|
|
|
(Gruffydd) A wnewch chwi ddwedyd wrthyf fi fy nhad, |
|
|
|
(Gruffydd) Ynghylch y Croesau, a'r Cyffindir hyn? |
(1, 1) 7 |
Pa beth a glywaist? |
|
(Gruffydd) Mae'r si ar led |
|
|
|
(Gruffydd) Gan ber awelon nef. |
(1, 1) 19 |
Myn bedd fy nhad! |
(1, 1) 20 |
Mae hyn yn ormod i fy natur ddal! |
(1, 1) 21 |
Yr wyf yn teimlo fod pob dafn o'm gwaed |
(1, 1) 22 |
Yn berwi yn fy ngwythienau 'n awr, |
(1, 1) 23 |
A bod pob curiad o fy nghalon drist |
(1, 1) 24 |
Yn galw arnaf roddi dyrnod drom |
(1, 1) 25 |
I'r Sais ffroenuchel, elwir Arglwydd Grey, |
(1, 1) 26 |
Yr hwn ysywaeth farna'r Cymro tlawd |
(1, 1) 27 |
Yn deilwng wrthddrych i'w ddirmygus lid! |
(1, 1) 28 |
Ti wyddost ddarfod i'r pendefig hwn |
(1, 1) 29 |
Flynyddau maith yn ol, wneyd eofn hawl |
(1, 1) 30 |
I'r un darn tir. Ei lwyr orchfygu wnes |
(1, 1) 31 |
A throais iddo ef ei hawl yn wawd |
(1, 1) 32 |
Gan brofi'n glir, mewn teg gyfreithlawn lys, |
(1, 1) 33 |
Fy hawl i'r tir: ac am y Croesau hyn |
(1, 1) 34 |
Treftadaeth oedd i'th dad a'th deidiau di, |
(1, 1) 35 |
Ac i'th gyndeidiau, faith ganrifoedd cyn |
(1, 1) 36 |
Fod son am Arglwydd Grey mewn byd yn bod. |
(1, 1) 37 |
Yn awr, diamheu genyf, tybio mae, |
(1, 1) 38 |
Gan ddyfod Harri Henffordd i'r deyrn-sedd, |
(1, 1) 39 |
Y ca yn awr yn lle cyfiawnder ffafr, |
(1, 1) 40 |
Ac arnaf fi trwy drais y ca ei wyn. |
(1, 1) 41 |
Ond ysbryd Bleddyn, dewr Dywysog Powys, |
(1, 1) 42 |
Cyndaid fy nhad, sydd ynof fi yn fyw, |
(1, 1) 43 |
A chochwaed ein Llewelyn, enwog Lyw, |
(1, 1) 44 |
Cyndaid fy mam, yn fy ngwythienau sydd. |
(1, 1) 45 |
Ca Grey, a'i deyrn, a phob Normaniad wel'd |
(1, 1) 46 |
Fod ysbryd yr hen Gymry eto'n fyw. |
(1, 1) 47 |
A chyn yr ymostyngaf i'w sarhad, |
(1, 1) 48 |
Gwnaf Gymru'n wenfflam, a'i chyffiniau'n waed |
(1, 1) 49 |
A mynaf ryddid, neu enillaf fedd! |
|
(Gwenfron) {Yn canu.} |
|
|
|
(Llewelyn) Gollwng fy merch yn rhydd, neu'n gelain y'th darawaf! |
(1, 1) 109 |
Plant annwn! rhoddwch le! Pob arf i lawr! |
|
(Gruffydd) Ha filain! |
|
|
|
(Gruffydd) {Yn taro Phylip Marglee i'r llawr, ac yn rhyddhau Gwenfron.} |
(1, 1) 113 |
Pa beth yw'r cynhwrf annghyfreithlawn hwn? |
(1, 1) 114 |
A wyddoch Saeson eich bod chwi 'n troseddu? |
(1, 1) 115 |
Pa hawl sydd genych osod troed i lawr |
(1, 1) 116 |
Ar dir y Croesau? |
|
(Marglee) {Yn codi.} |
|
|
|
(Marglee) Fel gweision Arglwydd Grey, ei wir berchenog! |
(1, 1) 120 |
Ei wir berchenog! — Dywed eto air, |
(1, 1) 121 |
'A thynu wnaf o'r gwraidd dy dafod brwnt, |
(1, 1) 122 |
A'i daflu ef i'r cwn,—os bwytu'r cwn |
(1, 1) 123 |
Fath furgyn drewllyd!—Ymaith! ffwrdd a chwi. |
(1, 1) 124 |
Os beiddia eto un o honoch byth, |
(1, 1) 125 |
Neu'ch Meistr ciaidd chwaith ro'i troed i lawr |
(1, 1) 126 |
Ar dir y Croesau, eich ffrewyllu wnaf |
(1, 1) 127 |
Fel cwn yn ol i'ch ffau. |
|
|
(1, 1) 129 |
'N awr Gymry dewch. |
(1, 1) 130 |
Awn ninau adref oll, Dyoddef byth |
(1, 1) 131 |
Un cam ni cha y Cymro dewr, nac un |
(1, 1) 132 |
Gymraes, tra grym yn mraich Glyndwr! |
|
(Brenin) Wel f' Arglwydd Grey, pa fodd yr ydych chwi |
|
|
|
(Brenin) Syr Owen de Glendore! beth ddwedwch chwi? |
(1, 2) 253 |
Fy Arglwydd Frenin! a chwi arglwyddi oll! |
(1, 2) 254 |
Mae'r gwir a'r anwir yn anerchiad Grey, |
(1, 2) 255 |
Fel gwenith da yn gymysg gydâg us; |
(1, 2) 256 |
A rhaid eu nithio'n llwyr cyn gellir cael |
(1, 2) 257 |
Y llafur pur,—A cheisiaf finau'n fyr |
(1, 2) 258 |
Eu dethol:—Gwir ddywedodd ddarfod i |
(1, 2) 259 |
Gyfreithiol lys sicrhau imi fy hawl, |
(1, 2) 260 |
Dan deg deyrnasiad Risiart, frenin da. |
(1, 2) 261 |
Ond anwir noeth oedd d'weyd y gwyrwyd barn. |
(1, 2) 262 |
Gwir ddarfod imi fygwth un o'i gwn, |
(1, 2) 263 |
Ar agwedd dyn, er's 'chydig amser 'nol, |
(1, 2) 264 |
Am geisio treisio merch i un o'm deiliaid. |
(1, 2) 265 |
Pob ci a'm cyfarth, fe ga driniaeth ci; |
(1, 2) 266 |
Pob dyn a'm parcha, parchaf finau ef. |
(1, 2) 267 |
Dewised Reginald Grey pa un o'r ddau, |
(1, 2) 268 |
A'i ci, a'i dyn anfona ataf fi, |
(1, 2) 269 |
A phrofed felly p'run a'i ci a'i dyn |
(1, 2) 270 |
Fydd yntau. |
(1, 2) 271 |
Treftadaeth teulu, er's canrifoedd maith, |
(1, 2) 272 |
Yw tir y Croesau, ddaliwyd genyf fi, |
(1, 2) 273 |
A chan fy nhad, a'm taid, a'm teidiau gynt. |
(1, 2) 274 |
A byth nis gellir, ond trwy drais ei ddwyn |
(1, 2) 275 |
Oddi arnaf. |
|
(Grey) Fy Arglwydd Frenin: |
|
|
|
(Brenin) O blaid y bradwr yn ein herbyn ni? |
(1, 2) 285 |
Fy nghledd o'r wain a dynais lawer tro |
(1, 2) 286 |
O blaid Plantagenet. |
|
(Brenin) A wyddost ti |
|
|
|
(Brenin) Mewn perygl. |
(1, 2) 290 |
Fy Arglwydd Frenin; |
(1, 2) 291 |
Nid oes arnaf gywilydd arddel yma |
(1, 2) 292 |
Yr unrhyw weithred wneuthum yn fy oes! |
(1, 2) 293 |
Ond gwir fy mod er hyn yn ddyogel. |
|
(Brenin) Fy Arglwydd Farnwr Gascoigne, a yw hyn |
|
|
|
(Grey) Yn ngwydd ei well. |
(1, 2) 303 |
Mae genyf eto'i wel'd |
(1, 2) 304 |
Neb gwell o waed, na bôn, na'r un a all |
(1, 2) 305 |
Ei linach olrhain i Dywysogion Cymru! |
|
(Grey) {Yn wawdlyd.} |
|
|
|
(Grey) Tywysogion geifr! |
(1, 2) 308 |
Myn bedd fy nhad, |
(1, 2) 309 |
Cei lyncu 'th air, neu lyncu'm miniog gledd! |
(1, 2) 310 |
Rhof her i ti! a dyna'm maneg lawr! |
|
(Brenin) A wyt ti'n meiddio roddi her i neb, |
|
|
|
(Brenin) Yn mhresenoldeb brenin ar ei sedd? |
(1, 2) 314 |
Mi welais un a elwid y Duc Henffordd, |
(1, 2) 315 |
Yn herio Norfolk gynt yn ngwydd ei deyrn! |
|
(Brenin) A wyt ti yn ein barfu ni fel hyn! |
|
|
|
(Brenin) Cei fyn'd yn rhwym, nes oero'th ysbryd poeth! |
(1, 2) 318 |
Nid oes un rhwym a rwym fy ysbryd i. |
|
(Esgob) {Gan ymaflyd yn mraich Owen, a dweyd o'r neilldu wrtho.} |
|
|
|
(Grey) Pa un a'i Cymro, ynte Sais wyt ti? |
(1, 2) 339 |
'Rwyf eisioes wedi dyweyd fy mod yn disgyn |
(1, 2) 340 |
O uchel fon Tywysogion Gwalia wen, |
(1, 2) 341 |
Nid yw etifedd dewr Llewelyn Lyw |
(1, 2) 342 |
Yn myn'd i wadu ei wlad! Ie, Cymro wyf! |
|
(Grey) D'wed eto, Wyt ti'n hawlio bod yn Sais? |
|
|
|
(Grey) D'wed eto, Wyt ti'n hawlio bod yn Sais? |
(1, 2) 344 |
A'i Sais wyt ti? |
|
(Grey) Ie, Sais o waed wyf fi. |
|
|
|
(Grey) Ie, Sais o waed wyf fi. |
(1, 2) 346 |
Tra bo ti'n Sais, ni fyddaf byth yn Sais! |
|
(Grey) Os felly, mae y prawf yn wir ar ben. |
|
|
|
(Gascoigne) Lw un pendefig. |
(1, 2) 370 |
Diolch ganwaith sydd, |
(1, 2) 371 |
O eigion calon Owain Glyndowrdy, |
(1, 2) 372 |
I'r doeth Brif Farnwr, am ei eiriau mwyn; |
(1, 2) 373 |
Ond os na chaf gyfiawnder teg fel Cymro, |
(1, 2) 374 |
Ni fyn etifedd Bleddyn Fawr o Powys, |
(1, 2) 375 |
Ni fyn orwyr Llewelyn, Tywysog Cymru; |
(1, 2) 376 |
Ni fyn olynydd union Arthur Frenin; |
(1, 2) 377 |
Ni fyn y tri, yn Owain Glyndowrdy, |
(1, 2) 378 |
Gyfiawnder fel pendefig Lloegr byth, |
(1, 2) 379 |
Pe'r Groesau'n Gymru, a phe Cymru'n fyd! |
(1, 2) 380 |
Ond gwae y wlad a wnelo gam mewn llys; |
(1, 2) 381 |
A gwae y teyrn ar sedd. a wyro farn! |
|
(Brenin) Gwell f'ai it' ro'i dy ben yn safn y llew, |
|
|
|
(Grey) Ond nid anghofiaf i! |
(1, 2) 388 |
Fy maneg gwel, |
(1, 2) 389 |
Mae eto ar y llawr o'th flaen: os wyt |
(1, 2) 390 |
Yn meddu gradd o ysbryd dyn i'w chodi. |