| (Y Criwr) Pell ac agos yma dewch, | |
| (Cydymaith) Ie, was, 'r wyt ti'n rhigymu enwau fel y bydd plant—Sioni poni, Siani pani, a rhyw chwarae felly—mae echwyn ac achwyn yn clymu'n burion! | |
| (0, 2) 131 | Pe bai llyfr echwyn ambell un yn agored, fe welid bod ynddo lawer peth drwg. |
| (Pobun) I bwy y mae'r ergyd yna? | |
| (Pobun) I bwy y mae'r ergyd yna? | |
| (0, 2) 133 | I'r sawl sy'n holi. |
| (Pobun) Nid wyf yn deall monot. | |
| (Pobun) Ni wn i ddim am bwy yr wyt ti'n fy nghymryd. | |
| (0, 2) 136 | Byddai'n gywilydd gennyf fod yn dy groen. |
| (Pobun) Dyna air caled i mi heb achos. | |
| (Cydymaith) Beth? | |
| (0, 2) 140 | Gair digon ysgafn am ergyd drom. |
| (Cydymaith) Beth! | |
| (Pobun) Pwy roes ergyd i ti? | |
| (0, 2) 143 | Ti dy hun, ac un drom. |
| (Pobun) [Nid adwaen i monot wrth d'olwg.] | |
| (Pobun) [Nid adwaen i monot wrth d'olwg.] | |
| (0, 2) 145 | [Eto dy droed ti sy'n pwyso arnaf.] |
| (Pobun) Peth rhyfedd fyddai fy mod yn gwneud hynny ac heb wybod dim am y peth. | |
| (Cydymaith) Beth! | |
| (0, 2) 149 | Mae d'enw di wrth amod sy'n fy mwrw i i garchar. |
| (Pobun) [Ar fy ngair, pa beth yw hynny i mi?] | |
| (Pobun) [Ar fy ngair, pa beth yw hynny i mi?] | |
| (0, 2) 151 | [Tydi, Pobun wrth d'enw, yw'r gŵr y doed â'r gŵyn yn f'erbyn i yn ei enw ac ar ei gais! Drwy d'orchymyn di yn unig y'm dygir i i'r carchar.] |
| (Pobun) 'Rwy'n golchi fy nwylo mewn diniweidrwydd, fel un na ŵyr ddim am y peth. | |
| (Pobun) 'Rwy'n golchi fy nwylo mewn diniweidrwydd, fel un na ŵyr ddim am y peth. | |
| (0, 2) 153 | [Gweision dy weision, efallai, sy'n rhoi trais arnaf, gorff a meddwl. |
| (0, 2) 154 | Ond ti dy hun yw'r gŵr sy tu cefn i'r peth, a bydd yn warth arnat yn awr ac am byth.] |
| (Pobun) [Pwy a barodd iti fenthyg arian ar lôg? | |
| (Pobun) Amser wedi mynd heibio, dydd wedi darfod—dwg dy gŵyn yn eu herbyn hwy.] | |
| (0, 2) 159 | [Dyma fo'n dirmygu ac yn gwawdio f'angenoctyd i. |
| (0, 2) 160 | Dyna ŵr cyfoethog i chwi. |
| (0, 2) 161 | Ni ŵyr ei galon ddim am orchymyn Duw. |
| (0, 2) 162 | Mil o lythyrau coel yn ei goffrau, ac yntau'n ein gado ni dlodion mewn angen a phoen.] |
| (Gwraig y Dyledwr) Oni elli di drugarhau' wrthym, rhwygo'r darn papur melltigedig, yn lle bwrw tad fy mhlant i yng ngharchar, un nad achosodd ddrwg iti erioed! | |
| (Gwraig y Dyledwr) Arian, ceiniog yw arian a rydd dyn yn fenthyg i'w gymydog er mwyn trugaredd Dduw. | |
| (0, 2) 169 | Arian? |
| (0, 2) 170 | Nid yw arian fel pob masnach arall; peth melltigedig a llawn hudoliaeth yw; y neb a estynno'i law tuag ato, i'w enaid ei hun y bydd niwed a gwarth nad arbedir ef byth rhagddynt, canys nid oes ar rwyd Satan yn y byd amgen enw nag arian. |
| (Pobun) Yr wyt yn cablu fel ynfytyn noeth! | |
| (Pobun) Wrth fwrw dirmyg arno cyffelyb wyt i'r cadno a'r grawn surion; a'r sawl a ddifenwo unpeth yn ei gefn, ni chaiff hwnnw neb a'i credo ar ei air. | |
| (0, 2) 175 | [O'm helbul mi enillais rywbeth, sef bod wedi dysgu adnabod magl y diawl, a rhyddhau f'enaid rhag melltith arian.] |
| (Cydymaith) [Gwahanwyd rhwng arian â thithau ers tro—am hynny y mae dy le yng ngharchar.] | |
| (0, 2) 185 | Pa beth a dâl dy ddagrau, fy ngwraig druan? |
| (0, 2) 186 | Dyma fi yng nghrafanc Mamon. |
| (0, 2) 187 | Paham yr ymroddais innau iddo erioed? |
| (0, 2) 188 | Bellach, dyma ben ar y bywyd hwnnw. |