|
|
|
(Negeswyr) Gosteg! |
|
|
|
(Y Dorf) Seren Jwda i'r bedd! |
(1, 0) 37 |
Bendigedig, Harbona! |
(1, 0) 38 |
Campus! |
(1, 0) 39 |
Campus! |
(1, 0) 40 |
Tyrd yma i gael cwpanaid o win. |
(1, 0) 41 |
'Rwyt ti'n ei haeddu o. |
|
(Harbona) Diolch, syr... |
|
|
|
(Harbona) Ie, gwaith sych yw darllen proclamasiwn. |
(1, 0) 45 |
Gwaith sych? |
(1, 0) 46 |
Roedd o'n tynnu dŵr o'm dannedd i. |
|
(Harbona) Dŵr? |
|
|
|
(Harbona) Eich gwaith chi, syr? |
(1, 0) 52 |
Sêl y Brenin, ond fy ngwaith i. |
|
(Harbona) Felly roeddwn i'n meddwl. |
|
|
|
(Harbona) 'Dydy'n harddull ni'r Persiaid ddim mor apocaluptaidd. |
(1, 0) 55 |
Beth yw ystyr hynny? |
|
(Harbona) "Yn ieuanc a hen, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, fel y byddo i bob enaid o'r Iddewon ddisgyn i uffern!"... |
|
|
|
(Harbona) Braidd yn Semitig i'm chwaeth i, sy'n ŵr o Bersia, os ca' i ddweud hynny, syr. |
(1, 0) 59 |
'Rwyt ti'n nes ati nag y gwyddost ti, machgen i. |
(1, 0) 60 |
Iddew piau'r geiriau. |
|
(Harbona) Iddew? |
|
|
|
(Harbona) Iddew? |
(1, 0) 62 |
Ïe, Iddew. |
(1, 0) 63 |
Teigr gwaedlyd o'r enw Samuel. |
(1, 0) 64 |
Un o'u proffwydi nhw. |
|
(Harbona) Sut y cawsoch chithau afael arnyn' nhw? |
|
|
|
(Harbona) Sut y cawsoch chithau afael arnyn' nhw? |
(1, 0) 66 |
Yn y geiriau yna y gorchmynnodd Samuel ddinistrio fy nghenedl i, ac Agag ei Brenin hi. |
(1, 0) 67 |
Fo, â'i law ei hunan, laddodd y brenin Agag yn garcharor heb arfau, yn sefyll yn ddiniwed ger ei fron. |
|
(Harbona) Tewch, da chi. |
|
|
|
(Harbona) Tewch, da chi. |
(1, 0) 69 |
Felly fe welwch fod gen i reswm dros gofio'r geiriau, dros gofio'r gwaed, dros gofio'r alanas. |
(1, 0) 70 |
Ychydig weddill o'm cenedl i ddaru ddianc. |
|
(Harbona) Ac yn awr dyma chithau'n talu'r pwyth? |
|
|
|
(Harbona) Ac yn awr dyma chithau'n talu'r pwyth? |
(1, 0) 72 |
Fe gaiff pob Iddew byw dalu! |
|
(Harbona) Haman yr Agagiad? |
|
|
|
(Harbona) Haman yr Agagiad? |
(1, 0) 74 |
Yr ydw' i o deulu'r brenin Agag. |
|
(Harbona) 'Welsoch chi'r alanas? |
|
|
|
(Harbona) 'Oeddech chi yno? |
(1, 0) 77 |
Na, doeddwn i ddim yno. |
(1, 0) 78 |
Ar |ryw| ystyr. |
|
(Harbona) Pa bryd y bu hi─pan laddodd Samuel Agag? |
|
|
|
(Harbona) Pa bryd y bu hi─pan laddodd Samuel Agag? |
(1, 0) 80 |
Pum canrif yn ôl. |
|
(Harbona) Beth? |
|
|
|
(Harbona) Beth? |
(1, 0) 82 |
Pum canrif yn ôl. |
|
(Harbona) Hawyr bach, syr, 'does neb yn dial cam pum canrif yn ôl. |
|
|
|
(Harbona) Na'r ddinas yma, Susan. |
(1, 0) 88 |
'Roedd Agag yn bod. |
(1, 0) 89 |
'Roedd Samuel yn bod. |
(1, 0) 90 |
Mae'r Iddew'n bod heddiw. |
(1, 0) 91 |
'Rwyf innau'n bod. |
|
(Harbona) Ydy'r Iddew yn cofio hynny? |
|
|
|
(Harbona) Ydy'r Iddew yn cofio hynny? |
(1, 0) 93 |
Pan laddodd Samuel Agag, dial cam pum canrif cyn hynny 'roedd yntau. |
(1, 0) 94 |
Ydyn', mae'r Iddewon yn cofio. |
(1, 0) 95 |
Pan glywan' nhw f'enw i, Haman yr Agagiad, yn y proclamasiwn, fe gofian'. |
(1, 0) 96 |
Fe gofian' wrth ddisgyn i uffern yn genedl grog. |
|
(Harbona) All atgo am bum canrif yn ôl fod mor gythreulig fyw? |
|
|
|
(Harbona) All atgo am bum canrif yn ôl fod mor gythreulig fyw? |
(1, 0) 98 |
Mae'r Iddewon yn fyw. |
(1, 0) 99 |
'Edrychaist ti 'rioed yn eu llygaid nhw? |
|
(Harbona) Pobl wedi eu concro ydyn' nhw, pobol alltud yn wylo wrth afonydd Babilon. |
|
|
|
(Harbona) Pan fydd swyddog o Bersiad yn eu pasio nhw ar yr heol, 'chodan' nhw mo'u llygaid. |
(1, 0) 102 |
Mae un ohonyn' nhw yma yn Susan, yn eistedd bob dydd ym mhorth palas y Brenin yma. |
(1, 0) 103 |
'Rwy'n edrych ym myw ei lygaid o, ac yn gweld y blewgi Samuel, a'r ewyn a'r llau ar ei farf, yn darnio Agag yn Gilgal. |
|
(Harbona) Haman, Haman, cymerwch bwyll, syr. |
|
|
|
(Harbona) All trempyn o Iddew ym mhorth y palas ddim codi'ch gwrychyn |chi|? |
(1, 0) 107 |
Mae holl weision y Brenin sydd ym mhorth y palas yn codi ac ymgrymu pan af i heibio, ond mae'r Iddew hwn yn eistedd ar ei stôl, heb gymaint â gostwng ei lygaid, a'i wep yn fy herio i. |
|
(Harbona) Gorchymyn y Brenin yw bod pawb yn ymostwng i chi. |
|
|
|
(Harbona) Sut mae o'n meiddio? |
(1, 0) 113 |
Dyna fo, Harbona, ar y gair. |
(1, 0) 114 |
'Wyt ti'n ei weld o?... |
(1, 0) 115 |
Hwnna!... |
(1, 0) 116 |
Hwnna! |
|
(Harbona) Mordecai! |
|
|
|
(Harbona) Mordecai! |
(1, 0) 119 |
'Wyt ti'n ei nabod o? |
|
(Harbona) Mae pawb yn y llys yn ei nabod o. |
|
|
|
(Harbona) Mordecai achubodd fywyd y Brenin. |
(1, 0) 122 |
'Wyt ti'n credu'r chwedl honno? |
|
(Harbona) Chwedl? |
|
|
|
(Harbona) Chwedl? |
(1, 0) 124 |
Dau was ystafell hanner pan. |
|
(Harbona) Fe gyffesodd y ddau eu bod nhw ar fedr llindagu'r Brenin. |
|
|
|
(Harbona) Mordecai ddatguddiodd y brad. |
(1, 0) 127 |
Dan artaith y cyffesodd y ddau. |
|
(Harbona) Wedyn fe'u crogwyd yn sydyn, heb artaith ychwaneg. |
|
|
|
(Harbona) Wedyn fe'u crogwyd yn sydyn, heb artaith ychwaneg. |
(1, 0) 129 |
'Ellid dim arall a hwythau wedi cyffesu. |
|
(Harbona) Cyn iddyn' nhw enwi neb arall. |
|
|
|
(Harbona) Cyn iddyn' nhw enwi neb arall. |
(1, 0) 131 |
Doedd neb y tu cefn iddyn' nhw. |
|
(Harbona) Da iawn. |
|
|
|
(Harbona) Chi oedd y barnwr yn yr achos. |
(1, 0) 134 |
Wrth gwrs. |
(1, 0) 135 |
'Roedd yr achos yn glir. |
|
(Harbona) Wedyn, aethoch chithau'n brif weinidog. |
|
|
|
(Harbona) Wedyn, aethoch chithau'n brif weinidog. |
(1, 0) 137 |
Ie, wedyn, yn swyddogol. |
(1, 0) 138 |
Ond fe drefnwyd hynny ers talwm. |
|
(Harbona) Wyddech chi, syr, fod rhai yn y llys yn disgwyl mai gwobr Mordecai fyddai hynny? |
|
|
|
(Harbona) Wyddech chi, syr, fod rhai yn y llys yn disgwyl mai gwobr Mordecai fyddai hynny? |
(1, 0) 140 |
Mordecai'n brif weinidog? |
(1, 0) 141 |
Y mochyn yna ar y grisiau? |
|
(Harbona) Ond chi a ddewiswyd. |
|
|
|
(Harbona) Ond chi a ddewiswyd. |
(1, 0) 143 |
'Rwyf i o waed brenhinoedd. |
|
(Harbona) Gadawyd Mordecai yn y porth. |
|
|
|
(Harbona) Gadawyd Mordecai yn y porth. |
(1, 0) 145 |
Iddew ym mhorth y Palas. |
(1, 0) 146 |
Mae'r peth yn warth. |
|
(Harbona) A chyfrinach y ddau was ganddo. |
|
|
|
(Harbona) A chyfrinach y ddau was ganddo. |
(1, 0) 148 |
'Doedd dim cyfrinach. |
(1, 0) 149 |
'Does arna'i ddim o'i ofn o. |
|
(Harbona) Mae o wedi ei adael a'i anghofio bellach. |
|
|
|
(Harbona) Mae o wedi ei adael a'i anghofio bellach. |
(1, 0) 151 |
'Anghofiais i mono fo. |
(1, 0) 152 |
Rydyn ni'n cofio'n gilydd, Mordecai a minnau. |
(1, 0) 153 |
Mae o'n fy herio i'n fud ym mhorth y palas bob dydd. |
|
(Harbona) Dirmygu dewis y Brenin. |
|
|
|
(Harbona) Pam na chosbwch chi o? |
(1, 0) 157 |
Dyna yw'r proclamasiwn a ddarllenaist ti'n awr. |
(1, 0) 158 |
Fy nghosb i ar Mordecai. |
(1, 0) 159 |
Fe gaiff grogi gydag Israel gyfan. |
(1, 0) 160 |
Fo a'i deulu, os oes ganddo fo deulu, a holl genedl yr Iddewon, fe gân' dalu imi bris ei ddirmyg. |
|
(Harbona) {Dan chwerthin yn ysgafn ddihitio.} |
|
|
|
(Harbona) Ond pan soniwch chi am ddial cam Agag bum canrif yn ôl, 'fedra' i ddeall dim ar hynny. |
(1, 0) 165 |
'Glywaist ti am ddewines Endor? |
|
(Harbona) Naddo fi. |
|
|
|
(Harbona) Rhyw wrach, ai e? |
(1, 0) 168 |
Fe alwodd hi Samuel o uffern i ddarogan angau Saul. |
(1, 0) 169 |
Mi alwaf innau Samuel ac mi alwaf Agag at drothwy Gehenna i groesawu holl genedl Moses. |
|
(Harbona) Dyna yw bod yn Brif Weinidog? |
|
|
|
(Harbona) Dyna yw bod yn Brif Weinidog? |
(1, 0) 171 |
Yr ias o ystyried fod yn fy mhwer i ddinistrio cenedl gyfan, cenedl sy'n honni fod iddi addewid am gyfamod tragwyddol! |
|
(Harbona) Rydych chi'n dysgu imi ystyr gwleidyddiaeth. |
|
|
|
(Harbona) Rydych chi'n dysgu imi ystyr gwleidyddiaeth. |
(1, 0) 173 |
'Fuost ti'n cenfigennu erioed wrth Ahasferus y Brenin, Harbona? |
|
(Harbona) Cwestiwn peryglus, syr. |
|
|
|
(Harbona) Cwestiwn peryglus, syr. |
(1, 0) 175 |
Twt,twt, fachgen, fe all dau o swyddogion y palas siarad yn rhydd ac yn ffrindiau. |
|
(Harbona) O'r gorau. |
|
|
|
(Harbona) Do, mi fûm i'n cenfigennu wrtho. |
(1, 0) 178 |
Pam? |
|
(Harbona) Mae o'n ddeg ar hugain, a dydy'r frenhines Esther ddim eto'n ugain oed. |
|
|
(1, 0) 181 |
Chwarae teg iti, fachgen, chwarae teg iti. |
|
(Harbona) Mae hi'n Ymerodres y deyrnas, a 'does neb yn gwybod o ble y daeth hi. |
|
|
|
(Harbona) Mae hi'n Ymerodres y deyrnas, a 'does neb yn gwybod o ble y daeth hi. |
(1, 0) 183 |
'Ystyriais i ddim. |
(1, 0) 184 |
Ar ôl gyrru Fasti o'r palas fe gasglwyd y llancesi glana o bob rhan o'r ymerodraeth i'r Brenin i gael dewis ei gariad. |
(1, 0) 185 |
A'r llances yma enillodd. |
|
(Harbona) Ydy'r Brenin yn ei hoffi hi? |
|
|
|
(Harbona) Ydy'r Brenin yn ei hoffi hi? |
(1, 0) 187 |
Beth wn i? |
(1, 0) 188 |
Mae ganddo gariadon eraill. |
(1, 0) 189 |
'Dydw i ddim yn credu ei fod o wedi ei gweld hi ers mis. |
|
(Harbona) Mae hi'n eistedd ar ei gorsedd fel petai hi wedi ei geni yno. |
|
|
|
(Harbona) Wyddoch chi rywbeth am ei theulu hi, ei thras hi? |
(1, 0) 192 |
Mae Brenin Persia a Media yn rhy gall. |
(1, 0) 193 |
'Does ganddo fyth berthnasau yng nghyfraith. |
|
(Harbona) 'Wyr neb i ble'r aeth Fasti. |
|
|
|
(Harbona) 'Wyr neb o ble daeth Esther. |
(1, 0) 196 |
'Welaist ti Fasti? |
|
(Harbona) Mae Esther yn harddach. |
|
|
|
(Harbona) Mae Esther yn harddach. |
(1, 0) 198 |
Dyna dy farn di? |
(1, 0) 199 |
Edrychais i 'rioed arni lawer. |
|
(Harbona) Druan ohonoch chi, syr. |
|
|
|
(Harbona) Does dim arall yn Susan sy'n werth edrych arno wrthi hi. |
(1, 0) 202 |
'Rwyt ti'n edrych yn uchel? |
|
(Harbona) 'Rydw i'n gweini arni ryw dipyn bron bob dydd, ond 'dydy hi ddim wedi 'ngweld i eto. |
|
|
|
(Harbona) Ychydig newyn a blino? |
(1, 0) 206 |
Ydy hi'n ffroen-uchel fel Fasti? |
|
(Harbona) Mae hi'n addfwyn ac araf, ond er hynny, mi fydda' i'n meddwl fod teigres yn cysgu dan ei hamrannau hi. |
|
|
|
(Harbona) Mae hi'n addfwyn ac araf, ond er hynny, mi fydda' i'n meddwl fod teigres yn cysgu dan ei hamrannau hi. |
(1, 0) 208 |
I mi pethau i'w defnyddio yw merched. |
(1, 0) 209 |
'Fedrwn ni ddim cael meibion hebddyn' nhw. |
(1, 0) 210 |
Am wn i ei bod hi'n ffordd reit hwylus. |
|
(Harbona) 'Wyddoch chi ddim oll am bleser, felly? |
|
|
|
(Harbona) 'Wyddoch chi ddim oll am bleser, felly? |
(1, 0) 212 |
Mae gen'i ddeg o feibion, saith ohonyn' nhw'n swyddogion yn y palas neu yn y fyddin. |
(1, 0) 213 |
Mae hynny'n bleser, pleser dwfn. |
(1, 0) 214 |
Mi ddois i Bersia yn estron, yn filwr heb neb yn fy 'nabod i. |
(1, 0) 215 |
Heddiw, fi yw prif weinidog yr ymerodraeth. |
(1, 0) 216 |
Mi fydd fy meibion i ar fy ôl i'n dywysogion. |
(1, 0) 217 |
Cenedl Agag. |
(1, 0) 218 |
'Rydw i wedi herio tynged. |
(1, 0) 219 |
Mae pob grym yn bleser. |
|
(Harbona) Rydych chi'n iawn; syr. |
|
|
|
(Harbona) Does gennych chi ddim achos i genfigennu wrth neb. |
(1, 0) 222 |
Mi wn i'n well na thi beth ydy' cenfigen. |
|
(Harbona) 'Rych chithau'n cenfigennu wrth y Brenin? |
|
|
|
(Harbona) 'Rych chithau'n cenfigennu wrth y Brenin? |
(1, 0) 224 |
Cenfigennu wrth Ahasferus? |
|
(Harbona) Wrth ei rwysg o, ie? |
|
|
|
(Harbona) Wrth ei fawredd o, ei awdurdod o? |
(1, 0) 227 |
Dim oll. |
(1, 0) 228 |
Dim iot. |
(1, 0) 229 |
'Dydw' i'n hitio fawr ddim am rwysg ynddo'i hun. |
(1, 0) 230 |
Ac am awdurdod Ahasferus, fi piau'i awdurdod o. |
(1, 0) 231 |
Rydw i'n ei ddefnyddio fo fel y mynna' i erbyn hyn. |
|
(Harbona) Popeth yn dda ond iddo fo beidio ag amau hynny. |
|
|
|
(Harbona) Popeth yn dda ond iddo fo beidio ag amau hynny. |
(1, 0) 233 |
'Does fawr o berig'. |
(1, 0) 234 |
Mae ei feddwl o, fel dy feddwl dithau, ar Esther neu ryw gariad arall. |
|
(Harbona) Peidiwch â deffro'r teigr yn Esther. |
|
|
|
(Harbona) Peidiwch â deffro'r teigr yn Esther. |
(1, 0) 236 |
Swydd Esther fydd cadw'r Brenin rhag gweld. |
|
(Harbona) Mi rown i dipyn am iddi hi ddechrau 'ngweld i. |
|
|
|
(Harbona) Mi rown i dipyn am iddi hi ddechrau 'ngweld i. |
(1, 0) 238 |
Rhaid bod yn ifanc i genfigennu wrth y Brenin. |
|
(Harbona) Neu ynteu'n ddigon hen i ddefnyddio Bigthana a Theres. |
|
|
|
(Harbona) Neu ynteu'n ddigon hen i ddefnyddio Bigthana a Theres. |
(1, 0) 240 |
Be wyt ti'n ei awgrymu? |
|
(Harbona) Cellwair, syr, dim ond cellwair. |
|
|
|
(Harbona) Mae clepian y palas yn ddigon diniwed. |
(1, 0) 243 |
Cenfigen yw clep y palas. |
|
(Harbona) Wrth bwy'r ydych chi'n cenfigennu? |
|
|
|
(Harbona) Wrth bwy'r ydych chi'n cenfigennu? |
(1, 0) 245 |
'Rwyt ti'n rhy ifanc i ddeall. |
|
(Harbona) Rhowch braw arna' i. |
|
|
|
(Harbona) Rhowch braw arna' i. |
(1, 0) 247 |
Wrth y Duwiau, Harbona. |
(1, 0) 248 |
Wrth y Duw sy'n rheoli angau. |
|
(Harbona) Wel, na. |
|
|
|
(Harbona) 'Dydw'i ddim yn deall. |
(1, 0) 251 |
Dyna yw gwleidyddiaeth, Harbona, dyn yn ysu am fod yn Dduw. |
(1, 0) 252 |
Angau ydy allwedd y gyfrinach. |
(1, 0) 253 |
Medru defnyddio angau, gorchymyn angau, gwneud angau'n ufudd, yn offeryn yn y llaw, dyna wynfyd y gwleidydd. |
(1, 0) 254 |
'Rydw i heddiw yn Dduw i holl genedl yr Iddewon. |
(1, 0) 255 |
Rydw i'n cyhoeddi drwy'r Proclamasiwn hwn farwolaeth y genedl gyfan, ac fe ddaw hynny'n drefnus i ben. |
(1, 0) 256 |
Dyna sy'n meddwi dyn mewn gwleidyddiaeth. |
(1, 0) 257 |
Mi fedra' i ddychmygu y daw dydd rywbryd y gall rhyw un dyn, prif weinidog neu gadfridog, gymryd pelen o dân yn ei ddwylo ac yna, o'i thaflu hi, ddifa'r ddynoliaeth i gyd, rhoi'r byd ar dân. |
(1, 0) 258 |
Pan ddaw hynny, Harbona, dyna ddiwedd y byd. |
(1, 0) 259 |
Oblegid 'fedrai neb dyn wrthod y demtasiwn. |
(1, 0) 260 |
'Fedrai neb, a thynged pawb byw yn ei law ac yn ei ewyllys, wrthod y profiad, y profiad o fod yn Dduw. |
(1, 0) 261 |
Dyna bêr-lesmair gwleidyddiaeth. |
(1, 0) 262 |
'Rydw i heddiw yn Dduw i Mordecai, i holl genedl Mordecai, i Moses a Samuel a'u hil. |
(1, 0) 263 |
Mae'r gorchymyn wedi mynd allan i gyrrau eithaf yr Ymerodraeth. |
(1, 0) 264 |
Mae gobaith Abraham wedi diffodd. |
(1, 0) 265 |
Mae'r cyfamod tragwyddol wedi ei ddileu. |
(1, 0) 266 |
Mae'r Iddewon yn mynd gyda'i gilydd i wersyll-garchar y nos dragwyddol, y nos a benodais i iddyn nhw. |
(1, 0) 267 |
Heddiw mae hanes Israel yn cau, trwy benderfyniad a gorchymyn un dyn, fi, Haman yr Agagiad, yr artist mewn gwleidyddiaeth. |
|
(Harbona) Ie, ias go iawn. |
|
|
|
(Harbona) Ac eto i gyd, y mae'r olwg ar Mordecai ar risiau'r palas, a sach am ei ganol, yn eich cynhyrfu chi. |
(1, 0) 271 |
'Dydw i ddim wedi drysu. |
(1, 0) 272 |
Mi dd'wedais mai |cenfigennu| wrth Dduw yr oeddwn i. |
(1, 0) 273 |
Nid fy mod i wedi cyrraedd. |
|
(Harbona) Mae Mordecai wedi mynd yn dipyn o hunllef arnoch chi, syr? |
|
|
|
(Harbona) Mae Mordecai wedi mynd yn dipyn o hunllef arnoch chi, syr? |
(1, 0) 275 |
Mi dd'wedais, 'rydw i'n gweld Samuel yn ei lygaid o. |
|
(Harbona) Mae eto dipyn o amser cyn diwrnod y lladd mawr? |
|
|
|
(Harbona) Mae eto dipyn o amser cyn diwrnod y lladd mawr? |
(1, 0) 277 |
Y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis. |
|
(Harbona) Gymerwch chi gyngor gan ŵr ifanc? |
|
|
|
(Harbona) Gymerwch chi gyngor gan ŵr ifanc? |
(1, 0) 279 |
Mi wrandawaf yn astud a phwyso. |
|
(Harbona) 'Does dim y mae'r Brenin yn debyg o'i wrthod i chi ynglŷn â'r Iddewon. |
|
|
|
(Harbona) 'Does dim y mae'r Brenin yn debyg o'i wrthod i chi ynglŷn â'r Iddewon. |
(1, 0) 281 |
Hyd y galla' i farnu, dim oll. |
|
(Harbona) Pa angen aros mor hir mewn mater o frys? |
|
|
|
(Harbona) Pa angen aros mor hir mewn mater o frys? |
(1, 0) 283 |
Cyn crogi'r Iddewon? |
|
(Harbona) Nage. |
|
|
|
(Harbona) Crogi'ch gelyn arbennig, ysbïwr Bigthana a Theres? |
(1, 0) 289 |
Crogi Mordecai? |
|
(Harbona) Mi ellid, 'wyddoch chi, ei grogi o heddiw. |
|
|
|
(Harbona) Mi ellid, 'wyddoch chi, ei grogi o heddiw. |
(1, 0) 291 |
Sut mae perswadio'r Brenin? |
(1, 0) 292 |
Mae o'n rhoi cryn bris ar gyfraith, ond mewn achosion go eithriadol. |
|
(Harbona) Dangoswch y perigl o oedi gormod, perigl rhoi amser i drefnu gwrthryfel. |
|
|
|
(Harbona) Dangoswch y perigl o oedi gormod, perigl rhoi amser i drefnu gwrthryfel. |
(1, 0) 294 |
Harbona, mae gen'ti 'fennydd gwleidydd. |
|
(Harbona) Ewch adre rwan a chael seiri i godi'r crocbren dan ffenest eich tŷ. |
|
|
|
(Harbona) Ewch adre rwan a chael seiri i godi'r crocbren dan ffenest eich tŷ. |
(1, 0) 296 |
Wedyn at y Brenin i'w berswadio am y perigl i'w orsedd. |
|
(Harbona) Mi gysgwch yn dawel heno a Mordecai'n troi ar y rhaff nepell o droed eich gwely. |
|
|
|
(Harbona) Mi gysgwch yn dawel heno a Mordecai'n troi ar y rhaff nepell o droed eich gwely. |
(1, 0) 298 |
A'r brain a'r eryrod yn pigo'r esgyrn.... |
(1, 0) 299 |
Dyro dy law imi, fachgen, mi ofala' i am dy yrfa di. |
(1, 0) 300 |
Mi af am y seiri rhag blaen. |