| (Mari) Hei! | |
| (Mari) Ble diflannaist ti ar ôl cinio? | |
| (1, 0) 16 | Dim ond lawr i'r sgwâr |
| (Mari) Ac fel pe na bait wedi gweld popeth sydd yno i'w weld gannoedd miloedd o weithiau, rhaid i ti redeg yno bob tro y cei di fy nghefn i o hyd. | |
| (1, 0) 22 | Ble arall y gallaf i fynd? |
| (1, 0) 23 | Wyt ti'n meddwl yr awn i yno petai gen i rywle arall i fynd iddo? |
| (Mari) Beth petai gwragedd y dynion yna sy'n sefyll y rhan orau o'u hoes yno yn penderfynu cael sgwâr iddynt eu hunain i wastraffu'u hamser ynddi? | |
| (1, 0) 27 | O gad hi, Mari! |
| (1, 0) 28 | Gad hi nawr! |
| (1, 0) 30 | 'Chei di ddim gwaith i fi wrth ddefnyddio dy dafod ac edliw hen bethau fel hyn drosodd a throsodd; nid arna i mae'r bai fy mod i allan o waith. |
| (Mari) 'Oes dim cywilydd arnat ti ei weld e wrthi, a thithau'n rhy ddiog i roi hyd yn oed help llaw iddo? | |
| (1, 0) 36 | Ond mae e'n hoffi'r gwaith; petawn i'n mynd allan i'w helpu, fe orffennem cyn te, a wedyn fe fyddai mor ddiflas â chi â chlefyd arno yn eistedd o flaen y tân fan hyn, yn ei disgwyl yn bryd mynd i'r gwely. |
| (Mari) 'Does fawr o berygl yr ei di'n ddiflas wrth weld gwaith yn cael ei orffen. | |
| (Mari) Mae eisiau mynd i orffen y llofft arnaf fi. | |
| (1, 0) 42 | Ond, Mari, 'rwyf eisiau gweld Wat y p'nawn yma. |
| (Mari) Fe fydd yn ddigon clau i ti weld Wat p'nawn fory, a phetait ti heb ei weld e am chwe mis, 'fyddai hynny ddim colled i ti. | |
| (Mari) Ond 'does dim pâr i mi yma─'dydw i ddim yn debyg o lychwino pâr wrth fynd i unman; hyd yn oed petai gen i bâr digon da i fynd. | |
| (1, 0) 46 | A wnei di ddal dy dafod os af fi ynghyd â'r sgidiau yna? |
| (Mari) Na, wna i ddim dal fy nhafod. | |
| (1, 0) 50 | Fe wyddost cystal â minnau nad oes dim gwaith i'w gael yn y lle yma. |
| (1, 0) 51 | Mae yma gannoedd yr un peth â mi─'rydw i'n cael y dôl, ond ydw i? |
| (Mari) Wyt. | |
| (Mari) Ti sy'n ei gael fwyaf─ti a'r cŵn! | |
| (1, 0) 54 | Nawr, Mari. |
| (1, 0) 55 | 'Dwyt ti ddim i fod i ddechrau ar fusnes y cŵn yna eto. |
| (1, 0) 56 | Mae hawl gan ddyn i gael tipyn o bleser yn ei fywyd, ac os ydw i'n ei gael wrth roi ambell swllt ar y cŵn... |
| (1, 0) 57 | Oni enillais i goron yr wythnos cyn y diwetha? |
| (Mari) A faint gollaist ti yr wythnos ddiwetha? | |
| (Mari) A faint gollaist ti yr wythnos ddiwetha? | |
| (1, 0) 59 | Fe gaf rheini'n ôl i gyd nos yfory. |
| (1, 0) 60 | Dyna pam yr wyf am weld Wat. |
| (1, 0) 64 | O, 'rydw i'n mynd 'nôl i'r sgwâr, allan o'r cintach tragwyddol yma... |
| (Mari) Beth ddwedai dy dad pe gwelai ei fab yn cymysgu â'r set sy'n byw ar rasis milgwn a rasis ceffylau─fe, fu'n eistedd yn sêt fawr y Tabernacl am ddeugain mlynedd! | |
| (1, 0) 70 | Beth gwell wyt ti o daflu hynny i'm hwyneb i o hyd? |
| (1, 0) 71 | Petai gwaith yn dod i'r Cwm yma eto, fe wellai pethau ar unwaith... |
| (Mari) Ac fe roddit heibio'r milgwn a mynd 'nôl i'r Tabernacl unwaith eto? | |
| (Mari) Wel, 'rwy'n mynd i'r llofft, 'chaf fi ddim dôl i 'nghadw i fynd nes digwydd y wyrth, ac os wyt ti am sgidiau glân, paid â mynd 'nôl i'r sgwâr cyn eu glanhau. | |
| (1, 0) 84 | Paid â siarad yn uchel. |
| (1, 0) 85 | Mae Mari ar y llofft─yn un o'i hwyliau. |
| (1, 0) 86 | Efallai y byddai'n well i ti fynd; fe ddof i lawr i'r sgwâr cyn gynted ag y gallaf heb i Mari fy ngweld. |
| (Wat) 'Dydw i ddim ond am dy weld di am ddwy funud; rhaid i fi ddal y bus tri i Dreharri. | |
| (Wat) Ble mae Gwilym? | |
| (1, 0) 89 | 'Wn i ddim; mae e'n arfer dod i mewn tua phedwar i gael ei de. |
| (Wat) 'Wyt ti'n meddwl y gallwn i ei weld am bum munud cyn amser y bus? | |
| (Wat) 'Wyt ti'n meddwl y gallwn i ei weld am bum munud cyn amser y bus? | |
| (1, 0) 91 | Mae'n bosib ei fod yn yr offis fach yna sy' gan Hopkins yn y Billiard Hall, ond 'elli di byth a bod yn siŵr ble bydd e. |
| (1, 0) 92 | I beth wyt ti am ei weld e? |
| (Wat) {Yn edrych o'i gwmpas.} | |
| (Wat) Fe'th dalaf yn dda ond i ti sgwaro Gwilym drosof. | |
| (1, 0) 96 | Beth sy'n bod? |
| (Wat) Fe wyddost fy mod i wedi entro'r milgi am y |Silver Cup| yn Nhreharri nos yfory? | |
| (Wat) {Yn eistedd wrth y bwrdd.} | |
| (1, 0) 99 | Gwyddwn. |
| (1, 0) 100 | 'Rown i'n meddwl gofyn i ti a allwn i fentro rhoi swllt arno. |
| (Wat) Swllt! | |
| (Wat) Dyna paham yr wyf am dy help di. | |
| (1, 0) 104 | Beth alla i wneud? |
| (Wat) Mae'r ci yna sydd gan Harri Tycrwn wedi mynd yn gloff. | |
| (1, 0) 111 | Ond 'wnaiff Gwilym ddim o hynny. |
| (Wat) Pam lai? | |
| (Wat) Mae Hopkins yn gwneud hynny'n aml, a Gwilym sy'n edrych ar ôl y cŵn iddo. | |
| (1, 0) 114 | Rhaid i ti ei weld dy hunan. |
| (1, 0) 115 | Efallai y gwnaiff e hyn os gofynni di iddo; {yn cerdded i'r chwith} fentra i ddim... |
| (1, 0) 117 | Ti wyddost dy fod yn torri'r gyfraith? |
| (Wat) Torri'r gyfraith i gythrel! | |
| (Wat) Faint o arian sy' gen ti wrth law? | |
| (1, 0) 121 | Does gen i 'run geiniog nawr─'does gen i ddim digon i gael dybaco heddiw. |
| (1, 0) 122 | Dere â blewyn os oes peth gen ti? |
| (1, 0) 123 | Fentra i ddim gofyn i Mari pan fydd yn ei hwyliau. |
| (1, 0) 125 | Efallai y gallaf gael gafael ar hanner coron erbyn fory. |
| (Wat) Hanner coron! | |
| (Wat) Fe ddylit roi pum punt o leiaf. | |
| (1, 0) 131 | Pum punt! |
| (1, 0) 132 | Ble ar y ddaear hon wyt ti'n feddwl y gallaf ì gael gafael ar bunt, heb sôn am bum punt? |
| (Wat) Dy fusnes di yw hynny. | |
| (Wat) Os na fydd gen ti swm go lew ar fy nghi i cyn hanner dydd fory, 'rwyt ti'n fwy o blydi ffŵl nag a feddyliais ì erioed. | |
| (1, 0) 135 | Ust! |
| (1, 0) 136 | Paid â chodi dy lais! |
| (1, 0) 137 | Fe glyw Mari. |
| (Wat) 'Rwy'n mynd. | |
| (Wat) Dyna dy siâr di o'r fargen. | |
| (1, 0) 141 | Ond beth os na wnaiff e? |
| (Wat) Wrth gwrs y gwnaiff e os gwêl e siawns i wneud arian. | |
| (Wat) 'Roedden nhw'n ddigon da tra oedd digon o waith yn y lle yma, ond faint o fara a chaws a chwrw gest ti allan ohonyn nhw wedi i ti fynd ar y dôl? | |
| (1, 0) 148 | 'Dydw i ddim yn hoffi dy glywed di'n siarad fel yna, Wat. |
| (1, 0) 149 | Wedi'r cwbl... |
| (Wat) Nagwyt, mi wn. | |
| (Mari) Pa sgêm o waith yr hen fachgen sydd gan Wat heddiw? | |
| (1, 0) 193 | 'Wn i ddim. |
| (Mari) 'Ddwedi di ddim, wyt ti'n feddwl! | |
| (Mari) Os ydw i'n nabod rhywbeth o'r dyn yna, y mae'n mynd ar ei ben i drwbwl, ac os gallaf fi help, 'chaiff e ddim mynd â thi a Gwilym gydag e. | |
| (1, 0) 196 | Dim ond dychmygu pethau wyt ti, Mari... |
| (Mari) Rhyw greadur hollol ddi-enaid fel yna─mac e fel tai e wedi cael hanner y lle yma i'w ddwylo─fel cigfran yn byw ar gig marw. | |
| (Mari) Rhyw greadur hollol ddi-enaid fel yna─mac e fel tai e wedi cael hanner y lle yma i'w ddwylo─fel cigfran yn byw ar gig marw. | |
| (1, 0) 198 | 'Dydy e'n gwneud dim... |
| (Mari) Mae e'n gallu dy dwyllo di, a llawer eraill hefyd, fel y myn. | |
| (Mari) Fe a'i sort─a Hopkins hefyd, o ran hynny. | |
| (1, 0) 202 | Paid â dweud dim am Hopkins... |
| (Mari) O, fe wn bod Gwilym yn lwcus i gael job gydag e, a gwaith mor anioddefol o brin. | |
| (Mari) A dim ond Gwilym sy'n dod ag arian i'r tŷ... | |
| (1, 0) 205 | Beth am fy nôl i? |
| (Mari) le, a phensiwn tadcu! | |
| (Mari) 'Dydy e ddim yn iawn i fenyw briod i redeg o amgylch gyda chrwt ifanc. | |
| (1, 0) 211 | 'Rwyt ti'n mynd ormod i'r pictiwrs, Mari─dyna beth sy'n bod arnat ti. |
| (1, 0) 212 | Maen' nhw'n cynhyrfu dy ddychymyg di. |