| (Negeswyr) Gosteg! | |
| (Harbona) Y Frenhines mewn perigl! | |
| (1, 0) 338 | Be' sy'n bod, Harbona? |
| (Harbona) Mordecai'r Iddew sy'n gofyn am weld fy Arglwyddes. | |
| (Harbona) Mordecai'r Iddew sy'n gofyn am weld fy Arglwyddes. | |
| (1, 0) 341 | Mordecai'r Iddew? |
| (Harbona) {Gan godi.} | |
| (Harbona) Dyma fo, Arglwyddes. | |
| (1, 0) 345 | Beth ydy' ystyr hyn? |
| (Mordecai) O na bai fy mhen i'n ddyfroedd, a'm llygaid yn ffynnon o ddagrau. | |
| (Mordecai) O na bai fy mhen i'n ddyfroedd, a'm llygaid yn ffynnon o ddagrau. | |
| (1, 0) 347 | Harbona, 'rydw i'n dymuno ymddiddan gyda'r Iddew hwn heb i neb ddyfod ar fy nhraws i. |
| (Harbona) Mi drefna'i, Arglwyddes, na ddaw neb oll ar eich cyfyl chi. | |
| (Mordecai) 'Glywaist ti'r Proclamasiwn? | |
| (1, 0) 351 | 'Rydw' i wedi ei ddarllen o. |
| (Mordecai) Dy genedl di, Esther. | |
| (Mordecai) Dy genedl di, Esther. | |
| (1, 0) 353 | Fy nghenedl i. |
| (1, 0) 354 | Fy nheulu i. |
| (1, 0) 355 | Mae'n dda gen' i dy fod ti'n cydnabod hynny. |
| (Mordecai) 'Wyt ti'n deall be' mae'r Proclamasiwn yn ei i olygu? | |
| (Mordecai) 'Wyt ti'n deall be' mae'r Proclamasiwn yn ei i olygu? | |
| (1, 0) 357 | Angau'n dringo i'n ffenestri ni i ddinistrio'r rhai bychain? |
| (1, 0) 358 | Ydw', 'rydw' i'n deall. |
| (Mordecai) Mae hynny'n digwydd o hyd, ym mhob rhan o'r byd. | |
| (Mordecai) Mae hwn heddiw yn wahanol iawn. | |
| (1, 0) 362 | Ein cenedl |ni|? |
| (1, 0) 363 | Dyna wyt ti'n ei feddwl? |
| (Mordecai) Nage. | |
| (Mordecai) Ond cenedl Duw, Esther, cenedl Duw. | |
| (1, 0) 367 | Duw Abraham, Duw Isaac, Duw Jacob. |
| (1, 0) 368 | Duw'r addewid. |
| (Mordecai) Yr unig Dduw. | |
| (Mordecai) Mae'r Proclamasiwn yma'n dileu hynny. | |
| (1, 0) 376 | Ti ddaru fy magu i, Mordecai, ti ddaru fy nysgu i. |
| (1, 0) 377 | Wele, cyfamod tragwyddol a wnaf i â hwynt. |
| (1, 0) 378 | Dyna oedd dy wers di bob Sabath er bod Jerusalem mor bell. |
| (1, 0) 379 | Fedr y Proclamasiwn ddileu hynny? |
| (Mordecai) Pwy all ateb? | |
| (Mordecai) Mae'n amhosib ateb. | |
| (1, 0) 382 | Mae O'n dibynnu arnon |ni|? |
| (Mordecai) Cyfamod ydy' hi. | |
| (Mordecai) Ni sy'n gyfrifol. | |
| (1, 0) 387 | Ti sy'n gyfrifol. |
| (Mordecai) Fi'n gyfrifol? | |
| (Mordecai) Fi'n gyfrifol? | |
| (1, 0) 389 | Dy waith di yw'r Proclamasiwn hwn. |
| (Mordecai) Esther! | |
| (Mordecai) Esther! | |
| (1, 0) 391 | Morynion y palas sy'n deud hynny. |
| (1, 0) 392 | Dyna holl sgwrs y gweision ym mhorth y palas. |
| (Mordecai) Sut hynny? | |
| (Mordecai) Sut hynny? | |
| (1, 0) 394 | Oblegid dy fod ti'n anufuddhau i orchymyn y Brenin. |
| (Mordecai) Mi wela' i. | |
| (Mordecai) Haman? | |
| (1, 0) 397 | Prif weinidog y Brenin. |
| (1, 0) 398 | Mae hi'n orchymyn fod pawb o weision y Brenin i ymgrymu iddo. |
| (1, 0) 399 | Fe fu llawer iawn o siarad ers talwm pam nad oeddit ti ddim yn gwneud. |
| (1, 0) 400 | Dial Haman, mae'r gweision yn deud, ydy'r Proclamasiwn hwn. |
| (Mordecai) Maen' nhw'n iawn. | |
| (Mordecai) Y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt. | |
| (1, 0) 406 | Wyt ti'n dal i ddeud mai trwom ni y mae O'n gweithredu? |
| (Mordecai) Be arall y galla' i ddeud? | |
| (Mordecai) Be arall y galla' i ddeud? | |
| (1, 0) 408 | Os felly, mi fedri di rwystro'r dinistr yma. |
| (Mordecai) Er mwyn hynny yr ydw' i yma. | |
| (Mordecai) Er mwyn hynny yr ydw' i yma. | |
| (1, 0) 410 | Y cwbwl sy raid yw derbyn gorchymyn y Brenin. |
| (Mordecai) Sut? | |
| (Mordecai) Sut? | |
| (1, 0) 412 | Cymodi â Haman. |
| (1, 0) 413 | Dangos ewyllys da tuag ato; ymgrymu iddo a gofyn am drugaredd i'r Iddewon. |
| (Mordecai) {Taran o lais.} | |
| (Mordecai) 'Wyt ti'n wallgo? | |
| (1, 0) 417 | Gwallgo? |
| (1, 0) 418 | Pam? |
| (Mordecai) Wyt ti wedi anghofio'r holl draddodiadau? | |
| (Mordecai) Ymgrymu i Haman yr Agagiad? | |
| (1, 0) 422 | 'Ydy hynny'n ormod i'w ofyn er mwyn achub cenedl Israel? |
| (Mordecai) 'Wyt ti'n meddwl mai o falchter neu o genfigen neu o chwant gogoniant i mi fy hunan y gwnes i hyn, gwrthod anrhydeddu Haman? | |
| (Mordecai) 'Wyt ti'n meddwl mai o falchter neu o genfigen neu o chwant gogoniant i mi fy hunan y gwnes i hyn, gwrthod anrhydeddu Haman? | |
| (1, 0) 424 | Nid fi sy'n dy gyhuddo di. |
| (Mordecai) 'Rydw i'n galw Duw yn dyst y byddwn i'n barod i gusanu ôl ei draed o er mwyn iachawdwriaeth i Israel. | |
| (Mordecai) 'Rydw i'n galw Duw yn dyst y byddwn i'n barod i gusanu ôl ei draed o er mwyn iachawdwriaeth i Israel. | |
| (1, 0) 426 | Mi allai llai na hynny ennill ei gymod o. |
| (Mordecai) Rhyngddo fo a Duw Israel mae cymod yn amhosib. | |
| (Mordecai) Mi wyddost ti hynny. | |
| (1, 0) 436 | Fy enaid sydd ym mysg llewod: dynion poethion sy'n fy llyncu i. |
| (Mordecai) lddewes wyt tithau, fy nghyfnither. | |
| (Mordecai) lddewes wyt tithau, fy nghyfnither. | |
| (1, 0) 438 | Ddaru 'mi 'rioed wadu hynny. |
| (1, 0) 439 | Ti ddaru fy rhoi i yng ngwely'r dienwaediad. |
| (1, 0) 440 | Ti ddaru wahardd imi ddeud wrth neb i ba genedl 'rydw i'n perthyn. |
| (1, 0) 441 | Os ydw' i wedi fy nhorri oddi wrth fy mhobl, os ydw' i wedi f'esgymuno o Seion, ufuddhau i ti a wnes i, am mai ti a'm magodd i, ac mi fûm i fel merch iti. |
| (1, 0) 442 | Fel merch ufudd, Mordecai. |
| (Mordecai) A heddiw 'rwyt ti'n frenhines yn gwisgo coron yr ymerodraeth. | |
| (Mordecai) A heddiw 'rwyt ti'n frenhines yn gwisgo coron yr ymerodraeth. | |
| (1, 0) 444 | 'Does dim coron ar fy mhen i 'rwan. |
| (1, 0) 445 | 'Fydda' i byth yn ei gwisgo hi ond pan ga' i 'ngalw at y Brenin. |
| (Mordecai) 'Ydy dy ddyrchafiad di wedi dy wneud di'n rhy falch i hitio am dynged dy bobl? | |
| (Mordecai) 'Ydy dy ddyrchafiad di wedi dy wneud di'n rhy falch i hitio am dynged dy bobl? | |
| (1, 0) 447 | 'Welaist ti fi'n falch? |
| (1, 0) 448 | 'Welaist ti fi'n ddihitio? |
| (1, 0) 449 | 'Oes angen bod yn greulon? |
| (1, 0) 450 | Petaut ti ond yn gwybod mor unig ydw' i yn y palas yma. |
| (1, 0) 451 | 'Rydw i'n alltud ymhlith alltudion Judah. |
| (Mordecai) 'Wyt ti'n barod i arddel dy genedl yn awr ei chyfyngder? | |
| (Mordecai) 'Wyt ti'n barod i arddel dy genedl yn awr ei chyfyngder? | |
| (1, 0) 453 | Dy bobl di yw fy mhobl i a'th Dduw di fy Nuw innau. |
| (Mordecai) Pwy sy'n gwybod nad ar gyfer y fath amser â hwn y daethost ti i'th frenhiniaeth? | |
| (Mordecai) Pwy sy'n gwybod nad ar gyfer y fath amser â hwn y daethost ti i'th frenhiniaeth? | |
| (1, 0) 455 | Be' fedra'i ei wneud? |
| (Mordecai) Mi gefais i freuddwyd neithiwr. | |
| (Mordecai) Mi gefais i freuddwyd neithiwr. | |
| (1, 0) 457 | Breuddwyd? |
| (1, 0) 458 | A neges ynddi? |
| (1, 0) 459 | O'r gora', dywed dy freuddwyd. |
| (Mordecai) 'Roedd 'na dwrw t'ranau a diwrnod tywyll, niwlog, cystudd ac ing, a thrallod mawr ar y ddaear. | |
| (Mordecai) Dyna fy mreuddwyd i. | |
| (1, 0) 465 | 'Oes gennyt ti ddawn Joseff? |
| (1, 0) 466 | 'Fedri di ddeud ystyr dy freuddwyd? |
| (Mordecai) Y ddwy ddraig ydw' i a Haman. | |
| (Mordecai) Heddiw ydy'r diwrnod tywyll niwlog a'r Proclamasiwn y bore 'ma ydy'r sŵn t'ranau. | |
| (1, 0) 470 | A'r ffynnon fechan a aeth yn afon fawr nes dyfod goleuni a chodiad haul? |
| (Mordecai) Y ffynnon fechan honno wyt ti, Esther. | |
| (Mordecai) Y ffynnon fechan honno wyt ti, Esther. | |
| (1, 0) 472 | Fi? |
| (1, 0) 473 | Fi sy wedi fy nhorri allan o Israel? |
| (1, 0) 474 | Fi sy wedi f'esgymuno yng ngwely'r di-enwaediad? |
| (1, 0) 475 | Sut y gall hynny fyth fod? |
| (Mordecai) Trwy iti fynd i mewn at y Brenin a chyffesu mai Iddewes wyt ti, ac ymbil dros einioes dy bobl. | |
| (1, 0) 479 | Na!... Na! |
| (Mordecai) Esther! | |
| (Mordecai) Esther! | |
| (1, 0) 481 | Na! |
| (Mordecai) Pam na? | |
| (Mordecai) Pam na? | |
| (1, 0) 483 | Mi wyddost y gyfraith. |
| (1, 0) 484 | 'Rwyt ti dy hun yn un o weision y Brenin yn y porth. |
| (Mordecai) Ti yw'r Frenhines. | |
| (Mordecai) Ti yw'r Frenhines. | |
| (1, 0) 486 | Mae'r ddeddf yn bendant: pwy bynnag sy'n mynd i mewn at y Brenin heb ei alw, gŵr neu wraig, brenhines neu arall, fe'i rhoir i farwolaeth. |
| (Mordecai) Dyna lythyren y gyfraith. | |
| (Mordecai) Ac yn y ddeddf ei hunan y mae eithriad. | |
| (1, 0) 489 | Fod y Brenin yn estyn ei deyrn-wialen aur tuag ato mewn maddeuant? |
| (1, 0) 490 | Eithriad yw hi. |
| (1, 0) 491 | 'Does neb yn cofio fod yr eithriad erioed wedi digwydd. |
| (Mordecai) Ond mi all ddigwydd. | |
| (Mordecai) Mae'r gyfraith yn darpar ar gyfer hynny. | |
| (1, 0) 494 | Mi all beidio â digwydd. |
| (Mordecai) Ac y mae arnat ti ofn colli dy goron? | |
| (Mordecai) Ac y mae arnat ti ofn colli dy goron? | |
| (1, 0) 496 | Mae'r goron ohoni ei hun mor ffiaidd gen' i â chadach misglwyf. |
| (Mordecai) 'Rwyt ti'n meddwl y gelli di ddianc rhag angau yn nhŷ'r Brenin. | |
| (Mordecai) Mi fydd calaneddau dy genedl yn syrthio fel tom ar wyneb y tir, a thithau yng ngwely'r ymerawdwr. | |
| (1, 0) 499 | Nid fi a guddiodd mai Iddewes ydw' i. |
| (Mordecai) 'Fedri di ddim dianc. | |
| (Mordecai) Os tewi wnei di a chuddio dy dras 'rwan, fe ddaw ymwared i'r Iddewon o rywle arall, ac fe'th gollir dithau a thŷ dy dad am byth. | |
| (1, 0) 502 | Mordecai, mae arna' i ofn marw fel pawb arall. |
| (1, 0) 503 | Nid mwy na phawb arall. |
| (Mordecai) Mae'r Proclamasiwn yn glir a phendant. | |
| (Mordecai) 'Chaiff neb Iddew ddianc. | |
| (1, 0) 506 | lddew ydw' i. |
| (Mordecai) Felly rhaid iti farw |heb| fynd at y Brenin. | |
| (Mordecai) 'Does gennyt ti ddim i'w golli. | |
| (1, 0) 509 | Mwy, mwy nag a freuddwydiaist ti. |
| (Mordecai) Rhaid iti farw heb fynd ato. | |
| (Mordecai) 'Does gennyt ti ddim i'w golli, ac fe elli ennill dy fywyd dy hun a'r ddaear i bobl Dduw. | |
| (1, 0) 516 | Mordecai, mae 'na bethau nad oes gan neb hawl i'w gofyn gan ferch, hyd yn oed yn enw Duw. |
| (Mordecai) Beth ydyn' nhw? | |
| (Mordecai) Beth ydyn' nhw? | |
| (1, 0) 518 | Wyddost ti fod mis cyfan a rhagor er pan alwodd y Brenin fi ato? |
| (1, 0) 519 | Er pan welais i o? |
| (1, 0) 520 | Deng noson ar hugain. |
| (Mordecai) 'Rwyt ti'n cyfri'r nosweithiau? | |
| (Mordecai) 'Rwyt ti'n cyfri'r nosweithiau? | |
| (1, 0) 522 | Ydw', yn eu cyfri nhw. |
| (1, 0) 523 | Fel unrhyw wraig briod. |
| (Mordecai) Nid unrhyw ŵr priod ydy' yntau. | |
| (Mordecai) Brenin ac ymerawdwr. | |
| (1, 0) 526 | 'Does neb yn ymerawdwr rhwng llieiniau'r gwely. |
| (Mordecai) Mae ganddo lond tŷ o gariadon a gordderchadon. | |
| (Mordecai) Mae ganddo lond tŷ o gariadon a gordderchadon. | |
| (1, 0) 528 | 'Rwyt ti'n siarad fel un o ferched y palas. |
| (1, 0) 529 | Maen' nhw wrth eu bodd yn edliw hynny imi. |
| (Mordecai) Cystal i tithau ddygymod. | |
| (Mordecai) Cystal i tithau ddygymod. | |
| (1, 0) 531 | Ond fi yw ei wraig briod o. |
| (Mordecai) Dyna'r pam y mae siawns iddo estyn y deyrn-wialen tuag atat. | |
| (Mordecai) Dyna'r pam y mae siawns iddo estyn y deyrn-wialen tuag atat. | |
| (1, 0) 533 | A siawns, siawns arswydus, iddo beidio. |
| (Mordecai) 'Rydw i'n cydnabod hynny. | |
| (Mordecai) 'Rydw i'n cydnabod hynny. | |
| (1, 0) 535 | Mae'r gyfraith a'r traddodiad o blaid iddo beidio, yn enwedig ar ôl anufudd-dod Fasti. |
| (Mordecai) 'Dydw i ddim yn gwadu. | |
| (Mordecai) Yr ydyn ni i gyd, bob Iddew byw, dan ddedfryd marwolaeth. | |
| (1, 0) 538 | Nid dyna'r pwynt o gwbwl. |
| (1, 0) 539 | Mi allwn i ddiodde hynny. |
| (Mordecai) Be sy arnat ti ei ofn? | |
| (Mordecai) Beth na fedri di ddim ei ddiodde? | |
| (1, 0) 542 | Oes rhaid deud wrthyt ti? |
| (1, 0) 543 | Petaut ti'n ferch, mi fuasit wedi deall ers talwm. |
| (Mordecai) Nid merch ydw' i. | |
| (Mordecai) Rhaid deud. | |
| (1, 0) 546 | Bod yn fyw hyd yn oed am eiliad ar ôl iddo fo beidio ag estyn y deyrn-wialen tuag ata' i. |
| (Mordecai) 'Fedra'i mo'th ddilyn di. | |
| (Mordecai) 'Fedra'i mo'th ddilyn di. | |
| (1, 0) 548 | Mordecai, nid fy newis i oedd priodi'r Brenin. |
| (1, 0) 549 | Ti ddaru fy nhorri i allan o Israel. |
| (1, 0) 550 | Fe fu misoedd o baratoi, wyt ti'n cofio? |
| (1, 0) 551 | 'Roeddwn i'n dychryn ac yn ffieiddio. |
| (1, 0) 552 | A dyma fy nhro i'n dwad, ac mi es i mewn ato fo. |
| (1, 0) 553 | A'r funud yr edrych'on ni ar ein gilydd, wel, yr oedd popeth yn iawn. |
| (1, 0) 554 | Mi wyddwn i'r funud honno nad mater o un noson fyddai hi. |
| (1, 0) 555 | Y diwrnod wedyn mi roes o ei law imi'n ffurfiol o flaen y llys, fy mhriodi a rhoi'r goron ar fy mhen, ac fe fu gwledd i'r holl deyrnas am wythnosau. |
| (Mordecai) A rwan? | |
| (Mordecai) A rwan? | |
| (1, 0) 557 | Mae mis o nosweithiau er pan welais i o. |
| (1, 0) 558 | 'Ddaeth dim un gair oddi wrtho fo. |
| (1, 0) 559 | Dim neges. |
| (1, 0) 560 | Dim arwydd. |
| (1, 0) 561 | A rhwng ei balas o a'm palas innau 'does ond hanner canllath o lwybr. |
| (Mordecai) 'Wyt ti'n poeni? | |
| (Mordecai) 'Wyt ti'n poeni? | |
| (1, 0) 563 | Lliw nos yn fy ngwely y ceisia' i'r hwn a hoffa fy enaid. |
| (1, 0) 564 | Rydw i'n cerdded y palas, yn cerdded y gerddi, rhwng y rhos lle y cerddais i gynt gydag yntau, 'rydw i'n cadw fy mhen yn uchel ymhlith y merched, ac yn dal fy nhafod pan wela' i nhw'n cilwenu arna' i. |
| (1, 0) 565 | 'Rydw i'n fy ngorfodi fy hun i edrych yn frenhines, ac mae arna' i eisiau beichio crio fel babi ar goll. |
| (Mordecai) Fy merch fach i, beth arall oedd i'w ddisgwyl? | |
| (Mordecai) Fy merch fach i, beth arall oedd i'w ddisgwyl? | |
| (1, 0) 567 | 'Rydw i ar goll, Mordecai, ar goll. |
| (1, 0) 568 | Ar goll o Israel. |
| (1, 0) 569 | Ar goll ym mhalas Persia. |
| (1, 0) 570 | Wyt ti'n gweld? |
| (1, 0) 571 | Mi 'rydw i'n ei garu o. |
| (1, 0) 572 | Nid ei fawredd o, na dim byd sy'n perthyn iddo fo, ond fo'i hunan, y dyn sy'n ŵr priod imi. |
| (Mordecai) Pam felly nad ei di ato? | |
| (Mordecai) Pa raid iti ofni angau ar ei law o? | |
| (1, 0) 575 | Nid ofni angau yr ydw' i. |
| (1, 0) 576 | Ond ofni iddo beidio ag estyn y deyrn-wialen tuag ata' i. |
| (Mordecai) Angau ydy ystyr hynny. | |
| (Mordecai) Angau ydy ystyr hynny. | |
| (1, 0) 578 | Yr ail angau, yn dwad cyn yr angau cynta'. |
| (1, 0) 579 | Angau'r galon, angau enaid, y siom sy'n farwolaeth fyw, y gallai o edrych o'i orsedd arna' i─a pheidio. |
| (Mordecai) Esther druan, peth ynfyd, peth disynnwyr ydy rhoi dy galon i frenin. | |
| (Mordecai) Esther druan, peth ynfyd, peth disynnwyr ydy rhoi dy galon i frenin. | |
| (1, 0) 581 | 'Oes gen' i help? |
| (Mordecai) Pethau sy'n mynd a dwad yw merched yn ei fywyd o, a llond palas o gariadon at ei alw. | |
| (Mordecai) Pethau sy'n mynd a dwad yw merched yn ei fywyd o, a llond palas o gariadon at ei alw. | |
| (1, 0) 583 | Mordecai, paid â bod mor ddwl. |
| (1, 0) 584 | Mi wn i gan gwell na thi am balas y merched. |
| (1, 0) 585 | 'Waeth gen'i flewyn amdanyn' nhw. |
| (1, 0) 586 | Pa ots, pa ots o gwbwl, ond iddyn' nhw fynd a dwad. |
| (1, 0) 587 | 'Rydw i'n aros. |
| (1, 0) 588 | Fi mae o'n caru. |
| (Mordecai) Pam na wnei di wynebu ffeithiau? | |
| (Mordecai) A 'dwyt ti ddim yn ei gredu o. | |
| (1, 0) 592 | Ydw, mi 'rydw i'n ei gredu o. |
| (1, 0) 593 | Mae o'n wir. |
| (1, 0) 594 | Rhaid iddo fod yn wir. |
| (1, 0) 595 | Mac 'mywyd i'n dibynnu ar ei fod o'n wir. |
| (Mordecai) Mae bywyd dy genedl di, mae'r addewid i'r byd, mae gobaith, unig obaith y ddynoliaeth, yn dibynnu ar ei fod o'n wir. | |
| (Mordecai) Rydw i'n dy herio di i brofi ei fod o'n wir. | |
| (1, 0) 598 | Mae o'n fy ngharu i. |
| (1, 0) 599 | 'Does dim modd profi peth fel yna. |
| (1, 0) 600 | Rhywbeth rhyngddo fo a minnau ydy o. |
| (Mordecai) 'Rwyt ti'n deud celwydd wrth dy galon dy hun. | |
| (Mordecai) Cariad neu angau. | |
| (1, 0) 605 | Angau yw'r ddeddf. |
| (Mordecai) A 'dyw cariad ddim dan y ddeddf. | |
| (Mordecai) Mae cariad yn rhydd o'r ddeddf. | |
| (1, 0) 608 | 'Docs gen' i ddim hawl i gamblo ar ei gariad o. |
| (Mordecai) Oes, mae gen' ti hawl, gan dy fod ti'n mentro dy fywyd. | |
| (Mordecai) 'Feiddi di ddim. | |
| (1, 0) 613 | Taw, y blagard gen' ti. |
| (1, 0) 614 | Paid â'th gablu. |
| (1, 0) 615 | Mi af ato. |
| (1, 0) 616 | Mi dafla'i mywyd wrth ei draed o. |
| (1, 0) 617 | Mi ddweda' i wrtho bopeth, fy nheulu, fy nghenedl, a thithau. |
| (1, 0) 618 | Ac os derfydd amdanaf, darfydded! |