|
|
|
|
(1, 1) 6 |
732 (Caneuon Ffydd) |
(1, 1) 7 |
~ |
(1, 1) 8 |
O am nerth i dreulio 'nyddiau |
(1, 1) 9 |
yng nghynteddau tŷ fy Nhad, |
(1, 1) 10 |
byw yng nghanol y goleuni, |
(1, 1) 11 |
t'wyllwch obry dan fy nhra'd; |
(1, 1) 12 |
byw heb fachlud haul un amser, |
(1, 1) 13 |
byw heb gwmwl, byw heb boen, |
(1, 1) 14 |
byw ar gariad anorchfygol, |
(1, 1) 15 |
pur y croeshoeliedig Oen. |
(1, 1) 16 |
~ |
(1, 1) 17 |
Dyro olwg ar dy haeddiant, |
(1, 1) 18 |
golwg ar dy deyrnas rad, |
(1, 1) 19 |
brynwyd imi ac a seliwyd, |
(1, 1) 20 |
seliwyd im â'th werthfawr wa'd: |
(1, 1) 21 |
rho im gyrchu tuag ati, |
(1, 1) 22 |
peidio byth â llwfwrhau; |
(1, 1) 23 |
ar fy nhaith ni cheisiaf gennyt |
(1, 1) 24 |
ond yn unig dy fwynhau. |
(1, 1) 25 |
~ |
(1, 1) 26 |
Gyda thi mi af drwy'r fyddin, |
(1, 1) 27 |
gyda thi ma af drwy'r tân; |
(1, 1) 28 |
'dofnaf ymchwydd llif Iorddonen |
(1, 1) 29 |
ond i ti fynd yn y bla'n; |
(1, 1) 30 |
ti yw f'amddiffynfa gadarn, |
(1, 1) 31 |
ti yw 'Mrenin, ti yw 'Nhad, |
(1, 1) 32 |
ti dy hunan oll yn unig |
(1, 1) 33 |
yw fy iachawdwriaeth rad. |
(1, 1) 34 |
~ |
(1, 1) 35 |
[William Williams] |
|
(Beibl) Jeremeia 51, Adnodau 35–45 + 58 |
|
|
|
(Beibl) mwy. |
(1, 5) 128 |
827 (Caneuon Ffydd) |
(1, 5) 129 |
~ |
(1, 5) 130 |
Cofia'n gwlad, Benllywydd tirion, |
(1, 5) 131 |
dy gyfiawnder fyddo'i grym: |
(1, 5) 132 |
cadw hi rhag llid gelynion, |
(1, 5) 133 |
rhag ei beiau'n fwy na dim: |
(1, 5) 134 |
rhag pob brad, nefol Dad, |
(1, 5) 135 |
taena d'adain dros ein gwlad. |
(1, 5) 136 |
~ |
(1, 5) 137 |
Yma mae beddrodau'n tadau, |
(1, 5) 138 |
yma mae ein plant yn byw; |
(1, 5) 139 |
boed pob aelwyd dan dy wenau, |
(1, 5) 140 |
a phob teulu'n deulu Duw: |
(1, 5) 141 |
rhag pob brad, nefol Dad, |
(1, 5) 142 |
cadw di gartrefi'n gwlad. |
(1, 5) 143 |
~ |
(1, 5) 144 |
Gwna'n Sabothau'n ddyddiau'r nefoedd |
(1, 5) 145 |
yng ngoleuni d'eiriau glân; |
(1, 5) 146 |
dyro'r gwlith i'n cymanfaoedd, |
(1, 5) 147 |
gwna ein crefydd fel ein cân: |
(1, 5) 148 |
nefol Dad, boed mawrhad |
(1, 5) 149 |
ar d'Efengyl yn ein gwlad. |
(1, 5) 150 |
~ |
(1, 5) 151 |
[Elfed] |
|
(Ifan-John) Mam? |
|
|
|
(Ifan-John) A nawr - bydd raid i fi 'weud, on-fydd-e. – Oni bai bo' ti'n mynd i newid dy feddwl. |
(1, 11) 583 |
735 (Caneuon Ffydd) |
(1, 11) 584 |
~ |
(1, 11) 585 |
Bydd yn wrol, paid â llithro, |
(1, 11) 586 |
er mor dywyll yw y daith |
(1, 11) 587 |
y mae seren i'th oleuo: |
(1, 11) 588 |
cred yn Nuw a gwna dy waith. |
(1, 11) 589 |
Er i'r llwybyr dy ddiffygio, |
(1, 11) 590 |
er i'r anial fod yn faith, |
(1, 11) 591 |
bydd yn wrol, blin neu beidio, |
(1, 11) 592 |
cred yn Nuw a gwna dy waith. |
(1, 11) 593 |
~ |
(1, 11) 594 |
Paid ag ofni'r anawsterau, |
(1, 11) 595 |
paid ag ofni'r brwydrau chwaith; |
(1, 11) 596 |
paid ag ofni'r canlyniadau: |
(1, 11) 597 |
cred yn Nuw a gwna dy waith. |
(1, 11) 598 |
Cei dy farnu, cei dy garu, |
(1, 11) 599 |
cei dy wawdio lawer gwaith; |
(1, 11) 600 |
na ofala ddim am hynny: |
(1, 11) 601 |
cred yn Nuw a gwna dy waith. |
(1, 11) 602 |
~ |
(1, 11) 603 |
[Norman Macleod / cyf. Ben Davies] |
|
(Mam) Ifan-John – ti sy' 'na? |
|
|
|
(Llais) [Matthew 6: 9-13] |
(1, 17) 823 |
817 (Caneuon Ffydd) [Tôn: 265: Llwynbedw - J. T. Rees] |
(1, 17) 824 |
~ |
(1, 17) 825 |
Gwrando di, O Dduw'r cenhedloedd, |
(1, 17) 826 |
ar ddeisyfiad teulu'r llawr; |
(1, 17) 827 |
codwn lef o fro ein trallod |
(1, 17) 828 |
atat ti, ein Harglwydd mawr: |
(1, 17) 829 |
doed dy gariad |
(1, 17) 830 |
i gymodi gwledydd byd. |
(1, 17) 831 |
~ |
(1, 17) 832 |
Tyn i lawr yr uchel furiau |
(1, 17) 833 |
sy'n ysgaru plant dy fron; |
(1, 17) 834 |
dyro orsedd i'r Eneiniog |
(1, 17) 835 |
dros drigolion daear gron: |
(1, 17) 836 |
doed dy gariad |
(1, 17) 837 |
i gymodi gwledydd byd. |
(1, 17) 838 |
~ |
(1, 17) 839 |
Maddau, Arglwydd, ein gelyniaeth |
(1, 17) 840 |
a'n camweddau o bob llun; |
(1, 17) 841 |
tywys ni i ffordd tangnefedd |
(1, 17) 842 |
fel y delo'r teulu'n un; |
(1, 17) 843 |
doed dy gariad |
(1, 17) 844 |
i gymodi gwledydd byd. |
(1, 17) 845 |
~ |
(1, 17) 846 |
[D. E. Williams] |
|
|
(2, 1) 858 |
164 (Caneuon Ffydd) |
(2, 1) 859 |
~ |
(2, 1) 860 |
Un fendith dyro im, |
(2, 1) 861 |
ni cheisiaf ddim ond hynny: |
(2, 1) 862 |
cael gras i'th garu di tra bwy', |
(2, 1) 863 |
cael mwy o ras i'th garu. |
(2, 1) 864 |
~ |
(2, 1) 865 |
Ond im dy garu'n iawn |
(2, 1) 866 |
caf waith a dawn sancteiddiach, |
(2, 1) 867 |
a'th ganlyn wnaf bob dydd yn well |
(2, 1) 868 |
ac nid o hirbell mwyach. |
(2, 1) 869 |
~ |
(2, 1) 870 |
A phan ddêl dyddiau dwys |
(2, 1) 871 |
caf orffwys ar dy ddwyfron, |
(2, 1) 872 |
ac yno brofi gwin dy hedd |
(2, 1) 873 |
a gwledd dy addewidion. |
(2, 1) 874 |
~ |
(2, 1) 875 |
Dy garu, digon yw |
(2, 1) 876 |
wrth fyw i'th wasanaethu, |
(2, 1) 877 |
ac yn oes oesoedd ger dy fron |
(2, 1) 878 |
fy nigon fydd dy garu. |
(2, 1) 879 |
~ |
(2, 1) 880 |
[Eifion Wyn] |
|
(Ymwelydd) What did you call this place? |
|
|
|
(Tywysydd) We'll go this way. |
(2, 3) 1051 |
I bob un sy'n ffyddlon |
(2, 3) 1052 |
dan ei faner ef |
(2, 3) 1053 |
mae gan Iesu goron fry |
(2, 3) 1054 |
yn nheyrnas nef; |
(2, 3) 1055 |
lluoedd Duw a Satan |
(2, 3) 1056 |
sydd yn cwrdd yn awr: |
(2, 3) 1057 |
mae gan blant eu cyfran |
(2, 3) 1058 |
yn y rhyfel mawr. |
(2, 3) 1059 |
~ |
(2, 3) 1060 |
I bob un sy'n ffyddlon |
(2, 3) 1061 |
dan ei faner ef; |
(2, 3) 1062 |
mae gan Iesu goron fry |
(2, 3) 1063 |
yn nheyrnas nef. |
(2, 3) 1064 |
~ |
(2, 3) 1065 |
Meddwdod fel Goliath |
(2, 3) 1066 |
heria ddyn a Duw, |
(2, 3) 1067 |
myrdd a myrdd garchara |
(2, 3) 1068 |
gan mor feiddgar yw; |
(2, 3) 1069 |
brodyr a chwiorydd |
(2, 3) 1070 |
sy'n ei gastell prudd, |
(2, 3) 1071 |
rhaid yw chwalu'i geyrydd |
(2, 3) 1072 |
rhaid cael pawb yn rhydd. |
(2, 3) 1073 |
~ |
(2, 3) 1074 |
I bob un sy'n ffyddlon |
(2, 3) 1075 |
dan ei faner ef; |
(2, 3) 1076 |
mae gan Iesu goron fry |
(2, 3) 1077 |
yn nheyrnas nef. |
(2, 3) 1078 |
~ |
(2, 3) 1079 |
Awn i gwrdd â'r gelyn |
(2, 3) 1080 |
bawb ag arfau glân, |
(2, 3) 1081 |
uffern sydd i'n herbyn |
(2, 3) 1082 |
â'i phicellau tân; |
(2, 3) 1083 |
gwasgwn yn y rhengau |
(2, 3) 1084 |
ac edrychwn fry: |
(2, 3) 1085 |
concrwr byd ac angau |
(2, 3) 1086 |
acw sydd o'n tu. |
(2, 3) 1087 |
~ |
(2, 3) 1088 |
I bob un sy'n ffyddlon |
(2, 3) 1089 |
dan ei faner ef; |
(2, 3) 1090 |
mae gan Iesu goron fry |
(2, 3) 1091 |
yn nheyrnas nef. |
(2, 3) 1092 |
~ |
(2, 3) 1093 |
[ap Hefin] |
|
(Kitty) Whilo rhein, syr - Mr. Jones? |
|
|
|
(Kitty) Ddaw e nôl, ti'n meddwl? |
(2, 8) 1364 |
167 (Caneuon ffydd) |
(2, 8) 1365 |
~ |
(2, 8) 1366 |
Ar fôr tymhestlog teithio'r wyf |
(2, 8) 1367 |
i fyd sydd well i fyw, |
(2, 8) 1368 |
gan wenu ar ei stormydd oll: |
(2, 8) 1369 |
fy Nhad sydd wrth y llyw. |
(2, 8) 1370 |
~ |
(2, 8) 1371 |
Trwy leoedd geirwon, enbyd iawn, |
(2, 8) 1372 |
a rhwystrau o bob rhyw |
(2, 8) 1373 |
y'n dygwyd eisoes ar fy nhaith: |
(2, 8) 1374 |
fy Nhad sydd wrth y llyw. |
(2, 8) 1375 |
~ |
(2, 8) 1376 |
Er cael fy nhaflu o don i don, |
(2, 8) 1377 |
nes ofni bron cael byw, |
(2, 8) 1378 |
dihangol ydwyf hyd yn hyn: |
(2, 8) 1379 |
fy Nhad sydd wrth y llyw. |
(2, 8) 1380 |
~ |
(2, 8) 1381 |
Ac os oes stormydd mwy yn ôl, |
(2, 8) 1382 |
ynghadw gan fy Nuw, |
(2, 8) 1383 |
wynebaf arnynt oll yn hy: |
(2, 8) 1384 |
fy Nhad sydd wrth y llyw. |
(2, 8) 1385 |
~ |
(2, 8) 1386 |
A phan fo'u hymchwydd yn cryfhau, |
(2, 8) 1387 |
fy angor, sicir yw; |
(2, 8) 1388 |
dof yn ddiogel drwyddynt oll: |
(2, 8) 1389 |
fy Nhad sydd wrth y llyw. |
(2, 8) 1390 |
~ |
(2, 8) 1391 |
I mewn i'r porthladd tawel, clyd, |
(2, 8) 1392 |
o sŵn y storm a'i chlyw |
(2, 8) 1393 |
y caf fynediad llon ryw ddydd: |
(2, 8) 1394 |
fy Nhad sydd wrth y llyw. |
(2, 8) 1395 |
~ |
(2, 8) 1396 |
[Ieuan Glan Geirionydd] |
|
(Darllenwr) Geirau y Pregethwr, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem. |
|
|
|
(Llais) [Matthew 6: 9-13] |
(2, 12) 1572 |
856 (Caneuon Ffydd) |
(2, 12) 1573 |
~ |
(2, 12) 1574 |
Arglwydd nef a daear, gariad hollalluog, |
(2, 12) 1575 |
rhyfedd dy ddoethineb a pherffaith yn dy waith; |
(2, 12) 1576 |
cerddaist ar y tonnau drwy y storm gynddeiriog, |
(2, 12) 1577 |
a bu tawelwch wedi'r ddrycin faith. |
(2, 12) 1578 |
~ |
(2, 12) 1579 |
Arglwydd, beth a dalwn am dy faith ffyddlondeb? |
(2, 12) 1580 |
Arwain ni â'th gyngor yn ffordd d'ewyllys fawr, |
(2, 12) 1581 |
dysg i'r holl genhedloedd heddwch a thiriondeb; |
(2, 12) 1582 |
eiddot y deyrnas, Frenin nef a llawr. |
(2, 12) 1583 |
~ |
(2, 12) 1584 |
Maddau, dirion Arglwydd, ddirfawr fai y bobloedd, |
(2, 12) 1585 |
maddau rhwysg annuwiol ein holl benaethiaid ni, |
(2, 12) 1586 |
tywys hwynt i'th lwybrau, Arglwydd Iôr y lluoedd: |
(2, 12) 1587 |
llwybrau hyfrydwch dy gymdeithas di. |
(2, 12) 1588 |
~ |
(2, 12) 1589 |
Maddau, Arglwydd, maddau fyth o'th lân faddeuant |
(2, 12) 1590 |
tardd grasusau nefol y saint o oes i oes; |
(2, 12) 1591 |
maddau, Arglwydd, maddau, casgler er d'ogoniant |
(2, 12) 1592 |
ryfedd gynhaeaf grawnwin pêr y groes. |
(2, 12) 1593 |
~ |
(2, 12) 1594 |
[J. T. Job] |