Y Llyffantod

Cue-sheet for Harmonia

 
(0, 1) 9 Yli!
(Iris) Nic!
 
(Iris) Be ar y ddaear mae o'n 'i wneud wrth yr afon yna!
(0, 1) 12 Yfed!
(Iris) Pam nad ydy o yn 'i waith?
 
(Iris) Pam nad ydy o yn 'i waith?
(0, 1) 14 Dyna gwestiwn.
(0, 1) 15 Mae gen ti ŵr ar y naw, Iris!
(0, 1) 16 Wel, mi ge'st ti ddigon o rybudd.
(0, 1) 17 Taet ti ond wedi gwrando arna i.
(0, 1) 18 Gwaith?
(0, 1) 19 Mae o'n rhy ddiog i gymryd 'i wynt.
(Iris) Ond mam, rhaid bod yna ryw reswm!
 
(Iris) Pam?
(0, 1) 33 Gamblo reit siwr.
(0, 1) 34 Ne hel diod.
(0, 1) 35 Ne gymryd dwy awr i ginio.
(0, 1) 36 Ne glertian yn Theatr Dionysos yn edrach ar sothach.
(Nicias) Fel mater o ffaith, mi ydw i wedi bod yma ers awr yn gwrando ar Gôr y Llyffantod.
 
(Nicias) Peidiwch, da chi, â'i ddiffetha.
(0, 1) 47 Digri dros ben!
(Nicias) Pam na chwerthwch chi 'te, 'rhen grimpan!
 
(Nicias) Mi fydd pob ffatri yn Athen wedi cau gyda hyn, myn cebyst!
(0, 1) 53 Rwyt ti am eistedd yma felly, ar dy ben-ôl.
(Nicias) Mae'n rhaid imi, w'chi.
 
(Nicias) Mae'n rhaid imi, w'chi.
(0, 1) 55 Rhaid?
(0, 1) 56 Pam?
(Nicias) Am reswm anatomegol.
 
(Nicias) Am reswm anatomegol.
(0, 1) 58 Am beth wyt ti'n siarad?
(Nicias) Oherwydd gwneuthuriad fy nghorff mi fydda'n bur anodd imi eistedd ar fy mol.
 
(Nicias) Oherwydd gwneuthuriad fy nghorff mi fydda'n bur anodd imi eistedd ar fy mol.
(0, 1) 60 Clyfar iawn!
(Iris) Ond be wyt ti'n mynd i' wneud?
 
(Iris) Fedri di ddim fforddio egwyddor fel yna a thitha efo pump o blant bach.
(0, 1) 70 Ac un arall ar y ffordd!
(Nicias) Be!
 
(Nicias) Be!
(0, 1) 72 Ia, mi wyddwn y bydda hynna'n rhoi sgytwad iti.
(0, 1) 73 Ble 'rwyt ti'n 'i feddwl rydan ni wedi bod y bore yma?
(0, 1) 74 D'wed wrtho fo, Iris.
(Iris) Gweld y doctor.
 
(Iris) Gweld y doctor.
(0, 1) 76 Ia, dyna iti ble.
(0, 1) 77 A does yna ddim amheuaeth, medda fo.
(0, 1) 78 Dim amheuaeth o gwbwl.
(0, 1) 79 Mae Iris wedi, be-wyt-ti'n-alw... mynd!
(Nicias) Nefoedd!
 
(Iris) Llipryn di-ddim wyt ti!
(0, 1) 86 Hunanol.
(Iris) Di-asgwrn cefn.
 
(Iris) Di-asgwrn cefn.
(0, 1) 88 Pen-yn-y-gwynt.
(Iris) Rabscaliwn!
 
(Iris) Mi fyddan yn crafu yn y tun-sbwriel am grystyn sych cyn bo hir.
(0, 1) 94 Egwyddor wir, a thitha ddim uwch baw-sawdl!
(Nicias) Diolch am funud o heddwch!
 
(Iris) Mae o'n dal i gysgu!
(0, 4) 2338 Fel mochyn mewn twlc.
(Iris) Rhaid ei fod o wedi blino.
 
(Iris) Rhaid ei fod o wedi blino.
(0, 4) 2340 Heb wneud dim?
(Iris) Does yna ddim mwy blinedig na segura.
 
(Iris) Does yna ddim mwy blinedig na segura.
(0, 4) 2342 Hy!
(Iris) Yn erbyn eich ewyllys o'n i'n ei feddwl.
 
(Iris) Yn erbyn eich ewyllys o'n i'n ei feddwl.
(0, 4) 2344 Hy!
(Iris) Nic!
 
(Nicias) O Iris, Iris!
(0, 4) 2353 Mae o'n sâl!
(Nicias) Does gen ti ddim syniad mor falch ydw i!
 
(Nicias) {Ei chofleidio unwaith eto.}
(0, 4) 2358 Mae o'n sâl iawn!
(Iris) Be sy'n bod arnat ti?
 
(Nicias) Rydach chi'n cyfarth digon, ond rywle yn yr hen frest gwynfannus yna, mae yna galon fel pwced!
(0, 4) 2373 Mi ydw i'n gwybod rwan ei fod o'n drysu!
(Iris) Wel, dywed yr hanes hynod yna i gyd.
 
(Nicias) Am be rwyt ti'n siarad?
(0, 4) 2387 Rwyt ti newydd fod yn preblian rhywbeth am siwrna erchrydus yn Hades a... a... be-wyt-ti'n-alw... Tartarws.
(Iris) Ac am Cerberws a Charon ac Afon Stycs.
 
(Iris) Rhaid ei fod o wedi mynd i dy ben di.
(0, 4) 2391 Breuddwyd meddwyn os wyt ti'n gofyn i mi.
(Nicias) Does yna neb yn gofyn ichi, yr hen glep-melin be-ydach-chi'n alw... gecrus!
 
(Nicias) Does yna neb yn gofyn ichi, yr hen glep-melin be-ydach-chi'n alw... gecrus!
(0, 4) 2393 Digon hawdd gweld ei fod o'n dwad ato'i hun, Iris.
(0, 4) 2394 Dwed y newyddion da wrtho fo!
(Iris) O ia, Nic, wyddost ti'r hen wraig drws-nesa-ond-tri?
 
(Iris) Dim ond sŵn yr awel yn yr hesg.
(0, 4) 2409 Paid â dweud dy fod ti'n dechra clywed petha rwan!
(0, 4) 2410 Yr arwydd cynta meddan nhw!
(Iris) Gad imi orffen dweud wrthyt ti.
 
(Iris) A mae hi'n gwybod be ydy be, on'd ydy mam?
(0, 4) 2418 Byth yn methu.
(Iris) Blynyddoedd o brofiad.
 
(Iris) Blynyddoedd o brofiad.
(0, 4) 2420 Neb craffach.
(Iris) Gwell na doctor, meddan nhw, on'de mam?
 
(Iris) Gwell na doctor, meddan nhw, on'de mam?
(0, 4) 2422 Ia, ganwaith.
(0, 4) 2423 Wedi dwad â byddinoedd o fabis i'r hen fyd yma.
(Nicias) Ond sut ar y ddaear fedar hi wybod?
 
(Iris) Dyna ddwedodd hi, on'de mam?
(0, 4) 2428 Yr union eiria.
(0, 4) 2429 Rhaid iti wynebu ffeithia, 'machgen i.
(0, 4) 2430 Os ydy'r hen fydwraig yn dweud, felly y bydd hi.
(Nicias) Efeilliaid!
 
(Iris) Arnat ti roedd y bai — mynd ar streic.
(0, 4) 2434 Rhy hwyr codi pais ar ôl be-wyt-ti'n-alw, fel y bydden nhw'n dweud...
(0, 4) 2435 Dwed y newydd da arall hwnnw wrtho fo, Iris.
(Nicias) Un gwell na'r dwetha, gobeithio!...
 
(Iris) Mae o eisio rhywun i fynd â fo o gwmpas Athen, i weld y llefydd diddorol a ballu.
(0, 4) 2445 A chario'i fag o.
 
(0, 4) 2447 Bag mawr trwm.
(0, 4) 2448 Mi wneith les iti, rhag dy fod yn magu bol wrth ddiogi!
(0, 4) 2449 Chwysu tipyn!