|
|
|
(Adroddwr 1) Taith hanner diwrnod i'r Gorllewin o Fôr Galilea. |
|
|
|
(Jonah) Be ydy' Lefiathan? |
(1, 0) 67 |
Pysgodyn anferth a all dy lyncu fel y llwnc yr iâr falwoden. |
(1, 0) 68 |
Cymer di gyngor gen' i—cadw dy draed ar dir sych. |
(1, 0) 69 |
Dos yn yrrwr camelod os wyt ti am weld y byd. |
(1, 0) 70 |
Y cwmni difyr dan y sêr, heddiw yn Antioch, yfory yn Ramoth-Gilead! |
(1, 0) 71 |
A chyrraedd Ninefe ar doriad y wawr—ei muriau o farmor a'i thyrrau o aur coeth, ei phlasau o arian ar lawnt o risial. |
(1, 0) 72 |
Ninefe fawr, perl y dwyrain. |