Macbeth

Cue-sheet for Duncan

(Y Ddewines Gyntaf) Pa bryd y down ni eto'n tair
 
(Y Tair) Trown uwchben drwy darth a gwyll.
(1, 2) 27 Pwy yw hwn sydd yn ei waed?
(1, 2) 28 A barnu wrth ei lun, gallai ef roi gwybod i ni beth fu tro olaf y frwydr.
(Malcolm) Y Rhingyll ydyw, a fu fel milwr da, yn ymladd rhag fy nghaethiwo i.
 
(Y Rhingyll) Ac ni roes iddo nawdd na'i adael ychwaith, cyn ei agor o geg i geudod, a dodi ei ben ar frig ein muriau ni.
(1, 2) 36 O, gâr dewr a gwrda teilwng!
(Y Rhingyll) Ond, fel y bydd ystormydd dinistriol a tharanau arswydus yn torri o'r lle bo'r haul yn dechrau tywynnu, felly, o'r fan lle'r oedd cysur fel pe'n dyfod, dyna anghysur yn ymchŵyddo eto.
 
(Y Rhingyll) Dal di, Frenin Alban, dal ar hyn: Nid cynt y gorfu cyfiawnder ac arfau dewrder i'r cnafon hyn ymddiried yn eu sodlau nad dyma'r Arglwydd o Norwy, o weld y cyfle, yn dechrau rhuthr newydd ag arfau gloywon a rhagor o ddynion.
(1, 2) 39 Oni pharodd hynny ddigalonni'n Capteiniaid Macbeth a Banguo?
(Y Rhingyll) Do, fel y bydd adar to yn digalonni eryrod, neu ysgyfarnog yn digalonni llew.
 
(Y Rhingyll) Felly, yr oeddynt yn dwbl ddyblu eu hergydion ar y gelyn; naill ai bod eu bryd ar ymdrochi mewn gwaed, neu ynteu beri cofio Golgotha arall—ni fedraf adrodd—'rwy'n gwanhau a'm clwyfau'n llefain am gynhorthwy.
(1, 2) 43 Cystal y gwedd d'eiriau arnat ag y gwedd dy glwyfau; y mae anrhydedd yn y naill a'r lleill.
(1, 2) 44 Ewch, cyrcher meddyg ato.
 
(1, 2) 46 Pwy yw hwnacw?
(Malcolm) Teilwng Bendefig Ross.
 
(Ross) Duw a'th gadwo, Frenin!
(1, 2) 52 O ba le y daethost, deilwng bendefig?
(Ross) O Ffiff, Arglwydd, lle y mae banerau Norwy yn herio'r wybren ac yn gwyntyllio'n pobl yn oerion.
 
(Ross) Dechreuodd Brenin Norwy gyda hylltod o wŷr, a'r bradwr anffyddlonaf hwnnw, pendefig Cawdor, yn gefn iddo, ar ymgyrch ffyrnig, hyd nes mynd Macbeth i'w wynebu'n gyfartal ag yntau, gan ddofi ei ysbryd gwyllt, ac o'r diwedd, syrthiodd y fuddugoliaeth i ni.
(1, 2) 55 Llawenydd mawr!
(Ross) Felly bellach y mae Brenin y Norwyaid yn erfyn am delerau, ond ni roddem ninnau iddo gennad i gladdu ei feirw hyd oni thalai i ni ddeng mil o ddoleri at ein gwasanaeth cyffredin.
 
(Ross) Felly bellach y mae Brenin y Norwyaid yn erfyn am delerau, ond ni roddem ninnau iddo gennad i gladdu ei feirw hyd oni thalai i ni ddeng mil o ddoleri at ein gwasanaeth cyffredin.
(1, 2) 57 Ni chaiff Pendefig Cawdor fyth mwy ein twyllo am ein lles, ewch ac erchwch ei ladd rhag blaen, ac â'r teitl a ddygai ef gynt, cyferchwch Macbeth.
(Ross) Gofalaf am hynny.
 
(Ross) Gofalaf am hynny.
(1, 2) 59 Y peth a gollodd ef, fe'i henillodd Macbeth urddasol.