a1

Esther (1960)

Saunders Lewis

Ⓗ 1960 Saunders Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1


Porth Llys y Brenin yn Swsan. Y mae'r Palas yn wynebu tua'r dde, ac y mae grisiau marmor yn codi o'r llawr í fyny at y trothwy. Allan o olwg ar y dde y mae tyrfa o negeswyr yn gwrando proclamasiwn. Saif HARBONA a memrwn yn ei law ar ben y grisiau yn darllen y proclamasiwn. Y tu ôl iddo, yn y cysgod ar y chwith, saif HAMAN wrth fwrdd y mae arno gwpanau. Clywir utgyrn yn seinio tra cyfyd y llen:

Negeswyr

Gosteg! Gosteg i neges y Brenin!



Utgorn unigol.

Harbona

(Yn cyhoeddi.) Y Brenin mawr Ahasferus at y Tywysogion, y Rhaglawiaid a'r Llywodraethwyr sy dano ef ar saith ar hugain a chant o daleithiau o'r India hyd at Ethiopia.

Y Dorf

Gosteg!

Harbona

Gan fy mod i, Ahasferus, yn Arglwydd ar genhedloedd lawer ac yn llywodraethu'r holl fyd, mi ewyllysiais lywodraethu'n addfwyn, a gosod fy neiliaid oll mewn bywyd llonydd, a rhoi heddwch hyd eithafoedd yr ymerodraeth.

Y Dorf

Heddwch!

Harbona

Ond mynegodd Haman imi, Haman sydd yn cael yr ail anrhydedd yn y deyrnas, Haman ein prif weinidog a'n prif swyddog ni, sy'n rhagorol mewn doethineb a dianwadal ewyllys da─

Y Dorf

Haman! Haman dda! Haman yr Agagiad!

Harbona

Mynegodd Haman fod cenedl atgas wedi ymgymysgu â holl lwythau'r byd, cenedl sy'n wrthwynebus ei chyfraith i bob cenedl arall, cenedl sy'n torri'n wastad ein gorchymyn brenhinol ni, fel na all undeb ein teyrnasoedd ni ddim sefyll.

Y Dorf

Brad! Brad! Pa genedl? Pa genedl? Brad!

Harbona

Cenedl yr Iddewon.

Y Dorf

Iddewon! Iddewon!... Gosteg!

Harbona

Ninnau'n awr, gan wybod y modd y mae'r genedl hon wedi ymosod i wrthwynebu pob dyn yn wastad, gan ymrafaelio â'r pethau yr ydym ni yn eu gorchymyn, a chan gyflawni pob drygioni a fedront, yr ydym ninnau yn hysbysu ac yn gorchymyn, drwy lythyrau at holl ddugiaid a thywysogion a llywodraethwyr pob talaith o'n hymerodraeth,─ Ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis o'r flwyddyn bresennol hon, fod dinistrio a lladd a difetha drwy gleddyf a thrwy grog holl genedl yr Iddewon, yn hen ac yn ieuanc, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, heb ddim trugaredd na thosturi, fel y byddo i bob enaid o'r Iddewon ddisgyn i uffern, heb adael un o'u hil yn fyw ar y ddaear. Yn enw'r Brenin Ahasferus!

Y Dorf

Angau i'r Iddewon!... Seren Jwda i'r bedd!



Utgorn yn seinio. Clywir y negeswyr yn gwasgaru dan weiddi. Wedyn sŵn chwerthin dwfn HAMAN.

Haman

Bendigedig, Harbona! Campus! Campus! Tyrd yma i gael cwpanaid o win. 'Rwyt ti'n ei haeddu o.

Harbona

Diolch, syr... Hir oes i Haman yr Agagiad!... Ie, gwaith sych yw darllen proclamasiwn.

Haman

Gwaith sych? Roedd o'n tynnu dŵr o'm dannedd i.

Harbona

Dŵr? Tybed? Gwaed, 'ddyliwn i... Proclamasiwn go waedlyd yn fy marn i.... Eich gwaith chi, syr?

Haman

Sêl y Brenin, ond fy ngwaith i.

Harbona

Felly roeddwn i'n meddwl. 'Dydy'n harddull ni'r Persiaid ddim mor apocaluptaidd.

Haman

Beth yw ystyr hynny?

Harbona

"Yn ieuanc a hen, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, fel y byddo i bob enaid o'r Iddewon ddisgyn i uffern!"... (Y mae ef yn chwerthin yn fyr.) Braidd yn Semitig i'm chwaeth i, sy'n ŵr o Bersia, os ca' i ddweud hynny, syr.

Haman

'Rwyt ti'n nes ati nag y gwyddost ti, machgen i. Iddew piau'r geiriau.

Harbona

Iddew?

Haman

Ïe, Iddew. Teigr gwaedlyd o'r enw Samuel. Un o'u proffwydi nhw.

Harbona

Sut y cawsoch chithau afael arnyn' nhw?

Haman

Yn y geiriau yna y gorchmynnodd Samuel ddinistrio fy nghenedl i, ac Agag ei Brenin hi. Fo, â'i law ei hunan, laddodd y brenin Agag yn garcharor heb arfau, yn sefyll yn ddiniwed ger ei fron.

Harbona

Tewch, da chi.

Haman

Felly fe welwch fod gen i reswm dros gofio'r geiriau, dros gofio'r gwaed, dros gofio'r alanas. Ychydig weddill o'm cenedl i ddaru ddianc.

Harbona

Ac yn awr dyma chithau'n talu'r pwyth?

Haman

Fe gaiff pob Iddew byw dalu!

Harbona

Haman yr Agagiad?

Haman

Yr ydw' i o deulu'r brenin Agag.

Harbona

'Welsoch chi'r alanas? 'Oeddech chi yno?

Haman

Na, doeddwn i ddim yno. Ar ryw ystyr.

Harbona

Pa bryd y bu hi─pan laddodd Samuel Agag?

Haman

Pum canrif yn ôl.

Harbona

Beth?

Haman

Pum canrif yn ôl.



Y mae HARBONA yn chwerthin yn hir ac ysgafn wawdlyd.

Harbona

Hawyr bach, syr, 'does neb yn dial cam pum canrif yn ôl. 'Does neb yn cofio pum canrif yn ôl. Pum canrif yn ôl 'doedd ymerodraeth Persia ddim yn bod. Na'r ddinas yma, Susan.

Haman

'Roedd Agag yn bod. 'Roedd Samuel yn bod. Mae'r Iddew'n bod heddiw. 'Rwyf innau'n bod.

Harbona

Ydy'r Iddew yn cofio hynny?

Haman

Pan laddodd Samuel Agag, dial cam pum canrif cyn hynny 'roedd yntau. Ydyn', mae'r Iddewon yn cofio. Pan glywan' nhw f'enw i, Haman yr Agagiad, yn y proclamasiwn, fe gofian'. Fe gofian' wrth ddisgyn i uffern yn genedl grog.

Harbona

All atgo am bum canrif yn ôl fod mor gythreulig fyw?

Haman

Mae'r Iddewon yn fyw. 'Edrychaist ti 'rioed yn eu llygaid nhw?

Harbona

Pobl wedi eu concro ydyn' nhw, pobol alltud yn wylo wrth afonydd Babilon. Pan fydd swyddog o Bersiad yn eu pasio nhw ar yr heol, 'chodan' nhw mo'u llygaid.

Haman

Mae un ohonyn' nhw yma yn Susan, yn eistedd bob dydd ym mhorth palas y Brenin yma. 'Rwy'n edrych ym myw ei lygaid o, ac yn gweld y blewgi Samuel, a'r ewyn a'r llau ar ei farf, yn darnio Agag yn Gilgal.

Harbona

Haman, Haman, cymerwch bwyll, syr. 'Does gen' i ddim yn erbyn crogi Iddewon, ond chi yw prif weinidog yr Ymerodraeth; mae modrwy'r Brenin ar eich bys chi, a'ch urddas yn ail i urddas Ahasferus ei hunan. All trempyn o Iddew ym mhorth y palas ddim codi'ch gwrychyn chi?

Haman

Mae holl weision y Brenin sydd ym mhorth y palas yn codi ac ymgrymu pan af i heibio, ond mae'r Iddew hwn yn eistedd ar ei stôl, heb gymaint â gostwng ei lygaid, a'i wep yn fy herio i.

Harbona

Gorchymyn y Brenin yw bod pawb yn ymostwng i chi. Sut mae o'n meiddio?



Yn y cefn gwelir MORDECAI yn esgyn y grisiau tua'r chwith. Mae ef a sach amdano a lludw ar ei dalcen. Saif ar y grisiau ac edrych ar HAMAN.

Haman

Dyna fo, Harbona, ar y gair. 'Wyt ti'n ei weld o?... Hwnna!... Hwnna!



(Mae MORDECAI'n mynd o'r golwg.

Harbona

Mordecai!

Haman

'Wyt ti'n ei nabod o?

Harbona

Mae pawb yn y llys yn ei nabod o. Mordecai achubodd fywyd y Brenin.

Haman

'Wyt ti'n credu'r chwedl honno?

Harbona

Chwedl?

Haman

Dau was ystafell hanner pan.

Harbona

Fe gyffesodd y ddau eu bod nhw ar fedr llindagu'r Brenin. Mordecai ddatguddiodd y brad.

Haman

Dan artaith y cyffesodd y ddau.

Harbona

Wedyn fe'u crogwyd yn sydyn, heb artaith ychwaneg.

Haman

'Ellid dim arall a hwythau wedi cyffesu.

Harbona

Cyn iddyn' nhw enwi neb arall.

Haman

Doedd neb y tu cefn iddyn' nhw.

Harbona

Da iawn. Chi oedd y barnwr yn yr achos.

Haman

Wrth gwrs. 'Roedd yr achos yn glir.

Harbona

Wedyn, aethoch chithau'n brif weinidog.

Haman

Ie, wedyn, yn swyddogol. Ond fe drefnwyd hynny ers talwm.

Harbona

Wyddech chi, syr, fod rhai yn y llys yn disgwyl mai gwobr Mordecai fyddai hynny?

Haman

Mordecai'n brif weinidog? Y mochyn yna ar y grisiau?

Harbona

Ond chi a ddewiswyd.

Haman

'Rwyf i o waed brenhinoedd.

Harbona

Gadawyd Mordecai yn y porth.

Haman

Iddew ym mhorth y Palas. Mae'r peth yn warth.

Harbona

A chyfrinach y ddau was ganddo.

Haman

'Doedd dim cyfrinach. 'Does arna'i ddim o'i ofn o.

Harbona

Mae o wedi ei adael a'i anghofio bellach.

Haman

'Anghofiais i mono fo. Rydyn ni'n cofio'n gilydd, Mordecai a minnau. Mae o'n fy herio i'n fud ym mhorth y palas bob dydd.

Harbona

Dirmygu dewis y Brenin. Sarhad ar y Brenin yw hynny. Pam na chosbwch chi o?

Haman

Dyna yw'r proclamasiwn a ddarllenaist ti'n awr. Fy nghosb i ar Mordecai. Fe gaiff grogi gydag Israel gyfan. Fo a'i deulu, os oes ganddo fo deulu, a holl genedl yr Iddewon, fe gân' dalu imi bris ei ddirmyg.

Harbona

(Dan chwerthin yn ysgafn ddihitio.) Go dda, syr. 'Rwy'n deall dial fel yna. Ond pan soniwch chi am ddial cam Agag bum canrif yn ôl, 'fedra' i ddeall dim ar hynny.

Haman

'Glywaist ti am ddewines Endor?

Harbona

Naddo fi. Rhyw wrach, ai e?

Haman

Fe alwodd hi Samuel o uffern i ddarogan angau Saul. Mi alwaf innau Samuel ac mi alwaf Agag at drothwy Gehenna i groesawu holl genedl Moses.

Harbona

Dyna yw bod yn Brif Weinidog?

Haman

Yr ias o ystyried fod yn fy mhwer i ddinistrio cenedl gyfan, cenedl sy'n honni fod iddi addewid am gyfamod tragwyddol!

Harbona

Rydych chi'n dysgu imi ystyr gwleidyddiaeth.

Haman

'Fuost ti'n cenfigennu erioed wrth Ahasferus y Brenin, Harbona?

Harbona

Cwestiwn peryglus, syr.

Haman

Twt,twt, fachgen, fe all dau o swyddogion y palas siarad yn rhydd ac yn ffrindiau.

Harbona

O'r gorau. Do, mi fûm i'n cenfigennu wrtho.

Haman

Pam?

Harbona

Mae o'n ddeg ar hugain, a dydy'r frenhines Esther ddim eto'n ugain oed.

Haman

(Dan chwerthin.) Chwarae teg iti, fachgen, chwarae teg iti.

Harbona

Mae hi'n Ymerodres y deyrnas, a 'does neb yn gwybod o ble y daeth hi.

Haman

'Ystyriais i ddim. Ar ôl gyrru Fasti o'r palas fe gasglwyd y llancesi glana o bob rhan o'r ymerodraeth i'r Brenin i gael dewis ei gariad. A'r llances yma enillodd.

Harbona

Ydy'r Brenin yn ei hoffi hi?

Haman

Beth wn i? Mae ganddo gariadon eraill. 'Dydw i ddim yn credu ei fod o wedi ei gweld hi ers mis.

Harbona

Mae hi'n eistedd ar ei gorsedd fel petai hi wedi ei geni yno. Wyddoch chi rywbeth am ei theulu hi, ei thras hi?

Haman

Mae Brenin Persia a Media yn rhy gall. 'Does ganddo fyth berthnasau yng nghyfraith.

Harbona

'Wyr neb i ble'r aeth Fasti. 'Wyr neb o ble daeth Esther.

Haman

'Welaist ti Fasti?

Harbona

Mae Esther yn harddach.

Haman

Dyna dy farn di? Edrychais i 'rioed arni lawer.

Harbona

Druan ohonoch chi, syr. Does dim arall yn Susan sy'n werth edrych arno wrthi hi.

Haman

'Rwyt ti'n edrych yn uchel?

Harbona

'Rydw i'n gweini arni ryw dipyn bron bob dydd, ond 'dydy hi ddim wedi 'ngweld i eto. Pwy ŵyr? Ychydig newyn a blino?

Haman

Ydy hi'n ffroen-uchel fel Fasti?

Harbona

Mae hi'n addfwyn ac araf, ond er hynny, mi fydda' i'n meddwl fod teigres yn cysgu dan ei hamrannau hi.

Haman

I mi pethau i'w defnyddio yw merched. 'Fedrwn ni ddim cael meibion hebddyn' nhw. Am wn i ei bod hi'n ffordd reit hwylus.

Harbona

'Wyddoch chi ddim oll am bleser, felly?

Haman

Mae gen'i ddeg o feibion, saith ohonyn' nhw'n swyddogion yn y palas neu yn y fyddin. Mae hynny'n bleser, pleser dwfn. Mi ddois i Bersia yn estron, yn filwr heb neb yn fy 'nabod i. Heddiw, fi yw prif weinidog yr ymerodraeth. Mi fydd fy meibion i ar fy ôl i'n dywysogion. Cenedl Agag. 'Rydw i wedi herio tynged. Mae pob grym yn bleser.

Harbona

Rydych chi'n iawn; syr. Does gennych chi ddim achos i genfigennu wrth neb.

Haman

Mi wn i'n well na thi beth ydy' cenfigen.

Harbona

'Rych chithau'n cenfigennu wrth y Brenin?

Haman

Cenfigennu wrth Ahasferus?

Harbona

Wrth ei rwysg o, ie? Wrth ei fawredd o, ei awdurdod o?

Haman

Dim oll. Dim iot. 'Dydw' i'n hitio fawr ddim am rwysg ynddo'i hun. Ac am awdurdod Ahasferus, fi piau'i awdurdod o. Rydw i'n ei ddefnyddio fo fel y mynna' i erbyn hyn.

Harbona

Popeth yn dda ond iddo fo beidio ag amau hynny.

Haman

'Does fawr o berig'. Mae ei feddwl o, fel dy feddwl dithau, ar Esther neu ryw gariad arall.

Harbona

Peidiwch â deffro'r teigr yn Esther.

Haman

Swydd Esther fydd cadw'r Brenin rhag gweld.

Harbona

Mi rown i dipyn am iddi hi ddechrau 'ngweld i.

Haman

Rhaid bod yn ifanc i genfigennu wrth y Brenin.

Harbona

Neu ynteu'n ddigon hen i ddefnyddio Bigthana a Theres.

Haman

Be wyt ti'n ei awgrymu?

Harbona

Cellwair, syr, dim ond cellwair. Mae clepian y palas yn ddigon diniwed.

Haman

Cenfigen yw clep y palas.

Harbona

Wrth bwy'r ydych chi'n cenfigennu?

Haman

'Rwyt ti'n rhy ifanc i ddeall.

Harbona

Rhowch braw arna' i.

Haman

Wrth y Duwiau, Harbona. Wrth y Duw sy'n rheoli angau.

Harbona

Wel, na. 'Dydw'i ddim yn deall.

Haman

Dyna yw gwleidyddiaeth, Harbona, dyn yn ysu am fod yn Dduw. Angau ydy allwedd y gyfrinach. Medru defnyddio angau, gorchymyn angau, gwneud angau'n ufudd, yn offeryn yn y llaw, dyna wynfyd y gwleidydd. 'Rydw i heddiw yn Dduw i holl genedl yr Iddewon. Rydw i'n cyhoeddi drwy'r Proclamasiwn hwn farwolaeth y genedl gyfan, ac fe ddaw hynny'n drefnus i ben. Dyna sy'n meddwi dyn mewn gwleidyddiaeth. Mi fedra' i ddychmygu y daw dydd rywbryd y gall rhyw un dyn, prif weinidog neu gadfridog, gymryd pelen o dân yn ei ddwylo ac yna, o'i thaflu hi, ddifa'r ddynoliaeth i gyd, rhoi'r byd ar dân. Pan ddaw hynny, Harbona, dyna ddiwedd y byd. Oblegid 'fedrai neb dyn wrthod y demtasiwn. 'Fedrai neb, a thynged pawb byw yn ei law ac yn ei ewyllys, wrthod y profiad, y profiad o fod yn Dduw. Dyna bêr-lesmair gwleidyddiaeth. 'Rydw i heddiw yn Dduw i Mordecai, i holl genedl Mordecai, i Moses a Samuel a'u hil. Mae'r gorchymyn wedi mynd allan i gyrrau eithaf yr Ymerodraeth. Mae gobaith Abraham wedi diffodd. Mae'r cyfamod tragwyddol wedi ei ddileu. Mae'r Iddewon yn mynd gyda'i gilydd i wersyll-garchar y nos dragwyddol, y nos a benodais i iddyn nhw. Heddiw mae hanes Israel yn cau, trwy benderfyniad a gorchymyn un dyn, fi, Haman yr Agagiad, yr artist mewn gwleidyddiaeth.

Harbona

Ie, ias go iawn. Mi fedra'i ddeall. Ac eto i gyd, y mae'r olwg ar Mordecai ar risiau'r palas, a sach am ei ganol, yn eich cynhyrfu chi.

Haman

'Dydw i ddim wedi drysu. Mi dd'wedais mai cenfigennu wrth Dduw yr oeddwn i. Nid fy mod i wedi cyrraedd.

Harbona

Mae Mordecai wedi mynd yn dipyn o hunllef arnoch chi, syr?

Haman

Mi dd'wedais, 'rydw i'n gweld Samuel yn ei lygaid o.

Harbona

Mae eto dipyn o amser cyn diwrnod y lladd mawr?

Haman

Y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis.

Harbona

Gymerwch chi gyngor gan ŵr ifanc?

Haman

Mi wrandawaf yn astud a phwyso.

Harbona

'Does dim y mae'r Brenin yn debyg o'i wrthod i chi ynglŷn â'r Iddewon.

Haman

Hyd y galla' i farnu, dim oll.

Harbona

Pa angen aros mor hir mewn mater o frys?

Haman

Cyn crogi'r Iddewon?

Harbona

Nage. 'Rydw i'n deall hynny. Mater o drefniadaeth... Ond crogi un arweinydd? Crogi'ch gelyn arbennig, ysbïwr Bigthana a Theres?

Haman

Crogi Mordecai?

Harbona

Mi ellid, 'wyddoch chi, ei grogi o heddiw.

Haman

Sut mae perswadio'r Brenin? Mae o'n rhoi cryn bris ar gyfraith, ond mewn achosion go eithriadol.

Harbona

Dangoswch y perigl o oedi gormod, perigl rhoi amser i drefnu gwrthryfel.

Haman

Harbona, mae gen'ti 'fennydd gwleidydd.

Harbona

Ewch adre rwan a chael seiri i godi'r crocbren dan ffenest eich tŷ.

Haman

Wedyn at y Brenin i'w berswadio am y perigl i'w orsedd.

Harbona

Mi gysgwch yn dawel heno a Mordecai'n troi ar y rhaff nepell o droed eich gwely.

Haman

A'r brain a'r eryrod yn pigo'r esgyrn.... Dyro dy law imi, fachgen, mi ofala' i am dy yrfa di. Mi af am y seiri rhag blaen.

Harbona

Wedyn at y Brenin. Mi fydda' i yno'n gweini.



HAMAN yn troi i fynd a dyfod wyneb yn wyneb â MORDECAI; poeri tuag ato a mynd.

Mordecai

Harbona!

Harbona

Wel, wel! Mordecai! Dyna ryfedd, amdanat ti 'roedden ni'n sgwrsio.

Mordecai

'Synnwn i fawr.

Harbona

'Glywaist ti? Mae sôn fod y Brenin yn paratoi codiad arbennig iti heddiw. Mae'r gweinidog yn selog dros y codiad hefyd.

Mordecai

Rhaid imi ofyn cymwynas gennyt ti, Harbona.

Harbona

Un arall eto! Rydw i newydd ddarllen y Proclamasiwn.

Mordecai

Awgrymu 'rwyt ti mai fi yw achos y Proclamasiwn? Ie, mi all hynny fod.

Harbona

Pa gymwynas arall a fedra' i?

Mordecai

Dos at y Frenhines Esther, dywed wrthi fy mod i yma wrth y porth ac yn gofyn am gael gair gyda hi.

Harbona

Y Frenhines?

Mordecai

Ie.

Harbona

Wyt ti wedi dy weld dy hun, ddyn? Y baw ar dy dalcen? Y sach yna amdanat ti?

Mordecai

Sachliain a lludw. Arwyddion ymostyngiad a gweddi fy mhobol i. Rhaid imi gael gair gyda'r Frenhines.

Harbona

'Fedra i ddim gofyn i'r Frenhines ddod atat ti fel yna.

Mordecai

Mi fyddi di'n digio'r Frenhines os gwrthodi.

Harbona

'Does neb heb achos mawr yn gweld y Frenhines.

Mordecai

Y tro dwaetha, trwy ddeud wrth y Frenhines yr achubais i fywyd y Brenin.

Harbona

Ydy'r Brenin mewn perigl eto?

Mordecai

Mae'r Frenhines mewn perigl.

Harbona

Y Frenhines mewn perigl? 'Wyt ti'n siŵr?

Mordecai

Mor siŵr â phan grogwyd Bigthana a Theres am fwriadu llofruddio'r Brenin.

Harbona

Y Frenhines mewn perigl!



Daw ESTHER mewn gwisg laes o ddu a phorffor o'r chwith i ben y grisiau y tu ôl i HARBONA.

Esther

Be' sy'n bod, Harbona?



Y mae HARBONA yn gostwng ar ei lin.

Harbona

Mordecai'r Iddew sy'n gofyn am weld fy Arglwyddes.

Esther

Mordecai'r Iddew?

Harbona

(Gan godi.) Dyma fo, Arglwyddes.



Mae ESTHER a MORDECAU'n edrych ar ei gilydd.

Esther

Beth ydy' ystyr hyn?

Mordecai

O na bai fy mhen i'n ddyfroedd, a'm llygaid yn ffynnon o ddagrau.

Esther

Harbona, 'rydw i'n dymuno ymddiddan gyda'r Iddew hwn heb i neb ddyfod ar fy nhraws i.

Harbona

Mi drefna'i, Arglwyddes, na ddaw neb oll ar eich cyfyl chi.



Exit HARBONA.

Mordecai

'Glywaist ti'r Proclamasiwn?

Esther

'Rydw' i wedi ei ddarllen o.

Mordecai

Dy genedl di, Esther.

Esther

Fy nghenedl i. Fy nheulu i. Mae'n dda gen' i dy fod ti'n cydnabod hynny.

Mordecai

'Wyt ti'n deall be' mae'r Proclamasiwn yn ei i olygu?

Esther

Angau'n dringo i'n ffenestri ni i ddinistrio'r rhai bychain? Ydw', 'rydw' i'n deall.

Mordecai

Mae hynny'n digwydd o hyd, ym mhob rhan o'r byd. Lle bynnag y mae dynion, fe geir lladd plant bach a babanod. Mae hwn heddiw yn wahanol iawn.

Esther

Ein cenedl ni? Dyna wyt ti'n ei feddwl?

Mordecai

Nage. Pa ots am hynny? Ond cenedl Duw, Esther, cenedl Duw.

Esther

Duw Abraham, Duw Isaac, Duw Jacob. Duw'r addewid.

Mordecai

Yr unig Dduw. Y Duw byw. Duw Israel. Ni yw ei dystion o. Yr unig dystion sy ganddo drwy'r byd. Dyna'n swydd ni, dyna'n gorchwyl ni ar y ddaear,─deud ei fod o'n bod. Mae'r Proclamasiwn yma'n dileu hynny.

Esther

Ti ddaru fy magu i, Mordecai, ti ddaru fy nysgu i. Wele, cyfamod tragwyddol a wnaf i â hwynt. Dyna oedd dy wers di bob Sabath er bod Jerusalem mor bell. Fedr y Proclamasiwn ddileu hynny?

Mordecai

Pwy all ateb? Mae'n amhosib ateb.

Esther

Mae O'n dibynnu arnon ni?

Mordecai

Cyfamod ydy' hi. Trwom ni mae O'n gweithredu. Ein tasg ni yw atal y perig. Ni sy'n gyfrifol.

Esther

Ti sy'n gyfrifol.

Mordecai

Fi'n gyfrifol?

Esther

Dy waith di yw'r Proclamasiwn hwn.

Mordecai

Esther!

Esther

Morynion y palas sy'n deud hynny. Dyna holl sgwrs y gweision ym mhorth y palas.

Mordecai

Sut hynny?

Esther

Oblegid dy fod ti'n anufuddhau i orchymyn y Brenin.

Mordecai

Mi wela' i. Haman?

Esther

Prif weinidog y Brenin. Mae hi'n orchymyn fod pawb o weision y Brenin i ymgrymu iddo. Fe fu llawer iawn o siarad ers talwm pam nad oeddit ti ddim yn gwneud. Dial Haman, mae'r gweision yn deud, ydy'r Proclamasiwn hwn.

Mordecai

Maen' nhw'n iawn. Dial Haman ydy' hwn. Hen, hen gas. Hen, hen ddial. Y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt.

Esther

Wyt ti'n dal i ddeud mai trwom ni y mae O'n gweithredu?

Mordecai

Be arall y galla' i ddeud?

Esther

Os felly, mi fedri di rwystro'r dinistr yma.

Mordecai

Er mwyn hynny yr ydw' i yma.

Esther

Y cwbwl sy raid yw derbyn gorchymyn y Brenin.

Mordecai

Sut?

Esther

Cymodi â Haman. Dangos ewyllys da tuag ato; ymgrymu iddo a gofyn am drugaredd i'r Iddewon.

Mordecai

(Taran o lais.) Esther! 'Wyt ti'n wallgo?

Esther

Gwallgo? Pam?

Mordecai

Wyt ti wedi anghofio'r holl draddodiadau? Popeth a ddysgais i iti? Ymgrymu i Haman yr Agagiad?

Esther

'Ydy hynny'n ormod i'w ofyn er mwyn achub cenedl Israel?

Mordecai

'Wyt ti'n meddwl mai o falchter neu o genfigen neu o chwant gogoniant i mi fy hunan y gwnes i hyn, gwrthod anrhydeddu Haman?

Esther

Nid fi sy'n dy gyhuddo di.

Mordecai

'Rydw i'n galw Duw yn dyst y byddwn i'n barod i gusanu ôl ei draed o er mwyn iachawdwriaeth i Israel.

Esther

Mi allai llai na hynny ennill ei gymod o.

Mordecai

Rhyngddo fo a Duw Israel mae cymod yn amhosib. Rhyngddo fo a minnau mae cymod yn amhosib. Y Duw byw ydy' ei elyn o. Disodli Duw ydy' ergyd y Proclamasiwn yma. Tewi'r dystiolaeth. Dial a dileu cosb Duw ar Agag. Dyna'r pam na fedra' i fyth ymgrymu iddo. Mi fyddai ymgrymu iddo'n frad. Mi wyddost ti hynny.

Esther

Fy enaid sydd ym mysg llewod: dynion poethion sy'n fy llyncu i.

Mordecai

lddewes wyt tithau, fy nghyfnither.

Esther

Ddaru 'mi 'rioed wadu hynny. Ti ddaru fy rhoi i yng ngwely'r dienwaediad. Ti ddaru wahardd imi ddeud wrth neb i ba genedl 'rydw i'n perthyn. Os ydw' i wedi fy nhorri oddi wrth fy mhobl, os ydw' i wedi f'esgymuno o Seion, ufuddhau i ti a wnes i, am mai ti a'm magodd i, ac mi fûm i fel merch iti. Fel merch ufudd, Mordecai.

Mordecai

A heddiw 'rwyt ti'n frenhines yn gwisgo coron yr ymerodraeth.

Esther

'Does dim coron ar fy mhen i 'rwan. 'Fydda' i byth yn ei gwisgo hi ond pan ga' i 'ngalw at y Brenin.

Mordecai

'Ydy dy ddyrchafiad di wedi dy wneud di'n rhy falch i hitio am dynged dy bobl?

Esther

'Welaist ti fi'n falch? 'Welaist ti fi'n ddihitio? 'Oes angen bod yn greulon? Petaut ti ond yn gwybod mor unig ydw' i yn y palas yma. 'Rydw i'n alltud ymhlith alltudion Judah.

Mordecai

'Wyt ti'n barod i arddel dy genedl yn awr ei chyfyngder?

Esther

Dy bobl di yw fy mhobl i a'th Dduw di fy Nuw innau.

Mordecai

Pwy sy'n gwybod nad ar gyfer y fath amser â hwn y daethost ti i'th frenhiniaeth?

Esther

Be' fedra'i ei wneud?

Mordecai

Mi gefais i freuddwyd neithiwr.

Esther

Breuddwyd? A neges ynddi? O'r gora', dywed dy freuddwyd.

Mordecai

'Roedd 'na dwrw t'ranau a diwrnod tywyll, niwlog, cystudd ac ing, a thrallod mawr ar y ddaear. A dyma ddwy ddraig yn dyfod allan i ymladd ac yn gwneud sŵn i ddychryn y byd. Ac wrth y sŵn dacw'r holl genhedloedd yn paratoi i ymladd yn erbyn y genedl santaidd i'w difetha hi. Gwaeddodd hithau ar ei Duw, ac ar hynny mi darddodd ffynnon fechan, ac o'r ffynnon fe ddaeth afon fawr a goleuni a chodiad haul, a'r rhai isel yn cael eu dyrchafu ac yn difa'r rhai mawrion trahaus. Dyna fy mreuddwyd i.

Esther

'Oes gennyt ti ddawn Joseff? 'Fedri di ddeud ystyr dy freuddwyd?

Mordecai

Y ddwy ddraig ydw' i a Haman. Y cenhedloedd ydy'r rheini ym mhob cwr o'r ymerodraeth sy'n paratoi 'rwan i ddifetha cenedl Duw. Heddiw ydy'r diwrnod tywyll niwlog a'r Proclamasiwn y bore 'ma ydy'r sŵn t'ranau.

Esther

A'r ffynnon fechan a aeth yn afon fawr nes dyfod goleuni a chodiad haul?

Mordecai

Y ffynnon fechan honno wyt ti, Esther.

Esther

Fi? Fi sy wedi fy nhorri allan o Israel? Fi sy wedi f'esgymuno yng ngwely'r di-enwaediad? Sut y gall hynny fyth fod?

Mordecai

Trwy iti fynd i mewn at y Brenin a chyffesu mai Iddewes wyt ti, ac ymbil dros einioes dy bobl. Ti'n unig 'fedr ein hachub ni.

Esther

(Yn bendant.) Na!... Na!

Mordecai

Esther!

Esther

Na!

Mordecai

Pam na?

Esther

Mi wyddost y gyfraith. 'Rwyt ti dy hun yn un o weision y Brenin yn y porth.

Mordecai

Ti yw'r Frenhines.

Esther

Mae'r ddeddf yn bendant: pwy bynnag sy'n mynd i mewn at y Brenin heb ei alw, gŵr neu wraig, brenhines neu arall, fe'i rhoir i farwolaeth.

Mordecai

Dyna lythyren y gyfraith. Ac yn y ddeddf ei hunan y mae eithriad.

Esther

Fod y Brenin yn estyn ei deyrn-wialen aur tuag ato mewn maddeuant? Eithriad yw hi. 'Does neb yn cofio fod yr eithriad erioed wedi digwydd.

Mordecai

Ond mi all ddigwydd. Mae'r gyfraith yn darpar ar gyfer hynny.

Esther

Mi all beidio â digwydd.

Mordecai

Ac y mae arnat ti ofn colli dy goron?

Esther

Mae'r goron ohoni ei hun mor ffiaidd gen' i â chadach misglwyf.

Mordecai

'Rwyt ti'n meddwl y gelli di ddianc rhag angau yn nhŷ'r Brenin. Mi fydd calaneddau dy genedl yn syrthio fel tom ar wyneb y tir, a thithau yng ngwely'r ymerawdwr.

Esther

Nid fi a guddiodd mai Iddewes ydw' i.

Mordecai

'Fedri di ddim dianc. Os tewi wnei di a chuddio dy dras 'rwan, fe ddaw ymwared i'r Iddewon o rywle arall, ac fe'th gollir dithau a thŷ dy dad am byth.

Esther

Mordecai, mae arna' i ofn marw fel pawb arall. Nid mwy na phawb arall.

Mordecai

Mae'r Proclamasiwn yn glir a phendant. 'Chaiff neb Iddew ddianc.

Esther

lddew ydw' i.

Mordecai

Felly rhaid iti farw heb fynd at y Brenin. 'Does gennyt ti ddim i'w golli.

Esther

Mwy, mwy nag a freuddwydiaist ti.

Mordecai

Rhaid iti farw heb fynd ato. O fentro a mynd ato, y mae siawns, siawns, iti achub dy fywyd dy hun ac einioes dy genedl. Hynny yw, y mae siawns iti achub popeth. 'Fedri di ddim colli ond yr hyn sy eisoes wedi ei golli. 'Wyt ti ddim yn gweld? 'Does gennyt ti ddim i'w golli, ac fe elli ennill dy fywyd dy hun a'r ddaear i bobl Dduw.

Esther

Mordecai, mae 'na bethau nad oes gan neb hawl i'w gofyn gan ferch, hyd yn oed yn enw Duw.

Mordecai

Beth ydyn' nhw?

Esther

Wyddost ti fod mis cyfan a rhagor er pan alwodd y Brenin fi ato? Er pan welais i o? Deng noson ar hugain.

Mordecai

'Rwyt ti'n cyfri'r nosweithiau?

Esther

Ydw', yn eu cyfri nhw. Fel unrhyw wraig briod.

Mordecai

Nid unrhyw ŵr priod ydy' yntau. Brenin ac ymerawdwr.

Esther

'Does neb yn ymerawdwr rhwng llieiniau'r gwely.

Mordecai

Mae ganddo lond tŷ o gariadon a gordderchadon.

Esther

'Rwyt ti'n siarad fel un o ferched y palas. Maen' nhw wrth eu bodd yn edliw hynny imi.

Mordecai

Cystal i tithau ddygymod.

Esther

Ond fi yw ei wraig briod o.

Mordecai

Dyna'r pam y mae siawns iddo estyn y deyrn-wialen tuag atat.

Esther

A siawns, siawns arswydus, iddo beidio.

Mordecai

'Rydw i'n cydnabod hynny.

Esther

Mae'r gyfraith a'r traddodiad o blaid iddo beidio, yn enwedig ar ôl anufudd-dod Fasti.

Mordecai

'Dydw i ddim yn gwadu. Yr ydyn ni i gyd, bob Iddew byw, dan ddedfryd marwolaeth.

Esther

Nid dyna'r pwynt o gwbwl. Mi allwn i ddiodde hynny.

Mordecai

Be sy arnat ti ei ofn? Beth na fedri di ddim ei ddiodde?

Esther

Oes rhaid deud wrthyt ti? Petaut ti'n ferch, mi fuasit wedi deall ers talwm.

Mordecai

Nid merch ydw' i. Rhaid deud.

Esther

Bod yn fyw hyd yn oed am eiliad ar ôl iddo fo beidio ag estyn y deyrn-wialen tuag ata' i.

Mordecai

'Fedra'i mo'th ddilyn di.

Esther

Mordecai, nid fy newis i oedd priodi'r Brenin. Ti ddaru fy nhorri i allan o Israel. Fe fu misoedd o baratoi, wyt ti'n cofio? 'Roeddwn i'n dychryn ac yn ffieiddio. A dyma fy nhro i'n dwad, ac mi es i mewn ato fo. A'r funud yr edrych'on ni ar ein gilydd, wel, yr oedd popeth yn iawn. Mi wyddwn i'r funud honno nad mater o un noson fyddai hi. Y diwrnod wedyn mi roes o ei law imi'n ffurfiol o flaen y llys, fy mhriodi a rhoi'r goron ar fy mhen, ac fe fu gwledd i'r holl deyrnas am wythnosau.

Mordecai

A rwan?

Esther

Mae mis o nosweithiau er pan welais i o. 'Ddaeth dim un gair oddi wrtho fo. Dim neges. Dim arwydd. A rhwng ei balas o a'm palas innau 'does ond hanner canllath o lwybr.

Mordecai

'Wyt ti'n poeni?

Esther

Lliw nos yn fy ngwely y ceisia' i'r hwn a hoffa fy enaid. Rydw i'n cerdded y palas, yn cerdded y gerddi, rhwng y rhos lle y cerddais i gynt gydag yntau, 'rydw i'n cadw fy mhen yn uchel ymhlith y merched, ac yn dal fy nhafod pan wela' i nhw'n cilwenu arna' i. 'Rydw i'n fy ngorfodi fy hun i edrych yn frenhines, ac mae arna' i eisiau beichio crio fel babi ar goll.

Mordecai

Fy merch fach i, beth arall oedd i'w ddisgwyl?

Esther

'Rydw i ar goll, Mordecai, ar goll. Ar goll o Israel. Ar goll ym mhalas Persia. Wyt ti'n gweld? Mi 'rydw i'n ei garu o. Nid ei fawredd o, na dim byd sy'n perthyn iddo fo, ond fo'i hunan, y dyn sy'n ŵr priod imi.

Mordecai

Pam felly nad ei di ato? Pa raid iti ofni angau ar ei law o?

Esther

Nid ofni angau yr ydw' i. Ond ofni iddo beidio ag estyn y deyrn-wialen tuag ata' i.

Mordecai

Angau ydy ystyr hynny.

Esther

Yr ail angau, yn dwad cyn yr angau cynta'. Angau'r galon, angau enaid, y siom sy'n farwolaeth fyw, y gallai o edrych o'i orsedd arna' i─a pheidio.

Mordecai

Esther druan, peth ynfyd, peth disynnwyr ydy rhoi dy galon i frenin.

Esther

'Oes gen' i help?

Mordecai

Pethau sy'n mynd a dwad yw merched yn ei fywyd o, a llond palas o gariadon at ei alw.

Esther

Mordecai, paid â bod mor ddwl. Mi wn i gan gwell na thi am balas y merched. 'Waeth gen'i flewyn amdanyn' nhw. Pa ots, pa ots o gwbwl, ond iddyn' nhw fynd a dwad. 'Rydw i'n aros. Fi mae o'n caru.

Mordecai

Pam na wnei di wynebu ffeithiau? 'Rwyt ti'n deud hynny er mwyn dy gysuro dy hun ac er mwyn dy argyhoeddi dy hun. A 'dwyt ti ddim yn ei gredu o.

Esther

Ydw, mi 'rydw i'n ei gredu o. Mae o'n wir. Rhaid iddo fod yn wir. Mac 'mywyd i'n dibynnu ar ei fod o'n wir.

Mordecai

Mae bywyd dy genedl di, mae'r addewid i'r byd, mae gobaith, unig obaith y ddynoliaeth, yn dibynnu ar ei fod o'n wir. Rydw i'n dy herio di i brofi ei fod o'n wir.

Esther

Mae o'n fy ngharu i. 'Does dim modd profi peth fel yna. Rhywbeth rhyngddo fo a minnau ydy o.

Mordecai

'Rwyt ti'n deud celwydd wrth dy galon dy hun. Y mae prawf. Mi wyddost tithau fod prawf. Cariad neu angau.

Esther

Angau yw'r ddeddf.

Mordecai

A 'dyw cariad ddim dan y ddeddf. Mae cariad yn rhydd o'r ddeddf.

Esther

'Docs gen' i ddim hawl i gamblo ar ei gariad o.

Mordecai

Oes, mae gen' ti hawl, gan dy fod ti'n mentro dy fywyd. Ond 'does gen' ti mo'r ffydd. 'Dwyt ti ddim yn credu yn ei gariad o. 'Feiddi di ddim.

Esther

Taw, y blagard gen' ti. Paid â'th gablu. Mi af ato. Mi dafla'i mywyd wrth ei draed o. Mi ddweda' i wrtho bopeth, fy nheulu, fy nghenedl, a thithau. Ac os derfydd amdanaf, darfydded!



LLEN

a1