|
|
|
(Robert) Mae nhw wedi'ch gadael chi ar ych pen ych hun yn y twllwch, mam? |
|
|
|
(Mali) Mi wnai lei ti. |
(1, 0) 226 |
O'r gore, nain—ond 'rhoswch chi yn y lle rydech chi. |
(1, 0) 227 |
Sut rydech chi heno, Miss Vaughan? |
(1, 0) 228 |
Mi fum i acw yn yr Hafod hefo'ch tad drwy'r ddechreunos. |
|
(Agnes) Rydw i'n reit dda, |thank you|. |
|
|
(1, 0) 234 |
Adda... ag Efa! |
|
(Robert) Yr argian fawr! |
|
|
|
(Agnes) |Brace of pheasants!| |
(1, 0) 239 |
Llonydd i mi gael gair i fewn, neno'r tad. |
(1, 0) 240 |
Nid yn aml y bydd y Sgellog Fawr yn gwledda ar fraster y wlad, aie? |
(1, 0) 241 |
Wel, er mwyn i chi glywed y stori i gyd—mi cês nhw fel y cafodd y Sgweier i dir—i cymryd nhw. |
(1, 0) 242 |
Yr oeddwn i'n tanio mhibell wrth glawdd y winllan, ac wrth oleu'r fatsian, mi welwn y pâr ifanc ar y clawdd, a chyn y basa hyd yn oed y nhad yn medru deud "carreg a thwll" mi sylwis fod y ddau yn y mhoced i. |
(1, 0) 243 |
Rhaid i chitha gael côt fel hon, nhad; welsoch chi 'rioed gymaint o hwyl gaech chi hyd y caeau na: mi dalith mam am y |game licence| hefo pres y menyn. |
|
(Robert) Sut ar wyneb daear y daethon nhw i'r clawdd, tybed? |
|
|
|
(Agnes) Rhaid cadw'r gydwybod yn lân beth bynnag. |
(1, 0) 249 |
Twt, twt,—cymrwch yr hyn y mae'r duwiau yn i anfon i chi heb holi gormod. |
(1, 0) 250 |
Mi wnân ginio fory. |
|
(Robert) Hy! cinio wir! |
|
|
|
(Agnes) Rydw i'n gobeithio'n fawr nag ydech chi ddim yn mynd yn |agitator|, Mr. Williams? |
(1, 0) 260 |
|Agitator|? |
(1, 0) 261 |
Ydw,—os ca i fy nghyfle, mi leiciwn i daro un ergid neu ddwy dros y werin yma.... |
(1, 0) 262 |
Rhaid i chi f'esgusodi i, Miss Vaughan, mi fydda i'n i cael nhw fel hyn weithia. |
|
(Mali) Pwy sydd yna? |
|
|
|
(Robert) Clywad ogla'r ddau ffowlyn mae o, mam. |
(1, 0) 270 |
Wel, Miss Vaughan, gan na fedrwch chi ddim aros, mi ddoi hefo chi dros y gors. |
|
(Mali) Mae yna rywbeth yn dwad y tu allan yna. |
|
|
(1, 0) 274 |
Mynd i'ch gwely ydi gore i chi, nain bach. |
|
(Agnes) Wel dowch ynte, Mr. Williams. |
|
|
|
(Plisman) Nos da, deulu,—roedd yn ddrwg genni'ch trwblo. |
(1, 0) 319 |
Rhoswch funud. |
(1, 0) 320 |
Lle'r oeddech chi'n deud ichi adael y ddau ffesant, Roberts? |
|
(Plisman) {Yn troi'n ol yn sydyn.} |
|
|
|
(Plisman) Gadael beth, deudsoch chi? |
(1, 0) 323 |
Wel, y ddau ffesant, siwr—y—y—hynny yw, y gêm. |
(1, 0) 324 |
Roedd yno ddau, on'd oedd? |
|
(Plisman) Pwy ddeudodd wrthych chi mai dau ffesant oedden nhw? |
|
|
(1, 0) 328 |
Meddwl ddarum i ych bod chi'n deud fod yno ddau. |
|
(McLagan) Ti gwbod rwbath am fo, Emrys Williams? |
|
|
|
(Plisman) Ym mhle, mor hy a gofyn? |
(1, 0) 335 |
Dim o'ch busnes chi, Roberts. |
(1, 0) 336 |
Ymddygwch fel gŵr bonheddig, neu mi tafla i chi allan. |
(1, 0) 337 |
Peidiwch a thorsythu o mlaen i— |
|
|
(1, 0) 339 |
—Pah! Cwrw a gwêr! |
(1, 0) 340 |
Ddyn glân, 'rydech chi'n feddal fel pwdin! |
|
(McLagan) {Yn symud i'r goleu.} |
|
|
(1, 0) 353 |
Gwna, yn neno'r tad, os medrwch chi sgrifennu. |
(1, 0) 354 |
Mi welis ddau ddyn yn sefyll fel dau lechgi—un yn las drosto fel pry baw, lwmp hyll o ddyn tew ffoglyd, ac un arall wrth i ochor o hefo locsyn coch. |
(1, 0) 355 |
Mi feddylis i ar y cynta mai dau fwgan brain wedi'u codi gan ddyn dall oedd yno—ond mi sylweddolis yn y diwedd mai plisman a chipar oedden nhw. |
|
(McLagan) Ti treio bod yn |funny dog|, Mr. Emrys Williams. |
|
|
|
(McLagan) Mi câl gweld sut lliw gwyneb ti yn y |court|, Mr. |Poacher|. |
(1, 0) 381 |
Wel, rhag i chi orweithio'r ddau chwarter pen yna sy gynnoch chi ddim pellach, mi ddeuda wrthoch chi mewn ychydig eiriau sut y bu hi. |
(1, 0) 382 |
Gweld y ddau dderyn yma ar ochor y clawdd ddarum i wrth ola mhibell, ag mae hawl gan bawb i'r hyn welan nhw ar y ffordd fawr, debig gen i? |
|
(Robert) Oes, debig iawn, wir,—neu mae petha wedi mynd yn od ofnatsan. |
|
|
|
(Elin) Ann! |
(1, 0) 403 |
Beth sy arnoch chi, Ann? |
|
(Plisman) Lle ar glawdd pella'r Coetmor roedd y ffesants, meddwch chi? |
|
|
|
(Agnes) Wel, nos da. |
(1, 0) 420 |
Wel, dydi hyn ddim byd—mwy na dŵr ar gefn chwiaden. |
(1, 0) 421 |
Fedrwch chi ddim mynd adre'ch hun. |