|
|
|
|
(0, 1) 7 |
Gwell i chwi gydio yn îy mraich i, Simon Jones. |
(0, 1) 8 |
Y mae hi dipyn yn dywyll a'r ffordd yn dolciog, |
|
(Simon) Diolch, diolch. |
|
|
|
(Simon) Mae pedwar ugain mlynedd wedi tywyllu cryn dipyn arnynt. |
(0, 1) 12 |
Posibl, posibl. |
(0, 1) 13 |
'Dyw oedran ddim yn dod wrtho ei hun. |
|
(Simon) Nad yw, nad yw. |
|
|
|
(Simon) Pe byddai y nos cyn ddued a bola buwch ddu, fe ffeindiwn y ffordd i'r Ysgol Gân ac i'r Cwrdd Gweddi. |
(0, 1) 18 |
Wel, mae yna "Heading Caled," ys dywed y coliar, o'n blaen heno, Simon Jones. |
(0, 1) 19 |
Mae rhyw derfysg rhyfedd ynglŷn â'r corau canu yma. |
|
(Simon) Pup, pup. |
|
|
|
(Simon) Bawo sut beth! |
(0, 1) 25 |
Ydyw, mae yn dân o Dan i Beerseba. |
|
(Simon) Wn i ddim faint o gythreuliaid sydd yn rhydd ar y ddaear yma, ond rwy'n credu hyn, mai y gwaethaf o'r adar duon i gyd yw "Cythraul y Canu." |
|
|
|
(Simon) Be wedwch chwi, syr? |
(0, 1) 28 |
Un garw yw e. |
(0, 1) 29 |
Mae e a'i gorn neu'i big yn rhywle o hyd. |
|
(Simon) 'E fu yma gôr canu yn y lle unwaith, o dan arweiniad Shanko'r teiliwr, oedd yn ddiguro bron. |
|
|
|
(Simon) 'E fu yma gôr canu yn y lle unwaith, o dan arweiniad Shanko'r teiliwr, oedd yn ddiguro bron. |
(0, 1) 31 |
Gwir, gwir, a daeth y côr a'r lle hwn i enwogrwydd. |
|
(Simon) Ac yr oedd y teiliwr yn arweinydd, syr. |
|
|
|
(Simon) Mae gweled y teiliwr yn arwain côr yn hala rhywbeth trwyddo chwi fel pe tae chwi mewn mashin wynegon. |
(0, 1) 36 |
Ydi, Mae'n enaid i gyd. |
(0, 1) 37 |
Dyna sydd eisiau mewn canu. |
|
(Simon) {Yn peswch.} |
|
|
|
(Simon) {Yn tanio'i bibell.} |
(0, 1) 42 |
Ie, mae'n gynnar i'r cyfarfod. |
|
(Simon) Ie, ie, a piti garw; fe ddaeth cythraul y canu i fewn i'r côr, ac fe aeth yn ffrwgwd yma fel y gwyddoch. |
|
|
|
(Simon) Ydi, gwir ddyn byw. |
(0, 1) 46 |
Nid wyf yn gallu cysoni pethau. |
(0, 1) 47 |
Mae arweinydd yr hên gôr ac arweinydd y cor newydd yn fechgyn rhagorol, a chyn belled ag y gwelaf fi, yn eithaf cyfeillgar â'i gilydd. |
|
(Simon) Am Shanko'r Tilwr, arweinydd yr hen gôr, bu dim o'i well ef mewn crys erioed. |
|
|
|
(Simon) Am Telorydd, arweinydd y côr newydd, mae fel y dur, yn ben cerddor ac yn ben arweinydd cor. |
(0, 1) 50 |
Fy marn i yw y cytunai'r arweinyddion, onibai am y dynion sydd tu ôl iddynt. |
|
(Simon) Dynion! |
|
|
|
(Simon) Dywedwch 'menywod,' os daw cythraul y canu fewn i gôr, ellwch chwi fentro mai ymhlith y sopranos neu yr altos y dechreua â'i antics. |
(0, 1) 54 |
Y nhw yw'r llestri gwannaf. |
|
(Simon) Mae gennyf bob parch i fenyw, cofiwch chwi. |
|
|
|
(Simon) Menyw oedd mam, a menyw oedd Nansi, fy ngwraig, ac ni fu erioed eu gwell, ond fe wnaeth menyw gawl o'r fusnes gyntaf hynny yn Eden, ac y mae'n gwneuthur cawl o bethau oddiar hynny. |
(0, 1) 57 |
Ha! Ha! |
(0, 1) 58 |
Ac yn enwedig o gorau canu Simon Jones. |
|
(Simon) Yn corddi y cyfan, syr. |
|
|
|
(Simon) Yn corddi y cyfan, syr. |
(0, 1) 60 |
Wel, os oes côr i fynd oddiyma i'r Genedlaethol, mae'n rhaid cael trefn ar bethau'n well na hyn. |
|
(Simon) Rwy'n credu mod i wedi gweled y ffordd allan o'r dyryswch, syr. |
|
|
|
(Simon) Rwy'n credu mod i wedi gweled y ffordd allan o'r dyryswch, syr. |
(0, 1) 62 |
Da iawn; gŵr da ydych chwi, Simon Jones, |
|
(Simon) Mae Telorydd a Marged Elen yn caru, syr. |
|
|
|
(Simon) Mae Telorydd a Marged Elen yn caru, syr. |
(0, 1) 64 |
Ha! Ha! |
(0, 1) 65 |
Caru'n wir! |
(0, 1) 66 |
Choelia i ddim. |
(0, 1) 67 |
A'r holl elyniaeth sydd gan y ddau deulu, y naill tuag at y llall. |
(0, 1) 68 |
Chwi ddwedsoch hi nawr, Simon Jones. |
|
(Simon) Mae e mor wir â phader, syr. |
|
|
|
(Simon) Gwelais y ddau neithiwr ddiweddaf efo'i gilydd ar lwybr y Waun, ac yr oedd e yn ei chofleidio hi'n deidi. |
(0, 1) 72 |
Chredaf fi byth. |
(0, 1) 73 |
Chredaf fi byth. |
(0, 1) 74 |
Efallai mai trefnu ynghylch y gymdeithas ddiwylliadol yr oeddynt. |
|
(Simon) Pup, pup! |
|
|
|
(Simon) Chlywais i erioed sut beth. |
(0, 1) 79 |
Ydyw'r hen bobl yn gwybod am y garwriaeth? |
|
(Simon) Dim gwec. |
|
|
|
(Simon) Maent yn gyfrwys ofnadwy efo'u caru. |
(0, 1) 83 |
Wel, efallai mai Marged Elen fydd yn offeryn i heddychu'r corau. |
(0, 1) 84 |
Merch fach ragorol yw Marged Elen, onide? |
|
(Simon) Un o'r goreuon, fachgen; un o'r goreuon. |
|
|
|
(Simon) Mae llawer o'r rhocesi heddiw yn siarad yn gyntaf ac yn meddwl wedyn. |
(0, 1) 88 |
Ydynt, ydynt, os yn meddwl o gwbl. |
|
(Simon) Rhaid i ni ymddibynnu ar Marged Elen, ynte. |
|
|
|
(Simon) Cariad ni chwymp ymaith." |
(0, 1) 92 |
Eithaf gwir. |
(0, 1) 93 |
Cariad nid yw byth yn methu. |
(0, 1) 94 |
"Love never faileth." |
|
(Simon) Ie, treiwn hi, treiwn hi. |
|
|
|
(Simon) Fe credais i mod i'n clywed swn. |
(0, 1) 98 |
Do, Wil bach. |
(0, 1) 99 |
Efe yw ceidwad y porth heno. |