|
|
|
(Sara) Yr argod fawr, Rolant, be sy'n bod? |
|
|
|
(Sara) Wn i ddim be' fydd o'n ei feddwl ohono'i! |
(1, 0) 235 |
Fe garwn gael gair â chwi, Mr. Huw, os gwelwch yn dda. |
|
(Rolant) Wrth gwrs, Mr. Foster, Dowch i mewn. |
|
|
|
(Rolant) Eisteddwch yma, Mr. Foster. |
(1, 0) 240 |
Diolch. |
|
(Sara) {Yn gysetlyd braidd, ac yn ceisio gwneud sgwrs.} |
|
|
|
(Sara) Mae hi'n hwyro'n braf. |
(1, 0) 243 |
Ydyw. |
|
(Sara) M... mae hi'n gynhesach nag arfer yr adeg yma o'r flwyddyn. |
|
|
(1, 0) 246 |
Efallai ei bod, yn wir, Mrs. Huw. |
|
(Sara) {Yn gwneud eì gorau, druan.} |
|
|
(1, 0) 250 |
Esgusodwch fi, Mrs. Huw, ond nid i olrhain y tywydd y deuthum i yma heno. |
|
(Rolant) Gwyddom hynny'n dda Mr. Foster. |
|
|
|
(Rolant) Beth yw eich neges, os gwelwch yn dda? |
(1, 0) 253 |
Y mae a wnelo â chwi yn bersonol, ac hefyd â'ch mab Ifor. |
|
(Sara) {Gyda diddordeb mawr.} |
|
|
|
(Rolant) Ewch ymlaen. |
(1, 0) 257 |
Barn pob dyn cyfrifol yn y wlad hon yw fod Prydain mewn argyfwng pur enbyd heddiw. |
|
(Rolant) Wel? |
|
|
|
(Rolant) Wel? |
(1, 0) 259 |
Dyletswydd pawb sy'n deyrngarol i'r Brenin a'r Llywodraeth ydyw ceisio helpu'r wlad yn ei dyddiau blin. |
(1, 0) 260 |
Fel gŵr o sylwedd a dylanwad ymhlith gwerin y pentref, byddwch yn barod i ategu hyn... |
|
(Rolant) Ac felly? |
|
|
|
(Rolant) Ac felly? |
(1, 0) 262 |
Disgwylir brwdfrydedd gan bawb at yr ymgyrch y mae Prydain wedi ei galw gan Dduw iddi... |
|
(Rolant) {Wedi ei ddiflasu gan y bregeth.} |
|
|
|
(Rolant) Awgrymu yr ydych y dylwn ddangos mwy o frwdfrydedd at y rhyfel yn erbyn Ffrainc? |
(1, 0) 266 |
Ie, os mynnwch. |
|
(Rolant) Fy nghydwybod i fy hunan, ac nid offeiriad y plwy sy'n arfer â dangos i mi fy nyletswydd. |
|
|
(1, 0) 269 |
Cydwybod, ai e? |
(1, 0) 270 |
Wel, wel! |
|
(Rolant) {Yn bendant.} |
|
|
|
(Rolant) Ie, ac y mae un peth pendant iawn y dywed fy nghydwybod wrthyf na ddylwn ei wneud. |
(1, 0) 273 |
O? A beth ydyw? |
|
(Rolant) Hel ieuenctid yr ardal i'r Milishia, fel y gwnewch chi, Mr. Foster. |
|
|
|
(Sara) Rolant, paid â d' anghofio dy hun! |
(1, 0) 277 |
Fe'ch clywais yn datgan un tro eich bod yn ddyn crefyddol. |
|
(Rolant) 'R wy'n amcanu felly, yn ôl fy syniad i am grefydd. |
|
|
|
(Rolant) 'R wy'n amcanu felly, yn ôl fy syniad i am grefydd. |
(1, 0) 279 |
Ac eto, ni ddangoswch unrhyw frwdfrydedd at y rhyfel yn erbyn anffyddwyr Ffrainc, gelynion eich crefydd chwi a minnau. |
|
(Rolant) Mr. Foster, 'r ydym wedi clywed y bregeth yma o'r blaen, gan Ifor. |
|
|
|
(Rolant) Mr. Foster, 'r ydym wedi clywed y bregeth yma o'r blaen, gan Ifor. |
(1, 0) 281 |
Chwarae teg iddo, yn wir. |
(1, 0) 282 |
Dywedais fod a wnelo fy neges ag yntau hefyd. |
|
(Rolant) Wel? |
|
|
|
(Rolant) Wel? |
(1, 0) 284 |
Ymddengys ei fod ef, o leiaf, yn sylweddoli ei ddyletswydd. |
(1, 0) 285 |
Daeth ataf y dydd o'r blaen i ddweud y carai ymuno â'r Milishia. |
|
(Rolant) {Fel ergyd.} |
|
|
|
(Rolant) Beth? |
(1, 0) 288 |
Fe ddylech fod yn falch o'i sêl wlatgarol a'i ysbryd gwrol... |
|
(Rolant) {Yn methu â dal bron.} |
|
|
|
(Rolant) F...f...fy mab i yn y Milishia? |
(1, 0) 291 |
Ie, yn ymladd dan faner rhyddid a chyfiawnder... |
|
(Sara) {Yn cael gweledigaeth newydd am ei hanwylyd.} |
|
|
|
(Rolant) Na, 'chaiff yr un mab i mi ymuno â'r Milishia! |
(1, 0) 298 |
Dynion dewr, gwlatgarol. |
|
(Rolant) Gwehilion cymdeithas! |
|
|
|
(Rolant) Gwehilion cymdeithas! |
(1, 0) 300 |
Syr! |
|
(Rolant) Lladron, dihirod, treiswyr merched! |
|
|
|
(Rolant) Lladron, dihirod, treiswyr merched! |
(1, 0) 302 |
Mr. Huw, ystyriwch eich... |
|
(Rolant) A'u drygioni yn drewi drwy'r sir! |
|
|
(1, 0) 305 |
Mr. Huw, nid wyf am wrando ar y fath sen... |
|
(Rolant) Pam nag arferwch eich sêl ryfelgar i ymladd anghyfiawnder a thrais yr uchelwyr yn y wlad hon? |
|
|
(1, 0) 308 |
Y maer Diafol a'r Anghrist ar gerdded yn Ffrainc... |
|
(Rolant) Y mae'r ddau yn fyw yma yng Nghymru, a chwithau'r Eglwysi yn ymladd o'u plaid! |
|
|
(1, 0) 315 |
Y mae'n ein galw i Grwsâd Sanctaidd yn erbyn gelynion ein crefydd a'n treftadaeth. |
|
(Rolant) {Yn ddirmygus.} |
|
|
(1, 0) 321 |
Syniadau peryglus yw y rhai hyn, Mr. Huw. |
|
(Rolant) Peryglus i bwy, tybed? |
|
|
|
(Rolant) Peryglus i bwy, tybed? |
(1, 0) 323 |
Mae'n amlwg eich bod wedi llyncu athrawiaeth |The Rights of Man|, Tom Paine, a'i ddynwaredwr yng Nghymru, Jac Glan-y-Gors. |
|
(Rolant) Dau ddyn yn ddigon dewr i sefyll dros gyliawnder! |
|
|
(1, 0) 328 |
|Seren tan Gwmwl|. |
(1, 0) 329 |
Yr wyf wedi ei ddarllen... |
|
|
(1, 0) 331 |
... Yr Efengyl yn ôl Jac Glan-y-Gors. |
|
(Rolant) Yn nes at yr Efengyl na'r eiddo chwi! |
|
|
(1, 0) 335 |
A rhaid mynd ati cyn bo hir i ail ysgrifennu Llyfrau'r Proffwydi. |
(1, 0) 336 |
Er enghraifft... "A Duw a lefarodd wrth ei was Tom Paine"... |
|
|
(1, 0) 338 |
Nid dau broffwyd mohonynt, ond dau fradwr! |
|
(Rolant) {Wedi ei gynhyrfu'n fawr.} |
|
|
|
(Rolant) Bradwr? |
(1, 0) 341 |
Ac wrth goleddu eu syniadau llygredig, Mr. Huw, yr ydych chwithau yn elyn i'ch gwlad. |
|
(Rolant) Ond nid gelyn i gyfiawnder! |
|
|
(1, 0) 346 |
Dyna ddigon, Mr. Huw. |
(1, 0) 347 |
Gwn yn union lle y sefwch yn yr argyfwng presennol. |
(1, 0) 348 |
Yr wyf i yn ŵr o ddylanwad... |
|
(Rolant) Gwnewch a fynnoch, 'r wyf yn berffaith dawel fy mod yn iawn. |
|
|
|
(Rolant) Gwnewch a fynnoch, 'r wyf yn berffaith dawel fy mod yn iawn. |
(1, 0) 350 |
O'r gorau. |
|
|
(1, 0) 352 |
Noson dda i chwi, Mrs. Huw. |
|
|
(1, 0) 354 |
A chofiwch, Mr. Huw, fod gan Dduw ei ddamnedigaeth... ie, yn y byd hwn... i'r neb a feiddia wrthsefyll awdurdod Ei Eglwys Ef! |
|
|
|
(Rolant) Beth yw ystyr hyn, Mr. Foster? |
(1, 0) 840 |
Gwaith y Brenin. |
|
|
(1, 0) 842 |
Hwn yw eich dyn, Capten Rogers. |
|
(Rogers) Ai chwi yw John Jones, yn enedipol o Lan-yGors, plwyf Cerrig-y-drudion, a ddihangodd o Lundain rhyw dair wythnos yn ôl? |
|
|
|
(Rogers) Rhoddwyd hefyd bris am eich dal... pris uchel, Mr. Jones. |
(1, 0) 849 |
A llawenydd yw canfod mai un o'r plwyf hwn a fu'n gyfrwng i ddal y bradwr. |
|
(Rolant) {Yn edrych ar Ifor gyda dirmyg.} |
|
|
|
(Rolant) A gwyddom erbyn hyn pwy ydyw. |
(1, 0) 852 |
Y mae'n haeddu pob clod, Mr. Huw. |
(1, 0) 853 |
Rhoes ar ddeall inni ei fod yma. |
(1, 0) 854 |
Gwelodd ef yn ceisio cyfle i lithro'i mewn. |
(1, 0) 855 |
Yn unol â'm dyletswydd, deuthum â Capten Rogers a'i wŷr yma ar unwaith. |
|
(Rolant) {Wrth Ifor.} |
|
|
|
(Rolant) 'D oes dim enw yn bod ar y weithred ffiaidd yma... |
(1, 0) 871 |
'R wyf fi yn dal ei bod yn ganmoladwy. |
(1, 0) 872 |
Ac o'r herwydd, caiff Ifor glod a mawredd... |
|
(Rolant) {Yn ymollwng i'w gadair.} |
|
|
(1, 0) 878 |
Dyletswydd pob un ohonom heddiw ydyw rhoi ei wlad o flaen popeth arall... hyd yn oed ei deulu... |
|
(Jac) Ac o flaen yr efengyl! |
|
|
|
(Jac) Ac o flaen yr efengyl! |
(1, 0) 880 |
Dyna ddigon. |
(1, 0) 881 |
Eich tynged chwi fydd mynd i Ruthun yng nghwmni'r Milishia. |
|
(Rolant) {Yn drist, o'i gadair.} |
|
|
|
(Rolant) Mae'n ddrwg gen' i am hyn, Jac... |
(1, 0) 884 |
Tewi a fyddai orau i chwithau, Mr. Huw. |
(1, 0) 885 |
Y mae rhoi lloches i elyn y wladwriaeth ar adeg rhyfel yn drosedd. |
(1, 0) 886 |
Gall fod yn gyfyng arnoch... |
|
(Jac) {Yn tanio.} |
|
|
|
(Jac) Byddai ei gosbi yn gam dybryd... |
(1, 0) 890 |
A oes raid imi dderbyn cyngor gan fradwr ac anffyddiwr? |
(1, 0) 891 |
Y mae'n amser symud, Capten Rogers... |
|
(Rogers) Dewch, Mr. Jones... |
|
|
|
(Ifor) {Y mae cyffro'r lleill hefyd yn amlwg.} |
(1, 0) 898 |
Beth yw hyn, Janet? |
(1, 0) 899 |
Nid oes a wnelo... |
|
(Janet) {Yn dawel, ond pendant.} |
|
|
|
(Janet) Beth ydyw? |
(1, 0) 904 |
Gwaith y Brenin. |
|
(Janet) Pa waith? |
|
|
|
(Jac) A pha frenin? |
(1, 0) 907 |
Ewch yn ôl, Janet, os gwelwch yn dda. |
|
(Janet) Ni symudaf gam nes cael gwybod beth sy'n digwydd yma. |
|
|
|
(Janet) Ac yr ydych am ei daflu i garchar? |
(1, 0) 915 |
Dyna'm dyletswydd. |
|
(Janet) Y mae rhywun wedi ei fradychu. |
|
|
|
(Janet) Pwy? |
(1, 0) 918 |
Nid bradychu, Janet, ond gwneud ei ran dros ei wlad a'i Dduw. |
(1, 0) 919 |
Am hynny, fe genir clod Ifor... |
|
(Janet) {Gyda syndod.} |
|
|
|
(Ifor) Meddwl y byddai hynny yn help i mi eich... |
(1, 0) 936 |
Gweithred nobl ydoedd, Ifor. |
|
(Rolant) {Yn codi.} |
|
|
|
(Sara) Ifor... 'y 'machgen annwyl i... |
(1, 0) 949 |
Capten Roger s... |
|
(Janet) {Yn bendant iawn.} |
|
|
(1, 0) 953 |
Wel... beth sy'n bod? |
|
(Janet) Rhywbeth y mae'n rhaid imi ei ddweud wrthych. |
|
|
|
(Janet) Rhywbeth y mae'n rhaid imi ei ddweud wrthych. |
(1, 0) 955 |
Ewch ymlaen. |
|
(Janet) Ond nid o flaen Capten Rogers. |
|
|
|
(Janet) Ond nid o flaen Capten Rogers. |
(1, 0) 957 |
Pam hynny? |
|
(Janet) Yr wyf o ddifrif. |
|
|
|
(Janet) Capten Rogers, a fyddwch chwi cystal â mynd allan am funud neu ddau? |
(1, 0) 960 |
O'r gorau, Janet. |
(1, 0) 961 |
Capten Rogers? |
|
|
(1, 0) 963 |
Wel, fy merch i, beth ydyw? |
|
(Janet) {Yn ddigon tawel.} |
|
|
|
(Janet) Os ewch â'r dyn hwn i garchar, rhaid i chwi f'anfon innau hefyd. |
(1, 0) 967 |
Nid ydych o ddifrif... |
|
(Janet) Ni fum erioed mor sicr. |
|
|
(1, 0) 970 |
Yn enw rheswm, pam? |
|
(Janet) Am fy mod o'i blaid, yn coleddu yr un syniadau am ryddid a chyfiawnder... |
|
|
(1, 0) 973 |
Janet! |
(1, 0) 974 |
Mae hyn yn beth difrifol. |
(1, 0) 975 |
Bradychu eich |teulu|! |
|
(Janet) Efallai yn wir. |
|
|
|
(Janet) Ond nid fy nghrefydd a'm cydwybod. |
(1, 0) 978 |
Cydwybod! |
(1, 0) 979 |
Ffolineb merch ddi-brofiad wedi ei swyno gan syniadau rhigymwr cefn gwlad! |
|
|
(1, 0) 981 |
Disgybl i |hwn|, yn wir! |
|
(Janet) Ie. |
|
|
|
(Jac) Dowch, syr, galwch ar Capten Rogers. |
(1, 0) 987 |
Ie... wel... y... |
|
|
|
(Janet) Ond os anfonwch ef i Ruthun... |
(1, 0) 992 |
Fy merch i fy hun yn fy herio! |
(1, 0) 993 |
Yn troi'n fradwr! |
|
(Janet) Ydwyf, ond gyda chydwybod dawel... |
|
|
|
(Janet) Nid y chwi sydd i benderfynu bellach. |
(1, 0) 997 |
Ffolineb yw hyn! |
|
(Janet) {Gan edrych ar Jac gydag edmygedd.} |
|
|
(1, 0) 1005 |
Janet, yn enw Duw peidiwch â rhoi'r dewis hwn i mi. |
|
(Janet) {Yn gadarn.} |
|
|
|
(Janet) Dyna'r dewis. |
(1, 0) 1008 |
Fy merch i... er mwyn popeth... |
|
(Janet) Ac nid oes symud arno! |
|
|
(1, 0) 1011 |
Dewis ofnadwy yw hwn. |
(1, 0) 1012 |
Yr ydych yn gofyn llawer gennyf, mwy nag a ofynnwyd imi erioed. |
(1, 0) 1013 |
Ni wyddwn eich bod yn coleddu'r syniadau newydd hyn. |
(1, 0) 1014 |
Mae hi'n anodd... yn anodd gweithredu'n groes i'm hargyhoeddiad. |
(1, 0) 1015 |
Ond... |
|
|
(1, 0) 1017 |
Ni allaf byth eich gweld yn mynd i afael... |
|
(Janet) Fe geidw Mr. Jones ei ran yntau o'r telerau. |
|
|
|
(Jac) Nid oes dewis i mi, druan! |
(1, 0) 1020 |
Bydded felly. |
(1, 0) 1021 |
Ond beth a ddywedaf wrth Capten Rogers? |
|
(Janet) Dywedwch a fynnwch wrtho. |
|
|
|
(Janet) Ond anfonwch y Milishia i ffwrdd yn ddioed. |
(1, 0) 1025 |
O'r gorau, Janet. |
(1, 0) 1026 |
Mr. Huw, carwn i chwi ddod allan gyda mi i siarad â'r swyddog... |
|
|
(1, 0) 1028 |
Mr. Jones, y mae... y... wel... yr amgylchiadau yn caniatâu i chwi fod yn rhydd... i adael y plwyf hwn heb oedi. |
(1, 0) 1029 |
Ond cofiwch, nid oes gennyf unrhyw awdurdod o'r tu allan i'm plwyf fy hun. |
(1, 0) 1030 |
Dyna'r... telerau. |
|
(Jac) Diolch, syr. |
|
|
|
(Jac) Byddaf yn siŵr o lynu wrthynt. |
(1, 0) 1033 |
O'r gorau. |
|
|
(1, 0) 1035 |
Noson dda i chwi, Mr. Jones. |
(1, 0) 1036 |
A gawn ni fynd, Mr. Huw? |