Drama un-act
Ⓗ 1958 Huw Lloyd Edwards
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.



Llwyfan ac uwch-lwyfan syml. Miwsig, Synau a Goleuadau addas. Nid oes angen nemor ddim dodrefn.

Miwsig; Yna sŵn y môr am ychydig.

Adroddwr 1

Taith hanner diwrnod i'r Gorllewin o Fôr Galilea. Edrychwch! Dyffryn unig mewn cylch o fryniau melyn a miniog fel cil-dannedd hen flaidd. Moelni. Ambell i hen wrach o ddraenen gnotiog, noeth, yn crafangu ar y graig. Twmpathau o wellt llipa, crin, fel gwallt mewn gwahanglwyf. Tawelwch... Dacw'r fwltur hir-ymarhous, hamddenol, distawach na'i gysgod; a'r jerboa bawen-felfed, llygoden y llwch.



Sŵn gwynt y tu ôl.

Adroddwr 2

Mae'r bryniau fel eboni ar ffwrnais yr awyr, a'r cysgodion araf yn cripian dros y llethrau llwm.

Adroddwr 1

Cysgodion llwydlas a phorffor yn torri'n gandryll ac ymgasglu eilwaith ar y llechwedd dan y clogwyn. Pentyrru fel carreg ar garreg, stryd ar stryd.

Adroddwr 2

Penrel o darth a chysgodion yn ymwasgu'n dynn at odre'r graig.

Adroddwr 1

Pentref Gath Heffer yn nhiriogaeth Sabulon, ym mrenhiniaeth derfysglyd Jeroboam yr Ail



Sŵn y gwynt yn pellbau.

Adroddwr 2

Mae chwiban yr awel yn toddi'n raddol i ddwndwr isel fel murmur lleisiau o'r gorffennol pell. Dadwrdd cymysglyd; atsain carreg-ateb y canrifoedd.

Adroddwr 1

Llais yr Iddew a'r Arab, y Rhufeiniwr a'r Groegwr, y Pheniciad a'r Syriad—pob un a droediodd yma yn ei dro, drwy'r oesoedd.

Adroddwr 2

Ac yn eu plith, clywch lais y proffwyd o Gath Heffer. Llais Jonah fab Amitai, yn ymweld â bro ei febyd...



Miwsig ysgafn y tu ôl. Pelydrau ar Jonah y tu ôl i len neu rwyd o sidan yng nghefn y llwyfan.

Jonah

Ie, bro fy mebyd, cyn i greithiau Amser hagru ei lechweddau. 'R hen bentref annwyl, 'r wyt ti yn y llwch ers llawer dydd, a'r llwyni'n llenwi dy winllannoedd. Ni chlywir mwyach sibrwd machlud-haul cariadon, na thuchan toriad-gwawr y camel wrth dy fur. Cripiodd y sgorpion i nyth y golomen; ymlusgodd yr asp dan garreg y drws. Distawodd cleber y heolydd; mae dy farchnad lon yn fud. Lle bu mwmial yr offeiriad, ceir crechwen oer y siacal gyda'r hwyr, ac estyn y blaidd ei wddf yn hir i udo'i salm i'r sêr... Mor fregus a diflanedig yw gwaith dwylo dynion! Maluriwyd dy furiau dithau, Gath Heffer; llithraist yn araf i angof y tywod tawel. Ond mae'r bryniau moel yn aros, a dyma'r clogwyn serth yn dal i wgu ar y dyffryn. Dringais i'w gopa ganwaith; nes i ddyddiau mebyd ddirwyn i ben, a dod yr amser i roi heibio bethau bachgenaidd...



Diffodder y pelydryn—Golau i fyny ar y llwyfan. Jonah (Yn fachgen. Mae'n eistedd ar ganol y llwyfan.) Troi a throi uwchben y bryn,
Smotyn du ar gwmwl gwyn.
'Wyt ti ddim wedi blino i fyny yma, 'rhen frân? Mae'r bioden ar ei nyth, a'r durtur ar ei chlwyd. Hedodd y barcud ers meityn ar ei ben i fachlud haul. Pam na ei dithau ar ei ôl, 'rhen gigfran? Dyna a wnawn i pe bai gennyf adenydd─hedfan ymhell dros ymyl y byd i weld yr haul ar waelod y môr.

Mam

Jonah, 'wyt ti'n breuddwydio eto? 'R wyt ti'n mynd yn hogyn mawr 'rŵan, cofia. Helpu dy fam weddw druan 'ddyli ti, nid clertian o gwmpas fel hyn.

Jonah

le, ond mam─

Mam

Mae'n hen bryd i ti ddysgu crefft, 'machgen i. Rhaid i mi gael gair efo'r cymdogion yn dy gylch...

Llongwr

I'r môr â fo—dyna 'nghyngor i fel hen longwr. 'D oes yna ddim bywyd tebyg iddo fo. Y gwynt yn dy wallt, a'r heli ar dy wefus! A hoffit ti fynd yn forwr, 'machgen i?

Jonah

Na, 'd wy' i ddim yn meddwl. Mae gen' i ofn mewn storm.

Morwr

Ffwlbri babiaidd! Perygl sy'n rhoi blas i fywyd. O am ramant y rhaffau tynn a'r hwyliau feichiog gan y gwynt! I Athen a Chorinth, a Seidon, Syracus, i Gyprus a Thyrus a Tharsus. I'r môr â thi, i ddilyn y wylan a chroesi llwybr 'r hen lefiathan.

Jonah

Lefiathan? Be ydy' Lefiathan?

Gyrrwr Camelod

Pysgodyn anferth a all dy lyncu fel y llwnc yr iâr falwoden. Cymer di gyngor gen' i—cadw dy draed ar dir sych. Dos yn yrrwr camelod os wyt ti am weld y byd. Y cwmni difyr dan y sêr, heddiw yn Antioch, yfory yn Ramoth-Gilead! A chyrraedd Ninefe ar doriad y wawr—ei muriau o farmor a'i thyrrau o aur coeth, ei phlasau o arian ar lawnt o risial. Ninefe fawr, perl y dwyrain.

Jonah

Pa ddinas ydy' honno?

Offeiriad

Mi ddywedaf wrthyt fy mab, gwrando air dy offeiriad. Dinas y gwin yw hi, a dinas y gwaed. Crud paganiaeth a chwter pechod. Na ato Duw i'th draed sangu ei heolydd, nac i'th lygaid edrych ar ei llygredigaeth. Hyn o gyngor a roddaf i ti—rho dy law ar gorn y gwŷdd, a dilyn yr ych i ben y gŵys. Gwêl yn nhyfiant yr egin gynnydd dy deulu a llwyddiant dy wlad.

Mam

Paid â breuddwydio Jonah! Dewis dy grefft, dewis dy grefft, dewis dy grefft!

Pentrefwyr

Crochennydd — Cigydd — Pibydd — Pobydd — Teiliwr — Sowldiwr — C'weiriwr crwyn — Llongwr — Lledrwr — Llifiwr — Lloffwr — Creigiwr — Crymanwr — Cerfiwr coed. (Exit Pentrefwyr.)

Mam

Jonah! Jonah! paid â breuddwydio!... (Exit.)

Nathan

Hwyrach yr hoffit ti fynd yn fugail, Jonah? Dyma ni ar ochr y bryn, a'r dyffryn yn graith ddu oddi tanom.



Bref dafad.

Jonah

A dacw'r lleuad yn dwad i'r golwg, Nathan, welwch chi?

Nathan

Gwelaf—diolch i'r cymorth amdano! (Codi ei lais ychydig.) Tyrd 'r hen leuad, paid ag oedi. Pwysa d'ên ar figyrnau'r clogwyn, gwna dy hun yn gysurus. Mi gei aros yma tan y wawr os mynni!

Jonah

Mor agos ydy'r sêr, Nathan! Pe bawn i'n estyn fy llaw mi fedrwn afael mewn dyrnaid ohonyn' nhw, a'u rhoi yn fwclis i mam!... A dacw linyn arian i'w clymu, draw i'r gorllewin ar y gorwel!

Nathan

Pelydrau'r lleuad ar rimyn o fôr, machgen i. 'Wyt ti wedi penderfynu nad ei di ddim yn llongwr?

Jonah

Ydw'. 'Wna'i byth adael Gath Heffer.

Nathan

Wel'd oes dim amdani felly ond bugail neu ffermwr.

Jonah

'Fydda'i 'run o'r ddau yna chwaith, Nathan. 'R wy'n gwybod 'rŵan mai Proffwyd yr hoffwn i fod.

Nathan

O? Canmoladwy iawn. Ond mi hoffwn i awgrymu'n garedig iti, Jonah, mai prin y gall dyn ddewis bod yn Broffwyd. Mae hynny yn nwylo'r Bod Mawr, wyddost ti.

Jonah

O mi wn i hynny, ac 'r wy'n teimlo rhywsut y caf i arwydd, cyn bo hir, Ei fod Ef yn cyd-weld.

Nathan

Felly? 'Wn i ddim yn iawn sut i ateb hynna!

Jonah

'D oes arna'i ddim eisio bod yn Broffwyd mawr 'run fath ag Elias, cofiwch. Na, na proffwyd bach i wasanaethu pentref ac ardal Gath Heffer yn unig.

Nathan

'Wyt ti'n meddwl y bydd Yr Hollalluog vn barod i dderbyn yr amod yna?

Jonah

'R wy' i'n meddwl Ei fod yn gweld fy ochor i i'r cwestiwn, Nathan.

Nathan

O? Wel, mae popeth yn iawn felly! Ond amser a ddengys 'machgen i, amser a ddengys! (Sydyn.) Aros! 'Weli di rywbeth yn symud i fyny acw?

Jonah

Ble?

Nathan

Draw wrth ymyl y twmpath drain.

Jonah

O dan yr hen gorlan?

Nathan

Ia—cadw dy lygaid yn agored. Gafr Eliasar wedi crwydro eto, mi ddalia' i am siecel. Ia—dyna hi'n dwad i'r golwg ar y gair!

Jonah

Mae yna rywbeth yn ci dilyn hi hefyd, welwch chi? Blaidd, Nathan, blaidd! Dyna fe'n llithro allan o'r cysgod!

Nathan

Y cnaf mileinig, wedi cripian i lawr o'r ochor arall!

Jonah

Be' wnawn ni?

Nathan

Fe fydd wedi'i llarpio cyn i mi fynd ganllath. B'le mae fy ffon i?... 'Rwan, aros di wrth y gorlan yma rhag bod ei gymar o gwmpas.

Jonah

O'r gora', Nathan.

Nathan

Cofia paid â symud ar fôn dy fywyd. Mi dria' inna 'i ddychryn o i fwrdd,



Nathan yn mynd dan chwythu bygythion.

Jonah

(Wrtho'i hun.) 'Fydd o byth digon buan! Mae'r hen flaidd wrth ei chwt hi. Dos yn ôl, 'rhen flaidd, dos yn ôl! Ar fôn dy fywyd paid â llarpio gafr Eliasar!... Os medraf arbed bywyd yr hen afr, mi fyddaf yn gwybod bod yr Arglwydd wrth fy ochr. Hwnnw fydd yr arwydd Iddo fy newis yn Broffwyd... Gwranda, flaidd—yr wyf fi, Jonah fab Amitai, yn dy rybuddio: os niweidi di flewyn arni, mi alwaf ar fellten i'th daro'n farw yn y fan. Yn ôl, yr hen flaidd llwyd, yn ôl, yn ôl... Mae—mae o'n llithro i'r cysgod ac yn rhedeg i ffwrdd! Mae o wedi ufuddhau i 'ngorchymyn! (Codi ei lais.) Nathan! Nathan! Edrychwch! Mae'r hen flaidd wedi mynd! Dyna'r arwydd, Nathan, dyna'r arwydd! Dewisodd yr Arglwydd fi'n Broffwyd yng Ngath Heffer. 'R wy'n broffwyd, yn broffwyd, yn broffwyd...!

Pentrefwyr
(Dod i'r golwg dan lefaru'n goeglyd.) Proffwyd! Proffwyd! Mae Jonah bach yn Broffwyd!

Cryned y mynyddoedd, echryded y moroedd,
Arswyded holl genhedloedd y ddaear,
Mae Jonah bach yn Broffwyd!
Chwi chediaid y nefoedd, chwi bysgod y môr,
Chwi fwystfilod ac ymlusgiaid oll,
Deuwch ac ymgrymwch mewn parchus ofn,
I Jonah bach y Proffwyd!
Jonah bach y Proffwyd!

Mam

Jonah, Jonah, paid â breuddwydio, paid â breuddwydio, paid â breuddwydio...



Exit. Miwsig ysgafn y tu ôl. Tywyller y llwyfan. Pelydryn ar Jonah y tu ôl i'r llen sidan.

Jonah

(Yn ddyn.) Ond mewn hanner breuddwyd y tyfais i o fachgendod i oedran pwyll. Ac yn raddol mi sylweddolais fod cwrs fy mywyd yn wir wedi'i drefnu i ddiben arbennig. Pa ddiben, ni wyddwn yn iawn ar y pryd, ond disgwyliwn beunydd am weledigaeth glir a phendant fel fflach mellten. 'R wy'n gweld fy ffolindeb yn awr na fuaswn wedi ymollwng yn amyneddgar i'r Ewyllys Ddwyfol. Yn lle hynny, mi geisiais swcro ffafr Rhagluniaeth drwy gwrs o ympryd, sachlian a lludw. Ond ymbalfalu yn y tywyllwch yr oeddwn o hyd, er i mi wneud gwaith pur dda o dro i dro, os caf ddweud fy hun. Ac o dipyn i beth, daeth hyd yn oed hynafgwyr ceidwadol Gath Heffer i gymryd sylw ohonof...



Diffodder y pelydryn; Goleuni ar Tobias a Sbadrach.

Tobias

Diar annwyl, Shadrach, chi sydd yna? Heb eich gweld chi ers talwm. Sut mae'r iechyd 'rhen ŵr?

Shadrach

Digon symol, Tobias, digon symol.

Tobias

Tewch â dweud! 'Rhen grydcymala' yna'n eich poeni chi o hyd?

Shadrach

Ia, ymhlith petha' eraill—cerrig yn y bustl; diffyg treuliad; pendro—mae pob aflwydd wedi disgyn arna' i'n ddiweddar yma.

Tobias

Gawsoch chi gyngor gan y meddyg?

Shadrach

Do, 'rawn i haws. Deiliach, gelod, a dŵr calch—yr un hen driniaeth. A 'dydw' i 'run gronyn gwell.

Tobias

O mi ddowch eto gyda hyn.

Shadrach

'Wn i ddim fachgen. 'R ydw i'n mynd i oed, wyddost ti. 'Ddaw henaint ddim ei hunan. A pheth arall, 'dyw cyflwr y wlad yma fawr o help i godi calon creadur o ddyn.

Tobias

Na, mae hynny'n ddigon gwir.

Shadrach

Mynd o ddrwg i waeth bob dydd. 'Wn i ddim beth fydd ein diwedd ni.

Tobias

Mae gennym le i ddiolch, serch hynny, Shadrach. Gogoniant yr haul acw'n machlud, er enghraifft. A chwerthiniad plentyn, a llyfnder gloyw'r grawnwin. A dyna'r cynhaeaf ardderchof 'r ydy' ni wedi'i gael — mi fu'r Bod Mawr ar flaena'i draed efo ni 'leni.

Shadrach

Ond 'run pryd, mae'r Syriaid felltith yna'n tyrru fel locustiaid i fyny yn y gogledd. Lladd ac anrheithio a rhaib a welwn ni eto cyn bo hir. 'R ydym yn byw dan gwmwl du: fe'n bygythir beunydd gan dân ysol.

Tobias

'R ydym wedi eu taflu nhw'n ôl cyn hyn. Ac fe wnawn hynny eto ond i ni ddal yn gadarn.

Shadrach

Dal yn gadarn, ia, ond pa obaith sydd o hynny? Mae'r genedl wedi mynd â'i phen iddi. Edrych ar y bobol yma wedi meddwi efo gwag bleserau a gaudduwiaeth. A 'd oes yna 'run llais wedi'i godi yn eu herbyn.

Tobias

'R ydach chi'n edrych braidd ar yr ochor ddu, 'r wy'n ofni, 'rhen ŵr.

Shadrach

Rhaid i ni wynebu ffeithia', Tobias. Mae Proffwydoliaeth wedi distewi yn ein tir. A ninnau'n cefnu ar gewri'r dyddiau gynt. Mae hi'n ddigon digalon ar y Bod Mawr efo rhai o'r hogia' yma sydd ganddo Fo heddiw.

Tobias

Wel ydy', 'r ydach chi'n iawn. Rhai digon dienaid ydyn' nhw at 'i gilydd. Ond 'wn i ddim be' ddaw o'r Jonah yma. Mae nhw'n dweud 'i fod o'n hogyn reit addawol.

Shadrach

Pwy, ddywedaist ti?

Tobias

Jonah—wyddoch chi—mab yr hen Amitai pan oedd o.

Shadrach

Felly wir. 'D wy' i ddim wedi ei weld o ers tro byd.

Tobias

Na, mae o'n myfyrio ar ei ben ei hun i fyny yn y brynia' ers talwm. Yn byw fel meudwy bron. Newydd ddechra' mynd o gwmpas i bregethu mae o.

Shadrach

'Ddaw o byth i 'sgidia'i dad.

Tobias

'Wn i ddim beth am hynny. 'D oes yna ddim golwg proffwyd arno fo mae'n rhaid i mi gyfadde'. Ond dyna fo, 'fedrwch chi ddim dweud. Mae o'n dwad yma nos 'fory 'r wy'n deall. Mi gawn gyfle ardderchog i'w glywed o'n pregethu...



Diffodder y goleuadau am ennyd. Sŵn tyrfa. Hwnnw'n distewi. Jonab yn sefyll ar yr wwch-lwyfan. Pentrefwyr oddi tano.

Jonah

(Codi ei lais.) Eto gwrandewch, chwi bentrefwyr Gath Heffer, a derbynied eich clust leferydd yr Arglwydd. Yr hwn sy'n gwneud y corwynt yn gerbyd iddo, ac yn casglu'r mellt fel saethau yn Ei law. Canys efe a edrychodd i lawr o'r nef ac a welodd eich holl gamweddau. A'i air a ddaeth ataf yn y diffeithwch gan ddywedyd: "Jonah, fab Amitai, dos atynt a mynega iddynt gynddaredd fy llid. Ymlygrasant gan wawdio fy neddfau santaidd; ffieidd-waith a wnaethant gydag eilunod. Am hynny, rhua arnynt megis llew o'i ffau, ie, fel llew rheibus gyda'i ysglyfaeth." (Sŵn cyffrous y dyrfa.) Gochelwch felly, gyfeillion, a chymdogion, rhag i'r llew eich llarpio yn Ei ddigofaint. Gwrandewch ar un a aned ac a fagwyd yn eich plith. Un sy'n awr yn sefyll rhyngoch a dialedd yr Arglwydd. Canys Efe a roddodd Ei fysedd ar linynnau fy nghalon, ac ni allaf atal f'ymadrodd. Yr wyf fi, Jonah fab Amitai, yn dywedyd wrthych: trowch, a dychwelwch oddi wrth eich eilunod. Trowch eich wynebau oddi wrth eich holl ffieidd-dra...

Gwraig

Cyfiawn lid yr Arglwydd!

Dyn 1

Am ein pechodau fel llwch y ddaear.

Dyn 2

A'n hanwireddau fel tywod y môr.

Gwraig

Arswydus ddialedd yr Arglwydd!

Dyn 1

Am i ni halogi crefydd ein tadau.

Dyn 2

A chofleidio eilunod gwag.

Gwraig

Gath Heffer, beth yw dy dynged? Ple mae'r ddihangfa o'r farn a ddaw?

I Gyd

Jonah, fab Amitai, arwain ni'n ôl i lwybrau cyfiawnder. Dwg ni'n ôl i fendith Duw...



Diffodder golau ar y llwyfan. Dwndwr y dyrfa'n pellhau. Pelydryn ar Jonah y tu ôl i'r llen sidan).

Jonah

Do, fe gafodd fy mhregeth gyntaf fwy o effaith nag a freuddwydiais i 'rioed. Ac wrth gwrs mi fanteisiais ar y cyfle. A thrwy fygwth tân a brwmstan ar eu pennau mi lwyddais i'w cael yn ôl i well trefn o fywyd. Ond os bu hynny o les iddyn' nhw, fe wnaeth gryn niwed i mi. O fod yn greadur swil a diymhongar, dyma fi'n fy nghael fy hun yn brif ddyn y pentref a'r ardal. Ac mi gefais fwy o awdurdod a dylanwad na lled f'ysgwyddau. Y canlyniad oedd balchter ac ymffrost a chulni anoddefgar. Dyna'r cyflwr truenus 'r oeddwn i ynddo y diwrnod mawr hwnnw pan newidiwyd cwrs fy mywyd. 'R oeddwn i'n eistedd yn fy 'stafell, 'r wy'n cofio, pan ddaeth cysgod ar draws y drws, a llais merch yn galw arnaf...



Diffodder y pelydryn. Tywyllwch am ennyd, yna goleuer y llwyfan a gwelir Jonab yn eistedd wrth fwrdd. Mae wrthi'n darllen memrwn.

Rachel

(Dod i mewn, yn wylaidd.) Jonah! Jonah!

Jonah

(Swta.) Ia—pwy sydd yna?

Rachel

Fi—Rachel.

Jonah

'Wyddost ti ddim fy mod i'n myfyrio yr adeg yma o'r dydd?

Rachel

Ydw, ond...

Jonah

A 'mod i wedi siarsio nad oes yna neb i aflonyddu arna' i?

Rachel

Mae'n ddrwg gen' i Jonah, ond─

Jonah

Ac eto 'r wyt ti'n beiddio anwybyddu fy ngorchymyn! 'Wyt ti ddim yn sylweddoli bod gen' i'r gallu i alw ar fellten i'th barlysu yn y fan?

Rachel

Ond os caf i egluro─

Jonah

Paid â thorri ar fy nhraws. 'Oes yna ddim dysgu arnoch chi, bentrefwyr gwargaled a gwrthnysig? Ac edrych arnat dy hun—â'th sandalau coch, dy fwclis a'r modrwyau gwrthun yna yn dy glustiau. Ia, â'th wallt wedi'i gribo'n ôl fel cynffon llwynog. 'Oes gen' ti ddim cywilydd?

Rachel

'Dydw' i ddim ond dilyn y ffasiwn, Jonah.

Jonah

Felly wir! Rhaid rhoi celyn ar ffasiwn sy'n gwneud hoedennod anweddus o ferched Abram. Paid â gadael imi weld y fath olwg arnat ti eto. 'Fynna' i ddim i strydoedd Gath Heffer fod fel heolydd anfoesol Ninefe. Ac yn awr, dos cyn i ti drethu mwy ar f'amynedd.

Rachel

Ond—ond 'dydw' i ddim wedi dweud fy neges eto.

Jonah

Wel? Beth ydy' o?

Rachel

Dim ond bod yna ddyn yn dwad i'ch gweld.

Jonah

Pa ddyn?

Rachel

'Wn i ddim. Mae o'n hollol ddieithr i mi. 'Ddywedodd o ddim ond ei fod o eisiau i chi baratoi eich hun i'w dderbyn.

Jonah

O felly wir! Fe gaiff gymryd ei dwrn fel pawb arall, pwy bynnag ydy' o.



[Rhagor o destun i'w ychwanegu]



[Rhagor o destun i'w ychwanegu]

Drama un-act