Glyndwr, Tywysog Cymru

Cue-sheet for Grey

(Oll) {Yn canu.}
 
(1, 2) 294 Mor barod ag yw'r ci i ddod i wyneb ei ysglyfaeth.
(Glyndwr) Da gwnaeth yr Arglwydd Grey i alw'i hun yn gi, canys hynny yw, a hynny a fu erioed.
 
(Brenin) Ymlaen, fy Arglwydd
(1, 2) 304 Fy Arglwydd Frenin.
(1, 2) 305 Parch iti yn unig a wnaeth imi ymatal pan gododd y bocsachwr hwn ei lais mor groch yngwydd ei well.
(Glyndwr) Ei well!
 
(Glyndwr) P'le gwelir gwell o waed neu fonedd na'r sawl a olrheinia linach glir ei waed o Dywysogion Cymru?
(1, 2) 308 Tywysogion Cymru'n wir! Tywysogion geifr!
(Glyndwr) {Yn ffyrnig.}
 
(Brenin) Ymlaen, De Grey!
(1, 2) 328 Dymunaf ofyn cwestiwn teg i'r gwr difoes a saif mor haerllug yma o flaen ei deyrn.
 
(1, 2) 332 Ai Cymro ynte Sais wyt ti?
(Glyndwr) Ni wedais i erioed ac ni wadaf byth fy ngwlad, fy iaith, na'm cenedl.
 
(Glyndwr) Yn Gymro y'm ganed i, ac yn Gymro y'm cleddir, pan welo Duw yn dda.
(1, 2) 335 Ni fynnet felly hawlio bod yn Sais?
(Glyndwr) Pa beth wyt ti, De Grey?
 
(Glyndwr) Pa beth wyt ti, De Grey?
(1, 2) 337 Sais ydwyf fi o waed a chalon.
(Glyndwr) Wel dyna ddigon!
 
(Glyndwr) Os wyt ti'n Sais, a thra bo Saeson yn ymfalchio'th fod yn Sais, ni allaf, gyda hunan barch, fyth chwennych hawlio fy mod i yn Sais.
(1, 2) 340 Wel, felly yn fyr.
(1, 2) 341 'Rwyf fi yn hawlio'r Croesau ar fy llw, fel Sais.
(1, 2) 342 Syr Owen, yntau hawlia'r Croesau ar ei lw fel Cymro.
(1, 2) 343 Gwnaed hynny'n hollol glir.
(1, 2) 344 'Nol deddfau Lloegr ni all amheuaeth fod.
(1, 2) 345 Ni ellir derbyn llw'r un Cymro byth yn erbyn llw Sais.
(Brenin) Fy Arglwydd Farnwr, a yw De Grey yn iawn?
 
(1, 2) 362 A yw Syr Edmund Mortimer yntau'n troi yn dwrnai?
(Mortimer) Na, nid felly chwaith, ond erys Mortimer fel cynt yn foneddwr syml, yn parchu ei wlad a'i chlod.
 
(Brenin) Adgofiaist fi iti ymladd wrth fy ystlys gynt mewn cad; gwna'r atgo hwnnw imi anghofio'r geiriau gwyllt a lefarwyd heddyw gennyt ger fy mron mewn llys.
(1, 2) 388 Ond nid anghofiaf fi!
(Glyndwr) {Yn troi arno.}
 
(Glyndwr) Os wyt ti'n ddyn, ti wyddost beth i'w wneud!
(1, 2) 396 Apelio 'rwyf am ddedfryd o fy mhlaid.
(Mortimer) Apeliaf finnau, er mwyn anrhydedd Lloegr, am i'r achos hwn gael gwrandawiad llawn a theg ar ffeithiau gwir, ac nid ei benderfynu ar lythyren deddf.
 
(Mortimer) Apeliaf finnau, er mwyn anrhydedd Lloegr, am i'r achos hwn gael gwrandawiad llawn a theg ar ffeithiau gwir, ac nid ei benderfynu ar lythyren deddf.
(1, 2) 398 Mae deddf yn ddeddf er hyn i gyd, ac ar y ddeddf, a thrwy y ddeddf, 'rwyf eto'n hawlio'r tir.