Pleser a Gofid

Ciw-restr ar gyfer Gofid

(Pleser) |Now, by your leave, gentlemen and ladies|:
 
(Pleser) Feddwl fod y farn.
(1, 1) 270 Wel y mae drwg yma eto, pa beth ydyw'r mater?
(1, 1) 271 Pwy sy'n dyrchafu natur Pleser?
(1, 1) 272 O ran nid oes pleser yn y byd,
(1, 1) 273 Na f'o Gofid ar ei gyfer.
(Pleser) Mae natur Pleser yn fwy cryf ei foddion
 
(Pleser) Ei fwyniant di gel i'r galon.
(1, 1) 278 Nid yw Pleser ond fel ergyd,
(1, 1) 279 Neu fflam o eirias natur danllyd;
(1, 1) 280 Os tyf arno ffrwythe cnawd a gwaed,
(1, 1) 281 Maent yn gwywo dan draed Gofid.
(Pleser) Gan ei myn'd yn |ddispute| mor eger,
 
(Pleser) Myfi ydyw'r blysig Arglwydd Pleser.
(1, 1) 284 Myfine ydyw, syth ei wâr,
(1, 1) 285 Y Gofid, 'rwyf ar dy gyfer,
(Pleser) Dywed y gwir, drwy gariad,
 
(Pleser) Pa le y cefest ti ddechreuad?
(1, 1) 288 Yn mysg y prene, siwrne saeth,
(1, 1) 289 Gydag Adda pan aeth i ymguddiad.
(Pleser) O, 'r Cymro glew, mi glywa'
 
(Pleser) Neu delyn yn eu dwylo.
(1, 1) 309 Felly 'roedd Saul yn Israel,
(1, 1) 310 Yn cael heddwch gan y cythrel;
(1, 1) 311 Ond pan ddystawo pob ystwr,
(1, 1) 312 Mae Gofid yn siwr mewn gafel.
(1, 1) 313 ~
(1, 1) 314 Gwreiddyn euogrwydd, cydwybod effro,
(1, 1) 315 Gofid a melldith wnaeth.i Gain ymwylltio;
(1, 1) 316 A chalon g'ledwch fel Pharo ddiglod,
(1, 1) 317 I'w ddirnad, oedd y nod oedd arno.
(1, 1) 318 ~
(1, 1) 319 Felly pan gollo rhai'r gwirionedd,
(1, 1) 320 Hwy gym'rant eu pleser yn mhob agwedd,
(1, 1) 321 Pe gwelit heddyw, mae ef fel o'r blaen,
(1, 1) 322 Yma blant i Gain ddigonedd.
(Pleser) Ni waeth i ti p'un, mae rhei'ny weithie,
 
(Pleser) Ydyw siarad am blesere.
(1, 1) 327 Wel, os ceir Pleser dipyn heno,
(1, 1) 328 Bydd Gofid, cyn y fory, yn dechre cyfeirio;
(1, 1) 329 Ni cheir Pleser cnawdol am fawr hyd,
(1, 1) 330 Na fo Gofid gydag efo.
(Pleser) Wel, edrych di ar foddion,
 
(Pleser) Yn fwynedd y byd a fynon'
(1, 1) 335 Ond ydyw'r boneddigion o'u mawrhydi,
(1, 1) 336 Yn gwerthu tiroedd, ac yn tori,
(1, 1) 337 Ac yn gadel eu gwlad o fan i fan,
(1, 1) 338 Mae Gofid yn rhan i'r rhei'ni.
(Pleser) Ni chymer boneddigion fawr o ofidi,
 
(Pleser) Mae'u naturieth nhw byth yn tori.
(1, 1) 343 Pan darffo'r hen anian, mae natur yn oeri,
(1, 1) 344 Mae'r balchder a ffrwgwd, a'r sibrwd yn sobri,
(1, 1) 345 Dyna ddaeth a'r afradlon gynt
(1, 1) 346 Am ei helynt i ymholi.
(Pleser) Peth caled ydyw barnu
 
(Pleser) Mewn rhinwedd mae rhai er hyny.
(1, 1) 351 Digon gwir fod rhai'n cael eu gwared
(1, 1) 352 Trwy ofid, ac erlid, a chaethiwed;
(1, 1) 353 Gwasgfeuon y byd a th'lodi yn nglyn
(1, 1) 354 Sy'n dwyn llawer dyn i deimlad,
(Pleser) Tu hwnt i bob teimlad na chyfiawnder,
 
(Pleser) Ac yn mache Llwyd Pen Mechyn.
(1, 1) 364 Wel chwi glywsoch fel ca'dd yr Aiphtied,
(1, 1) 365 Ddyodde llawn gystudd rhwng llau a locustied;
(1, 1) 366 Ond mae pla'r cyfreithwyr yn fwy o frad,
(1, 1) 367 I wneud dyben y wlad 'rwy'n tybied.
(1, 1) 368 ~
(1, 1) 369 Wrth ddilyn y gyfreth areth erwin,
(1, 1) 370 Llaweroedd aeth heddyw heb na thy na thyddyn;
(1, 1) 371 Rhyfedd os nad oes dial a braw,
(1, 1) 372 Rhyw ddiwrnod a ddaw arnyn'.
(Pleser) Wel, llawer gwell a fyddwn ni er hyny,
 
(Pleser) O genfigen yn cydfygu.
(1, 1) 377 Cyn barn mae dadlu, dyma'r bywyd
(1, 1) 378 Y dyle'r annuwiol gael ei newid;
(1, 1) 379 'Does ragor i'r cyfoethog na'r tylawd
(1, 1) 380 A rodio'n ol y cnawd a'i ryddid.
(Pleser) Gâd heibio'r cyfreithwyr, a thro tuag adre',
 
(Pleser) Yn siwrach o gael plesere,
(1, 1) 385 Plesere diawledig sydd i rai tylodion,
(1, 1) 386 Yfed a gwario, dyna fyd gwirion;
(1, 1) 387 A'r gwpan yn sêl, heb gael prin fara sych,
(1, 1) 388 A'r Gofid crych yn y crochon.
(Pleser) Wel, y ffermwyr i'w hateb a'i pia hi eto,
 
(Pleser) Maent hwy'n byw'n weddus ar ben eu heidde.
(1, 1) 391 Rhwng trethi ac ardrethion, a balchder serth,
(1, 1) 392 Mae Gofid anferth yno.
(1, 1) 393 ~
(1, 1) 394 A'r bon'ddigion geirwon sydd ar eu gore,
(1, 1) 395 Am eu troi nhw'n ddinerth o'u tir a'u meddiane;
(1, 1) 396 A hwythe'r offeiried yn gollwng i'r diawl,
(1, 1) 397 Mor nodawl yr eneidie.
(1, 1) 398 ~
(1, 1) 399 Rhwng y cythrel a'r bon'ddigion,
(1, 1) 400 Mae hi'n helynt lidiog ar dylodion,
(1, 1) 401 'Does dim esmwythder i'w gael o hyd,
(1, 1) 402 Yn un o'r ddau fyd i ynfydion.
(Pleser) Nis gwn i ai celwydd ai gwir yw coelion,
 
(Pleser) O fwyniant, gwnant a fynon'.
(1, 1) 407 O, siarad annghall yw son am dynged,
(1, 1) 408 On'd oes gras i ragflaenu pob rhyw blaened?
(1, 1) 409 Onide ni waeth i ddynion ddilyn eu chwant,
(1, 1) 410 'Run foliant a'r anifeilied.
(1, 1) 411 ~
(1, 1) 412 Beth ydyw'r darllen a'r holl bregethu?
(1, 1) 413 Ond galw dynion i gael daioni;
(1, 1) 414 O ran mae'n rhaid i bob un ymroi,
(1, 1) 415 Droi wyneb o'i drueni.
(Pleser) Wel, ymro di'n fynych, mi dd'wedaf ine,
 
(Pleser) Gytunol efo'r tane.
(1, 1) 420 O, dynion gonest sy'n dawnsio ac yn canu,
(1, 1) 421 Angylion i'w gweled, ond diawlied i'w teulu;
(1, 1) 422 Pleser naturiol yw clywed swn tant,
(1, 1) 423 A'r wraig a'r plant yn nadu.
(Pleser) Peth hawddgar yw dynes wenlan groen dene,
 
(Pleser) Wedi ymwisgo â dull odieth, yn hardd ei dillade.
(1, 1) 426 Wel, os bydd iddi hithe ddilyn ei chwant,
(1, 1) 427 Aiff ei dillad yn gant o dylle.
(Pleser) Wel, wfft i ti Gofid, on'd wyt yn mhob gafel,
 
(Pleser) Yn dyfod yn o ryfedd, nod y dafarn a'r efel.
(1, 1) 430 Ffarwel i ti rwan, mi âf ar fy rhod,
(1, 1) 431 Ond na feddwl fy mod yn ymadel.
(Pleser) 'Rwy'n meddwl ac yn ofni
 
(Pleser) O b'le 'rwyt ti heno yn rhodio mewn rhyddid?
(1, 1) 1438 O dramwy'r ddaear ac ymrodio ynddi,
(1, 1) 1439 'Run fath a Satan, weithie yn mhob |city|.
(Pleser) 'Rydwy'n awr mewn trafferth arw
 
(Pleser) Gyda Rondol y cybydd sy'n wr gweddw,
(1, 1) 1442 Oni chlywes ei fod yn dechre rhwystro?
(1, 1) 1443 Tori gwaith i mi sydd yno.
(Pleser) Mae arnaf gryn helynt yn cerdded ac ymholi;
 
(Pleser) Sy'n ffaelu ymdopio gyda'r |Dippers|,
(1, 1) 1448 Ond ydwyf fine tan boene beunydd,
(1, 1) 1449 Wrth deimlo'r fath wenwyn dygn sy'n di'gwydd;
(1, 1) 1450 Lle dyle cariad fod yn cyraedde
(1, 1) 1451 Mae'r wlad wedi chwiblo gan lid a chabledd.
(Pleser) Wel, ond y |Dippers| sy bron myn'd yn dopie
 
(Pleser) Fel y golchont hwy bechod mawr a bychan,
(1, 1) 1456 Mae hwy'n rhoi dyn bychan i farw dan bechod;
(1, 1) 1457 Nid oes i hwnw ddim hawl mewn gras na chyfamod;
(1, 1) 1458 Maent hwy'n fwy dichell na hwnw yn y dechre
(1, 1) 1459 Fu'n cym'ryd plant bychen yn ei freichie.
(Pleser) Mae hi y'mhlith crefyddwyr yn lecsiwn gyffredin
 
(Pleser) Na wyddent hwy haner oddiwrthynt eu hunen.
(1, 1) 1464 Mae llawer o drueni trwy'r byd ar gerdded
(1, 1) 1465 A rhai'n barnu beunydd ar eu gilydd yn galed,
(1, 1) 1466 Ond pwy all farnu gwas arall pe ba'i fe'n trawswyro?
(1, 1) 1467 Ond i'w Arglwydd ei hun mae fe'n sefyll neu syrthio?
(Pleser) Mae amlach adar mân yn canu'r bore
 
(Pleser) Ac felly'r gwir Gristion at yr eglwys.
(1, 1) 1477 Mae pob peth i'w elfen yn tynu'n gyson
(1, 1) 1478 'Run fath a cheffyl yn piso mewn afon:
(1, 1) 1479 Mae cnawd i 'nifeilied, i adar, i bysgod
(1, 1) 1480 Naturieth a'u henfyn bob uneun i'w hanfod.
(1, 1) 1481 ~
(1, 1) 1482 Mae'r dydd yn mron tori derfydd pob twrw
(1, 1) 1483 Ni thâl, Wele yma, neu, Wele acw;
(1, 1) 1484 Ni cheiff neb |oil| i'w lamp oddi allan,
(1, 1) 1485 Ond yr hyn a gynwysodd yndde'i hunan.
(Pleser) A wyddost ti beth, mae amryw'n diflasu
 
(Pleser) Glywed Gofid yn dynwared pregethu.
(1, 1) 1488 Yn wir, Gofid a ddyle bregethu fynychaf,
(1, 1) 1489 Mae amryw bregethwyr ar yr iachaf.
(1, 1) 1490 ~
(1, 1) 1491 Ond gwir yw'r gair, trwy gywir gariad,
(1, 1) 1492 Ac yn haeddu beunydd bob derbyniad;
(1, 1) 1493 Mae'r gwir yn ddidwyll yn gywir i'w ddywedyd
(1, 1) 1494 Mewn amser, ac allan o amser hefyd.
(Pleser) Wel, gwir a ddywedaf fineu'n union,
 
(Pleser) Ni wel'sant hwy erioed ddihirach amser.
(1, 1) 1499 Dyna ddengys i chwi yn benaf beth yw |bath| bryniol,
(1, 1) 1500 Fo heb ddelw'r brenin yn gyfreithlon a breiniol,
(1, 1) 1501 Ond delw Cesar i Cesar, neu'r diawl os oes eisie,
(1, 1) 1502 A'r twyllwr i'r twyllwr aed pob un i'w tylle.
(Pleser) Hawdd gen'ti siarad rhyw hen syrwrw.
 
(Pleser) Diawl tynwch o'u gilydd, dyna i chwi geiliog.
(1, 1) 1512 Wel erbyn y c'odont i chwilio'n pocede,
(1, 1) 1513 Mi fyddaf fineu o bergl'n dwad atynt hwy'r bore,
(1, 1) 1514 A dolur i'w clole ar ol bod yn clulian,
(1, 1) 1515 Mewn blinder ac aflwydd oherwydd eu harian.
(1, 1) 1516 ~
(1, 1) 1517 Rhai'n bloeddio ac yn soundio, rhai eraill mewn syndod,
(1, 1) 1518 Rhai'n llaesu boche wedi colli gwerth buchod,
(1, 1) 1519 Un arall yn y gornel a dolur o'i gerne,
(1, 1) 1520 A'i geiliog yn gorpws, a'i ddillad yn garpiau.
(1, 1) 1521 ~
(1, 1) 1522 A dyna i chwi ynfydion yn llwyr bendifadu,
(1, 1) 1523 Wedi i felldith eu pleser a'r diawl eu cwplysu:
(1, 1) 1524 O b'le ceiff y rhei'ny drugaredd na rhinwedd,
(1, 1) 1525 Ond lle dalio hwy'n dewis, a diawl yn eu diwedd.
(Pleser) Wel chwi glywsoch hen ddiarhebion,
 
(Pleser) Heb falchder diawl yn eu dilyn.
(1, 1) 2091 Wel, dawnsio'r wyt ti, i ddal rhai yn 'runlle,
(1, 1) 2092 I rythu llyged ac agor eu cege;
(1, 1) 2093 On'd ydyw hi'n amser i bob un
(1, 1) 2094 Mewn oedran gychwyn adre.
(Pleser) Wel, dyma Ofid yn dwad, rhaid i mi dewi,
 
(Pleser) Rho anair i ddawns y rhei'ny.
(1, 1) 2099 Ni allaf ddim rhoi anair iddynt,
(1, 1) 2100 Maent hwy'n rhydd i wneud fel y clywont arnynt;
(1, 1) 2101 Os oes cynwr' neu ffwndwr yn eu ffydd,
(1, 1) 2102 Llawenydd a'i ddeunydd ynddynt.
(1, 1) 2103 ~
(1, 1) 2104 Beth? a raid i wyr uffern gael eu rhaffe,
(1, 1) 2105 Ar y |pit| ceiliogod, ac yn y tafarne?
(1, 1) 2106 Ac ni all pechaduried roi dim clod,
(1, 1) 2107 Os teimlan' hwy nod eu heneidie,
(1, 1) 2108 ~
(1, 1) 2109 Beth pe b'ai rhyw un o'r cwmpeini,
(1, 1) 2110 Yma, wedi ei fwrw i'w grogi,
(1, 1) 2111 Ac i air ddyfod y cai fod yn rhydd,
(1, 1) 2112 Oni fydde llawenydd yn ei lenwi?
(1, 1) 2113 ~
(1, 1) 2114 Felly'r un modd yn eglur,
(1, 1) 2115 Ydyw'r chwedel mewn pechadur:
(1, 1) 2116 Ni all ef pan brofo fe beth o'r braint,
(1, 1) 2117 Ddim gosod pa faint ei gysur.
(Pleser) Wel, on'd oes rhai'n cerdded hyd y cwrdde,
 
(Pleser) Wedi glynu yn eu calone.
(1, 1) 2122 Nid y tro cyntaf wrth redeg,
(1, 1) 2123 Mae dwfr yr afon yn llyfnhau'r gareg;
(1, 1) 2124 Ni chwympodd mur Jerico ddim wrth un llef;
(1, 1) 2125 Fe edwyn y nef ei hadeg.
(1, 1) 2126 ~
(1, 1) 2127 Gadewch i'r cwn, trwy'ch cenad,
(1, 1) 2128 Gyfarth y ser a siarad;
(1, 1) 2129 Ni wyr twrch daear ddim am yr haul,
(1, 1) 2130 Na llawer am draul y lleuad.
(1, 1) 2131 ~
(1, 1) 2132 Ni wyr asyn gwyllt neu eidion
(1, 1) 2133 Ddim byd am gyflwr Cristion,
(1, 1) 2134 Ni wyr dyn cnawdol ddim am ras,
(1, 1) 2135 Mae'n g'wilydd ac yn gas gan ei galon.
(Pleser) Wel, un o'r Cyriadogs wyt ti, 'rwy'n credu,
 
(Pleser) Ond ffydd eglwys Loegr ydwy'i'n garu.
(1, 1) 2138 Nid mynych y gwelir di (goelia i)
(1, 1) 2139 Yn un o eglwysi Cymru.
(Pleser) Wel, 'rydwy'i'r un ffydd a'r person a'r clochydd
 
(Pleser) A glosiant i'r eglwysydd.
(1, 1) 2144 Y rhan fwyaf o ffydd y rhei'ny
(1, 1) 2145 Yw dyfod i'r llan i siarad ac ymholi,
(1, 1) 2146 Ac ysbio dillade'r naill a'r llall,
(1, 1) 2147 Ac ystyried pob gwall |history|.
(1, 1) 2148 ~
(1, 1) 2149 Fe fydd rhai yn y llan yn pendwpian yn fusgrell,
(1, 1) 2150 A'r lleill yn chwerthin tan eu 'sgafell,
(1, 1) 2151 Heb wrando darlleniad mwy na brefiad bran,
(1, 1) 2152 Na theimlo'n lân un linell.
(1, 1) 2153 ~
(1, 1) 2154 Ac wrth ddwad adre hwy fyddant yn dwndro,
(1, 1) 2155 Pawb wrth eu natur a'i chwedl ganddo:
(1, 1) 2156 Ni fydd am y bregeth odieth wawr,
(1, 1) 2157 Na gwasaneth, fawr yn synio.
(Pleser) Os bydd rhai ieuenc yn rhuo ryw afieth,
 
(Pleser) Bydd yr hen rai brigwyn yn son am y bregeth.
(1, 1) 2160 Byddant yn son, fe alle'n siwr,
(1, 1) 2161 Yn ddigynwr' o ran gwenieth.
(1, 1) 2162 ~
(1, 1) 2163 Hwy ddywedant, O! pe gwnaem ni'n loyw
(1, 1) 2164 Gyment yn gyhoeddus ag a glywsom ni heddyw,
(1, 1) 2165 Ni fydde raid ddim cerdded o fan i fan,
(1, 1) 2166 I gocian yma ac acw.
(Pleser) Mae hyny'n wir diwahanieth,
 
(Pleser) Fod yn Eglwys Loegr ddifai athrawieth.
(1, 1) 2169 Fe fydde'n iachus ar les y plwyf,
(1, 1) 2170 Pe bydde halen yn fwy heleth.
(1, 1) 2171 ~
(1, 1) 2172 Ond lle diflasodd halen cydwybod,
(1, 1) 2173 A pha beth yr helltir? Dyna lle mae'r hylldod,
(1, 1) 2174 Can's yn y tir yn wir ni wna,
(1, 1) 2175 Na'r domen un da amod.
(1, 1) 2176 ~
(1, 1) 2177 Athrawieth lygoer, chwydlyd, lygredd,
(1, 1) 2178 Ddifraw, digariad, heb fod na brwd nac oeredd,
(1, 1) 2179 Mae melldith ar y grefydd hon
(1, 1) 2180 Fel Meros a'i thrigolion marwedd,
(Pleser) Son am Meros, a rhyw groes gyfeirio,
 
(Pleser) Na wyr dynion ddim byd am dano.
(1, 1) 2185 Mae llawer o ddynion yn llwyr ddiddaioni,
(1, 1) 2186 Fel tyrchod daear yn gwrando ac yn tewi;
(1, 1) 2187 Ac ni agorant mo'u llyged nes meirw'n llwyr
(1, 1) 2188 Ar wyneb rhy hwyr drueni.
(Pleser) Ni waeth i ti dewi, mae'r bobl yn dechre,
 
(Pleser) Ymeth yn fwyn yr âf fine.
(1, 1) 2194 Nid ydyw Gofid ond ail i gafod,
(1, 1) 2195 Lle toro cwmwl mae'n rhaid ci ddigymod:
(1, 1) 2196 Ni fydd ar neb â chalon iach
(1, 1) 2197 Ond Gofid bach am bechod.
(1, 1) 2198 ~
(1, 1) 2199 Mae diwedd pob trwst yn dwad,
(1, 1) 2200 Y Pleser a'r Gofid anfad:
(1, 1) 2201 Peth gore i ddyn sy'n briddyn brau,
(1, 1) 2202 Yw cyrhedd effeithie cariad.
(1, 1) 2203 ~
(1, 1) 2204 Mae'n bryd i ni dewi, a rhoi ymadawiad,
(1, 1) 2205 Cofiwch mae diwedd ar bob peth yn dwad;
(1, 1) 2206 Ni ail Gofid na Phleser, drawster dro,
(1, 1) 2207 Ddim cyrhedd lle gwreiddio cariad.
(1, 1) 2208 ~
(1, 1) 2209 Chwi wyddoch bawb yn weddedd,
(1, 1) 2210 Fel y galwyd pob peth yn wagedd:
(1, 1) 2211 Mae pob rhyw gnawdol raddol rym,
(1, 1) 2212 Yn dwad i ddim yn y diwedd.