a1, g1

Yr Orffiws (1956)

Huw Lloyd Edwards

Ⓗ 1956 Huw Lloyd Edwards
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 1


Dylid cofio mai o safbwynt y gynulleidfa, nid yr actorion, y defnyddir y termau "De" a "Chwith" yn y nodiadau hyn.

Cegin HUW CLOCSIWR. Yng nghanol y mur, yn wynebu, mae drws yn agor i'r fynedfa, neu'r "passage". Ar y dde i'r drws, bwrdd bychan, a llestr mawr hen-ffasiwn arno. Wrth ei ben, ar y mur mewn lle amlwg, llun dyn a barf fawr ganddo. Mae'r llun hwn wedi eì dynnu rhyw hanner can mlynedd yn ôl. Mewn un gongl, bwrdd bychan a set radio arno. Cloc mawr yn y gongl ar y dde; cwpwrdd yn y gongl ar y chwith. Wrth droi i'r dde yn y drws, fe ewch i'r gegin bach, a'r llofft; wrth droi i'r chwith, i'r drws ffrynt a'r stryd.

Pan godir y Llen, mae HUW yn eistedd ar soffa, tua'r canol, yn gwneud rhywbeth i esgid ar ei lin. Mae ganddo farclod lledr o'i flaen. CATRIN yn eistedd wrth y tân, wrthi'n trwsio hosan.

Am ryw ddau funud neu dri nid oes air rhyngddynt, gan eu bod yn gwrando ar y radio—clywir perfformiad meistrolgar ar biano. Pan ddaw'r rhaglen i ben, mae HUW yn troi y radio i ffwrdd.

Catrin

O wel, dyna hwnna drosodd. Rhaglen reit dda y pnawn yma, Huw.

Huw

Ia, Catrin, ardderchog. Mwy o stwff fel yna sydd arna ni eisio, yn lle'r sothach mae nhw'n roi am oria bob nos.

Catrin

Pwy oedd y dyn yna, tybed?

Huw

Pa ddyn?

Catrin

Wel hwnna oedd yn chware'r biano rwan.

Huw

O wn i ddim. Fforinar reit siwr. Enw llathan o hyd—Fritz von Powlan ne rwbath. Fforinars ydy rhain i gyd.

Catrin

Hwyrach y gwelwn ni Gymro ar y blaen iddyn nhw rhyw ddiwrnod, Huw.

Huw

Y? Dim peryg. Mae eisio chwysu am flynyddoedd cyn meistroli offeryn. Dydy o ddim yno' ni'r Cymry. Mi ydan ni'n ganwrs heb eu hail—ond mae hynny'n ran o'n natur ni. Dyfal-barhad, Catrin, hwnnw sydd ar ôl.

Catrin

Mi gei di weld peth arall rhyw ddiwrnod. Os buasa Wili John ni'n cael tipyn o chware teg, mi fuasa'n gwneud ei enw ar y biano i ti!

Huw

Y? Buasa—efo cyllell boced!

Catrin

O mae'n rhaid i ti gael taflu dŵr oer am ben bob dim. Mi ydw i'n dweud wrtha ti—mae Wili John yn gerddor o'i grud.

Huw

Mi gadwodd ddigon o swn pan gafodd ei eni, beth bynnag.

Catrin

Dyna chdi eto—mae'r peth bach yn cael ei anwybyddu. Oes gen ti ddim cywilydd dwad? Dy blentyn dy hun, yn byrlymu efo talent, a chditha'n chwerthin am ei ben a...

Huw

Ond Catrin...

Catrin

Ia, ia, mae'n hen bryd i ti gael y gwir. Does yna ddim symud arnat ti erioed. Mi fuaset ar dy ben yn y wal ers talwm ond fy mod i y tu ôl i ti.

Huw

Dim o gwbwl...

Catrin

O, fedri di ddim gwadu. Does gen ti ddim mymryn o ysfa i wella dy hun na dy deulu, dim ond mynd dow dow o ddiwrnod i ddiwrnod, run fath â hen geffyl gwedd. Mi fydda i'n mynd yn gynddeiriog weithia. Ond, yli, dydw i ddim yn mynd i adael i Wili John bach golli ei gyfle yn y byd yma...

Huw

Ond dydw inna ddim yn...

Catrin

Mi ofala i na fydd o ddim yn mynd ar ôl ei dad.

Huw

Does dim eisio taflu weips.

Catrin

Mae o'n wir bob gair.

Huw

Nac ydy.

Catrin

Ydy.

Huw

Nac ydy medda finna.

Catrin

Ydy medda finna.

Huw

O be ydy'r iws dadla! Mi fynni di gael y gair dwytha bob amser.



Huw yn mynd i sefyll wrth y tân.

Catrin

Mi fynna i gael chware teg i Wili John yn saff iti!

Huw

Wyt ti'n meddwl nad ydw i'n poeni dim am ei ddyfodol o?

Catrin

Dwyt ti ddim yn edrach yn debyg.

Huw

Wel mi wyt ti'n gwneud camgymeriad. Mae'r peth wedi bod ar fy mrêns i ers wythnosa. Ond wrth gwrs fydda i ddim yn dangos y cwbwl.

Catrin

Mae'n hen bryd i ti ddangos rywfaint o siâp, yn lle gwneud sbort am bob dim.

Huw

Twt lol, tynnu dy goes di roeddwn i. Dim eisio gwneud y peth yn destun ffrae. Rhaid iti fod yn amyneddgar yn y busnas yma, Catrin.

Catrin

Amyneddgar wir. Wyt ti'n meddwl y cei di biano wrth chwibanu?

Huw

Dim o gwbwl. Ond cofia hyn, chei di ddim offeryn heddiw o dan gan punt—hyd yn oed un ail-law. Fedri di ddim mynd i'r siop a phrynu un ar lab run fath ag owns o faco.

Catrin

Pam na fuaset ti'n prynu un ers talwm pan oeddan nhw'n rhad?

Huw

I be? Doedd yna ddim sôn am Wili John 'r adeg honno.

Catrin

Twt, paid â hel esgus. Pen yn y gwynt, dyna dy hanes di erioed.

Huw

Aros am funud, da chdi. Paid â dechra arni eto. Mi ddweda i wrtha ti be ydy fy nghynllun i.

Catrin

Wel?

Huw

Uncle Enoc.

Catrin

Uncle Enoc? Beth amdano fo?

Huw

Mi wyddost fel y mae o, yn ddigon simsan ers misoedd. 'Rhen greadur, ar ei ben ei hun yn y tŷ yna.

Catrin

O chdi a dy Uncle Enoc! Os mai dyna ydy dy gynllun di...

Huw

Aros am funud, paid â bod mor wyllt. Mae gan yr hen ŵr hosan reit dda yn rhywle. Tri chant o bunna medda nhw.

Catrin

Twt, 'run peth roeddet ti'n ddweud ddeng mlynedd yn ôl. Hen longwr ydy o cofia. Mi fydd yn fyw i fynd yn gant oed mi gei di weld.

Huw

Dim peryg i ti. Mae o wedi bod yn reit gwla y tro yma.



{WILI JOHN yn canu pwt o gân mewn ystafell arall.

Catrin

Clyw! Dyna fel mae Wili John drwy'r dydd—yn llond ei groen o fiwsig. Mae'n bechod na fuasa fo'n cael piano.

Huw

Mi fydd o'n siwr o biano i ti, ond i ni wneud yn saff o arian yr hen Enoc.

Catrin

Weli di byth mo'i arian o Huw, tra bydd dy gefndar Dic Betsi o gwmpas, yr hen gyb dau-wynebog.

Huw

Rwan, rwan, Catrin, yn ara deg!

Catrin

O mae o'n ddigon gwir. Pam mae o'n hen lanc medda chdi? Am ei fod o'n ormod o gyb i gadw gwraig, dyna i ti pam. Mi ydw i'n nabod dy gefndar Dic Betsi'n reit dda erbyn hyn, o ydw!

Huw

Dydan ni i gyd ddim run fath wyddost ti.

Catrin

Nag ydan, diolch i'r tad. Ond os oes yna ddima i'w chael yn rhywle, mae'r llwynog yna'n saff ohoni.

Huw

Paid â bod mor siwr, dydw i ddim wedi gorffen eto.

Catrin

Wel?

Huw

Mae yna fwy nag un ffordd o fynd â Wil i'w wely.

Catrin

Be ydy dy gynllun di felly?

Huw

Gofyn i'r hen Enoc ddwad i fyw yma.

Catrin

Dwad yma? Na ddaw byth. Wyt ti'n drysu?

Huw

Gwranda am funud (Huw yn eistedd i lawr.)

Catrin

Beth wyt ti'n feddwl ydy'r lle yma—hospital? Mae gen i ddigon i wneud fel mae hi heb gael yr hen gono blin yna ar draws y tŷ. Sôn am slafio wir...

Huw

Dyna chdi eto, yn edrach ar yr ochor ddu.

Catrin

Pa ochor arall sydd yna?

Huw

Wel mi ddaw â'i hosan efo fo Catrin.

Catrin

Waeth i ti roi'r ffidil yn y to ddim Huw. Weli di 'r un ddima, mae hynny'n saff. A pheth arall, rwan mae Wili John eisio piano, nid ymhen blynyddoedd.

Huw

Pwy sy'n dweud y bydd rhaid disgwyl mor hir?

Catrin

Y fi. Mae'r hen ddyn yn iach fel cneuan. Mi fydd yn rhaid ei saethu o.

Huw

Na, dydy o ddim mor iach a'i olwg, Catrin. (Cyfrinachol.) Gwranda, mi ges i sgwrs y bore yma efo'r doctor bach newydd yna. Be ydy ei enw fo hefyd?

Catrin

Doctor James?

Huw

Ia, dyna fo. Wel, mae calon rhen Enoc wedi gwanio'n arw. Mae o'n mynd i lawr yr allt yn gyflym, medda'r Doctor.

Catrin

Mi fyddi di a finna wedi cyrraedd y gwaelod o'i flaen o.

Huw

Paid â siarad yn wirion Catrin. Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n gwybod yn well na Doctor James?



BLODWEN yn dod i mewn, eì chôl amdani.

Blodwen

Oeddech chi'n sôn am Doctor James rwan, Nhad?

Huw

Oeddwn Blodwen, pam?

Blodwen

Dyna i chi ryfedd, a finna'n siarad efo fo ryw chwarter awr yn ôl!

Huw

O?

Blodwen

Newydd fod yn gweld Uncle Enoc medda fo.

Huw a Catrin

Be! Ydy o'n wael? (Huw yn codi ar ei draed.)

Blodwen

Na, dydw i ddim yn meddwl. (Edrych drwy bapur newydd ar y bwrdd.)

Huw

Wel, beth oedd y mater felly?

Blodwen

(Ei meddwl ymhell.) Hm?

Huw

Lle mae dy feddwl di dwad?

Blodwen

O dim ond ei fod o eisio barn Doctor James.

Catrin

Ei farn o ar be?

Blodwen

Y "Sailor's Rest".

Huw

"Sailor's Rest"? Be aflwydd ydy hwnnw?

Blodwen

Rhyw fath o gartre i hen longwrs, rydw i'n deall. Ar ôl iddyn nhw reteirio o'r môr. (BLODWEN yn tynnu ei chôl.)

Catrin

Ple mae o?

Blodwen

Dydw i ddim yn cofio'n iawn. I ffwrdd yn rhywle, ond mae o'n le ardderchog, medda Doctor James.

Huw

Dydy'r hen ddyn rioed yn meddwl mynd yno debyg?

Blodwen

Ydy, medda fo. Wedi blino byw ar ei ben ei hun.

Huw

Wel myn brain i, dyna hi'n ffliwt!

Blodwen

Be sy Nhad?

Catrin

Dim byd Blodwen, ond ei fod o wedi colli lojiwr. Roedd dy dad yn meddwl gofyn i'r hen Enoc ddwad i fyw yma.

Blodwen

O? Wel da iawn, Nhad! Mae'n biti gweld yr hen greadur ei hunan bach yn y tŷ yna.

Huw

Ydy debyg iawn. Ond mae dy fam yn benderfynol na ddaw o ddim yma.

Catrin

Wel pwy ddynas fuasa'n lecio cael hen ddyn fel yna ar draws y tŷ? Am beth wyt ti'n chwilio Blodwen?

Blodwen

Am y llyfr hwnnw oeddwn i'n ddarllen ddoe. Roedd o ar y cwpwrdd y bore yma. Ydy Wili John wedi bod efo fo eto?

Huw

O, hidia befo fo am funud.

Blodwen

Ond mi ydw i eisio mynd â fo i'r llyfrgell y pnawn yma, Nhad!

Huw

Wel yli, pa bryd mae'r hen ddyn yn meddwl mynd i'r lle yna, ddwedodd o?

Blodwen

Naddo, ond yn reit fuan 'r 'wyn credu. (Dod o hyd i'r llyfr y tu ôl i'r soffa.) A, dyma fo!

Huw

Wn i ddim be sy gen ti yn erbyn iddo fo ddwad yma Catrin.

Catrin

Mi ydw i wedi dweud wrtha ti'n barod. Fedrwn i byth wneud efo fo.

Blodwen

O dydy o ddim mor ddrwg â hynny, Mam. Dipyn yn groes, dyna'r cwbwl. Mae ei galon o yn y lle iawn.

Catrin

Hy, dwyt ti ddim yn nabod dynion eto, ngeneth i.

Blodwen

Wel dydy hi ddim yn rhy hwyr i mi ddechra, Mam.

Huw

Beth wyt ti'n feddwl?

Blodwen

O dim ond bod yna ryw ddyn ifanc wedi gofyn imi fynd efo fo i'r pictiwrs nos fory.

Huw

Y? Pwy ydy o felly?

Blodwen

(Mynd allan drwy'r drws.) Doctor James, Nhad.

Huw

Wel myn brain i! Glywaist ti hynna Catrin? Y ledi fach! (Huw yn eistedd i lawr.)

Catrin

Chware teg iddi. Mae Doctor James yn ddyn ifanc neis iawn.

Huw

Dyna be ydy'r cerdded o gwmpas yma mewn hanner breuddwyd felly! Roeddwn i'n meddwl bod yna rywbeth ar dro. Ple aflwydd welodd hi'r doctor yna tybed?

Catrin

Wel be sy'n fwy naturiol a hithau'n gweithio efo Huws y Chemist?

Huw

Doctor James wir!

Catrin

O gad lonydd i'r hogan! Rwan mae ei chyfle hi. Wyt ti ddim yn falch o weld dy deulu'n gwneud mor dda dwad?

Huw

Does arna i ddim eisio ei gweld hi'n gwneud ffŵl ohoni ei hun, Catrin.

Catrin

Twt, mae Blodwen yn ddigon call i ti.

Huw

Sgwn i! Does yna ddim llawer er pan mae hi wedi dechra gweithio.

Catrin

Roeddat ti wedi priodi yn ei hoed hi.

Huw

Ia, ond mae petha'n wahanol heddiw. Dydy hi ddim wedi cael mantais o'i haddysg eto. Mae ganddi swydd reit dda—be arall sy arni eisio?

Catrin

Fedri di ddim nadu pobol ifanc syrthio mewn cariad, Huw. (CATRIN yn codi i gadw'r hosan.)

Huw

Y? Ia, ond mae eisio dipyn bach o synnwyr cyffredin, myn brain i. O wel... wyddost ti be, fedra i ddim peidio meddwl am yr hen Enoc.

Catrin

Wel ia, mae'n biti ei weld o'n mynd i ffwrdd i'r hen le yna.

Huw

Paid â dweud dy fod ti wedi newid dy feddwl Catrin!

Catrin

O na. Ond mae arna i ofn y bydd o'n fwy unig nag erioed yn y fan honno.

Huw

Ia, ymhell o bob man, yng nghanol Saeson reit siwr. A dyna dri chant o bunna wedi mynd i ebargofiant. O wel, waeth i ni roi'r ffidil yn y to ddim. Mae hi'n rhy hwyr rwan.

Catrin

Wn i ddim am hynny.

Huw

Beth wyt ti'n feddwl?

Catrin

Wel efalla nad ydy hi ddim yn rhy hwyr i ti ei berswadio fo i beidio mynd i ffwrdd.

Huw

Be—wyt ti am adael iddo fo ddwad yma?

Catrin

Mi gawn weld ymhellach ymlaen.

Huw

Wyt ti o ddifri?

Catrin

Ydw, ond cofia di hyn Huw—meddwl am biano i Wili John rydw i. Mae hynny'n werth unrhyw aberth. A mi fydd hi'n aberth hefyd cael yr hen Enoc yma.

Huw

Na, fydd hi ddim mor ddrwg â hynny Catrin.

Catrin

Mi gei di weld peth arall.

Huw

Mae o'n hen stamp go lew yn y bôn.

Catrin

Mae o'n hen greadur croes, pigog hefyd, a'i lach ar bob dim yn ei dro, ac yn ddigon ffwndrus yn amal.

Huw

Ddaw henaint ddim ei hunan, Catrin. Mae yna ryw fai arno ni i gyd. O wel, rhaid i mi fynd am y gweithdy yna─



Clywir sŵn WILI JOHN draw.

Catrin

Aros am funud, mae Wili John yn dwad. Gofyn iddo fo be fuasa fo'n lecio gael ar ei ben-blwydd.

Huw

I be?

Catrin

Gofyn di iddo fo. Mi ddalia i am swllt mai piano fydd ei ateb o.



WILI JOHN yn dod i mewn ar wib, gan ddal ei ddwy fraich allan. Mae'n rhoi tro rownd y llwyfan gan wneud sŵn fel eroplên.

Huw

Hei, llai o dwrw, boi bach. Beth wyt ti'n feddwl wyt ti—dyrnwr?

Wili John

Naci, eroplên.

Huw

Y?

Wili John

Eroplên—jet yn mynd i India. (Cychwyn unwaith eto.)

Catrin

Dyna ddigon, Wili John. Allan mae eisio chware. Mae dy Dad eisio siarad efo ti.

Wili John

Be sy Nhad?

Huw

Be sy be?

Catrin

O bobol annwl, sôn am Blodwen mewn breuddwyd! Wyt ti wedi anghofio'n barod?

Huw

O ia. Yli, Wili John, pa bryd wyt ti'n cael dy ben blwydd?

Wili John

Mis nesa.

Huw

Be fuasa ti'n lecio gael yn bresant?

Wili John

Gwn dŵr.

Catrin

Twt lol, Wili John, paid â siarad yn wirion. Miwsig, Wili John, miwsig—rwan be fuasat ti'n lecio?

Wili John

Mouth Organ.

Catrin

Mouth Organ, wir. Be sy ar yr hogyn! Fuaset ti'n lecio cael piano?

Wili John

Piano go iawn? O buaswn Mam!

Huw

Wel efalla y cei di un os byddi di'n hogyn da.

Wili John

Pa bryd?

Huw

Wn i ddim eto nes y ca'i weld dyn y banc. Ble rwyt ti'n mynd, Catrin?



CATRIN yn rhoi côl amdani a hel ar ei phen.

Catrin

Mae gen i eisio picio i'r pentre am funud i wneud tipyn o negas. Fydda i ddim yn hir gobeithio.

Wili John

Ga i ddwad, Mam?

Catrin

Cei am wn i. Aros, rhaid i mi roi cadach ar dy wyneb di. (Mynd i nôl cadach, ac yn sychu wyneb Wir Jomn.) Saf yn llonydd da chdi, rwyt ti run fath â chynonyn! Rwan y tu ôl i'r clustia yma... Ple rwyt ti'n hel y fath faw dwad? Reit, estyn ei gap o Huw—dyna fo ar y soffa.



HUW yn rhoi cap am ben WILI JOHN.

Huw

Pa bryd fyddi di'n ôl tybed?

Catrin

Wel fydda i byth yn hir iawn, rwyt ti'n gwybod hynny. Ag yli, mae yna deisen yn y popty yn y cefn—mi fydd yn barod ymhen rhyw chwarter awr. Gofala ei thynnu hi allan os na fydda i wedi dwad yn ôl.

Huw

Reit.

Catrin

Cofia di rwan—chwarter awr—ne mi fydd yma andros o row.

Huw

O paid â phoeni. Mi arhosa i yma yn lle mynd i'r gweithdy.

Catrin

Tyrd Wili John.



CATRIN a WILI JOHN yn mynd drwy'r drws. Huw yn gafael mewn esgid ac yn eistedd i lawr ar y soffa. Dechreu mwmian canu'n ddistaw. Yna ymhen ychydig daw cnoc ar y drws, a daw Dic Bersi i mewn. Mae'r siwt sydd amdano wedi gweld dyddiau gwell, ond mae'n drwsiadus ddigon. Cadach sydd am ei wddf yn lle colar. Mae'n dal ei gap yn ei law.

Huw

O chdi sydd yna Dic Betsi?

Dic

Ia, Clocsiwr, fi sydd yma. Ple mae Catrin?

Huw

Newydd fynd allan. Be sydd arnat ti eisio?

Dic

O dim byd neilltuol. Digwydd pasio dyna'r cwbwl. Wyt ti'n brysur?

Huw

Rhy brysur o lawer i ddal pen rheswm efo chdi a dy siort. (Huw yn codi a mynd i eistedd wrth y lân.)

Dic

Dim llawer o hwyl arnat ti, Clocsiwr?

Huw

Nag oes, tra byddi di o gwmpas.

Dic

Duwcs annwyl, paid â cholli dy limpyn, rhen frawd. Rhaid i ni drio bod yn gymdogol wyddost ti, ne chawn ni byth drefn ar yr hen fyd yma.

Huw

Hy!

Dic

Be?

Huw

Hy! medda fi.

Dic

O... Dwad wrtha i Clocsiwr, fuo rhen Enoc yma heddiw?

Huw

Naddo. Pam?

Dic

Wel doedd o ddim yn y tŷ pan oeddwn i'n pasio rwan. Meddwl ei fod o wedi galw yma am funud. Wedi mynd am dro i'r pentre mae o, reit siwr. Fydd o'n dwad yma yn o amal rwan?

Huw

Bydd, debyg iawn. Mae o'n gwybod ple i gael croeso. Mi fydd yma'n amlach cyn bo hir hefyd.

Dic

Beth wyt ti'n feddwl?

Huw

Hidia di befo. Mi gei di weld yn ddigon buan co!

Dic

Be ydy'r diddordeb sydyn yma yn yr hen ŵr, sgwn i?

Huw

Sydyn by-be? Mae o wedi cael drws agored yma bob amser. Diddordeb, ddwedaist ti? Na, cariad brawdol, Dic Betsi. Ond wrth gwrs wyddost ti ddim be ydy hwnnw. "Nymbar wan" ydy hi efo chdi bob amser.

Dic

Na, rwyt ti'n gwneud camgymeriad, rhen frawd. Ond fydda i byth yn gwneud sioe o bob cymwynas fel llawer un.

Huw

Wnest ti rioed gymwynas os yr oedd hynny'n golygu gwario dima. Mi ydw i'n dy nabod ti'n reit dda, co!

Dic

Wyt ti wir! Mae'n amser i ti gael agoriad llygaid, Clocsiwr. Wyddost ti pam yr ydw i eisio gweld Uncle Enoc?

Huw

Dydy o ddim o bwys gen i... wel, pam?

Dic

I ofyn iddo fo ddwad acw i fyw efo fi.



DIC BETSI yn eistedd i lawr ar y dde. Clocsiwr yn codi ar ei draed mewn syndod.

Huw

Be! Wel, myn brain i! Sut y medri di edrach ar ei ôl os gwni?

Dic

Wel, pam? Digon o fwyd, Clocsiwr.

Huw

Ha!

Dic

A phob chware teg.

Huw

Digon o fwyd wir! Rwyt ti'n byw ar wellt dy wely fel y mae hi.

Dic

Paid â cholli dy limpyn, Clocsiwr. Eistedd i lawr. Dim eisio mynd yn gâs, duwcs annwyl!

Huw

Pwy sy'n colli ei limpyn?

Dic

Mae golwg felly arnat ti beth bynnag.

Huw

Ond yr hen ŵr yn mynd atat ti—!

Dic

Ie debyg iawn. Mi fydd wrth ei fodd. Rhen greadur, does ganddo fo fawr i fynd ar ei ora.

Huw

Dyna ydy dy obaith di beth bynnag, y llabwst calon-galed.

Dic

Diar annwyl, dim o'r fath beth, Clocsiwr.

Huw

O fedri di ddim fy nhwyllo i, Dic Betsi. Ar ôl arian rhen Enoc rwyt ti. Ond waeth i ti fynd i chwibanu ddim─yma mae o'n dwad.

Dic

Yma?

Huw

Ia, yma. Mae Catrin wedi bod yn pwyso arna i ei gymryd o i mewn ers misoedd. Yn tosturio ei weld o'n byw yn yr hen dŷ yna ar ei ben ei hun.

Dic

Mae'n anodd gen i goelio hyna.

Huw

Ydy, debyg iawn. Does yna ddim tosturi yn dy natur di.

Dic

Wyt ti wedi gofyn iddo fo?

Huw

Naddo eto. Ond mi fydda i'n mynd ato fo heno am dro— Aros!



Clywir sŵn draw. Yna y drws yn agor ac ENOC yn dod i mewn. Hen gôt llongwr fawr amdano, a hen gap pîg-gloyw ar ei ben. Cadach mawr coch am ei wddf. Fel llawer i hen forwr, mae'n gwisgo barf, a hwnnw wedi troi yn wyn. Mae ganddo ffon yn ei law.

Enoc

Ahoy there, Clocsiwr!

Huw

Uncle Enoc, chi sydd yna?

Enoc

Ia debyg iawn. Pwy wyt ti'n feddwl ydw i, y landlybar? Napoleon?

Huw

Dowch i mewn, rhen ddyn.

Enoc

Paid â phoeni, mi ydw i'n dwad.

Dic

Helo dewyrth.

Enoc

O chdi sydd yna aie! Dic Betsi, Dic dau-wynebog, Dic ga'-i-fenthyg, Dic Slei, Dic Sebonllyd, Dic be-ga'-i-am-ddim.

Huw

Ia, go dda myn brain i!

Enoc

Paid ti ag agor dy bîg. Dwyt titha fawr gwell, Huw Clocsiwr, Huw ben-chwiban, Huw dim-uwch-baw-sowdwl, Huw dim-dima.

Huw

Rwan, rwan, rhen ŵr, peidiwch â chynhyrfu. Rhoswch, mi helpa i chi efo'r gôt yna.



HUW yn mynd at ENOC i dynnu ei gôt. Dic yn neidio i fyny gyda'r un bwriad.

Huw

(Swta.) Dim eisio i ti fusnesu, Dic Betsi.

Enoc

(Yn eu gwthio i ffwrdd, yn wyllt.) Hanner munud y ffyliaid—ydach chi eisio tynnu fy nghôt i'n gria? Mi fedra i wneud yn iawn fy hun, diolch yn fawr.

Huw

Rwan dewyrth, ydach chi am eistedd i lawr?

Enoc

Ydw, debyg iawn. Wyt ti'n disgwyl i mi hongian o'r to? Ple mae'r ddynas yma? (Eistedd ar y dde.)

Huw

Catrin? Allan yn y siop...

Enoc

Da iawn. Mi fydd yna lai o glebran o gymaint a hynny. Be ydy'r mater arnat ti yn llygadrythu, y?

Dic

Wel, eich gweld chi wedi teneuo, dewyrth, a...

Enoc

Ers faint wyt ti'n poeni am fy iechyd i?

Dic

Wel does arna i ddim eisio'ch gweld chi'n mynd yn wael, dewyrth. Ac os oes yna rywbeth fedra i wneud— (DIC yn tynnu cadair oddi wrth y bwrdd ac yn eistedd arni.)

Huw

Wel sut mae'r iechyd erbyn hyn, rhen ŵr?

Enoc

Sobor.

Huw

Tewch â dweud! Mae'n ddrwg gen i glywed.

Enoc

Paid â dweud celwydd. Rwyt ti wrth dy fodd. Ond dyna'r gwir i ti, mae fy iechyd i'n ddifrifol.

Dic

Mae yna lawer o gwyno o gwmpas rwan.

Enoc

Oes, ond wyddost ti pam?

Dic

Wel na, dydw i ddim yn meddwl.

Enoc

Am fod bwyd wedi colli ei nerth—dyna i ti pam. Does yna ddim lliw na blas ar gwsberis na riwbob na rwdins na letis na dim yn ddiweddar yma.

Huw

'Rydach chi'n iawn, dewyrth, myn brain i.

Enoc

Be arall sydd i'w ddisgwyl a phobol yn chware efo'r atoms felldith yna?

Dic

Digon gwir, rhen ŵr, digon gwir.

Enoc

Gwir bob gair i ti. Does gen ddyn ddim hawl i fusnesu efo'r petha yna. Mae o'n groes i natur.

Huw

Siwr o fod...

Enoc

A dyna'r bara rydan ni'n fwyta heddiw. Llwch lli, a dim arall. A dydy hyn yn ddim ond dechra—mi fydd ein bwyd ni i gyd wedi ei wenwyno cyn bo hir.

Huw

Ydach chi'n cael dipyn o gig, rhen ddyn?

Enoc

Ydw—cig ceffyl. A rhyw sothach mewn tynia. Roeddwn i'n agor un y diwrnod o'r blaen. A dyna'r drewi mwya cythreulig yn dwad allan ohono fo. Yn ddigon i godi gwallt dy ben di. Dim rhyfedd mod i ac eraill yn colli iechyd.

Huw

Dydy o ddim yn lles i chi aros yn yr hen dŷ yna chwaith, dewyrth.

Enoc

Nag ydy, mi wn i hynny. Ond fydda i ddim yna'n hir. Rydw i'n mynd i fyw i'r "Sailor's Rest".

Dic

Y? Be ydy hwnnw, rhen ŵr?

Enoc

Lle i hen begnos fel fi dreulio diwedd oes, Dic Betsi. Yn ddigon pell oddi wrth ladron fel chi'ch dau.

Huw

Dim o gwbwl, dewyrth, cyn belled ag yr ydw i yn y cwestiwn beth bynnag. Does gen i ddim ond eich lles chi mewn golwg.

Enoc

Dim ond f'arian i wyt ti'n feddwl, Clocsiwr.

Huw

Choelia i fawr. A finna'n mynd i ofyn i chi ddwad i fyw yma efo ni!

Enoc

Y? Be ydy hyn?



[Rhagor o destun i'w ychwanegu]



a1, g1