a1

Beddau'r Proffwydi (1913)

William John Gruffydd

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 1


YR ACT GYNTAF

Cegin y Segellog Fawr tuag wyth o'r gloch y nos yn nechreu mis Tachwedd, rhyw ugain mlynedd yn ol.

Nid yw'r canhwyllau wedi eu goleu clo, ond teifl y tân wawr gynnes tros yr ystafell. Ar y llaw dde, y mae'r tân,—tân coed isel yn llosgi'n ffyrnig. Ar y llawr o'i gylch, ar y pentanau, ac yn crogi ar gadwyni, y mae crochanau a llestri o'r fath. Nid oes yma ffender o gwbl, heblaw'r hen Bero, y ci, sy'n gorwedd ar ei hyd ar yr aelwyd. Wrth y lân, ac yn ein hwynebu, y mae setl dderw drom, ac arni'n eistedd hen wraig, MALI OWEN, yn gwau hosanau. Y maen amlwg bod ei dyddiau gweithio hi trosodd,—y mae'i dwylo'n crynnu wrth drin y gweill. Mae ganddi gap gwyn—y "cap lasiau" hen ffasiwn—am ei phen, a barclod stwff tywyll o'i blaen. Teifl ambell olwg ar y tân, a dyry ei gwau i lawr yn aml ar ei harffed, a syll yn bendrist i'r fflamau, fel pe bai'n gweled rhywbelh y tu draw iddynt. O flaen y tân, ac wrth law dde Mali Owen, y mae bwrdd crwn a lliain gwyn arno, yn barod at bryd. Y mae "bwrdd mawr" o flaen y ffenestr sy'n mhen draw yr ystafell, ac ystenau, dysglau, platiau, a chyllill yn dryblith arno. Ar ochr chwith y ffenestr y mae cwpwrdd tridarn, a phlatiau gleision ar y darn canol. Ar yr ochr chwith yn nes atom, y mae'r prif ddrws, yn arwain i ffrynt y ty; y mae drws arall y tu ol i'r sell yn agoryd i'r ty llaeth (neu'r briws) ac i ddrws y cefn. Troell bach yn y gongl wrth y drws chwith, a "chloc wyth" ar y pared wrth ddrws y briws. Cadeiriau derw yma ac acw ar hyd yr ystafell. Ar y pared, darluniau o rai o'r hen bregethwyr, ac almanac neu ddau yn cymell bwyd gwartheg, gwrtaith esgyrn, a nwyddau o'r fath. Mewn byr eiriau, gellir dywedyd bod y gegin yr un fath a phob cegin arall yn Sir Gaernarfon—neu Sir Fynwy—yng nghartre'r amaethwyr hynny sy dipin cyfoethocach na thyddynwyr, ac eto heb ddyfod yn agos i ardderchowgrwydd ffermwyr mawr Sir Fôn a Bro Morgannwg. ROBERT WILLIAM yn dyfod i mewn gyda llusern yr ystabl yn oleu yn ei law. Gwr bychan bywiog ei ysgogiadau, pwyllog ei leferydd: hawdd ei gythryblu, ond yn anghofio'n fuan: yn siaradllawer, ond yn gallu cadw ei gyfrinach cystal ag ungwr.

Robert

Mae nhw wedi'ch gadael chi ar ych pen ych hun yn y twllwch, mam?

Mali

Hitia befo. Rydw i'n hen gynhefin â bod yn unig, weldi; a mi fedra i weld llawn cymint yn y twllwch, am wn i wir,—a mwy.

Robert

Wel, rhaid ini gael lamp i'ch gweld chi beth bynnag, rhag ofn ych bod chi ar rhyw berwyl drwg. (Yn galw.) Elin! Elin!

Elin

(O'r ty llaeth.) Beth sydd eisio?

Robert

Dowch â thipyn o ola yma, neno'r taid; mae'r hen wraig i hun yn y fan yma fel pelican yr anialwch. Mae hi'n wyth o'r gloch, ac yn dywyll fel bol buwch.

Mali

Wyth o'r gloch! Wyth o'r gloch!

Robert

Welis i rioed siwn beth ag Elin yma ar ol i Emrys ddwad adre. Mae hi wedi pendronni'n lân;—chafodd y moch yr un tamad o fwyd bore heddiw, mi gymra i fy llw,—a wyddoch chi beth, mam? roedd yna flas hir hel ar y menyn yr wythnos yma,— oedd fel mae byw fi;—y tro cynta erioed ar ol i Elin ddwad i'r Sgellog.

Elin

(Yn dyfod i fewn gyda'r lamp.) Tewch â rhuo, Robert, am y menyn yna o hyd. Mae llawer mwy o hir hel wedi bod arno ar ol i roi ar y bwrdd na chynt, ddyliwn i. Ydi'r golau'n rhy gry i chi, nain?

Mali

Mae'r golau'n rhy gry i mi bob amser, weldi. Rydw i jest a darfod hefog o.

Elin

Peidiwch a chyboli wir, nain bach. Dydech chi ddim ond dechra byw eto. Ond oeddech chi'n deud, os ydech chi'n cofio, pan oedd Emrys yn mynd i ffwrdd i'r ysgol am y tro cynta na chaech chi byth i weld o wedyn,—a dyma fo wedi gorffen ac wedi cael i radd,—a chitha ddim blewyn gwaeth.

Mali

Amal gnoc, y ngeneth i, dyrr yr hen garreg... Mae Emrys yn ymdroi'n hir iawn yn rhywle.

Elin

Chware teg i'r hogyn; ceisio meddwl y mae o'n rhywle: fedar neb feddwl dim yn y tŷ yma,—a Robert yn clebran o hyd fel prep melin, ag Ann a finna'n clocsio o gwmpas hefo'r llaeth i'r lloiau. Ond marciwch chi fod gynno fo rywbeth mawr ar i feddwl; mae o'n sôn o hyd y mynn o wneud i ol ar y wlad yma,—a fynta wedi cael cyfle mor ardderchog. Ag mae eisio rhywun i ail-bobi tipin ar yr hen wlad, rhywun i ddysgu tipin arni, rhywun i roi tipin o gryfdwr yn asgwrn i chefn hi, a gewch chi weld mai Emrys ydi'r dyn.

Robert

Wel, tawn i'n llwgu ar y fan yma, dyma'r hen Elin yn dechra'i gweld nhw eto. Rhyngoch chi i gyd—mam yn gweld petha yn y tân, ag Ann yn stydio Geiriadur Charles, ag Emrys yn mynd i wneud tŵr melin ag eglwys, a chitha eto Elin yn siarad fel Llyfr y Diarhebion, does gen ddyn glân o Gymro ddim siawns i roi'i big i fewn.

Mali

Taw, Robert bach. Yr ydyn ni i gyd wedi bod yn cysgu'n rhy hir,—mae Elin yn iawn... Yr hên a ŵyr, a mi leiciwn i cyn marw weld Emrys bach yn rhoi tro yng nghynffon y bobol yma sy'n yn cadw ni i lawr.

Robert

Pam na fasa fo'n mynd yn brygethwr ynte os ydi o mor awyddus am roi tro yng nghynffona pobol?

Elin

Mi fasa Emrys yn gneud cystal prygethwr a'r un ohonyn nhw (yn pwyntio at y lluniau) o ran hynny. Does gen neb air i ddeud yn erbyn i gymeriad o,—ond mae o'n deud y gneith o well gwaith y tu allan i'r pulpud.

Robert

(Yn datod ei esgidiau.) Wel, nid meddwl y mae o heno; mi gymra i fy llw mai troi'i draed tua'r Hafod y mae o. (Yn tynnu ei gôt a'i rhoi ar ei fraich.) Ydech chi'n meddwl y gneith hi wraig iddo fo, Elin? (Yn cerdded tua'r ty llaeth.) Waeth befo, o ran hynny, mae genni hi ddigonedd o arian.



Ann yn dyfod o'r ty llaeth, ac am eiliad yn aros i glywed ateb Elin William.

Elin

Twt, twt!—mae'n rhy fuan iddo fo feddwl am briodi am flynyddoedd eto,—ac mae'r hên Vaughan, welwch chi, yn disgwyl rhywbeth gwell i Miss Agnes na mab i ffarmwr... Ydech chi wedi gorffen, Ann?

Ann

Do, 'r cwbwl. Rydw i wedi tywallt llaeth heno i gyd i'r potia cadw.

Robert

Paid a chadw cymin arno fo'r tro yma, 'ngeneth i. Mae dy feistres wedi mopio wrth feddwl am Emrys, a mae rhyw bry yn dy gorun ditha, 'ddyliwn. (Yn myned i'r ty llaeth.)

Mali
(Yn syllu i'r tân.)
"Un clefyd mewn dwy galon
Yrrodd lawer tŷ yn yfflon."



(Ann yn myned allan.)

Mali

Mae Ann yn rhy ddistaw i wneud morwyn dda, Elin. Mae hi cyn ddyfned a'r Llyn Du. Wyddost ti ar y ddaear beth sydd ar waelod y llyn,—faint o esgyrn pobl wedi boddi... Mae Emrys yn hir iawn yn rhywle.

Elin

Tewch wir, nain; rydech chi'n 'y ngneud i'n bur drwblus yn i gylch o. (Yn edrych drwy'r ffenestr.) Mae hi'n dywydd garw heno, a mae nhw'n deud fod peth wmbreth o ryw hen boachers o'r dre o gwmpas y wlad. Mae'r sgweier wedi addo ar i beth mawr ynta mai'i cosbi hyd eitha'r gyfraith gân nhw. Mae o o'i gô lâs am i fod o'n methu a'i dal nhw.



(Mali Owen yn ochneidio.)

Elin

Beth rydech chi'n ochneidio, deudwch?

Mali

Gweld petha rhyfedd yn y tân yma. 'Dwyt ti ddim yn meddwl y bydd yr hen Vaughan yn fodlon i Emrys gael Agnes, wyt ti?

Elin

Waeth gen i o gwbwl—ond dydi hi ddim hanner digon da iddo fo,—yr hen beth larts benchwiban iddi hi. Does genni ddim golwg o gwbwl ar y teulu,—cribddeilwyr a chrintachod ydyn nhw o hil gerdd. Ond mae Robert wedi cymryd rhyw chwilen yn i ben am fod yna arian yn yr Hafod, ag mae o'n meddwl—

Robert

(O'r ty llaeth.) Rydw i yn ych clywed chi, Elin William. Tasa fo'n i chael hi, fasa ddim rhaid iddo fo weithio'r un cnoc byth,—mae na le siort ora iddo fo roi'i het ar yr hoel. Peidiwch ag ymyrraeth â'r hogyn; gadwch lonydd iddo fo.

Elin

(Yn codi ei llais.) Gadael llonydd iddo fo wir! Gadael llonydd iddo fo! Os medra i 'i gadw fo rhag syrthio i ddwylo'r Ismaeliaid, mi wna hynny, mi ellwch chi fod yn ddigon siwr. Ymyrraeth wir? Gan bwy mae'r hawl i ymyrraeth os nad gen i? Pwy fu'n cynhilo pob dima i yrru o i'r coleg, pan oedd i dad o'n grwgnach fel costog bob dydd? Pwy fu'n mynd i'r capel bob Sul yn llwm ag yn dlawd er mwyn i gadw fo yno fel roedd o'n haeddu? Pwy oedd yn credu y basa fo'n gneud gwyrthia yno, a phwy sy'n credu y bydd o'n broffwyd ac yn efangylydd yng Nghymru eto? Pwy ond i fam o? Mi ellwch chi roi caead ar ych piser yn ddigon di-lol o ran hynny!

Robert

(Yn y drws yn llewys ei grys, a sebon hyd ei wyneb.) Dyna hi eto! Ar y fend i, chai ddim agor y ngheg heb i chi neidio i ngwddw i. Does arni i ddim eisio fforsio'r hogyn—nag oes arna i, neno'r brensiach annwyl. Eisio iddo fo gael chwara teg sy arna i. Rydech chi'n gweld potsiars ym mhob twll a chongol,—ag Agnes yr Hafod ydi'r potsiar rwan, ddyliwn i. Potsiar wir! Ann (Yn dyfod i'r ty.) Mae Miss Vaughan yr Hafod yn dwad ar y buarth, mistres. Brenin annwyl! lle mae ngholar i, Elin? Ann! wyt ti wedi hiro fy sgidia gora i? Mam! ydi'ch gwyneb chi'n lân?

Mali

Wyt ti'n gweld y ddwy fflam groes yna yn y tân, Ann? Dyna nhw, weldi.

Ann.

Ydw, nain. Ydi hynny'n arwydd o rwbeth, deudwch.

Robert

Ydi, siwr iawn,—sein barrug; mae nghymala i yn pigo ers tridia. Mae'n rhaid i mi roi tipyn o Oel Morus Ifan arnyn nhw.

Ann

Fydd arnoch chi ddim f'eisio fi eto, mistres?

Robert

D'eisio di?—bydd debig iawn wir,—i neud cwpaned o dê i Miss Vaughan. Beth wyt ti'n rhythu arna i, dwad, fel bwch ar drana?

Elin

(Yn ddistaw.) Na fydd, Ann. (Wrth Robert William.) Dydi Miss Vaughan ddim yn deall yn dull ni yn y Sgellog. Mae hi'n trin Ann fel y mae nhw'n trin morynion yr Hafod—fel tasa nhw'n faw dan draed. Dyna ffordd byddigions, debig gin i.



Ann yn myned alian drwy ddrws y cefn.

Curo wrth y drws. Elin William yn agor i Agnes Vaughan—merch ifanc landeg wedi'i gwisgo yn y ffasiwn.

Elin

Sut rydech chi, heno, Miss Vaughan? Dowch i fewn. Mae hi'n dywyll iawn, ond ydi hi?

Robert

la, dowch i fewn Miss Vaughan, a steddwch wrth y tân. (Wrth Pero.) Cerdd o 'ma, Pero,—'rwyt ti am y lle gora bob amser, yr hen ffagwt. Steddwch, Miss Vaughan.



Agnes Vaughan yn eistedd wrth ochr Mali Owen ar y setl y tu ol i'r bwrdd crwn.

Agnes

Sut yr ydech chi i gyd. Ydech chi'n weddol, Mr. Williams? A chithe, Mali Owen?

Robert

Mae'r hen wraig yn i gweld nhw heno.

Agnes

Dydech chi ddim yn superstitious, ydech chi, Mali Owen? Does dim ond fflammau i gweld yn y tân.

Mari

Mynd yn hen ag yn wirion rydw i. Welsoch chi mo Emrys ar y ffordd yna yn unlle?

Agnes

Naddo, wir. Lle mae o wedi mynd?

Elin

Roedd o'n sôn i fod o'n mynd i weld ych tad i'r Hafod.

Agnes

Mae'n debig iddo gyrraedd wedi i mi gychwyn. Mi fum i'n ymdroi tipin tua'r siop, yn ol f'arfer.

Elin

Roedd yno ddigon o straeon, mi wranta. Mae Mrs. Davies—a Dafydd Dafis hefyd o ran hynny—yn gwybod hanes y byd a'r Bettws.

Agnes

Chlywsoch chi rioed y fath beth; doedd dim eisio imi yngan gair, dim ond gwrando. Sôn am boachers yr oedden nhw—(Elin Williams yn edrych drwy'r ffenestr)—a deud fod y sgweier yn just mad— Mae gynno fo suspicion o'i tenants i hun. Mae o wedi bod hefo Mr. Evans y gweinidog yn rhoi rating iawn iddo am beidio pregethu yn erbyn poachio.

Robert

Ho, felly wir! Mi gafodd damad go chwerw i gnoi gen yr hen lanc, mi dyffeia io.

Agnes.

Do, wir. Mae nhw'n deud fod Mr. Evans wedi'i hel o dros y drws. Yr oedd Mrs. Davies yn gweld bai mawr arno am drin y gentry fel yna, ag yr oedd bai arno fo hefyd.

Elin

Bai, Miss Vaughan? Ydech chi'n meddwl y dylid trin y gentry, chwedl chitha, yn wahanol i bobol erill?

Agnes

Wel, mae'n gwilydd i bobol gommon hel i dwylo hyd rai fel y Sgweier—a ninna'i gyd yn tenants iddo. Mae Pa-pa yn deud bob amser fod pob parch wedi marw o'r wlad ar ol '68, ag mai ar y gweinidogion roedd y bai. Mi fyddwn ni fel teulu bron a mynd i'r Eglwys weithia: os ydi'r personiaid yn pregethu'n sal, mae nhw'n wŷr bonheddig, beth bynnag.

Mali
"Gorchest benna gŵr bonheddig
Gwneud y tlawd yn llwm ag unig."

Agnes

Ydech chi ddim yn meddwl peth fel yna, Mali Owen?

Mali

'Dydw i'n meddwl dim byd, rwan.... Ydi hi'n dywyll o hyd?

Robert

Ydi fel bol—, fel y tu fewn i fuwch, Miss Vaughan. Mi ddaw Emrys toc.

Elin

Hwyrach i fod o wedi mynd i gael sgwrs hefo'r gweinidog.

Robert

Wn i ar y ddaear sut y mae'r ddau yn medru cyd-dynnu,—mae Emrys yn mynd yn anffyddiwr glân, mae arna'i ofn. Dydi o'n credu dim yn y morfil, Miss Vaughan.

Agnes

Morfil? pa forfil?

Robert

Morfil Jona, wrth gwrs—wn i ddim beth ddaw ohono fo.

Elin

Tewch, tewch, Robert. Rydech chi'n rhy bendew i wybod beth sy gan yr hogyn dan i fawd. Hogyn da ydi'r hogyn.

Agnes

O ia, eisio bod dan ddylanwad rhywun nice sy arno fo, ynte? Pe bai o'n byw hefo rhywun gwir grefyddol— (Robert William yn edrych arni mewn syndod: Elin William yn gwenu) —buan iawn y basa fo yn dwad yn ol.

Mali

Ydech chi'n grefyddol, Miss Vaughan?

Agnes

Ydw, rwy'n gobeithio.

Mali

(Fel un yn holi "Rhodd Mam".) Ydi'ch tad yn grefyddol?

Agnes

Ydi—o ydi—rwy'n ddigon siwr ohono. Chyffyrddodd o â dafn o ddiod erioed.

Mali

(Fel pe wrthi'i hunan.) Mi fydda 'nhad a f'ewyrth yn dwad adre o'r farchnad o'r dre yn feddw gorn bob nos Sadwrn— (yn torri i wylo) —a hen bobol go lew oedd yr hen bobol. Mae petha wedi newid tipin er hynny, pechoda newydd wedi dwad, a'r hen bechoda ystalwm,—gwenwyn a llid a chelwydd—wedi mynd fa betha i'w canmol.

Elin

(Yn ei chysuro.) Ia, nain bach, ond rydech chi'n hên wraig go dda yn ol yr hen ffasiwn a'r newydd.

Agnes

Ia, ond rhaid cael gwared o'r hen superstitions a'r hen bechoda. Doedd pobol ystalwm ddim yn bobol nice iawn.

Elin

Mae Emrys yn deud y basa'n well ini fod yn debycach iddyn nhw, ym mhob peth ond i hanwybodaeth.

Mali

Lle mae Emrys, tybed? Oes gen ti damad go flasus yn swper iddo, Elin?

Robert

Mi geith mei lord ddwad â'i swper hefog o gen i fod o'n troi 'i draed mor hwyr. Wn i ddim lle andros y geill o fod yn ymdroi, na wn i byth o'r fan 'ma.



Y drws yn agor. Emrys yn dyfod i fewn. Mae ganddo gôb fawr am dano, a'i choler wedi ei chodi. Gwr ieuanc sobr yr olwg, yn siarad yn bwyllog ond yn siriol. Mae ysgafnder ei dad yn amlwg ynddo, a meddwl treiddgar ei fam. Mae'n aros eiliad yn y drws cyn dyfod i fewn i'r gegin.

Mali

(Yn fywiog.) Dyna ti, wir. Tyrd i fewn, y machgen i, ac eistedd yn y fan yma wrth ochor dynain. Mi wnai lei ti.

Emrys

O'r gore, nain—ond 'rhoswch chi yn y lle rydech chi. Sut rydech chi heno, Miss Vaughan? Mi fum i acw yn yr Hafod hefo'ch tad drwy'r ddechreunos.

Agnes

Rydw i'n reit dda, thank you. Wedi bod yn y siop yr ydw i.

Elin

Mae Miss Vaughan yn mynd i aros i gael tamaid o swper, a rhaid i titha fynd i danfon hi dros y gors. Tynn dy gôt, 'y machgen i.

Emrys

(Yn tynnu ei gôt yn araf, ac yn rhoi dau ffesant ar y bwrdd.) Adda... ag Efa!

Robert

Yr argian fawr!

Elin

Lle cest ti rheina?

Mali

Beth sy gen ti, machgen i?

Agnes

Brace of pheasants!

Emrys

Llonydd i mi gael gair i fewn, neno'r tad. Nid yn aml y bydd y Sgellog Fawr yn gwledda ar fraster y wlad, aie? Wel, er mwyn i chi glywed y stori i gyd—mi cês nhw fel y cafodd y Sgweier i dir—i cymryd nhw. Yr oeddwn i'n tanio mhibell wrth glawdd y winllan, ac wrth oleu'r fatsian, mi welwn y pâr ifanc ar y clawdd, a chyn y basa hyd yn oed y nhad yn medru deud "carreg a thwll" mi sylwis fod y ddau yn y mhoced i. Rhaid i chitha gael côt fel hon, nhad; welsoch chi 'rioed gymaint o hwyl gaech chi hyd y caeau na: mi dalith mam am y game licence hefo pres y menyn.

Robert

Sut ar wyneb daear y daethon nhw i'r clawdd, tybed?

Emrys.

Wn i ddim,—a waeth gen i chwaith. Roedden nhw ar y ffordd fawr, ac mae gen i gystal hawl iddyn nhw a neb arall.

Agnes

le, ie,—ond pwy piau nhw? Rhaid cadw'r gydwybod yn lân beth bynnag.

Emrys

Twt, twt,—cymrwch yr hyn y mae'r duwiau yn i anfon i chi heb holi gormod. Mi wnân ginio fory.

Robert

Hy! cinio wir! Fasa waeth gen i gau ngheg am y gwynt nag am betha felna. (Wrth Elin.) Dydech chi ddim yn paratoi swper i Miss Vaughan, Elin?

Agnes

Na wir, 'rydw i wedi ymdroi gormod yn barod. Mi fydd Ma-ma yn bur anesmwyth am dana i.

Robert

Taid annwyl, bedi'r brys? Dydech chi ddim wedi clywed Emrys yn pregethu eto ar yr hyn mae o'n mynd i neud yn y wlad yma.

Agnes

Rydw i'n gobeithio'n fawr nag ydech chi ddim yn mynd yn agitator, Mr. Williams?

Emrys

Agitator? Ydw,—os ca i fy nghyfle, mi leiciwn i daro un ergid neu ddwy dros y werin yma.... Rhaid i chi f'esgusodi i, Miss Vaughan, mi fydda i'n i cael nhw fel hyn weithia.

Mali

Pwy sydd yna? Clywch!

Robert

Neb.

Mali

Mae'r ci yma'n anesmwyth iawn.

Robert

(Wrth y ci.) Bedi'r acsus sy arnat ti, yr hen lob gwirion? Clywad ogla'r ddau ffowlyn mae o, mam.

Emrys

Wel, Miss Vaughan, gan na fedrwch chi ddim aros, mi ddoi hefo chi dros y gors.

Mali

Mae yna rywbeth yn dwad y tu allan yna.

Robert ac Elin

Meddwl yr ydech chi.

Emrys

(Yn troi'r shawl o gwmpas Mali Owen.) Mynd i'ch gwely ydi gore i chi, nain bach.

Agnes

Wel dowch ynte, Mr. Williams. It's getting so very late.



Emrys ac Agnes yn cerdded at y drws, Emrys yn cario'r fasged. Pan ddont at y drŵs, dyna gwro trwm.

Mali

O!

Robert

Pwy gaclwm sy'n tyrfu'r adeg yma o'r nos, tybed?

Elin

Rhowch y ffesants yna o'r golwg, brysiwch!



Llaw Emrys ar y gliced.

Elin

Rhowch nhw dan y glustog yma.



Robert William yn eu rhoi dan y glustog ar y setl.

Emrys yn agor. Y Plisman, ac Alexander McLagan, y cipar, yn dyfod i mewn.

Plisman

(Yn llygadu o gwmpas.) Sut rydech chi yma heno i gyd, deulu diddan?

McLagan

Sit ich chi pawb? Sit ma ti, Robert Williams?

Robert

Hel at y Feibl Gymdeithas, myn fend i! Wyddwn i ddim fod yr un ohonoch chi'n perthyn i'r seiat,—ond steddwch, nen dyn. Cadwch ych hetiau, ddynion.



Alexander yn eistedd ar y gadair y tu ol i'r bwrdd crŵn,—y plisman yn nes i'r drws.

Plisman

Foneddigion a boneddigesau, nid hel at y Gymdeithas Feiblau ryden ni'r tro yma,—ond yma ar berwyl y gyfraith ryden ni. Fel hyn y bu pethau—yr oedd y bonheddwr hwn, sef Mr. Alexander McLagan, (mae'n wir ddrwg gennyf nad ydyw ei Gymraeg yn deilyngach o'i gwmni), a minnau wrth ein post heno tuag ugain munud wedi wyth yn gwylio am boachers, ac wedi aros wyth munud wrth fy oriawr...

Robert

Wats y mae o'n feddwl, Mr. McLagan.

Plisman

Yr oeddwn i yn mynd i ddweud, Mr. Williams, pan welsoch chi'n dda dorri ar draws fy sgwrs, ini weled dyn tua phum troedfedd deng modfedd o hyd yn dod allan o Winllan y Coetmor ac yn cerdded yn bwyllog tuag atom. Pan welodd ni, trodd yn ei ol, gan daflu rhywbeth ar y clawdd a rhedeg i ffwrdd. Wedi i ni fyned tua'r fan a'r lle, to wit, y clawdd, daethom o hyd i game wedi ei adael yno. Barnasom yn ddoeth, wedi cydymgynghori, adael y game yno i edrych a ddeuai yn ol i'w gyrchu. Cyn hir gwelsom rywun yn dod—y cyhuddedig yn ddiameu—a chymerodd arno oleu'i bibell wrth ymyl y game, ond pan oeddem ar fyned i afael ynddo, clywsom dwrw ymhen draw'r winllan, ac ergid o ddryll...

McLagan

Ti'n missio 'rwan, Roberts, hergid o gwn oedd o,—fi'n nabod sound gwn.

Plisman

Dryll, machgen i, dryll,—neu yn iaith y werin, gwn.... Erbyn ini droi i chwilio am achos yr ergid, yr oedd y poacher wedi diflannu'n hollol gyda'r game,—ond ar ol dilyn ol ei draed yn y gors y mae'n ddiameu gennym mai i'r tŷ hwn—y Sgellog Fawr—neu i rywle cyfagos yr aeth. Yn awr, yr wyf yn eich tynghedu nad atalioch oddiwrthyf ddim os gwyddoch!

Robert

Diar annwyl bach, Robaits, rydech chi'n glasurol ofnatsan lâs. Rhaid ych bod chi'n ola fel latern. Ydi'ch llygad chi ar y pulpud, deudwch?

McLagan

Ia, ond gwelis ti rwbath, Robert Williams?

Robert

Y fi? Naddo, nen taid annwyl, ddyn glân. Fum i ddim allan ar ol swpera, yn naddo bobol?

Elin

Naddo.

Plisman

Wel, dyna ni wedi colli'n deryn eto, McLagan. Dowch ar unwaith i chwilio am dano. Nos da, deulu,—roedd yn ddrwg genni'ch trwblo.

Emrys

Rhoswch funud. Lle'r oeddech chi'n deud ichi adael y ddau ffesant, Roberts?

Plisman

(Yn troi'n ol yn sydyn.) Gadael beth, deudsoch chi?

Emrys

Wel, y ddau ffesant, siwr—y—y—hynny yw, y gêm. Roedd yno ddau, on'd oedd?



Y Plisman a'r Cipar yn troi ac yn edrych arno.

Plisman

Pwy ddeudodd wrthych chi mai dau ffesant oedden nhw?

Emrys

(Yn gynhyrfus.) Meddwl ddarum i ych bod chi'n deud fod yno ddau.

McLagan

Ti gwbod rwbath am fo, Emrys Williams?

Emrys.

Y fi!

Plisman

Fuoch chi allan heno?

Emrys.

Do.

Plisman

(Yn nesu ato.) Ym mhle, mor hy a gofyn?

Emrys

Dim o'ch busnes chi, Roberts. Ymddygwch fel gŵr bonheddig, neu mi tafla i chi allan. Peidiwch a thorsythu o mlaen i— (Yn rhoi'i fys ar fotwm ganol côt y Plisman.) —Pah! Cwrw a gwêr! Ddyn glân, 'rydech chi'n feddal fel pwdin!

McLagan

(Yn symud i'r goleu.) Lle ti câl baw coch ar esgid ti, Emrys Williams?

Robert

'Run fan a'r lle cawsoch chi'ch locsyn, ddyliwn i. Fuost ti yn Scotland yn ddiweddar, Emrys?

Emrys.

Rydech chi'n methu rhwng dau goch, nhad. Coch llwynog ydi coch Mr. McLagan. Well i chi fynd oddiyma, Mr. Cipar—mae tipin o frîd helgi yn yr hen Bero yma.

Plisman

(Yn myned i'r gadair y tu ol i'r bwrdd.) Mae'n rhaid imi eistedd i gymryd notes. Mae mwy yma nag sy yn y golwg. Yn awr, Mr. Emrys Williams,—newch chi ddweud wrthyf beth welsoch chi pan oeddech chi'n hel y baw coch yna ar ych esgidia?—er mwyn helpu gwâs y gyfraith, wrth gwrs.

Emrys

(Yn eistedd ar gongol y bwrdd mawr,—y Plisman yn troi ato.) Gwna, yn neno'r tad, os medrwch chi sgrifennu. Mi welis ddau ddyn yn sefyll fel dau lechgi—un yn las drosto fel pry baw, lwmp hyll o ddyn tew ffoglyd, ac un arall wrth i ochor o hefo locsyn coch. Mi feddylis i ar y cynta mai dau fwgan brain wedi'u codi gan ddyn dall oedd yno—ond mi sylweddolis yn y diwedd mai plisman a chipar oedden nhw.

McLagan

Ti treio bod yn funny dog, Mr. Emrys Williams. Fi dim werthin. Fi gneud note o'r peth.



Ann yn dyfod i mewn yn ddistaw gyda basged ar ei braich.

Plisman

Gadewch ef i mi, gyfaill McLagan. Prin rydech chi eto'n feistr ar yr hên Gymraeg. (Yn rhoi'i law ar y glustog.) Mae hon ar fy ffordd i.



Elin William yn rhoi 'i llaw i'w chadw i lawr.

Plisman

Maddeuwch i mi, Mrs. Williams. (Yn codi'r glustog ac yn gweld y ddau ffesant.) Oho! felly wir! 'Rydw i'n gweld 'rwan. To be sure, doedd ryfedd wir ych bod chi'n gwbod am danyn nhw! Dear, dear! mi 'roedd y Sgweier yn ameu'i denantiaid. (Yn gafael yn ei het.) Gellwch chi'i chymryd hi fel ffaith, Mr. Williams, y bydd gwarant yn ych erbyn chi, bore fory. Os ydw i—(yn torsythu)—dipin yn raenus fy nghâs, mi fedrai ddal poacher cystal ag undyn. Hefyd, rhaid imi'ch rhybuddio y bydd popeth a ddywedwch yn cael ei godi i'ch erbyn eto. Dowch, gyfaill McLagan. Mi gawn ni orffen hyn eto! Nos da, deulu, nos da.

McLagan

Whiskers lliw baw, medda ti. Lliw llwnog, medda ti hefyd. Mi câl gweld sut lliw gwyneb ti yn y court, Mr. Poacher.

Emrys

Wel, rhag i chi orweithio'r ddau chwarter pen yna sy gynnoch chi ddim pellach, mi ddeuda wrthoch chi mewn ychydig eiriau sut y bu hi. Gweld y ddau dderyn yma ar ochor y clawdd ddarum i wrth ola mhibell, ag mae hawl gan bawb i'r hyn welan nhw ar y ffordd fawr, debig gen i?

Robert

Oes, debig iawn, wir,—neu mae petha wedi mynd yn od ofnatsan. Nenor Rasmws mawr, os na cheith dyn tlawd godi dau dderyn wedi marw oddiar y clawdd mewn gwlad efengyl, mae hi wedi mynd,

Agnes

Dywedwch y gwir, Mr. Williams. Cyfaddefwch y gwir,—bydd yn haws i chi gael trugaredd.

Elin

Miss Vaughan! ydech chi'n meddwl nad ydi Emrys yn deud y gwir?

Agnes.

Wel, y fo ac Un arall sy'n gwbod hynny.

Elin

Wel, os nag oes dim ond un heblaw fo'n gwbod—y fi ydi'r un hwnnw. Dydi Emrys ddim wedi gorfod arfer deud celwydd wrth gribddeilio, fel rhai pobol, Miss Vaughan.

Plisman

Peidiwch a chynhennu, wragedd! Caiff Mr. Williams bob chware teg i ddeud y gwir wrth yr ustusiaid ddydd Sadwrn, a chaiff sôn faint fynno fo am ymddanghosiad personol swyddogion y gyfraith. Dowch, McLagan.

Ann

(Yn dyfod ymlaen yn wylaidd.) Rhoswch funud, Mr. Roberts!... Y fi gymrodd y ddau ffesant yna. (Yn gostwng ei llygaid.) Rydw i'n dymuno rhoi f'hunan i fyny i'r gyfraith.

Plisman

O, aie wir? Ond sut y medrwch chi gysoni'r ffaith i mi weld dyn yn i cymryd nhw?

Ann

Cariad... i mi... oedd o... gwâs fferm heb fod ymhell oddiyma, a mi rhoth nhw i mi gynted ag yr oeddech chi wedi troi'ch cefn.

Elin

Ann!

Emrys

Beth sy arnoch chi, Ann?

Plisman

Lle ar glawdd pella'r Coetmor roedd y ffesants, meddwch chi?

Ann

Wrth... wrth y... wrth y goeden fala surion... 'rydw i'n cofio'n iawn rwan.

Plisman.

Nage, ngeneth i,—waeth i chi beidio, dim iws yn y byd. Ar y clawdd agosa i'r adwy las yr oedden nhw.

Mali

(Yn ceisio codi.) Emrys bach!

Robert

(Yn ceisio gwthio rhywbeth i law'r Plisman.) Am y tro, am y tro!

Plisman

Dim iws, Robert William,—dyledswydd, dyledswydd. Nos da. (Wrth Emrys.) Mi fydda i'n cadw golwg arnoch chi, nes bydd y papur yn ych llaw chi.

Mali

(Yn cerdded at Emrys.) Emrys bach!

Agnes

(Yn symud at y drws.) Wel, nos da.

Emrys

Wel, dydi hyn ddim byd—mwy na dŵr ar gefn chwiaden. Fedrwch chi ddim mynd adre'ch hun.

Agnes

No, thanks. Mi af yn iawn fy hunan. Does arnai ddim ofn poachers bellach; mi wn yn lle y mae nhw.



Agnes yn mynd drwy'r drws; Emrys yn syllu ar ei hol. Elin William yn wylo. Mali Owen â'i llaw ar fraich Emrys.

LLEN

a1