One-act play

Y Glöyn Byw (1922)

T Gwynn Jones

Out of copyright. This version Ⓒ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.



Amser: Yr oes hon. Lle: Ty Merfyn Owen yn Nhreweilgi. Digwydd popeth yn ystod un diwrnod.

Ystafell yn nhy Merfyn Owen. Lle tân ar ganol y pared, yn wynebu'r gynulleidfa. Drws i fyned allan ar y chwith; ffenestr rhyngddo â'r pared pellaf. Piano ar y dde i'r lle tân, a'i chefn at y pared. Drws arall ar y dde i fynd i'r gegin. Dwy gadair esmwyth, un o bobtu i'r lle tân. Bwrdd brecwest ar ganol y llawr. Lluniau ar y parwydydd. Papurau a llyfrau ar dop y piano ac ar lawr. Basged bapur wast rhwng y piano a'r drws i'r gegin, a honno yn fwy na llawn. Cyfyd y llen gan ddangos Merfyn a Gwladys yn bwyta eu brecwest.

Gwladys

Y mae'r postmon yn hwyr iawn heddyw.

Merfyn

Goreu yn y byd. Yr wyf i wedi blino ar filiau i frecwest.

Gwladys

Wel, beth a wyddoch na ddaw â hanes cwsmer ì chwi?

Merfyn

Cwsmer? Dim perigl fy nghariad i! (Mewn ton hwyliog.) Fydd pethau felly ddim yn digwydd yn y byd sy'r awr hon─

Gwladys

O, rhag cywilydd i chwi, Merfyn─dynwared ych tad fel yna o hyd!

Merfyn

Ar "y byd sy'r awr hon" yr oedd y bai, fy nghariad i. Ond dywedyd yr oeddwn i na bydd cwsmeriaid ddim yn─ddim yn dyfod gyda'r post, na chyda dim arall. Yr wyf i wedi hen roi'r goreu i ddisgwyl am bethau felly. Yn wir, mi welaf bellach mai fy nhad druan oedd yn iawn. Mi wneuthum gamgymeriad ofnadwy─

Gwladys

(Yn oeraidd.) O, yn wir? Beth oedd hwnnw?

Merfyn

Dysgu trin paent─hynny ydyw, paent fel hyn (gan estyn ei fys at un o'r lluniau). Ni fedraf i yn fy myw roi paent ar fy ngeiriau, a dyna lle y methais i (mewn ton hwyliog eto) ie, siwr, fy mhobl i, y paent! y paent, fy mhobl i!

Gwladys

O, Merfyn, Merfyn!

Merfyn

Digon gwir, fy nghariad i. Ond pe bawn i wedi dysgu trin paent mewn ffordd haws, buasai yn well i mi─dysgu paentio drysau a ffenestri, llidiardau, certi, a─a gwalltiau merched gweini─

Gwladys

O, Merfyn! Yr ydych yn rhy gas!

Merfyn

Wel, mi sylwais fod gwallt Marged yn rhyw fath o felyn ddoe, cyn belled ag y gwn i rywbeth am liwiau. Yr wyf yn credu mai lliw llygoden─



Gwladys yn rhoi ysgrech ac yn hel ei dillad at ei gilydd.

Merfyn

Yr wyf yn credu mai lliw llygoden ydyw erbyn heddyw. Ac er nad oes nemor gamp arnaf i fel artist, yr wyf yn ddigon hy i gredu y gallswn baentio 'i gwallt iddi yn wastatach o leiaf am ryw hanner coron─



Curo ar y drws.

Gwladys

Tewch, Merfyn, da chwithau. (Yn uwch.) Dowch i mewn!



Marged yn dyfod i mewn, yn dodi bwndel o lythyrau ar y bwrdd yn ymyl Merfyn, ac yna yn myned ymaith. Rhai o'i phapurau cyrlio gwallt yn syrthio wrth iddi fvnd.

Merfyn

Yn awr ynteu, a welsoch chwi'r lliw? Rhywbeth rhwng melyn a choch a du a llwyd ydyw, cyn belled ag y gwn i─

Gwladys

O twt, lol! Edrychwch ar y llythyrau, a gadewch lonydd iddi hi a'i gwallt─hi pia fo.

Merfyn

Ie, diolch am hynny (mewn ton hwyliog) o drugaredd yn yr hen fyd yma! Ond y llythyrau, ynteu. O'r goreu. (Y mae'n edrych ar yr amlenni.) Dyma un i chwi. (Yn ei estyn iddi, ac yn dechreu agor ei rai ei hun.) Bil y teiliwr─dyma'r seithfed tro iddo gymryd y drafferth, druan. (Yn edrych un arall.) Bil y miliner, am y fasged ddillad honno─hynny ydyw, am yr het fach glws honno a gawsoch chwi. Dyma'r pumed tro iddi hithau ddifetha papur. Ac inc. A stamp. (Un arall.) Bil y glo. Rhaid bod ganddynt ddigon o amser i'w golli─dyma'r pedwerydd cynnyg. (Un eto.) Bil y groser─yr ail. Wel y mae hwn ar ddechreu ei yrfa (gyda hwyl) yn y byd helbulus hwn!

Gwladys

(Yn codi ei golwg oddiar ei llythyr.) H'm! Y mae fy modryb yn dyfod heddyw─

Merfyn

Fo'n gwarchod! Pa fodryb?

Gwladys

Modryb Elin─hyhi a roes y piano i ni yn hytrach, hyhi a roes ddeugain punt i ni brynu piano, fel y gwyddoch yn dda, Merfyn.

Merfyn

(Yn edrych ar lythyr arall.) A dyma lythyr oddiwrth bobl y siop fiwsig yn dwedyd bod dyn yn dyfod i fynd â'r piano i ffwrdd heddyw am na thalwyd mo'r arian oedd yn ddyledus ddechreu'r mis diweddaf─

Gwladys

O, Merfyn, peidiwch â dywedyd y fath beth!

Merfyn

Y mae'n ddrwg gennyf orfod dywedyd, ond dyma lythyr y cnafon i chwi, ynteu. (Vn ei estyn iddi.)

Gwladys

(Yn edrych amo.) O, wel, wel, beth a wnawn ni bellach? (Yn torri i wylo.) Dyma hi ar ben arnom o'r diwedd!

Merfyn

(Yn cyfodi ac yn ei hanwesu.) Yn awr, Gwladys fach, peidiwch âg wylo fel yna. Ni fedraf i ddim dioddef eich gweled!

Gwladys

Ond beth a wnawn ni? Os dont i ymofyn y piano cyn i'm modryb gyrraedd, beth a ddywedwn ni? A phe baent yn dyfod a hithau yma, dyna hi yn waeth fyth! Byddai raid i ni gyfaddef y cwbl─ein bod wedi gwario'r deugain punt i fynd am y mis mel, yn lle talu am y piano! O, beth a wnawn ni? (Yn wylo.)

Merfyn

Wel, peidiwch âg wylo, beth bynnag. Mi ddyfeisiwn rywbeth yn union deg.

Gwladys

Ond yr wyf i wedi blino ar ddyfeisio a dyfeisio pethau o hyd ac o hyd i'w dywedyd wrth bobl!

Merfyn

Felly finnau hefyd, mi rof fy ngair i chwi! Ond gan na fynnant luniau, rhaid iddynt gymryd esgusion!

Gwladys

Yr ydych yn cymryd popeth yn ysgafn, Merfyn! Fyddwch chwi byth o ddifrif!

Merfyn

Dim perigl i mi gymryd pobl o ddifrif a hwythau yn fy nghymryd innau o fregedd! Prynant hwy luniau gennyf i, ac mi dalaf innau eu biliau iddynt hwythau. Y mae hynny yn deg.

Gwladys

Ond ni waeth heb siarad fel yna. Rhaid i ni wneud rhywbeth heb law siarad.

Merfyn

Rhaid, y mae'n wir. Ond pa peth?

Gwladys

Wn i ddim.

Merfyn

Na minnau!

Gwladys

Pa faint oedd i'w dalu am y piano y mis diweddaf?

Merfyn

(Yn edrych ar y llythyr.) Pedair punt─

Gwladys

Pedair punt? Wel, dylem fedru cael cymaint a hynny rywsut─

Merfyn

Am y mis diweddaf, a phedair am y mis cynt─

Gwladys

O, Merfyn, 'does bosibl!─

Merfyn

Feddyliwn fod, fy nghariad i. A phedair am y mis cyn hynny.

Gwladys

O, drugaredd fawr! dyna ddeuddeg punt.

Merfyn

(Yn cyfrif ar flaenau ei fysedd.) Y mae'n gas gennyf ffigyrau fel y gwyddoch. Ie, deuddeg.

Gwladys

 pha faint yr ydym wedi eu talu eisoes?

Merfyn

Dim ceiniog, gobeithio, gan fod yn rhaid iddi fynd!

Gwladys

(Gan darawo ei throed yn y llawr.) Ond ni wiw iddi fynd! Beth a ddywedwn ni wrth fy modryb?

Merfyn

Wel, arhoswch funud─ (Gan ystyried.) Dywedyd nad ydym eto wedi trawo ar biano wrth ein bodd─

Gwladys

A hithau wedi bod yma ddeufis yn ol, ac wedi gweld hon!

Merfyn

O, fu hi? Nid oeddwn i yn cofio hynny. Wel, ni thal y celwydd yna ddim, felly. Wn i ddim beth a ddywedwch, os na rowch gynnyg ar y gwir am unwaith─

Gwladys

O, Merfyn! (Yn wylo.)

Merfyn

Gwladys fach, maddeuwch i mi. Nid oeddwn yn meddwl dywedyd dim byd cas, nag oeddwn yn wir. Yr wyf wedi cellwair cymaint i geisio fy mherswadio fy hun na waeth gennyf pa beth a ddigwyddo, fel yr wyf wedi mynd i ddywedyd pethau heb ystyried. Dowch, dyna eneth dda. Rhaid i ni wneud rhywbeth, wrth gwrs.

Gwladys

(Gan sychu ei llygaid.) Wel, mi af at fy nghyfnither i edrych a fedr hi ddim rhoi benthyg deuddeg punt i ni─ni fedraf i feddwl am ddim arall.

Merfyn

le. Da iawn. Dyna eneth dda. Mi af innau at y cebyst gan Smith yna, i edrych a fedraf gael rhywfaint ganddo ar y lluniau hynny a adewais yn ei siop.

Gwladys

O'r goreu. Mi ddywedaf wrth Marged beth i'w wneud. Rhaid i ni fod yn ein holau cyn canol dydd yn sicr.

Merfyn

Rhaid, achos bydd pobl y piano yma yn union ar ol deuddeg o'r gloch.

Gwladys

A bydd fy modryb yma cyn hynny, y mae'n debyg!



Cyfyd y ddau ac ant allan drwy ddrws y gegin. Daw Marged i mewn gan glirio'r llestri a thaclu'r ystafell. Y gloch yn canu ar y chwith. Marged yn rhedeg i'r drws, ac yn dyfod yn ei hol, a Miss Jones i'w chanlyn.

Miss Jones

Ac wedi mynd allan y mae Mrs. Owen felly?

Marged

le, ma'm. Mi aeth allan yn gynarach nag arfer heddyw, ac mi ddywedodd wrthyf y byddai yn ei hol yn union deg. Fydd hi ddim yn arfer mynd allan mor gynnar.

Miss Jones

O. Ac i ba le yr aeth Mr. Owen, ynteu?

Marged

Yr ydw i yn credu mai allan yr aeth yntau hefyd. Ni ddywedodd o ddim wrthyf i ble'r oedd o yn mynd, dim ond peri i mi, os doe yma ryw wr bonheddig i holi amdano, ofyn i hwnnw fod mor garedig a galw eilwaith, neu ynte aros hyd nes y doe o yn ei ôl.

Miss Jones

Wel, ni welais i erioed beth rhyfeddach na bod y ddau wedi mynd allan fel hyn, a minnau wedi gyrru i ddywedyd fy mod yn dyfod. Wrth gwrs, mi gyrhaeddais yma yn gynt nag yr oeddwn yn disgwyl fy hun. Ac y mae arnaf eisiau bwyd. A fyddech chwi cystal a gwneud cwnaned o de i mi?

Marged

Ar unwaith, ma'm, wrth gwrs.



Marged yn mynd i'r gegin. Miss Jones yn tynnu ei phethau, yna yn edrych o'i chwmpas. Yn mynd at y piano, ac yn canu darn bach o fiwsig arni. Yna yn codi ac yn edrych ar y dodrefn a'r lluniau ar y parwydydd, a'r papurau hyd y cadeiriau ac ar lawr. Yn codi ei hysgwyddau ac yn ucheneidio ac ysgwyd ei phen. Yn eistedd ac yn synfyfyrio a'i llaw dan ei gên. Yn codi ac yn cerdded o gwmpas drachefn, ac yn eistedd eilwaith. Marged yn dyfod â the a bara ac ymenyn i mewn, ac yn eu dodi ar y bwrdd. Miss Jones fel pe heb sylwi bod Marged yno o gwbl, yn dal i synfyfyrio.

Marged

Dyna'r te, ma'm, os gwelwch yn dda. Miss Joues (Fel pe buasai'n deffro.) : O, diolch i chwi! (Yn symud at y bwrdd.) Dacw'r gloch, os bydd arnoch eisiau rhywbeth arall, ma'm.

Miss Jones

O, diolch i chwi!



Marged yn cychwyn i fwrdd.

Miss Jones

Arhoswch funud, Ers pa faint yr ydych chwi yma? Yr wyf yn credu fy mod wedi eich gweled pan oeddwn i yma ryw ddeufis yn ol?

Marged

Do, ma'm. Rydw i hefo Mrs. Owen er pan ddaethon nhw i fyw i'r ty yma gyntaf.

Miss Jones

O, da iawn. Yr ydych yn fodlon ar eich lle felly? Y mae'n anodd cael merched i aros yn hir yn yr un lle yn awr.

Marged

O, ydw, ma'm, yn ddigon bodlon ar fy lle. Mae Mrs. Owen yn garedig dros ben, yn gadael i mi fynd allan pan fynnwyf. Ac y mae Mr. Owen mor garedig, mor ddigri a llawen bob amser─ni chefais i erioed air croes ganddo. Wyddwn i ddim cyn dwad yma fod pobl 'run fath a nhw i'w cael.

Miss Jones

Y mae'n dda gennyf glywed hynny. Y mae Mr. Owen yn gweithio yn galed onid yw?

Marged

Yn galed iawn ma'm. Mae ganddo le i weithio, yn nhop y ty, stiwdio y mae o yn i alw. Welsoch chi 'rioed y fath le─yn llawn o bob math o bethau. Mae yno sgerbwd dyn─digon i roi braw i chi!─a lluniau o bob math; hen gleddyfau a dillad a llestri─fedra i ddim deyd wrthych, ma'm, gymaint o bethau sydd yno. A dyna lle bydd o drwy'r dydd. Mae o wedi paentio cannoedd o luniau o Mrs. Owen, mi gymraf fy llw, mewn pob math o ddillad, ac heb ddillad o gwbl, weithiau a'i gwallt i lawr, fel aur o'i chwmpas hi. O! mae hi'n glws hefyd! Ac y mae o wedi paentio fy llun innau yn fy nillad gwaith─'dydw i ddim yn deyd bod hwnnw yn glws, ond mae o yr un ffunud, welsoch chi 'rioed beth mor fyw ydi o─mi fasech yn disgwyl iddo siarad a chi. Mae Mr. Owen yn deyd y ca i hunnw pan fydda i yn mynd i 'mhriodi, a'i fod o am wneud un arall i mi yn fy nillad goreu hefyd, ma'm. Yn wir, mae o wedi dechreu eisoes, mi fyddaf yn gorfod eistedd iddo fo.

Miss Jones

Felly yn wir. Wel, y mae'n sicr fod Mr. Owen yn ennill arian mawr, gan ei fod mor brysur o hyd?

Marged

(Gan ysgwyd ei phen.) Deyd y bydd o, ma'm, y base'n llawer gwell iddo fod yn labrwr nag yn baentiwr. Nid yw pobl yn leicio 'i baent o, medde fo─ond ni welais i ddim byd clysach erioed.

Miss Jones

O, pam, tybed, nad ydynt yn leicio 'i baent o?

Marged

Wn i ddim, ond mi clywais o'n deyd y base fo'n gwneud yn llawer gwell 'tase fo wedi dysgu paentio â'i dafod. Roeddwn i wedi synnu, achos wyddwn i ddim fod neb yn medru paentio â'u tafodau, ac mi ddywedais hynny wrtho. "O, oes, Marged," medde fo, "mae'r paent yn fwy llyfn felly, a phobol yn ei leicio fo yn well, Ond, dda gen i ddim blas paent ar fy nhafod, dyna'r drwg," Ac wedyn, dyma fo yn chwerthin, ac yn cydio am ganol Mrs. Owen, a gwneud iddi ddawnsio ar ganol y llawr yma. O! un digri ydi o!

Miss Jones

Wel, feddyliwn i mai e! Yr ydych yn forwyn werthfawr iddynt, ac y mae'n sicr eich bod yn cael cyflog da.

Marged

(Gan ysgwyd eí phen.) Wel, ma'm, y cytundeb oedd fy mod i gael y peth ofynnais i, ond, welwch chi, ma'm, o achos nad ydi pobol─y ffyliaid gwirion iddyn nhw─ddim yn leicio paent Mr. Owen, mae'n anodd iddo fo bob amser dalu yn i bryd. Ond waeth gen i am hynny. 'Rydw i yn cael pob peth fel hwythe yn union, ac os bydd arnaf eisie ychydig arian i rywbeth, mi caf nhw, ac ni fydd Mrs, Owen byth yn son amdanyn nhw wedyn, nac yn eu tynnu nhw o'r cyflog pan fydda i yn cael hwnnw chwaith. Ac 'rydech chi'n gweld, ma'm, yr ydw inne yn leicio'r ffordd y mae nhw yn byw, a'r canu a'r dawnsio a'r chwerthin a'r pethe digri a'r pethe clws. Hwyrach fy mod i yn wirion, ond mi fydde'n well gen i fod yma am ddim na chael cyflog mawr mewn rhai lleoedd y gwn i amdanynt, lle na chaiff rhywun barch mwy na phe tae o gi ac na welwch chi ddim byd clws ddydd mewn blwyddyn!

Miss Jones

Wel, wel. Hwyrach mai chwi sydd yn iawn yn wir. Peth ardderchog ydyw bod yn hapus ac yn fodlon. Diolch i chwi.



Marged yn mynd allan, a Miss Jones yn synfyfyrio ac yn sipian y te yn araf. Y drws yn agor yn ddistaw, a rhywun yn edrych i mewn, yna yn oilio yn ei ôl yn sydyn, heb i Miss Jones ei weled. Miss Jones yn cyfodi ac yn cychwyn at y drws. Marged yn dyfod i mewn yn sydyn i'w chyfarfod, ac yn cau'r drws ar ei hôl.

Marged

Wn i ar y ddaear beth i'w wneud ma'm, os maddeuwch i mi am ddwad atoch chi fel hyn.

Miss Jones

Beth sydd?

Marged

Wel, mi ddaeth rhyw ddyn dieithr at y drws, a holi am Mr. Owen. Dywedais innau nad oedd i mewn, a'i fod wedi peri i mi ofyn i rywun a allai alw i holi amdano fod cystal a galw eilwaith, neu ynte aros hyd nes doe o yn ei ôl. Dyma'r dyn gofyn i mi a oedd yma biano yn y ty. Dywedais innau fod, yn y rwm yma. Daeth yntau at y drws yn syth, ond caeodd ef yn sydyn drachefn. Ac y mae o yrwan yn sefyll yn y lobi, ac ni wn i ar y ddaear beth i'w wneud ag o, ma'm.

Miss Jones

A oes yma ddim ystafell arall y gallech ei droi iddi i aros?

Marged

Wel, oes, ma'm, ond, nid oes─'rydym ar ganol glanhau, fel tae, ac y maent yn o annhrefnus, felly, i gyd ond hon, ma'm.

Miss Jones

O, wel, os ydyw yn ddyn a golwg parchus arno, dowch ag ef i mewn yma, wrth gwrs─nid oes gennyf i ddim yn erbyn.

Marged

Diolch yn fawr i chi, ma'm.



Marged yn myned ymaith. Miss Jones yn myned ac yn edrych ar y piano, yn enwedig ar enw'r gwneuthurwyr, yna yn mynd ac yn eistedd i lawr, gan godi ei hysgwyddau ac ucheneidio. Y drws yn agor, a Morgan yn dyfod i mewn. Miss Jones yn cyfodi ac yn ei wynebu.

Morgan

(Gan grymu ei ben.) Esgusodwch fi ma'm, am aflonyddu arnoch fel hyn─

Miss Jones

(Gan ymgrymu.) Peidiwch â son. Am weled Mr. Owen yr oeddych chwithau, y mae'n debyg?

Morgan

Ie, ma'm. Yr oedd y forwyn yn dywedyd na byddai 'n hir, ac y mae'n bwysig i mi ei weld rhag blaen.



Ennyd o ddistawrwydd. Cyfyd Morgan ac a at y piano. Rhed ei fysedd hyd-ddi. Eistedd ar yr ystôl, a chân ryw ychydig farrau o fiwsig yn ysgafn. Miss Jones: Yr ydych yn hoff o fiwsig syr?

Morgan

Ydwyf, ma'm, yn hoff iawn. Ac y mae hon yn biano ardderchog hefyd, onid yw?

Miss Jones

Ydyw.



Dechreua Morgan ganu'r piano drachefn, yn ysgafn ac yn araf. Gwrendy Miss Jones yn astud arno, gan guro'r amser â blaen ei throed.

Miss Jones

Ah! diolch i chwi, syr. Ni chlywais i mo'r miwsig yna ers llawer blwyddyn!

Morgan

Wel, na minnau chwaith. Wn i ddim pa beth a barodd i mi ei gofio, os nad rhyw ddamwain yn y peth a genais gyntaf. Ac wedi i mi ddechreu wel─ (Chwardd yn rhyw hanner trist.) Rhaid i chwi f'esgusodi i am chwerthin, ond ni fedrwn i yn fy myw beidio.

Miss Jones

Popeth yn iawn. Daw miwsig â phob math o bethau i gof dyn, oni ddaw?

Morgan

Pob math. Mi welaf eich bod chwithau 'n deall miwsig, ma'm.

Miss Jones

Ychydig. Mi fyddwn gynt yn hoff ryfeddol o ganu ac o'r piano hefyd.

Morgan

Wel, mi ddylwn esbonio i chwi pam y chwerddais innau. Pan oeddwn yn hogyn, yr oeddwn innau yn hoff iawn o ganu─o gystadlu, felly. Un tro, yr oedd côr o honom wedi mynd i Eisteddfod y Glyn, fel y gelwid hi, ac yr oedd cystadleuaeth ar ganu'r ddeuawd yna. (Miss Jones yn plygu ei phen i wrando.) Galwyd enwau'r cystadleuwyr, ond nid oedd neb yn ateb dros un cwpl. Galwodd yr ysgrifennydd yr enwau drachefn. Neb yn ateb. "Well i ni gynnyg?" meddwn innau wrth y ferch oedd yn eistedd o'm blaen─y soprano oreu yn ein côr. "le," meddai hithau, gan chwerthin─un lawen oedd hi. "Ydi'r cwpl arall yma bellach?" ebe'r ysgrifennydd. "Yma!" meddwn innau. Ac felly, i fyny yr aethom, a chanasom a chawsom y wobr. Ond wedi hynny, dyma'r rhai a gurwyd yn clywed nad oeddym ni wedi danfon ein henwau i mewn, ac yn gwrthdystio yn erbyn rhoi'r wobr i ni. Wedi cryn helynt barnwyd fod yn rhaid i ni droi'r wobr yn ei hôl, am fod yr amodau yn ein herbyn. Felly fu, ond yr oedd y gynulleidfa o'n plaid, a rhoes y cadeirydd wobr arbennig i ni.

Miss Jones

Doniol iawn! (Gan syllu arno.) Ac felly, John Morgan yw eich henw chwi?

Morgan

(Gan gyfodi.) Fo'n gwarchod! Nid Elin Jones sydd yma?

Miss Jones

(Gan gyfodi.) le!

Morgan

(Yn estyn ei law.) Wel, ar fy ngair─cynt y cyferfydd dau ddyn na dau fynydd. Ni welais i byth monoch ar ol y diwrnod hwnnw. (Ysgydwant ddwylaw yn galonnog.) Euthum i ffwrdd i'r America, fel y gallai eich bod yn cofio, yn union deg wedyn.

Miss Jones

Ydwyf, yr wyf yn cofio.

Morgan

A dyma chwi─wel, erbyn sylwi, rhaid i mi ddywedyd nad ydych wedi altro cymaint, ond bod eich gwallt wedi troi ei liw, fel fy ngwallt innau. Wel, y mae'n dda gennyf eich gweled, yn wir.

Miss Jones

Fel yr oeddych yn canu'r piano daeth y cwbl yn ol i'm cof innau, ond ni feddyliais ddim unwaith mai chwi oedd yna hyd nes i chwi ddechreu dywedyd yr hanes.

Morgan

Wel, yn wir, peth rhyfedd yw bywyd! Nid wyf yn meddwl i mi weled neb o'r hen gartref o'r dydd hwnnw hyd y funud yma. A pha beth yn y byd a barodd i mi ganu'r dernyn yna ar y piano?

Miss Jones

Pwy ŵyr?

Morgan

le, pwy ŵyr! Clywais ddarlithiwr yn America yn dywedyd fod greddf dyn yn ateb i filoedd o fân bethau na ŵyr ei ymwybod ddim yn y byd amdanynt.

Miss Jones

Digon tebyg. Pwy ŵyr?

Morgan

(Yn fyfyrgar.) le, pwy ŵyr!... Ond ym mha le yr ydych yn byw─yn yr hen gartref o hyd?

Miss Jones

Nage. Yr wyf yn byw yn Llundain ers blynyddoedd, ond fy mod yn digwydd bod yng Nghymru ers tro, ac wedi dyfod yma i edrych am fy nith cyn mynd yn f'ôl.

Morgan

Mrs. Owen─a yw hi yn nith i chwi?

Miss Jones

Ydyw, merch Dafydd fy mrawd.

Morgan

Dyn byw! Dafydd eich brawd─hen gyfaill. Llawer tro digrif a ddigwyddodd iddo fo a minnau. A yw Dafydd yn fyw o hyd?─mi garwn ei weled.

Miss Jones

Nag ydyw─wedi ei gladdu ers blynyddoedd, druan.

Morgan

Felly yn wir, y mae'n chwith gennyf feddwl, Ni chlywswn i ddim o'r hanes. Wrth gwrs, ychydig amser sydd er pan ddeuthum i adref o'r America, wyddoch. (Yn fyfyrgar.) A! yr hen amser gynt!



Curo ar y drws o'r gegin.

Miss Jones

Dowch i mewn!



Marged yn dyfod i mewn, a golwg cynhyrfus arni.

Marged

Maddeuwch i mi ma'm. Mae rhyw ddynion wrth y drws yn holi am─am─am ryw Mr. Morgan─

Miss Jones

le─

Morgan

O, myfi yw hwnnw. Yr wyf yn meddwl y gwn beth yw eu neges─yr oeddwn wedi sôn wrthynt fy mod yn mynd i alw heibio i Mr. Owen. Esgusodwch fi funud, Miss Jones, mi af atynt.

Miss Jones

Wrth reswm, Morgan.



Morgan yn myned allan. Marged yn cychwyn ar ei ôl.

Miss Jones

Marged!

Marged

Wel, ma'm.

Miss Jones

Dau funud! Dywedwch y gwir wrthyf yn awr─raid i chwi ddim ofni, cofiwch, ond dywedwch y gwir plaen wrthyf.

Marged

le ma'm, wrth gwrs─debyg iawn─mewn ffordd o siarad─fel tae─

Miss Jones

Beth yw'r helynt? Dywedasoch wrthyf fod Mr. Morgan─y dyn a aeth allan yn awr─wedi gofyn i chwi a oedd yma biano yn y ty?

Marged

Do, ma'm─o leiaf, felly y deallais i─

Miss Jones

Wel, pwy sydd wrth y drws yn awr?

Marged

Dau ddyn, ma'm, yn holi am Mr. Morgan.

Miss Jones

Rhywbeth arall?

Marged

(Yn edrych yn gymysglyd.) Wel, ma'm, fel tae─mi welwch─hynny ydi, ma'm─mae'n rhaid i mi ddeyd, mae'n debyg. Deyd yr oedden nhw, ma'm, eu bod wedi dwad, ma'm, i nôl y piano, ma'm, os gwelwch yn dda.

Miss Jones

O, mi welaf. Diolch i chwi, Marged. Gellwch fynd yn awr, ac ni raid i chwi boeni dim eich bod wedi dywedyd i gwir wrthyf i.

Marged

Diolch i chi, ma'm. (Yn myned.)

Miss Jones

(Wrthi ei hun, gan godi ei dwylaw.) Wel, wel! Yr oeddwn i yn ofni, yn wir!



Morgan yn dyfod yn ei ôl. Miss Jones yn syllu arno.

Morgan

Maddeuwch i mi am eich gadael chwi. Y mae gennyf ryw ddynion dylach na'r cyffredin yn fy ngwasanaeth. Daethant yma ar f'ôl i holi, yn lle gwrando pan oeddwn yn dywedyd wrthynt pa beth i'w wneud.

Miss Jones

Ai siop fiwsig sydd gennych, Morgan?

Morgan

Ie, siwr─dyna fy mhethau hyd heddyw, welwch chwi.

Miss Jones

Ac yn eich siop chwi, y mae'n ddiameu, y prynodd Mr. a Mrs. Owen y piano yna?

Morgan

Ie, siwr, ac un o'r rhai goreu ydyw hefyd. A chawsant hi yn rhad. (Yn tynnu ei oriaw, ac yn edrych arni.) Yn wir, Miss Jones, y mae hi yn tynnu at amser cinio, a rhaid bod rhywbeth yn cadw Mr. a Mrs. Owen. A roech chwi'r anrhydedd ar eich hen gydymaith gynt o ddyfod i ginio gydag ef? Y mae acw le gweddol gysurus, digon o fwyd plaen, digon o offer cerdd a miwsig; a phob croeso. Byddai'n bleser anghyffredin gennyf pe doech, yn wir.

Miss Jones

Wel, diolch yn fawr i chwi, Morgan. Ni waeth i mi heb ddisgwyl yn y fan yma am wn i. Dont yn eu holau cyn y nos hwyrach. A bydd yn hyfryd cael sôn am yr hen amser, oni bydd?

Morgan

Bydd, yn wir. A! Yr hen amser gynt! Eisieu bod yn fawr oedd arnom y pryd hwnnw, onid e, ond erbyn hyn─yr hen amser gynt!



Cyfyd Miss Jones a gwisg ei phethau. Egyr Morgan y drws iddi, ac ant allan gyda'i gilydd. Daw Marged i mewn, edrych o'i chwmpas, a at y piano ac edrych arni fel pe bai beth byw; ysgydwa ei phen a chwyd ei dwylaw, gan adael iddynt ddisgyn yn glec ar ei ffedog. Yna, dechreua glirio'r bwrdd. Cenir y gloch. Rhed Marged allan drwy ddrws y gegin. Daw Merfyn i mewn drwy'r llall. Saif ar ganol y llawr, gan wthio ei ddwylaw i waelod pocedi ei lodrau. Rhydd gic i'r fasged bapur oni bo'n rholio ar lawr; teifl ei gap ar ei hôl, ac eistedd i lawr ar gadair wrth y tân, gan godi ei draed ar ymyl y fantell, a thanio sigaret. Daw Gwladys i mewn o'r gegin, a chwlwm o flodau yn ei llaw.

Merfyn

Gwladys! dyna flodau tlysion! Ble y cawsoch hwy?

Gwladys

Yn siop Edwards─dau swllt oeddynt. Ac mi ddaethoch o'm blaen i.

Merfyn

Do, fy ngeneth i, yr wyf i yn sicr o ddyfod yn f'ôl fel arian drwg!

Gwladys

(Yn eistedd gyferbyn ag ef, gan dynnu ei het a'i menig.) Wel, a gawsoch chwi rywfaint?

Merfyn

Dim ceiniog goch, wrth gwrs. A'r catffwl gan Smith yna─mi allwn ei saethu fo!

Gwladys

Pam? Beth a wnaeth o?

Merfyn

Wel, dim; cafodd gynnyg decpunt am un o'r pictiwrs, a gwrthododd y ffwl gwirion ei werthu am na chai bymtheg amdano, fel yr oeddwn i wedi dywedyd wrtho.

Gwladys

Ond, beth a wnai 'r dyn, a chwithau wedi dywedyd pymtheg wrtho?

Merfyn

O, y penbwl ganddo, dylasai wybod y buaswn yn falch o ddeg─o bump─ie, o bum swllt! O! mi af yn labrwr, myn f'enaid i! Yr wyf wedi darfod â'r busnes yma! Dim chwaneg o baent i mi!

Gwladys

Dowch, yn awr, Merfyn, ni thâl peth fel yna ddim─

Merfyn

Mi dâl yn well na'r busnes sy' gennyf i, beth bynnag! Sut y daeth hi ymlaen gyda chwi, ynteu?

Gwladys

O, yn ofer, wrth gwrs. Nid oedd gan fy nghyfnither ddim ond ychydig arian gwynion yn y ty, ac ni ddaw'r gwr adref tan yr wythnos nesaf.

Merfyn

Dyna'r hwch drwy'r siop yma ynteu. Ond (gan godi ar ei draed ac edrych o'i gwmpas yn syn) ni chofiais i ddym byd─

Gwladys

Cofio beth?

Merfyn

Ond eich modryb! Dylasai fod yma cyn hyn.

Gwladys

Wel, dylasai yn sicr! Yr oeddwn innau wedi anghofio. Tybed a fu hi yma, a mynd i ffwrdd am nad oeddym i mewn? Un go lew yw'r hen fodryb, calon iawn ganddi─buasai'n ddrwg gennyf─

Merfyn

Ble mae Marged? Dylai hi fod yn gwybod, os daeth eich modryb at y drws.

Gwladys

Wn i ddim. Nid oedd hi yn y gegin pan ddeuthum i i mewn. Gobeithio nad oedd hi ddim wedi mynd allan a bod fy modryb wedi galw a neb yn ateb. Mi af i edrych amdani yn awr.



Gwladys yn mynd. Merfyn yn cerdded o gwmpas yn anesmwyth, yn edrych ar y piano ac ar y naill beth â'r llall yn yr ystafell. Gwladys yn dyfod yn ei hôl.

Merfyn

Onid yw hi yna?

Gwladys

Na, 'does dim golwg arni.

Merfyn

Popeth o chwith!

Gwladys

Popeth o chwith!

Merfyn

Wel, aed popeth yn yfflon ynteu!

Gwladys

(Yn ddifrif.) Merfyn, fy machgen i, pa beth a wnawn ni? Yr ydym wedi chwarae fel dau löyn byw ddigon o hyd!

Merfyn

Digon gwir, Gwladys fach. Ond cofiwch,; yr wyf i wedi cymryd arnaf fy mod yn ddidaro ugeiniau o weithiau pan fyddwn i yn llawer parotach i eistedd i lawr a thorri fy nghalon.

Gwladys

Mi wn hynny, fy machgen i, bellach─yr wyf yn dechreu deall; ond dylasem fod wedi meddwl am y pethau hyn yn gynt.

Merfyn

Dylasem, hwyrach. Ond beth a wnaem ni? (Yn synfyfyrio, a'i law ar ei dalcen.) Gwladys, a yw'n edifar gennyt?

Gwladys

Am ba beth?

Merfyn

O! am y cwbl! Mi ddodais ormod o baent ar y llun, mi wn!

Gwladys

Beth yw dy feddwl di?

Merfyn

O! wyt ti ddim yn cofio am y ty bychan hwnnw yn y wlad, briallu cochion, botwm gwr ifanc, balchder Llundain a chenin Pedr yn tyfu ar y lawnt; coeden ywen o flaen y ty, a mainc yn ei chysgod, dau bren rhosyn, un o bobtu i'r drws, a rhosynnau bach cochion arnynt. O, Gwladys! A'r lluniau oedd yn mynd i werthu cyn gynted ag y medrwn i eu paentio, a bywyd yn mynd i fod yn haf ar ei hyd─yr holl wagedd melys y buom yn byw arno gynt?

Gwladys

(Gan fyned ato, a dodi ei dwylaw ar ei ysgwyddau.) Merfyn! O, Merfyn!

Merfyn

(Gan ymaflyd am ei chanol a'i chodi oddiar lawr.) Gwladys!

Gwladys

Wyt ti'n deall bellach?

Merfyn

(Yn drist ac undonog.) Ydwyf, fy nghariad, yr wyf i yn deall.

Gwladys

Ac eto, y mae'n gas gennyf dy weled ti mor drist. Ni welais i erioed monot ti fel hyn o'r blaen, Merfyn!

Merfyn

Naddo. Pan fyddit ti yn cysgu y byddwn i yn cael rhyw byliau fel hyn─

Gwladys

O, Merfyn, pe taswn i yn gwybod!

Merfyn

Y mae'n ddrwg gennyf dy fod ti wedi dyfod i wybod. Yr oeddwn yn gobeithio y gallwn ddal ati fel glöyn byw nes bod yr haul wedi tywynnu arnom. Ond yn awr, dyma fo yn mynd i lawr heb dywynnu, a'r byd i gyd yn llwyd ac yn oer. A gwae'r glöyn byw!

Gwladys

(Gan edrych ym myw ei lygaid.) Merfyn! un waith, a'r olaf─gresyn na buasai yma rywun wrth y piano! Yn awr, ynteu!



Estyn ei llaw iddo, a dawnsiant ar ganol y llawr am ennyd. Safant yn sydyn. Gollynga Gwladys ei gwallt yn gawod aur dros ei hysgwyddau, cofleidia Merfyn hi. Yna safant gar edrych ar ei gilydd.

Merfyn

O, Gwladys!

Gwladys

(Gan godi ei gwallt.) Dyna'r ddau löyn byw wedi darfod! Yn awr, Merfyn, gwrando! (Tyn gadwyn oddiam ei gwddf.) Dos a hon i'w gwerthu─na, ni chei di ddim mynd. Mi af a hi fy hun─fy lle i ydyw mynd. Cawn ddeuddeg punt amdani, beth bynnag─y mae hi yn werth mwy na hynny─petae ddim ond y garreg.

Merfyn

Na, ni chei di ddim mynd, Gwladys. Melltith ar y byd i gyd! na chei! Paid, dyro hi am dy wddw yn ôl, Gwladys, Gwladys! (Gan geisio ei rhwystro.)

Gwladys

(Gan ei wynebu'n dawel.) Merfyn, nid wyf i wedi gwneud dim byd er pan briodwyd ni, dim ond prynu pethau fel hyn, hyd yn oed heddyw ddiwethaf yn y byd! (Gan gydio yn y cwlwm blodau ac ysgoi i'w taflu i'r tân.)

Merfyn

Gwladys! (Gan gydio yn ei braich.) O! paid, paid! Edrych ar liw hwn!

Gwladys

(Gan eu dodi yn ôl ar y bwrdd.) le, druain bach! Ond, gwrando, nid wyf i wedi gwneud dim, a thithau'n gweithio bob dydd. Nid wyf yn hoffi ymadael â'r hen gadwyn, y mae'n wir─y mae hi'n dlws, ac yn hen. Ond y mae un peth gwell gennyf na'r cwbl.

Merfyn

Beth yw hynnw?

Gwladys

Tydi! Weli di, mi werthaf y mân dlysau yma i gyd, ac mi gawn glirio pethau felly, a dechreu o ddifrif wedyn. Ac hwyrach y cawn ni hyd i'r ty bychan hwnnw wedi'r cwbl! Pwy ŵyr?

Merfyn

Na chawn byth! Breuddwyd oedd!

Gwladys

Eistedd di i lawr yn dawel─paid â dywedyd gair─dim un gair! Yn awr, rhaid i mi gael fy ffordd fy hun y tro yma. Hwda, tyrd yma! (Merfyn yn mynd ati, hithau yn dal ei hwyneb i fyny ato.) Dyro gusan i mi, neu ynteu i hon. (Gan ddal y gadwyn i fyny.) Yn awr, a wyt ti'n deall?



Merfyn yn ei chusanu ar ei thalcen, ac yn mynd ac yn eistedd ar y gadair a chuddio ei wyneb â'i ddwylaw.

Gwladys

Ni byddaf i ddim yn hir, Merfyn!



Dyd Gwladys y gadwyn o'i llaw ar y silff, dyd ei het am ei phen, heb edrych ar Merfyn, a rhed allan drwy'r drws ar y chwith heb gofio'r gadwyn. Gyda'i bod wedi mynd, egyr y drws ar y dde, a daw Miss Jones a John Morgan i mewn yn ddistaw. Ni chyfyd Merfyn mo'i ben. Edrych y ddau ano. A Miss Jones ata yn araf, a dyd ei llaw ar ei ysgwydd. Ni chwyd yntau mo'i olwg.

Miss Jones

Merfyn!

Merfyn

(Yn neidio ar ei draed yn sydyn.) O! (Gan rwbio ei lygaid.)

Miss Jones

A ydych yn sal, Merfyn? Y mae golwg wael arnoch, fy machgen i.

Merfyn

(Gan dynnu ei law dros ei dalcen.) Wn i ddim. Na, 'rwy'n well, yn well o lawer─yn iawn, yn wir. Wedi blino, wedi rhyw hanner cysgu. Teimlo dipyn yn & hurt... Maddeuwch i mi.



Tynn ei gadach poced allan, pesycha, a sych ei wefusau unwaith neu ddwy. Gwelir marciau cochion ary cadach poced. Eisteddwch, ma'm. Eisteddwch, syr. Y mae'n ddrwg gennyf. (Pesycha.)

Miss Jones

Ble y mae Gwladys?

Merfyn

Wedi mynd allan ar neges. Bydd yn ei hôl yn union deg. Y mae'n ddrwg gennyf, fy modryb, os buoch wrth y drws a neb yn ateb. Bu raid ini fynd allan ein dau, ac fel y digwyddodd, cawsom ein cadw yn o hir cyn dyfod yn ôl.

Miss Jones

O, na phoenwch am hynny; digwyddais daro ar Mr. Morgan, sy'n hen gydnabod i mi, a chefais ginio gydag ef.. Buom yn son am yr hen amser, onid do, Morgan?

Morgan

Do, yn wir, ac yn cofio hen ganeuon─ni chefais i gymaint o bleser ers blynyddoedd lawer!

Miss Jones

Wel, na minnau chwaith, dywedyd y gwir. Felly, ni raid i chwi boeni dim, Merfyn. Yr wyf yn gobeithio bod Gwladys yn iach─



{Egyr y drws ar y chwith yn sydyn.

Gwladys

(Yn rhedeg i mewn.) Ble y mae'r gadwyn, Merfyn? (Gwel Miss Jones a Morgan.) O! O! 'modryb!



Safant gan edrych bob un ar ei gilydd am ennyd. Gwladys yn sychu ei llygaid, a Merfyn yn pesychu.

Miss Jones

Beth sydd wedi digwydd? Y mae rhywbeth o'i le amoch eich dau, goeliaf i?



Distawrwydd. Gwladys a Merfyn yn edrych ar ei gilydd.

Morgan

(Yn dawel.) Eisteddwch Mrs. Owen. Eisteddwch Mr. Owen. Eisteddwch chwithau, Miss Jones. Yr wyf meddwl fy mod yn deall yn awr, ac mai myfi, os caf ddywedyd hynny, yw'r goreu i siarad am y tro. (Eisteddant.) Mr. Owen, mi gredaf fy mod yn gweled drwy'r paent bellach, ac y mae'n ddrwg gennyf na welswn yn gynt. Sut bynnag, y mae'n dda gennyf ddywedyd wrthych fod Smith wedi gwerthu pump o'ch pictiwrs am bris da y prynhawn yma. A dyma'r papur hwnnw y buom yn son amdano'r dydd o'r blaen─ (Gan estyn darn o bapur iddo.) y mae'n sicr eich bod yn cofio─y mae'n ddrwg gennyf na chawsech ef yn gynt.

Merfyn

(Yn edrych ar y papur, yn codi ar ei draed, yn troi ei olwg at y piano, ac yna yn edrych yn graff ar Morgan.) Morgan!



Gan estyn ei law iddo. Ysgydwant ddwylaw.

Merfyn

Gwladys, edrych! (Rhydd y papur iddi.) Wn i ddim pa beth sydd wedi digwydd, na pha beth i'w ddywedyd!

Gwladys

(Wedi edrych ar y papur.) Wel, nid wyf innau yn deall y cwbl yn iawn, ac y mae geiriau yn swnio'n wag, rywfodd!... Ond, Merfyn, dyma'r haul yn tywynnu ar y glöyn byw eto! {Yn cydio a'i llaw chwith yn ymyl ei gwisg, ac yn dal ei llaw ddeheu at Merfyn). Yn awr, ynteu! Unwaith eto!

Morgan

(Gan darawo ei ddwylaw yn ei gilydd.) Campus!



Llithra at y piano, dechreua ganu cainc fywiog, gyflym, troella Gwladys a Merfyn o gwmpas ar ganol y llawr, saif Miss Jones i edrych arnynt, gan sychu ei llygaid, a gwelîr Marged yn nrws y gegin yn edrych yn synn.

LLEN

One-act play