Llywelyn, Ein Llyw Olaf

Ciw-restr ar gyfer Gwen

(Llewelyn) Wel, dyma obaith im' o'r diwedd gael
 
(Elen) O Gwen fach! Dyma newydd drwg.
(1, 4) 198 Beth sydd yn bod, fy arglwyddes î
(Elen) Yr wyf newydd gael llythyr oddiwrth fy nhad, yn yr hwn y dywed fod pethau yn tywyllu eto yn Nghymru.
 
(Elen) Mae Dafydd, brawd y Tywysog, a phenaeth dylanwadol o'r enw Griffith ap Gwenwynwyn, wedi myned i lys brenin Lloegr, a bydd byddin gref o Saeson yn cychwyn yn fuan i'w cynorthwyo i ymosod ar y Tywysog.
(1, 4) 201 A'r gelyn oddiallan, a bradwriaeth oddifewn, Duw a helpo Cymru!
(1, 4) 202 Ond mae Llewelyn yn gryf yn y Gogledd, a'i gyfaill ffyddlonaf, Meredith ap Owen, yn cadw'r Deheudir iddo.
(Elen) Ond mae Meredith ap Owen wedi marw, ac ofna fy nhad y try penaethiaid y Deheudir yn erbyn y Tywysog bellach.
 
(Meredith) Ond gad i ni weled sut y deil hi newydd drwg.
(1, 4) 208 Druan o Llewelyn!
(1, 4) 209 Onid ydych yn gofidio bellach na dderbyniasoch gynyg Iarll Northumberland am eich llaw?
(Elen) Taw!
 
(Meredith) Ust!
(1, 4) 215 Ond, fy arglwyddes, yr oeddech yn dysgwyl Llewelyn yma cyn hyn.
(1, 4) 216 Beth os yw ef wedi gweled rhyw feinwen arall i ddenu ei galon oddiwrthych?
(1, 4) 217 Neu ystyriwch y peryglon y mae ynddynt oddiwrth y Saeson.
(Elen) {Yn wylo.}
 
(Elen) Mae rhyw fardd am roi nosgan i ti.
(1, 4) 268 Na, f'arglwyddes.
(1, 4) 269 Ni chanmola neb oleuni bach y seren tra byddo'r lleuad dlos yn llawn yn y golwg.
(Llewelyn) {Yn canu, gyda'r crwth os yn bosibl.}
 
(Meredith) Gawn ninau wneyd yr un peth, Gwen.
(1, 4) 329 Beth?
(1, 4) 330 Canu?
(1, 4) 331 O gwnaf gyda phob pleser.
(Meredith) Canu yn sicr!
 
(Meredith) "A charwn ninau'n gilydd."
(1, 4) 336 Peidiwch bod yn ffol, Meredith.
(1, 4) 337 Fe wel yr Arglwyddes Elen ni.