g1

Cythraul y Canu (c1920)

David Derwenydd Morgan

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Golygfa 1


Gadawer y llen i lawr, a throer y golau allan ar y llwyfan, gan adael y llwyfan yn weddol dywyll.

Y Parch. Gwyn Evans a Simon Jones yn dod y tu flaen i'r llen, rhwng y llen a'r gynulleidfa. Y ddau wedi gwisgo eu cotiau mawrion, ac yn cario pobo ffon. Yn symud yn araf ac yn ymgomio. Gallant ddod allan yn un pen i'r llwyfan, yna cerdded ar y llwyfan, a mynd i mewn drwy y drws yn y pen draw.

Gwyn

Gwell i chwi gydio yn îy mraich i, Simon Jones. Y mae hi dipyn yn dywyll a'r ffordd yn dolciog,

Simon

Diolch, diolch. 'Dyw'r hen ffenestri yma ddim cyn gliried ag y buont, frawd bach. Mae pedwar ugain mlynedd wedi tywyllu cryn dipyn arnynt.

Gwyn

Posibl, posibl. 'Dyw oedran ddim yn dod wrtho ei hun.

Simon

Nad yw, nad yw. Dipyn yn hwp-di-hap yw hi arna i yn awr. Ond bu gen i lygaid unwaith fel llygaid cath. Pe byddai y nos cyn ddued a bola buwch ddu, fe ffeindiwn y ffordd i'r Ysgol Gân ac i'r Cwrdd Gweddi.

Gwyn

Wel, mae yna "Heading Caled," ys dywed y coliar, o'n blaen heno, Simon Jones. Mae rhyw derfysg rhyfedd ynglŷn â'r corau canu yma.

Simon

Pup, pup. Welais i erioed ffashwn beth: erioed ffashwn beth. Mae y cyfan yn fflwch-di-fflach, ac yn higgle-di-pigledi. Ydyw, gwir ddyn byw. Bawo sut beth!

Gwyn

Ydyw, mae yn dân o Dan i Beerseba.

Simon

Wn i ddim faint o gythreuliaid sydd yn rhydd ar y ddaear yma, ond rwy'n credu hyn, mai y gwaethaf o'r adar duon i gyd yw "Cythraul y Canu." Be wedwch chwi, syr?

Gwyn

Un garw yw e. Mae e a'i gorn neu'i big yn rhywle o hyd.

Simon

'E fu yma gôr canu yn y lle unwaith, o dan arweiniad Shanko'r teiliwr, oedd yn ddiguro bron.

Gwyn

Gwir, gwir, a daeth y côr a'r lle hwn i enwogrwydd.

Simon

Ac yr oedd y teiliwr yn arweinydd, syr. Hynny yw, os y gallech chwi ddygymod â'i ystumiau ef. Y gwir ag e, fe dynnai'r hen deiliwr ganu allan o byst llydiard, ac fe'i tyn ef eto. Mae gweled y teiliwr yn arwain côr yn hala rhywbeth trwyddo chwi fel pe tae chwi mewn mashin wynegon.

Gwyn

Ydi, Mae'n enaid i gyd. Dyna sydd eisiau mewn canu.

Simon

(Yn peswch.) Mae'r hen frest yma'n gyfyng, fachgen. Gadewch i ni gael anadl, a mygyn cyn myned i mewn. (Yn tanio'i bibell.)

Gwyn

Ie, mae'n gynnar i'r cyfarfod.

Simon

Ie, ie, a piti garw; fe ddaeth cythraul y canu i fewn i'r côr, ac fe aeth yn ffrwgwd yma fel y gwyddoch. Ac fe gododd y côr "split" yna o dan arweiniad Telorydd, a byth oddiar cychwyniad y côr "split" mae wedi bod yn "civil war" yma. Ydi, gwir ddyn byw.

Gwyn

Nid wyf yn gallu cysoni pethau. Mae arweinydd yr hên gôr ac arweinydd y cor newydd yn fechgyn rhagorol, a chyn belled ag y gwelaf fi, yn eithaf cyfeillgar â'i gilydd.

Simon

Am Shanko'r Tilwr, arweinydd yr hen gôr, bu dim o'i well ef mewn crys erioed. Am Telorydd, arweinydd y côr newydd, mae fel y dur, yn ben cerddor ac yn ben arweinydd cor.

Gwyn

Fy marn i yw y cytunai'r arweinyddion, onibai am y dynion sydd tu ôl iddynt.

Simon

Dynion! Pup, pup. Dywedwch 'menywod,' os daw cythraul y canu fewn i gôr, ellwch chwi fentro mai ymhlith y sopranos neu yr altos y dechreua â'i antics.

Gwyn

Y nhw yw'r llestri gwannaf.

Simon

Mae gennyf bob parch i fenyw, cofiwch chwi. Menyw oedd mam, a menyw oedd Nansi, fy ngwraig, ac ni fu erioed eu gwell, ond fe wnaeth menyw gawl o'r fusnes gyntaf hynny yn Eden, ac y mae'n gwneuthur cawl o bethau oddiar hynny.

Gwyn

Ha! Ha! Ac yn enwedig o gorau canu Simon Jones.

Simon

Yn corddi y cyfan, syr.

Gwyn

Wel, os oes côr i fynd oddiyma i'r Genedlaethol, mae'n rhaid cael trefn ar bethau'n well na hyn.

Simon

Rwy'n credu mod i wedi gweled y ffordd allan o'r dyryswch, syr.

Gwyn

Da iawn; gŵr da ydych chwi, Simon Jones,

Simon

Mae Telorydd a Marged Elen yn caru, syr.

Gwyn

Ha! Ha! Caru'n wir! Choelia i ddim. A'r holl elyniaeth sydd gan y ddau deulu, y naill tuag at y llall. Chwi ddwedsoch hi nawr, Simon Jones.

Simon

Mae e mor wir â phader, syr. Mae'r hen Simon yn myned yn hen, ond dim yn rhy hen i sylwi ar y caru yma. Gwelais y ddau neithiwr ddiweddaf efo'i gilydd ar lwybr y Waun, ac yr oedd e yn ei chofleidio hi'n deidi.

Gwyn

Chredaf fi byth. Chredaf fi byth. Efallai mai trefnu ynghylch y gymdeithas ddiwylliadol yr oeddynt.

Simon

Pup, pup! Yn y fan yna 'rych chwì eto, y dyn! Pan welwch chwi fab a merch yn cerdded ym 'mreichiau ei gilydd, ac yn aros bob rhyw gan llath i gofleidio neu gusanu, mae yna rywbeth yn y gwynt heb law siarad am y Gymdeithas Ddiwylliadol. Chlywais i erioed sut beth.

Gwyn

Ydyw'r hen bobl yn gwybod am y garwriaeth?

Simon

Dim gwec. Cyn belled ag y gwn i, na neb yn y lle ychwaith. Maent yn gyfrwys ofnadwy efo'u caru.

Gwyn

Wel, efallai mai Marged Elen fydd yn offeryn i heddychu'r corau. Merch fach ragorol yw Marged Elen, onide?

Simon

Un o'r goreuon, fachgen; un o'r goreuon. Mae Marged Elen yn meddwl yn gyntaf ac yn siarad wedyn. Mae llawer o'r rhocesi heddiw yn siarad yn gyntaf ac yn meddwl wedyn.

Gwyn

Ydynt, ydynt, os yn meddwl o gwbl.

Simon

Rhaid i ni ymddibynnu ar Marged Elen, ynte. Rhaid i ni dynnu ar y llinyn yna, fachgen. Cariad ni chwymp ymaith."

Gwyn

Eithaf gwir. Cariad nid yw byth yn methu. "Love never faileth."

Simon

Ie, treiwn hi, treiwn hi. Pwy sy yna? Fe credais i mod i'n clywed swn.

Gwyn

Do, Wil bach. Efe yw ceidwad y porth heno.

Simon

O! Wil bach, ai ie fe? Gynneuaist ti y gole yn y festri?

Wil

Do. Dewch i mewn.

Simon

Wel, be sy gennyt ti i ddweud, Wil bach? Yr wyt yn ŵr da am glecs ynghylch y corau yma.

Wil

Ma hi i fod off yma heno. Ha! Ha! Off yma heno.

Simon

Be gest ti i feddwl hynny? Pup, pup.

Wil

Wel, mae Mari Isaac a Martha Jenkins wedi bod yn cerdded o un tŷ i'r llall drwy y dydd, a ma gwallt nhw yn sefyll ar wrych er ys amser.

Simon

Be ti'n whalu, bachan? Glywais i erioed sut beth! Pup, pup.

Wil

Mae Mari Isaac yn dweud os nad yw Telorydd yn cael arwain y Côr Cenedlaethol y bydd yma ddiain o row.

Simon

Pup, pup. Chlywais i erioed ffashwn beth.

Wil

Martha Jenkins yn dweud os nad yw Shanko yn cael arwain y côr, y bydd "fireworks" yn y cyfarfod heno,

Simon

Pup, pup. Chlywais i erioed ffashwn beth. Erioed ffashiwn beth.



Wil bach yr agor y drws, a'r ddau yn myned y tu mewn i'r llen. Siencyn, Martha a Marged Elen yn dod y tu flaen i'r llen.

Siencyn

Mae dipyn yn dywyll, Martha. Gofalwch chwi nawr na chwympoch chwi. Deuwch yn fy mraich i.

Martha

Na, cer di, Siencyn bach. Deuaf fi ym mraich Marged Elen.

Siencyn

O'r gore. O'r gore. (Yn mwmian canu rhyw hen Alaw Gymraeg.)

Martha

Siencyn!

Siencyn

Wel!

Martha

Gofala di, nawr. Gwrando di beth yr wyf fi yn ddweud wrthot tì. Paid ti a gadael iddynt i gael eu ffordd yn y cyfarfod heno. Gormod o'u ffordd mae y tacle brwnt wedi ei gael.

Siencyn

O'r gore. O'r gore, Martha fach, gewch chwi siarad â hwynt.

Martha

Ie, a mi siarada i hefyd, gallant fentro. 'Does dim un côr i fyned oddiyma i Gaerdydd (gellir newid hwn drwy y gomedi am y lle y cynbelir yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf) os nad wyt ti'n cael arwain. Neu bydd yma 'randibw' i gael.

Marged Elen

Mam fach, pa eisiau cweryla yng nghylch yr hen gorau sydd. Gadewch lonydd i bethau.

Martha

Llonydd, yn wir! Be ti'n whalu groten? Dy dad wedi slafio fel hyn, a hynny cyn dy eni di, wrth yr hen ganu yma, a dyma'r parch y mae'n gael eto. Codi'r hen "split" yna a sbwylio côr dy dad. Cywilydd iddynt.

Siencyn

O'r gore. O'r gore, Martha fach. Tipyn yn gynhyrfus yw hi, ond efallai y bydd i'r cymylau glirio dipyn heno. Dyma ni wrth yr adeilad.

Martha

Ie, a gofala di na bo ti yn rhoi dy hunan yn glwtyn llestri yn eu llaw hwynt. Sych dy wyneb cyn myned i fewn. 'Does dim eisiau i bawb wybod mai bwdran gest ti i swper. Mentraf fi y bydd yr hen Delorydd bach yna yn ei 'guffs' a'i goler yn 'spic a span.'

Siencyn

Bydd, efallai'n wir. Mae e'n ifanc.

Martha

Ie, a'r hen groten Priscila yna. Mae'n gas gen i ei chlywed. Wedi bod am chwe mis yn Llundain yn gwerthn calico, ac wedi anghofio'i Chymraeg. Ych y fi!



Y tri yn myned i fewn. Wil bach yn agor ac yn cau y llwyfan. Mari, Telorydd a Priscila yn dod i'r llwyfan y tu flaen i'r llen, ac yn cerdded yn araf, dan ymgomio i'r pen arall.

Telorydd

Dewch ymlaen. Yr ydym yn ddiweddar i'r cyfarfod.

Mari

Ydym. Gofala di nawr Telorydd i sefyll ar dy sawdl heno. Gwrando di beth y mae dy fam a dy chwaer yn ddweud wrthot ti. Os oes côr i fynd i Gaerdydd, y ti sydd i arwain. Dyna y long a'r short am dani.

Telorydd

Ie, ie, mam fach, ond piti enbyd yw'r cweryla yma. Mae hyn yn lladd gwir ysbryd canu.

Mari

(Yn bwysleisiol.) Lladd ysbryd canu neu beidio. Does dim eisiau iddynt hwy i gael eu ffordd.

Priscila

Nac oes, nac oes. Certainly not.

Mari

'Does gen i ddim yn erbyn Siencyn ei hun. Ond am y fenyw yna sydd ganddo, mae'r un peth gen i weld yr ysbryd drwg ei hun a'i gweld hi. Mae fel cath wyllt obeutu'r lle.

Priscila

Os i ni mynd a côr i Cenedlaethol, rhaid ini mynd 'in best of style.' Rhaid i ni gael 'Conductor' 'up-to-date,' ac yn gwisgo 'up to the mark' fel Telorydd ni. Ma Siencyn Tilwr yn 'very shabbily dressed.'

Mari

Ydi, ydi, a mae ef weithiau'n dod i'r Practice heb ymolch na shafio.

Telorydd

Wel, gobeithio y deuwn i ryw gyd-ddealltwriaeth. Ofer meddwl am fyned i Gaerdydd heb yr ysbryd priodol.



Y tri yn myned y tu fewn i'r llen.

g1