|
|
|
(Catrin) O wel, dyna hwnna drosodd. |
|
|
|
(Huw) Aros! |
(1, 1) 422 |
Ahoy there, Clocsiwr! |
|
(Huw) Uncle Enoc, chi sydd yna? |
|
|
|
(Huw) Uncle Enoc, chi sydd yna? |
(1, 1) 424 |
Ia debyg iawn. |
(1, 1) 425 |
Pwy wyt ti'n feddwl ydw i, y landlybar? |
(1, 1) 426 |
Napoleon? |
|
(Huw) Dowch i mewn, rhen ddyn. |
|
|
|
(Huw) Dowch i mewn, rhen ddyn. |
(1, 1) 428 |
Paid â phoeni, mi ydw i'n dwad. |
|
(Dic) Helo dewyrth. |
|
|
|
(Dic) Helo dewyrth. |
(1, 1) 430 |
O chdi sydd yna aie! |
(1, 1) 431 |
Dic Betsi, Dic dau-wynebog, Dic ga'-i-fenthyg, Dic Slei, Dic Sebonllyd, Dic be-ga'-i-am-ddim. |
|
(Huw) Ia, go dda myn brain i! |
|
|
|
(Huw) Ia, go dda myn brain i! |
(1, 1) 433 |
Paid ti ag agor dy bîg. |
(1, 1) 434 |
Dwyt titha fawr gwell, Huw Clocsiwr, Huw ben-chwiban, Huw dim-uwch-baw-sowdwl, Huw dim-dima. |
|
(Huw) Rwan, rwan, rhen ŵr, peidiwch â chynhyrfu. |
|
|
(1, 1) 442 |
Hanner munud y ffyliaid—ydach chi eisio tynnu fy nghôt i'n gria? |
(1, 1) 443 |
Mi fedra i wneud yn iawn fy hun, diolch yn fawr. |
|
(Huw) Rwan dewyrth, ydach chi am eistedd i lawr? |
|
|
|
(Huw) Rwan dewyrth, ydach chi am eistedd i lawr? |
(1, 1) 445 |
Ydw, debyg iawn. |
(1, 1) 446 |
Wyt ti'n disgwyl i mi hongian o'r to? |
(1, 1) 447 |
Ple mae'r ddynas yma? |
|
|
|
(Huw) Allan yn y siop... |
(1, 1) 451 |
Da iawn. |
(1, 1) 452 |
Mi fydd yna lai o glebran o gymaint a hynny. |
(1, 1) 453 |
Be ydy'r mater arnat ti yn llygadrythu, y? |
|
(Dic) Wel, eich gweld chi wedi teneuo, dewyrth, a... |
|
|
|
(Dic) Wel, eich gweld chi wedi teneuo, dewyrth, a... |
(1, 1) 455 |
Ers faint wyt ti'n poeni am fy iechyd i? |
|
(Dic) Wel does arna i ddim eisio'ch gweld chi'n mynd yn wael, dewyrth. |
|
|
|
(Huw) Wel sut mae'r iechyd erbyn hyn, rhen ŵr? |
(1, 1) 460 |
Sobor. |
|
(Huw) Tewch â dweud! |
|
|
|
(Huw) Mae'n ddrwg gen i glywed. |
(1, 1) 463 |
Paid â dweud celwydd. |
(1, 1) 464 |
Rwyt ti wrth dy fodd. |
(1, 1) 465 |
Ond dyna'r gwir i ti, mae fy iechyd i'n ddifrifol. |
|
(Dic) Mae yna lawer o gwyno o gwmpas rwan. |
|
|
|
(Dic) Mae yna lawer o gwyno o gwmpas rwan. |
(1, 1) 467 |
Oes, ond wyddost ti pam? |
|
(Dic) Wel na, dydw i ddim yn meddwl. |
|
|
|
(Dic) Wel na, dydw i ddim yn meddwl. |
(1, 1) 469 |
Am fod bwyd wedi colli ei nerth—dyna i ti pam. |
(1, 1) 470 |
Does yna ddim lliw na blas ar gwsberis na riwbob na rwdins na letis na dim yn ddiweddar yma. |
|
(Huw) 'Rydach chi'n iawn, dewyrth, myn brain i. |
|
|
|
(Huw) 'Rydach chi'n iawn, dewyrth, myn brain i. |
(1, 1) 472 |
Be arall sydd i'w ddisgwyl a phobol yn chware efo'r atoms felldith yna? |
|
(Dic) Digon gwir, rhen ŵr, digon gwir. |
|
|
|
(Dic) Digon gwir, rhen ŵr, digon gwir. |
(1, 1) 474 |
Gwir bob gair i ti. |
(1, 1) 475 |
Does gen ddyn ddim hawl i fusnesu efo'r petha yna. |
(1, 1) 476 |
Mae o'n groes i natur. |
|
(Huw) Siwr o fod... |
|
|
|
(Huw) Siwr o fod... |
(1, 1) 478 |
A dyna'r bara rydan ni'n fwyta heddiw. |
(1, 1) 479 |
Llwch lli, a dim arall. |
(1, 1) 480 |
A dydy hyn yn ddim ond dechra—mi fydd ein bwyd ni i gyd wedi ei wenwyno cyn bo hir. |
|
(Huw) Ydach chi'n cael dipyn o gig, rhen ddyn? |
|
|
|
(Huw) Ydach chi'n cael dipyn o gig, rhen ddyn? |
(1, 1) 482 |
Ydw—cig ceffyl. |
(1, 1) 483 |
A rhyw sothach mewn tynia. |
(1, 1) 484 |
Roeddwn i'n agor un y diwrnod o'r blaen. |
(1, 1) 485 |
A dyna'r drewi mwya cythreulig yn dwad allan ohono fo. |
(1, 1) 486 |
Yn ddigon i godi gwallt dy ben di. |
(1, 1) 487 |
Dim rhyfedd mod i ac eraill yn colli iechyd. |
|
(Huw) Dydy o ddim yn lles i chi aros yn yr hen dŷ yna chwaith, dewyrth. |
|
|
|
(Huw) Dydy o ddim yn lles i chi aros yn yr hen dŷ yna chwaith, dewyrth. |
(1, 1) 489 |
Nag ydy, mi wn i hynny. |
(1, 1) 490 |
Ond fydda i ddim yna'n hir. |
(1, 1) 491 |
Rydw i'n mynd i fyw i'r "Sailor's Rest". |
|
(Dic) Y? |
|
|
|
(Dic) Be ydy hwnnw, rhen ŵr? |
(1, 1) 494 |
Lle i hen begnos fel fi dreulio diwedd oes, Dic Betsi. |
(1, 1) 495 |
Yn ddigon pell oddi wrth ladron fel chi'ch dau. |
|
(Huw) Dim o gwbwl, dewyrth, cyn belled ag yr ydw i yn y cwestiwn beth bynnag. |
|
|
|
(Huw) Does gen i ddim ond eich lles chi mewn golwg. |
(1, 1) 498 |
Dim ond f'arian i wyt ti'n feddwl, Clocsiwr. |
|
(Huw) Choelia i fawr. |
|
|
|
(Huw) A finna'n mynd i ofyn i chi ddwad i fyw yma efo ni! |
(1, 1) 501 |
Y? |
(1, 1) 502 |
Be ydy hyn? |