|
|
|
(Robert) Mae nhw wedi'ch gadael chi ar ych pen ych hun yn y twllwch, mam? |
|
|
(1, 0) 30 |
Beth sydd eisio? |
|
(Robert) Dowch â thipyn o ola yma, neno'r taid; mae'r hen wraig i hun yn y fan yma fel pelican yr anialwch. |
|
|
(1, 0) 38 |
Tewch â rhuo, Robert, am y menyn yna o hyd. |
(1, 0) 39 |
Mae llawer mwy o hir hel wedi bod arno ar ol i roi ar y bwrdd na chynt, ddyliwn i. |
(1, 0) 40 |
Ydi'r golau'n rhy gry i chi, nain? |
|
(Mali) Mae'r golau'n rhy gry i mi bob amser, weldi. |
|
|
|
(Mali) Rydw i jest a darfod hefog o. |
(1, 0) 43 |
Peidiwch a chyboli wir, nain bach. |
(1, 0) 44 |
Dydech chi ddim ond dechra byw eto. |
(1, 0) 45 |
Ond oeddech chi'n deud, os ydech chi'n cofio, pan oedd Emrys yn mynd i ffwrdd i'r ysgol am y tro cynta na chaech chi byth i weld o wedyn,—a dyma fo wedi gorffen ac wedi cael i radd,—a chitha ddim blewyn gwaeth. |
|
(Mali) Amal gnoc, y ngeneth i, dyrr yr hen garreg... |
|
|
|
(Mali) Mae Emrys yn ymdroi'n hir iawn yn rhywle. |
(1, 0) 48 |
Chware teg i'r hogyn; ceisio meddwl y mae o'n rhywle: fedar neb feddwl dim yn y tŷ yma,—a Robert yn clebran o hyd fel prep melin, ag Ann a finna'n clocsio o gwmpas hefo'r llaeth i'r lloiau. |
(1, 0) 49 |
Ond marciwch chi fod gynno fo rywbeth mawr ar i feddwl; mae o'n sôn o hyd y mynn o wneud i ol ar y wlad yma,—a fynta wedi cael cyfle mor ardderchog. |
(1, 0) 50 |
Ag mae eisio rhywun i ail-bobi tipin ar yr hen wlad, rhywun i ddysgu tipin arni, rhywun i roi tipin o gryfdwr yn asgwrn i chefn hi, a gewch chi weld mai Emrys ydi'r dyn. |
|
(Robert) Wel, tawn i'n llwgu ar y fan yma, dyma'r hen Elin yn dechra'i gweld nhw eto. |
|
|
|
(Robert) Pam na fasa fo'n mynd yn brygethwr ynte os ydi o mor awyddus am roi tro yng nghynffona pobol? |
(1, 0) 57 |
Mi fasa Emrys yn gneud cystal prygethwr a'r un ohonyn nhw {yn pwyntio at y lluniau} o ran hynny. |
(1, 0) 58 |
Does gen neb air i ddeud yn erbyn i gymeriad o,—ond mae o'n deud y gneith o well gwaith y tu allan i'r pulpud. |
|
(Robert) {Yn datod ei esgidiau.} |
|
|
|
(Robert) Waeth befo, o ran hynny, mae genni hi ddigonedd o arian. |
(1, 0) 66 |
Twt, twt!—mae'n rhy fuan iddo fo feddwl am briodi am flynyddoedd eto,—ac mae'r hên Vaughan, welwch chi, yn disgwyl rhywbeth gwell i Miss Agnes na mab i ffarmwr... |
(1, 0) 67 |
Ydech chi wedi gorffen, Ann? |
|
(Ann) Do, 'r cwbwl. |
|
|
|
(Mali) Mae Emrys yn hir iawn yn rhywle. |
(1, 0) 82 |
Tewch wir, nain; rydech chi'n 'y ngneud i'n bur drwblus yn i gylch o. |
|
|
(1, 0) 84 |
Mae hi'n dywydd garw heno, a mae nhw'n deud fod peth wmbreth o ryw hen boachers o'r dre o gwmpas y wlad. |
(1, 0) 85 |
Mae'r sgweier wedi addo ar i beth mawr ynta mai'i cosbi hyd eitha'r gyfraith gân nhw. |
(1, 0) 86 |
Mae o o'i gô lâs am i fod o'n methu a'i dal nhw. |
|
|
(1, 0) 88 |
Beth rydech chi'n ochneidio, deudwch? |
|
(Mali) Gweld petha rhyfedd yn y tân yma. |
|
|
|
(Mali) 'Dwyt ti ddim yn meddwl y bydd yr hen Vaughan yn fodlon i Emrys gael Agnes, wyt ti? |
(1, 0) 91 |
Waeth gen i o gwbwl—ond dydi hi ddim hanner digon da iddo fo,—yr hen beth larts benchwiban iddi hi. |
(1, 0) 92 |
Does genni ddim golwg o gwbwl ar y teulu,—cribddeilwyr a chrintachod ydyn nhw o hil gerdd. |
(1, 0) 93 |
Ond mae Robert wedi cymryd rhyw chwilen yn i ben am fod yna arian yn yr Hafod, ag mae o'n meddwl— |
|
(Robert) {O'r ty llaeth.} |
|
|
(1, 0) 99 |
Gadael llonydd iddo fo wir! |
(1, 0) 100 |
Gadael llonydd iddo fo! |
(1, 0) 101 |
Os medra i 'i gadw fo rhag syrthio i ddwylo'r Ismaeliaid, mi wna hynny, mi ellwch chi fod yn ddigon siwr. |
(1, 0) 102 |
Ymyrraeth wir? |
(1, 0) 103 |
Gan bwy mae'r hawl i ymyrraeth os nad gen i? |
(1, 0) 104 |
Pwy fu'n cynhilo pob dima i yrru o i'r coleg, pan oedd i dad o'n grwgnach fel costog bob dydd? |
(1, 0) 105 |
Pwy fu'n mynd i'r capel bob Sul yn llwm ag yn dlawd er mwyn i gadw fo yno fel roedd o'n haeddu? |
(1, 0) 106 |
Pwy oedd yn credu y basa fo'n gneud gwyrthia yno, a phwy sy'n credu y bydd o'n broffwyd ac yn efangylydd yng Nghymru eto? |
(1, 0) 107 |
Pwy ond i fam o? |
(1, 0) 108 |
Mi ellwch chi roi caead ar ych piser yn ddigon di-lol o ran hynny! |
|
(Robert) {Yn y drws yn llewys ei grys, a sebon hyd ei wyneb.} |
|
|
(1, 0) 132 |
Na fydd, Ann. |
|
|
(1, 0) 134 |
Dydi Miss Vaughan ddim yn deall yn dull ni yn y Sgellog. |
(1, 0) 135 |
Mae hi'n trin Ann fel y mae nhw'n trin morynion yr Hafod—fel tasa nhw'n faw dan draed. |
(1, 0) 136 |
Dyna ffordd byddigions, debig gin i. |
|
|
(1, 0) 141 |
Sut rydech chi, heno, Miss Vaughan? |
(1, 0) 142 |
Dowch i fewn. |
(1, 0) 143 |
Mae hi'n dywyll iawn, ond ydi hi? |
|
(Robert) la, dowch i fewn Miss Vaughan, a steddwch wrth y tân. |
|
|
|
(Agnes) Lle mae o wedi mynd? |
(1, 0) 159 |
Roedd o'n sôn i fod o'n mynd i weld ych tad i'r Hafod. |
|
(Agnes) Mae'n debig iddo gyrraedd wedi i mi gychwyn. |
|
|
|
(Agnes) Mi fum i'n ymdroi tipin tua'r siop, yn ol f'arfer. |
(1, 0) 162 |
Roedd yno ddigon o straeon, mi wranta. |
(1, 0) 163 |
Mae Mrs. Davies—a Dafydd Dafis hefyd o ran hynny—yn gwybod hanes y byd a'r Bettws. |
|
(Agnes) Chlywsoch chi rioed y fath beth; doedd dim eisio imi yngan gair, dim ond gwrando. |
|
|
|
(Agnes.) Yr oedd Mrs. Davies yn gweld bai mawr arno am drin y |gentry| fel yna, ag yr |oedd| bai arno fo hefyd. |
(1, 0) 173 |
Bai, Miss Vaughan? |
(1, 0) 174 |
Ydech chi'n meddwl y dylid trin y |gentry|, chwedl chitha, yn wahanol i bobol erill? |
|
(Agnes) Wel, mae'n gwilydd i bobol gommon hel i dwylo hyd rai fel y Sgweier—a ninna'i gyd yn |tenants| iddo. |
|
|
|
(Robert) Mi ddaw Emrys toc. |
(1, 0) 184 |
Hwyrach i fod o wedi mynd i gael sgwrs hefo'r gweinidog. |
|
(Robert) Wn i ar y ddaear sut y mae'r ddau yn medru cyd-dynnu,—mae Emrys yn mynd yn anffyddiwr glân, mae arna'i ofn. |
|
|
|
(Robert) Morfil Jona, wrth gwrs—wn i ddim beth ddaw ohono fo. |
(1, 0) 189 |
Tewch, tewch, Robert. |
(1, 0) 190 |
Rydech chi'n rhy bendew i wybod beth sy gan yr hogyn dan i fawd. |
(1, 0) 191 |
Hogyn da ydi'r hogyn. |
|
(Agnes) O ia, eisio bod dan ddylanwad rhywun |nice| sy arno fo, ynte? |
|
|
(1, 0) 208 |
Ia, nain bach, ond rydech chi'n hên wraig go dda yn ol yr hen ffasiwn a'r newydd. |
|
(Agnes) Ia, ond rhaid cael gwared o'r hen |superstitions| a'r hen bechoda. |
|
|
|
(Agnes) Doedd pobol ystalwm ddim yn bobol |nice| iawn. |
(1, 0) 211 |
Mae Emrys yn deud y basa'n well ini fod yn debycach iddyn nhw, ym mhob peth ond i hanwybodaeth. |
|
(Mali) Lle mae Emrys, tybed? |
|
|
|
(Agnes) Wedi bod yn y siop yr ydw i. |
(1, 0) 231 |
Mae Miss Vaughan yn mynd i aros i gael tamaid o swper, a rhaid i titha fynd i danfon hi dros y gors. |
(1, 0) 232 |
Tynn dy gôt, 'y machgen i. |
|
(Emrys) {Yn tynnu ei gôt yn araf, ac yn rhoi dau ffesant ar y bwrdd.} |
|
|
|
(Robert) Yr argian fawr! |
(1, 0) 236 |
Lle cest ti rheina? |
|
(Mali) Beth sy gen ti, machgen i? |
|
|
|
(Robert) Pwy gaclwm sy'n tyrfu'r adeg yma o'r nos, tybed? |
(1, 0) 281 |
Rhowch y ffesants yna o'r golwg, brysiwch! |
|
|
(1, 0) 283 |
Rhowch nhw dan y glustog yma. |
|
(Plisman) {Yn llygadu o gwmpas.} |
|
|
|
(Robert) Fum i ddim allan ar ol swpera, yn naddo bobol? |
(1, 0) 315 |
Naddo. |
|
(Plisman) Wel, dyna ni wedi colli'n deryn eto, McLagan. |
|
|
|
(Agnes) Cyfaddefwch y gwir,—bydd yn haws i chi gael trugaredd. |
(1, 0) 387 |
Miss Vaughan! ydech chi'n meddwl nad ydi Emrys yn deud y gwir? |
|
(Agnes.) Wel, y fo ac Un arall sy'n gwbod hynny. |
|
|
|
(Agnes.) Wel, y fo ac Un arall sy'n gwbod hynny. |
(1, 0) 389 |
Wel, os nag oes dim ond un heblaw fo'n gwbod—y fi ydi'r un hwnnw. |
(1, 0) 390 |
Dydi Emrys ddim wedi gorfod arfer deud celwydd wrth gribddeilio, fel rhai pobol, Miss Vaughan. |
|
(Plisman) Peidiwch a chynhennu, wragedd! |
|
|
|
(Ann) Cariad... i mi... oedd o... gwâs fferm heb fod ymhell oddiyma, a mi rhoth nhw i mi gynted ag yr oeddech chi wedi troi'ch cefn. |
(1, 0) 402 |
Ann! |