Absalom Fy Mab

Cue-sheet for Hŵsai

(Ahitoffel) Corn hanner dydd! Pe baem ni'n llys-genhadon
 
(1, 0) 49 Gan bwyll, Ahitoffel. Mae'r dydd yn ifanc,
(1, 0) 50 Fe gŵyd y Brenin toc. Gan bwyll! Gan bwyll!
(Ahitoffel) Rhwydd, f'arglwydd Hŵsai, ydyw dweud "Gan bwyll."
 
(Ahitoffel) Nid yw mor hwylus heddiw."
(1, 0) 58 Mae ei wedd
(1, 0) 59 Tan gwmwl am fod cwmwl ar ei feddwl.
(Ahitoffel) Ac enw'r cwmwl ydyw ystyfnigrwydd!
 
(Ahitoffel) Ac enw'r cwmwl ydyw ystyfnigrwydd!
(1, 0) 61 Ac enw'r cwmwl, f'arglwydd, ydyw hiraeth.
(1, 0) 62 Dolur y galon sydd yn llethu'r ysbryd.
(1, 0) 63 Mae'i galon gydag Absalom ei fab
(1, 0) 64 Yng ngwlad Gesŵr. Ie, gyda'r tylwyth nomad
(1, 0) 65 Fan honno'n symud gwersyll fel bo'r borfa
(1, 0) 66 Mae pabell ysbryd Dafydd. Oni chadd
(1, 0) 67 Loches y llwyth ei hun pan oedd ar ffo
(1, 0) 68 Rhag dicter Saul, a chael yn wraig
(1, 0) 69 Eu tywysoges Mâcha?
(Ahitoffel) {Yn atgofus.}
 
(1, 0) 76 Yn enw Duw, Ahitoffel, gofala!
(1, 0) 77 Mae gan barwydydd glustiau, ac mae'i hysbiwyr
(1, 0) 78 Yn rhedeg â phob chwedl at Bathseba.
(Ahitoffel) {Wedi edrych bod llenni'r pyrth yn glir.}
 
(Ahitoffel) Gael bod yn frenin ar ôl marw'i dad.
(1, 0) 84 Nid hwnnw ond Absalom ydyw'r etifedd.
(1, 0) 85 Ac Absalom a daniodd fryd y bobol,
(1, 0) 86 Er bod yn alltud.
(Ahitoffel) Alltud! Am ba hyd?
 
(Ahitoffel) A'r haul yn sgleinio ar ei hirwallt hardd.
(1, 0) 92 Hyd ddydd ei drosedd. Na, nid angel oedd
(1, 0) 93 Yr herwr a lofruddiodd Amnon ei frawd,
(1, 0) 94 A hwnnw'n profi o'i win yng Ngwledd y Cneifwyr.
(1, 0) 95 Nid hawdd yw maddau lladd etifedd y goron.
(Ahitoffel) Mae'r bobol wedi maddau iddo. Rhagor,
 
(1, 0) 114 Ond nid y Brenin.
(Ahitoffel) Maddeuodd yntau iddo yn ei galon.
 
(Ahitoffel) Ar Ddafydd Frenin megis cynt ar Saul.
(1, 0) 123 O! na bai telyn heddiw a fedrai ymlid
(1, 0) 124 Ysbrydion drwg; ond ni cheir yng Nghaersalem
(1, 0) 125 Delynor ail i'r bugail-lanc, a ddug
(1, 0) 126 Dangnefedd y corlannau i fynwes Saul.
(1, 0) 127 A mud yw telyn Dafydd ers amser maith.
 
(Ahitoffel) Cynghori'r brenin i alw Absalom adref.
(1, 0) 131 'Ryfygodd neb ei enwi ers tair blynedd
(1, 0) 132 Yng nghlyw ei dad. Gwyddost fod llid y brenin
(1, 0) 133 Fel rhuad llew o'i ffau. Pwy a'i gwrthsaif?
(Ahitoffel) A ffafr y brenin megis gwlith ar laswellt
 
(1, 0) 138 Aros beth,
(1, 0) 139 Mae'n antur enbyd.
(Ahitoffel) Mwy enbyd bod yn fud
 
(Ahitoffel) Sy'n llywodraethu'r llys.
(1, 0) 147 Hyn a ŵyr gwlad,
(1, 0) 148 Ond gŵyr y Llys na alwodd am Bathseba
(1, 0) 149 I'w stafell wely ar ôl geni Solomon.
(1, 0) 150 Ciliodd ei thegwch ac fe ymfrasaodd.
(Ahitoffel) Hon sydd yn tynnu barn ar Israel.
 
(Ahitoffel) Hon sydd yn tynnu barn ar Israel.
(1, 0) 152 Ac eto hi a eilw o'n Frenhines,
(1, 0) 153 Ac arni hi y gwrendy.
(Ahitoffel) {Yn ffrwydro.}
 
(Ahitoffel) Haws ganddo wrando arni na'i Gynghorwyr!
(1, 0) 157 Hist!
 
(1, 0) 159 Ei chyngor iddo'n awr yw addo'r goron
(1, 0) 160 I Solomon ei mab. A Nathan broffwyd,
(1, 0) 161 Hwnna'n ategu ei chais.
(Ahitoffel) {Yn wawdlyd.}
 
(Ahitoffel) Condemniwr eon eu godineb gynt!
(1, 0) 165 Llogodd y gyfrwys ef yn athro i'w mab
(1, 0) 166 I'w ddysgu yn ffyrdd doethineb. Llif damhegion
(1, 0) 167 A diarhebion hwn o enau'r llanc.
(Ahitoffel) Megis y llif yn ddiau'r siclau arian
 
(Ahitoffel) O goffr brenhines i goffr gwas yr Arglwydd.
(1, 0) 170 I ddofi proffwyd, gwna fo'n gaplan llys!
(Ahitoffel) Ond ti a mi, nis dofwyd, f'arglwydd Hŵsai.
 
(Ahitoffel) Ond ti a mi, nis dofwyd, f'arglwydd Hŵsai.
(1, 0) 172 Ac nid er siclau hon y'n prynir ni.
(Ahitoffel) Ac nid er siclau hon y prynir Israel
 
(Ahitoffel) Ar ôl marwolaeth Dafydd,—Absalom!
(1, 0) 178 Duw a'i dychwelo.
(Ahitoffel) Rhaid llefaru heddiw.
 
(Ahitoffel) Duw roddo inni lwyddiant.
(1, 0) 186 Onis rhydd,
(1, 0) 187 Ffarwel, hen ffrind; ffarwel oleuni'r dydd.
(Ahitoffel) Tyred i ffau y llew; ond cofia hyn—
 
(Joab) Er mwyn y fyddin, galw Absalom!
(1, 0) 886 Er mwyn dy orsedd, galw Absalom!
(Dafydd) Beth yw dy gyngor dithau, fy Mrenhines?
 
(Absalom) Dydd da i'n harglwydd a'n brenhinol dad.
(2, 1) 1078 Newyn yn Gilgal, a newyddion drwg
(2, 1) 1079 O ddinas Hebron, ond mae'r olygfa hon
(2, 1) 1080 Yn ddigon i orbwyso pob gorthrymder.
(Absalom) Newyddion drwg o Hebron, lle y'm ganed?
 
(Ahitoffel) Mae Hebron wedi gwrthod treth y Brenin.
(2, 1) 1106 I'w gwario ar Gaersalem, meddant hwy!
(Dafydd) Beth yw dy gyngor?
 
(Dafydd) A phorthi'r sanctaidd fflam â braster hyrddod.
(2, 1) 1193 A'r dydd yr edrych Duw i lawr o'r nefoedd
(2, 1) 1194 A gweld dwy golofn fwg, o fawl dwy ddinas,
(2, 1) 1195 Derbynied Ef yr ebyrth, a chymoded
(2, 1) 1196 Yn ei dangnefedd Hebron a Chaersalem,
(2, 1) 1197 Fel y cymododd Ef y tad a'r mab.
(Dafydd) Cyhoedder wedi'r aberth wledd a dawns
 
(Joab) A gwae i'r neb fo'n bygwth mab y brenin.
(2, 1) 1251 Gyda fy mrenin yr arhosaf innau
(2, 1) 1252 I'w helpu i drefnu'r aberth mawr a'r wledd.
(Dafydd) {Yn ysgafn.}
 
(Dafydd) Gynghorwyr, ei hymgeledd i hen ŵr.
(2, 1) 1301 Mae'i llaw ar delyn yn gwefreiddio'n llys,
(2, 1) 1302 A'i hulio â blodau hyfryd yn feunyddiol.
(Abisâg) A fyn fy arglwydd fynd i rodio heddiw?
 
(2, 2) 1537 Dawnsio ardderchog!
(2, 2) 1538 (Yn ceisio eto'n ddistawach, gan sylweddoli ei fod wedi gweiddi gormod yng ngŵydd y Brenin y tro cyntaf. Yn gyfrinachol megis:)
(2, 2) 1539 Dawnsio ardderchog, f'arglwydd frenin, —cystal
(2, 2) 1540 Â'th loyw win i lonni calon hen.
 
(2, 2) 1548 Cael gweled mwg yr aberth
(2, 2) 1549 O flaen yr Arch yn esgyn!
(Joab) Cael clywed Sadoc,
 
(Joab) Llwydd i'n Brenin!
(2, 2) 1561 Ac Absalom ei fab!
(Joab) I goroni'n gwledd.
 
(Cŵsi) Bradwr! Rhagrithiwr! Cythraul o lwynog ffals!
(2, 2) 1596 Onid yw am ddychwelyd i Gaersalem?
(Cŵsi) O ydyw, F'arglwydd, mae'n dychwelyd heddiw.
 
(Cŵsi) O ydyw, F'arglwydd, mae'n dychwelyd heddiw.
(2, 2) 1598 Caiff roddi cyfrif am ei oruchwyliaeth.
(Cŵsi) Ar flaen eu byddin y daw Ahitoffel,
 
(Dafydd) {Tyn y llafn a rhed ei fawd ar hyd ei fin.}
(2, 2) 1688 Duw a'm helpo!
(2, 2) 1689 Ni chredais fyth y gwelwn Frenin Israel
(2, 2) 1690 Yn ei hen ddyddiau eto'n trin y cledd.
(2, 2) 1691 Rhowch gledd i minnau!
(Dafydd) Na, hen gyfaill, gwrando.
 
(Dafydd) Trwy'r anial baich a fyddit arnom.
(2, 2) 1695 Rhaid
(2, 2) 1696 Im wasanaethu 'Mrenin yn awr y praw.
(Dafydd) Ti gei fy ngwasanaethu... Aros yma
 
(2, 2) 1706 Rwy'n ufuddhau, fy Mrenin, ond goddefer
(2, 2) 1707 Im ddod i'th hebrwng hyd at Afon Cedron.
(2, 2) 1708 Ath adael yno â chusan gŵr di-frad.
(Dafydd) Yn barod, fy Mrenhines? Doeth y gwnaethost
 
(Ahitoffel) Y dyrfa.
(2, 3) 1962 Henffych well i'n brenin mwy.
(Absalom ac Ahitoffel) Hŵsai!
 
(Absalom) Am ei holl garedigrwydd iti?
(2, 3) 1967 Na,
(2, 3) 1968 Yr hwn sydd wrth Arch Duw yw 'mrenin i.
(2, 3) 1969 Yr hwn sy'n trigo yma'n Frenin Seion,
(2, 3) 1970 I hwnnw mae fy llw.
(Ahitoffel) Fy arglwydd frenin
 
(Absalom) 'Rwy'n gwerthfawrogi'r weithred.
(2, 3) 1979 Frenin Seion,
(2, 3) 1980 Rhoddais fy nghyngor pwyllog i'th dad Dafydd,
(2, 3) 1981 A phwy a wasanaethwn ond y mab
(2, 3) 1982 Sydd ar ei orsedd? Megis y bûm i'th dad,
(2, 3) 1983 Gad imi fod i'r Brenin Absalom.
(Absalom) Croeso i'n plith, Gynghorwr. Eistedd yma.
 
(Ahitoffel) Ymrestrant oll o dan dy faner di.
(2, 3) 2000 Cyngor cyrhaeddbell. Sicr o gael y dorf.
(Ahitoffel) Un peth ymhellach. Dyro i minnau gatrawd
 
(Absalom) Beth yw dy gyngor di?
(2, 3) 2018 Nid da yw cyngor
(2, 3) 2019 Y doeth Ahitoffel i ni'r waith hon.
(2, 3) 2020 Ti wyddost am dy dad, mai glewion grymus
(2, 3) 2021 Yw gwŷr ei osgordd. Nid ar chwarae bach
(2, 3) 2022 Y tarfir hwy gan ruthr gwyllt liw nos.
 
(2, 3) 2024 Atolwg sut mae lladd "neb ond y brenin?"
(2, 3) 2025 Capten profiadol ydyw. Mewn rhyw ogof
(2, 3) 2026 Bydd ef a'i deulu'n cysgu'n gwbwl ddiogel,
(2, 3) 2027 A'r Cedyrn yn eu gwarchod. Hyd y llethrau
(2, 3) 2028 Bydd gwyliwr wedi ei osod ar bob craig
(2, 3) 2029 O gylch y gwersyll gan gyfrwyster Joab.
(Ahitoffel) Gad hynny imi. Fe dduwn ein hwynebau
 
(Ahitoffel) A disgyn ar bob gwyliwr yn ddi-sŵn.
(2, 3) 2032 Methwch ag un, a deffry hwnnw'r gwersyll;
(2, 3) 2033 A Duw a'ch helpo rhag llid Cedyrn Dafydd!
(2, 3) 2034 F'arglwydd, mi fûm i'n un o fintai helwyr
(2, 3) 2035 Yn fy ieuenctid, ar ôl cenawon arth.
(2, 3) 2036 Gwelsom ddau genau'n sleifio i mewn i ogof.
(2, 3) 2037 Dringasom ar eu hôl â deg o gŵn
(2, 3) 2038 A gwaywffyn. Gollwng dau gi i'r ogof
(2, 3) 2039 I'w troi nhw allan. Ond clywsom ffyrnig ru
(2, 3) 2040 Y fam, tu fewn, yn boddi sgrech y cŵn
(2, 3) 2041 Wrth iddi eu rhwygo. Toc hi ddaeth i'r porth.
(2, 3) 2042 Safodd, a'i rhu fel taran hyd y bryn
(2, 3) 2043 A'i llygaid fel y mellt. Y peth ffyrnicaf
(2, 3) 2044 A welais ar ddau droed. Ie, wyth o helgwn
(2, 3) 2045 A adawsom wedi eu darnio o flaen y porth.
(2, 3) 2046 A llithro bendramwnwgl i lawr y bryn
(2, 3) 2047 Heb ennill cenau... Un peth ffyrnicach sydd
(2, 3) 2048 Nag arthes ym mhorth ogof lle mae'i chywion,—
(2, 3) 2049 Ei Gedyrn ym mhorth ogof lle mae Dafydd.
(Ahitoffel) Pa gyngor gwell a roddai arglwydd Hŵsai?
 
(Ahitoffel) Pa gyngor gwell a roddai arglwydd Hŵsai?
(2, 3) 2051 Os methiant fydd dy gyrch,—ar ôl y lladdfa
(2, 3) 2052 Liw nos ar dy ddilynwyr, torri calon
(2, 3) 2053 A wnâi gwŷr Hebron, a llithro adre'n ôl
(2, 3) 2054 A gadael ein Tywysog heb amddiffyn.
(2, 3) 2055 Gormod o fenter!
(Ahitoffel) Menter yw pob rhyfel.
 
(Ahitoffel) Menter yw pob rhyfel.
(2, 3) 2057 Eto mae'r pwyllog yn mantoli ei siawns;
(2, 3) 2058 A dyma 'nghyngor,—tario yng Nghaersalem;
(2, 3) 2059 Arddangos yma holl ragorfraint brenin,
(2, 3) 2060 Oni lwyr-gesglir llwythau Israel atom
(2, 3) 2061 O Dan hyd Beerseba. Megis tywod
(2, 3) 2062 Y môr y bydd ein llu... Wedyn, Dywysog
(2, 3) 2063 Dos, ledia hwy dy hun i'w brwydyr gyntaf,
(2, 3) 2064 A bydd dy frwydyr gynta'n fuddugoliaeth.
(Ahitoffel) {Yn ddirmygus.}
 
(Ahitoffel) A ph'le bydd byddin Dafydd?
(2, 3) 2067 Wedi encilio
(2, 3) 2068 Rhwng muriau rhyw hen ddinas. Ond fe'i tynnwn,
(2, 3) 2069 Megis â rhaff, i'r afon â'n llu mawr.
(2, 3) 2070 Arswydant rhag ein nifer. A'n telerau
(2, 3) 2071 Fydd rhoi ohonynt Ddafydd inni'n fyw.
(2, 3) 2072 Ac os ymwâd â'r goron,—ef a Solomon—
(2, 3) 2073 Cânt winllan ar y ffin, i'w thrin a'i throi.
(Absalom) Hŵsai a roes y cyngor gorau heddiw.
 
(Ahitoffel) Ond nid anghofiais i.
(2, 3) 2122 'Fentret-ti ffawd
(2, 3) 2123 Achos dy Frenin er dial llid personol?
(Ahitoffel) Mae mwy o berygl yn dy gynllun di,—
 
(Absalom) {Hŵsai'n bwyllog yn cyrchu'r gwin a'r cwpan a'i estyn iddo, ac yna'n hamddenol yn tywallt cwpanaid iddo'i hun.}
(2, 3) 2156 Ateb arafaidd—hwnnw a ddetry lid.
(2, 3) 2157 Diffoddodd dy air tawel ei gynddaredd.
(2, 3) 2158 Mae'n cywilyddio eisoes yn yr ardd.
(2, 3) 2159 'Rwy'n yfed i'th ddoethineb.
 
(Absalom) {Gwrandawant ill dau, ond ni chlywir na thinc na thonc wedyn.}
(2, 3) 2168 Un donc ar y gloch?... Y gwynt oedd yn ei siglo,
 
(2, 3) 2170 Cynghorwr gwerthfawr yw'r hen ffrind, ond weithiau
(2, 3) 2171 Y mae'n lled fyrbwyll. Pan ddaw at ei goed,
(2, 3) 2172 Fe fydd yn llwyr gytuno â ni.
(Absalom) 'Wyddwn i ddim
 
(Absalom) Hyd heddiw fod Ureias yn fab iddo.
(2, 3) 2175 Mi wyddwn i. Ond nid yw gwleidydd doeth
(2, 3) 2176 Yn gadael i'w deimladau ŵyrdroi'i farn.
(2, 3) 2177 Am les y wlad, yn lle defnyddio'i ben.
(Absalom) Megis y gwnaethost ti, trwy ddyfod ataf
 
(Absalom) Fy nhad.
(2, 3) 2181 'Rwy'n gyfaill iddo o hyd. Ond rhaid
(2, 3) 2182 Oedd rhoi'r llywodraeth ar dy ysgwydd gref
(2, 3) 2183 Er mwyn y wlad, ac er lles Dafydd ei hun.
(2, 3) 2184 Byth ni niweidiwn dy frenhinol dad.
(Absalom) Na minnau byth. Ac O! mi allwn wylo
 
(Absalom) I'w phlentyn siawns?
(2, 3) 2191 Tybed, a fyddai modd
(2, 3) 2192 Cyn dechrau brwydro, anfon at dy dad
(2, 3) 2193 Amodau heddwch? Gan ein bod ni'n gryfach,
(2, 3) 2194 Cawn osod amod caeth yn diogelu
(2, 3) 2195 Yr orsedd hon i ti.
(Absalom) Byth ni chytunai
 
(Absalom) Tan orfod rhyfel. Ni adai balchder iddo.
(2, 3) 2198 Dwys
(2, 3) 2199 A dyrys ydyw problem tad a mab
(2, 3) 2200 Ym mhob cenhedlaeth;—y gwrthdaro anorfod;
(2, 3) 2201 A'r naill yn caru'r llall yn nwfn y galon
(2, 3) 2202 Oni bai falchder... |Tybed| na fyddai modd
(2, 3) 2203 Cynnig amodau i Dafydd?
(Absalom) Hollol ofer!
 
(2, 3) 2214 Be' sydd, fy machgen annwyl-i, be' sydd?
(Absalom) Ai un o'm milwyr i...?
 
(Meffiboseth) Yn dallu fy llygaid... Rhedais i'w erbyn... O!
(2, 3) 2221 Nac edrych, arglwydd... Mae Ahitoffel
(2, 3) 2222 Wedi ymgrogi wrth raff y Gloch Alarwm.