|
|
|
|
(1, 0) 16 |
Y mae'r postmon yn hwyr iawn heddyw. |
|
(Merfyn) Goreu yn y byd. |
|
|
|
(Merfyn) Yr wyf i wedi blino ar filiau i frecwest. |
(1, 0) 19 |
Wel, beth a wyddoch na ddaw â hanes cwsmer ì chwi? |
|
(Merfyn) Cwsmer? |
|
|
|
(Merfyn) Fydd pethau felly ddim yn digwydd yn y byd sy'r awr hon─ |
(1, 0) 24 |
O, rhag cywilydd i chwi, Merfyn─dynwared ych tad fel yna o hyd! |
|
(Merfyn) Ar "y byd sy'r awr hon" yr oedd y bai, fy nghariad i. |
|
|
(1, 0) 31 |
O, yn wir? |
(1, 0) 32 |
Beth oedd hwnnw? |
|
(Merfyn) Dysgu trin paent─hynny ydyw, paent fel hyn {gan estyn ei fys at un o'r lluniau}. |
|
|
|
(Merfyn) Ni fedraf i yn fy myw roi paent ar fy ngeiriau, a dyna lle y methais i {mewn ton hwyliog eto} ie, siwr, fy mhobl i, y paent! y paent, fy mhobl i! |
(1, 0) 35 |
O, Merfyn, Merfyn! |
|
(Merfyn) Digon gwir, fy nghariad i. |
|
|
|
(Merfyn) Ond pe bawn i wedi dysgu trin paent mewn ffordd haws, buasai yn well i mi─dysgu paentio drysau a ffenestri, llidiardau, certi, a─a gwalltiau merched gweini─ |
(1, 0) 38 |
O, Merfyn! |
(1, 0) 39 |
Yr ydych yn rhy gas! |
|
(Merfyn) Wel, mi sylwais fod gwallt Marged yn rhyw fath o felyn ddoe, cyn belled ag y gwn i rywbeth am liwiau. |
|
|
|
(Merfyn) Ac er nad oes nemor gamp arnaf i fel artist, yr wyf yn ddigon hy i gredu y gallswn baentio 'i gwallt iddi yn wastatach o leiaf am ryw hanner coron─ |
(1, 0) 46 |
Tewch, Merfyn, da chwithau. |
|
|
(1, 0) 48 |
Dowch i mewn! |
|
(Merfyn) Yn awr ynteu, a welsoch chwi'r lliw? |
|
|
|
(Merfyn) Rhywbeth rhwng melyn a choch a du a llwyd ydyw, cyn belled ag y gwn i─ |
(1, 0) 53 |
O twt, lol! |
(1, 0) 54 |
Edrychwch ar y llythyrau, a gadewch lonydd iddi hi a'i gwallt─hi pia fo. |
|
(Merfyn) Ie, diolch am hynny {mewn ton hwyliog} o drugaredd yn yr hen fyd yma! |
|
|
(1, 0) 74 |
H'm! |
(1, 0) 75 |
Y mae fy modryb yn dyfod heddyw─ |
|
(Merfyn) Fo'n gwarchod! |
|
|
|
(Merfyn) Pa fodryb? |
(1, 0) 78 |
Modryb Elin─hyhi a roes y piano i ni yn hytrach, hyhi a roes ddeugain punt i ni brynu piano, fel y gwyddoch yn dda, Merfyn. |
|
(Merfyn) {Yn edrych ar lythyr arall.} |
|
|
|
(Merfyn) A dyma lythyr oddiwrth bobl y siop fiwsig yn dwedyd bod dyn yn dyfod i fynd â'r piano i ffwrdd heddyw am na thalwyd mo'r arian oedd yn ddyledus ddechreu'r mis diweddaf─ |
(1, 0) 81 |
O, Merfyn, peidiwch â dywedyd y fath beth! |
|
(Merfyn) Y mae'n ddrwg gennyf orfod dywedyd, ond dyma lythyr y cnafon i chwi, ynteu. |
|
|
(1, 0) 85 |
O, wel, wel, beth a wnawn ni bellach? |
|
|
(1, 0) 87 |
Dyma hi ar ben arnom o'r diwedd! |
|
(Merfyn) {Yn cyfodi ac yn ei hanwesu.} |
|
|
|
(Merfyn) Ni fedraf i ddim dioddef eich gweled! |
(1, 0) 91 |
Ond beth a wnawn ni? |
(1, 0) 92 |
Os dont i ymofyn y piano cyn i'm modryb gyrraedd, beth a ddywedwn ni? |
(1, 0) 93 |
A phe baent yn dyfod a hithau yma, dyna hi yn waeth fyth! |
(1, 0) 94 |
Byddai raid i ni gyfaddef y cwbl─ein bod wedi gwario'r deugain punt i fynd am y mis mel, yn lle talu am y piano! |
(1, 0) 95 |
O, beth a wnawn ni? |
|
|
|
(Merfyn) Mi ddyfeisiwn rywbeth yn union deg. |
(1, 0) 99 |
Ond yr wyf i wedi blino ar ddyfeisio a dyfeisio pethau o hyd ac o hyd i'w dywedyd wrth bobl! |
|
(Merfyn) Felly finnau hefyd, mi rof fy ngair i chwi! |
|
|
|
(Merfyn) Ond gan na fynnant luniau, rhaid iddynt gymryd esgusion! |
(1, 0) 102 |
Yr ydych yn cymryd popeth yn ysgafn, Merfyn! |
(1, 0) 103 |
Fyddwch chwi byth o ddifrif! |
|
(Merfyn) Dim perigl i mi gymryd pobl o ddifrif a hwythau yn fy nghymryd innau o fregedd! |
|
|
|
(Merfyn) Y mae hynny yn deg. |
(1, 0) 107 |
Ond ni waeth heb siarad fel yna. |
(1, 0) 108 |
Rhaid i ni wneud rhywbeth heb law siarad. |
|
(Merfyn) Rhaid, y mae'n wir. |
|
|
|
(Merfyn) Ond pa peth? |
(1, 0) 111 |
Wn i ddim. |
|
(Merfyn) Na minnau! |
|
|
|
(Merfyn) Na minnau! |
(1, 0) 113 |
Pa faint oedd i'w dalu am y piano y mis diweddaf? |
|
(Merfyn) {Yn edrych ar y llythyr.} |
|
|
|
(Merfyn) Pedair punt─ |
(1, 0) 116 |
Pedair punt? |
(1, 0) 117 |
Wel, dylem fedru cael cymaint a hynny rywsut─ |
|
(Merfyn) Am y mis diweddaf, a phedair am y mis cynt─ |
|
|
|
(Merfyn) Am y mis diweddaf, a phedair am y mis cynt─ |
(1, 0) 119 |
O, Merfyn, 'does bosibl!─ |
|
(Merfyn) Feddyliwn fod, fy nghariad i. |
|
|
|
(Merfyn) A phedair am y mis cyn hynny. |
(1, 0) 122 |
O, drugaredd fawr! dyna ddeuddeg punt. |
|
(Merfyn) {Yn cyfrif ar flaenau ei fysedd.} |
|
|
|
(Merfyn) Ie, deuddeg. |
(1, 0) 126 |
 pha faint yr ydym wedi eu talu eisoes? |
|
(Merfyn) Dim ceiniog, gobeithio, gan fod yn rhaid iddi fynd! |
|
|
(1, 0) 129 |
Ond ni wiw iddi fynd! |
(1, 0) 130 |
Beth a ddywedwn ni wrth fy modryb? |
|
(Merfyn) Wel, arhoswch funud─ |
|
|
|
(Merfyn) Dywedyd nad ydym eto wedi trawo ar biano wrth ein bodd─ |
(1, 0) 134 |
A hithau wedi bod yma ddeufis yn ol, ac wedi gweld hon! |
|
(Merfyn) O, fu hi? |
|
|
|
(Merfyn) Wn i ddim beth a ddywedwch, os na rowch gynnyg ar y gwir am unwaith─ |
(1, 0) 139 |
O, Merfyn! |
|
|
(1, 0) 147 |
Wel, mi af at fy nghyfnither i edrych a fedr hi ddim rhoi benthyg deuddeg punt i ni─ni fedraf i feddwl am ddim arall. |
|
(Merfyn) le. |
|
|
|
(Merfyn) Mi af innau at y cebyst gan Smith yna, i edrych a fedraf gael rhywfaint ganddo ar y lluniau hynny a adewais yn ei siop. |
(1, 0) 152 |
O'r goreu. |
(1, 0) 153 |
Mi ddywedaf wrth Marged beth i'w wneud. |
(1, 0) 154 |
Rhaid i ni fod yn ein holau cyn canol dydd yn sicr. |
|
(Merfyn) Rhaid, achos bydd pobl y piano yma yn union ar ol deuddeg o'r gloch. |
|
|
|
(Merfyn) Rhaid, achos bydd pobl y piano yma yn union ar ol deuddeg o'r gloch. |
(1, 0) 156 |
A bydd fy modryb yma cyn hynny, y mae'n debyg! |
|
(Miss Jones) Ac wedi mynd allan y mae Mrs. Owen felly? |
|
|
|
(Merfyn) Ble y cawsoch hwy? |
(1, 0) 413 |
Yn siop Edwards─dau swllt oeddynt. |
(1, 0) 414 |
Ac mi ddaethoch o'm blaen i. |
|
(Merfyn) Do, fy ngeneth i, yr wyf i yn sicr o ddyfod yn f'ôl fel arian drwg! |
|
|
(1, 0) 417 |
Wel, a gawsoch chwi rywfaint? |
|
(Merfyn) Dim ceiniog goch, wrth gwrs. |
|
|
|
(Merfyn) A'r catffwl gan Smith yna─mi allwn ei saethu fo! |
(1, 0) 420 |
Pam? |
(1, 0) 421 |
Beth a wnaeth o? |
|
(Merfyn) Wel, dim; cafodd gynnyg decpunt am un o'r pictiwrs, a gwrthododd y ffwl gwirion ei werthu am na chai bymtheg amdano, fel yr oeddwn i wedi dywedyd wrtho. |
|
|
|
(Merfyn) Wel, dim; cafodd gynnyg decpunt am un o'r pictiwrs, a gwrthododd y ffwl gwirion ei werthu am na chai bymtheg amdano, fel yr oeddwn i wedi dywedyd wrtho. |
(1, 0) 423 |
Ond, beth a wnai 'r dyn, a chwithau wedi dywedyd pymtheg wrtho? |
|
(Merfyn) O, y penbwl ganddo, dylasai wybod y buaswn yn falch o ddeg─o bump─ie, o bum swllt! |
|
|
|
(Merfyn) Dim chwaneg o baent i mi! |
(1, 0) 428 |
Dowch, yn awr, Merfyn, ni thâl peth fel yna ddim─ |
|
(Merfyn) Mi dâl yn well na'r busnes sy' gennyf i, beth bynnag! |
|
|
|
(Merfyn) Sut y daeth hi ymlaen gyda chwi, ynteu? |
(1, 0) 431 |
O, yn ofer, wrth gwrs. |
(1, 0) 432 |
Nid oedd gan fy nghyfnither ddim ond ychydig arian gwynion yn y ty, ac ni ddaw'r gwr adref tan yr wythnos nesaf. |
|
(Merfyn) Dyna'r hwch drwy'r siop yma ynteu. |
|
|
|
(Merfyn) Ond {gan godi ar ei draed ac edrych o'i gwmpas yn syn} ni chofiais i ddym byd─ |
(1, 0) 435 |
Cofio beth? |
|
(Merfyn) Ond eich modryb! |
|
|
|
(Merfyn) Dylasai fod yma cyn hyn. |
(1, 0) 438 |
Wel, dylasai yn sicr! |
(1, 0) 439 |
Yr oeddwn innau wedi anghofio. |
(1, 0) 440 |
Tybed a fu hi yma, a mynd i ffwrdd am nad oeddym i mewn? |
(1, 0) 441 |
Un go lew yw'r hen fodryb, calon iawn ganddi─buasai'n ddrwg gennyf─ |
|
(Merfyn) Ble mae Marged? |
|
|
|
(Merfyn) Dylai hi fod yn gwybod, os daeth eich modryb at y drws. |
(1, 0) 444 |
Wn i ddim. |
(1, 0) 445 |
Nid oedd hi yn y gegin pan ddeuthum i i mewn. |
(1, 0) 446 |
Gobeithio nad oedd hi ddim wedi mynd allan a bod fy modryb wedi galw a neb yn ateb. |
(1, 0) 447 |
Mi af i edrych amdani yn awr. |
|
(Merfyn) Onid yw hi yna? |
|
|
|
(Merfyn) Onid yw hi yna? |
(1, 0) 452 |
Na, 'does dim golwg arni. |
|
(Merfyn) Popeth o chwith! |
|
|
|
(Merfyn) Popeth o chwith! |
(1, 0) 454 |
Popeth o chwith! |
|
(Merfyn) Wel, aed popeth yn yfflon ynteu! |
|
|
(1, 0) 457 |
Merfyn, fy machgen i, pa beth a wnawn ni? |
(1, 0) 458 |
Yr ydym wedi chwarae fel dau löyn byw ddigon o hyd! |
|
(Merfyn) Digon gwir, Gwladys fach. |
|
|
|
(Merfyn) Ond cofiwch,; yr wyf i wedi cymryd arnaf fy mod yn ddidaro ugeiniau o weithiau pan fyddwn i yn llawer parotach i eistedd i lawr a thorri fy nghalon. |
(1, 0) 461 |
Mi wn hynny, fy machgen i, bellach─yr wyf yn dechreu deall; ond dylasem fod wedi meddwl am y pethau hyn yn gynt. |
|
(Merfyn) Dylasem, hwyrach. |
|
|
|
(Merfyn) Gwladys, a yw'n edifar gennyt? |
(1, 0) 466 |
Am ba beth? |
|
(Merfyn) O! am y cwbl! |
|
|
|
(Merfyn) Mi ddodais ormod o baent ar y llun, mi wn! |
(1, 0) 469 |
Beth yw dy feddwl di? |
|
(Merfyn) O! wyt ti ddim yn cofio am y ty bychan hwnnw yn y wlad, briallu cochion, botwm gwr ifanc, balchder Llundain a chenin Pedr yn tyfu ar y lawnt; coeden ywen o flaen y ty, a mainc yn ei chysgod, dau bren rhosyn, un o bobtu i'r drws, a rhosynnau bach cochion arnynt. |
|
|
(1, 0) 474 |
Merfyn! |
(1, 0) 475 |
O, Merfyn! |
|
(Merfyn) {Gan ymaflyd am ei chanol a'i chodi oddiar lawr.} |
|
|
|
(Merfyn) Gwladys! |
(1, 0) 478 |
Wyt ti'n deall bellach? |
|
(Merfyn) {Yn drist ac undonog.} |
|
|
|
(Merfyn) Ydwyf, fy nghariad, yr wyf i yn deall. |
(1, 0) 481 |
Ac eto, y mae'n gas gennyf dy weled ti mor drist. |
(1, 0) 482 |
Ni welais i erioed monot ti fel hyn o'r blaen, Merfyn! |
|
(Merfyn) Naddo. |
|
|
|
(Merfyn) Pan fyddit ti yn cysgu y byddwn i yn cael rhyw byliau fel hyn─ |
(1, 0) 485 |
O, Merfyn, pe taswn i yn gwybod! |
|
(Merfyn) Y mae'n ddrwg gennyf dy fod ti wedi dyfod i wybod. |
|
|
(1, 0) 491 |
Merfyn! un waith, a'r olaf─gresyn na buasai yma rywun wrth y piano! |
(1, 0) 492 |
Yn awr, ynteu! |
|
(Merfyn) O, Gwladys! |
|
|
(1, 0) 499 |
Dyna'r ddau löyn byw wedi darfod! |
(1, 0) 500 |
Yn awr, Merfyn, gwrando! |
|
|
(1, 0) 502 |
Dos a hon i'w gwerthu─na, ni chei di ddim mynd. |
(1, 0) 503 |
Mi af a hi fy hun─fy lle i ydyw mynd. |
(1, 0) 504 |
Cawn ddeuddeg punt amdani, beth bynnag─y mae hi yn werth mwy na hynny─petae ddim ond y garreg. |
|
(Merfyn) Na, ni chei di ddim mynd, Gwladys. |
|
|
(1, 0) 510 |
Merfyn, nid wyf i wedi gwneud dim byd er pan briodwyd ni, dim ond prynu pethau fel hyn, hyd yn oed heddyw ddiwethaf yn y byd! |
|
|
(1, 0) 517 |
le, druain bach! |
(1, 0) 518 |
Ond, gwrando, nid wyf i wedi gwneud dim, a thithau'n gweithio bob dydd. |
(1, 0) 519 |
Nid wyf yn hoffi ymadael â'r hen gadwyn, y mae'n wir─y mae hi'n dlws, ac yn hen. |
(1, 0) 520 |
Ond y mae un peth gwell gennyf na'r cwbl. |
|
(Merfyn) Beth yw hynnw? |
|
|
|
(Merfyn) Beth yw hynnw? |
(1, 0) 522 |
Tydi! |
(1, 0) 523 |
Weli di, mi werthaf y mân dlysau yma i gyd, ac mi gawn glirio pethau felly, a dechreu o ddifrif wedyn. |
(1, 0) 524 |
Ac hwyrach y cawn ni hyd i'r ty bychan hwnnw wedi'r cwbl! |
(1, 0) 525 |
Pwy ŵyr? |
|
(Merfyn) Na chawn byth! |
|
|
|
(Merfyn) Breuddwyd oedd! |
(1, 0) 528 |
Eistedd di i lawr yn dawel─paid â dywedyd gair─dim un gair! |
(1, 0) 529 |
Yn awr, rhaid i mi gael fy ffordd fy hun y tro yma. |
(1, 0) 530 |
Hwda, tyrd yma! |
|
|
(1, 0) 532 |
Dyro gusan i mi, neu ynteu i hon. |
|
|
(1, 0) 534 |
Yn awr, a wyt ti'n deall? |
|
|
(1, 0) 536 |
Ni byddaf i ddim yn hir, Merfyn! |
|
(Miss Jones) Merfyn! |
|
|
(1, 0) 574 |
Ble y mae'r gadwyn, Merfyn? |
|
|
(1, 0) 576 |
O! O! 'modryb! |
|
(Miss Jones) Beth sydd wedi digwydd? |
|
|
(1, 0) 602 |
Wel, nid wyf innau yn deall y cwbl yn iawn, ac y mae geiriau yn swnio'n wag, rywfodd!... |
(1, 0) 603 |
Ond, Merfyn, dyma'r haul yn tywynnu ar y glöyn byw eto! |
|
|
(1, 0) 605 |
Yn awr, ynteu! |
(1, 0) 606 |
Unwaith eto! |