| (Y Ddewines gyntaf) Cyfwrdd eto, bryd y daw | |
| (Y cwbl) Hedwn drwy'r tawch a'r awyr hell. | |
| (1, 2) 22 | Pa waedlyd ŵr yw hwn? |
| (1, 2) 23 | Fe allai ef fynegi ini ddamwain ola'r gad, a barnu wrth ei lun. |
| (Malcolm) Y rhingyll yw, a frwydrodd megis milwr dewr a da rhag fy nghaethiwo i. | |
| (Y Rhingyll) ac ni roes iddo nawdd, na'i adael ychwaith, onid agorodd ef o geg i geudod, a dodi ei ben ar gopa'n muriau ni. | |
| (1, 2) 31 | O gâr dewr a theilwng wrda! |
| (Y Rhingyll) Ond, fel y bydd ystormydd dinistriol a tharanau arswydus yn torri o'r lle y bo'r haul yn dechreu llewyrchu, felly o'r fan yr oedd cysur fel pe'n dyfod, y mae anghysur yn ymchwyddo. | |
| (Y Rhingyll) Dal, di, Frenin Alban, dal ar hyn: Nid cynt y gorfu cyfiawnder âg arfau dewrder i'r cnafon hyn roi ymddiried yn eu sodlau, nag y bu i'r arglwydd Norwyaidd, o ganfod cyfle, âg arfau gloewon ac â dynion ragor, ddechreu rhuthr newydd. | |
| (1, 2) 34 | Oni pharodd hynny ddigalonni'n capteiniaid Macbeth a Banguo? |
| (Y Rhingyll) Do, fel y bydd adar y to yn digalonni eryrod, neu ysgyfarnog yn digalonni llew. | |
| (Y Rhingyll) oddieithr fod eu bryd ar ym drochi mewn archollion gwaedlyd, neu beri cof am Golgotha arall, ni fedraf adrodd—ond gwanhau yr wyf, a'm clwyfau 'n llefain am gynhorthwy. | |
| (1, 2) 38 | Cystal y gwedd dy eiriau arnat â'th glwyfau; mae anrhydedd yn y naill a'r llall. |
| (1, 2) 39 | Ewch, cyrcher meddyg ato. |
| (1, 2) 41 | Pwy yw hwnacw? |
| (Malcolm) Teilwng Bendefig Ross. | |
| (Ross) Duw a'th gadwo, Frenin! | |
| (1, 2) 47 | O ba le y daethost, deilwng bendefig? |
| (Ross) O Fife, wiw deyrn, lle y mae baneri Norwy'n herio'r wybr ac yn gwyntyllio'n pobl yn oer. | |
| (Ross) Dechreuodd brenin Norwy ei hun, âg aruthr nifeiri, a'r bradwr anffyddlonaf hwnnw, pendefig Cawdor, ymgyrch ffyrnig, hyd nes myned Macbeth i'w wynebu'n gyfartal âg yntau, gan ddofi ei ysbryd gwyllt; ac, i mi orffen, syrthiodd y fuddugoliaeth i ni. | |
| (1, 2) 50 | Lawenydd mawr! |
| (Ross) Felly yn awr, y mae brenin y Norwyaid yn erfyn am delerau; ond ni roddem ninnau iddo gennad i gladdu ei feirw hyd oni thalai i ni ddeng mil o ddoleri at ein gwasanaeth cyffredin. | |
| (Ross) Felly yn awr, y mae brenin y Norwyaid yn erfyn am delerau; ond ni roddem ninnau iddo gennad i gladdu ei feirw hyd oni thalai i ni ddeng mil o ddoleri at ein gwasanaeth cyffredin. | |
| (1, 2) 52 | Ni chaiff pendefig Cawdor fyth mwy ein twyllo am ein lles; ewch ac erchwch ei ladd yn ddiatreg, ac â'r teitl a ddygai gynt, cyferchwch Macbeth. |
| (Ross) Gofalaf wneuthur hynny. | |
| (Ross) Gofalaf wneuthur hynny. | |
| (1, 2) 54 | A gollodd ef; enillodd Macbeth hael. |