|
|
|
(Pleser) |Now, by your leave, gentlemen and ladies|: |
|
|
|
(Desc.) Enter Mrs. Gwirionedd Cydwybod. |
(1, 1) 1899 |
Wel, tro yma 'rwan, bechadur afrywiog. |
|
(Rondol) Ow, mae 'nghalon yn curo fel Pandy Glynceiriog. |
|
|
|
(Rondol) Rhoed rhywun loches imi lechu. |
(1, 1) 1906 |
Pa beth yw'r dychryn sy'n eich dwyn! |
(1, 1) 1907 |
Sefwch yn fwyn i fynu. |
|
(Rondol) Nid alla'i ddim sefyll oni cha'i fy safio, |
|
|
|
(Rondol) Mae rhyw euogrwydd yn fy rhwygo. |
(1, 1) 1910 |
Gwneud cam â'r wraig wnaeth drwg ei raes, |
(1, 1) 1911 |
A hyny'n blaen sy'ch blino... |
|
(Rondol) Ow, Mrs. anwyl, na wnewch ddim camsynied, |
|
|
|
(Rondol) Dwyn fy arian mewn tro cyn fyred. |
(1, 1) 1916 |
Pa beth ydyw arian ond gwreiddyn pob drwg? |
|
(Rondol) Fe aeth fy arian i heibio 'run fath a mwg. |
|
|
|
(Rondol) Fe aeth fy arian i heibio 'run fath a mwg. |
(1, 1) 1918 |
Mae dull y byd yn myned heibio. |
|
(Rondol) A garw ydyw'r gofid sydd gydag efo. |
|
|
|
(Rondol) A garw ydyw'r gofid sydd gydag efo. |
(1, 1) 1920 |
Meddyliwch am eich ened, er gofid a chyneu. |
|
(Rondol) Ni wn i fwy am ened mwy na phen mawnen. |
|
|
|
(Rondol) Ni wn i fwy am ened mwy na phen mawnen. |
(1, 1) 1922 |
Ow, Ow, bechadur mae'n arw dy chwedel. |
|
(Rondol) Dim garwach nag eraill pan elo hi'n gwarel. |
|
|
|
(Rondol) Dim garwach nag eraill pan elo hi'n gwarel. |
(1, 1) 1924 |
Wel os darfu'r byd a'i ofid eich gwasgu, |
(1, 1) 1925 |
Oni adawodd Job dduwiol esiampl i'ch dysgu? |
(1, 1) 1926 |
Wedi colli'r holl gwbl, fe ddywed yn berffeth, |
(1, 1) 1927 |
Yr Arglwydd sy'n rhoi, ac efe sy'n dwyn ymeth. |
|
(Rondol) Pe gwyddwn yn iawn y cawn ddigonedd, |
|
|
|
(Rondol) Pe bai'r diawl yn fy nguro mi ddaliwn fy ngore. |
(1, 1) 1932 |
Mae llawer mewn cyflwr gweision cyflog, |
(1, 1) 1933 |
A wnant yn wrol wasaneth hanerog, |
(1, 1) 1934 |
Heb ddim o zel cryf afel crefydd, |
(1, 1) 1935 |
Ond y byd a'r golud yn eu dal wrth eu gilydd. |
(1, 1) 1936 |
~ |
(1, 1) 1937 |
O! y Prophwyd sanctedd oedd yn credu |
(1, 1) 1938 |
Pe bydde heb eidion yn y beudy, |
(1, 1) 1939 |
Na dafad yn y gorlan, na ffrwyth ar olewydd, |
(1, 1) 1940 |
Eto fe lyne yn yr Arglwydd. |
(1, 1) 1941 |
~ |
(1, 1) 1942 |
Mae llawer, ysyweth, gwae hwy heddyw yn Seion, |
(1, 1) 1943 |
Yn esmwyth eu clustog, yn wresog a breision; |
(1, 1) 1944 |
Ac eto heb ystyried i'r ened wirionedd, |
(1, 1) 1945 |
Mae llwyddiant yr ynfyd a'u lladd yn y diwedd. |
(1, 1) 1946 |
~ |
(1, 1) 1947 |
Felly yr wyt tithe, yn dy deithio adwythig, |
(1, 1) 1948 |
Yn gwastraffu cu rade y Tad caredig; |
(1, 1) 1949 |
Ti weriest ei fawredd yn dy ddrwg arferion. |
|
(Rondol) Ond y wraig a'u gwariodd hwy, ffolog wirion. |
|
|
|
(Rondol) Ond y wraig a'u gwariodd hwy, ffolog wirion. |
(1, 1) 1951 |
Rhoi bai ar y wraig 'rwyt ti fel Adda, |
(1, 1) 1952 |
I esgusodi dy hunan gybydd-dra; |
(1, 1) 1953 |
Ymgaddio yn nghysgod prene natur, |
(1, 1) 1954 |
Fe a'th chwilir di allan eto'n eglur. |
(1, 1) 1955 |
~ |
(1, 1) 1956 |
Pe bydde genyt feddylie gonest, |
(1, 1) 1957 |
Eiddo'r Creawdwr yw pobpeth a gefest; |
(1, 1) 1958 |
Y defed a'r gwartheg, yr aur a'r arian, |
(1, 1) 1959 |
Rhaid i ti ateb am y cyfan. |
|
(Rondol) Mae'n arw os rhaid i mi ateb eto, |
|
|
|
(Rondol) Yn Morganwg, rhyfedd geny'. |
(1, 1) 1974 |
Wel, mae dy gynghori di, 'rwy'n gweled, |
(1, 1) 1975 |
Fel taro pêl yn erbyn pared; |
(1, 1) 1976 |
Son am y gwragedd swnio gogan, |
(1, 1) 1977 |
Heb ystyr dim o'th ddrwg dy hunan. |
(1, 1) 1978 |
~ |
(1, 1) 1979 |
'Rwyt ti 'run foddion a'r neidr fyddar, |
(1, 1) 1980 |
Neu'r rhai sy'n eiste'n 'stol y gwatwar; |
(1, 1) 1981 |
Mae melldith trueni'r byd a'i aflwydd, |
(1, 1) 1982 |
Wedi dy foedro di yn dy ynfydrwydd. |
|
(Rondol) A glywch chwi, medda'i, 'r gynulleidfa, |
|
|
|
(Rondol) Ni choelia'i na chiciwn i hi efo'i Chwacers. |
(1, 1) 1997 |
Fe alle trugaredd Duw fod yn egoryd, |
(1, 1) 1998 |
I'th achub di a hithe hefyd. |
|
(Rondol) Os achubiff ef hi, fe haedde fawl, |
|
|
|
(Rondol) Ei gadel i ddiawl a ddylid. |
(1, 1) 2001 |
Ow, mater mawr dros byth yn gyfan, |
(1, 1) 2002 |
Yw colli ened mewn gwall anian. |
|
(Rondol) Wel, mater mawr i mine mod, |
|
|
|
(Rondol) Wedi colli 'nghod a'm harian, |
(1, 1) 2005 |
Ow, beth fyddi gwell er arian yn dyre, |
(1, 1) 2006 |
A'th ened anfarwol yn nghanol y poene; |
(1, 1) 2007 |
Heb gael mwy na Deifas ddim i oeri dy dafod, |
(1, 1) 2008 |
Na heddwch na dyben ar bryf dy gydwybod. |
(1, 1) 2009 |
~ |
(1, 1) 2010 |
Y gydwybod sy'n dy fynwes cofia, |
(1, 1) 2011 |
Yw'r cyfaill gore, a'r gelyn gwaetha'; |
(1, 1) 2012 |
A pha fodd y sefi na chyfri' na chyfran, |
(1, 1) 2013 |
Tra fyddych yn tystio yn dy erbyn dy hunan. |
(1, 1) 2014 |
~ |
(1, 1) 2015 |
Ow! paham 'rwyt ti heddyw mor ddideimlad, |
(1, 1) 2016 |
Yn porthi dy gnawd i newynu dy ened, |
(1, 1) 2017 |
A cholli gwir ysbryd y bywyd tragwyddol, |
(1, 1) 2018 |
I gael dim ond sorod a phleser amserol? |
(1, 1) 2019 |
~ |
(1, 1) 2020 |
Os marw yn dy bechod a wnei, cais ddychrynu, |
(1, 1) 2021 |
Yn y pwll gyda'r diawlied dros byth bydd dy wely; |
(1, 1) 2022 |
Gwirionedd Duw'n ddidwyll yw'r oll wy'n ei dd'wedyd, |
(1, 1) 2023 |
Derbyniwch ef yn fywiol bob un am ei fywyd. |