|
|
|
(Lowri) Mae Syr John wedi gorffen cinio. |
|
|
|
(Syr John) Pnawn da. |
(1, 0) 268 |
Pnawn da, Syr John. |
|
(Syr John) Be alla i ei wneud i chi? |
|
|
|
(Syr John) Be alla i ei wneud i chi? |
(1, 0) 270 |
Mi fuoch chi'n gapten yn llynges ei Fawrhydi yn y rhyfel enbyd yma, Syr John? |
|
|
(1, 0) 272 |
A'ch dyrchafu'n farchog i goroni'ch gyrfa enwog... |
|
|
(1, 0) 274 |
Mi fuoch chi hefyd yn Uchel Sirif sir Fôn. |
|
|
(1, 0) 276 |
Dyna'r pam y mentrais i ofyn am eich gweld chi, Syr John. |
(1, 0) 277 |
Mi wyddoch chi'n well na nemor neb am beryglon y môr a helynt llongwyr ynys Môn yn y rhyfel, yn arbennig y llongau masnach y mae llongau rhyfel Napoleon yn eu herlid a'u dal. |
|
(Syr John) Mae brwydr Traffalgar y llynedd wedi gostwng llawer ar y peryglon hynny. |
|
|
|
(Syr John) Mae brwydr Traffalgar y llynedd wedi gostwng llawer ar y peryglon hynny. |
(1, 0) 279 |
Do'n wir, Syr John, ac i chi'r capteiniaid a'r Arglwydd Nelson dan ragluniaeth y nef y mae'r diolch. |
(1, 0) 280 |
Roedd y tâl yn ddrud hefyd, colli'r fath lyngesydd ar union awr y fuddugoliaeth. |
(1, 0) 281 |
Ond y mae ambell long ryfel o Ffrainc yn ffroeni o gwmpas moroedd Cymru hyd yn oed rwan. |
|
(Syr John) Ac weithiau'n dal ysglyfaeth. |
|
|
|
(Syr John) Fel yna, welwch chi, mae capteiniaid llynges yn ennill eu bara. |
(1, 0) 284 |
A'u hysglyfaeth yn dihoeni yng ngharcharau Ffrainc. |
|
(Syr John) Mae'n drueni amdanyn nhw, ond rhyfel ydy rhyfel. |
|
|
|
(Syr John) Mae'n drueni amdanyn nhw, ond rhyfel ydy rhyfel. |
(1, 0) 286 |
Mae nifer ohonyn nhw'n Gymry, Syr John. |
|
(Syr John) Oes rhai o Sir Fôn yma? |
|
|
|
(Syr John) Oes rhai o Sir Fôn yma? |
(1, 0) 288 |
Un o Amlwch, Capten Thomas Owen, perchennog ei long ei hun. |
(1, 0) 289 |
Roedd o'n un o bum llong yn hwylio gyda llwyth o Amlwch i Lundain, ac un o'n llongau rhyfel ni yn eu hebrwng nhw. |
(1, 0) 290 |
Ond tua thrwyn Cernyw mi drodd y llong ryfel yn ôl a'u gadael nhw heb warchod. |
(1, 0) 291 |
Daeth llong ryfel o Brest ar eu gwartha nhw. |
(1, 0) 292 |
Doedd dim amdani ond gwasgar. |
(1, 0) 293 |
Fe ddaliwyd yr Elinor, llong Thomas Owen, ac y mae yntau rwan mewn carchar yn Verdun yn Ffrainc. |
(1, 0) 294 |
Nid fo'n unig, ond amryw Gymry eraill, capteiniaid llongau o Fôn ac Arfon... |
(1, 0) 295 |
Syr John, casglu cronfa i helpu'r Cymry hyn yn Ffrainc i brynu bwyd a chysuron yr ydw innau, a dwad yma i ofyn i chi helpu ydy fy neges i. |
|
(Syr John) Ydach chi'n nabod rhai ohonyn nhw? |
|
|
|
(Syr John) Ydach chi'n nabod rhai ohonyn nhw? |
(1, 0) 297 |
Rydw i'n nabod Capten Thomas Owen yn dda. |
(1, 0) 298 |
Mi fu o am dymor yn Fethodist, ond fe wrthgiliodd. |
|
(Syr John) A chithau'n casglu iddo fo? |
|
|
|
(Syr John) A chithau'n casglu iddo fo? |
(1, 0) 300 |
Mae'n o'n Gymro ac mewn angen. |
|
(Syr John) I'r Cymry rydych chi'n casglu? |
|
|
|
(Syr John) I'r Cymry rydych chi'n casglu? |
(1, 0) 302 |
I'r carcharorion rhyfel yn Ffrainc o Fôn ac Arfon a Meirionnydd. |
(1, 0) 303 |
Rydan ni wedi anfon hanner can punt atyn nhw eisoes, ond mae gofyn am chwaneg. |
(1, 0) 304 |
Maen nhw'n crefu'n daer. |
|
(Syr John) Oes gennych chi rywbeth i ddangos iddyn nhw dderbyn yr arian? |
|
|
(1, 0) 307 |
Dyma i chi ddogfennau o Lundain a Pharis yn cydnabod derbyn ac yn gofyn am chwaneg. |
|
(Syr John) {Yn darllen.} |
|
|
(1, 0) 313 |
Eich ufudd was. |
(1, 0) 314 |
Anodd i bobl yn Ffrainc ddychmygu am neb llai na marchog sir yn estyn cymorth i drueiniaid rhyfel. |
|
(Syr John) Yn wir, rydach chi'n rhoi golwg newydd i minna ar y Methodistiaid. |
|
|
|
(Syr John) Peth anghyffredin yn eich hanes chi? |
(1, 0) 317 |
Syr John, mae gennym ni Fethodistiaid esgob o lywydd i Ogledd Cymru yn y Parchedig Mr. |
(1, 0) 318 |
Thomas Charles o'r Bala. |
(1, 0) 319 |
Fo sy'n ein dysgu ni i anrhydeddu'r brenin ac ufuddhau i'r llywodraeth. |
(1, 0) 320 |
Y mae casglu i'r capteiniaid o Gymry yn Ffrainc ac i Gymdeithas y Beiblau drwy'r byd yn rhan o'n dyletswydd ni yn ôl Epistol Pedr ac yn ôl athrawiaeth Mr. Charles. |
|
(Syr John) Wel, mi gaiff fod yn rhan o 'nyletswydd inne, er nad ydw i ddim yn Fethodist. |
|
|
|
(Syr John) Mi ro i ddau gini i chi at yr achos da. |
(1, 0) 323 |
Bendith y nefoedd arnoch chi, syr, ac ar─roeddwn i ar fin dweud ac ar eich teulu. |
(1, 0) 324 |
Ond gŵr dibriod ydach chi. |
|
(Syr John) Wel ie, hyd yn hyn, hyd yn hyn... |
|
|
|
(Syr John) Rydach chi, yn ôl a glywaf i, yn fab yng nghyfraith iddo fo? |
(1, 0) 328 |
Mi gefais i'r anrhydedd o ennill llaw ei ferch hynaf o. |
(1, 0) 329 |
Ond nid o fodd Mr. Broadhead, mae'n ddrwg gen i ddeud. |
|
(Syr John) Mae hynny'n naturiol. |
|
|
|
(Syr John) Mae priodi'n is na'i stad yn beryg go enbyd, yn enwedig i ferch. |
(1, 0) 332 |
Mi wn ei fod o'n berigl ac yn dramgwydd. |
(1, 0) 333 |
Ond chlywais i erioed awgrym o hynny gan fy ngwraig. |
|
(Syr John) Mi ddalia i naddo. |
|
|
|
(Syr John) Rydw i'n ei chofio hi'n eneth fach, yr hyna ohonyn nhw, ffefryn annwyl ei thad, merch fonheddig a gwraig fonheddig. |
(1, 0) 336 |
Gwraig dduwiol. |
|
(Syr John) Aha? |
|
|
|
(Syr John) Chi wnaeth Fethodist ohoni? |
(1, 0) 339 |
Roedd hi'n Fethodist cyn i mi ei gweld hi. |
|
(Syr John) Felly nid ei phriodas oedd achos y rhwyg rhyngddi a'i thad? |
|
|
|
(Syr John) Felly nid ei phriodas oedd achos y rhwyg rhyngddi a'i thad? |
(1, 0) 341 |
Ei chrefydd hi oedd cychwyn y trwbl, mynd i'r seiat. |
|
(Syr John) Dewis cwmni isel, gwerinol. |
|
|
|
(Syr John) Hynny yw, yn ei gylch ei hun. |
(1, 0) 347 |
Mae o'n dechrau maddau iddi hi. |
|
(Syr John) Ac i chithau? |
|
|
|
(Syr John) Wedi'r cwbl, mae ganddo fab yng nghyfraith reit enwog. |
(1, 0) 350 |
Wel, mae o'n cyfrannu at y gronfa yma i helpu'r Cymry yn Ffrainc. |
|
(Syr John) Rydach chi'n swynwr heb eich bath. |
|
|
|
(Syr John) Mi ddalia i mai yn y pwlpud y gwelodd Miss Broadhead chi gynta? |
(1, 0) 353 |
Pregethu ydy fy ngwaith i, fy mywyd i. |
(1, 0) 354 |
I hynny y'm galwyd i. |
(1, 0) 355 |
Mi welodd hithau hynny. |
|
(Syr John) Mae pwlpud yn berig i ferch! |
|
|
|
(Syr John) Mae pwlpud yn berig i ferch! |
(1, 0) 357 |
Tybed nad ydy plas hen lanc yn berig i ferch? |
|
(Syr John) Wel ie, digon posib. |
|
|
|
(Syr John) Ond fu 'na rioed ferch a briododd y pwlpud a'r plas. |
(1, 0) 360 |
Gadael y plas i weini ar y pwlpud, dyna offrwm fy ngwraig i. |
|
(Syr John) Offrwm? |
|
|
|
(Syr John) Dwedwch i mi, a gobeithio nad ydy'r cwestiwn ddim yn rhy bersonol... gawsoch chi fod priodi mor anghyfartal o ran dosbarth a dygiad i fyny, yn anodd? |
(1, 0) 364 |
Syr John, os ydy'r briodas o'r ddwy ochr o wirfodd─ |
|
(Syr John) Ie? |
|
|
|
(Syr John) Ie? |
(1, 0) 366 |
Yna does dim priodi anghyfartal. |
|
(Syr John) {Gan groesi ato a chymryd ei law yn wresog.} |
|
|
|
(Syr John) Faint ddwedais i y rhown i i'r gronfa yma? |
(1, 0) 375 |
Dau gini, yntê? |