a1

Deryn Dierth (1943)

Ieuan Griffiths

Ⓗ 1943 Ieuan Giffiths
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1


GOLYGFA─"Drawing room" tŷ MR. a MRS. WALTER MORGAN. Gan mai pobl wedi reteirio o fusnes laeth yn Llundain ydynt a chan mai uchelgais MRS. MORGAN ydyw bod yn rhywun ym mywyd cymdeithasol y pentref a'r ardal, "drawing room" yw'r enw iawn ar yr ystafell. Y mae ffenestr ffrensh fawr yn y cefn yn agor i'r lawnt a'r ardd a dyna'r unig ffenestr y mae'n rhaid wrthi at amcanion y chwarae. Un drws sydd i'r ystafell ac y mae hwnnw ar y chwith. (O safbwynt y chwaraewyr.)

Prynhawn braf yng nghanol yr haf yw hi a thywynna'r haul y tu allan i'r ffenestr ffrensh.

Ychydig o ddodrefn sydd yn yr ystafell fel y gweddai i "drawing room" fodern. Y mae "'settee" ar y chwith rhwng y ffenestr ffrensh a'r drws ac y mae desg fechan neu "bureau" ar y dde. Yma a thraw ceir tua phedair o gadeiriau ac y mae un gadair freichiau, partner y "'settee," ar y dde i'r ffenestr. Yn y canol y mae "pouf" a symudir o le i le fel y bo'i angen.

Pan gyfyd y llen gwelir rhan o WALTER, dyn tua 55 oed, yn cysgu ar y "'settee," a'i draed (heb esgidiau amdanynt) ar y "pouf". Mae'r rhan anweledig, y rhan uchaf, o dan bapur newydd. Gwelir hwnnw yn codi ac yn disgyn ychydig fel yr anadla.

Daw GEINOR i mewn drwy'r drws,─merch ifanc, tua'r ugain oed, yn llawn bywyd. Edrych o gwmpas am eiliad neu ddwy ac yna â ymlaen yn ddistaw a chogleisio un o draed WALTER. Nid yw ef yn dihuno ond rhwbia wadn y droed honno yn erbyn cefn y llall ac ymdawela eilwaith. Gwna GEINOR yr un peth eto a'r tro hn gwelir cyffro dan y papur a daw ei wyneb i'r amlwg.

Walter

O'r andras! A oedd yn rhaid i ti ddod i mewn i'r ystafell hon a minnau wedi cael tipyn o lonyddwch am dro?

Geinor

Oeddech chi'n breuddwydio?

Walter

Nawr y cysgais i a dyna tithau...

Geinor

Breuddwydio am y cornel clyd yna sydd yn y "Prince of Wales" yn Nhre-cyll.

Walter

E! Beth ddwedaist ti?

Geinor

A'r barmaid yna sy'n bowdwr a lipstic i gyd yn dod a pheth yfed i chi.

Walter

Dwn i ddim am beth yr wyt ti'n siarad.

Geinor

Ydych chi'n drwm eich clyw y pnawn yma. (Yn codi'i llais.) Am danoch chi'n llymeitian yn y "Prince...

Walter

Geinor, Geinor, rwy'n dymuno arnat...

Geinor

Rydw i wedi cael siom fawr ynoch chi, Nwncwl─fedrai i ddim dweud faint o siom.

Walter

Celwydd yw'r cwbl, dim ond celwydd. Pobl y lle yma'n llunio stori fy mod yn yfed oherwydd fy mod yn mynd i Dre-cyll ambell waith.

Geinor

Wel, does dim gwahaniaeth gen i─fe ellwch droi i mewn i bob tafarn yn y lle o'm rhan i... Ble mae modryb? Allan yn yr ardd? (Symud at y ffenestr frensh.)

Walter

Geinor, aros, aros ferch. (Chwilio am ei esgidiau.)

Geinor

Beth sy'n bod?

Walter

Ond dwyt ti ddim yn credu'r storïau yma am dy Nwncwl, wyt ti?

Geinor

Fe fyddai'n anodd iawn gen i eu chredu onibai i mi eich gweld trwy ffenestr y "Prince of Wales" neithiwr â'm llygaid fy hun.

Walter

Fy ngweld i! Doeddwn i ddim yn agos i'r lle neithiwr.

Geinor

O! O'r gorau! Gwadwch chi. Fel y dywedais i, does dim gwahaniaeth gen i. Dwedwch, ydy modryb yn yr ardd?

Walter

Pa amser oedd hyn?

Geinor

Beth? Pryd y gwelais i chi? O, rywbryd rhwng chwech a saith.

Walter

Ond, doeddwn i ddim yno, rwy'n ei ddweud wrthyt.

Geinor

Dyna ddiwedd arni ynte.

Walter

Wyt ti ddim yn fy nghredu?

Geinor

Nac ydw, Nwncwl. Peidiwch ag edrych mor ofidus. Ddweda i ddim wrth modryb. Dim ond fi ac Arthur sy'n gwybod.

Walter

Oedd crwt Mari'r Siop gyda thi?

Geinor

Oedd.

Walter

Dyna ddiwedd arni, nawr. Mae Mari yn sicr o ddweud wrth dy fodryb.

Geinor

Na ofidiwch, Nwncwl bach, ni ddywed Arthur air wrth neb. Rydych yn ddiogel eto. Ond gwyliwch chi eich camre o hyn allan. Beth petai modryb wedi digwydd edrych i mewn drwy ffenestr y bar neithiwr.

Walter

Paid, paid a dychmygu'r fath beth.

Geinor

Wel, meddyliwch chi am hynny y tro nesaf y trowch i mewn yno. Fe fyddai'n ddigon o sioc i modryb ddod i wybod eich bod chi'n mynd i mewn i'r ""Prince of Wales" heblaw...

Walter

Cadw di'r peth yn ddistaw, ac fe gofia i amdanat ti, Geinor.

Geinor

Reit. Fe'ch atgofia i chi am yr addewid yna eto. Ond, dwedwch, ble mae pawb? Ble mae modryb?

Walter

Mae hi a dy fodryb Jane wedi mynd i weld Ann, Tŷ-gwyn─fe aethant â thipyn o gawl a rhyw lintach o gig iddi. Fe fyddai'n well gan Ann druan beidio â gweld eu hwynebau, ond y mae'n rhaid iddynt gael meddwl eu bod yn fenywod mawr yn y lle.

Geinor

Ble mae'r Ianci?

Walter

Ust. Ddylet ti ddim galw hynna arno. Dydy e ddim yn leicio'r enw Ianci.

Geinor

O'r gorau. Ble mae Carnolyn R. Rees, Ysw., Chicago?

Walter

Mae rhyw fusnes ymlaen ganddo yntau hefyd. Ddwedodd e'r un gair amdano, ond mae rhyw haearn ganddo yn y tân y pnawn yma.

Geinor

Wel, gobeithio y gall e wneud y lle hwn yn debycach i Chicago, beth bynnag. Mari Jones yn dweud bod Arthur wedi mynd am dro, chi yn cysgu yn nhraed eich sanau, Modryb Sara a Modryb Jane yn cario cawl ar hyd y lle, Carnolyn R. Rees yn meindio ei fusnes ei hun a neb yn barod i'm helpu i i dreulio'r pnawn braf yma.

Walter

Ble mae Demetrius? Ydy e ddim yn y golwg yn rhywle? Fe dreuliai fe brynhawn yn dy gwmni gyda phleser.

Geinor

Gwnâi, efallai, ond chaiff e mo'r cyfle.

Walter

Fe wnait wraig dda i bregethwr, Geinor─Mrs. Demetrius Jones!

Geinor

Os ydych chi yn mynd i siarad felna, fe af innau i sôn am y "Prince of Wales."

Walter

Nawr, rwy'n begian arnat, Geinor. Rhaid i ti beidio â meddwl amdano. Mae clustiau gan y muriau.

Geinor

Rhaid i chithau beidio â sôn am Demetrius bach hefyd. Rwy'n fodlon i chi fy mhryfocio am bopeth arall, ond nid amdano ef.

Walter

Dydw i ddim am dy wneud yn wraig pregethwr os nad wyt ti am fod.

Geinor

Dydw i ddim am fod, a dyna ddigon ar y pwnc yna. Nawr, dim gair yn rhagor. Mae'r cadoediad wed dechrau; ond i chi beidio â sôn am Demetrius fe gadwa innau oddi wrth bwnc y "barmaid."

Walter

Diolch am hynny.

Geinor

{Yn gweld drôr yn y ddesg ag allweddau ynddo] Hylo! Mae'r allweddau yn y drôr yna─rwyf wedi bod eisiau gwybod pa gyfrinach sydd gennych ynddo ers oesoedd a dyma gyfle. (Yn symud at y drôr.)

Walter

Hei! (Yn codi'n wyllt, esgid am un droed yn unig ac yn ceisio rhedeg i rwystro GEINOR i gael yr allweddau i'w dwylo.) Hei! Fy nrôr i ydy hwnna. Aros. {Sgrech. Mae'n hercian i dynnu'r allweddau o'i dwylo gan gloi'r drôr ac yna yn codi'r droed sydd heb esgid gan dynnu tintac allan ohoni.} Pwy ddiawl adawodd hon... (Yn dal y tintac i fyny.)



Daw MRS. MORGAN i mewn yn sydyn drwy'r drws. Benyw ganol oed wedi cadw'n dda ac yn gwisgo'n dda yw hi. Sieryd yn ddistaw ond gan ddisgwyl gwrandawiad ac wedi hen arfer â chael ufudd-dod.} MRS.

Mrs. Morgan

Walter! Rydw i wedi dweud digon wrthych am beidio ag iwsio iaith felna.

Walter

Iaith! Fe fyddai unrhyw angel yn defnyddio'r un iaith petai e'n rhoi ei droed ar ben tintac.

Mrs. Morgan

Beth oeddech chi'n ei wneud yn droednoeth?

Walter

Beth ydych chi'n peidio ag edrych ar ôl y tŷ yma'n iawn yn lle cario cawl ar hyd y pentre? Colli tintacs ar hyd yr holl le gynnau!

Mrs. Morgan

Does dim eisiau'r holl sŵn am rywbeth bach felna.

Walter

Peth bach, ddwetsoch chi! Mae blaen y tintac yna wedi mynd hanner modfedd i mewn i'n nhroed i. Synnwn i fawr na aeth hi a thipyn o'r hosan i mewn gyda hi a dyna "blood-poisoning." Ie, peth bach fydd e pan fydd fy nhroed i wedi chwyddo fel casgen.

Mrs. Morgan

Tynnwch eich hosan. Geinor, cerdd i ymofyn yr ïodin. Rwyt yn gwybod lle...

Walter

Dydych chi ddim yn mynd i gael rhoi ïodin arno. Beth gwell fyddwch chi? Mae'r drwg hanner modfedd i mewn, a faint o les fydd ïodin ar y croen.

Geinor

A gaf i ymofyn yr ïodin, modryb?

Walter

Na chei. Does arna i ddim o'i eisiau.

Mrs. Morgan

O'r gorau. Gwisgwch eich esgid. Cerdd allan i'r ardd am dro, Geinor. Rydw i am siarad â'th ewyrth, ond paid â mynd ymhell.



 Ganon drwy'r ffenestr ffrensh. Eistedd WALTER ar y dde gan baratoi i wisgo'i esgid.

Mrs. Morgan

Walter, a fuoch chi yn Nhre-cyll, neithiwr?



Syrth yr esgid i'r llawr o'i ddwylo. Caiff ei syfrdanu. Metha ddweud dim am ennyd, ond daw rhyw sŵn o'i wddf.

Walter

Fi! Fi! Yn Nhre-cyll! Ni fuais i'n agos i'r lle. Mae pwy bynnag a ddwedodd wrthych chi yn dweud celwydd. Celwydd noeth!

Mrs. Morgan

Ni ddwedodd neb wrthyf. Gofyn oeddwn i?

Walter

O, gofyn aie! Wel, beth oedd pwynt y gofyn?

Mrs. Morgan

Eisiau cael gwybod a welsoch chi Geinor yno.

Walter

Na welais i ddim ohoni. Sut gallwn i? Doeddwn i ddim yno fy hunan.

Mrs. Morgan

Fe glywais y pnawn yma bod Geinor yno gyda mab Mari Jones, y Siop.

Walter

Oedd. Yr oedd hi hefyd.

Mrs. Morgan

O! Sut gwyddech chi?

Walter

E! O... y... fe'i gwelais yn cerdded ar hyd y ffordd tua Thre-cyll.

Mrs. Morgan

Mae'n rhaid i ni roi stop ar y ffrenshibaeth yna. Rhaid i ni ofalu na wêl Mr. Jones hi yng nghwmni mab Mari Jones neu dyna ddiwedd ar y cwbl.

Walter

Diwedd ar beth?

Mrs. Morgan

Diwedd ar y matsh rhyngddi a Mr. Jones.

Walter

(Yn cofio ei fod yn ddyn wedi'r cwbl.) Sara, dydw i ddim yn mynd i'ch gadael chi a Jane i wneud i Geinor briodi Demetrius Jones na neb arall os nad yw hi am.

Mrs. Morgan

Gadewch chi i fi a Jane edrych ar ôl Geinor. Merch i'n chwaer ni yw hi─dydy hi ddim yn perthyn i chi. Ac er ei bod hi yn dewis byw gyda Jane, rydw i'n teimlo cyfrifoldeb amdani. Fe wna i yr hyn sydd orau er ei lles hi.

Walter

A dydy fy marn i yn cyfri dim?

Mrs. Morgan

Dim. Gwell i chi gadw'ch anadl at rywbeth arall. Ond y mae'n rhaid i chi ein helpu ni.

Walter

O! rwy'n ddigon da i helpu, hefyd.

Mrs. Morgan

Rydych chi'n cael mwy o berswâd arni na neb arall. Fe wrendy arnoch chi lle na wrendy hi arna i na Jane.

Walter

O, oes, y mae ganddi dipyn o olwg ar ei hen Nwncwl.

Mrs. Morgan

Wel, ceisiwch ganddi fod yn neis i Mr. Jones pan fydd e'n galw a dwedwch wrthi nad yw hi damaid gwell o geisio cael mynd i Lundain i fod yn actres─na chaiff hi ddim─na fodlonwn i na Jane fyth i hynny. Dwedwch wrthi y caiff hi eich arian chi i gyd yn eich ewyllys.

Walter

(Yn gweld cyfle.) Ond beth gwell fydda i i ddweud hynny. Mae'n gwybod yn iawn nad oes gen i ddim hawl ar yr arian. Mae'r holl bentre yn gwybod. Fi wedi safio a chrafu i grynhoi arian yn Llundain a chithau wedi mynnu'r hawl iddynt bob dimai. Rwy'n sport y pentre. Dallaf i ddim seinio siec fy hunan.

Mrs. Morgan

Nawr, Walter, dydyn ni ddim yn mynd ar ôl hen stori felna eto.

Walter

Digon hawdd i chi siarad. Fi sy'n gorfod dioddef. Fi sydd heb arian poced. A'r cwbwl oherwydd i mi gael un anlwc a cholli deucant ar y "Stock Exchange."

Mrs. Morgan

Does yna'r un pwrpas i sôn am y'peth...

Walter

Wyddoch chi nad oes gen i'r un geiniog yn fy mhoced nawr. Dyn yn werth ei filoedd yn gorfod dibynnu ar haelioni ei wraig am arian poced!

Mrs. Morgan

Os cewch chi berswâd ar Geinor fe godaf eich lwans i chweugain yr wythnos.

Walter

Beth yw chweugain?

Mrs. Morgan

Mae'n fwy na hanner coron.

Walter

Hanner coron yr wythnos! Dyna i gyd rwy'n ei gael. Ac y mae Pensiwn Hen Bobol yn chweugain!

Mrs. Morgan

Pwy sy'n talu am eich bwyd a'ch dillad?

Walter

Pwy safiodd yr arian? Dwedwch hynny. Pwy fu'n slafio ac yn meddwl am ddim ond am reteiro am flynydde. Ac i beth? I dreio byw ar hanner coron yr wythnos.

Mrs. Morgan

Y chi achosodd y cwbl. Y chi gollodd yr holl arian ac y chi seiniodd y weithred yn trosglwyddo'r cwbl i mi. Onibai am hynny buasech wedi colli'r cwbl.

Walter

Ond feddyliais i erioed bod gen i wraig a fyddai mor annynol â rhoi dim ond hanner coron yr wythnos i mi.

Mrs. Morgan

Rwy'n cynnig chweugain i chi os gwnewch chi'r hyn yr ydw i am.

Walter

Wna i ddim ohono dan bunt.

Mrs. Morgan

O'r gorau, os gwnewch chi addo siarad â hi y pnawn yma.

Walter

Pryd y mae'r codiad i ddechrau?

Mrs. Morgan

Pan fydd Geinor wedi addo bod yn wraig i Mr. Jones.

Walter

A beth os na wnaiff hi addo?

Mrs. Morgan

Yna fe fydd yn rhaid i chi fyw ar eich hanner coron. (Yn mynd at y ffenestr ffrensh ac yn gweiddi.) Geinor, dere yma. (Yn dod yn ôl.) Dyma gyfle i chwi, nawr. (Daw GEINOR i mewn.) Cerdd dros lyfrau cyfrifon y "Mother's Union", Geinor. Mae Mrs. Powell-Pryce yn galw rhwng tri a phedwar ac yr wyf am i'r cyfrifon fod yn barod. (Allan drwy'r ffenestr.)



(Ennyd.)

Geinor

Buwyd yn trafod y sefyllfa ariannol, do fe, Nwncwl?

Walter

E! Sut gwyddost ti?

Geinor

O, fe glywais y geiriau "hanner coron yr wythnos" yn fflotio allan drwy'r ffenestr.

Walter

Ydy pawb yn y pentre yn gwybod, Geinor?

Geinor

Ydynt, bawb am wn i. Pam nad ewch chi ar streic, Nwncwl?

Walter

Haws dweud na gwneud. Fi wnaeth y cawl, weld di.

Geinor

Ie, fe glywais; gamblo!

Walter

Roeddwn ar y pryd yn ofni na wellwn i ddim o'r dwymyn ac ar awr wan fe seiniais y weithred yn rhoi pob hawl ar yr arian i'th fodryb, a dyma fi, hanner coron yr wythnos.

Geinor

Wel, fe allai fod yn swllt, oni allai? Byddai hynny yn fwy nag yr ydw i'n ei gael.

Walter

Ond fe elli di wella pethau'n rhwydd.

Geinor

O! Sut?

Walter

Dwed di'r gair ac fe fyddi'n Mrs. Demetrius Jones cyn gynted ag y gellir cyhoeddi'r gostegion.

Geinor

Does gennych chi ddim cof da, oes e, Nwncwl? Ydych chi wedi anghofio'r fargen ynglŷn â'r...

Walter

(Yn gwneud arwyddion cyffrous iddi dewi ac yn gostwng ei lais.) Oni ddwedais i wrthyt ti am beidio â sôn...

Geinor

Do, ac fe addawsoch chithau beidio â son am Demetrius bach, hefyd.

Walter

Dy les di oedd gen i mewn golwg.

Geinor

Ydych chwi yn dweud y gwir i gyd, Nwncwl?

Walter

Wel, nac ydw, efallai ond...

Geinor

Onid dilyn ordors o H.Q. ydych chi?

Walter

Mae yn hen bryd i ti roi heibio'r syniad o fynd i Lundain.

Geinor

Dyna un pwnc arall nad yw i gael ei drafod rhyngom.

Walter

Os ei ymlaen fel hyn, ni fydd gennym yr un pwnc i sôn amdano─bydd yn rhaid i ni fod yn fud yng nghwmni'n gilydd.

Geinor

Fe allwn bob amser sôn am y cwestiwn mawr y lwans wythnosol. Rwy'n addo un peth i chi, Nwncwl, pan fydda i wedi bod trwy'r "School of Dramatic Art" ac yn actres fawr a'm henw mewn goleuadau llachar uwchben drws theatr yn Llundain, rwy'n addo dwblu'ch lwans chi, o leiaf. Os bydda i'n cael deg punt yr wythnos, ac y mae llawer actres yn cael tipyn yn fwy na hynny, fe gewch chi bunt yr wythnos. Meddyliwch beth fydd hynny yn ei olygu i chi yn lle ceisio fy mherswadio i aros yn y pentre hwn dan wab modryb a phriodi gwidman sydd wedi reteirio ar arian ei wraig gyntaf.

Walter

Rwy'n gweld na fydda i damaid gwell o siarad â thi.

Geinor

Dim un tamaid.

Walter

Rwyt wedi etifeddu penstiffrwydd dy fam ac elfen dy dad am actio. Ond cofia, welodd e druan erioed mo'i enw mewn llythrennau llachar. Digon tenau fu eu bywyd hwy a'th un dithau nes i ti ddod i fyw at dy fodryb Jane.

Geinor

Nid arian yw'r cwbl, Nwncwl.

Walter

Nage, efallai. Ond y mae arian yn llawer. Petait yn gorfod byw ar hanner coron yr wythnos o arian poced...

Geinor

Arian neu beidio, i Lundain i ddysgu bod yn actres yr wyf yn mynd beth bynnag a ddywed modryb a phawb arall.

Walter

Rwyt yr un ffunud â'th fam; rwy'n cofio fel petai ddoe am dy fodryb yn pregethu wrthi cyn iddi briodi─roedd y cwbl fel dŵr ar gefn hwyad.

Geinor

Y peth sy'n fy ngwneud yn ynfyd yw bod Dcmetrius bach yn gwneud i modryb garu drosto. Buasech yn disgwyl bod gwidman fel efe, wedi cael profiad, yn gallu gwneud ei garu ei hunan.

Walter

Fe wnâi ond i ti roi hanner cyfle iddo.

Geinor

Rydw i wedi rhoi digon o gyfle iddo. Rwyf am siawns i ddweud wrtho ble mae e'n sefyll i orffen y peth am byth. Ond wnaiff e ddim. Mae'n rhaid cael Modryb Jane fel rhyw fath o "chaperone" bob amser. Os mynd am dro yn ei gar rhaid mynd yn dri. Os mynd i'r sinema, ni'n tri. Rwyf wedi cael digon ar ei garu ac am gyfle i roi stop arno am byth.

Walter

Ust, gwrando. Mae rhywun yn siarad â'th fodryb. Pwy sydd yna?

Geinor

(Yn mynd i'r ffenestr i edrych.) Dim ond Modryb Jane. Na, mae Demetrius yna hefyd. Dwedwch wrthyf i, rydw i wedi meddwl gofyn i chwi sawl gwaith, a fu rhywbeth rhwng Modryb Jane a'r Ianci cyn iddo fynd i'r America.

Walter

Da thi, paid â'i alw wrth yr enw yna.

Geinor

Beth alwaf i arno? Mae Carnolyn R. Rees yn ormod o lond pen, a rywsut nid yw Rees Chicago, yn swnio'n reit. Ond, dwedwch, a fu rhywbeth rhyngddynt?

Walter

Roeddent yn dipyn o gyfeillion.

Geinor

Wel, os yw e wedi dod yn ôl yma i'w hymofyn, mae'n rhaid i mi edrych i mewn i'w "gredentials." Mae Modryb Jane yn llawer rhy neis i briodi pob un sydd wedi gwneud arian yn America.

Walter

Gwylia di dy gamre. Nid dyn i chwarae ag ef yw Rhys. Un gwyllt iawn oedd e cyn mynd i America.

Geinor

A oedd e'n siarad ac yn bragio cymaint yr amser hwnnw?

Walter

Ddim cymaint efallai, ond ni ellid ei alw yn grwt distaw, diymhongar o bell ffordd.

Geinor

Dwedwch, Nwncwl, beth achosodd i Modryb Sara i ofyn iddo aros yma?

Walter

Wel, roedd e'n eitha cyfeillgar â'i theulu hi pan oedd yn fachgen. Ac, wrth gwrs, mae dy fodryb yn hoffi cwmni dynion ariannog.

Geinor

Nid eisiau ei gadw yn weddol agos at Modryb Jane, ai e?

Walter

Beth wn i? Dydw i ddim yn gwybod ei chyfrinachau. Gofyn iddi─dyma hi'n dod.



Daw MRS. MORGAN î mewn a MISS JANE OLIVER a MR. DEMETRIUS JONES yn eî dilyn. Mae JANE yn hollol wahanol w chwaer o ran corff ac ysbryd. Corff hytrach yn eiddil sydd ganddi ond y mae ei hwyneb wedi cadw yn syndod o ifanc. Digon hawdd deall paham y mae GEINOR yn hoff ohoni. Dyn tua hanner cant oed yw DEMETRIUS JONES. Mae yn arbennig o ofalus yng nghylch ei wisg a'i osgo.]

Mrs. Morgan

(Wrth ddod î mewn.) Geinor, gad y cyfrifon yna yn awr. Mae Mr. Jones wedi galw i ddweud ei fod yn meddwl mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol pythefnos i ddydd Iau ac y mae am wybod a hoffit fynd gydag e.

Geinor

A fydd Modryb Jane yn dod hefyd?

Demetrius

Wel, yr wyf am i chwi ddod eich dwy.

Geinor

A ydych chi am fynd, modryb?

Jane

Fe-hoffwn i fynd i'r Eisteddfod unwaith─chefais i ddim cyfle erioed o'r blaen.

Demetrius

Diwrnod mawr y cadeirio yw dydd Iau; dyna paham yr wyf am fynd y diwrnod hwnnw.

Mrs. Morgan

Fe fydd yn "education" i ti, Geinor, i weld cadeirio'r bardd. Dylit fod yn ddiolchgar iawn am y cyfle.

Demetrius

Dyna'r peth wedi setlo, ynte. Rhaid i ni gychwyn yn weddol fore─tua naw yr oeddwn i'n ei feddwl. Byddwn ychydig yn dynn yn y car bach yn dri, ond rhaid i ni wneud y gorau.

Mrs. Morgan

O, rwy'n siŵr y bydd popeth yn iawn, Mr. Jones ac yr wyf yn gwybod eich bod yn ddreifer gofalus dros ben.

Demetrius

Wel, mae'n rhaid i mi beidio ag aros. Rwyf ar hanner ysgrifennu cwpwl o benillion bach i'r "Hysbysydd."

Mrs. Morgan

A oes yn rhaid i chi fynd? Rwyf am i chi gyfarfod â'r "visitor" enwog sydd gyda ni yma─bachgen o'r lle wedi gwneud arian yn America, Mr. Carnolyn Rees.

Geinor

Mr. Carnolyn R. Rees, Modryb─rhaid i chi beidio ag anghofio'r "R"; John D. Rockfeller, nid John Rockfeller.

Walter

Bedyddiwyd ef yn Rhys Rees─yn America yn rhywle y cafodd e afael ar yr enw Carnolyn.

Mrs. Morgan

Beth bynnag, mae'n fachgen sydd wedi gwneud yn dda iawn yno. Mae yn ddiddorol ei glywed yn siarad am ei fywyd yno ac y mae cymaint o "vitality" ynddo.

Demetrius

Roeddwn wedi clywed ei fod yma, a hoffwn yn fawr iawn gwrdd ag ef.

Mrs. Morgan

Fe all fod yn gaffaeliad mawr i'r pentre yma─dyn mor ariannog. Digwydd cwrdd ag ef a wnes i pan ddaeth i roi tro am ei hen ardal. Roedd yn aros yn Nhre-cyll ac fe wnes iddo addo dod i aros atom ni yma tra roedd yn y cylch. Roeddwn yn gyfeillgar iawn ag e cyn iddo fynd i America.

Geinor

Wrth ei glywed yn siarad gellwch feddwl ei fod yn adnabod gangsters Chicago i gyd.

Demetrius

"Dear me," mae'n rhaid i mi ddod i'w adnabod. Faint o amser mae e'n fwriadu aros yn yr ardal?

Mrs. Morgan

Dydy e ddim yn siŵr. Chi'n gweld, mae e'n ddyn â digon o arian ac y mae amser ei hunan ganddo.

Walter

Mae rhyw fusnes neu'i gilydd ymlaen ganddo y pnawn yma. Fe wrthododd ddweud ble'r oedd yn mynd?

Geinor

(Wrth y ffenestr.) Fu e ddim yn hir, beth bynnag. Dyma fe'n dod.

Mrs. Morgan

Rwy'n falch nad aethoch chi cyn iddo ddod, Mr. Jones.



Daw CARNOLYN R. REES i mewn drwy'r ffenestr ffrensh. Dyn tua hanner cant oed ydyw wedi gwisgo fel Americanwr. Hynodion ei olwg a'i wisg ydynt─dant aur, spectol gorn fawr, esgidiau swêd, het Panama, a dillad goleuach eu lliw na'r rhai a welir yn gyffredinol yng Nghymru. Y mae'n siarad Gymraeg llithrig, eithr gyda rhyw gymaint o acen a goslef yr Americanwr. Y mae morthwyl y "'geologist" yn ei law.}

Rees

Wel, wel, dyma'r teulu bach yn gryno. Rwyf wedi bod am dro ar hyd llwybrau ieuenctid.

Walter

Dwed wrthyf i, Rhys, ydy hi yn arfer yn America i gario morthwyl yn lle ffon wrth gerdded?

Rees

Na, na, ond yr ydw i wedi cerdded llawer â hwn yn fy llaw─hwn ddaeth â ffortiwn i mi.

Geinor

Ydych chi'n bwriadu gwneud ail ffortiwn y ffordd hyn eto? Os ydych, yr wyf am fod yn bartner.

Rees

Wel, efallai, pwy a ŵyr?

Walter

Ond beth yw amcan y morthwyl?

Mrs. Morgan

Peidiwch â holi rhagor o Mr. Rees. Rwyf am eich introdiwsio chi i Mr. Demetrius Jones: mae e wedi reteirio ond ei fod e'n pregethu'n achlysurol ac wedi dod i fyw yn ein plith ni yn y lle bach di-nod hwn.

Rees

(Wrth siglo dwylo.) Falch iawn i gwrdd â chi. Mae llawer o fobl nad ydw i'n eu hadnabod yn y lle nawr. Mae'n rhyfedd faint o wahaniaeth a wna pum mlynedd ar hugain.

Demetrius

Rwyf innau yn falch iawn o'r cyfle i'ch cyfarfod chi. Roeddwn wedi clywed sôn amdanoch ar hyd y pentre; fedr dyn sydd wedi gwneud ffortiwn yn America ddim bod yn anadnabyddus yn hir mewn lle bach fel hwn.

Mrs. Morgan

Mae Mr. Jones, yn garedig iawn, yn rhoi llawer lifft i'r merched yma {cyfeiria at GEINOR a JANE] yn ei gar. Mae e'n mynd â nhw i'r Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos ar ôl y nesaf.

Rees

Wel, nawr, dyna beth rhyfedd. Roeddwn i'n meddwl am yr Eisteddfod y pnawn yma. A oes yna ddim gorsedd neu ryw "syndicate" neu'i gilydd yn perthyn i'r Eisteddfod?

Demetrius

Oes, siwr! Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Rwy'n aelod ohoni.

Rees

Dyma fy mhrynhawn lwcus i! Chi yw'r dyn yr wyf am siarad ag ef. Beth yw'r "procedure" i ddod yn aelod? Faint mae'n gostio?

Demetrius

Mae'n rhaid pasio arholiadau...

Rees

Fe fu dyn o Chicago draw yma rai blynydde nôl ac fe'i gwnawd e'n aelod ac yr wyf yn siŵr na phasiodd e "exam" o unrhyw fath ond mewn gwybodaeth am sut i werthu "shares" di-werth. Roedd wedi tynnu ei lun mewn rhyw wisg laes fawr ynghanol lot o fobl eraill wedi'u gwisgo run fath a bu'r llun hwnnw ym mhob papur yn Chicago. Chredwch chi ddim faint o help a fu'r llun hwnnw iddo wrth werthu "shares" wedyn. Na, na, mae'n rhaid bod yna ryw ffordd heblaw pasio "exam."

Demetrius

Mae rhai pobl yn cael eu hethol yn Aelodau.

Rees

Dyna rywbeth nawr. Wel, faint mae hynny'n gostio?

Demetrius

Dydy e'n costio dim...



[Rhagor o destun i'w ychwanegu]



a1