|
|
|
(Walter) O'r andras! |
|
|
|
(Walter) A oedd yn rhaid i ti ddod i mewn i'r ystafell hon a minnau wedi cael tipyn o lonyddwch am dro? |
(1, 0) 25 |
Oeddech chi'n breuddwydio? |
|
(Walter) Nawr y cysgais i a dyna tithau... |
|
|
|
(Walter) Nawr y cysgais i a dyna tithau... |
(1, 0) 27 |
Breuddwydio am y cornel clyd yna sydd yn y "Prince of Wales" yn Nhre-cyll. |
|
(Walter) E! |
|
|
|
(Walter) Beth ddwedaist ti? |
(1, 0) 30 |
A'r barmaid yna sy'n bowdwr a lipstic i gyd yn dod a pheth yfed i chi. |
|
(Walter) Dwn i ddim am beth yr wyt ti'n siarad. |
|
|
|
(Walter) Dwn i ddim am beth yr wyt ti'n siarad. |
(1, 0) 32 |
Ydych chi'n drwm eich clyw y pnawn yma. |
|
|
(1, 0) 34 |
Am danoch chi'n llymeitian yn y "Prince... |
|
(Walter) Geinor, Geinor, rwy'n dymuno arnat... |
|
|
|
(Walter) Geinor, Geinor, rwy'n dymuno arnat... |
(1, 0) 36 |
Rydw i wedi cael siom fawr ynoch chi, Nwncwl─fedrai i ddim dweud faint o siom. |
|
(Walter) Celwydd yw'r cwbl, dim ond celwydd. |
|
|
|
(Walter) Pobl y lle yma'n llunio stori fy mod yn yfed oherwydd fy mod yn mynd i Dre-cyll ambell waith. |
(1, 0) 39 |
Wel, does dim gwahaniaeth gen i─fe ellwch droi i mewn i bob tafarn yn y lle o'm rhan i... |
(1, 0) 40 |
Ble mae modryb? |
(1, 0) 41 |
Allan yn yr ardd? |
|
|
|
(Walter) {Chwilio am ei esgidiau.} |
(1, 0) 45 |
Beth sy'n bod? |
|
(Walter) Ond dwyt ti ddim yn credu'r storïau yma am dy Nwncwl, wyt ti? |
|
|
|
(Walter) Ond dwyt ti ddim yn credu'r storïau yma am dy Nwncwl, wyt ti? |
(1, 0) 47 |
Fe fyddai'n anodd iawn gen i eu chredu onibai i mi eich gweld trwy ffenestr y "Prince of Wales" neithiwr â'm llygaid fy hun. |
|
(Walter) Fy ngweld i! |
|
|
|
(Walter) Doeddwn i ddim yn agos i'r lle neithiwr. |
(1, 0) 50 |
O! |
(1, 0) 51 |
O'r gorau! |
(1, 0) 52 |
Gwadwch chi. |
(1, 0) 53 |
Fel y dywedais i, does dim gwahaniaeth gen i. |
(1, 0) 54 |
Dwedwch, ydy modryb yn yr ardd? |
|
(Walter) Pa amser oedd hyn? |
|
|
|
(Walter) Pa amser oedd hyn? |
(1, 0) 56 |
Beth? |
(1, 0) 57 |
Pryd y gwelais i chi? |
(1, 0) 58 |
O, rywbryd rhwng chwech a saith. |
|
(Walter) Ond, doeddwn i ddim yno, rwy'n ei ddweud wrthyt. |
|
|
|
(Walter) Ond, doeddwn i ddim yno, rwy'n ei ddweud wrthyt. |
(1, 0) 60 |
Dyna ddiwedd arni ynte. |
|
(Walter) Wyt ti ddim yn fy nghredu? |
|
|
|
(Walter) Wyt ti ddim yn fy nghredu? |
(1, 0) 62 |
Nac ydw, Nwncwl. |
(1, 0) 63 |
Peidiwch ag edrych mor ofidus. |
(1, 0) 64 |
Ddweda i ddim wrth modryb. |
(1, 0) 65 |
Dim ond fi ac Arthur sy'n gwybod. |
|
(Walter) Oedd crwt Mari'r Siop gyda thi? |
|
|
|
(Walter) Oedd crwt Mari'r Siop gyda thi? |
(1, 0) 67 |
Oedd. |
|
(Walter) Dyna ddiwedd arni, nawr. |
|
|
|
(Walter) Mae Mari yn sicr o ddweud wrth dy fodryb. |
(1, 0) 70 |
Na ofidiwch, Nwncwl bach, ni ddywed Arthur air wrth neb. |
(1, 0) 71 |
Rydych yn ddiogel eto. |
(1, 0) 72 |
Ond gwyliwch chi eich camre o hyn allan. |
(1, 0) 73 |
Beth petai modryb wedi digwydd edrych i mewn drwy ffenestr y bar neithiwr. |
|
(Walter) Paid, paid a dychmygu'r fath beth. |
|
|
|
(Walter) Paid, paid a dychmygu'r fath beth. |
(1, 0) 75 |
Wel, meddyliwch chi am hynny y tro nesaf y trowch i mewn yno. |
(1, 0) 76 |
Fe fyddai'n ddigon o sioc i modryb ddod i wybod eich bod chi'n mynd i mewn i'r ""Prince of Wales" heblaw... |
|
(Walter) Cadw di'r peth yn ddistaw, ac fe gofia i amdanat ti, Geinor. |
|
|
|
(Walter) Cadw di'r peth yn ddistaw, ac fe gofia i amdanat ti, Geinor. |
(1, 0) 78 |
Reit. |
(1, 0) 79 |
Fe'ch atgofia i chi am yr addewid yna eto. |
(1, 0) 80 |
Ond, dwedwch, ble mae pawb? |
(1, 0) 81 |
Ble mae modryb? |
|
(Walter) Mae hi a dy fodryb Jane wedi mynd i weld Ann, Tŷ-gwyn─fe aethant â thipyn o gawl a rhyw lintach o gig iddi. |
|
|
|
(Walter) Fe fyddai'n well gan Ann druan beidio â gweld eu hwynebau, ond y mae'n rhaid iddynt gael meddwl eu bod yn fenywod mawr yn y lle. |
(1, 0) 84 |
Ble mae'r Ianci? |
|
(Walter) Ust. |
|
|
|
(Walter) Dydy e ddim yn leicio'r enw Ianci. |
(1, 0) 88 |
O'r gorau. |
(1, 0) 89 |
Ble mae Carnolyn R. Rees, Ysw., Chicago? |
|
(Walter) Mae rhyw fusnes ymlaen ganddo yntau hefyd. |
|
|
|
(Walter) Ddwedodd e'r un gair amdano, ond mae rhyw haearn ganddo yn y tân y pnawn yma. |
(1, 0) 92 |
Wel, gobeithio y gall e wneud y lle hwn yn debycach i Chicago, beth bynnag. |
(1, 0) 93 |
Mari Jones yn dweud bod Arthur wedi mynd am dro, chi yn cysgu yn nhraed eich sanau, Modryb Sara a Modryb Jane yn cario cawl ar hyd y lle, Carnolyn R. Rees yn meindio ei fusnes ei hun a neb yn barod i'm helpu i i dreulio'r pnawn braf yma. |
|
(Walter) Ble mae Demetrius? |
|
|
|
(Walter) Fe dreuliai fe brynhawn yn dy gwmni gyda phleser. |
(1, 0) 97 |
Gwnâi, efallai, ond chaiff e mo'r cyfle. |
|
(Walter) Fe wnait wraig dda i bregethwr, Geinor─Mrs. Demetrius Jones! |
|
|
|
(Walter) Fe wnait wraig dda i bregethwr, Geinor─Mrs. Demetrius Jones! |
(1, 0) 99 |
Os ydych chi yn mynd i siarad felna, fe af innau i sôn am y "Prince of Wales." |
|
(Walter) Nawr, rwy'n begian arnat, Geinor. |
|
|
|
(Walter) Mae clustiau gan y muriau. |
(1, 0) 103 |
Rhaid i chithau beidio â sôn am Demetrius bach hefyd. |
(1, 0) 104 |
Rwy'n fodlon i chi fy mhryfocio am bopeth arall, ond nid amdano ef. |
|
(Walter) Dydw i ddim am dy wneud yn wraig pregethwr os nad wyt ti am fod. |
|
|
|
(Walter) Dydw i ddim am dy wneud yn wraig pregethwr os nad wyt ti am fod. |
(1, 0) 106 |
Dydw i ddim am fod, a dyna ddigon ar y pwnc yna. |
(1, 0) 107 |
Nawr, dim gair yn rhagor. |
(1, 0) 108 |
Mae'r cadoediad wed dechrau; ond i chi beidio â sôn am Demetrius fe gadwa innau oddi wrth bwnc y "barmaid." |
|
(Walter) Diolch am hynny. |
|
|
(1, 0) 111 |
Hylo! |
(1, 0) 112 |
Mae'r allweddau yn y drôr yna─rwyf wedi bod eisiau gwybod pa gyfrinach sydd gennych ynddo ers oesoedd a dyma gyfle. |
|
|
|
(Walter) Mae'r drwg hanner modfedd i mewn, a faint o les fydd ïodin ar y croen. |
(1, 0) 145 |
A gaf i ymofyn yr ïodin, modryb? |
|
(Walter) Na chei. |
|
|
|
(Mrs. Morgan) {Allan drwy'r ffenestr.} |
(1, 0) 246 |
Buwyd yn trafod y sefyllfa ariannol, do fe, Nwncwl? |
|
(Walter) E! |
|
|
|
(Walter) Sut gwyddost ti? |
(1, 0) 249 |
O, fe glywais y geiriau "hanner coron yr wythnos" yn fflotio allan drwy'r ffenestr. |
|
(Walter) Ydy pawb yn y pentre yn gwybod, Geinor? |
|
|
|
(Walter) Ydy pawb yn y pentre yn gwybod, Geinor? |
(1, 0) 251 |
Ydynt, bawb am wn i. |
(1, 0) 252 |
Pam nad ewch chi ar streic, Nwncwl? |
|
(Walter) Haws dweud na gwneud. |
|
|
|
(Walter) Fi wnaeth y cawl, weld di. |
(1, 0) 255 |
Ie, fe glywais; gamblo! |
|
(Walter) Roeddwn ar y pryd yn ofni na wellwn i ddim o'r dwymyn ac ar awr wan fe seiniais y weithred yn rhoi pob hawl ar yr arian i'th fodryb, a dyma fi, hanner coron yr wythnos. |
|
|
|
(Walter) Roeddwn ar y pryd yn ofni na wellwn i ddim o'r dwymyn ac ar awr wan fe seiniais y weithred yn rhoi pob hawl ar yr arian i'th fodryb, a dyma fi, hanner coron yr wythnos. |
(1, 0) 257 |
Wel, fe allai fod yn swllt, oni allai? |
(1, 0) 258 |
Byddai hynny yn fwy nag yr ydw i'n ei gael. |
|
(Walter) Ond fe elli di wella pethau'n rhwydd. |
|
|
|
(Walter) Ond fe elli di wella pethau'n rhwydd. |
(1, 0) 260 |
O! |
(1, 0) 261 |
Sut? |
|
(Walter) Dwed di'r gair ac fe fyddi'n Mrs. Demetrius Jones cyn gynted ag y gellir cyhoeddi'r gostegion. |
|
|
|
(Walter) Dwed di'r gair ac fe fyddi'n Mrs. Demetrius Jones cyn gynted ag y gellir cyhoeddi'r gostegion. |
(1, 0) 263 |
Does gennych chi ddim cof da, oes e, Nwncwl? |
(1, 0) 264 |
Ydych chi wedi anghofio'r fargen ynglŷn â'r... |
|
(Walter) {Yn gwneud arwyddion cyffrous iddi dewi ac yn gostwng ei lais.} |
|
|
|
(Walter) Oni ddwedais i wrthyt ti am beidio â sôn... |
(1, 0) 267 |
Do, ac fe addawsoch chithau beidio â son am Demetrius bach, hefyd. |
|
(Walter) Dy les di oedd gen i mewn golwg. |
|
|
|
(Walter) Dy les di oedd gen i mewn golwg. |
(1, 0) 269 |
Ydych chwi yn dweud y gwir i gyd, Nwncwl? |
|
(Walter) Wel, nac ydw, efallai ond... |
|
|
|
(Walter) Wel, nac ydw, efallai ond... |
(1, 0) 271 |
Onid dilyn ordors o H.Q. ydych chi? |
|
(Walter) Mae yn hen bryd i ti roi heibio'r syniad o fynd i Lundain. |
|
|
|
(Walter) Mae yn hen bryd i ti roi heibio'r syniad o fynd i Lundain. |
(1, 0) 273 |
Dyna un pwnc arall nad yw i gael ei drafod rhyngom. |
|
(Walter) Os ei ymlaen fel hyn, ni fydd gennym yr un pwnc i sôn amdano─bydd yn rhaid i ni fod yn fud yng nghwmni'n gilydd. |
|
|
|
(Walter) Os ei ymlaen fel hyn, ni fydd gennym yr un pwnc i sôn amdano─bydd yn rhaid i ni fod yn fud yng nghwmni'n gilydd. |
(1, 0) 275 |
Fe allwn bob amser sôn am y cwestiwn mawr y lwans wythnosol. |
(1, 0) 276 |
Rwy'n addo un peth i chi, Nwncwl, pan fydda i wedi bod trwy'r "School of Dramatic Art" ac yn actres fawr a'm henw mewn goleuadau llachar uwchben drws theatr yn Llundain, rwy'n addo dwblu'ch lwans chi, o leiaf. |
(1, 0) 277 |
Os bydda i'n cael deg punt yr wythnos, ac y mae llawer actres yn cael tipyn yn fwy na hynny, fe gewch chi bunt yr wythnos. |
(1, 0) 278 |
Meddyliwch beth fydd hynny yn ei olygu i chi yn lle ceisio fy mherswadio i aros yn y pentre hwn dan wab modryb a phriodi gwidman sydd wedi reteirio ar arian ei wraig gyntaf. |
|
(Walter) Rwy'n gweld na fydda i damaid gwell o siarad â thi. |
|
|
|
(Walter) Rwy'n gweld na fydda i damaid gwell o siarad â thi. |
(1, 0) 280 |
Dim un tamaid. |
|
(Walter) Rwyt wedi etifeddu penstiffrwydd dy fam ac elfen dy dad am actio. |
|
|
|
(Walter) Digon tenau fu eu bywyd hwy a'th un dithau nes i ti ddod i fyw at dy fodryb Jane. |
(1, 0) 284 |
Nid arian yw'r cwbl, Nwncwl. |
|
(Walter) Nage, efallai. |
|
|
|
(Walter) Petait yn gorfod byw ar hanner coron yr wythnos o arian poced... |
(1, 0) 288 |
Arian neu beidio, i Lundain i ddysgu bod yn actres yr wyf yn mynd beth bynnag a ddywed modryb a phawb arall. |
|
(Walter) Rwyt yr un ffunud â'th fam; rwy'n cofio fel petai ddoe am dy fodryb yn pregethu wrthi cyn iddi briodi─roedd y cwbl fel dŵr ar gefn hwyad. |
|
|
|
(Walter) Rwyt yr un ffunud â'th fam; rwy'n cofio fel petai ddoe am dy fodryb yn pregethu wrthi cyn iddi briodi─roedd y cwbl fel dŵr ar gefn hwyad. |
(1, 0) 290 |
Y peth sy'n fy ngwneud yn ynfyd yw bod Dcmetrius bach yn gwneud i modryb garu drosto. |
(1, 0) 291 |
Buasech yn disgwyl bod gwidman fel efe, wedi cael profiad, yn gallu gwneud ei garu ei hunan. |
|
(Walter) Fe wnâi ond i ti roi hanner cyfle iddo. |
|
|
|
(Walter) Fe wnâi ond i ti roi hanner cyfle iddo. |
(1, 0) 293 |
Rydw i wedi rhoi digon o gyfle iddo. |
(1, 0) 294 |
Rwyf am siawns i ddweud wrtho ble mae e'n sefyll i orffen y peth am byth. |
(1, 0) 295 |
Ond wnaiff e ddim. |
(1, 0) 296 |
Mae'n rhaid cael Modryb Jane fel rhyw fath o "chaperone" bob amser. |
(1, 0) 297 |
Os mynd am dro yn ei gar rhaid mynd yn dri. |
(1, 0) 298 |
Os mynd i'r sinema, ni'n tri. |
(1, 0) 299 |
Rwyf wedi cael digon ar ei garu ac am gyfle i roi stop arno am byth. |
|
(Walter) Ust, gwrando. |
|
|
(1, 0) 304 |
Dim ond Modryb Jane. |
(1, 0) 305 |
Na, mae Demetrius yna hefyd. |
(1, 0) 306 |
Dwedwch wrthyf i, rydw i wedi meddwl gofyn i chwi sawl gwaith, a fu rhywbeth rhwng Modryb Jane a'r Ianci cyn iddo fynd i'r America. |
|
(Walter) Da thi, paid â'i alw wrth yr enw yna. |
|
|
|
(Walter) Da thi, paid â'i alw wrth yr enw yna. |
(1, 0) 308 |
Beth alwaf i arno? |
(1, 0) 309 |
Mae Carnolyn R. Rees yn ormod o lond pen, a rywsut nid yw Rees Chicago, yn swnio'n reit. |
(1, 0) 310 |
Ond, dwedwch, a fu rhywbeth rhyngddynt? |
|
(Walter) Roeddent yn dipyn o gyfeillion. |
|
|
|
(Walter) Roeddent yn dipyn o gyfeillion. |
(1, 0) 312 |
Wel, os yw e wedi dod yn ôl yma i'w hymofyn, mae'n rhaid i mi edrych i mewn i'w "gredentials." |
(1, 0) 313 |
Mae Modryb Jane yn llawer rhy neis i briodi pob un sydd wedi gwneud arian yn America. |
|
(Walter) Gwylia di dy gamre. |
|
|
|
(Walter) Un gwyllt iawn oedd e cyn mynd i America. |
(1, 0) 317 |
A oedd e'n siarad ac yn bragio cymaint yr amser hwnnw? |
|
(Walter) Ddim cymaint efallai, ond ni ellid ei alw yn grwt distaw, diymhongar o bell ffordd. |
|
|
|
(Walter) Ddim cymaint efallai, ond ni ellid ei alw yn grwt distaw, diymhongar o bell ffordd. |
(1, 0) 319 |
Dwedwch, Nwncwl, beth achosodd i Modryb Sara i ofyn iddo aros yma? |
|
(Walter) Wel, roedd e'n eitha cyfeillgar â'i theulu hi pan oedd yn fachgen. |
|
|
|
(Walter) Ac, wrth gwrs, mae dy fodryb yn hoffi cwmni dynion ariannog. |
(1, 0) 322 |
Nid eisiau ei gadw yn weddol agos at Modryb Jane, ai e? |
|
(Walter) Beth wn i? |
|
|
|
(Mrs. Morgan) Mae Mr. Jones wedi galw i ddweud ei fod yn meddwl mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol pythefnos i ddydd Iau ac y mae am wybod a hoffit fynd gydag e. |
(1, 0) 335 |
A fydd Modryb Jane yn dod hefyd? |
|
(Demetrius) Wel, yr wyf am i chwi ddod eich dwy. |
|
|
|
(Demetrius) Wel, yr wyf am i chwi ddod eich dwy. |
(1, 0) 337 |
A ydych chi am fynd, modryb? |
|
(Jane) Fe-hoffwn i fynd i'r Eisteddfod unwaith─chefais i ddim cyfle erioed o'r blaen. |
|
|
|
(Mrs. Morgan) Rwyf am i chi gyfarfod â'r "visitor" enwog sydd gyda ni yma─bachgen o'r lle wedi gwneud arian yn America, Mr. Carnolyn Rees. |
(1, 0) 350 |
Mr. Carnolyn R. Rees, Modryb─rhaid i chi beidio ag anghofio'r "R"; John D. |
(1, 0) 351 |
Rockfeller, nid John Rockfeller. |
|
(Walter) Bedyddiwyd ef yn Rhys Rees─yn America yn rhywle y cafodd e afael ar yr enw Carnolyn. |
|
|
|
(Mrs. Morgan) Roeddwn yn gyfeillgar iawn ag e cyn iddo fynd i America. |
(1, 0) 360 |
Wrth ei glywed yn siarad gellwch feddwl ei fod yn adnabod gangsters Chicago i gyd. |
|
(Demetrius) "Dear me," mae'n rhaid i mi ddod i'w adnabod. |
|
|
(1, 0) 368 |
Fu e ddim yn hir, beth bynnag. |
(1, 0) 369 |
Dyma fe'n dod. |
|
(Mrs. Morgan) Rwy'n falch nad aethoch chi cyn iddo ddod, Mr. Jones. |
|
|
|
(Rees) Na, na, ond yr ydw i wedi cerdded llawer â hwn yn fy llaw─hwn ddaeth â ffortiwn i mi. |
(1, 0) 380 |
Ydych chi'n bwriadu gwneud ail ffortiwn y ffordd hyn eto? |
(1, 0) 381 |
Os ydych, yr wyf am fod yn bartner. |