a1, g1a1, g2a1, g3

Macbeth (1916)

William Shakespeare
cyf. T Gwynn Jones

Ⓗ 1916 T Gwynn Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 1

ACT I
YR OLWG GYNTAF.—Lle diffaith.
Taranau a mellt. Daw tair Dewines yno.

Y Ddewines gyntaf
Cyfwrdd eto, bryd y daw
Mewn taranau, mellt, neu law?

Yr ail Ddewines
Pan o'r hwrli-bwrli'n rhydd,
Wedi cael a cholli'r dydd.

Y drydedd Ddewines
Cyn ymachlud haul y bydd.

Y Ddewines gyntaf
Ymha lannerch?

Yr ail Ddewines
Ar y tyno.

Y drydedd Ddewines
A Macbeth i gyfwrdd yno.

Y Ddewines gyntaf
Dyfod 'r wyf, y Goetgath lwyd!

Yr ail Ddewines
Geilw'r Llyffant.

Y drydedd Ddewines
Yn y man!

Y cwbl
Gwell yw'r gwaeth, a gwaeth yw'r gwell,
Hedwn drwy'r tawch a'r awyr hell.


Ant ymaith.

a1, g1a1, g2a1, g3