|
|
|
(Oll) {Yn canu.} |
|
|
(1, 1) 31 |
Dyma Dir y Croesau y soniais am dano neithiwr. |
(1, 1) 32 |
Tir yw a ddylasai fod yn ffrwythlon o ran ei fod wedi ei fwydo â gwaed dewrion dwy wlad gyfa. |
|
(Llywelyn) Pob un at ei chwaeth, gefnder mwyn. |
|
|
|
(Rhys) Mi gostiodd y gyfraith yn ddrud oni do? |
(1, 1) 57 |
Gwell colli arian na gwaed─ond mi golla'm gwaed cyn colli'm tir. |
|
(Llywelyn) Prin 'rwy'n gweld y lle yn werth ymladd am dano mewn na llys barn na chad waedlyd. |
|
|
|
(Iolo) Be sy'n iawn sy o bwys i ni! |
(1, 1) 61 |
Cofia dithau hynny, Gruff. |
(1, 1) 62 |
Mae'r Sais, a'i drais, a'i draha yn Grey o'r Castell Coch yn bygwth helynt newydd. |
(1, 1) 63 |
Mi gefais air yn ddistaw y gallem ddisgwyl rhuthr ar y Croesau eto. |
|
(Iolo) Twt! lol wirion! |
|
|
|
(Iolo) Tra bo cyfraith a gwaith gwir! |
(1, 1) 70 |
Ie, tra bo cyfraith a gwaith gwir. |
(1, 1) 71 |
Ond chydig geir o rheiny tra b'o Harri ar ei orsedd a Grey o Ruthin yn ei lawes. |
|
(Iolo) Onid wyt tithau cyn belled yn llawes y brenin ag ydyw Grey? |
|
|
|
(Iolo) A be wnai Grey, greadur truan, mewn lleoedd felly, amgen beichio fel llo neu ffoi am ei hoedl! |
(1, 1) 76 |
Mae pethau wedi newid er hynny, Iolo bach! |
(1, 1) 77 |
Cof byr yw cof cymwynas, ond hir yw atgo digter. |
|
(Oll) Wele hai am yr helfa drwy'r coed! |
|
|
|
(Iolo) {Yn ymosod.} |
(1, 1) 165 |
Pa beth yw hyn? |
(1, 1) 166 |
Ha! |
|
|
(1, 1) 168 |
Lifre Grey o Ruthyn! |
(1, 1) 169 |
Pam y troseddwch ar dir Glyndwr? |
|
(Marglee) {Yn gweinio eí gledd.} |
|
|
|
(Marglee) {Yn cyfeirio at y faner ar y llumanbren.} |
(1, 1) 173 |
Myn fy einioes! |
(1, 1) 174 |
Oni bae fod gennyf fwy o barch i mi fy hun nag i ti a'th feistr, mi dy grogwn y funud hon, tydi a'th wyr, am y sarhad a wnest. |
(1, 1) 175 |
Pa le mae fy manner? |
|
(Milwr 1) {Yn cerdded yn gloff tuag ato.} |
|
|
|
(Milwr 1) Dyma hi, fy Arglwydd. |
(1, 1) 178 |
Yn ol a hi i'w lle! |
(1, 1) 179 |
I lawr â lluman Grey! |
|
|
(1, 1) 181 |
Na! |
(1, 1) 182 |
Ca'r dwylaw a daflasant laid ar luman Cymru ei olchi eto i ffwrdd! |
(1, 1) 183 |
Chwi filwyr Grey, â'ch dwylaw eich hun gwnewch hyn! |
|
|
(1, 1) 186 |
Yn ol a chwi i'ch ffau! |
(1, 1) 187 |
A dywed wrth dy feistr Grey os beiddia ef, neu ti, neu neb o'i wyr, roi troed ar dir y Croesau mwy heb ganiatad Glyndwr, mai'r crogbren a fydd rhan y neb a wna. |
|
(Iolo) Da iawn, Glyndwr. |
|
|
|
(Iolo) Ond un peth a anghofiaist. |
(1, 1) 190 |
Pa beth yw hynny? |
|
(Iolo) Mae'r fanner yn ei lle─ond ble mae'r parch? |
|
|
|
(Syr Rhys a'r Cymry Oll) Gwir! Gwir! |
(1, 1) 195 |
Wel, dyna ddechreu'r storm. |
|
(Tywysog) {Wrth yr Esgob.} |
|
|
(1, 2) 229 |
Diolch i'ch Huchelder Brenhinol. |
(1, 2) 230 |
Mae eich croesaw yn anrhydedd a'ch cwmni yn ddywenydd bob amser i Gymro tlawd fel myfi! |
|
(Tywysog) {Yn chwerthin.} |
|
|
|
(Grey) Mor barod ag yw'r ci i ddod i wyneb ei ysglyfaeth. |
(1, 2) 295 |
Da gwnaeth yr Arglwydd Grey i alw'i hun yn gi, canys hynny yw, a hynny a fu erioed. |
(1, 2) 296 |
Ond, p'run a fydd Glyndwr yn 'sglyfaeth iddo sy'n gwestiwn arall! |
|
(Tywysog) Ie'n bwyllog, Arglwydd Grey! |
|
|
|
(Grey) Parch iti yn unig a wnaeth imi ymatal pan gododd y bocsachwr hwn ei lais mor groch yngwydd ei well. |
(1, 2) 306 |
Ei well! |
(1, 2) 307 |
P'le gwelir gwell o waed neu fonedd na'r sawl a olrheinia linach glir ei waed o Dywysogion Cymru? |
|
(Grey) Tywysogion Cymru'n wir! Tywysogion geifr! |
|
|
(1, 2) 310 |
Myn bedd fy nhad, cei lyncu'th air dy hun neu'm cleddyf i! |
(1, 2) 311 |
Rhof her iti! |
(1, 2) 312 |
A dyna'm maneg i lawr! |
|
|
|
(Brenin) A feiddi di roi her i neb ym mhresenoldeb y brenin yn ei lys? |
(1, 2) 316 |
Nid myfi yw'r cyntaf a wnaeth hynny. |
|
(Brenin) {Yn codi ar ei draed.} |
|
|
|
(Grey) Ai Cymro ynte Sais wyt ti? |
(1, 2) 333 |
Ni wedais i erioed ac ni wadaf byth fy ngwlad, fy iaith, na'm cenedl. |
(1, 2) 334 |
Yn Gymro y'm ganed i, ac yn Gymro y'm cleddir, pan welo Duw yn dda. |
|
(Grey) Ni fynnet felly hawlio bod yn Sais? |
|
|
|
(Grey) Ni fynnet felly hawlio bod yn Sais? |
(1, 2) 336 |
Pa beth wyt ti, De Grey? |
|
(Grey) Sais ydwyf fi o waed a chalon. |
|
|
|
(Grey) Sais ydwyf fi o waed a chalon. |
(1, 2) 338 |
Wel dyna ddigon! |
(1, 2) 339 |
Os wyt ti'n Sais, a thra bo Saeson yn ymfalchio'th fod yn Sais, ni allaf, gyda hunan barch, fyth chwennych hawlio fy mod i yn Sais. |
|
(Grey) Wel, felly yn fyr. |
|
|
|
(Brenin) Syr Owen de Glendore, pa beth a ddywedi di? |
(1, 2) 376 |
Fy Arglwydd Frenin. |
(1, 2) 377 |
Mi ddeuthym yma i geisio'r hyn oedd gyfiawn imi fel dyn, a pherchen tir. |
(1, 2) 378 |
Dim mwy na llai na hynny. |
(1, 2) 379 |
Gwrthodwyd hyn i mi, nid am nad oedd fy hawl yn deg a chyfiawn, ond am fy mod yn Gymro. |
(1, 2) 380 |
Cymhellir fi i'w geisio 'nawr fel Sais. |
(1, 2) 381 |
Ond os gwrthodir cyfiawnder i mi fel Cymro, ni fyn olynydd syth y Brenin Arthur Fawr ei gael trwy ddweyd ei fod yn Sais! |
(1, 2) 382 |
Na! |
(1, 2) 383 |
Pe bai'r Croesau'n Gymru, a phe bai Cymru'n fyd! |
(1, 2) 384 |
Ond gwae i'r wlad a wnelo gam mewn llys! |
(1, 2) 385 |
A gwae i'r teyrn a wyro farn ar sedd! |
|
(Brenin) {Gydag urddas.} |
|
|
(1, 2) 390 |
Tydi! |
(1, 2) 391 |
Y gwron gwych sy'n llechu'n nghysgod teyrn. |
(1, 2) 392 |
Gwel fy maneg! |
(1, 2) 393 |
Mae honno eto ar lawr! |
(1, 2) 394 |
Os wyt ti'n ddyn, ti wyddost beth i'w wneud! |