| (Rachel) Wyt ti wedi cael tê, Esther? | |
| (Rachel) Wyt ti wedi cael tê, Esther? | |
| (1, 0) 13 | Ydw. |
| (1, 0) 14 | Cymer gadair; mae John yn gweithio 'mlaen. |
| (Rachel) Dim ond am ychydig o funudau. | |
| (Rachel) Mae Sam ar fynd i'r steddfod. | |
| (1, 0) 17 | Wyt ti'n mynd hefyd? |
| (Rachel) Fi? | |
| (Rachel) 'Rwyf am fynd lawr i'r dre' i weld Mari, fy chwaer. | |
| (1, 0) 22 | 'Steddfod i'w chofio fydd hon. |
| (Rachel) 'Dyw'r Genedlaethol yn ddim i'w chymharu â hi. | |
| (Rachel) Dim ond 'steddfod, a |male voice|, a |rallentando| glywir yn ein tŷ ni o fore tan nos. | |
| (1, 0) 27 | Synnwn i fawr, Rachel. |
| (Rachel) Wyddost ti, mae Sam fel pe bae wedi ynfydu. | |
| (1, 0) 31 | Ydi. |
| (Rachel) A tithau hefyd, wrth gwrs. | |
| (Rachel) A tithau hefyd, wrth gwrs. | |
| (1, 0) 33 | Na, nid wy'n mynd heno. |
| (Rachel) Beth? | |
| (1, 0) 38 | Na, Rachel, arhosaf gartref. |
| (Rachel) Ond, Esther, fe fydd canu da yn y gystadleuaeth heno! | |
| (Rachel) Ond, Esther, fe fydd canu da yn y gystadleuaeth heno! | |
| (1, 0) 40 | Nid oes cân yn fy nghalon bellach. |
| (1, 0) 41 | Torrwyd y tant. |
| (Rachel) Wel, wel, dyna un ôd wyt ti, a dweyd y lleiaf. | |
| (1, 0) 49 | Blwyddyn—i heno. |
| (Rachel) Blwyddyn i heno! | |
| (Rachel) Fel mae'r amser yn mynd! | |
| (1, 0) 54 | Ydi. |
| (Rachel) Cannwyll llygad John oedd Neli fach. | |
| (1, 0) 57 | Eitha' gwir. |
| (Rachel) Nid wyf yn cofio'n iawn—ai nid yn dy freichiau di y bu Neli fach farw? | |
| (1, 0) 60 | Nage, ym mreichiau John. |
| (Rachel) Wrth gwrs, wrth gwrs; nawr 'rwy'n cofio. | |
| (1, 0) 64 | Wedi anghofio'r date mae John, 'rwy'n siwr. |
| (Rachel) Dd'wedi di rywbeth wrtho i'w atgofio, Esther? | |
| (1, 0) 67 | Na, na, nid oes angen am wneud hynny. |
| (1, 0) 68 | Gadewch i'r dynion gael eu dedwyddwch. |
| (Rachel) Gâd i fi ddweyd wrtho. | |
| (1, 0) 71 | Na {megis murmur}—na. |
| (Rachel) Hwyrach mai ti sy'n iawn, Esther. | |
| (Rachel) Dyna yw'n tynged ni ar y ddaear yma. | |
| (1, 0) 75 | Hwyrach hynny, Rachel. |
| (Rachel) Mae yna lawer o lawenydd yn ddyledus i ni yn y byd arall, gall'swn feddwl. | |
| (Rachel) Oes, sicr o fod. | |
| (1, 0) 78 | Mae hiraeth yn well na bod yn ddi-brofiad, Rachel. |
| (1, 0) 79 | Fy eiddo i ydyw'r atgofion, wedi'r cyfan. |
| (1, 0) 81 | Bydd y lle yn orlawn heno, Rachel. |
| (Rachel) Maent yn dod o bobman; weles i ddim o'r fath beth erioed. | |
| (Rachel) Mae'r ddau gôr lleol wedi rhoddi'r goron ar y cyfan. | |
| (1, 0) 84 | 'Rwy'n falch nad yw John yn y côr y tro hwn. |
| (1, 0) 85 | Amhosibl iddo weithio gyda'r contract newydd 'ma a mynychu'r |rehearsals|. |
| (Rachel) Byddai'n dân goleu 'ma rhwng Sam a John, pe bae un ohonynt ym |Male Voice| Dwynant, a'r llall yng Nghôr Pentwyn. | |
| (Rachel) Byddai'n dân goleu 'ma rhwng Sam a John, pe bae un ohonynt ym |Male Voice| Dwynant, a'r llall yng Nghôr Pentwyn. | |
| (1, 0) 87 | Eitha' gwir, Rachel. |
| (Rachel) Hyd yn oed fel y mae pethau, dim ond sôn am roddi "whiff" i hên gôr John y mae Sam, nos a dydd. | |
| (Rachel) Ydi John yn siarad rhywbeth am y corau? | |
| (1, 0) 90 | Y mae ambell i frawddeg yn dod allan 'nawr ac yn y man. |
| (1, 0) 91 | Weithiau clywaf ef yn mwmian |Comrades in Arms|. |
| (Rachel) Dyna fe! | |
| (Rachel) Gwyn fyd na buasai'r gân heb ei chyfansoddi erioed. | |
| (1, 0) 95 | Ychydig o wahaniaeth wnelai hynny. |
| (1, 0) 96 | Mi fyddai'r |Martyrs of the Arena| yn codi tô ein tai ni wedyn. |
| (Rachel) |Martyrs of the Arena| yn wir! | |
| (Rachel) Ydi'n wir. | |
| (1, 0) 100 | Ond, Rachel, gwell fod ein dynion yn sobr ac yn dilyn y canu, na pe baent yn... |
| (Rachel) {Yn gyflym.} | |
| (Rachel) Cael sgwrs fach gydag Esther 'roedd i cyn mynd i'r dref. | |
| (1, 0) 113 | Dewch ymlaen, ac eisteddwch, |
| (Sam) Ydi John wedi dod adre'? | |
| (Sam) Ydi John wedi dod adre'? | |
| (1, 0) 115 | Nac ydi. |
| (1, 0) 116 | Mae'n gweithio ymlaen. |
| (1, 0) 117 | Nid wyf yn ei ddisgwyl am awr arall. |
| (Sam) Awr arall? | |
| (1, 0) 144 | Dewch chi, Sam, nid yw Rachel yn meddwl dim drwg! |
| (Sam) {Yn fwy sicr.} | |
| (Sam) Fe'i clywsoch yn galw meddyliau calon dyn yn lol? | |
| (1, 0) 148 | Do, do; ond cellwair roedd hi, Sam bach. |
| (Sam) 'Doeddwn i ddim am siarad dim ynglŷn â'r 'steddfod. | |
| (Sam) Rachel soniodd am |Comrades in Arms|. | |
| (1, 0) 151 | Eitha' gwir. |
| (Sam) Ond, yn wir, Esther, fe ddyl'sech glywed ein |tenors| ni ar y |climax| yn y diwedd. | |
| (Sam) {Yn eistedd.} | |
| (1, 0) 156 | Yn wir! |
| (Sam) Ond 'rydych chi'n mynd i'r 'steddfod, wrth gwrs? | |
| (1, 0) 159 | Dim heno, Sam. |
| (Sam) Y fenyw! | |
| (Sam) Gwarchod pawb! | |
| (1, 0) 163 | Na, nid wyf am fyned allan o'r tŷ heno. |
| (Sam) Falle mai ofni gweld Côr Dwynant yn gwneud hewl â hên gôr John 'rydych chi? | |
| (Sam) Falle mai ofni gweld Côr Dwynant yn gwneud hewl â hên gôr John 'rydych chi? | |
| (1, 0) 165 | O'm rhan i, rwy'n fo'lon i'ch côr ennill ganwaith, Sam bach. |
| (Sam) Ddwedwch chi hynny yn wyneb John? | |
| (Sam) Ddwedwch chi hynny yn wyneb John? | |
| (1, 0) 167 | 'Rydw'i wedi ei ddweyd ugeiniau o droion eisoes. |
| (Sam) Beth gynllwyn sy' arnoch chi heno, Esther? | |
| (Sam) 'Roeddech chi 'n arfer dilyn y canu yn gyson! | |
| (1, 0) 170 | 'Rydw' i allan o hwyl heno, Sam. |
| (Sam) {Yn ansicr.} | |
| (Sam) Perthynas i'r beirniad, aie? | |
| (1, 0) 195 | 'Nawr, Sam! |
| (1, 0) 197 | 'Rwyt ti 'nol yn gynharach heno, John. |
| (John) {Yn ansicr.} | |
| (John) {Yi gosod ei "thermos" a'r bocs bwyd ar y ford.} | |
| (1, 0) 205 | Dyna ddigon, John. |
| (1, 0) 206 | Gadewch lonyd i'ch dadleu parhaus, y ddau ohonoch. |
| (1, 0) 207 | Fe wna' beirniad chwarae têg â chi. |
| (1, 0) 208 | Gwell i ti ymolch unwaith, John. |
| (John) Does gen i ddim amser at hynny. | |
| (John) Ychydig o fwyd... | |
| (1, 0) 211 | Beth? |
| (1, 0) 212 | Yn mynd heb ymolch i gan torf o ddynion mewn dillad glân! |
| (1, 0) 213 | Rhag dy gywilydd John! |
| (1, 0) 214 | Dodaf y dŵr yn barod 'nawr. |
| (Sam) Cyn y dewch o fewn i led cae i ni, bydd eisieu |double eighty| arnoch chi. | |
| (1, 0) 247 | Mae'r dŵr yn barod, John. |
| (John) {Yn mynd allan â'i gôt ar ei fraich.} | |
| (Sam) |Nonsense| i gyd; mae yna ddigon o bolish ar ein côr lanhau dy 'sgidiau am flwyddyn, | |
| (1, 0) 253 | Peidiwch a'i gymryd yn seriws, Sam. |
| (1, 0) 254 | Tynnu'ch coes mae John. |
| (Sam) Nid tynnu coes dyn yw dweyd celwydd fe 'na! | |
| (Sam) O, ydi! | |
| (1, 0) 258 | Dyna fe'n wir. |
| (Sam) Mae William Phillips yn arweinydd di-guro, | |
| (Sam) Dim ond deuddeg |certificate| syd rhyngddo a chael ei |AC|. | |
| (1, 0) 268 | John, ei di byth heno! |
| (John) {Yn dechreu mynd eto.} | |
| (Sam) Wn i ddim sut byddai rhyngom ni'n dau pe bae yntau'n canu heno gyda'i hên gôr. | |
| (1, 0) 275 | Na'n wir. |
| (Sam) Trueni hefyd nad ydi yn y côr. | |
| (Sam) {Hyn yn dyner iawn.} | |
| (1, 0) 279 | Do. |
| (Sam) Bu John bron a mynd yn wallgof yr adeg hynny, Esther. | |
| (Sam) Bu John bron a mynd yn wallgof yr adeg hynny, Esther. | |
| (1, 0) 282 | Do. |
| (Sam) Tŷ gwâg yw tŷ heb blentyn, Esther. | |
| (1, 0) 285 | Y—ie—Sam. |
| (Sam) Faint sy' 'nawr, Esther? | |
| (1, 0) 290 | Blwyddyn gyfan. |
| (Sam) Yr arswyd fawr! | |
| (Sam) Blwyddyn wed'soch chi, Esther? | |
| (1, 0) 294 | Ie—heno! |
| (John) {Yn ymddangos eto ac yn sychu ei hunan â thywel.} | |
| (John) Mi wn, fel ffaith, fod y beirniaid mewn |hysterics| am ei fod yn curo |six-eight time| o'r dechreu i'r diwed yn lle |three-four|. | |
| (1, 0) 298 | Ydi'r sebon yn y dŵr genti, John? |
| (John) Y—na—hynny yw—wn i ddim... | |
| (1, 0) 301 | Fel arfer. |
| (Sam) Ti elli adael ein harweinydd ni yn llonyd John. | |
| (1, 0) 307 | Gwell iti wisgo— |
| (1, 0) 309 | dy gôt a'th wasgod oreu, John. |
| (John) O'r goreu. | |
| (Sam) Ond fe gollwch y cwpan, mae hynny'n sicr. | |
| (1, 0) 315 | 'Rwy'n credu y byddai'n well i chi fynd, Sam. |
| (1, 0) 316 | Rhaid i John gael ychydig o fwyd a newid 'i esgidiau cyn... |
| (John) Newid fy esgidiau! | |
| (John) Yr unig gwpan a gewch chi fechgyn heno yw cwpan wermod. | |
| (1, 0) 321 | Rhaid sychu'r 'sgidiau gwaith hyn ar gyfer yfory, John. |
| (1, 0) 322 | Mae'r amser yn pasio, Sam. |
| (Sam) {Yn codi.} | |
| (John) Fe roisom |Amen| i chi. | |
| (1, 0) 333 | Chi fyddwch yn ddiweddar, Sam. |
| (John) Ond chware têg, chi gafodd y wobr 'Steddfod Maesglo, Sam. | |
| (John) Dyna'ch unig obaith am ennill. | |
| (1, 0) 343 | Y mae'n amheus gen i a yw'r holl siarad 'ma yn beth da i'ch llais hefyd, Sam. |
| (John) Os ellir ei alw yn llais! | |
| (John) Collwn i ddim o'r gystadleuaeth heno am gan' punt; na, ddim ar un cyfrif. | |
| (1, 0) 348 | Wyt ti'n barod am dy fwyd, John? |
| (John) Ydw. | |
| (John) B'le mae nhw? | |
| (1, 0) 352 | Cymer dy fwyd yn gyntaf. |
| (1, 0) 353 | Mae'r cyfan yn barod geni. |
| (1, 0) 370 | Beth oedd y sŵn 'na 'nawr, John? |
| (John) Ha, ha! | |
| (John) Llais. | |
| (1, 0) 382 | John! |
| (1, 0) 383 | John!! |
| (Sam) Jelws, rwy'n gweld. | |
| (John) Dim ond yr wythnos ddiwethaf 'roedd Rachel yn dweyd fod yna ddrafft ofnadwy yn y tŷ pan oeddet yn agor dy gêg i bractiso ychydig, | |
| (1, 0) 390 | Peidiwch a sylwi arno, Sam. |
| (Sam) Dywedodd hi hynny, Esther? | |
| (Sam) Dywedodd hi hynny, Esther? | |
| (1, 0) 392 | Peidiwch a sylwi ar John, 'rwy'n dweyd. |
| (John) 'Rwyt ti'n gweld, Sam, fod Esther yn ameu dim. | |
| (John) A'r gwaethaf yw eu bod yn dweyd y gwir, Sam bach. | |
| (1, 0) 396 | Yn wir, John! |
| (Sam) Diain i, ond mae'r menywod 'ma â chôf aruthrol ganddynt am ein gwendidau ni, y dynion. | |
| (Sam) Pan mae dyn yn clywed rhywbeth, aiff y peth i mewn drwy un glust ac allan trwy'r llall, ond am fenyw—hei! | |
| (1, 0) 401 | Beth am danom ni, Sam? |
| (Sam) Aiff i mewn trwy'r ddwy glust ac allan ar flaen ei thafod. | |
| (Sam) Aiff i mewn trwy'r ddwy glust ac allan ar flaen ei thafod. | |
| (1, 0) 403 | Sam! |
| (1, 0) 404 | Sam!! |
| (1, 0) 405 | |Too bad|, yn wir. |
| (John) Go dda, Sam, am unwaith. | |
| (Sam) Gall Esther yma dystio fod gennyt dithau wyneb digon agored pan 'rwyt ti'n disturbo'r cymdogion â'th floeddio. | |
| (1, 0) 410 | Gadewch lonydd, eich dau, yn wir! |
| (Sam) John ddechreuodd, Esther. | |
| (John) Mae Sam yn meddwl canu heno fel yr eryr! | |
| (1, 0) 417 | Yr annwyl, annwyl! |
| (1, 0) 418 | Bydd yr eisteddfod hanner drosodd cyn i un o chi gyrraedd yno. |
| (Sam) O wel, dyma fi'n mynd. | |
| (Sam) Ond cofia fy ngeiriau, John, bydd |Comrades in|... | |
| (1, 0) 422 | Mae'n ugain munud wedi saith, Sam! |
| (Sam) Wel, noswaith dda, Esther. | |
| (Sam) |So long|, John, mi wela'i dy wyneb hir di nes ymlaen. | |
| (1, 0) 425 | Noswaith dda, Sam. |
| (Sam) O, ie, John, sylwa di fan hyn heno. | |
| (Sam) {Yn tynnu copi o'r darn allan o'i logell.} | |
| (1, 0) 429 | Ewch, Sam! |
| (Sam) Lol i gyd! | |
| (1, 0) 445 | Yr ydych eich dau fel plant bach. |
| (John) Mae plant bach yn dweyd y gwir, fel rheol. | |
| (John) {Yn eistedd wrth y bwrdd gan wynebu'r dorf.} | |
| (1, 0) 453 | Mae clebran yn mynd â'r amser. |
| (1, 0) 454 | Cymer bwyll, John bach! |
| (John) {Â'i fwyd yn ei gêg.} | |
| (John) Ond—mm—ww... | |
| (1, 0) 457 | Beth? |
| (John) {Yn ymdrechu eto.} | |
| (John) Byddaf—yn—ddiweddar. | |
| (1, 0) 460 | Mae dy fryd ar fynd heno? |
| (John) {Yn llyncu rhwng ei eiriau.} | |
| (1, 0) 464 | 'Rwyt ti wedi clywed digon o gystadleuaethau, a gwell rhai na hon. |
| (John) {Â'i ddwylaw yn symud. | |
| (John) Wn—mm—mm—ss... | |
| (1, 0) 467 | 'Rwy't ti'n siwr o dagu os na fyddi yn ofalus. |
| (John) 'Rwyf am—weld Dwynant—a Phentwyn yn setlo'r pwnc—unwaith am byth. | |
| (1, 0) 471 | O'n wir. |
| (John) Mae'n bechgyn ni yn—yn—wel, nid oes eu trechu ar |Comrades in Arms|. | |
| (John) Mae'n bechgyn ni yn—yn—wel, nid oes eu trechu ar |Comrades in Arms|. | |
| (1, 0) 473 | Fynni di ychydig o dê? |
| (John) {Yn arwyddo "ie" â'i ben) | |
| (John) A—mm—ww—oo. | |
| (1, 0) 476 | Beth? |
| (John) Reit—i olchi hwn i lawr. | |
| (1, 0) 481 | Ie! |
| (John) Mae'n |tenors|—ni—yn—wel, daw neb—yn agos atyn' nhw. | |
| (John) Na! | |
| (1, 0) 484 | Llond cwpan? |
| (John) Ie—a digon o laeth i'w oeri. | |
| (1, 0) 487 | John bach, paid a stwffo dy hunan felna; ti fyddi yn wael ar ol hyn. |
| (John) Mm—mm—ss—ww... | |
| (John) Mm—mm—ss—ww... | |
| (1, 0) 489 | Paid a siarad a bwyta yr un pryd. |
| (John) {Ar ol ei lyncu ag ymdrech.} | |
| (1, 0) 493 | O! |
| (John) Ac y mae eu |second tenors| nhw—yn wallus —yn yr |intonation|. | |
| (John) Ac y mae eu |second tenors| nhw—yn wallus —yn yr |intonation|. | |
| (1, 0) 495 | Rhagor o laeth? |
| (John) {Wedi profi'r tê a'i gael yn rhy boeth.} | |
| (1, 0) 502 | Beth 'nawr? |
| (John) Mae—mm—ss—ww... | |
| (John) Mae—mm—ss—ww... | |
| (1, 0) 504 | Dyna ti eto. |
| (John) 'Does dim |attack| gyda nhw. | |
| (John) 'Does dim |attack| gyda nhw. | |
| (1, 0) 508 | Fe gei di |attack| yn'u lle nhw os na chymeri fwy o amser. |
| (John) {Hyn yn obeithiol, â gwên ar ei wyneb.} | |
| (1, 0) 514 | Nac ydw, John. |
| (1, 0) 519 | Meddyliais—yn... |
| (John) Wyt ti'n mynd lawr i'r dre? | |
| (John) Wyt ti'n mynd lawr i'r dre? | |
| (1, 0) 521 | Nac ydw. |
| (John) I ble 'rwyt ti'n mynd, ynte? | |
| (John) I ble 'rwyt ti'n mynd, ynte? | |
| (1, 0) 523 | Nid wyf yn mynd allan o'r tŷ. |
| (John) {Yn ddyryslyd.} | |
| (John) Wyt ti'n disgwyl rhywun yma? | |
| (1, 0) 527 | Nac ydw. |
| (1, 0) 528 | Ond dôs ymlaen â dy fwyd. |
| (John) {Yn dyner.} | |
| (John) Fe fydd fel yr hen amserau i glywed y corau wrthi am y cwpan. | |
| (1, 0) 532 | Na, ddim heno, John. |
| (John) Wel, dyna ôd wyt ti heno. | |
| (John) A—ww—mm—s... | |
| (1, 0) 538 | A ydwyt yn dweyd rhywbeth? |
| (John) Wel, rwy'n treio, beth bynnag. | |
| (1, 0) 543 | Carwn pe byddet yn gwneud un peth ar y tro—canu neu fwyta. |
| (John) {Gydag ymdrech.} | |
| (John) Mae llaw Cantwr Bach yn symud yn chwim fel hyn... | |
| (1, 0) 550 | Wel, rwy'n dechreu gwan-galonni. |
| (John) Daw'r côr â'r cwpan arall yn ei le heno. | |
| (1, 0) 555 | Mae'r amser yn hedeg. |
| (1, 0) 560 | Ie, beth 'nawr? |
| (John) Mae Williams, y |Manager|, wedi sibrwd yng nghlustiau'r pwyllgor fod 'na wlêdd i fod ar ei gost ef os enillant heno! | |
| (John) Mae Williams, y |Manager|, wedi sibrwd yng nghlustiau'r pwyllgor fod 'na wlêdd i fod ar ei gost ef os enillant heno! | |
| (1, 0) 562 | O, yn wir! |
| (1, 0) 563 | JOHN |
| (1, 0) 565 | Ac y maent wedi fy ngwahodd i yno fel hên aelod o'r côr. |
| (1, 0) 567 | Rhaid ennill yng nghyntaf, onid oes? |
| (John) Ennill? | |
| (John) Wm—mm—ss... | |
| (1, 0) 571 | Dyna ti'n dechreu eto. |
| (John) Mae'r |accelerando| ar y mudiad olaf yn odidog. | |
| (John) Wyddost ti, Esther, ar ol y consart nos Fawrth, aeth hanner dwsin o fechgyn ieuenc oedd yn y dorf i listo gyda'r |Welsh Guards|. | |
| (1, 0) 574 | Bydd popeth ar ben cyn ei di allan o'r tŷ. |
| (John) 'Rwyf bron a gorffen. | |
| (John) le, |reserve|, dyna'r gair. | |
| (1, 0) 580 | Os nad oes |reserved seat| genti heno, bydd hi ar ben arnat i fynd i fewn i'r hall. |
| (1, 0) 581 | JOHN |
| (1, 0) 583 | Dyna! |
| (1, 0) 584 | B'le mae'r 'sgidiau? |
| (1, 0) 585 | O, diolch! |
| (1, 0) 587 | Oes yna eisieu 'u newid nhw'n wir, Esther? |
| (1, 0) 588 | O'r annwyl, oes! |
| (1, 0) 589 | A choler a tie hefyd. |
| (John) Dim coler a tie heno, Esther. | |
| (John) Bl'e mae hi? | |
| (1, 0) 593 | Beth ddywed pobl wrth dy weld? |
| (John) Mynd i glywed y |male voice| bydd y dorf, nid i astudio ffashiwnau. | |
| (John) {Yn tynnu ei esgidiau gwaith i lawr.} | |
| (1, 0) 599 | 'Does dim mynd ynot ti heno, John. |
| (1, 0) 600 | Mae mwy o fynd yn y cloc. |
| (John) Fydda'i ddim pum' munud o'r tŷ i'r hall. | |
| (John) |Love for our dear country we cherish|. | |
| (1, 0) 604 | O'r annwyl! |
| (1, 0) 606 | JOHN |
| (1, 0) 608 | Gallaf weld yr hên Gantwr Bach yn awr! |
| (1, 0) 610 | Ennill? |
| (1, 0) 611 | Gwnaiff! |
| (1, 0) 612 | Mae'n tynnu ymlaen am wyth o'r gloch, John. |
| (John) {Yn gosod un esgid arno.} | |
| (1, 0) 618 | Na, na, dim ond sicrhau dy fod mewn pryd i glywed y corau yw fy mwriad. |
| (John) Dere gyda fi heno, Esther. | |
| (John) Yn wir, 'nawr. | |
| (1, 0) 621 | Na, diolch; gwell gennyf aros gartref. |
| (John) Yr wyt tu hwnt i mi heno. | |
| (John) 'Does yr un gallu a'm ceidw yn y tŷ heno, a finnau'n gwybod fod y bechgyn wrthi am eu bywyd i lawr 'na. | |
| (1, 0) 625 | O'r gore, John. |
| (1, 0) 626 | Af i olchi'r llestri 'ma. |
| (1, 0) 627 | Galw arnaf cyn mynd. |
| (John) Esther! | |
| (1, 0) 635 | Beth 'nawr? |
| (John) B'le câf i lasen newydd? | |
| (John) {Gesyd ei esgid ar y llawr.} | |
| (1, 0) 640 | Yn nror y ford. |
| (John) Reit. | |
| (John) {Yn agor y "drawer" ac yn teimlo.} | |
| (1, 0) 643 | Gefaist di un? |