Ystafell yn Nghastell Llewelyn, Tywysog Cymru. Llewelyn yn rhodio'r ystafell wrtho'i hun. |
|
Llewelyn |
Wel, dyma obaith im' o'r diwedd gael Llonyddwch. Gwalia sydd, e'rs blwyddi maith Yn ysglyf wael i'r cledd, a gwaeth na'r cledd, I frad ei phlant. Ei meibion dewrion hi Na throent ar faes y gwaed eu cefn ar neb A chwifio gledd neu anelwaewffon, Wneir gan eiddigedd yn dylodion llwfr; Er boddio dig, hwy werthent, ie'r wlad Ar fronau'r hon eu magwyd; ie'r wlad I'r hon y rhoisent gynt eu gwaed yn llon, O! gwae i Gymru, a gwae mwy imi! Y bradwyr hyn, plant Cymru oeddent hwy. Ond mwy na hyn,—Plant ty fy nhad o'ent hwy! Oh! Owen! nesaf frawd imi! Tydi I'r hwn y rhoddwyd cydgyfartal ran A mi o'r etifeddiaeth, fynet gael Yr oll, neu fod heb ddim. Llychwinaist glod Ac enw ty dy dad trwy droi yn fradwr, Bradychaist fi, dy frawd; bradychaist wlad Dy enedigaeth; a bradychu wnest Ymddiried tad ar wely angeu it. Do, tynaist i dy lwybrau gwirgam ffol, Yr hwn fu'n falchder tad a llonder man: I'm herbyn codaist gleddyf Dafydd lanc, Yr hwn pan gynt yn blentyn gariais, do, Ganwaith a mwy mewn mynwes cynes brawd Fuasai'n falch i farw er ei fwyn! Oh! Dafydd! Dafydd! tost fu'th anlwc di, A thostach fyth fy anlwc inau it Gymeryd felly'th arwain i wneyd cam A'th wlad, a'th dy, a'th frawd, a thi dy hun! Gwae, gwae i'r dydd y gorfu i Llewelyn Ddadweinio cledd i daro brawd mor gu A Dafydd! Llawer gwell, ie, canmil gwell Fuasai genyf golli'm gwaed, a'm stad, A'm bywyd, na'th niweidio di, fy mrawd, Wrth geisio'u cadw, oni bae er mwyn Buddianau Cymru;—ond nis gallwn byth Wel'd Cymru'n cael ei gwerthu i law'r Sais. Pe costiai cadw Cymru'n rhydd i mi A'm llaw fy hun d'aberthu di fy mrawd, Gwnawn hyny hefyd, er y gwybydd Duw Nod oes ond un anwylach genyf na Thydi. Ah! Elen hoff, i seren glaer, Fy ngobaith, cysur, cariad, bywyd, oll, Yn fuan caf fwynhau dy gwmni hoff! Ond 'nawr am Dafydd. Yn y carchar mae, Rwyf finau'n rhydd, yn gryf yn serch fy ngwlad, A'm holl elynion wedi cilio'n ol. A gresyn fyddai gadael Dafydd mwy Un fynyd yn y carchar. Ei ryddhau A wnaf y fynyd hon! |
Yn taro seinyr (gong) ar y bwrdd a swyddog yn dyfod i fewn. |
|
Swyddog |
Pa beth yw ewyllys fy arglwydd? |
Llewelyn |
Cymer y fodrwy yma, dos at geidwad y carchar; par iddo ollwng Dafydd fy mrawd allan, a dwg ef yma. |
Swyddog |
Ai doeth, fy arglwydd, i ti ryddhau un wnaeth gymaint niwed iti, ac a all, fe allai, wneyd niwed eto? |
Llewelyn |
Mae'n ddoeth i mi wrandaw ar alwadau uchel natur yn fy mynwes. Mae Cymru 'nawr yn rhydd; caiff Dafydd hefyd fod yn rhydd. Dos, brysia. |
Y Swyddog yn moesgrymu a myned. |
|
Llewelyn |
Rhaid i mi wneyd cam â mi fy hun, trwy guddio oddiwrth Dafydd y cariad brwd sy'n llenwi'm calon ato. |
Gwas yn dyfod at y drws, yn curo, a dyfod i fewn. |
|
Llewelyn |
Wel! |
Gwas |
O rhynged bodd iti, fy arglwydd, y mae Griffith ap Gwenwynwyn yn deisyl cael derbyniad. |
Llewelyn |
(O'r neilldu.) Os daw Griffith fewn, nis gallaf weled Dafydd. Ac, O, mae'm calon yn hiraethu am y llanc. Rhaid i Griffith aros. (Yn troi at y gwas.) Hysbysu'r penaeth Ap Gwenwynwyn nas gallaf ei weled heddyw. |
Y Gwas yn moesgrymu a myned allan. |
|
Llewelyn |
Ie, rhaid imi guddio fy nghalon oddiwrth Dafydd. Rhaid gwisgo gwg lle mynwn wisgo gwên. Rhaid bod yn swrth lle'r hoffwn fod yn llon. Ust! Dyma fe yn d'od. |
Y Swyddog a Dafydd yn dyfod i fewn. |
|
Dafydd |
(Yn dyner.) Fy mrawd! |
Llewelyn |
(Yn swrth.) Dy frawd? Dy D'wysog hytrach d'wed! Ti gollaist bob rhyw hawl i'm galw'n frawd. Y dydd dadweiniaist gledd i'm herbyn i. |
Dafydd |
Os do, ces dalu'n ddrud mewn carchar oer. |
Llewelyn |
Er oered oedd y carchar, nid mor oer a'th galon di o bob rhyw deimlad brawdol. |
Dafydd |
Ai i edliwio im' y dyddiau gynt Dadgloaist imi fy ngharcharol ddôr! A minau, druan, dybiwn mai dy serch, Yn enyn eto ataf, wnaeth i ti Roi goleu ddydd i mi unwaith drachefn. |
Llewelyn |
'Rwy'n rhoddi mantais iti wella'th ffyrdd, Ceir gwel'd os yw gwenwynig wreiddyn brad, Fynwesaist yn dy galon, eto'n fyw, Neu os yw'r carchar wedi ei ladd yn llwyr, Ac os tyf pren gwladgarwch yn ei le, Gad im' wel'd ffrwythau gwladgar genyt cyn Y soni am frawdgarwch yn fy ngwydd. Nid brawd imi y neb gasâ ei wlad, Nid o'r un gwaed a mi y neb wna frad, A Chymru hoff! Dos bellach i dy dŷ. |
Dafydd a'r Swyddog yn myned allan. |
|
Llewelyn |
O Dafydd! Dafydd! O fy mrawd! fy mrawd! Gwae fi na feiddiwn roddi ffordd im' serch, Trwy syrthio ar ây wddf, a golchi ffwrdd A'm dagrau dy ofidiau un ac oll, A'th gadw'n ganwyll llygad im' fel cynt! Ond gwell iti gael profi chwerwedd oer Dygasedd, enyd fer, yr hwn, fel gwna Cyffeiriau chwerwon meddyg yru ffwrdd O'r gwaed y gwenwyn a berygla oes, A bura'th galon dithau, ac a'th wna Yn holliach Gymro gwladgar unwaith eto. |
Yn myned allan dan wylo. |