Glyndwr, Tywysog Cymru

Cue-sheet for Esgob

(Oll) {Yn canu.}
 
(Tywysog) Rwy'n mawr obeithio nad yw De Grey wedi dylanwadu ar fy nhad yn erbyn Syr Owen de Glendore.
(1, 2) 218 Mae gan eich Gras syniad uchel am Glyndwr?
(Tywysog) I mi y patrwn yw o Farchog dewr a chywir.
 
(Tywysog) I mi y patrwn yw o Farchog dewr a chywir.
(1, 2) 220 Ai nid felly Arglwydd Grey?
(Tywysog) Na!
 
(1, 2) 323 Atal dy dafod, gyfaill mwyn, er mwyn dy wlad!
(Tywysog) {Â'i law ar fraich ei dad.}
 
(Grey) Mae deddf yn ddeddf er hyn i gyd, ac ar y ddeddf, a thrwy y ddeddf, 'rwyf eto'n hawlio'r tir.
(1, 2) 399 Fy Arglwydd Frenin!
(1, 2) 400 Cyn it roi dy air a wnei di wrando arnaf fi?
(1, 2) 401 'Rwyf finnau'n Gymro..
(1, 2) 402 Gwn rywbeth yw fy ngwlad.
(1, 2) 403 Gwn rywbeth am y gorthrwm a gafodd hi a'i phlant.
(1, 2) 404 Gwn am yr ysbryd a'i meddianna hi.
(1, 2) 405 Gwn am allu a dylanwad Owen Glyndwr.
(1, 2) 406 Gwn mai gwaith hawdd a fyddai iddo gynneu tân a ledai'n chwyrn o'r De i'r Gogledd, o Gaergybi i Gaerdydd.
(1, 2) 407 Ac er mwyn heddwch gwlad apelio 'rwyf na fydded i ti gynhyrfu pob ryw ysbryd drwg trwy roi dyfarniad yn yr achos hwn ar sail deddf mor anghyfiawn─deddf sy'n sarhad ar degwch Lloegr ac ar hunanbarch pob Cymro!