|
|
|
(Llewelyn) Wel, dyma obaith im' o'r diwedd gael |
|
|
|
(Llewelyn) Yn holliach Gymro gwladgar unwaith eto. |
(1, 2) 119 |
Mae wedi myn'd yn amser rhyfedd iawn yn Nghymru pan droir ffwrdd fel cwn benaethiaid uchaf fedd y wlad o ddrws yr hwn a eilw'i hun yn Dywysog! |
(1, 2) 120 |
Pa beth, ysywaeth, ydyw Llewelyn y rhaid iddo ddiystyru ei gydradd fel hyn? |
(1, 2) 121 |
Ei gydradd? |
(1, 2) 122 |
le, ei well yn wir! |
(1, 2) 123 |
Mae llinach Griffith ap Gwenwynwyn yn bur heb yr un croes, tra nas gall y Llewelyn hwn fyned ddwy âch yn ol heb doriad anghyfreithlawn. |
(1, 2) 124 |
Os gallaf fi caiff eto edifaru am wrthod derbyniad i un o brif benaethiad Cymru. |
(1, 2) 125 |
Os gwrthyd ef, fe dderbyn Brenin LLoegr. |
(1, 2) 126 |
Ust! |
(1, 2) 127 |
Pwy yw hwn? |
(1, 2) 128 |
Ai Dafydd ydyw? |
(1, 2) 129 |
Nid yw'n bosibl! |
(1, 2) 130 |
Eto efe ydyw. |
|
|
(1, 2) 132 |
Holo! |
(1, 2) 133 |
Y Tywysog Dafydd! |
(1, 2) 134 |
Boreu da. |
(1, 2) 135 |
Maen llon genyf eich cyfarfod a'ch llongyfarch ar eich rhyddhad o'r carchar. |
|
(Dafydd) Griffith ap Gwenwynwyn, onite? |
|
|
|
(Dafydd) Maddeuwch os wyf yn camsynied, ond nid yw tywyllwch carchardy yn lle da i gyfaddasu llygaid dyn i adwaen hen gyfeillion yn y goleu. |
(1, 2) 138 |
Ie. |
(1, 2) 139 |
Griffith ydwyf. |
(1, 2) 140 |
Da genyf weled fod y rhwyg rhyngoch a'r Tywysog wedi ei chyfanu. |
(1, 2) 141 |
Cymerodd chwi i'w fynwes yn gynes fel brawd yn ddiamheu. |
|
(Dafydd) Naddo. |
|
|
|
(Dafydd) Pe bawn yr estron pellaf nis gallai ymddwyn yn oerach tuag ataf. |
(1, 2) 144 |
A yw yn bosibl? |
|
(Dafydd) Aethum ato gan benderfynu syrthio wrth ei draed am faddeuant, a chynyg fy mywyd i'w wasanaethu. |
|
|
|
(Dafydd) Ond gyda'r gair cyntaf rhwystrodd fi, edliwiodd im' fy ffolineb gynt, a dangosodd im' nad oedd genyf hawl i'm galw'n Gymro chwaethach brawd! |
(1, 2) 147 |
Mae'n anhawdd genyf gredu! |
(1, 2) 148 |
A chwithau'n Dywysog nesaf ato ef ei hun mewn hawl, ac uwch nag ef yn serch y wlad! |
(1, 2) 149 |
Mae hyn yn sarhad ar Gymru a'i phenaethiaid! |
|
(Dafydd) Nis gwn pa beth a wnaf. |
|
|
|
(Dafydd) Mae cywilydd arnaf ddangos fy ngwyneb. |
(1, 2) 152 |
Am ba achos tybed? |
(1, 2) 153 |
Cywilydd! |
(1, 2) 154 |
Iti y dewraf o feibion Cymru! |
(1, 2) 155 |
Tyred gyda mi. |
(1, 2) 156 |
Dyfeisiwn ffordd i ddial arno am y sarhad yma. |
|
(Dafydd) Na, na! fy mrawd yw ef— |
|
|
|
(Dafydd) Na, na! fy mrawd yw ef— |
(1, 2) 158 |
Brawd yn wir! Gelyn yn hytrach. |
(1, 2) 159 |
Tebygol nad yw ond am gael cyfle i'th osod o'r neilldu yn ddirgel. |
(1, 2) 160 |
Nis beiddiai dy ladd yn y carchar; daethai'r byd i wybod. |
(1, 2) 161 |
Ond yn awr esgusa dy ryddhau, fel gallo o bosibl dy lofruddio yn ddirgel. |
(1, 2) 162 |
Mae dy fywyd mewn perygl! |
(1, 2) 163 |
Tyred gyda mi. |