a1a2a3a4

Ar y Groesffordd (1914)

Robert Griffith Berry

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 1


Gweithdy'r Saer.

Mae bwrdd hir-gul yn ymestyn gyda'r mur sy gyferbyn â'r edrychwyr. Ar y muriau gwelir ychydig o offer gwaith saer yn grogedig yma ac acw gyda thri neu bedwar o focsis wrth y muriau ar y dde a'r chwith i eistedd arnynt, a naddion ac ysglodion ar y llawr. Arwain y drws sydd ar y chwith i'r tŷ sy'n gysylltiedig â'r gweithdy, a'r un ar y dde i'r heol. Pan gyfyd y llen gwelir y saer yn plaenio planc a'i brentis yn dal un pen i'r planc rhag symud. Drwy'r act hon, pan bo hynny'n gyfleus, mae'r saer i'w weld yn brysur gyda rhyw ran neu gilydd o'i waith.

Jared

(Gan edrych ar y plaen ar ol plaenio ' ychydig.) Be fuost ti'n neud â'r plaen yma, Harri?

Harri

Plaenio, Mistar.

Jared

Ie, plaenio, wrth gwrs; mi wyddwn mai nid codi tatws y buost ti hefo fo. Does dim blewyn o fin arno fo rwan beth bynnag. (Deil ef gyferbyn â'i lygaid.) Mae ma dolc ne ddau arno fo hefyd. Estyn y plaen arall na. (Estynnir ef, a chais JARED blaenio, ond yn ofer.) Fuost ti'n plaenio hefo hwn hefyd, dywed?

Harri

Do, am spel, Mistar, ond mi drawis yn erbyn rhyw hen hoelan yn y planc ac mi scythris i phen hi.

Jared

O, felly wir! Cofia di o hyn allan ma plaenio coed ac nid hoelion ydi gwaith plaen, Harri bach: prentis o jeinar wyt ti wyddost, ac nid gôf nac injaniar.

Harri

O'r gora, Mistar, ond mi ddo i'n well prentis mhen tipyn.

Jared

Mi wyddost wrth gwrs fod y gair prentis yn dod o'r gair "pren"─P-R-E-N-T-I-S, un yn gweithio mewn pren, wyddost, dyna darddiad y gair, medde nhw, yn ôl y dicsionari.

Harri

Tybad, Mistar? "Prentis o siopwr" ddwedwn ni yntê?

Jared

Ie siwr, ond cofia di ma sefyll tu nol i gowntar wedi ei wneud o bren y bydd prentis siopwr: y gwir ydi, ymhle bynnag y cei di brentis, ma na bren heb fod ymhell, yn siwr iti.

Harri

Mi fydd mam yn sôn am brentis o ddoctor, a does na ddim pren yn agos at ddoctor.

Jared

Dull o siarad sy gan dy fam ydi hwnna: prentis o ddoctor ydi doctor ofnatsan o sâl efo'i waith, doctor a phen fel pren ffawydd ne bren bocs. Ond wastio amser ryda ni rwan: gad i ni olchi arni yn o gwic, achos ma hi'n mynd ymhell ar y dydd. 'Run pryd cofia ystyr y gair prentis wrth usio'r plaen─dojio'r hoelion, wyddost, ydi'r gamp i brentis o jeinar.



Daw DAFYDD ELIS y postman i mewn o'r dde efo cadair.

Jared

Helo, Dafydd Elis, wyt ti'n mudo i rywle?

Dafydd

Mae un o goesa'r gadair ma'n rhydd ers plwc byd, Jared, ac mae rhywrai ohonom yn y tŷ acw'n eiste arni heb gofio, ac i lawr â ni'n glwt i'r llawr. Fu dim ond y dim i Mr. Harris y gweinidog fynd ar i hyd ar garreg yr aelwyd y noson o'r blaen.

Jared

Cato pawb! l peth sad fasai'r gweinidog newydd gael ei godwm cynta yn dy dŷ di. Ond marcia di ngair i, mae rhywun yn mynd i gael codwm yn y gweithdy ma heno. Diaist i, mi rof Ifan Wyn i eiste arni: watsia di 'rhen grydd yn llyfu'r llawr. Mi gosodwn hi i sefyll y fan yma a golwg mor ddiniwed a'r gloman arni hi. (Gesyd hi wrth y wal ar y chwith.) Eiste'n rhywle, Dafydd, nes daw'r criw i mewn am scwrs: mae gen i ddrws stabl Gŵr y Plas i'w orffen.

Dafydd

Dos di ymlaen. Rwy'n credu i mi chwysu digon i nofio man-i-war go lew heddiw wrth fynd a dod, a thrwy ryw anlwc roedd gen i feichiau trymach nag arfer heddiw.

Jared

Ond job go iach, wel di, ydi job postman er hynny, allan yn yr awyr iach drwy'r dydd, ac ambell i jwg o laeth enwyn a chwlff o fara chaws wrth y ffermydd na, yn lle bod fel fi a dy ben wrth y post drwy gydol y dydd ynghanol shafings a blawd lli. Eiste'n rhywle, ond nid ar y gadair goes glec na. lfan Wyn gaiff roi i glun i lawr ar honna.

Dafydd

Druan o'r hen grydd, wn i ddim sut mae o'n cadw'n ffrindiau â thi ar ol dy holl gastiau.

Jared

Hen bartnars, Dafydd, hen bartnars: Ifan a finnau ddeng mlynedd ar hugain yn ol oedd y ddau lanc smartia'n y dyffryn.

Dafydd

Be nath i ti bara'n hen lanc ac yntau i briodi, Jared?

Jared

Dyna oedd yn y rhan i hwyrach.



Daw MORGAN HOPCYN y siopwr i mewn yn ei ffedog wen.

Jared

Pa siap sydd ar y siopwr heno?

Hopcyn

Cyn i mi anghofio, Jared, mae un o'r shetars ar y ffenest acw wedi chwyddo neu rywbeth, nei di redeg dy blaen drosti os do i a hi yma fory?

Jared

Be sydd ar y tacla heddiw? Rwan jest roedd Dafydd am i mi roi coes ei gadair yn ei lle; rwan dyma titha'n gofyn i mi ostwng y chwydd yn dy shetar. Mae'r gweithdy ma'n mynd yn rêl surjary doctor. (Cenfydd HOPCYN yn cyrchu at y gadair.) Hopcyn! Biwêr! Cadw draw oddiwrth y gadair na. Ifan Wyn sy'n mynd i gael ei gadeirio yn y steddfod hon. (Chwardd y lleill.) Howld! dyma sŵn i droed o! Mor sobr a judge bob copa ohonoch chi rwan.



Daw IFAN i mewn yn ei ffedog byg-ddu ac yn llewys ei grys.

Jared

Da machgen i am gadw dy gyhoeddiad.

Ifan

(Dan fopio'i dalcen.) Brensiach fawr! yn nath hi ddiwrnod chwilboeth heddiw, fechgyn? Roedd hi'n siwr o fod yn crasu ar y brynia na heddiw, Dafydd?

Dafydd

Oedd nen tad, ond beth am danat ti ar dy sêt grydd?

Ifan

Gwarchod pawb! ches i rioed gletach diwrnod yn fy mywyd yn y gweithdy acw: mi faswn yn tynnu nghroen ac eiste'n f'esgyrn, pe gallswn i.

Jared

Go lew di, Ifan! Mi feddyliaist am y deunydd teneuaf yn bosibl ar wres, achos ti ydi'r creadur mwya croen-deneu'n y wlad. Tyrd, rhen bellen gwyrcrydd, rwyf wedi cadw'r gadair acw i ti yn arbennig. Aros, mae drychfeddwl wedi nharo, ti yw'r bardd cadeiriol, Ifan, a finna ydi'r archdderwydd yn d'arwain dros yn llwyfan. (Ymeifl yn ei fraich a rhydd ef i sefyll â'i gefn at y gadair.) A oes heddwch? (Etyb y lleill "Heddwch.".) Steddwch, Mr. Wyn, yng nghadair beirdd Ynys Prydain. (Eistedda IFAN a syrth i'r llawr ynghanol chwerthin.)

Ifan

(Yn ddigofus.) Twt lol! rwyt ti mor ddwl a llo blwydd, Jared. Rhyw jocio'n dragwyddol rwyt ti. Wn i ar arffed daear sut erioed y cest ti dy droed i mewn yn sêt fawr Seilo: clown mewn syrcus ddylset ti fod.

Jared

Dyna fi wedi profi'r gosodiad wnes i rwan jest mai croen teneu enbyd sy gen ti; mae o fel croenin pwdin reis. Ond eiste, Ifan bach, a gad i ni anghofio'n poen mewn mwg baco. (Estynna'r blwch baco iddo.) Lodia dy getyn a phasia fo rownd i'r postman.

Ifan

Mae Hopcyn, ddalia i, yn colli llawer o hwyl wrth beidio smocio.

Jared

Mae'n syn i mi na fasa ti, Hopcyn, yn smocio, a tithau'n gwerthu baco. Ar fy ngair i, dos gen ti o bawb ddim hawl i beidio smocio.

Hopcyn

Sut hynny?

Jared

Wel os wyt ti'n credu fod smocio'n arferiad drwg, ac mi wn dy fod, pam gebyst wyt ti'n gwerthu baco? Os wyt ti o'r farn mai gwastraff ar arian ydi smocio, ymhle mae dy gysondeb yn ei werthu dros y cowntar? Wyt ti ddim yn gweld dy fod fel Satan yn temtio'r crydd a'r postman a finnau i syrthio i'r arferiad ac i wastio'n harian prin?

Hopcyn

Os na phrynwch chi faco gen i, mi prynwch o'n rhywle'r cnafon barus.

Jared

Rhen gribiniwr arian! Rwyt yn barod i bocedu pris y gwenwyn wyt ti'n gredu sy'n lladd Ifan a Dafydd a finnau'n raddol. Mi grafi di'r pres baco sy'n ein tlodi ni'n tri, ffei ohonot!

Ifan

Pwya fo, Jared. O! un garw wyt ti, Hopcyn; rwyt ti'n ddigon di-gydwybod i werthu petha sy'n groes i d'argyhoeddiad.

Hopcyn

Aros di, Ifan Wyn; ti ydi Radical mawr y plwy ma, yntê?

Ifan

Gyr ymlaen.

Hopcyn

Ti sy'n gneud sgidia i'r Gŵr o'r Plas, y Tori mwya yn y sir, ac yn y sgidia rheiny mae o'n brasgamu ar adeg lecsiwn i ddeyd a gneud yn groes hollol i'r hyn gredir gen ti.

Jared

Howld! Nid run peth ydi hynny a dy waith di'n gwerthu baco nad wyt ti'n credu dim ynddo.

Hopcyn

Run peth yn hollol ydi'r ddau. Ac mae gen i damaid bach i titha i'w gnoi, Jared. Rwyt ti'n brysur ddoe a heddiw'n gneud drws stabal i Ŵr y Plas, yn dwyt ti?

Jared

Dos ymlaen; mi wela dy fod wedi codi stêm.

Hopcyn

Dyma titha'n rhoi dy hun yn Radical mawr fel Ifan, ac eto rwyt ti'n ddigon anghyson i neud drws stabal i geffyla sy'n rambandio o gwmpas yr ardal ar etholiad i gario dynion i fotio'n erbyn yr egwyddorion rwyt ti byth a hefyd yn eu brolio.

Dafydd

Yn ôl dy syniad di, felly, rhagrithiwrs a Phariseaid ydi pob enaid ohonom?

Hopcyn

Ddwedais i mo hynny, Dafydd; dal rydw i mod i mor gyson a neb ohonoch. Y ffaith ydi hyn, os chwiliwch i mewn yn fanwl i betha, mae pawb, fwy neu lai, yn gorfod bod yn anghyson. Cymer dy hunan fel enghraifft, Dafydd; rwyt ti'n cario bwndeli o bapurau Toriaidd i Ŵr y Plas sy'n lledaenu Toriaeth er dy fod dithau'n galw dy hun yn Rhyddfrydwr mawr, a chi'ch tri sy'n fy nghael i'n brin o gysondeb. Sgubwch yn lân o flaen carreg eich drws eich hun cyn deyd fod llwch ar f'un i.

Jared

Hanner munud! Rwyt ti'n union fel rhen longwr na fydd yn dod i ffair Caerdref i gael i rwymo â rhaff, mae'n llithro o bob cwlwm; ond mi ro i gwlwm dolen ar dy sodla na fedri di syflyd gam ohono. Rwyt ti'n deyd bob amser fod smocio'n arferiad drwg, yn dwyt ti?

Hopcyn

Ydw.

Jared

Ac eto i gyd rwyt ti'n gwerthu'r stwff i'w smocio?

Hopcyn

Dos ymlaen â'th ymresymiad.

Jared

Os ydi smocio'n ddrwg, mae'n rhaid fod baco'n ddrwg, achos does dim use i faco o gwbl ond i'w smocio. O'r goreu; mae baco, felly, 'n ddrwg ynddo'i hunan, ond am y sgidia mae Ifan yn i neud i Mr. Blackwell y Plas, mae rheiny'n bethau angenrheidiol, achos mae'n rhaid i Dori gael sgidia.

Hopcyn

Ond pa gysondeb sydd i Radical penboeth fel Ifan neud pâr o sgidia i Dori mawr fel Mr. Blackwell?

Ifan

Rwyt ti'n siarad yn union fel pe bawn yn gneud Toris o sgidia; gneud sgidia i Doris rwyf fi, a pheth arall ydi hynny.

Hopcyn

Pe bae'r anffyddiwr a'r cablwr pennaf yn y wlad yn dod am bâr o sgidia atat, fasa ti'n ei wrthod?

Ifan

Paid a phonsio'n wirion; fasa'r sgidia wnawn i iddo fo ddim yn anffyddiwrs nac yn gablwrs.

Hopcyn

A! cwiblo rwyt ti rwan.

Ifan

Nage'n siwr: yn ôl dy syniad di─anffyddiwr o grydd ddylai neud sgidia i anffyddiwrs, a chrefyddwr o grydd ddylai neud sgidia i grefyddwrs.

Hopcyn

Ia, achos rwyn siwr na fasa'r Apostol Paul ddím yn gneud tent─gneud tentia oedd i grefft o─fasa fo byth yn gneud tent i anffyddiwr ac i gablwr.

Jared

(Gan annerch HARRI.) Harri, picia dros y ffordd a galw ar Mr. Harris y gweinidog i ddod yma am ychydig. Wedyn mi elli gadw noswyl. Cofia ystyr y gair prentis, a chofia fod yma am saith bore fory.



Exit HARRI.

Hopcyn

Beth wyt ti eisiau â'r gweinidog?

Jared

Fo gaiff setlo'r ddadl ma.

Hopcyn

Dydi o ddim yn chware teg â fo i'w lusgo i mewn i'r ddadl ma: dyn ifanc ydi o, a does dim mis er pan mae'n weinidog hefo ni.

Ifan

Na, dydw inna ddim yn leicio'r syniad o'i dynnu o i'r ddrag, achos cyw heb fagu adenydd ydi o, a rhaid i ni'r hen gonos beidio plicio'i blu yn rhy gynnar.

Jared

Cofia di fod Mr. Harris wedi bod yn y coleg am dair neu bedair blynedd, a fuo ni'n pedwar erioed mewn dim coleg ond coleg y gweithdy ma: y fo fydd yn plicio'n plu ni'n siwr i ti.

Dafydd

Ie, dyna'r peth tebyca, achos ma nhw'n dysgu ymresymu yn y colegau na wrth reolau neilltuol.

Ifan

Mi fentra mhen na chawso nhw rioed well dadlu na fydd yn y gweithdy ma ambell i noson.

Mr Harris

(Gan ddod i mewn a syllu o'i gylch.) Pwy fasa'n disgwyl cyfarfod â blaenoriaid Seilo'n drefnus hefo'i gilydd yma?

Jared

Does gynno chi ddim yn erbyn i ni ddod am scwrs a smoc i weithdy saer gyda'r nos fel hyn, Mr. Harris?

Mr Harris

Yn erbyn? Welwch chi, Jared Jones, hen jeinar ydw inna hefyd; mewn gweithdy saer y bûm i am flynyddoedd cyn mynd i'r coleg, a byth er hynny mae gen i rywbeth i'w ddeyd wrth y gweithdy. Yno y clywais i ugeiniau lawer o ddadleuon cryf ar wahanol bynciau. Jared Jones, ga i drio'm llaw ar y tools ma am funud, i weld ydi mysedd a nhw'n dal i nabod i gilydd?

Jared

Cewch nen tad annwyl, ond er mwyn daioni peidiwch a chodi siop saer mewn oposisiwn i mi, ne mi ewch a ngwaith i gyd, a does fawr o fraster arno fo fel y mae petha.



Tyn MR. HARRIS ei gôt hanner oddiamdano.

Jared

Cyn i chi drioch llaw, setlwch ddadl go boeth sy ar droed yma. Rwan, beth ydi'ch barn chi? Gneud tentia oedd crefft yr Apostol Paul, yntê? Fasa Paul yn fodlon i neud tent i anffyddiwr a chablwr?

Mr Harris

Fasa Paul yn gneud tent i anffyddiwr a chablwr?

Jared

Ie siwr.

Mr Harris

Wel, os oes rhyw werth ynddi, dyma marn i, basa, mi fasa Paul yn gneud tent i'r dyn gwaetha'n y byd, achos dyna ydi crefydd, "os d'elyn a newyna, portha ef."

Hopcyn

Ond fasa Paul yn gneud tent i un o elynion y Brenin Mawr?

Mr Harris

Basa, greda i, ac mi fasa wedyn yn mynd at y dyn i'r tent i geisio gneud gwell dyn ohono fo. A chyda llaw, mae gen i, fel mae'n digwydd, fater bach yr hoffwn i gael eich barn arno, a barn ffafriol os yn bosib.

Jared

Rwan am dani, Mr. Harris, tra mae'r haearn yn boeth.

Mr Harris

Dyma'n agos i fis er pan ordeiniwyd fi'n weinidog yma, ac fel pob gwas newydd mae gen i gynllun bach y carwn i ei roi o'ch blaen fel blaenoriaid Seilo, a dyma fo: rwyf wedi gosod fy mryd ar alw yn nhŷ y bobl hynny yn yr ardal yma nad ynt yn mynd i unrhyw le o addoliad. Mi leiciwn ar gychwyn fy ngweinidogaeth roi gwâdd iddyn nhw i'r capel: mae hynny'r peth lleia fedra i neud. Mae gobaith i ddyn go ddrwg ond ei gael i sŵn pethau da. Be ydi'ch barn chi? (Pawb yn fud.) Go ddistaw yda chi; rwyn ofni nad ydach chi ddim yn ffafriol i'r cynllun.

Jared

Mr. Harris, mi fedrwn ddadlu pyncia trymion yng Nghymru am oriau bob dydd, ond go ddi-gynnig yda ni ar dipyn o waith ymarferol. Tyrd, Ifan Wyn, dywed rywbeth, seinia gân yn lle bod yn fudan.

Ifan

(Gan chware â'i getyn.) Peth newydd spon yn y lle yma ydi galw ymhob tŷ, Mr. Harris; nath neb erioed mohono i mi gofio.

Mr Harris

Tybed nad yw'n llawn bryd i neud hynny, Ifan Wyn?

Ifan

Wel, fy marn onest i ydi, mi rydw i'n leicio gadael i ddynion fod at eu dewisiad, heb ddim gorfodaeth yn y busnes o gwbl.

Hopcyn

Dyna marn inna hefyd, Mr. Harris.

Mr Harris

Does dim gorfodaeth ar neb, wrth gwrs, ond tybed na ddylwn i roi gwâdd caredig i bobl nad ydynt byth yn mynd i gapel nac eglwys dangos fod gennym ddiddordeb ynddyn nhw beth bynnag. Cofiwch, dydw i ddim yn disgwyl i neb ohonoch chi fel swyddogion ddod hefo fi rownd y tai ma.

Hopcyn

Mae'n dda gen i glywed hynny, achos mae ar lawer ohonyn nhw gwrs byd o arian i mi yn y siop am goods.

Ifan

Mae na lu ohonyn nhw hefyd yn cerdded mewn sgidia na thalson nhw ddim dima goch y delyn i mi am danynt─y gweilch drwg.

Jared

Cato pawb, Mr. Harris, mae ma dalwrs siamal o ddrwg yn y wlad. Da chi, rhowch bregeth i ni rai o'r Suliau nesa ar y gair ddeydodd Eliseus wrth y wraig honno: "Dos, gwerth dy olew a thâl dy ddyled." Mi wnae un bregeth felly'r byd o les.

Mr Harris

Mi gofia'r cyngor, Jared Jones. Ond unwaith eto mae fy holl fryd ar fynd i wâdd y bobl yma nad ynt yn mynd i unrhyw le o addoliad, ac rwyn siwr na sefwch chi ddim yn erbyn hynny.



Cyfyd pawb ac arwyddant yn eu ffordd eu hunain eu cyd-syniad.

Ifan

Mae un tŷ, er hynny, y byddai'n ddoethach i chi fynd heibio iddo heb alw, Mr. Harris.

Hopcyn

Mi wn i pwy sydd gan Ifan mewn golwg─cyfeirio mae o, mi wn, at dŷ Dic Betsi'r Pantglas. Richard Davis ydi enw'r dyn, ond fel Dic Betsi y bydd pawb yn i nabod o. Fo ydi pen portsiar yr ardal: mae o'n byw i lawr y cwm mewn bwthyn bach, fo a'i ferch; cadwch draw o'r fan honno beth bynnag.

Ifan

Ie'n wir, achos hen scum o ddyn ydi o, sy'n gas gan bawb; mae o'n portsio gêm a samons bob yn ail. Mi daliwyd o unwaith neu ddwy, ond y syndod ydi, chafodd o ddim jêl.

Mr Harris

Gŵr gweddw ydi o?

Ifan

Ie; mi ddaeth i'r ardal ma yn llanc o rywle na ŵyr neb o ble i wasanaethu efo Mr. Blackwell yn y Plas, ac mi briododd y ferch nobla'n y gymydogaeth, ac yn fuan iawn mi drodd i feddwi a chafodd sac o'r plas, ac o ddrwg i waeth yr aeth byth er hynny, ac mae'n dial ar Mr. Blackwell drwy bortsio ar ei stâd gymaint all o drwy'r blynyddoedd.

Mr Harris

Ei ferch sy'n cadw tŷ iddo, medde chi.

Hopcyn

Ie; mi dorrodd ei mam ei chalon, druan, wrth weld Dic yn prowla'r coedydd a'r afonydd, a dyw'r ferch yma sy'n cadw'i dŷ yn fawr gwell na'i thad─rhyw hoeden wyllt, ofergoelus, anwybodus, na fu erioed mewn capel nag eglwys─mae hi fel pe'n perthyn i deulu sipsiwn. Mi fasa'n chwith gan ei mam, druan, feddwl y fath gornchwiglen o ferch adawodd hi ar ei hol.

Mr Harris

Wel, yn wir, tŷ go anobeithiol i alw ynddo yw hwnna, ac eto gresyn fasa i mi beidio galw yno unwaith o leiaf. Pwy ŵyr na ddaw rhyw les o ymweld â nhw?

Ifan

Dyma ni wedi'ch rhybuddio, Mr. Harris. Wrth gwrs, fe gewch neud fel y mynnoch, ond yn siwr i chi gwell i chi beidio galw yno.

Mr Harris

(Dan hwylio i fynd allan.) Diolch am y rhybudd, ond y cwbl alla nhw neud ydi tafodi dipyn arna i. Mi ddo'i yma rai o'r dyddiau ma, Jared Jones, i gadw'm llaw i mewn fel jeinar, mae'n rhy hwyr heno. Nos dawch bawb ohonoch.

Pawb

Nos dawch, Mr. Harris.



A MR. HARRIS allan, ac mae ennyd o ddistawrwydd yn y gweithdy.

Jared

Diaist i, mae na gêm yno fo, fechgyn! Ac mae'n dda gen i fod o am alw i weld Dic er mwyn rhoi siawns i'r hen walch. Hwyrach, wedi'r cwbl, fod gronyn o rhyw ddaioni yn Dic Betsi.

Ifan

Daioni wir! pa ddaioni, sgwn i?

Jared

(Dan bruddhau.) Rhaid fod rhyw ddaioni yno fo ymhell yn ol neu fasa Martha'r Wern Lwyd ddim yn ei briodi: merch ragorol oedd Martha.

Ifan

A! rwy'n cofio rwan, roeddet ti mewn cariad â Martha, yn doeddet ti, cyn i Dic ddod i'r ardal ma?

Jared

(Yn drist.) Oeddwn, waeth cyfadde'n onest, ond Dic garíodd y dydd, ac yr oedd yntau'n gamp o ddyn bum mlynedd ar hugain yn ol. Ond druan o Martha, byd helbulus gafodd hi, a doeddwn i ddim yn leicio'ch clywed mor lawdrwm ar Nel Davis. Os Dic ydi thad hi, Martha oedd i mam hi. Wel, nos dawch. Mi faria'r drws 'ma ar eich holau.

Pawb

(Wrth fyned.) Nos dawch!



Baria JARED y drws ar eu hol, ac wrth droi i fynd i'r tŷ drwy'r drws ar y chwith gwêl NEL yn sefyll yno â shol ar ei phen.

Nel

(Gan ddod i'w gyfarfod yn erfyniol.) Jared Jones, mae nhad wedi ngyrru allan o'r tŷ; mi yfodd yn drwm heddiw ac mae o'n gynddeiriog yn i ddiod. Wyddwn i ddim i ble i droi, ond yma y bydda i'n dod am gymwynas. Ga i aros yn y gweithdy ma heno?

Jared

Na chewch ar un cyfri; mi gewch aros yn y tŷ a chan croeso, ond mi gysga i yn y gweithdy; rwy'n hen gynefin â gneud hynny.

Nel

Wn i ddim sut i ddiolch i chi.

Jared

Does dim i ddiolch am dano. Fe wnawn ragor na hyn i ferch Martha'r Wern Lwyd. Anghofia i byth mo'ch mam, a choelia i ddim nad ydach chi'n debig iawn iddi pan oedd hi run oed a chi.

Nel

Ddeydwch chi ddim wrth neb, rwy'n siwr, fod nhad wedi ngyrru allan o'r tŷ heno?

Jared

Mi fyddaf fel y bedd. Mi gewch hyd i'r bwyd yn y gegin a gnewch bryd i chi'ch hun.

Nel

Na, dim pryd i mi heno, mi ges ddigon cyn rhedeg allan.

Jared

Does dim eisia bwyd arna innau chwaith, ond mi gewch estyn y glustog sydd ar y setl yn y gegin, os gnewch chi, ac yna fe wnaf y tro'n grand.



A NEL i'r tŷ am y glustog.

Nel

Dyma hi.

Jared

Nos dawch!

Nel

(Gan fynd drwy'r drws i'r tŷ.) Nos dawch!



Disgynna'r llen ar JARED yn gosod y glustog ar y bwrdd i gysgu arni.

a1a2a3a4