| (Catrin) O wel, dyna hwnna drosodd. | |
| (Catrin) Rhaglen reit dda y pnawn yma, Huw. | |
| (1, 1) 20 | Ia, Catrin, ardderchog. |
| (1, 1) 21 | Mwy o stwff fel yna sydd arna ni eisio, yn lle'r sothach mae nhw'n roi am oria bob nos. |
| (Catrin) Pwy oedd y dyn yna, tybed? | |
| (Catrin) Pwy oedd y dyn yna, tybed? | |
| (1, 1) 23 | Pa ddyn? |
| (Catrin) Wel hwnna oedd yn chware'r biano rwan. | |
| (Catrin) Wel hwnna oedd yn chware'r biano rwan. | |
| (1, 1) 25 | O wn i ddim. |
| (1, 1) 26 | Fforinar reit siwr. |
| (1, 1) 27 | Enw llathan o hyd—Fritz von Powlan ne rwbath. |
| (1, 1) 28 | Fforinars ydy rhain i gyd. |
| (Catrin) Hwyrach y gwelwn ni Gymro ar y blaen iddyn nhw rhyw ddiwrnod, Huw. | |
| (Catrin) Hwyrach y gwelwn ni Gymro ar y blaen iddyn nhw rhyw ddiwrnod, Huw. | |
| (1, 1) 30 | Y? |
| (1, 1) 31 | Dim peryg. |
| (1, 1) 32 | Mae eisio chwysu am flynyddoedd cyn meistroli offeryn. |
| (1, 1) 33 | Dydy o ddim yno' ni'r Cymry. |
| (1, 1) 34 | Mi ydan ni'n ganwrs heb eu hail—ond mae hynny'n ran o'n natur ni. |
| (1, 1) 35 | Dyfal-barhad, Catrin, hwnnw sydd ar ôl. |
| (Catrin) Mi gei di weld peth arall rhyw ddiwrnod. | |
| (Catrin) Os buasa Wili John ni'n cael tipyn o chware teg, mi fuasa'n gwneud ei enw ar y biano i ti! | |
| (1, 1) 38 | Y? |
| (1, 1) 39 | Buasa—efo cyllell boced! |
| (Catrin) O mae'n rhaid i ti gael taflu dŵr oer am ben bob dim. | |
| (Catrin) Mi ydw i'n dweud wrtha ti—mae Wili John yn gerddor o'i grud. | |
| (1, 1) 42 | Mi gadwodd ddigon o swn pan gafodd ei eni, beth bynnag. |
| (Catrin) Dyna chdi eto—mae'r peth bach yn cael ei anwybyddu. | |
| (Catrin) Dy blentyn dy hun, yn byrlymu efo talent, a chditha'n chwerthin am ei ben a... | |
| (1, 1) 46 | Ond Catrin... |
| (Catrin) Ia, ia, mae'n hen bryd i ti gael y gwir. | |
| (Catrin) Mi fuaset ar dy ben yn y wal ers talwm ond fy mod i y tu ôl i ti. | |
| (1, 1) 50 | Dim o gwbwl... |
| (Catrin) O, fedri di ddim gwadu. | |
| (Catrin) Ond, yli, dydw i ddim yn mynd i adael i Wili John bach golli ei gyfle yn y byd yma... | |
| (1, 1) 55 | Ond dydw inna ddim yn... |
| (Catrin) Mi ofala i na fydd o ddim yn mynd ar ôl ei dad. | |
| (Catrin) Mi ofala i na fydd o ddim yn mynd ar ôl ei dad. | |
| (1, 1) 57 | Does dim eisio taflu weips. |
| (Catrin) Mae o'n wir bob gair. | |
| (Catrin) Mae o'n wir bob gair. | |
| (1, 1) 59 | Nac ydy. |
| (Catrin) Ydy. | |
| (Catrin) Ydy. | |
| (1, 1) 61 | Nac ydy medda finna. |
| (Catrin) Ydy medda finna. | |
| (Catrin) Ydy medda finna. | |
| (1, 1) 63 | O be ydy'r iws dadla! |
| (1, 1) 64 | Mi fynni di gael y gair dwytha bob amser. |
| (Catrin) Mi fynna i gael chware teg i Wili John yn saff iti! | |
| (Catrin) Mi fynna i gael chware teg i Wili John yn saff iti! | |
| (1, 1) 67 | Wyt ti'n meddwl nad ydw i'n poeni dim am ei ddyfodol o? |
| (Catrin) Dwyt ti ddim yn edrach yn debyg. | |
| (Catrin) Dwyt ti ddim yn edrach yn debyg. | |
| (1, 1) 69 | Wel mi wyt ti'n gwneud camgymeriad. |
| (1, 1) 70 | Mae'r peth wedi bod ar fy mrêns i ers wythnosa. |
| (1, 1) 71 | Ond wrth gwrs fydda i ddim yn dangos y cwbwl. |
| (Catrin) Mae'n hen bryd i ti ddangos rywfaint o siâp, yn lle gwneud sbort am bob dim. | |
| (Catrin) Mae'n hen bryd i ti ddangos rywfaint o siâp, yn lle gwneud sbort am bob dim. | |
| (1, 1) 73 | Twt lol, tynnu dy goes di roeddwn i. |
| (1, 1) 74 | Dim eisio gwneud y peth yn destun ffrae. |
| (1, 1) 75 | Rhaid iti fod yn amyneddgar yn y busnas yma, Catrin. |
| (Catrin) Amyneddgar wir. | |
| (Catrin) Wyt ti'n meddwl y cei di biano wrth chwibanu? | |
| (1, 1) 78 | Dim o gwbwl. |
| (1, 1) 79 | Ond cofia hyn, chei di ddim offeryn heddiw o dan gan punt—hyd yn oed un ail-law. |
| (1, 1) 80 | Fedri di ddim mynd i'r siop a phrynu un ar lab run fath ag owns o faco. |
| (Catrin) Pam na fuaset ti'n prynu un ers talwm pan oeddan nhw'n rhad? | |
| (Catrin) Pam na fuaset ti'n prynu un ers talwm pan oeddan nhw'n rhad? | |
| (1, 1) 82 | I be? |
| (1, 1) 83 | Doedd yna ddim sôn am Wili John 'r adeg honno. |
| (Catrin) Twt, paid â hel esgus. | |
| (Catrin) Pen yn y gwynt, dyna dy hanes di erioed. | |
| (1, 1) 86 | Aros am funud, da chdi. |
| (1, 1) 87 | Paid â dechra arni eto. |
| (1, 1) 88 | Mi ddweda i wrtha ti be ydy fy nghynllun i. |
| (Catrin) Wel? | |
| (Catrin) Wel? | |
| (1, 1) 90 | Uncle Enoc. |
| (Catrin) Uncle Enoc? | |
| (Catrin) Beth amdano fo? | |
| (1, 1) 93 | Mi wyddost fel y mae o, yn ddigon simsan ers misoedd. |
| (1, 1) 94 | 'Rhen greadur, ar ei ben ei hun yn y tŷ yna. |
| (Catrin) O chdi a dy Uncle Enoc! | |
| (Catrin) Os mai dyna ydy dy gynllun di... | |
| (1, 1) 97 | Aros am funud, paid â bod mor wyllt. |
| (1, 1) 98 | Mae gan yr hen ŵr hosan reit dda yn rhywle. |
| (1, 1) 99 | Tri chant o bunna medda nhw. |
| (Catrin) Twt, 'run peth roeddet ti'n ddweud ddeng mlynedd yn ôl. | |
| (Catrin) Mi fydd yn fyw i fynd yn gant oed mi gei di weld. | |
| (1, 1) 103 | Dim peryg i ti. |
| (1, 1) 104 | Mae o wedi bod yn reit gwla y tro yma. |
| (Catrin) Clyw! | |
| (Catrin) Mae'n bechod na fuasa fo'n cael piano. | |
| (1, 1) 109 | Mi fydd o'n siwr o biano i ti, ond i ni wneud yn saff o arian yr hen Enoc. |
| (Catrin) Weli di byth mo'i arian o Huw, tra bydd dy gefndar Dic Betsi o gwmpas, yr hen gyb dau-wynebog. | |
| (Catrin) Weli di byth mo'i arian o Huw, tra bydd dy gefndar Dic Betsi o gwmpas, yr hen gyb dau-wynebog. | |
| (1, 1) 111 | Rwan, rwan, Catrin, yn ara deg! |
| (Catrin) O mae o'n ddigon gwir. | |
| (Catrin) Mi ydw i'n nabod dy gefndar Dic Betsi'n reit dda erbyn hyn, o ydw! | |
| (1, 1) 116 | Dydan ni i gyd ddim run fath wyddost ti. |
| (Catrin) Nag ydan, diolch i'r tad. | |
| (Catrin) Ond os oes yna ddima i'w chael yn rhywle, mae'r llwynog yna'n saff ohoni. | |
| (1, 1) 119 | Paid â bod mor siwr, dydw i ddim wedi gorffen eto. |
| (Catrin) Wel? | |
| (Catrin) Wel? | |
| (1, 1) 121 | Mae yna fwy nag un ffordd o fynd â Wil i'w wely. |
| (Catrin) Be ydy dy gynllun di felly? | |
| (Catrin) Be ydy dy gynllun di felly? | |
| (1, 1) 123 | Gofyn i'r hen Enoc ddwad i fyw yma. |
| (Catrin) Dwad yma? | |
| (Catrin) Wyt ti'n drysu? | |
| (1, 1) 127 | Gwranda am funud |
| (Catrin) Sôn am slafio wir... | |
| (1, 1) 132 | Dyna chdi eto, yn edrach ar yr ochor ddu. |
| (Catrin) Pa ochor arall sydd yna? | |
| (Catrin) Pa ochor arall sydd yna? | |
| (1, 1) 134 | Wel mi ddaw â'i hosan efo fo Catrin. |
| (Catrin) Waeth i ti roi'r ffidil yn y to ddim Huw. | |
| (Catrin) A pheth arall, rwan mae Wili John eisio piano, nid ymhen blynyddoedd. | |
| (1, 1) 138 | Pwy sy'n dweud y bydd rhaid disgwyl mor hir? |
| (Catrin) Y fi. | |
| (Catrin) Mi fydd yn rhaid ei saethu o. | |
| (1, 1) 142 | Na, dydy o ddim mor iach a'i olwg, Catrin. |
| (1, 1) 144 | Gwranda, mi ges i sgwrs y bore yma efo'r doctor bach newydd yna. |
| (1, 1) 145 | Be ydy ei enw fo hefyd? |
| (Catrin) Doctor James? | |
| (Catrin) Doctor James? | |
| (1, 1) 147 | Ia, dyna fo. |
| (1, 1) 148 | Wel, mae calon rhen Enoc wedi gwanio'n arw. |
| (1, 1) 149 | Mae o'n mynd i lawr yr allt yn gyflym, medda'r Doctor. |
| (Catrin) Mi fyddi di a finna wedi cyrraedd y gwaelod o'i flaen o. | |
| (Catrin) Mi fyddi di a finna wedi cyrraedd y gwaelod o'i flaen o. | |
| (1, 1) 151 | Paid â siarad yn wirion Catrin. |
| (1, 1) 152 | Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n gwybod yn well na Doctor James? |
| (Blodwen) Oeddech chi'n sôn am Doctor James rwan, Nhad? | |
| (Blodwen) Oeddech chi'n sôn am Doctor James rwan, Nhad? | |
| (1, 1) 155 | Oeddwn Blodwen, pam? |
| (Blodwen) Dyna i chi ryfedd, a finna'n siarad efo fo ryw chwarter awr yn ôl! | |
| (Blodwen) Dyna i chi ryfedd, a finna'n siarad efo fo ryw chwarter awr yn ôl! | |
| (1, 1) 157 | O? |
| (Blodwen) Newydd fod yn gweld Uncle Enoc medda fo. | |
| (Blodwen) {Edrych drwy bapur newydd ar y bwrdd.} | |
| (1, 1) 164 | Wel, beth oedd y mater felly? |
| (Blodwen) {Ei meddwl ymhell.} | |
| (Blodwen) Hm? | |
| (1, 1) 167 | Lle mae dy feddwl di dwad? |
| (Blodwen) O dim ond ei fod o eisio barn Doctor James. | |
| (Blodwen) Y "Sailor's Rest". | |
| (1, 1) 171 | "Sailor's Rest"? |
| (1, 1) 172 | Be aflwydd ydy hwnnw? |
| (Blodwen) Rhyw fath o gartre i hen longwrs, rydw i'n deall. | |
| (Blodwen) I ffwrdd yn rhywle, ond mae o'n le ardderchog, medda Doctor James. | |
| (1, 1) 179 | Dydy'r hen ddyn rioed yn meddwl mynd yno debyg? |
| (Blodwen) Ydy, medda fo. | |
| (Blodwen) Wedi blino byw ar ei ben ei hun. | |
| (1, 1) 182 | Wel myn brain i, dyna hi'n ffliwt! |
| (Blodwen) Be sy Nhad? | |
| (Blodwen) Mae'n biti gweld yr hen greadur ei hunan bach yn y tŷ yna. | |
| (1, 1) 189 | Ydy debyg iawn. |
| (1, 1) 190 | Ond mae dy fam yn benderfynol na ddaw o ddim yma. |
| (Catrin) Wel pwy ddynas fuasa'n lecio cael hen ddyn fel yna ar draws y tŷ? | |
| (Blodwen) Ydy Wili John wedi bod efo fo eto? | |
| (1, 1) 196 | O, hidia befo fo am funud. |
| (Blodwen) Ond mi ydw i eisio mynd â fo i'r llyfrgell y pnawn yma, Nhad! | |
| (Blodwen) Ond mi ydw i eisio mynd â fo i'r llyfrgell y pnawn yma, Nhad! | |
| (1, 1) 198 | Wel yli, pa bryd mae'r hen ddyn yn meddwl mynd i'r lle yna, ddwedodd o? |
| (Blodwen) Naddo, ond yn reit fuan 'r 'wyn credu. | |
| (Blodwen) A, dyma fo! | |
| (1, 1) 202 | Wn i ddim be sy gen ti yn erbyn iddo fo ddwad yma Catrin. |
| (Catrin) Mi ydw i wedi dweud wrtha ti'n barod. | |
| (Blodwen) Wel dydy hi ddim yn rhy hwyr i mi ddechra, Mam. | |
| (1, 1) 210 | Beth wyt ti'n feddwl? |
| (Blodwen) O dim ond bod yna ryw ddyn ifanc wedi gofyn imi fynd efo fo i'r pictiwrs nos fory. | |
| (Blodwen) O dim ond bod yna ryw ddyn ifanc wedi gofyn imi fynd efo fo i'r pictiwrs nos fory. | |
| (1, 1) 212 | Y? |
| (1, 1) 213 | Pwy ydy o felly? |
| (Blodwen) {Mynd allan drwy'r drws.} | |
| (Blodwen) Doctor James, Nhad. | |
| (1, 1) 216 | Wel myn brain i! |
| (1, 1) 217 | Glywaist ti hynna Catrin? |
| (1, 1) 218 | Y ledi fach! |
| (Catrin) Mae Doctor James yn ddyn ifanc neis iawn. | |
| (1, 1) 222 | Dyna be ydy'r cerdded o gwmpas yma mewn hanner breuddwyd felly! |
| (1, 1) 223 | Roeddwn i'n meddwl bod yna rywbeth ar dro. |
| (1, 1) 224 | Ple aflwydd welodd hi'r doctor yna tybed? |
| (Catrin) Wel be sy'n fwy naturiol a hithau'n gweithio efo Huws y Chemist? | |
| (Catrin) Wel be sy'n fwy naturiol a hithau'n gweithio efo Huws y Chemist? | |
| (1, 1) 226 | Doctor James wir! |
| (Catrin) O gad lonydd i'r hogan! | |
| (Catrin) Wyt ti ddim yn falch o weld dy deulu'n gwneud mor dda dwad? | |
| (1, 1) 230 | Does arna i ddim eisio ei gweld hi'n gwneud ffŵl ohoni ei hun, Catrin. |
| (Catrin) Twt, mae Blodwen yn ddigon call i ti. | |
| (Catrin) Twt, mae Blodwen yn ddigon call i ti. | |
| (1, 1) 232 | Sgwn i! |
| (1, 1) 233 | Does yna ddim llawer er pan mae hi wedi dechra gweithio. |
| (Catrin) Roeddat ti wedi priodi yn ei hoed hi. | |
| (Catrin) Roeddat ti wedi priodi yn ei hoed hi. | |
| (1, 1) 235 | Ia, ond mae petha'n wahanol heddiw. |
| (1, 1) 236 | Dydy hi ddim wedi cael mantais o'i haddysg eto. |
| (1, 1) 237 | Mae ganddi swydd reit dda—be arall sy arni eisio? |
| (Catrin) Fedri di ddim nadu pobol ifanc syrthio mewn cariad, Huw. | |
| (Catrin) {CATRIN yn codi i gadw'r hosan.} | |
| (1, 1) 240 | Y? |
| (1, 1) 241 | Ia, ond mae eisio dipyn bach o synnwyr cyffredin, myn brain i. |
| (1, 1) 242 | O wel... wyddost ti be, fedra i ddim peidio meddwl am yr hen Enoc. |
| (Catrin) Wel ia, mae'n biti ei weld o'n mynd i ffwrdd i'r hen le yna. | |
| (Catrin) Wel ia, mae'n biti ei weld o'n mynd i ffwrdd i'r hen le yna. | |
| (1, 1) 244 | Paid â dweud dy fod ti wedi newid dy feddwl Catrin! |
| (Catrin) O na. | |
| (Catrin) Ond mae arna i ofn y bydd o'n fwy unig nag erioed yn y fan honno. | |
| (1, 1) 247 | Ia, ymhell o bob man, yng nghanol Saeson reit siwr. |
| (1, 1) 248 | A dyna dri chant o bunna wedi mynd i ebargofiant. |
| (1, 1) 249 | O wel, waeth i ni roi'r ffidil yn y to ddim. |
| (1, 1) 250 | Mae hi'n rhy hwyr rwan. |
| (Catrin) Wn i ddim am hynny. | |
| (Catrin) Wn i ddim am hynny. | |
| (1, 1) 252 | Beth wyt ti'n feddwl? |
| (Catrin) Wel efalla nad ydy hi ddim yn rhy hwyr i ti ei berswadio fo i beidio mynd i ffwrdd. | |
| (Catrin) Wel efalla nad ydy hi ddim yn rhy hwyr i ti ei berswadio fo i beidio mynd i ffwrdd. | |
| (1, 1) 254 | Be—wyt ti am adael iddo fo ddwad yma? |
| (Catrin) Mi gawn weld ymhellach ymlaen. | |
| (Catrin) Mi gawn weld ymhellach ymlaen. | |
| (1, 1) 256 | Wyt ti o ddifri? |
| (Catrin) Ydw, ond cofia di hyn Huw—meddwl am biano i Wili John rydw i. | |
| (Catrin) A mi fydd hi'n aberth hefyd cael yr hen Enoc yma. | |
| (1, 1) 260 | Na, fydd hi ddim mor ddrwg â hynny Catrin. |
| (Catrin) Mi gei di weld peth arall. | |
| (Catrin) Mi gei di weld peth arall. | |
| (1, 1) 262 | Mae o'n hen stamp go lew yn y bôn. |
| (Catrin) Mae o'n hen greadur croes, pigog hefyd, a'i lach ar bob dim yn ei dro, ac yn ddigon ffwndrus yn amal. | |
| (Catrin) Mae o'n hen greadur croes, pigog hefyd, a'i lach ar bob dim yn ei dro, ac yn ddigon ffwndrus yn amal. | |
| (1, 1) 264 | Ddaw henaint ddim ei hunan, Catrin. |
| (1, 1) 265 | Mae yna ryw fai arno ni i gyd. |
| (1, 1) 266 | O wel, rhaid i mi fynd am y gweithdy yna─ |
| (Catrin) Aros am funud, mae Wili John yn dwad. | |
| (Catrin) Gofyn iddo fo be fuasa fo'n lecio gael ar ei ben-blwydd. | |
| (1, 1) 270 | I be? |
| (Catrin) Gofyn di iddo fo. | |
| (Catrin) Mi ddalia i am swllt mai piano fydd ei ateb o. | |
| (1, 1) 275 | Hei, llai o dwrw, boi bach. |
| (1, 1) 276 | Beth wyt ti'n feddwl wyt ti—dyrnwr? |
| (Wili John) Naci, eroplên. | |
| (Wili John) Naci, eroplên. | |
| (1, 1) 278 | Y? |
| (Wili John) Eroplên—jet yn mynd i India. | |
| (Wili John) Be sy Nhad? | |
| (1, 1) 285 | Be sy be? |
| (Catrin) O bobol annwl, sôn am Blodwen mewn breuddwyd! | |
| (Catrin) Wyt ti wedi anghofio'n barod? | |
| (1, 1) 288 | O ia. |
| (1, 1) 289 | Yli, Wili John, pa bryd wyt ti'n cael dy ben blwydd? |
| (Wili John) Mis nesa. | |
| (Wili John) Mis nesa. | |
| (1, 1) 291 | Be fuasa ti'n lecio gael yn bresant? |
| (Wili John) Gwn dŵr. | |
| (Wili John) O buaswn Mam! | |
| (1, 1) 301 | Wel efalla y cei di un os byddi di'n hogyn da. |
| (Wili John) Pa bryd? | |
| (Wili John) Pa bryd? | |
| (1, 1) 303 | Wn i ddim eto nes y ca'i weld dyn y banc. |
| (1, 1) 304 | Ble rwyt ti'n mynd, Catrin? |
| (Catrin) Mae gen i eisio picio i'r pentre am funud i wneud tipyn o negas. | |
| (Catrin) Reit, estyn ei gap o Huw—dyna fo ar y soffa. | |
| (1, 1) 317 | Pa bryd fyddi di'n ôl tybed? |
| (Catrin) Wel fydda i byth yn hir iawn, rwyt ti'n gwybod hynny. | |
| (Catrin) Gofala ei thynnu hi allan os na fydda i wedi dwad yn ôl. | |
| (1, 1) 321 | Reit. |
| (Catrin) Cofia di rwan—chwarter awr—ne mi fydd yma andros o row. | |
| (Catrin) Cofia di rwan—chwarter awr—ne mi fydd yma andros o row. | |
| (1, 1) 323 | O paid â phoeni. |
| (1, 1) 324 | Mi arhosa i yma yn lle mynd i'r gweithdy. |
| (Catrin) Tyrd Wili John. | |
| (Catrin) Tyrd Wili John. | |
| (1, 1) 333 | O chdi sydd yna Dic Betsi? |
| (Dic) Ia, Clocsiwr, fi sydd yma. | |
| (Dic) Ple mae Catrin? | |
| (1, 1) 336 | Newydd fynd allan. |
| (1, 1) 337 | Be sydd arnat ti eisio? |
| (Dic) O dim byd neilltuol. | |
| (Dic) Wyt ti'n brysur? | |
| (1, 1) 341 | Rhy brysur o lawer i ddal pen rheswm efo chdi a dy siort. |
| (Dic) Dim llawer o hwyl arnat ti, Clocsiwr? | |
| (1, 1) 344 | Nag oes, tra byddi di o gwmpas. |
| (Dic) Duwcs annwyl, paid â cholli dy limpyn, rhen frawd. | |
| (Dic) Rhaid i ni drio bod yn gymdogol wyddost ti, ne chawn ni byth drefn ar yr hen fyd yma. | |
| (1, 1) 347 | Hy! |
| (Dic) Be? | |
| (Dic) Be? | |
| (1, 1) 349 | Hy! medda fi. |
| (Dic) O... | |
| (Dic) Dwad wrtha i Clocsiwr, fuo rhen Enoc yma heddiw? | |
| (1, 1) 352 | Naddo. |
| (1, 1) 353 | Pam? |
| (Dic) Wel doedd o ddim yn y tŷ pan oeddwn i'n pasio rwan. | |
| (Dic) Fydd o'n dwad yma yn o amal rwan? | |
| (1, 1) 358 | Bydd, debyg iawn. |
| (1, 1) 359 | Mae o'n gwybod ple i gael croeso. |
| (1, 1) 360 | Mi fydd yma'n amlach cyn bo hir hefyd. |
| (Dic) Beth wyt ti'n feddwl? | |
| (Dic) Beth wyt ti'n feddwl? | |
| (1, 1) 362 | Hidia di befo. |
| (1, 1) 363 | Mi gei di weld yn ddigon buan co! |
| (Dic) Be ydy'r diddordeb sydyn yma yn yr hen ŵr, sgwn i? | |
| (Dic) Be ydy'r diddordeb sydyn yma yn yr hen ŵr, sgwn i? | |
| (1, 1) 365 | Sydyn by-be? |
| (1, 1) 366 | Mae o wedi cael drws agored yma bob amser. |
| (1, 1) 367 | Diddordeb, ddwedaist ti? |
| (1, 1) 368 | Na, cariad brawdol, Dic Betsi. |
| (1, 1) 369 | Ond wrth gwrs wyddost ti ddim be ydy hwnnw. |
| (1, 1) 370 | "Nymbar wan" ydy hi efo chdi bob amser. |
| (Dic) Na, rwyt ti'n gwneud camgymeriad, rhen frawd. | |
| (Dic) Ond fydda i byth yn gwneud sioe o bob cymwynas fel llawer un. | |
| (1, 1) 373 | Wnest ti rioed gymwynas os yr oedd hynny'n golygu gwario dima. |
| (1, 1) 374 | Mi ydw i'n dy nabod ti'n reit dda, co! |
| (Dic) Wyt ti wir! | |
| (Dic) Wyddost ti pam yr ydw i eisio gweld Uncle Enoc? | |
| (1, 1) 378 | Dydy o ddim o bwys gen i... wel, pam? |
| (Dic) I ofyn iddo fo ddwad acw i fyw efo fi. | |
| (Dic) I ofyn iddo fo ddwad acw i fyw efo fi. | |
| (1, 1) 382 | Be! |
| (1, 1) 383 | Wel, myn brain i! |
| (1, 1) 384 | Sut y medri di edrach ar ei ôl os gwni? |
| (Dic) Wel, pam? | |
| (Dic) Digon o fwyd, Clocsiwr. | |
| (1, 1) 387 | Ha! |
| (Dic) A phob chware teg. | |
| (Dic) A phob chware teg. | |
| (1, 1) 389 | Digon o fwyd wir! |
| (1, 1) 390 | Rwyt ti'n byw ar wellt dy wely fel y mae hi. |
| (Dic) Paid â cholli dy limpyn, Clocsiwr. | |
| (Dic) Dim eisio mynd yn gâs, duwcs annwyl! | |
| (1, 1) 394 | Pwy sy'n colli ei limpyn? |
| (Dic) Mae golwg felly arnat ti beth bynnag. | |
| (Dic) Mae golwg felly arnat ti beth bynnag. | |
| (1, 1) 396 | Ond yr hen ŵr yn mynd atat ti—! |
| (Dic) Ie debyg iawn. | |
| (Dic) Rhen greadur, does ganddo fo fawr i fynd ar ei ora. | |
| (1, 1) 400 | Dyna ydy dy obaith di beth bynnag, y llabwst calon-galed. |
| (Dic) Diar annwyl, dim o'r fath beth, Clocsiwr. | |
| (Dic) Diar annwyl, dim o'r fath beth, Clocsiwr. | |
| (1, 1) 402 | O fedri di ddim fy nhwyllo i, Dic Betsi. |
| (1, 1) 403 | Ar ôl arian rhen Enoc rwyt ti. |
| (1, 1) 404 | Ond waeth i ti fynd i chwibanu ddim─yma mae o'n dwad. |
| (Dic) Yma? | |
| (Dic) Yma? | |
| (1, 1) 406 | Ia, yma. |
| (1, 1) 407 | Mae Catrin wedi bod yn pwyso arna i ei gymryd o i mewn ers misoedd. |
| (1, 1) 408 | Yn tosturio ei weld o'n byw yn yr hen dŷ yna ar ei ben ei hun. |
| (Dic) Mae'n anodd gen i goelio hyna. | |
| (Dic) Mae'n anodd gen i goelio hyna. | |
| (1, 1) 410 | Ydy, debyg iawn. |
| (1, 1) 411 | Does yna ddim tosturi yn dy natur di. |
| (Dic) Wyt ti wedi gofyn iddo fo? | |
| (Dic) Wyt ti wedi gofyn iddo fo? | |
| (1, 1) 413 | Naddo eto. |
| (1, 1) 414 | Ond mi fydda i'n mynd ato fo heno am dro— |
| (1, 1) 415 | Aros! |
| (Enoc) Ahoy there, Clocsiwr! | |
| (Enoc) Ahoy there, Clocsiwr! | |
| (1, 1) 423 | Uncle Enoc, chi sydd yna? |
| (Enoc) Ia debyg iawn. | |
| (Enoc) Napoleon? | |
| (1, 1) 427 | Dowch i mewn, rhen ddyn. |
| (Enoc) Paid â phoeni, mi ydw i'n dwad. | |
| (Enoc) Dic Betsi, Dic dau-wynebog, Dic ga'-i-fenthyg, Dic Slei, Dic Sebonllyd, Dic be-ga'-i-am-ddim. | |
| (1, 1) 432 | Ia, go dda myn brain i! |
| (Enoc) Paid ti ag agor dy bîg. | |
| (Enoc) Dwyt titha fawr gwell, Huw Clocsiwr, Huw ben-chwiban, Huw dim-uwch-baw-sowdwl, Huw dim-dima. | |
| (1, 1) 435 | Rwan, rwan, rhen ŵr, peidiwch â chynhyrfu. |
| (1, 1) 436 | Rhoswch, mi helpa i chi efo'r gôt yna. |
| (1, 1) 440 | Dim eisio i ti fusnesu, Dic Betsi. |
| (Enoc) {Yn eu gwthio i ffwrdd, yn wyllt.} | |
| (Enoc) Mi fedra i wneud yn iawn fy hun, diolch yn fawr. | |
| (1, 1) 444 | Rwan dewyrth, ydach chi am eistedd i lawr? |
| (Enoc) Ydw, debyg iawn. | |
| (Enoc) {Eistedd ar y dde.} | |
| (1, 1) 449 | Catrin? |
| (1, 1) 450 | Allan yn y siop... |
| (Enoc) Da iawn. | |
| (Dic) {DIC yn tynnu cadair oddi wrth y bwrdd ac yn eistedd arni.} | |
| (1, 1) 459 | Wel sut mae'r iechyd erbyn hyn, rhen ŵr? |
| (Enoc) Sobor. | |
| (Enoc) Sobor. | |
| (1, 1) 461 | Tewch â dweud! |
| (1, 1) 462 | Mae'n ddrwg gen i glywed. |
| (Enoc) Paid â dweud celwydd. | |
| (Enoc) Does yna ddim lliw na blas ar gwsberis na riwbob na rwdins na letis na dim yn ddiweddar yma. | |
| (1, 1) 471 | 'Rydach chi'n iawn, dewyrth, myn brain i. |
| (Enoc) Be arall sydd i'w ddisgwyl a phobol yn chware efo'r atoms felldith yna? | |
| (Enoc) Mae o'n groes i natur. | |
| (1, 1) 477 | Siwr o fod... |
| (Enoc) A dyna'r bara rydan ni'n fwyta heddiw. | |
| (Enoc) A dydy hyn yn ddim ond dechra—mi fydd ein bwyd ni i gyd wedi ei wenwyno cyn bo hir. | |
| (1, 1) 481 | Ydach chi'n cael dipyn o gig, rhen ddyn? |
| (Enoc) Ydw—cig ceffyl. | |
| (Enoc) Dim rhyfedd mod i ac eraill yn colli iechyd. | |
| (1, 1) 488 | Dydy o ddim yn lles i chi aros yn yr hen dŷ yna chwaith, dewyrth. |
| (Enoc) Nag ydy, mi wn i hynny. | |
| (Enoc) Yn ddigon pell oddi wrth ladron fel chi'ch dau. | |
| (1, 1) 496 | Dim o gwbwl, dewyrth, cyn belled ag yr ydw i yn y cwestiwn beth bynnag. |
| (1, 1) 497 | Does gen i ddim ond eich lles chi mewn golwg. |
| (Enoc) Dim ond f'arian i wyt ti'n feddwl, Clocsiwr. | |
| (Enoc) Dim ond f'arian i wyt ti'n feddwl, Clocsiwr. | |
| (1, 1) 499 | Choelia i fawr. |
| (1, 1) 500 | A finna'n mynd i ofyn i chi ddwad i fyw yma efo ni! |