|
|
|
(Harmonia) Yli! |
|
|
|
(Dionysos) Beth ydych chi'n 'i feddwl o'r sefyllfa bresennol? |
(0, 1) 595 |
Pwy ydach chi, deudwch? |
(0, 1) 596 |
Dyn y Llywodraeth? |
|
(Dionysos) Dim o gwbwl — |
|
|
(0, 1) 599 |
Wel edrych yma, machgen i, wn i ddim sut rydach chi'n disgwyl inni fyw. |
(0, 1) 600 |
Ni, yr hen begnos, ar ein mymryn pensiwn. |
(0, 1) 601 |
A'r prisia mor uchel. |
(0, 1) 602 |
Cynilo hyd at yr asgwrn. |
(0, 1) 603 |
Byw ar botas-maip a sucan. |
(0, 1) 604 |
Ac eto'n hanner llwgu. |
|
(Dionysos) Tewch â dweud —! |
|
|
|
(Dionysos) Tewch â dweud —! |
(0, 1) 606 |
Ac yn fferru gyda'r nos heb dewyn o dân. |
(0, 1) 607 |
Dydan ni ddim yn gofyn am gardod, w'sti. |
(0, 1) 608 |
Dim ond ichi gofio bod gynnon ni dipyn bach o hunan-barch o hyd. |
(0, 1) 609 |
Mi ddylen ni gael ein trin fel pobol nid fel sbwriel wedi cael ei daflu ar y domen. |
|
(Dionysos) Cytuno'n llwyr... |
|
|
(0, 1) 613 |
Be? |
|
(Dionysos) Socrates — mae o yn y Ddalfa. |
|
|
(0, 1) 616 |
Wn i ddim be wnawn ni pan ddaw'r gaea', a'r gwynt a'r glaw a'r tarth. |
(0, 1) 617 |
Mi fydd rhen fegin yma'n gwichian fel olwyn ferfa. |
(0, 1) 618 |
Mi ddweda i wrtha ti be hoffwn i, os ca'i fyw ac iach, 'machgen i. |
(0, 1) 619 |
Cael mynd o'r hen fyd yma, pan ddaw f'amser, efo traed cynnes. |
(0, 1) 620 |
Dydy o ddim llawer i ofyn. |
(0, 1) 621 |
Ond yn ormod i' ddisgwyl reit siwr. |
|
|
(0, 1) 623 |
Ia, wel, peswch sych diwedd pob nych, meddan nhw, ynte... |
(0, 1) 624 |
Ia siwr... |
(0, 1) 625 |
Digon gwir... |
(0, 1) 626 |
Digon gwir! |
|
(Dionysos) Eich pardwn, Syr. |
|
|
(0, 2) 973 |
Dyn y Llywodraeth ydy o, deudwch? |
(0, 2) 974 |
Digon hawdd iddo fo dorsythu a swagro o gwmpas fel congrinero! |
(0, 2) 975 |
Mae o'n cael llond 'i fol o fwyd yn amlwg! |
(0, 2) 976 |
Nid run fath â ni, yr hen bobol, sy'n gorfod byw ar wellt ein gwely bron. |
(0, 2) 977 |
Pensiwn wir! |
(0, 2) 978 |
Edrychwch arna i — mi fydda i mor dena â weiran-gaws gyda hyn. |
|
|
(0, 2) 980 |
Mae'r hen wlad yma'n mynd â'i phen iddi. |
(0, 2) 981 |
Dyna'r gwir i chi... âi phen iddi... |