| (Y Criwr) Pell ac agos yma dewch, | |
| (Dyledwr) Mil o lythyrau coel yn ei goffrau, ac yntau'n ein gado ni dlodion mewn angen a phoen.] | |
| (0, 2) 163 | Oni elli di drugarhau' wrthym, rhwygo'r darn papur melltigedig, yn lle bwrw tad fy mhlant i yng ngharchar, un nad achosodd ddrwg iti erioed! |
| (0, 2) 164 | Oni feddi di nag anrhydedd na chydwybod, ai difater gennyt felltith yr amddifaid, ac onid cof gennyt am dy lyfr dyledion di dy hun, y bydd raid iti ei ddwyn gerbron y Barnwr pan ddêl hi at y pedwar peth diweddaf? |
| (Pobun) Aros, wraig, drwg yr wyt ti'n deall y peth a ddywedi; nid o ddrwg ewyllys yn erbyn dy ŵr y bu hyn; ystyriwyd y cwbl yn llawn ac yn deg cyn rhoi cyfraith arno. | |
| (Cydymaith) Byddai'n warth o beth pe bai'n amgen. | |
| (0, 2) 168 | Arian, ceiniog yw arian a rydd dyn yn fenthyg i'w gymydog er mwyn trugaredd Dduw. |
| (Dyledwr) Arian? | |
| (Pobun) Ac ni wn i am un awdurdod tros ben honno; o'i blaen hi bydd raid i bawb blygu, a thalu parch i'r petb sydd yn fy llaw i yma. | |
| (0, 2) 182 | Nid gwael wyt ti am ganmol diawl—mae'r peth fel pregeth ar dy dafod, a thalu parch yr wyt i god y Mamon, fel pe bai barch i'r cysegr ei hun. |
| (Pobun) Myfi, rhoi parch yr wyf i lle'r haeddir parch, ac nid cablu lle bynnag y gwelwyf fod gallu. | |
| (Dyledwr) Bellach, dyma ben ar y bywyd hwnnw. | |
| (0, 2) 189 | A elli di edrych ar hyn oll cyn oered â'r garreg? |
| (0, 2) 190 | Pa le y caf wely i'm plant heno? |