goreu, ond mi gaiff Doctor balu celwydd yn ddi-gosb; mi wyddoch chi a'r Scweiar drwy'r misoedd ymhle mae hi, ond na ddeydwch chi ddim. |
|
|
|
(Ifan) Gwyddoch o'r goreu, ond mi gaiff Doctor balu celwydd yn ddi-gosb; mi wyddoch chi a'r Scweiar drwy'r misoedd ymhle mae hi, ond na ddeydwch chi ddim. |
(4, 0) 1032 |
Wel, mi wn ymhle mae hi'r funud ma. |
|
(Y Ddau) Ymhle? |
|
|
|
(Y Ddau) Ymhle? |
(4, 0) 1034 |
I mewn yn tŷ yn tendio ar Jared. |
|
(Ifan) Gwarchod pawb, ydi hi yn y tŷ rwan? |
|
|
|
(Hopcyn) Cellwar â ni rydach chi, fel arfar? |
(4, 0) 1037 |
Nage'n wir. |
(4, 0) 1038 |
Dysgu bod yn nyrs roedd hi yn Llunden, ac fe yrrais am dani i ddod i nyrsio Jared, ac mi wyddwn mai'r unig beth fasa'n dod a hi yma fasa clywed fod yr hen Jared mor wael. |
(4, 0) 1039 |
Mae hi'n leicio Jared erioed. |
|
(Ifan) Wel diain i, mi fydd gen i ofn mynd i weld Jared os ydi hi'n tendio arno. |
|
|
|
(Hopcyn) Ond diolch i'r trugaredd, mi gaiff Jared well siawns i wella os gwellith o, |
(4, 0) 1043 |
Dyda chi ddim yn dal dig at Nel Davis, gobeithio? |
|
(Hopcyn) Na, ryda ni i gyd yn fwy cymedrol erbyn hyn yn ein syniad am dani, ond y pwnc ydi, beth ydi'i syniad hi am Ifan a finna, achos mi ŵyr mai ni'n dau oedd y ring-ledars yn i herbyn hi dros flwyddyn yn ol. |
|
|
|
(Hopcyn) Na, ryda ni i gyd yn fwy cymedrol erbyn hyn yn ein syniad am dani, ond y pwnc ydi, beth ydi'i syniad hi am Ifan a finna, achos mi ŵyr mai ni'n dau oedd y ring-ledars yn i herbyn hi dros flwyddyn yn ol. |
(4, 0) 1045 |
Peidiwch a chyboli'n wirion, mi fydd yr eneth yn |all right| â chi ar ol rhyw funud, a gobeithio y rhoith hi grafiad ne ddau i chi'ch dau. |
(4, 0) 1046 |
Ond rwan, does neb ond fi a'r Sgweiar yn gwybod i bod hi wedi dod i nyrsio Jared, a pheidiwch ar un cyfri a deyd wrth Mr. Harris nes y daw o i wybod i hun. |
(4, 0) 1047 |
Harri, meindia di ar dy fywyd na ddeydi di ddim wrtho pan ddaw'n ol o'i dê. |
|
(Harri) Dim perig i mi ddeyd, syr. |
|
|
|
(Harri) Dim perig i mi ddeyd, syr. |
(4, 0) 1049 |
Rwan mi awn i'r tŷ ein tri. |
|
(Ifan) Diaist, mae gen i dipyn o ofn i gwynebu hi. |
|
|
(4, 0) 1063 |
Mi ddeuthoch yn ol o'ch tê, mi welaf. |
|
(Mr Harris) Do. |
|
|
|
(Mr Harris) Sut mae Jared rwan, Doctor? |
(4, 0) 1068 |
Canolig iawn. |
(4, 0) 1069 |
Rwyf newydd ddod a nyrs i dendio ar yr hen lanc er mwyn rhoi pob chware teg iddo wella, os oes gwella i fod. |
|
(Mr Harris) Newydd ddod mae'r nyrs? |
|
|
|
(Mr Harris) Newydd ddod mae'r nyrs? |
(4, 0) 1071 |
Ie. |
(4, 0) 1072 |
Pan gymrwyd Jared yn wael echdoe mi welais fod y cês yn un seriws, ac mi rois y peth o flaen y Scweiar, ac mi ddeydodd wrtho i yn y fan y basa fo'n talu am nyrs o'i boced i hun. |
(4, 0) 1073 |
Mi yrrais am dani ar unwaith ac mi ddoes a hi i'r tŷ rwan jest. |
|
(Mr Harris) Chware teg i'r hen Scweiar, er na faddeuais i byth iddo am fynd a Nel Davis i ffwrdd. |
|
|
|
(Mr Harris) Roedd eich bysedd chitha yn y bwti hwnnw, a ddwedwch chi na'r Scweiar ddim wrtho i ymhle mae hi yn Llunden. |
(4, 0) 1076 |
Does neb ond y Scweiar ŵyr, a phob tro y gofynnaf iddo am |address| Nel Davis, "Fi wedi rhoi |word of honour| fi i Nel Davis i beidio deyd," medda fo. |
|
(Mr Harris) Dyna'i gân o i minnau hefyd, ond chreda i byth na wyddoch chitha hefyd. |
|
|
|
(Mr Harris) Dyna'i gân o i minnau hefyd, ond chreda i byth na wyddoch chitha hefyd. |
(4, 0) 1078 |
Peth difrifol ydi bod yn anghredadun, Mr. Harris. |
(4, 0) 1079 |
Gyda llaw, mae'r nyrs eisia coed tân, ac mi ddaw yma'n y funud i gael rhai. |
(4, 0) 1080 |
Cloben o Saesnes hyll ofnadwy ydi hi; doedd dim Cymraes i'w chael, mae'n debig. |
(4, 0) 1081 |
Wel, pnawn da. |
|
(Mr Harris) Ac i chitha. |
|
|
(4, 0) 1203 |
Gadewch lonydd i'r dyn—does dim y mater ar Jared, mae o cyn iachad ag afal Awst. |
|
(Mr Harris) {Yn ddigllon.} |
|
|
|
(Mr Harris) Ydach chi'n meddwl y baswn i'n troi yn jeinar yn lle Jared Jones pe baswn i'n gwybod? |
(4, 0) 1229 |
Na doedd neb yn gwybod ond y Scweiar a Jared a finnau. |
(4, 0) 1230 |
Rwyn meddwl y dylai Mr. Harris fod yn fodlon i mi gael un gusan gan Nyrs Davis, achos fi ddaru gynllunio iddynt ddod at i gilydd. |