a1, g1a1, g2a1, g3

Macbeth (1942)

William Shakespeare
cyf. T Gwynn Jones

Ⓗ 1942 T Gwynn Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 1


YR ACT GYNTAF

GOLYGFA I

Lle diffaith. Taranau a mellt. Tair Dewines yn dyfod.

Y Ddewines Gyntaf
Pa bryd y down ni eto'n tair
Ai mewn taranau, mellt a glaw?

Yr Ail Ddewines
Pan ddarffo hwrli-bwrli'r ffair,
Ar ôl y cael a'r colli a ddaw.

Y Drydedd Ddewines
Cyn bod yr haul yn cilio draw.

Y Ddewines Gyntaf
Ym mha lannerch?

Yr Ail Ddewines
Ar y tyno.

Y Drydedd Ddewines
 Macbeth i gyfwrdd yno.

Y Ddewines Gyntaf
Dyma fi, Lwyd Gath y Coed!

Yr Ail Ddewines
Geilw'r Llyffant.

Y Drydedd Ddewines
Dyna'r oed.

Y Tair
Hyll yw hardd a hardd yw hyll;
Trown uwchben drwy darth a gwyll.


Ant ymaith.

a1, g1a1, g2a1, g3