|
|
|
(Negeswyr) Gosteg! |
|
|
(1, 0) 11 |
Y Brenin mawr Ahasferus at y Tywysogion, y Rhaglawiaid a'r Llywodraethwyr sy dano ef ar saith ar hugain a chant o daleithiau o'r India hyd at Ethiopia. |
|
(Y Dorf) Gosteg! |
|
|
|
(Y Dorf) Gosteg! |
(1, 0) 13 |
Gan fy mod i, Ahasferus, yn Arglwydd ar genhedloedd lawer ac yn llywodraethu'r holl fyd, mi ewyllysiais lywodraethu'n addfwyn, a gosod fy neiliaid oll mewn bywyd llonydd, a rhoi heddwch hyd eithafoedd yr ymerodraeth. |
|
(Y Dorf) Heddwch! |
|
|
|
(Y Dorf) Heddwch! |
(1, 0) 15 |
Ond mynegodd Haman imi, Haman sydd yn cael yr ail anrhydedd yn y deyrnas, Haman ein prif weinidog a'n prif swyddog ni, sy'n rhagorol mewn doethineb a dianwadal ewyllys da─ |
|
(Y Dorf) Haman! |
|
|
|
(Y Dorf) Haman yr Agagiad! |
(1, 0) 19 |
Mynegodd Haman fod cenedl atgas wedi ymgymysgu â holl lwythau'r byd, cenedl sy'n wrthwynebus ei chyfraith i bob cenedl arall, cenedl sy'n torri'n wastad ein gorchymyn brenhinol ni, fel na all undeb ein teyrnasoedd ni ddim sefyll. |
|
(Y Dorf) Brad! |
|
|
|
(Y Dorf) Brad! |
(1, 0) 25 |
Cenedl yr Iddewon. |
|
(Y Dorf) Iddewon! |
|
|
|
(Y Dorf) Gosteg! |
(1, 0) 29 |
Ninnau'n awr, gan wybod y modd y mae'r genedl hon wedi ymosod i wrthwynebu pob dyn yn wastad, gan ymrafaelio â'r pethau yr ydym ni yn eu gorchymyn, a chan gyflawni pob drygioni a fedront, yr ydym ninnau yn hysbysu ac yn gorchymyn, drwy lythyrau at holl ddugiaid a thywysogion a llywodraethwyr pob talaith o'n hymerodraeth,─ |
(1, 0) 30 |
Ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis o'r flwyddyn bresennol hon, fod dinistrio a lladd a difetha drwy gleddyf a thrwy grog holl genedl yr Iddewon, yn hen ac yn ieuanc, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, heb ddim trugaredd na thosturi, fel y byddo i bob enaid o'r Iddewon ddisgyn i uffern, heb adael un o'u hil yn fyw ar y ddaear. |
(1, 0) 31 |
Yn enw'r Brenin Ahasferus! |
|
(Y Dorf) Angau i'r Iddewon!... |
|
|
|
(Haman) 'Rwyt ti'n ei haeddu o. |
(1, 0) 42 |
Diolch, syr... |
(1, 0) 43 |
Hir oes i Haman yr Agagiad!... |
(1, 0) 44 |
Ie, gwaith sych yw darllen proclamasiwn. |
|
(Haman) Gwaith sych? |
|
|
|
(Haman) Roedd o'n tynnu dŵr o'm dannedd i. |
(1, 0) 47 |
Dŵr? |
(1, 0) 48 |
Tybed? |
(1, 0) 49 |
Gwaed, 'ddyliwn i... |
(1, 0) 50 |
Proclamasiwn go waedlyd yn fy marn i.... |
(1, 0) 51 |
Eich gwaith chi, syr? |
|
(Haman) Sêl y Brenin, ond fy ngwaith i. |
|
|
|
(Haman) Sêl y Brenin, ond fy ngwaith i. |
(1, 0) 53 |
Felly roeddwn i'n meddwl. |
(1, 0) 54 |
'Dydy'n harddull ni'r Persiaid ddim mor apocaluptaidd. |
|
(Haman) Beth yw ystyr hynny? |
|
|
|
(Haman) Beth yw ystyr hynny? |
(1, 0) 56 |
"Yn ieuanc a hen, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, fel y byddo i bob enaid o'r Iddewon ddisgyn i uffern!"... |
|
|
(1, 0) 58 |
Braidd yn Semitig i'm chwaeth i, sy'n ŵr o Bersia, os ca' i ddweud hynny, syr. |
|
(Haman) 'Rwyt ti'n nes ati nag y gwyddost ti, machgen i. |
|
|
|
(Haman) Iddew piau'r geiriau. |
(1, 0) 61 |
Iddew? |
|
(Haman) Ïe, Iddew. |
|
|
|
(Haman) Un o'u proffwydi nhw. |
(1, 0) 65 |
Sut y cawsoch chithau afael arnyn' nhw? |
|
(Haman) Yn y geiriau yna y gorchmynnodd Samuel ddinistrio fy nghenedl i, ac Agag ei Brenin hi. |
|
|
|
(Haman) Fo, â'i law ei hunan, laddodd y brenin Agag yn garcharor heb arfau, yn sefyll yn ddiniwed ger ei fron. |
(1, 0) 68 |
Tewch, da chi. |
|
(Haman) Felly fe welwch fod gen i reswm dros gofio'r geiriau, dros gofio'r gwaed, dros gofio'r alanas. |
|
|
|
(Haman) Ychydig weddill o'm cenedl i ddaru ddianc. |
(1, 0) 71 |
Ac yn awr dyma chithau'n talu'r pwyth? |
|
(Haman) Fe gaiff pob Iddew byw dalu! |
|
|
|
(Haman) Fe gaiff pob Iddew byw dalu! |
(1, 0) 73 |
Haman yr Agagiad? |
|
(Haman) Yr ydw' i o deulu'r brenin Agag. |
|
|
|
(Haman) Yr ydw' i o deulu'r brenin Agag. |
(1, 0) 75 |
'Welsoch chi'r alanas? |
(1, 0) 76 |
'Oeddech chi yno? |
|
(Haman) Na, doeddwn i ddim yno. |
|
|
|
(Haman) Ar |ryw| ystyr. |
(1, 0) 79 |
Pa bryd y bu hi─pan laddodd Samuel Agag? |
|
(Haman) Pum canrif yn ôl. |
|
|
|
(Haman) Pum canrif yn ôl. |
(1, 0) 81 |
Beth? |
|
(Haman) Pum canrif yn ôl. |
|
|
|
(Haman) Pum canrif yn ôl. |
(1, 0) 84 |
Hawyr bach, syr, 'does neb yn dial cam pum canrif yn ôl. |
(1, 0) 85 |
'Does neb yn cofio pum canrif yn ôl. |
(1, 0) 86 |
Pum canrif yn ôl 'doedd ymerodraeth Persia ddim yn bod. |
(1, 0) 87 |
Na'r ddinas yma, Susan. |
|
(Haman) 'Roedd Agag yn bod. |
|
|
|
(Haman) 'Rwyf innau'n bod. |
(1, 0) 92 |
Ydy'r Iddew yn cofio hynny? |
|
(Haman) Pan laddodd Samuel Agag, dial cam pum canrif cyn hynny 'roedd yntau. |
|
|
|
(Haman) Fe gofian' wrth ddisgyn i uffern yn genedl grog. |
(1, 0) 97 |
All atgo am bum canrif yn ôl fod mor gythreulig fyw? |
|
(Haman) Mae'r Iddewon yn fyw. |
|
|
|
(Haman) 'Edrychaist ti 'rioed yn eu llygaid nhw? |
(1, 0) 100 |
Pobl wedi eu concro ydyn' nhw, pobol alltud yn wylo wrth afonydd Babilon. |
(1, 0) 101 |
Pan fydd swyddog o Bersiad yn eu pasio nhw ar yr heol, 'chodan' nhw mo'u llygaid. |
|
(Haman) Mae un ohonyn' nhw yma yn Susan, yn eistedd bob dydd ym mhorth palas y Brenin yma. |
|
|
|
(Haman) 'Rwy'n edrych ym myw ei lygaid o, ac yn gweld y blewgi Samuel, a'r ewyn a'r llau ar ei farf, yn darnio Agag yn Gilgal. |
(1, 0) 104 |
Haman, Haman, cymerwch bwyll, syr. |
(1, 0) 105 |
'Does gen' i ddim yn erbyn crogi Iddewon, ond chi yw prif weinidog yr Ymerodraeth; mae modrwy'r Brenin ar eich bys chi, a'ch urddas yn ail i urddas Ahasferus ei hunan. |
(1, 0) 106 |
All trempyn o Iddew ym mhorth y palas ddim codi'ch gwrychyn |chi|? |
|
(Haman) Mae holl weision y Brenin sydd ym mhorth y palas yn codi ac ymgrymu pan af i heibio, ond mae'r Iddew hwn yn eistedd ar ei stôl, heb gymaint â gostwng ei lygaid, a'i wep yn fy herio i. |
|
|
|
(Haman) Mae holl weision y Brenin sydd ym mhorth y palas yn codi ac ymgrymu pan af i heibio, ond mae'r Iddew hwn yn eistedd ar ei stôl, heb gymaint â gostwng ei lygaid, a'i wep yn fy herio i. |
(1, 0) 108 |
Gorchymyn y Brenin yw bod pawb yn ymostwng i chi. |
(1, 0) 109 |
Sut mae o'n meiddio? |
|
(Haman) Dyna fo, Harbona, ar y gair. |
|
|
|
(Haman) Hwnna! |
(1, 0) 118 |
Mordecai! |
|
(Haman) 'Wyt ti'n ei nabod o? |
|
|
|
(Haman) 'Wyt ti'n ei nabod o? |
(1, 0) 120 |
Mae pawb yn y llys yn ei nabod o. |
(1, 0) 121 |
Mordecai achubodd fywyd y Brenin. |
|
(Haman) 'Wyt ti'n credu'r chwedl honno? |
|
|
|
(Haman) 'Wyt ti'n credu'r chwedl honno? |
(1, 0) 123 |
Chwedl? |
|
(Haman) Dau was ystafell hanner pan. |
|
|
|
(Haman) Dau was ystafell hanner pan. |
(1, 0) 125 |
Fe gyffesodd y ddau eu bod nhw ar fedr llindagu'r Brenin. |
(1, 0) 126 |
Mordecai ddatguddiodd y brad. |
|
(Haman) Dan artaith y cyffesodd y ddau. |
|
|
|
(Haman) Dan artaith y cyffesodd y ddau. |
(1, 0) 128 |
Wedyn fe'u crogwyd yn sydyn, heb artaith ychwaneg. |
|
(Haman) 'Ellid dim arall a hwythau wedi cyffesu. |
|
|
|
(Haman) 'Ellid dim arall a hwythau wedi cyffesu. |
(1, 0) 130 |
Cyn iddyn' nhw enwi neb arall. |
|
(Haman) Doedd neb y tu cefn iddyn' nhw. |
|
|
|
(Haman) Doedd neb y tu cefn iddyn' nhw. |
(1, 0) 132 |
Da iawn. |
(1, 0) 133 |
Chi oedd y barnwr yn yr achos. |
|
(Haman) Wrth gwrs. |
|
|
|
(Haman) 'Roedd yr achos yn glir. |
(1, 0) 136 |
Wedyn, aethoch chithau'n brif weinidog. |
|
(Haman) Ie, wedyn, yn swyddogol. |
|
|
|
(Haman) Ond fe drefnwyd hynny ers talwm. |
(1, 0) 139 |
Wyddech chi, syr, fod rhai yn y llys yn disgwyl mai gwobr Mordecai fyddai hynny? |
|
(Haman) Mordecai'n brif weinidog? |
|
|
|
(Haman) Y mochyn yna ar y grisiau? |
(1, 0) 142 |
Ond chi a ddewiswyd. |
|
(Haman) 'Rwyf i o waed brenhinoedd. |
|
|
|
(Haman) 'Rwyf i o waed brenhinoedd. |
(1, 0) 144 |
Gadawyd Mordecai yn y porth. |
|
(Haman) Iddew ym mhorth y Palas. |
|
|
|
(Haman) Mae'r peth yn warth. |
(1, 0) 147 |
A chyfrinach y ddau was ganddo. |
|
(Haman) 'Doedd dim cyfrinach. |
|
|
|
(Haman) 'Does arna'i ddim o'i ofn o. |
(1, 0) 150 |
Mae o wedi ei adael a'i anghofio bellach. |
|
(Haman) 'Anghofiais i mono fo. |
|
|
|
(Haman) Mae o'n fy herio i'n fud ym mhorth y palas bob dydd. |
(1, 0) 154 |
Dirmygu dewis y Brenin. |
(1, 0) 155 |
Sarhad ar y Brenin yw hynny. |
(1, 0) 156 |
Pam na chosbwch chi o? |
|
(Haman) Dyna yw'r proclamasiwn a ddarllenaist ti'n awr. |
|
|
(1, 0) 162 |
Go dda, syr. |
(1, 0) 163 |
'Rwy'n deall dial fel yna. |
(1, 0) 164 |
Ond pan soniwch chi am ddial cam Agag bum canrif yn ôl, 'fedra' i ddeall dim ar hynny. |
|
(Haman) 'Glywaist ti am ddewines Endor? |
|
|
|
(Haman) 'Glywaist ti am ddewines Endor? |
(1, 0) 166 |
Naddo fi. |
(1, 0) 167 |
Rhyw wrach, ai e? |
|
(Haman) Fe alwodd hi Samuel o uffern i ddarogan angau Saul. |
|
|
|
(Haman) Mi alwaf innau Samuel ac mi alwaf Agag at drothwy Gehenna i groesawu holl genedl Moses. |
(1, 0) 170 |
Dyna yw bod yn Brif Weinidog? |
|
(Haman) Yr ias o ystyried fod yn fy mhwer i ddinistrio cenedl gyfan, cenedl sy'n honni fod iddi addewid am gyfamod tragwyddol! |
|
|
|
(Haman) Yr ias o ystyried fod yn fy mhwer i ddinistrio cenedl gyfan, cenedl sy'n honni fod iddi addewid am gyfamod tragwyddol! |
(1, 0) 172 |
Rydych chi'n dysgu imi ystyr gwleidyddiaeth. |
|
(Haman) 'Fuost ti'n cenfigennu erioed wrth Ahasferus y Brenin, Harbona? |
|
|
|
(Haman) 'Fuost ti'n cenfigennu erioed wrth Ahasferus y Brenin, Harbona? |
(1, 0) 174 |
Cwestiwn peryglus, syr. |
|
(Haman) Twt,twt, fachgen, fe all dau o swyddogion y palas siarad yn rhydd ac yn ffrindiau. |
|
|
|
(Haman) Twt,twt, fachgen, fe all dau o swyddogion y palas siarad yn rhydd ac yn ffrindiau. |
(1, 0) 176 |
O'r gorau. |
(1, 0) 177 |
Do, mi fûm i'n cenfigennu wrtho. |
|
(Haman) Pam? |
|
|
|
(Haman) Pam? |
(1, 0) 179 |
Mae o'n ddeg ar hugain, a dydy'r frenhines Esther ddim eto'n ugain oed. |
|
(Haman) {Dan chwerthin.} |
|
|
|
(Haman) Chwarae teg iti, fachgen, chwarae teg iti. |
(1, 0) 182 |
Mae hi'n Ymerodres y deyrnas, a 'does neb yn gwybod o ble y daeth hi. |
|
(Haman) 'Ystyriais i ddim. |
|
|
|
(Haman) A'r llances yma enillodd. |
(1, 0) 186 |
Ydy'r Brenin yn ei hoffi hi? |
|
(Haman) Beth wn i? |
|
|
|
(Haman) 'Dydw i ddim yn credu ei fod o wedi ei gweld hi ers mis. |
(1, 0) 190 |
Mae hi'n eistedd ar ei gorsedd fel petai hi wedi ei geni yno. |
(1, 0) 191 |
Wyddoch chi rywbeth am ei theulu hi, ei thras hi? |
|
(Haman) Mae Brenin Persia a Media yn rhy gall. |
|
|
|
(Haman) 'Does ganddo fyth berthnasau yng nghyfraith. |
(1, 0) 194 |
'Wyr neb i ble'r aeth Fasti. |
(1, 0) 195 |
'Wyr neb o ble daeth Esther. |
|
(Haman) 'Welaist ti Fasti? |
|
|
|
(Haman) 'Welaist ti Fasti? |
(1, 0) 197 |
Mae Esther yn harddach. |
|
(Haman) Dyna dy farn di? |
|
|
|
(Haman) Edrychais i 'rioed arni lawer. |
(1, 0) 200 |
Druan ohonoch chi, syr. |
(1, 0) 201 |
Does dim arall yn Susan sy'n werth edrych arno wrthi hi. |
|
(Haman) 'Rwyt ti'n edrych yn uchel? |
|
|
|
(Haman) 'Rwyt ti'n edrych yn uchel? |
(1, 0) 203 |
'Rydw i'n gweini arni ryw dipyn bron bob dydd, ond 'dydy hi ddim wedi 'ngweld i eto. |
(1, 0) 204 |
Pwy ŵyr? |
(1, 0) 205 |
Ychydig newyn a blino? |
|
(Haman) Ydy hi'n ffroen-uchel fel Fasti? |
|
|
|
(Haman) Ydy hi'n ffroen-uchel fel Fasti? |
(1, 0) 207 |
Mae hi'n addfwyn ac araf, ond er hynny, mi fydda' i'n meddwl fod teigres yn cysgu dan ei hamrannau hi. |
|
(Haman) I mi pethau i'w defnyddio yw merched. |
|
|
|
(Haman) Am wn i ei bod hi'n ffordd reit hwylus. |
(1, 0) 211 |
'Wyddoch chi ddim oll am bleser, felly? |
|
(Haman) Mae gen'i ddeg o feibion, saith ohonyn' nhw'n swyddogion yn y palas neu yn y fyddin. |
|
|
|
(Haman) Mae pob grym yn bleser. |
(1, 0) 220 |
Rydych chi'n iawn; syr. |
(1, 0) 221 |
Does gennych chi ddim achos i genfigennu wrth neb. |
|
(Haman) Mi wn i'n well na thi beth ydy' cenfigen. |
|
|
|
(Haman) Mi wn i'n well na thi beth ydy' cenfigen. |
(1, 0) 223 |
'Rych chithau'n cenfigennu wrth y Brenin? |
|
(Haman) Cenfigennu wrth Ahasferus? |
|
|
|
(Haman) Cenfigennu wrth Ahasferus? |
(1, 0) 225 |
Wrth ei rwysg o, ie? |
(1, 0) 226 |
Wrth ei fawredd o, ei awdurdod o? |
|
(Haman) Dim oll. |
|
|
|
(Haman) Rydw i'n ei ddefnyddio fo fel y mynna' i erbyn hyn. |
(1, 0) 232 |
Popeth yn dda ond iddo fo beidio ag amau hynny. |
|
(Haman) 'Does fawr o berig'. |
|
|
|
(Haman) Mae ei feddwl o, fel dy feddwl dithau, ar Esther neu ryw gariad arall. |
(1, 0) 235 |
Peidiwch â deffro'r teigr yn Esther. |
|
(Haman) Swydd Esther fydd cadw'r Brenin rhag gweld. |
|
|
|
(Haman) Swydd Esther fydd cadw'r Brenin rhag gweld. |
(1, 0) 237 |
Mi rown i dipyn am iddi hi ddechrau 'ngweld i. |
|
(Haman) Rhaid bod yn ifanc i genfigennu wrth y Brenin. |
|
|
|
(Haman) Rhaid bod yn ifanc i genfigennu wrth y Brenin. |
(1, 0) 239 |
Neu ynteu'n ddigon hen i ddefnyddio Bigthana a Theres. |
|
(Haman) Be wyt ti'n ei awgrymu? |
|
|
|
(Haman) Be wyt ti'n ei awgrymu? |
(1, 0) 241 |
Cellwair, syr, dim ond cellwair. |
(1, 0) 242 |
Mae clepian y palas yn ddigon diniwed. |
|
(Haman) Cenfigen yw clep y palas. |
|
|
|
(Haman) Cenfigen yw clep y palas. |
(1, 0) 244 |
Wrth bwy'r ydych chi'n cenfigennu? |
|
(Haman) 'Rwyt ti'n rhy ifanc i ddeall. |
|
|
|
(Haman) 'Rwyt ti'n rhy ifanc i ddeall. |
(1, 0) 246 |
Rhowch braw arna' i. |
|
(Haman) Wrth y Duwiau, Harbona. |
|
|
|
(Haman) Wrth y Duw sy'n rheoli angau. |
(1, 0) 249 |
Wel, na. |
(1, 0) 250 |
'Dydw'i ddim yn deall. |
|
(Haman) Dyna yw gwleidyddiaeth, Harbona, dyn yn ysu am fod yn Dduw. |
|
|
|
(Haman) Heddiw mae hanes Israel yn cau, trwy benderfyniad a gorchymyn un dyn, fi, Haman yr Agagiad, yr artist mewn gwleidyddiaeth. |
(1, 0) 268 |
Ie, ias go iawn. |
(1, 0) 269 |
Mi fedra'i ddeall. |
(1, 0) 270 |
Ac eto i gyd, y mae'r olwg ar Mordecai ar risiau'r palas, a sach am ei ganol, yn eich cynhyrfu chi. |
|
(Haman) 'Dydw i ddim wedi drysu. |
|
|
|
(Haman) Nid fy mod i wedi cyrraedd. |
(1, 0) 274 |
Mae Mordecai wedi mynd yn dipyn o hunllef arnoch chi, syr? |
|
(Haman) Mi dd'wedais, 'rydw i'n gweld Samuel yn ei lygaid o. |
|
|
|
(Haman) Mi dd'wedais, 'rydw i'n gweld Samuel yn ei lygaid o. |
(1, 0) 276 |
Mae eto dipyn o amser cyn diwrnod y lladd mawr? |
|
(Haman) Y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis. |
|
|
|
(Haman) Y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis. |
(1, 0) 278 |
Gymerwch chi gyngor gan ŵr ifanc? |
|
(Haman) Mi wrandawaf yn astud a phwyso. |
|
|
|
(Haman) Mi wrandawaf yn astud a phwyso. |
(1, 0) 280 |
'Does dim y mae'r Brenin yn debyg o'i wrthod i chi ynglŷn â'r Iddewon. |
|
(Haman) Hyd y galla' i farnu, dim oll. |
|
|
|
(Haman) Hyd y galla' i farnu, dim oll. |
(1, 0) 282 |
Pa angen aros mor hir mewn mater o frys? |
|
(Haman) Cyn crogi'r Iddewon? |
|
|
|
(Haman) Cyn crogi'r Iddewon? |
(1, 0) 284 |
Nage. |
(1, 0) 285 |
'Rydw i'n deall hynny. |
(1, 0) 286 |
Mater o drefniadaeth... |
(1, 0) 287 |
Ond crogi un arweinydd? |
(1, 0) 288 |
Crogi'ch gelyn arbennig, ysbïwr Bigthana a Theres? |
|
(Haman) Crogi Mordecai? |
|
|
|
(Haman) Crogi Mordecai? |
(1, 0) 290 |
Mi ellid, 'wyddoch chi, ei grogi o heddiw. |
|
(Haman) Sut mae perswadio'r Brenin? |
|
|
|
(Haman) Mae o'n rhoi cryn bris ar gyfraith, ond mewn achosion go eithriadol. |
(1, 0) 293 |
Dangoswch y perigl o oedi gormod, perigl rhoi amser i drefnu gwrthryfel. |
|
(Haman) Harbona, mae gen'ti 'fennydd gwleidydd. |
|
|
|
(Haman) Harbona, mae gen'ti 'fennydd gwleidydd. |
(1, 0) 295 |
Ewch adre rwan a chael seiri i godi'r crocbren dan ffenest eich tŷ. |
|
(Haman) Wedyn at y Brenin i'w berswadio am y perigl i'w orsedd. |
|
|
|
(Haman) Wedyn at y Brenin i'w berswadio am y perigl i'w orsedd. |
(1, 0) 297 |
Mi gysgwch yn dawel heno a Mordecai'n troi ar y rhaff nepell o droed eich gwely. |
|
(Haman) A'r brain a'r eryrod yn pigo'r esgyrn.... |
|
|
|
(Haman) Mi af am y seiri rhag blaen. |
(1, 0) 301 |
Wedyn at y Brenin. |
(1, 0) 302 |
Mi fydda' i yno'n gweini. |
|
(Mordecai) Harbona! |
|
|
|
(Mordecai) Harbona! |
(1, 0) 305 |
Wel, wel! |
(1, 0) 306 |
Mordecai! |
(1, 0) 307 |
Dyna ryfedd, amdanat ti 'roedden ni'n sgwrsio. |
|
(Mordecai) 'Synnwn i fawr. |
|
|
|
(Mordecai) 'Synnwn i fawr. |
(1, 0) 309 |
'Glywaist ti? |
(1, 0) 310 |
Mae sôn fod y Brenin yn paratoi codiad arbennig iti heddiw. |
(1, 0) 311 |
Mae'r gweinidog yn selog dros y codiad hefyd. |
|
(Mordecai) Rhaid imi ofyn cymwynas gennyt ti, Harbona. |
|
|
|
(Mordecai) Rhaid imi ofyn cymwynas gennyt ti, Harbona. |
(1, 0) 313 |
Un arall eto! |
(1, 0) 314 |
Rydw i newydd ddarllen y Proclamasiwn. |
|
(Mordecai) Awgrymu 'rwyt ti mai fi yw achos y Proclamasiwn? |
|
|
|
(Mordecai) Ie, mi all hynny fod. |
(1, 0) 317 |
Pa gymwynas arall a fedra' i? |
|
(Mordecai) Dos at y Frenhines Esther, dywed wrthi fy mod i yma wrth y porth ac yn gofyn am gael gair gyda hi. |
|
|
|
(Mordecai) Dos at y Frenhines Esther, dywed wrthi fy mod i yma wrth y porth ac yn gofyn am gael gair gyda hi. |
(1, 0) 319 |
Y Frenhines? |
|
(Mordecai) Ie. |
|
|
|
(Mordecai) Ie. |
(1, 0) 321 |
Wyt ti wedi dy weld dy hun, ddyn? |
(1, 0) 322 |
Y baw ar dy dalcen? |
(1, 0) 323 |
Y sach yna amdanat ti? |
|
(Mordecai) Sachliain a lludw. |
|
|
|
(Mordecai) Rhaid imi gael gair gyda'r Frenhines. |
(1, 0) 327 |
'Fedra i ddim gofyn i'r Frenhines ddod atat ti fel yna. |
|
(Mordecai) Mi fyddi di'n digio'r Frenhines os gwrthodi. |
|
|
|
(Mordecai) Mi fyddi di'n digio'r Frenhines os gwrthodi. |
(1, 0) 329 |
'Does neb heb achos mawr yn gweld y Frenhines. |
|
(Mordecai) Y tro dwaetha, trwy ddeud wrth y Frenhines yr achubais i fywyd y Brenin. |
|
|
|
(Mordecai) Y tro dwaetha, trwy ddeud wrth y Frenhines yr achubais i fywyd y Brenin. |
(1, 0) 331 |
Ydy'r Brenin mewn perigl eto? |
|
(Mordecai) Mae'r Frenhines mewn perigl. |
|
|
|
(Mordecai) Mae'r Frenhines mewn perigl. |
(1, 0) 333 |
Y Frenhines mewn perigl? |
(1, 0) 334 |
'Wyt ti'n siŵr? |
|
(Mordecai) Mor siŵr â phan grogwyd Bigthana a Theres am fwriadu llofruddio'r Brenin. |
|
|
|
(Mordecai) Mor siŵr â phan grogwyd Bigthana a Theres am fwriadu llofruddio'r Brenin. |
(1, 0) 336 |
Y Frenhines mewn perigl! |
|
(Esther) Be' sy'n bod, Harbona? |
|
|
|
(Esther) Be' sy'n bod, Harbona? |
(1, 0) 340 |
Mordecai'r Iddew sy'n gofyn am weld fy Arglwyddes. |
|
(Esther) Mordecai'r Iddew? |
|
|
(1, 0) 343 |
Dyma fo, Arglwyddes. |
|
(Esther) Beth ydy' ystyr hyn? |
|
|
|
(Esther) Harbona, 'rydw i'n dymuno ymddiddan gyda'r Iddew hwn heb i neb ddyfod ar fy nhraws i. |
(1, 0) 348 |
Mi drefna'i, Arglwyddes, na ddaw neb oll ar eich cyfyl chi. |